Cyfarwyddyd ymarfer 40: trosolwg o gyfarwyddiadau cynlluniau Cofrestrfa Tir EF
Diweddarwyd 25 Mehefin 2015
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Atodiad 1: sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF
Mae Atodiad 1 yn disgrifio tarddleoedd a graddfeydd mapiadau’r Arolwg Ordnans a sut y mae hyn yn cysylltu â chynlluniau sy’n cael eu paratoi gan Gofrestrfa Tir EF.
Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:
- Cyflwyniad
- Mapiadau’r Arolwg Ordnans
- Graddfeydd a chywirdeb mapiadau’r Arolwg Ordnans
- Cynrychiolaeth nodwedd ar fapiadau’r Arolwg Ordnans
- Mapiadau’r Arolwg Ordnans sydd ar gael
- Hawlfraint
- Cysylltu â’r Arolwg Ordnans
2. Atodiad 2: cyfarwyddyd ar baratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF
Lluniwyd Atodiad 2 i gynorthwyo wrth baratoi cynlluniau gweithredoedd.
Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:
- Cyflwyniad
- Pam y mae cynlluniau o ansawdd dda yn bwysig
- Cynlluniau ar gyfer mathau penodol o geisiadau neu sefyllfaoedd
- Cynlluniau ar gyfer cofrestriadau cyntaf
- Cynlluniau ar gyfer trosglwyddiadau/prydlesi o ran ystad gofrestredig
- Cynlluniau ar gyfer meintiau tir anarferol
- Defnyddio disgrifiadau geiriol
- Cwblhau’r cynllun teitl yn lle codi ymholiadau
- Canllawiau ar baratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF
- E-gyflwyno cynlluniau
3. Atodiad 3: terfynau
Mae Atodiad 3 yn rhoi braslun ar derfynau gan gynnwys terfynau cyffredinol, perchnogaeth a chynnal a chadw terfynau.
Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:
- Cyflwyniad
- Diffiniad terfyn
- Anawsterau wrth ddangos union leoliad terfynau diriaethol ar gynlluniau
- Dynodi lleoliad y terfyn cyfreithiol
- Terfynau cyffredinol
- Terfynau sefydlog
- Cytundebau terfyn a therfynau penodedig
- Perchnogaeth a/neu gynnal a chadw terfynau
- Deddf Mur Cyd ayb 1996
- Ychwanegiadau a cholledion trwy ddŵr: afonydd a nentydd uwchlaw’r llanw
- Rhagdybiaethau cyfreithiol
4. Atodiad 4: cytundebau terfyn a therfynau penodedig
Mae Atodiad 4 yn disgrifio cytundebau terfyn, terfynau penodedig a’r broses o wneud cais.
Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:
- Cytundebau terfyn
- Sut i gofnodi cytundeb terfyn yn y gofrestr
- Terfynau penodedig
- Sut i wneud cais i ddangos terfyn yn y gofrestr fel un penodedig
- Y cynllun terfyn penodedig (cyffredinol)
- Gofynion cynllun terfyn penodedig
- Defnyddio arwyddion daear parhaol
- Sut y caiff terfyn penodedig ei ddangos yn y gofrestr
- Atodiad 1: rhestr wirio gofynion cynllun terfyn penodedig
- Atodiad 2: enghraifft o derfyn cynllun penodedig yn seiliedig ar fesuriadau
5. Atodiad 5: cynllun teitl
Mae Atodiad 5 yn disgrifio diben cynlluniau teitl, a’r ffordd y cânt eu creu a’u cynnal.
Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:
- Cyflwyniad
- Diben cynllun teitl
- Mathau o gynllun teitl
- Creu cynllun teitl
- Graddfeydd cynllun teitl
- Maint cynllun teitl
- Yr hyn y mae’n rhaid i gynllun teitl ei ddangos ar bob adeg
- Mesuriadau
- Cyfeiriadau lliw
- Gwybodaeth arall ar gynllun teitl
- Diweddaru cynllun teitl
- Arolygon tir
- Atodiad 1: arferion cynllun teitl
6. Atodiad 6: gwasanaethau a chyfarwyddiadau eraill Cofrestrfa Tir EF yn ymwneud â chynlluniau
Mae Atodiad 6 yn disgrifio gwasanaethau eraill yn ymwneud â chynlluniau a ffynonellau eraill o gyfarwyddyd mapio.
Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:
- Chwiliadau o’r map mynegai
- Cynlluniau eglurhaol
- Electronic extent data
- Cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF
7. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.