Penderfyniad ar grant ar gyfer taliadau diolch i gartrefi sy'n noddwyr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin 2022-23 rhifau 50/DLU17CR220335 to 50/DLU17CR220356
Cyhoeddwyd 16 Mawrth 2023
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (“yr Ysgrifennydd Gwladol”) wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan Adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, yn gwneud y penderfyniad canlynol:
Enwi
1. Gellir enwi’r penderfyniad hwn yn grant diolch i noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin Rhifau 50/DLU17CR220335 to 50/DLU17CR220356
Diben y grant
2. Prif ddiben y grant ar gyfer taliadau diolch i gartrefi sy’n noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin yw helpu awdurdodau lleol i wneud taliadau diolch misol yn uniongyrchol i gartrefi sy’n noddi o dan y cynllun am 2 flynedd, neu am hyd at 3 blynedd lle y bo’n berthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad nac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad yn y DU. Mae’r taliadau hyn yn ddewisol ar gyfer y cartref sy’n noddi ac maent yn daladwy o’r dyddiad cyrraedd â lletywr.
3. Mae aelwydydd sy’n noddi yn gymwys i dderbyn £350 y mis (am 12 mis cyntaf gwestai) a £500 y mis (ar ôl 12 mis o arhosiad gwestai yn y DU a hyd at 24 mis).
Mae’r taliadau hyn yn ddewisol i’r cartref sy’n noddi. Mae noddwyr plant dan oed ar eu pen eu hunain yn gymwys i gael taliadau diolch tra bydd y plentyn yn aros gyda nhw am hyd at 3 blynedd. Mae lefel y taliad diolch i noddwyr plant dan oed cymwys ym mlwyddyn 3 yn parhau i gael ei adolygu.
Bydd y taliad diolch uwch (£500 y mis, ar ôl 12 mis a hyd at 24 mis) yn daladwy gan ddechrau o gylch talu Ch1 2023/24.
Cynhelir proses gysoni ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022-23.
Penderfyniad
4. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu pa awdurdodau y telir grant iddynt a swm y grant sydd i’w dalu fel y nodir yn Atodiad A i’r penderfyniad hwn.
5. Telir y grant mewn ôl-daliadau yn seiliedig ar nifer y taliadau dilys a wneir gan awdurdod lleol i noddwyr cymwys sydd wedi bodloni’r gofynion cymeradwyo fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Gwneir taliadau bob chwarter am ddwy flynedd ac am hyd at 3 blynedd lle y bo’n berthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad nac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad yn y DU.
Amodau’r grant
6. Yn unol ag adran 51(1) (b) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y telir y grant yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol yn Atodiad B.
Cydsyniad Trysorlys EF
7. Cyn gwneud y penderfyniad hwn mewn perthynas ag awdurdodau lleol, cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol gydsyniad Trysorlys EF.
Llofnodwyd drwy awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol.
Atodiad A: dyraniadau grant
Fe’i hatodir fel dogfen ar wahân
Atodiad B: Amodau’r grant
Yn unol ag adran 51(1) (b) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y telir y grant yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. Dim ond yn unol â’r amgylchiadau a nodir yng nghanllawiau Cartrefi i Wcráin i gynghorau (linked at Annex C) y gwneir taliadau i noddwyr ac ni ddylid eu rhyddhau nes y bydd:
a. Ar gyfer noddwyr gwesteion sy’n cyrraedd ar gynllun Cartrefi i Wcráin:
i. ymweliad ag eiddo’r cartref sy’n noddi, gan yr awdurdod lleol, wedi’i gwblhau
ii. yr awdurdod lleol wedi cadarnhau bod y llety yn addas, bod y gwestai yn iach ac nad oes unrhyw bryderon difrifol o ran diogelu na llesiant.
b. Ar gyfer noddwyr plant a phobl ifanc dan oed sy’n cyrraedd ar gynllun Cartrefi i Wcráin nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad ac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad:
i. yr holl wiriadau diogelwch ac archwiliadau o’r llety wedi’u cwblhau gan gynnwys yr asesiad o addasrwydd noddwr a arweinir gan y cyngor a nes y bydd y cyngor wedi cadarnhau bod y trefniant yn addas yn seiliedig ar y ffactorau a nodir yn y canllawiau
ii. y cyngor wedi cwblhau’r ymweliad ar ôl cyrraedd cyntaf, yn unol â’r gofynion a nodir yn y cynllun a’r canllawiau ar faethu preifat, gan gadarnhau addasrwydd y trefniadau byw a nodi unrhyw anghenion llesiant uniongyrchol.
2. Rhaid i awdurdod sy’n derbyn sicrhau bod taliadau diolch i gartrefi sy’n noddi cymwys sy’n gofyn amdanynt yn cael eu gwneud cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
3. Os bydd swm y grant a delir i awdurdod yn unol ag Atodiad A yn fwy na’r pwysau gwirioneddol sydd ar yr awdurdod (yn seiliedig ar nifer y taliadau dilys i gartrefi sy’n noddi cymwys yn eu hardal), ad-delir y gwahaniaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol. At hynny, os rhoddir gwybod i’r Adran Ffyniant Bro, Cymunedau a Thai fod awdurdod wedi torri amodau’r grant uchod, mae’n cadw’r hawl i adennill arian. Cynhelir proses gysoni ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022-23.
Atodiad C: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i gynghorau
Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol