Canllawiau

Nodyn Technegol y Gronfa Ffyniant Bro (2022-23)

Diweddarwyd 13 Gorffennaf 2022

Adran 1: Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Cyflwyniad

Mae’r Nodyn Technegol hwn yn amlinellu canllawiau pellach ar gymhwysedd, rôl Aelodau Seneddol (ASau) a’r broses ymgeisio ac asesu ar gyfer ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Fe’i bwriedir i gynorthwyo ymgeiswyr i baratoi eu cais ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro.

Cronfa gyfalaf yn unig yw’r Gronfa Ffyniant Bro, a weinyddir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), yr Adran Drafnidiaeth, a Thrysorlys EM. Mae’r cyfeiriadau at yr ‘Ysgrifennydd Gwladol’ yn gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a Changhellor y Trysorlys.

Dylai ymgeiswyr baratoi eu cais yn unol â’r wybodaeth a’r canllawiau a ddarperir yn y nodyn technegol hwn. Pan fydd y ffenestr ymgeisio yn agor ddydd Mawrth 31 Mai 2022, bydd ymgeiswyr yn gallu bwrw ymlaen â chyflwyno’u cais drwy’r porth ymgeisio ar-lein erbyn y terfyn amser 12:00 canol dydd, dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2022. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y terfyn amser yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i’w hystyried ar gyfer cyllid. Dylid darllen y canllawiau yn y nodyn technegol hwn ochr yn ochr â Phrosbectws y Gronfa Ffyniant Bro, sy’n amlinellu amcanion y gronfa a sut y caiff ei chyflwyno, a rhagolwg o’r ffurflen gais. Bydd canllaw defnyddiwr sy’n rhoi cymorth ar sut i gyflwyno ceisiadau ar gael cyn i’r cyfnod ymgeisio agor ddydd Mawrth 31 Mai 2022.

Dylai ymgeiswyr nodi y byddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin yn dilyn y gweminarau a gynhelir gan swyddogion i roi trosolwg o’r Gronfa, a fydd yn cael eu cynnal diwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai 2022. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn defnyddio’r fersiynau diweddaraf o’r holl ddogfennau, a fydd ar gael ar GOV.UK.

Dyddiadau Pwysig

Yn hwyr ym mis Ebrill/ yn gynnar ym mis Mai 2022: Gweminarau yn cael eu cynnal gan swyddogion i roi trosolwg o’r Gronfa

Ebrill hwyr/ Mai cynnar 2022:Cwestiynau Cyffredin yn cael eu cyhoeddi yn GOV.UK.

31 Mai 2022: Ffenestr ymgeisio yn agor.

15 Mehefin 2022 (12:00 canol dydd): Terfyn amser i ymgeiswyr gyflwyno cwestiynau i [email protected].

6 Gorffennaf 2022 (12:00 canol dydd): Terfyn amser i ymgeiswyr gyflwyno cynigion.

Cyhoeddir canlyniad y cynigion yn hydref 2022.

Sut ydych chi’n cyfathrebu â ni?

Bydd ymgeiswyr yn gallu anfon cwestiynau at [email protected] ddim hwyrach na 12:00 canol dydd, dydd Mercher 15 Mehefin 2022 er y bydd cymorth technegol a chymorth datrys problemau ar ddefnyddio’r porth ymgeisio ar-lein ar gael ar ôl y dyddiad hwn, os bydd angen. Trefnir bod rhagor o fanylion ynghylch cymorth technegol a datrys problemau ar gael maes o law. Byddwn yn ymateb i’r holl ymholiadau a dderbynnir erbyn 12.00 canol dydd ar ddydd Mercher, 15 Mehefin 2022 cyn y terfyn amser gwneud cais. Dylai ymgeiswyr nodi na fydd swyddogion adrannol yn darparu cyngor nac arweiniad ar gynnwys penodol unrhyw gynigion unigol.

Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y terfyn amser o 12.00 canol dydd ar ddydd Mercher, 15 Mehefin 2022 yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i’w hystyried ar gyfer cyllid. Pan fyddwn wedi derbyn cais, caiff yr ymgeisydd ei hysbysu.

