Gwneud penderfyniadau ar gyfer ymddiriedolwyr elusen
Diweddarwyd 9 Medi 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae gwneud penderfyniadau effeithiol yn swyddogaeth hanfodol o fod yn ymddiriedolwr. Mae’n eich helpu i redeg eich elusen yn dda a rheoli risgiau.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’ch dyletswyddau ymddiriedolwr wrth wneud penderfyniadau. Defnyddiwch y canllaw hwn i’ch helpu i wneud hyn. Rhaid i chi sicrhau:
- eich bod yn medru dangos eich bod wedi dilyn y 7 egwyddor gwneud penderfyniadau a ddatblygwyd gan y llysoedd
- bod pob ymddiriedolwr wedi’i benodi’n briodol. Os nad ydynt, gallai hyn annilysu penderfyniadau a wnaethoch
- eich bod yn dilyn dogfen lywodraethol eich elusen
- eich bod yn gwneud eich penderfyniadau ‘yn gyfunol’ neu ‘ar y cyd’
Dylech gadw cofnod cywir o’ch penderfyniadau a sut y gwnaethoch nhw.
Os oes gan eich elusen aelodaeth, efallai y bydd yna rai penderfyniadau y mae’n rhaid i’ch aelodau eu gwneud, yn unol â’r hyn y mae eich dogfen lywodraethol, neu’r gyfraith, yn ei ddweud.
Ni all y Comisiwn Elusennau redeg na gweithredu elusennau ar ran yr ymddiriedolwyr. Disgwyliwn i chi, fel ymddiriedolwyr, wneud penderfyniadau er budd gorau eich elusen. Os aiff rhywbeth o’i le, efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth i ddangos eich bod wedi gwneud penderfyniadau yn defnyddio’r egwyddorion gwneud penderfyniadau hyn.
Y 7 egwyddor gwneud penderfyniadau
Mae’r llysoedd wedi datblygu 7 egwyddor ar gyfer adolygu penderfyniadau a wnaed gan ymddiriedolwyr.
Rhaid i chi ddefnyddio’r egwyddorion hyn pan fyddwch yn gwneud eich penderfyniadau.
Mae rhai penderfyniadau yn syml a didrafferth; gall eraill fod yn gymhleth neu gael effaith fawr. Dylech ystyried pob egwyddor yn gymesur yn ôl natur y penderfyniad a’i effaith bosibl.
Mae egwyddorion yn gorgyffwrdd ac maent yn gyd-ddibynnol. Er enghraifft, mae egwyddor ‘rheoli gwrthdaro buddiannau’ hefyd yn rhan o egwyddor ‘gweithredu’n ddidwyll’. Ni allwch ond bod yn hyderus eich bod yn bodloni’r egwyddor terfynol os yw’r ‘ymddiriedolwyr yn sicrhau bod eu penderfyniad o fewn yr ystod o benderfyniadau y gallai corff ymddiriedolwyr rhesymol eu gwneud’ os ydych chi wedi dilyn yr egwyddorion eraill.
Dyma’r 7 egwyddor gwneud penderfyniadau:
1. Rhaid i ymddiriedolwyr weithredu o fewn eu pwerau
Dylech ond wneud penderfyniadau sydd o fewn eich pwerau ac sy’n helpu i gyflawni pwrpas eich elusen. Daw eich pwerau o:
- dogfen lywodraethol eich elusen, megis pŵer i fenthyg arian
- y pŵer cyffredinol i wario arian eich elusen i gyflawni ei dibenion
- y gyfraith, megis y pŵer i brynu tir
Mynnwch gyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr bod gennych y pŵer cyfreithiol i wneud penderfyniad.
Rhaid i chi sicrhau eich bod:
- yn dilyn unrhyw reolau ychwanegol sy’n dod gyda’r pŵer – felly, gwiriwch a oes rhai
- defnyddio pwerau at eu diben priodol neu a fwriadwyd yn unig
Ar gyfer rhai penderfyniadau efallai y bydd angen i chi ystyried gofynion cyfreithiol ychwanegol. Er enghraifft, wrth werthu tir elusen.
