Guidance

Level of penalty: code of practice (Welsh accessible)

Updated 1 December 2023

Cosbau sifil newydd- ddyfodiaid dirgel

Deddf Mewnfudo a Lloches 1999, Lefel Ddrafft o Gosb: Cod Ymarfer

Cyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag adran 32A(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

Ionawr 2023

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn

[email protected]. ISBN 978-1-5286-3866-1 E02849352 01/23

Cyflwyniad

Sefydlwyd Cynllun Cosbau Sifil Newydd-ddyfodiaid Dirgel (‘y Cynllun’) o dan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 fel y’i diwygiwyd (‘y Ddeddf’).Mae’r Cynllun yn creu dwy gosb.O dan adran 31A o’r Ddeddf, gall yr Ysgrifennydd Gwladol osod cosb ar berson cyfrifol am fethu â sicrhau cerbyd nwyddau.O dan adran 32 o’r Ddeddf, gall yr Ysgrifennydd Gwladol osod cosb ar berson cyfrifol am gario newydd-ddyfodiad dirgel.Diffinnir personau cyfrifol fel perchnogion, llogwyr a gyrwyr (neu yn achos trelars ar wahân, perchnogion, llogwyr a gweithredwyr).

Nodir mesurau i’w cymryd gan bersonau i weithredu system effeithiol ar gyfer sicrhau cerbyd nwyddau ac ar gyfer atal cludo newydd-ddyfodiaid dirgel i’r Deyrnas Unedig yn Rheoliadau Atebolrwydd y Cludwyr 2002 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau’)

Mae amddiffyniad yn erbyn gosod cosbau am fethu â sicrhau cerbyd nwyddau o dan adran 31A o’r Ddeddf wedi’i nodi yn adran 31A(9). Yr amddiffyniad hwn yw bod y person cyfrifol wedi methu â chymryd y camau a bennir mewn Rheoliadau oherwydd eu bod yn gweithredu o dan orfodaeth.

Nodir amddiffyniad yn erbyn gosod cosbau am gario newydd-ddyfodiad dirgel o dan adran 32 o’r Ddeddf yn adran 34. Yr amddiffyniad hwn yw bod y person cyfrifol neu un o’i weithwyr a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am ganiatáu i’r newydd-ddyfodiad dirgel gael ei guddio yn gweithredu o dan orfodaeth.

Fodd bynnag, os nad yw person yn gallu dangos amddiffyniad yn erbyn gosod cosb, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn i’r person hwnnw dalu cosb.

Yn unol ag adran 32A(B1) o’r Ddeddf, wrth osod cosb o dan adran 31A neu wrth ystyried hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 35(4) mewn perthynas â chosb o dan adran 31A, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol roi sylw i god ymarfer sy’n pennu materion sydd i’w hystyried wrth bennu swm y gosb. Cyhoeddir y cod ymarfer hwn yn unol ag adran 32A(A1) o’r Ddeddf. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.

Yn unol ag adran 32A(2) o’r Ddeddf, wrth osod cosb o dan adran 32 neu wrth ystyried hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 35(4) mewn perthynas â chosb o dan adran 32, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol roi sylw i god ymarfer sy’n pennu materion sydd i’w hystyried wrth bennu swm y gosb.Cyhoeddir y cod ymarfer hwn yn unol ag adran 32A(1) o’r Ddeddf.Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.

Mae’r cod ymarfer hwn yn nodi’r materion a bennir uchod ac a ddyroddir yn unol ag adran 32A (A1) ac adran 32A(1) o’r Ddeddf. Bydd y cod ymarfer presennol, ‘Cosb Sifil: Deddf Mewnfudo a Lloches 1999: Lefel Cosb: Cod Ymarfer’ yn berthnasol i ddigwyddiadau a ddarganfuwyd cyn 13 Chwefror 2023.Bydd y cod ymarfer hwn yn berthnasol i ddigwyddiadau a ddarganfuwyd o 13 Chwefror 2023

Rhan un – adran 31a – methu â sicrhau cerbyd nwyddau

Y lefel uchaf o gosb

Uchafswm y gosb am fethu â sicrhau cerbyd nwyddau o dan adran 31A yw £6,000 y person cyfrifol am bob digwyddiad. Y gosb gyfanredol uchaf (cyfanswm y gosb uchaf sy’n daladwy gan bob person cyfrifol atebol gyda’i gilydd fesul digwyddiad adran 31A) yw £12,000.