Bydd gweminarau a gynhelir gan swyddogion i roi trosolwg o’r Gronfa yn cael eu cynnal hefyd ym mis Ebrill 2022, a bydd Cwestiynau Cyffredin yn cael eu cyhoeddi ar ôl y rhan.

Byddwn yn darparu adborth ar gynigion aflwyddiannus pan fydd canlyniad cyllid yr ail gylch wedi’i gyhoeddi. Bydd trefniadau ar gyfer hyn yn cael eu cadarnhau gydag ymgeiswyr perthnasol ar ôl y cyhoeddiad.

Rheoli cymorthdaliadau, Cymorth gwladwriaethol, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chydymffurfio â deddfwriaeth y DU

Rhaid i gynigion a gynorthwyir gan y Gronfa Ffyniant Bro gydymffurfio â phob deddfwriaeth y DU.

Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yn galluogi Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer datblygu economaidd ac i gefnogi cymunedau ledled y DU. Rhaid i’r holl gynigion yn Lloegr, yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon fod o fewn cwmpas y pŵer cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020.

O 1 Ionawr 2021, fe wnaeth Cyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau interim y DU ddisodli cynllun Cymorth gwladwriaethol yr UE, na fydd yn gymwys bellach i’r DU ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig e.e. yng Ngogledd Iwerddon.

Rhaid i’r holl gyllid a weinyddir gan awdurdod cyhoeddus ystyried rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau (neu ar gyfer Gogledd Iwerddon, y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau a’r gyfraith Cymorth gwladwriaethol) yn ogystal â’r holl rwymedigaethau cyfreithiol perthnasol eraill fel y gyfraith caffael (ynghyd â “chyfreithiau perthnasol”).

Lle nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol fod dyfarniad y Gronfa Ffyniant Bro yn cydymffurfio o dan Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau’r DU neu reolau Cymorth gwladwriaethol, yna gellid ystyried bod y prosiect yn anghymwys, a gallai’r cais gael ei wrthod.

Gweler atodiad G am wybodaeth a chanllawiau’n ymwneud â rheoli cymorthdaliadau a Chymorth gwladwriaethol.

Ym Mhrydain Fawr, mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i: ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan y Ddeddf; hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu; meithrin cysylltiadau da rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae adran 75 Deddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau sy’n ymwneud â Gogledd Iwerddon, roi sylw dyledus i’r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y naw categori cydraddoldeb o bersonau o wahanol gredoau crefyddol, barn wleidyddol, grŵp hil, oedran, statws priodasol neu gyfeiriadedd rhywiol; dynion a merched yn gyffredinol; personau ag anabledd a phersonau heb anabledd; a phersonau sydd â dibynyddion a phersonau hebddynt. Yn ogystal, dylai awdurdodau cyhoeddus roi sylw i ddymunoldeb hybu cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gredoau crefyddol, barn wleidyddol a grwpiau hil.

Adran 2: Sut bydd y Gronfa’n Gweithredu yn Lloegr, yr Alban, a Chymru

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio?

Yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, mae’r sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais yn aros yr un fath â’r cylch cyntaf. Mae’r rhain yn perthyn i un o’r tri grŵp canlynol, gyda rheolau cymhwysedd gwahanol, fel a ganlyn:

A) Mae awdurdodau unedol (gan gynnwys cynghorau bwrdeistrefi metropolitanaidd), cynghorau bwrdeistref Llundain a chynghorau dosbarth mewn ardaloedd dwy haen yn Lloegr yn gymwys i gyflwyno cynigion yn unol â nifer yr etholaethau sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn eu ffiniau.

B) Gall yr holl awdurdodau unedol yn yr Alban a Chymru (y mae pwerau trafnidiaeth gan bob un ohonynt), a’r awdurdodau unedol hynny yn Lloegr sydd â phwerau trafnidiaeth, gyflwyno cynigion yn unol â nifer yr etholaethau sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn eu ffiniau fel ar gyfer lleoedd yng ngrŵp A, a gallant, yn ogystal, gyflwyno un cynnig “trafnidiaeth yn unig” (y mae’n rhaid iddo fod ar gyfer 90% trafnidiaeth yn ôl gwerth o leiaf – gweler isod).

