Gwiriwch eich offer cyn cymryd rhan mewn gwrandawiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo
Diweddarwyd 31 Mai 2022
1. Cyn cychwyn
Byddwch yn cael gwybodaeth gan y llys neu dribiwnlys yn dweud wrthych pryd fydd eich gwrandawiad ac efallai bydd gofyn i chi wirio eich bod yn gallu ymuno â’r gwrandawiad. Gwnewch y gwiriadau cyn gynted â phosib i sicrhau na fydd oedi gyda’ch gwrandawiad. Os oes angen help arnoch i wneud hyn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.
Bydd arnoch angen y pethau canlynol i gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo:
- ystafell breifat gyda mynediad at y we
- gliniadur, cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar gyda chamera a meicroffon
2. Eich mynediad i’r we ac i rwydwaith
Gwiriwch eich porwr gwe
Mae perfformiad y gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn dibynnu ar ddau beth, sef eich dewis o borwr gwe a’r rhaglenni eraill sy’n rhedeg ar eich dyfais.
Wrth ymuno â gwrandawiad fideo, rydym yn argymell eich bod yn cau unrhyw raglenni eraill nad ydych eu hangen. Dylech hefyd gau unrhyw raglenni galwadau fideo neu raglenni fideo gynadledda eraill rydych yn eu defnyddio.
Dylech ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r system weithredu ar eich dyfais.
Dylech ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r porwr gwe ar eich dyfais. Mae pa borwr gallwch chi ei defnyddio yn dibynnu ar eich dyfais.
Os ydych yn defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur, gallwch ddefnyddio:
- Google Chrome
- Mozilla Firefox
- Microsoft Edge
- Apple Safari (ar Macs yn unig)
Os ydych yn defnyddio tabled neu ffôn clyfar Android, gallwch ddefnyddio:
- Google Chrome
- Samsung Internet
Os ydych yn defnyddio iPad neu iPhone, gallwch ddefnyddio Apple Safari yn unig.
Nid yw sain y gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn gweithio gydag Internet Explorer ar unrhyw ddyfais.
Rhaid i’ch dyfais fod â meicroffon a chamera mewnol neu allanol.
Ymuno o rwydwaith corfforaethol
Os ydych yn ymuno â gwrandawiad fideo o rwydwaith TG corfforaethol neu rwydwaith preifat (VPN), efallai bydd rhaid newid polisïau diogelwch a waliau tân eich cwmni. Efallai bydd gofyn i chi siarad â’ch desg gymorth TG a’u cyfeirio at ein rheolau waliau tân.
Efallai bydd angen gwneud newidiadau i’r wal dân er mwyn galluogi’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo i dderbyn ac anfon sain a fideo o’r gwrandawiad i’ch porwr gwe. Os nad ydych yn cwblhau’r profion, gallwch achosi oedi neu atal y gwrandawiad rhag digwydd.
3. Gwiriwch eich offer
1. Dilynwch y ddolen i’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn y neges e-bost a gewch cyn y gwrandawiad. Byddwch yn gweld tudalen hafan sy’n dangos manylion eich gwrandawiad. Cliciwch ar ‘Profi eich offer’.
2. Bydd sgrin yn ymddangos ac yn egluro eich bod am wirio eich offer. Cliciwch ar ‘Parhau’.
3. Ar y sgrin ‘Defnyddiwch eich camera a microffon’, cliciwch ar ‘Rhoi ymlaen’.
4. Bydd blwch yn ymddangos yn gofyn am ganiatâd i droi eich camera a’ch meicroffon ymlaen. Cliciwch ar ‘Allow’.
5. Byddwch yn cael cadarnhad bod eich camera a’ch meicroffon ymlaen. Cliciwch ar ‘Gwylio’r fideo’.
6. Bydd fideo yn agor ac yn dechrau chwarae. O dan y fideo, dylech allu gweld eich hun mewn ffenestr lai. Ar y gwaelod dylech allu gweld bar gwyrdd sy’n symud wrth ymateb i’r lefelau sain.
7. Os gallwch weld eich hun a bod y bar gwyrdd yn symud, mae eich camera a’ch meicroffon yn gweithio. Cliciwch ar ‘Mae fy offer yn gweithio’. Byddwch yn dychwelyd i’r sgrin hafan.
8. Os nad ydych yn gallu gweld eich hun a/neu os nad ydy’r bar gwyrdd yn symud, cliciwch ar ‘Nid yw fy offer yn gweithio’ ac yna cysylltwch â ni am gymorth. Byddwch yn gweld sgrin yn dweud wrthych i wneud hyn.
Dylech nawr fod yn barod i gymryd rhan mewn gwrandawiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo.
Ar ddiwrnod y gwrandawiad byddwch yn gwirio’r offer eto pan fyddwch yn dewis ‘Mewngofnodi i’r gwrandawiad’.
4. Cysylltu â thîm y gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo
Cysylltwch â ni:
- os nad ydych wedi gallu cwblhau’r prawf yn llwyddiannus
- os yw eich sefydliad angen profi unrhyw newidiadau i’r gosodiadau gwe/gosodiadau wal dân
- os ydych angen canllawiau pellach am gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo
Ni ddylech gysylltu â ni am yr achos ei hun. Dylech gysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys yn uniongyrchol neu siarad â’ch cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych chi un.
Cymru a Lloegr
Rhif ffôn: 0300 303 0655
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm (gan eithrio gwyliau cyhoeddus)
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am i 5pm (gan eithrio gwyliau cyhoeddus)
Cyfeiriad e-bost: [email protected]