Adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir 2013 i 2014
Adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013 i 2014.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu prif gyflawniadau’r Gofrestrfa Tir yn ystod y flwyddyn ariannol 2013 i 2014, ynghyd â’r risgiau a’r materion a wynebodd.
Mae’n cyflwyno gwybodaeth am:
- E-wasanaethau busnes: nawr gall cwsmeriaid osgoi’r ystafell bost trwy anfon eu ceisiadau atom yn electronig
- Ystafell Bost Rithwir
- Property Alert
- Canolfan Dinasyddion newydd yn ein Swyddfa Cymru sydd eisoes yn derbyn pob cais gan y cyhoedd
- sut rydym wedi ymdopi â’r llwyth gwaith a grëwyd gan ddyddiad terfyn mis Hydref 2013 ar gyfer cofrestru buddion gor-redol mewn hawliau maenoraidd ac atebolrwydd atgyweirio cangell
- ein Gwasanaeth Cofrestru Dogfen Electronig (e-DRS) blaenllaw sydd wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnwys cael cymeradwyaeth yng Ngwobrau Real IT fel yr ail orau yng nghategori ‘Delivering Business Value’
Mae’r datganiadau ariannol a nodiadau yn nodi gwariant y Gofrestrfa Tir ar gyfer y 12 mis a’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2014.
Cyflwynir yr adroddiad i’r Senedd yn unol ag Adran 101 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Cyflwynir y cyfrifon i’r Senedd yn unol ag Adran 4(6)(a) o Ddeddf Cronfeydd Masnachu’r Llywodraeth 1973 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Masnachu’r Llywodraeth 1990.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Medi 2014 + show all updates
-
Welsh report added.
-
First published.