C) Gall cynghorau sir â phwerau trafnidiaeth, awdurdodau cyfun, awdurdodau cyfun maerol, ac Awdurdod Llundain Fawr gyflwyno un cynnig “trafnidiaeth yn unig” (y mae’n rhaid iddo fod ar gyfer 90% trafnidiaeth yn ôl gwerth o leiaf – gweler isod).

Bydd unrhyw gynigion llwyddiannus y bydd lle wedi’u cael yn y cylch cyntaf yn cael eu tynnu oddi wrth ei lwfans yn yr ail gylch (gweler isod).

Gellir gweld nifer y cynigion seiliedig ar etholaeth a chynigion trafnidiaeth yn unig y mae pob awdurdod lleol yn gallu eu cyflwyno yn y tabl yn atodiad F. Mae’r tabl hwn yn ystyried cynigion llwyddiannus yng nghylch cyntaf y Gronfa Ffyniant Bro.

Lwfans yn seiliedig ar etholaeth

Ar gyfer awdurdodau lleol sy’n perthyn i rŵpiau A a B uchod, caiff nifer y cynigion y gallant eu cyflwyno ei phennu gan nifer yr etholaethau sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn eu ffiniau. Gall awdurdodau lleol yng ngrŵp B gyflwyno cynnig “trafnidiaeth yn unig” yn ogystal, fel y nodwyd uchod. Yn yr ail gylch, ni wahaniaethir rhwng etholaethau cyfan neu rannol at ddibenion lwfansau cynigion. Mae hyn yn golygu, os oes gan awdurdod lleol un etholaeth gyfan a dwy etholaeth rannol o fewn ei ffiniau, gall gyflwyno tri chynnig yn yr ail gylch (yn amodol ar p’un a chafodd unrhyw gynigion llwyddiannus yn y cylch cyntaf, gweler isod).

Gall cynigion ar gyfer y math hwn fod ar gyfer unrhyw gyfuniad o dair thema fuddsoddi’r Gronfa – trafnidiaeth, adfywio, a diwylliant.

Yn y cylch cyntaf, cafodd etholaethau rhannol eu trin yn wahanol; gofynnwyd i’r awdurdodau lleol a oedd yn cynnwys rhannau o’r un etholaeth ddynodi ymgeisydd arweiniol, a dderbyniodd gynnig ychwanegol. Nid yw hyn yn wir bellach ar gyfer yr ail gylch ac nid oes gofyniad i awdurdodau arweiniol gael eu henwebu mewn achosion o orgyffwrdd, gan y bydd yr holl awdurdodau lleol yn derbyn un cynnig yr un ar gyfer yr etholaeth dan sylw. Mewn achosion o’r fath, mae hyn yn amodol ar p’un un a oedd gan yr awdurdod lleol unrhyw gynigion llwyddiannus yn y cylch cyntaf (gweler isod).

Lwfans trafnidiaeth

Gall awdurdodau lleol yng ngrŵpiau B a C uchod gyflwyno cynigion “trafnidiaeth yn unig” sydd ar wahân i unrhyw lwfansau seiliedig ar etholaethau.

Gall awdurdodau lleol yng ngrŵpiau B gyflwyno un cynnig “trafnidiaeth yn unig” sy’n ychwanegol at eu cynigion seiliedig ar etholaethau, a ddyrennir yn unol â’r broses uchod. Gall awdurdodau lleol yng ngrŵpiau C, heb eithriad, gyflwyno un cynnig “trafnidiaeth yn unig”. Er mwyn helpu cyflawni diben y Gronfa, sef cefnogi prosiectau trafnidiaeth blaenoriaeth uchel ac effaith uchel mewn ardaloedd lleol, dylai unrhyw gynigion “trafnidiaeth yn unig” fod ar gyfer o leiaf 90% o drafnidiaeth (fel y’i diffinnir gan ganran costau’r prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgarwch i gefnogi thema buddsoddi’r cais). Gofynnir i ymgeiswyr yn y ffurflen gais faint o fuddsoddiad sydd ym mhob thema. Rhaid i’r buddsoddiad sy’n weddill fod yn gysylltiedig ag elfen drafnidiaeth y cais.

