Brîff Gwybodaeth: Adennill Dyledion yn Uniongyrchol
Mae'r brîff gwybodaeth hwn yn egluro sut y bydd CThEM yn adennill dyledion treth neu ddyledion credydau treth yn uniongyrchol o gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu'r nifer fach o bobl sy'n gwrthod talu, a'r dulliau diogelu a fydd yn cael eu defnyddio.
Dogfennau
Manylion
Mae’r dreth yr ydym yn ei chasglu gan unigolion a busnesau yn hanfodol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn talu eu trethi yn llawn ac ar amser. Y llynedd, cafwyd £517.7 biliwn gan tua 45 miliwn o drethdalwyr. Talwyd tua 90% ar amser ond ni thalwyd tua £50 biliwn, a daeth yn ddyled.
Mae pwerau newydd, a elwir yn Adennill Dyledion yn Uniongyrchol (DRD), yn caniatáu i CThEM adennill dyledion treth a dyledion credydau treth gan bobl a busnesau, yn uniongyrchol o’u cyfrifon banc. Bydd yn effeithio ar nifer fach o unigolion a busnesau sy’n gwneud penderfyniad gweithredol i beidio â thalu, neu i ohirio talu, yr arian sydd arnynt, er bod ganddynt ddigon o arian yn eu cyfrifon.
Mae’r dudalen hon yn diweddaru brîff gwybodaeth a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2014.