Gofyn i CThEM drosglwyddo lwfansau Treth Incwm sydd dros ben
Defnyddiwch ffurflen 575(T) i ofyn i Gyllid a Thollau EM drosglwyddo unrhyw Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall heb eu defnyddio i'ch priod neu bartner sifil.
Dogfennau
Manylion
I roi gwybod i CThEM eich bod am drosglwyddo Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall sydd heb eu defnyddio i’ch priod neu bartner sifil, gallwch wneud un o’r canlynol:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
- llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod er mwyn gallu dilyn hynt eich ffurflen.
Er mwyn llenwi’r ffurflen bydd angen y canlynol arnoch:
- dyddiad y briodas neu ffurfio’r bartneriaeth sifil
- cyfeirnod CThEM eich priod neu bartner sifil (fe welwch hwn ar unrhyw lythyr neu ffurflen y mae wedi ei gael o’i swyddfa CThEM)
- rhif Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil (fe welwch hwn ar slip cyflog, P60 neu Ffurflen Dreth eich priod neu bartner sifil)
- manylion eich incwm a didyniadau ar gyfer y flwyddyn dreth hon
- manylion y lwfansau yr ydych am hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth hon
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 3 Hydref 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Gorffennaf 2020 + show all updates
-
We have updated the link to apply online.
-
The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes have been updated for 2020.
-
The English and Welsh versions of the 575(T) form and notes have been updated for 2019 to 2020.
-
The English and Welsh postal versions have been updated to remove paragraph for claiming higher personal allowance when born before 6 April 1948.
-
Apply by post PDF has been updated to reflect changes effective from 2018.
-
This guidance has been updated to reflect changes effective from 6 April 2017.
-
An online forms service is now available.
-
Replaced print and post iform with flat PDF.
-
The Income Tax: notice of transfer of surplus Income Tax allowances (575(T)) has been updated for 2016 to 2017.
-
New interactive form now available
-
Welsh translation to form 575(T) added to the page.
-
First published.