Effaith cynigion y cylch cyntaf

Bydd unrhyw gynigion llwyddiannus y mae lle wedi’u cael yn y cylch cyntaf yn cael eu tynnu o’u lwfans cynigion yn yr ail gylch. Er enghraifft, os yw awdurdod lleol â thri chynnig wedi cyflwyno tri chynnig yn y cylch cyntaf, a bu’n llwyddiannus ym mhob un ohonynt, ni fydd yn gymwys i ymgeisio yn y cylch hwn. Os oedd yr awdurdod lleol yn llwyddiannus gyda dau o’r tri chynnig, byddai’n gallu cyflwyno un cynnig arall yn y cylch hwn.

Mae’r ymgeiswyr hynny a oedd yn aflwyddiannus yn y cylch cyntaf ac mae lwfans cynnig ganddynt o hyd yn gymwys i wneud cynnig arall gyda fersiwn o’u cynnig yn y cylch hwn, gan nodi’r newidiadau i’r cais, prosesau asesu, a gwneud penderfyniadau neu gyda chynnig hollol newydd a gwahanol.   ###Rôl Aelodau Seneddol yn y broses ymgeisio

Cymorth Blaenoriaeth Ffurfiol (ar gyfer ymgeiswyr o Loegr, yr Alban, a Chymru)

Gall ASau ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i un cynnig yn y cylch hwn. Mae hyn yn golygu y gall ASau a ddarparodd cymorth blaenoriaeth ffurfiol i gynigion aflwyddiannus a llwyddiannus yn y cylch cyntaf ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i gynnig yn y cylch hwn.

Bydd cymorth blaenoriaeth yn cael ei gydnabod a’i adlewyrchu yn yr asesiad er y dylai ymgeiswyr nodi nad yw cymorth blaenoriaeth ffurfiol yn amod nac yn ofyniad er mwyn i gynnig fod yn llwyddiannus.

I ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i gynnig, rhaid i’r AS lenwi’r Profforma Cymorth Blaenoriaeth a geir yn atodiad D. Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno’r Profforma hwn gyda’r cais drwy’r porth ymgeisio ar-lein. Ni fydd cymorth blaenoriaeth ffurfiol yn cael ei dderbyn mewn unrhyw fformat arall na thrwy unrhyw sianel arall.

Gan adeiladu ar y gwersi o’r cylch cyntaf, mae rhai pwyntiau pwysig i ASau ac ymgeiswyr eu cadw mewn cof:

  • Bydd cymorth blaenoriaeth ffurfiol ar gyfer cynnig yn cael ei adlewyrchu unwaith yn yr asesiad. Ni fydd cynigion yn ennill unrhyw fantais o gyflwyno nifer o ddogfennau Profforma Cymorth Blaenoriaeth Aelod Seneddol. Pe bai cais yn cael cymorth blaenoriaeth gan ASau lluosog, byddai’r holl ASau hynny a oedd yn cynnig cymorth blaenoriaeth wedi defnyddio eu gallu i ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol, y gall pob AS ei ddarparu i un cynnig yn unig yn y cylch hon.
  • Os na ddywedir yn glir yn y dogfennau Profforma Cymorth Blaenoriaeth Aelod Seneddol pa gynnig y mae’r cymorth blaenoriaeth yn ymwneud ag ef, ni chaiff ei gyfrif yn yr asesiad.
  • Os bydd AS yn cynnig cymorth blaenoriaeth ffurfiol i fwy nag un cais, ni fydd unrhyw gynigion a gefnogir gan yr AS yn cael eu hystyried fel rhai sydd â chefnogaeth flaenoriaeth ffurfiol. Yn lle hynny, ar gyfer pob cais, byddwn yn eu hystyried fel tystiolaeth o gefnogaeth ehangach gan randdeiliaid.

