Ffurflen

‘Dupuytren’s Contracture’: canllawiau ar gyfer llenwi'r ffurflen gais (BI100PDW)

Diweddarwyd 22 Mai 2024

Defnyddiwch y nodiadau hyn i’ch helpu i lenwi’r ffurflen gais os ydych yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer ‘Dupuytren’s contracture’ (clefyd rhagnodedig A15).

Cymhwyster

I fod yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) ar gyfer ‘Dupuytren’s contracture’ mae’n rhaid eich bod wedi:

  • bod yn gyflogedig
  • defnyddio offer dirgrynu llaw am o leiaf 10 mlynedd

Nid yw cyfnodau hunangyflogaeth yn cyfrif.

Darllenwch fwy am pwy sy’n gymwys i hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd Dupuytren’s contracture.

Rhan 3: Ynglŷn â’ch gwaith neu’ch cynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth gymeradwywyd a’ch afiechyd

Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch pan fyddwch yn llenwi ‘Rhan 3: Ynglŷn â’ch gwaith neu’ch cynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth a gymeradwywyd a’ch afiechyd.’

Mae angen o leiaf 10 mlynedd o wybodaeth am gyflogaeth arnom ar gyfer eich cais. Efallai yr hoffech feddwl am y cyflogwyr y buoch yn gweithio iddynt fwyaf hir. Gallai hyn gwmpasu’r 10 mlynedd sydd ei angen ac mae angen i chi roi manylion pob cyflogwr.

Pa fath o waith neu hyfforddiant yn eich barn chi a achosodd eich afiechyd?

Pan fyddwch yn ateb y cwestiwn ‘Pa fath o waith neu hyfforddiant y credwch iddo achosi eich afiechyd? rhowch:

  • fanylion cyflogaeth yn ymwneud â 10 mlynedd neu fwy lle gwnaethoch ddefnyddio offer dirgrynu llaw
  • i bob cyflogwr sawl awr y dydd a sawl diwrnod yr wythnos y gwnaethoch eu treulio’n defnyddio offer dirgrynu llaw
  • enwau’r offer a ddefnyddiwyd
  • y swyddi y gwnaethoch eu cyflawni

Os oes angen i chi ddweud wrthym am fwy na 2 gyflogwr

Defnyddiwch tudalen olaf y ffurflen gais BI100PDW i roi’r wybodaeth ychwanegol i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r un faint o fanylion ar gyfer y cyflogwyr hyn ag y gwnaethoch yn Rhan 3.

Cysylltu â’ch cyflogwyr

Efallai y bydd angen i ni gysylltu ag unrhyw un o’r cyflogwyr y dywedwch wrthym amdanynt.