Adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir 2006 i 2007
Adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir ar gyfer y flwyddyn ariannol 2006 i 2007.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu prif gyflawniadau’r Gofrestrfa Tir yn ystod y flwyddyn ariannol 2006 i 2007, ynghyd â’r risgiau a’r materion a wynebodd.
Mae’n cyflwyno gwybodaeth am:
- lywodraethu
- effeithlonrwydd, data, sicrwydd a gallu
- datblygu a chyflwyno polisi
Yn ogystal, mae’n nodi sut y rheolwyd rhaglenni, prosiectau, cyllid, pobl a gwybodaeth.
Mae’r datganiadau ariannol a nodiadau yn nodi gwariant y Gofrestrfa Tir ar gyfer y 12 mis a’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2007.
Adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a’r Arglwydd Ganghellor gan y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr ar waith y Gofrestrfa Tir am y flwyddyn 2006/7. Adroddiad wedi’i baratoi yn unol ag adran 101 Deddf Cofrestru Tir 2002, a chyfrifon wedi’u paratoi yn unol ag Adran 4(6) o Ddeddf Cronfeydd Masnachu’r Llywodraeth 1973, Cronfa Fasnachu Cofrestrfa Tir EM fel ar 31 Mawrth 2007, ynghyd ag Adroddiad y Rheolwr ac Archwiliwr Cyffredinol. Gorchmynnwyd gan Dŷ’r Cyffredin i’w argraffu ar 18 Gorffennaf 2007.