Man cychwyn ar gyfer ystyried lefel y gosb

Defnyddir y lefel uchaf o gosb fel y man cychwyn wrth bennu atebolrwydd y person cyfrifol, yn amodol ar yr ystyriaethau canlynol sy’n ymwneud ag atebolrwydd blaenorol neu ymwneud â digwyddiadau:

  • Os nad oes gan berson cyfrifol gofnod o atebolrwydd yn y pum mlynedd cyn y digwyddiad dan ystyriaeth, bydd uchafswm y gosb i’w defnyddio fel man cychwyn wrth benderfynu ar lefel ei gosb yn £1,500

  • Os oes person cyfrifol wedi cael un gosb yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y digwyddiad dan ystyriaeth, £3,000 fydd y man cychwyn.

  • Os cyhoeddwyd un gosb neu fwy i berson cyfrifol yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y digwyddiad dan ystyriaeth, y man cychwyn fydd £6,000.

Cymhwyso gostyngiadau i lefel man cychwyn y gosb

Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y materion canlynol wrth benderfynu ar unrhyw ostyngiad sydd i’w gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb:

  • Cymhwysir gostyngiad o 50% i lefel man cychwyn y gosb os yw’r person cyfrifol yn aelod o’r Cynllun Achredu Cosbau Sifil.

  • Bydd gostyngiad o 50% arall yn cael ei gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb os nad y person cyfrifol yw’r gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn ystod taith y cerbyd neu drelar ar wahân i’r Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon nhw weithredu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.

Atebolrwydd ar y cyd

Pan fo cosb yn cael ei gosod ar berson sy’n yrrwr cerbyd nwyddau yn unol â chontract gyda pherchennog neu huriwr y cerbyd (p’un a yw contract cyflogaeth ai peidio), mae’r gyrrwr a’r perchennog neu’r huriwr yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y gosb a osodir ar y gyrrwr (p’un a yw cosb hefyd yn cael ei gosod ar y perchennog neu’r huriwr).

Rhan dau – adran 32 – cario newydd-ddyfodiaid dirgel

Y lefel uchaf o gosb

Y lefel uchaf o gosb am gario newydd-ddyfodiaid dirgel o dan adran 32 yw £10,000 y person cyfrifol fesul newydd-ddyfodiaid dirgel.Y gosb gyfanredol uchaf i bob person cyfrifol fesul newydd-ddyfodiaid dirgel yw £20,000.

Man cychwyn ar gyfer ystyried lefel y gosb

Defnyddir y lefel uchaf o gosb fel y man cychwyn wrth bennu atebolrwydd y person cyfrifol, yn amodol ar yr ystyriaethau canlynol sy’n ymwneud ag atebolrwydd blaenorol neu ymwneud â digwyddiadau:

  • Os nad oes gan berson cyfrifol gofnod o atebolrwydd yn y pum mlynedd cyn y digwyddiad dan ystyriaeth, bydd uchafswm y gosb i’w defnyddio fel man cychwyn wrth benderfynu ar lefel ei gosb yn £6,000.

  • Os oes person cyfrifol wedi cael un gosb yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y digwyddiad dan ystyriaeth, £10,000 fydd y man cychwyn

Cymhwyso gostyngiadau i lefel man cychwyn y gosb

Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y materion canlynol wrth benderfynu ar unrhyw ostyngiad sydd i’w gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb:

  • Rhoddir 50% o ostyngiad i lefel man cychwyn y gosb os yw’r person cyfrifol yn aelod o’r Cynllun Achredu Cosbau Sifil.

  • Bydd gostyngiad pellach o 50% yn cael ei gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb os mai’r person cyfrifol yw’r gyrrwr, neu berson cyfrifol arall a oedd yn bresennol yn ystod taith y cerbyd neu drelar ar wahân i’r Deyrnas Unedig, ac fe wnaethon nhw gydymffurfio â’r Rheoliadau.