I gael rhagor o wybodaeth am eich dyletswyddau fel ymddiriedolwr, darllenwch The Essential Trustee.
2. Rhaid i ymddiriedolwyr weithredu’n ddidwyll
Mae ‘yn ddidwyll’ yn golygu bwriadau dilys, gonest. Mae’n golygu ceisio gwneud y peth iawn, dim ond er budd gorau eich elusen. Mae hyn yn cynnwys:
- bod yn agored, yn deg a gonest, gan sicrhau eich bod yn rhannu’r holl fanylion sy’n berthnasol i’r penderfyniad
- dweud os nad ydych yn deall
- gofyn am ragor o wybodaeth neu gyngor os oes ei angen arnoch
- ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael
- dewis yr opsiwn sydd er budd gorau eich elusen
Y gwrthwyneb fyddai anonestrwydd. Gallai hyn gynnwys:
- gweithredu mewn ffordd nad ydych yn credu’n onest sydd er budd gorau eich elusen
- rhoi budd i rywun yn fwriadol mewn ffordd nad yw er budd gorau eich elusen. Er enghraifft, dewis cyflenwr sy’n cynnig gwasanaeth drutach, ond sy’n ffrind
- defnyddio pŵer yn fwriadol at ddiben na chafodd ei fwriadu ar ei gyfer
3. Rhaid i ymddiriedolwyr gael digon o wybodaeth
Mae’n rhaid eich bod yn gallu dangos eich bod, fel ymddiriedolwyr, yn seilio eich penderfyniadau ar ddigon o wybodaeth berthnasol. Gall y math a swm y wybodaeth y disgwylir i chi ei hystyried ddibynnu ar:
- effaith a risgiau’r penderfyniad, gan gynnwys ar adnoddau, buddiolwyr, eiddo neu enw da eich elusen
- y gost neu’r gwerth dan sylw
- ei gymhlethdod
- a yw’r penderfyniad o bosibl yn ddadleuol
- pa mor frys yw
Nid yw’r Comisiwn Elusennau yn disgwyl i’r ymddiriedolwyr weld i’r dyfodol. Mae’n ymwneud â’r hyn y gallech yn rhesymol fod wedi’i wybod neu ei ddarganfod ar yr adeg y gwnaethoch eich penderfyniad. Mae’r Comisiwn a’r llysoedd yn deall nad yw’r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn arbenigwyr cyfreithiol na thechnegol, ac os aiff rhywbeth o’i le neu os bydd penderfyniad yn cael ei herio, byddant yn cymryd hyn i ystyriaeth.
I gael digon o wybodaeth efallai y bydd angen:
- i chi ddarllen y canllawiau perthnasol, er enghraifft unrhyw ganllawiau perthnasol gan y Comisiwn Elusennau
- i chi gymryd cyngor proffesiynol perthnasol
Cael cyngor proffesiynol
Os ydych yn penderfynu cael cyngor proffesiynol:
- gwnewch yn siŵr bod gan eich cynghorydd sgiliau, profiad neu gymwysterau addas
- rhowch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i roi’r cyngor gorau i chi
- cadwch gofnod o sut rydych yn penderfynu pa gynghorydd i’w ddefnyddio, y cyngor a ddarparwyd a sut y gwnaethoch weithredu arno
Pan fyddwch yn cymryd cyngor, chi sy’n parhau i fod yn gyfrifol am y penderfyniad a wnaethoch, ond os ydych wedi ystyried a gweithredu ar gyngor priodol, mae hyn yn debygol o’ch diogelu.
Efallai y byddwch yn penderfynu peidio â dilyn cyngor proffesiynol a roddir i chi, neu beidio â chael cyngor pan ellir ei ddisgwyl. Os felly, cofnodwch pam fod hyn er budd gorau eich elusen.
