Sut all y Ganolfan Byd Gwaith helpu cyflogwyr
Crynodeb o'r ystod eang o wasanaethau y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn eu cynnig i helpu cyflogwyr i dyfu a datblygu eu busnes.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’ch helpu chi i dyfu a datblygu’ch busnes.
Mae’r daflen ‘Canolfan Byd Gwaith - gweithio ar y cyd â chyflogwyr’ ar y dudalen hon yn grynodeb o’r gwasanaethau y mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn eu cynnig i gyflogwyr.
Darllenwch fwy o wybodaeth am wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith i gyflogwyr.
Fideo sut gall y Ganolfan Byd Gwaith helpu eich busnes
Sut gall y Ganolfan Byd Gwaith helpu eich busnes
Gwyliwch y fideo hon yn Iaith Arwyddion Prydain.
Transgrifiad: Sut y gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i recriwtio
Ydych chi’n cyflogi?
Yna edrychwch ar y Ganolfan Byd Gwaith.
Mae gennym lawer o ymgeiswyr o safon a gallwn helpu paru ymgeiswyr addas i’ch swydd, boed hynny ar gyfer un swydd wag, neu lawer.
Rydyn ni yma i helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chadw pobl o ansawdd sy’n gallu helpu eich sefydliad i ffynnu.
Gall ein harbenigwyr lleol eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r dalent rydych chi’n chwilio amdani i dyfu eich busnes.
Bydd ein Ymgynghorwyr Cyflogwyr yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion busnes a datblygu cynllun recriwtio wedi’i deilwra i roi cefnogaeth i chi drwy gydol y broses.
Byddwn yn dod o hyd i ymgeiswyr gwych, cynghori ar hyfforddiant cyn cyflogaeth, treialon gwaith, hyfforddiant yn benodol i sector ac unrhyw gyllid lleol sydd ar gael i’ch helpu i lenwi eich swyddi gwag.
Gallwn helpu i sicrhau bod eich cyfleoedd yn hygyrch i’r pwll ehangaf o ymgeiswyr posibl, yn sicrhau nad ydych yn colli allan ar ymgeiswyr anabl dawnus a gallwn ddarparu gwybodaeth ar y Cynllun Hyderus o ran Anabledd, y Pasbort Addasiad Iechyd, a Mynediad at Waith.
Mae cymorth ychwanegol ar gael i gyflogwyr sy’n ymrwymedig i greu cyfleoedd i’r rheini sydd efallai angen mwy o help i sicrhau swyddi.
Mae hyn yn cynnwys cyngor ar ysgrifennu disgrifiadau swydd.hyrwyddo eich swyddi gwag mewn canolfannau gwaith lleol sgrinio ymgeiswyr ymlaen llaw, darparu rhestr fer i chi o’r bobl fwyaf addas, a’ch gwahodd i ddigwyddiadau recriwtio lleol.
Gallwn hefyd gynnig defnydd o’n cyfleusterau Canolfan Gwaith, fel ystafelloedd ar gyfer cyfweliadau neu ystafelloedd TG ar gyfer digwyddiadau hyfforddiant.
Mae cyfleusterau yn amrywio ar draws y wlad, siaradwch â’ch Ymgynghorydd Cyflogwr i drafod beth sydd ar gael.
Gallwch hefyd hysbysebu eich swyddi trwy ein gwasanaeth Dod o Hyd i Swydd ar-lein.Mae miliynau o bobl yn ei weld bob wythnos.
Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ceiswyr gwaith a’r gymuned leol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaethau Cyflogwyr trwy lenwi’r ffurflen ymholiad ar-lein sydd ar gael ar GOV.UK chwiliwch am ‘Cymorth i recriwtwyr’.
Fel arall, gallwch ffonio 0800 169 0178
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 14 Awst 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Rhagfyr 2023 + show all updates
-
Added 'A recruitment, advice and tailored service supporting employers to grow and develop their business' (English and Welsh) and revised Jobcentre Plus – working together with employers (HTML) and Canolfan Byd Gwaith – cydweithio gyda chyflogwyr (HTML and PDF).
-
Replaced the 'Jobcentre Plus – working together with employers' leaflet with 'Jobcentre Plus support for employers' leaflet.
-
Replaced 'Jobcentre Plus − working together with employers' pdf with newer version and updated HTML attachments (English and Welsh).
-
Added new video 'How Jobcentre Plus can help you recruit'.
-
Updated 'How Jobcentre Plus can help employers' information to include details of the Health Adjustment Passport.
-
Published updated 'Jobcentre Plus – working together with employers' leaflet.
-
Changed the opening times of the Employer Services Line to 9am to 5pm.
-
Changed the opening times of the Employer Services Line to Monday to Friday, 9.30am to 3.30pm and added an email address to contact them.
-
Removed information about coronavirus support, and Kickstart.
-
Published a new version with updated links to guidance on how Jobcentre Plus can help employers.
-
Added link to Jobcentre Plus local Twitter service for employers to promote vacancies.
-
Added video about how Jobcentre Plus can help your business.
-
Replaced the 'Jobcentre Plus: your business, our business' leaflet with a new leaflet explaining the range of services Jobcentre Plus offers to help employers to grow and develop their business, 'Jobcentre Plus – working together with employers'.
-
Revised leaflet published, with information about Fit for Work.
-
Revised leaflet published, Wage Incentive information removed because this support stopped on 6 August 2014.
-
Revised 'Your Business Our Business' leaflet published, includes extra information on the Work Programme and Universal Credit.
-
Revised version of 'Your Business Our Business' leaflet published
-
Welsh version of the leaflet published
-
First published.