  • Bydd gostyngiad o 50% arall yn cael ei gymhwyso i lefel man cychwyn y gosb os nad y person cyfrifol yw’r gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn ystod taith y cerbyd neu drelar ar wahân i’r Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon nhw weithredu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.

Atebolrwydd ar y cyd

Pan fydd cosb yn cael ei gosod ar yrrwr sy’n weithiwr i berchennog neu huriwr y cerbyd, mae’r gweithiwr a’r cyflogwr yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y gosb a osodir ar y gyrrwr (p’un a yw cosb hefyd yn cael ei gosod ar y cyflogwr ai peidio).

Pan fo cosb yn cael ei gosod ar berson sy’n yrrwr cerbyd nwyddau yn unol â chontract gyda pherchennog neu huriwr y cerbyd (p’un a yw contract cyflogaeth ai peidio), mae’r gyrrwr a’r perchennog neu’r llogwr yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y gosb a osodir ar y gyrrwr (p’un a yw cosb hefyd yn cael ei gosod ar y perchennog neu’r huriwr).

Rhan tri - prawf modd

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ceisiadau gan bersonau cyfrifol i ddefnyddio prawf modd i leihau unrhyw lefel o gosb sy’n weddill.

I unigolion, bydd prawf modd yn ystyried incwm unigolion, gan gynnwys unrhyw incwm goramser, am y tri mis cyn y digwyddiad. Wrth benderfynu ar union lefel y gosb, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr unigolyn ynglŷn â’u hamgylchiadau ariannol personol, megis eu halldaliadau.

I gwmnïau sy’n cael cosb, mae’n golygu y bydd prawf modd ar gael ar gyfer mentrau bach i ganolig eu maint (BBaCh). Man cychwyn y gostyngiad fydd y bydd lefel y gosb yn gostwng fel a ganlyn:

Maint busnes Trosiant neu gyfanswm mantolen Cyfrif pennau Man cychwyn ar gyfer gostwng unrhyw lefel o gosb sy’n weddill
Micro Llai na neu’n hafal i € 2 filiwn neu € 2 filiwn Llai na 10 Gostyngiad o 75%
Bach Llai na neu’n hafal i € 10 miliwn neu € 10 miliwn Llai na 50 Gostyngiad o 50%
Canolig Llai na neu’n hafal i € 50 miliwn neu € 43 miliwn Llai na 250 Gostyngiad o 25%

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ystyried unrhyw faterion eraill y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn meddwl eu bod yn berthnasol.

Dylai personau cyfrifol ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i nodi pam eu bod yn credu y dylid defnyddio prawf modd a’r hyn y maen nhw’n credu y dylai lefel y gosb fod. Rhaid darparu dogfennau ategol. Yn achos unigolion, gallai hyn fod ar ffurf slipiau cyflog neu ddatganiadau banc. I gwmnïau, gallai gymryd ffurf mantolenni neu ddatganiadau o ffeithiau wedi’u llofnodi gan gyfarwyddwr.

Rhaid i ddogfennaeth nad yw yn Gymraeg na Saesneg ddod â chyfieithiad ardystiedig i’r Gymraeg neu’r Saesneg. Gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw bwynt hyd at y dyddiad y mae’n rhaid talu’r gosb neu’r cosbau. Ni fydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar ôl y dyddiad hwn ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn yr Ysgrifennydd Gwladol. Er gwaethaf unrhyw beth yn y cod ymarfer hwn, gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu, ar ôl ystyried cais, i beidio â defnyddio prawf modd. Er enghraifft, lle nad oes digon o dystiolaeth yn cael ei gyflwyno ynghylch amgylchiadau ariannol yr unigolyn neu’r cwmni dan sylw neu lle nad yw’r dystiolaeth honno yn cefnogi gwneud unrhyw gais.