Cymorth cyffredinol

Mae ASau hefyd yn cael y cyfle i ddangos eu cefnogaeth gyffredinol i un neu fwy o gynigion, fel y gall rhanddeiliaid eraill. Dylid dangos hyn trwy lythyr wedi’i lofnodi (dim ond ar gyfer cymorth blaenoriaeth ffurfiol y mae’n rhaid defnyddio’r ddogfen Profforma Cymorth Blaenoriaeth Aelod Seneddol), a gyflwynir gan yr ymgeisydd a’i uwchlwytho i’r porth ymgeisio ar-lein. Bydd cymorth cyffredinol yn cael ei ystyried yn yr adran ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymorth yn yr asesiad Ffit Strategol.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y cynigion y gall AS eu cynorthwyo yn y modd hwn. Gall nifer o ASau gynnig cymorth cyffredinol hefyd i’r un cynnig.

Ar wahân i gymorth AS, yn yr Alban a Chymru, gael Aelodau Senedd yr Alban (MSPs) ac Aelodau o’r Senedd ddarparu cymorth cyffredinol i un neu fwy o gynigion. Eto, bydd hyn yn cael ei ystyried o fewn yr adran ymgysylltiad a chymorth i rhanddeiliaid o’r asesiad Ffit Strategol, a dylid dangos tystiolaeth ohono trwy lythyr wedi’i lofnodi a gyflwynir gan yr ymgeisydd drwy’r porth ymgeisio ar-lein.

Ni all MSPs nac Aelodau o’r Senedd ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol ar gyfer cynnig. Anogir ymgeiswyr i ymgynghori â’r MSPs ac Aelodau o’r Senedd yn eu tro wrth baratoi eu cynigion, fodd bynnag, nid yw eu cymorth yn amod nac yn ofyniad er mwyn i gynnig fod yn llwyddiannus.

Cyllid Capasiti

Bydd ail gylch y Gronfa’n parhau i ddefnyddio’r Mynegai Mannau Blaenoriaeth ar gyfer Lloegr, yr Alban, a Chymru, gyda’r Mynegai ei hun yn cael ei ddiweddaru yn yr ail gylch i ddefnyddio’r setiau data diweddaraf sydd ar gael mae mwy o wybodaeth ar gael yma. Bydd awdurdodau lleol cymwys sy’n symud i fyny i Gategori 1 o ganlyniad i’r diweddariad, ac sydd ganddynt o leiaf un cynnig yn weddill, yn unol â chylch cyntaf y Gronfa, yn derbyn £125,000 o gyllid capasiti i gynorthwyo â pharatoi a chyflwyno cynigion o ansawdd uchel. Ni fydd lleoedd sydd eisoes wedi derbyn y cyllid hwn yn y cylch cyntaf yn derbyn rhagor o gymorth capasiti. Mae’r cyllid capasiti untro hwn yn berthnasol i ardaloedd Categori 1 ‘newydd’ yn unig sy’n dal yn gymwys i ymgeisio. Rhestrir yr awdurdodau lleol cymwys yn.

Yn yr un modd â chyllid capasiti a wnaed ar gael yn y cylch cyntaf, prif fwriad y cyllid capasiti hwn yw cynorthwyo’r awdurdodau lleol hyn i ddatblygu’u cynigion. Ni fydd y cyllid refeniw hwn wedi’i glustnodi a disgwylir iddo gael ei ddefnyddio gan ymgeiswyr i’w cynorthwyo i adeiladu capasiti. Bydd gwybodaeth ychwanegol am sut a phryd y bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu yn cael ei chyhoeddi yn ein Cwestiynau Cyffredin yn GOV.UK.