Asesu’r risg
Dylech feddwl am unrhyw risgiau sydd ynghlwm wrth eich penderfyniad. Nid ydym yn disgwyl i chi osgoi pob risg. Nid yw gwneud penderfyniadau da yn osgoi nac yn dileu risgiau, ond mae’n eich helpu i’w hadnabod a’u rheoli’n effeithiol.
Am ragor o wybodaeth gweler Charities and risk management (CC26).
Siarad â rhanddeiliaid
Fel arfer dylech ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau pwysig, yn enwedig pan fydd y canlyniad yn effeithio’n sylweddol arnynt. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, buddiolwyr eich elusen. Gwnewch yn siŵr bod y bobl rydych yn ymgynghori â nhw yn gwybod mai’r ymddiriedolwyr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
O’i gynnal yn dda, gall ymgynghoriad:
- eich helpu i ddeall safbwyntiau gwahanol
- eich helpu i asesu effaith y penderfyniad arfaethedig
- dangos eich bod yn agored ac yn dryloyw
O bryd i’w gilydd mae’n ofynnol i chi ymgynghori ynghylch eich penderfyniad, er enghraifft ar gyfer rhai gwarediadau tir.
Bydd angen i chi ystyried sut i ddefnyddio ymatebion i’r ymgynghoriad i’ch helpu i wneud eich penderfyniad. Efallai y bydd angen i chi ddeall y rhesymau y tu ôl iddynt. Er enghraifft, a oedd pobl yn deall y cynigion neu’r rhesymau drostynt. Gall fod yn briodol hefyd i roi mwy o bwys ar rai ymatebion nag eraill. Er enghraifft, efallai eich bod yn meddwl bod adborth gan fuddiolwyr yn fwy pwysig nag adborth gan y cyhoedd ehangach.
Mae’r penderfyniad terfynol i chi, fel ymddiriedolwyr, i’w wneud yn unol â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwyr. Seiliwch eich penderfyniad terfynol ar yr holl wybodaeth rydych wedi’i chasglu.
4. Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried yr holl ffactorau perthnasol
Rhaid i chi ystyried yr holl ffactorau perthnasol wrth wneud penderfyniad. Bydd yr hyn sy’n ffactorau perthnasol yn dibynnu ar natur ac effaith y penderfyniad. Gallent gynnwys:
- pam mae angen i chi wneud y penderfyniad
- arwyddocâd y penderfyniad
- dibenion eich elusen
- yr opsiynau sydd ar gael
- costau, risgiau, a buddion yr holl opsiynau, gan gynnwys os byddwch yn penderfynu peidio â gwneud unrhyw beth
- effaith yr holl opsiynau ar fuddiolwyr a rhanddeiliaid eraill
- yr effaith tymor byr a hirdymor ar eich elusen
- a yw’r math o benderfyniad rydych yn ei wneud yn golygu bod yn rhaid i chi roi sylw i ganllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau
- effaith yr holl opsiynau ar enw da’r elusen
- a oes gan yr elusen yr arian i gyflawni’r penderfyniad a’i gwireddu
- pa wybodaeth neu gyngor arall y gallai fod ei angen arnoch, er enghraifft cyngor proffesiynol
- unrhyw ganlyniadau os byddwch yn newid eich meddwl, er enghraifft costau neu gosbau
5. Rhaid i ymddiriedolwyr nodi a diystyru ffactorau amherthnasol
Gall p’un a yw ffactor yn amherthnasol amrywio, yn dibynnu ar:
- y penderfyniad rydych yn ei wneud
- effaith y penderfyniad
- dibenion eich elusen
Mae ffactorau amherthnasol yn cynnwys teimladau neu ragfarnau personol. Rhaid iddynt beidio â dylanwadu ar eich penderfyniad.
Nid yw asesu a yw ffactor yn amherthnasol yn hawdd nac yn glir bob amser. Rhaid i chi benderfynu a yw ffactor yn berthnasol ai peidio.