Rhan pedwar – enghreifftiau

Adran 31A – Methu â sicrhau cerbyd nwyddau

Senario 1: Digwyddiad cyntaf i yrrwr, ail ddigwyddiad i berchennog, yn cynnwys HGV.Nid oedd y perchennog yn aelod o’r Cynllun Achredu

Cyrhaeddodd gyrrwr HGV Borthladd Calais a chafodd ei ddewis ar gyfer gwiriadau diogelwch gan Llu’r Gororau. Canfuwyd bod y cerbyd yn ansicr gan nad oedd drysau cefn y trelar wedi’u sicrhau gan glo, sêl na dyfais ddiogelwch arall.Felly, nid oedd y gyrrwr wedi cydymffurfio â’r gofynion a osodir yn y Rheoliadau. Dyma oedd achos cyntaf y gyrrwr o atebolrwydd am fethu â sicrhau cerbyd nwyddau.

Roedd y perchennog, fel person cyfrifol, hefyd yn atebol am gosb. Nid oedd y perchennog wedi sicrhau bod gan y cerbyd gloeon neu ddyfeisiau diogelwch eraill. Dyma oedd yr ail achos o’r perchennog yn denu atebolrwydd am fethu â sicrhau cerbyd nwyddau. Nid oedd y perchennog yn aelod o’r Cynllun Achredu Cosbau Sifil Doedd dim ceisiadau am brawf modd.

Mae’r gyrrwr yn derbyn cosb o £1,500, cosb am ddigwyddiad cyntaf, heb ostyngiad yn lefel y gosb.

Mae’r perchennog yn derbyn cosb o £3,000 am ail ddigwyddiad, heb ostyngiad yn lefel y gosb, gyda chyd-atebolrwydd ychwanegol o £1,500 am gosb y gyrrwr.

Senario 2: Digwyddiad cyntaf i weithredwr, sy’n cynnwys trelar ar wahân ar ei ben ei hun.Roedd y gweithredwr yn aelod o’r Cynllun Achredu

Danfonodd gyrrwr sy’n gweithio i weithredwr sy’n aelod o gwmni’r Cynllun Achredu drelar ar wahân ar ei ben ei hun i borthladd Santander. Ar ôl cyrraedd y DU, dewiswyd y trelar ar ei ben ei hun ar gyfer gwiriadau diogelwch gan Llu’r Ffiniau. Canfuwyd bod gan y trelar linyn TIR wedi’i dorri. Felly, ni sicrhawyd yn effeithiol i gydymffurfio â’r gofynion a osodir yn y Rheoliadau.

Rhoddodd y gweithredwr gofnod o wiriadau i Llu’r Ffiniau, a oedd yn dangos bod y cerbyd yn ddiogel ar y pwynt lle pasiodd i reolaeth weithredol awdurdodau’r porthladd yn Santander. Cafodd y cofnod o wiriadau ei gymeradwyo gan awdurdodau’r porthladd i ddangos ei fod yn adlewyrchiad cywir o gyflwr diogel y trelar.

Nid yw’r gyrrwr yn atebol am gosb gan nad yw gyrwyr yn ‘bersonau cyfrifol’ at ddibenion trelars ar wahân.

Mae’r gweithredwr yn derbyn cosb o £0, gan dderbyn gostyngiad o 50% yn eu lefel cosb am eu bod yn aelod o’r Cynllun Achredu, a gostyngiad pellach o 50% ar y swm cosb wreiddiol oherwydd y gallant ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau – sicrhawyd y trelar i bob pwrpas ar yr adeg y gwnaeth adael eu rheolaeth weithredol.

Adran 32 – Cludo newydd-ddyfodiaid dirgel

Senario 1: Canfuwyd wyth newydd-ddyfodiad dirgel mewn cerbyd nwyddau ochr llen.Mae’r perchennog yn aelod o’r Cynllun Achrededig

Cyrhaeddodd cerbyd nwyddau ochr llen Borthladd Portsmouth a chafodd ei ddewis i gael gwiriadau gan Llu’r Gororau.Datgelodd y gwiriadau hyn fod wyth newydd-ddyfodiad dirgel wedi’u cuddio yn y llwyth y tu mewn i’r trelar. Roedd toriad mawr i do’r trelar, ac ni wnaeth y cofnod o wiriadau a gwblhawyd gan y gyrrwr ddatgan bod y to wedi’i wirio cyn i’r daith ddechrau, na chwaith bod y gyrrwr wedi gwirio’r gofod llwyth ar ôl y ddau stop olaf cyn cychwyn i’r Deyrnas Unedig. Felly, nid oedd y gyrrwr wedi cydymffurfio â’r gofynion a osodir yn y Rheoliadau. Doedd gan y gyrrwr ddim atebolrwydd blaenorol i gosb.