Enghraifft o ffactor amherthnasol
Mae ymddiriedolwyr yn dewis cyflenwr. Rhaid iddynt bwyso a mesur yn wrthrychol y gwahanol opsiynau a phenderfynu pa un sy’n cynrychioli’r fargen orau ar gyfer eu helusen. Rhaid iddynt ddiystyru unrhyw effaith y gallai eu penderfyniad ei chael ar fusnes ffrind agos neu berthynas.
Enghraifft o ffactor sy’n ymddangos yn amherthnasol ond a all fod yn berthnasol
Mae ymddiriedolwyr yn bwriadu gwerthu tir yr elusen i ddatblygwr. Mae pobl leol yn cwyno i’r elusen ar seiliau amgylcheddol. Nid yw diben yr elusen yn ymwneud â’r amgylchedd, felly mae’n ymddangos bod y cwynion hyn yn ffactor amherthnasol. Fodd bynnag, gallai’r cwynion effeithio ar enw da’r elusen a allai effeithio ar y cymorth y mae’n ei dderbyn yn lleol, felly gallai fod yn ffactor perthnasol. Rhaid i’r ymddiriedolwyr benderfynu a yw’r cwynion yn ffactor perthnasol neu amherthnasol wrth wneud eu penderfyniad.
6. Rhaid i ymddiriedolwyr reoli gwrthdaro buddiannau
Rhaid i chi beidio â chaniatáu i benderfyniadau yn eich elusen gael eu dylanwadu, neu ymddangos fel petaent yn cael eu dylanwadu gan:
- fuddiannau personol unrhyw ymddiriedolwr neu
- fuddiannau pobl neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolwyr
Rhaid i chi nodi a rheoli gwrthdaro buddiannau yn briodol. Os na allwch reoli gwrthdaro buddiannau, efallai na fyddwch yn gallu bwrw ymlaen â’r penderfyniad. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwch yn gallu bwrw ymlaen gydag awdurdod gan y Comisiwn Elusennau.
Defnyddiwch Rheoli gwrthdaro buddiannau mewn elusen i ddeall pa gamau i’w cymryd.
7. Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod eu penderfyniad o fewn ystod y penderfyniadau y gallai corff rhesymol o ymddiriedolwyr eu gwneud
Rhaid i chi benderfynu pa opsiwn sydd er budd gorau eich elusen. Weithiau gallai mwy nag un opsiwn fod er budd gorau eich elusen.
Rhaid i ymddiriedolwyr ymarfer gofal a sgil rhesymol wrth wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn dibynnu ar natur, effaith ac amgylchiadau penderfyniad.
Dylech nodi a phwyso a mesur yr opsiynau. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu beth sydd er budd gorau eich elusen. Sicrhewch eich bod:
- yn rhoi digon o amser ac ystyriaeth i’ch penderfyniad
- yn meddu ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- heb golli unrhyw beth
- wedi cymryd ac ystyried cyngor proffesiynol arbenigol lle bo angen
- wedi darllen unrhyw ganllawiau perthnasol lle dylech fod wedi gwneud hynny
- yn medru cyfiawnhau unrhyw benderfyniad i beidio â dilyn unrhyw gyngor proffesiynol arbenigol neu ganllawiau perthnasol
- wedi deall ac asesu risgiau eich penderfyniad
- yn medru cyfiawnhau eich penderfyniad a dangos eich bod wedi gweithredu’n rhesymol
Gall sefyllfaoedd newid ac efallai y byddwch yn gwneud penderfyniadau sy’n wahanol i’r rhai a wnaethoch yn y gorffennol. Er enghraifft, oherwydd newid yng nghyllido eich elusen. Sicrhewch eich bod yn medru egluro pam bod newid mewn ymagwedd er budd gorau eich elusen.
Adolygwch yn gyson y penderfyniadau ag effeithiau hirdymor, er enghraifft prosiect sy’n cymryd rhai blynyddoedd i’w gwblhau. Gwnewch yn siŵr bod y penderfyniad yn dal i fod y dewis iawn ar gyfer eich elusen.