Mae’r perchennog, fel person cyfrifol, hefyd yn atebol am gosb.Fodd bynnag, roedd y perchennog wedi sicrhau bod gan y cerbyd gloeon neu ddyfeisiau diogelwch eraill ac roedd hefyd wedi cydymffurfio â holl rannau eraill cymwys y Rheoliadau. Roedd y perchennog hefyd yn aelod o’r Cynllun Achredu.

Mae’r gyrrwr yn derbyn cosb o £48,000 (£6, 000 am bob newydd-ddyfodiad dirgel).

Gofynnodd y gyrrwr am brawf modd, a allai leihau’r lefel hon o gosb ymhellach, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a natur y dystiolaeth y maent yn ei chyflwyno i gefnogi eu cais.

Mae perchennog y cerbyd yn derbyn cosb o £0, gan ei fod wedi’i achredu ac fe gydymffurfiodd yn llawn â’r gofynion a nodir yn y rheoliadau.Serch hynny, maent yn parhau’n atebol ar y cyd ac yn unigol am gosb y gyrrwr Pe na bai perchennog y cerbyd wedi’i achredu, fe fydden nhw wedi derbyn cosb o £24,000 (£3,000 y newydd-ddyfodiad dirgel), yn ogystal â chael eu dal yn atebol ar y cyd ac yn unigol am gosb y gyrrwr.

Senario 2: Un newydd-ddyfodiad dirgel wedi’i ganfod yn locer bagiau coets.Nid oedd y perchennog yn aelod o’r Cynllun Achredu

Cyrhaeddodd coets Borthladd Coquelles a chafodd ei ddewis ar gyfer gwiriadau diogelwch gan Llu’r Ffiniau.Datgelodd y gwiriadau hyn un newydd-ddyfodiad dirgel yn y locer bagiau o dan y goets.

Dangosodd archwiliad pellach fod y clo diogelwch cynhenid ar yr adran fagiau wedi’i dorri.Dywedodd y gyrrwr ei fod wedi’i dorri pan gododd y goets oddi wrth ei gyflogwr, sef perchennog y cerbyd.

Felly, ni sicrhawyd y cerbyd yn effeithiol ac felly nid yw’r gyrrwr na’r perchennog wedi cydymffurfio â Rheoliadau. Doedd gan y gyrrwr ddim atebolrwydd blaenorol, ond roedd gan y perchennog ddau ddigwyddiad blaenorol lle cawsant eu canfod yn atebol o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Doedd dim ceisiadau am brawf modd. Mae’r gyrrwr yn derbyn cosb o £6,000.

Mae perchennog y cerbyd yn derbyn cosb o £10,000, gyda chyd-atebolrwydd ychwanegol o £6,000 am gosb y gyrrwr.

Senario 3: Dau newydd-ddyfodiad dirgel wedi’u canfod yn adran storio gefn cerbyd gwersylla

Cyrhaeddodd cerbyd gwersylla a oedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anfasnachol borthladd Dover a chafodd ei ddewis i gael gwiriadau gan Llu’r Ffiniau. Datgelodd y gwiriadau hyn ddau newydd- ddyfodiad dirgel wedi’u cuddio yn adran storio gefn y cerbyd. Mae archwiliad yn datgelu bod y clo cynhenid ar yr adran wedi ei orfodi i ganiatáu mynediad heb awdurdod.Mae gyrrwr y cerbyd yn cadarnhau nad oedden nhw wedi gwirio’r adran gefn ar ôl eu stop olaf cyn cychwyn i’r Deyrnas Unedig, gan eu bod wedi ei chloi ac yn credu ei fod yn ddiogel. Trwy fethu â chynnal gwiriad bod yr adran gefn yn dal yn ddiogel ac nad oedd mynediad heb awdurdod wedi’i ennill, roedd y gyrrwr wedi methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau. Nid oes gan y gyrrwr unrhyw atebolrwydd blaenorol i gosb sifil.

Mae’r gyrrwr yn derbyn cosb o £12,000, yn amodol ar ystyried prawf modd.