Pam y dylech ddefnyddio’r egwyddorion
Bydd dilyn yr egwyddorion hyn o wneud penderfyniad yn eich helpu:
- i weithredu o fewn eich pwerau a chyfraith elusen
- i gydymffurfio â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr
- i ddangos eich bod wedi gweithredu’n gywir
- i ddangos eich bod yn rheoli risgiau i’ch elusen
- i’ch diogelu os aiff rhywbeth o’i le, er enghraifft os bydd rhywun yn herio’ch penderfyniadau
- i hawlio’r costau a’r treuliau yn ôl o gronfeydd eich elusen ar gyfer cynnal penderfyniad ar gyfer eich elusen, lle bo’n briodol
Dilynwch ddogfen lywodraethol eich elusen
Bydd ddogfen lywodraethol eich elusen yn egluro sut mae’n rhaid i’ch elusen wneud penderfyniadau. Rhaid i chi ddilyn hyn. Fel arfer mae’n nodi:
- eich opsiynau ar gyfer gwneud penderfyniad, er enghraifft trwy bleidleisio mewn cyfarfod neu drwy gytundeb ysgrifenedig
- nifer neu ganran y bobl sydd â hawl i fynychu’r cyfarfod y mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol i wneud penderfyniadau dilys – gelwir hyn y cworwm
- faint o bleidleisiau sydd eu hangen i gytuno ar benderfyniad
Fel arfer, bydd eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi wneud penderfyniadau mewn cyfarfodydd. Ond weithiau gall ddweud y gallwch wneud penderfyniadau mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft:
1: Efallai y bydd yn dweud y gallwch chi wneud penderfyniad ysgrifenedig neu drwy e-bost. Gall fod adegau pan fydd manteision ymarferol i hyn, ond gall fod risgiau. Gall fod yn anodd i bawb:
- gymryd rhan lawn yn y drafodaeth
- ddeall pob agwedd ar y mater a’r wybodaeth y mae angen iddynt ei hystyried
2: Efallai y bydd gennych y pŵer i awdurdodi’r Gadair i wneud penderfyniadau brys rhwng cyfarfodydd. Gellir galw’r rhain yn ‘weithredodd y Gadair’. Dylai ymddiriedolwyr gytuno ar bolisi ysgrifenedig clir ar ba fathau o benderfyniadau y gall eich Cadair eu gwneud. Dylai nodi:
- pryd y gall y Gadair ddefnyddio’r pŵer hwn
- beth ddylai’r Gadair ei wneud wrth ddefnyddio’r pŵer hwn
- bod yn rhaid i’r Gadair ddweud wrth yr ymddiriedolwyr pan yn defnyddio’r pŵer hwn
Dylai ymddiriedolwyr adolygu a chadarnhau penderfyniadau gan y Gadair yn eu cyfarfod nesaf.
Rôl yr aelodau
Mae gan lawer o elusennau, gan gynnwys CIOs, cwmnïau elusennol a chymdeithasau anghorfforedig, aelodau.
Deallwch pryd mae angen i chi gynnwys eich aelodau mewn penderfyniadau a phryd y medrant ofyn am gymryd rhan. Gwiriwch eich dogfen lywodraethol ac unrhyw bwerau statudol ychwanegol rydych yn eu defnyddio a gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â nhw.
Ni all aelodau eich rhwymo i wneud rhywbeth sydd:
- heb ei ganiatáu gan ddogfen lywodraethol eich elusen
- yn torri eich dyletswyddau
Mae’r holl ymddiriedolwyr yn gyfrifol ar y cyd
Fel grŵp o ymddiriedolwyr, mae gennych ddyletswydd i wneud penderfyniadau ‘yn gyfunol’ neu ‘ar y cyd’.
Weithiau ni fydd ymddiriedolwyr yn medru mynychu pob cyfarfod neu gymryd rhan ym mhob penderfyniad. Er enghraifft, os oes gennych wrthdaro buddiannau ni fyddwch fel arfer yn gallu cymryd rhan yn y penderfyniad hwnnw.
Fodd bynnag, rydych yn gyfrifol ar y cyd am benderfyniadau a wnaed hyd yn oed os nad ydych:
- yn mynychu’r cyfarfod
- yn cymryd rhan yn y penderfyniad
- yn pleidleisio ar gyfer y penderfyniad
Pan na fydd ymddiriedolwyr yn medru cytuno
Ni fydd pob ymddiriedolwr yn cytuno â phob penderfyniad.
Dylai ymddiriedolwyr weithredu barn annibynnol. Dylech deimlo eich bod yn gallu mynegi eich barn, codi pryderon a herio.
Mae dadl a her adeiladol yn arwyddion o lywodraethu iach. Dylai’ch elusen dynnu ar holl brofiadau ei hymddiriedolwyr. Dylech anghytuno os ydych chi’n credu nad yw penderfyniad er budd gorau eich elusen.
Rhaid i’ch man cychwyn fel ymddiriedolwr fod er budd gorau eich elusen; ni all fod yn gymhellion neu’n gredoau personol. Os nad ydych yn dechrau gyda budd gorau eich elusen, nid ydych yn cydymffurfio â’ch dyletswyddau ymddiriedolwr. Unwaith eich bod wedi gwneud penderfyniad, dylai’r holl ymddiriedolwyr ei ddilyn, hyd yn oes os nad yw pob un ohonynt yn cytuno.
Byddwch yn ofalus i osgoi anghydfodau ynghylch penderfyniadau. Gall y rhain fod yn wirioneddol niweidiol i’ch elusen. Os ydych yn anghytuno’n gryf â phenderfyniad, gofynnwch i hyn gael ei gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod.
Weithiau mae’n bosibl y byddwch yn anghytuno mor gryf â fel nad oes gennych chi ddewis ond ymddiswyddo.
Darllenwch eich canllaw Anghytundebau ac anghydfodau o fewn elusennau.
Cofnodwch eich penderfyniadau yn glir
Cadwch gofnod cywir o’ch penderfyniadau. Fel arfer, gwneir hyn trwy gadw cofnodion ysgrifenedig o’ch cyfarfodydd. Ond dylech gofnodi penderfyniadau hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu gwneud mewn cyfarfod.
Dylai’r cofnodion fod yn ddigon manwl i ganiatáu i rywun ddeall y materion a’r rhesymau dros y penderfyniad.
Cynhwyswch fwy o fanylion lle mae ’na benderfyniad arwyddocaol. Dylai fod yn gymesur â natur, arwyddocâd ac effaith y penderfyniad. Atodwch gopïau o unrhyw adroddiadau neu ddogfennau eraill sy’n cael eu crybwyll yn y cofnodion.
Mae cofnodi penderfyniadau yn y ffordd hon:
- yn sicrhau sicrwydd ynghylch beth yw’r penderfyniad, a all helpu i ddatrys atgofion gwahanol
- yn lleihau’r tebygrwydd y gallai’r penderfyniad gael ei herio’n llwyddiannus
- yn dangos eich bod wedi gweithredu’n briodol ac wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau
Darllenwch ganllaw ar yr hyn y dylai cofnodion ei gynnwys a pha gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw.
Dirprwyo gwneud penderfyniad
Mae gan lawer o elusennau’r pŵer i ddirprwyo gwneud penderfyniadau. Gall hyn fod i staff, is-bwyllgorau neu ymddiriedolwyr unigol.
Os ydych yn dirprwyo gwneud penderfyniadau, rydych chi fel bwrdd yr ymddiriedolwyr yn parhau i fod yn gyfrifol ac yn atebol am bob penderfyniad. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi:
- cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp neu’r person sydd â phŵer dirprwyedig. Dylai’r rhain nodi pa fathau o benderfyniadau y medrant eu gwneud a phryd y mae angen iddynt adrodd i’r ymddiriedolwyr
- gweithdrefnau adrodd clir a chadarn a llinellau atebolrwydd yn eu lle
Fel arfer ni ddylech ddirprwyo penderfyniadau risg uchel neu newydd
Er enghraifft, gallwch ddirprwyo penderfyniadau i is-bwyllgor cyllid. Maent yn cymryd yr awenau ar faterion ariannol gan gynnwys gwneud penderfyniadau yn unol â’r cylch gorchwyl a ddarperir ar eu cyfer. Nid ydynt yn dod yn llwyr gyfrifol am y penderfyniadau hyn na chyllid yr elusen. Mae’r holl ymddiriedolwyr yn cadw cyfrifoldeb am gyllid eich elusen, megis adolygu a chymeradwyo’r cyfrifon blynyddol.
Pan fydd y Comisiwn Elusennau yn gysylltiedig
Fel ymddiriedolwyr, rydych yn gyfrifol am reoli’ch elusen a gwneud penderfyniadau ynghylch y modd y dylid ei rhedeg. Ni all y Comisiwn Elusennau eich cynghori ynghylch a yw penderfyniad yn gywir neu’n anghywir.
Nid yw rhai penderfyniadau yn gweithio allan fel y bwriadwyd. Rydych chi ond yn gyfrifol am gydymffurfio â’ch dyletswyddau a gweithredu ar yr hyn y gallech fod wedi’i wybod yn rhesymol pan wnaethoch y penderfyniad, hyd yn oed os yw’r penderfyniad yn mynd o’i le. Dilynwch yr egwyddorion gwneud penderfyniad a chadwch gofnod o sut y gwnaethoch chi’r penderfyniad.
Disgwylir i chi wneud eich gorau, gan ystyried eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Mae yna safonau uwch i ymddiriedolwyr proffesiynol neu gyflogedig.
Lle codir pryderon gyda’r Comisiwn, y byddwn yn bwrw ymlaen â hwy, byddwn yn edrych i weld a ddilynodd yr ymddiriedolwyr yr egwyddorion gwneud penderfyniad. O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn edrych ar y penderfyniad terfynol ond bydd gennym ddiddordeb bob amser yn y ffordd y gwnaeth yr ymddiriedolwyr eu penderfyniad.
Darllenwch am sut bydd y Comisiwn Elusennau yn asesu unrhyw bryderon sy’n dod i’n sylw. Gall y Comisiwn agor ymchwiliad statudol os oes pryderon difrifol ynghylch camymddwyn a/neu gamreolaeth.
Os yw eich penderfyniad yn annilys neu’n cael ei wrthdroi, yna mae’n bosibl y bydd eich elusen yn colli arian. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd yr ymddiriedolwyr yn atebol ar y cyd i dalu’r golled. Os yw eich elusen yn gwmni elusennol, rydych hefyd mewn perygl o dorri eich dyletswyddau o dan gyfraith cwmnïau.
Os, oherwydd penderfyniad, rydych chi’n bersonol yn derbyn taliadau neu fuddion wrth yr elusen heb awdurdod, efallai bydd yn rhaid i’r ymddiriedolwyr naill ai:
- adennill y golled oddi wrthych neu
- wneud iawn am y golled ei hunain
Cysylltiad y Comisiwn Elusennau â rhai penderfyniadau
Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, pan fo’r mater yn un cymhleth a/neu risg uchel, gallwch wneud cais i’r Comisiwn am gyngor ffurfiol i weld a yw’r hyn yr hoffech ei wneud yn gyson â’ch pwerau a’ch dyletswyddau. Er enghraifft, os nad ydych yn siŵr a oes gennych y pŵer i gyflawni trafodiad anarferol neu fawr. Gallwch wneud cais am y cyngor hwn o dan adran 110 o’r Ddeddf Elusennau. Os ydych yn dilyn cyngor y Comisiwn yn ddidwyll, ystyrir yn gyfreithiol eich bod wedi gweithredu’n briodol.
Efallai y bydd angen awdurdod y Comisiwn arnoch ar gyfer rhai penderfyniadau. Gwiriwch eich dogfen lywodraethol a darllenwch ein canllawiau perthnasol i ddeall a oes angen awdurdod arnoch.