Adran 3: Y Broses Ymgeisio yn Lloegr, yr Alban, a Chymru

Paratoi a Chyflwyno Ceisiadau

Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion drwy’r porth ymgeisio ar-lein, a fydd yn mynd yn fyw o 31 Mai 2022 ac yn cau am 12:00 canol dydd ar 6 Gorffennaf 2022. Gall cais cyfalaf fod ar gyfer prosiect unigol neu becyn o hyd at dri phrosiect, hyd at £20 miliwn mewn gwerth grant fesul cais. Fel yn y cylch cyntaf, rydym yn barod i ariannu prosiectau trafnidiaeth mawr, rhwng £20m a £50m, mewn achosion eithriadol. Ar gyfer yr ail gylch, rydym yn barod i ariannu prosiectau diwylliant mawr rhwng £20 a £50m drwy eithriad, gyda dim mwy na dau yn cael eu hariannu ar draws Lloegr, yr Alban, a Chymru.

Mae’r ffurflen gais yn cyd-fynd â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM, sy’n nodi canllawiau ar sut i arfarnu prosiectau. Wrth gwblhau eu cais, dylai awdurdodau lleol ystyried y Llyfr Gwyrdd gan gynnwys ei Atodiad A2: Dadansoddiad Seiliedig ar Le.

Gall awdurdodau lleol sy’n cyflwyno cynigion unigol, ar y cyd, pecyn a mawr gynnwys cynigion o fewn un thema fuddsoddi, neu ar draws themâu buddsoddi lluosog, cyn belled â’u bod yn rhan o gynnig cydlynol a chyson. Wrth nodi canran y themâu o fewn cais, dylai ymgeiswyr ddiffinio hyn yn ôl costau prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgarwch i gefnogi pob thema. Er enghraifft, pe bai 75% o gyfanswm gwerth cynnig yn cynnwys costau prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgarwch i gefnogi allbwn neu ddeilliant adfywio, gyda 25% o gostau’n gysylltiedig â gweithgarwch i gefnogi allbwn neu ddeilliant diwylliant, byddai’n cael ei ddiffinio fel cynnig adfywio 75% a diwylliant 25%.

Nid oes lleiafswm gwerth grant y Gronfa Ffyniant Bro y gall ymgeiswyr wneud cais amdano.

Mae ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro yn agored i brosiectau sy’n gallu dangos gwariant o’r Gronfa ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Byddem yn disgwyl i’r holl gyllid a ddarperir o’r Gronfa gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2025, ac erbyn 2025-26 ar sail eithriadol.

Rhaid i’r holl gynigion gael eu cyflwyno’n llawn gyda’r holl ddogfennaeth ategol ar y porth ymgeisio ar-lein erbyn 12:00 canol dydd, dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022. Ni fydd unrhyw gynigion neu ddogfennaeth ategol a gyflwynir ar ôl y terfyn amser hwn yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i’w hystyried ar gyfer cyllid. Caiff cynigion eu hasesu a’u sgorio ar sail y wybodaeth sydd wedi’i chyflwyno gan yr ymgeisydd. Bydd gwybodaeth sydd heb ei darparu neu wybodaeth anghyflawn yn cael effaith ar yr asesiad o’r cynnig.

Cynigion Pecyn

Mae cynnig pecyn yn cynnwys dau neu dri phrosiect gan un ymgeisydd. Rhaid i gynigion pecyn esbonio’n eglur sut mae eu gwahanol elfennau yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cynrychioli set gydlynus o ymyriadau. Byddant yn cael eu hasesu gyda’i gilydd ar lefel y cynnig yn hytrach nag fel prosiectau unigol. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno set gydlynus o ymyriadau yn unol â nodau’r Gronfa.

Dylai crynodebau o brosiectau unigol, gan gynnwys manylion eu cyswllt strategol â’r cynnig cyffredinol, gael eu cynnwys yn y cais yn achos cynigion pecyn.

Mae angen i ni allu asesu sut mae pecynnau o brosiectau yn gweithio gyda’i gilydd. Os oes gwendidau yn un o’r prosiectau, dylai lleoedd fod yn ystyriol y bydd yn effeithio’n niweidiol ar sgôr gyffredinol eu cynnig.

Cynigion ar y Cyd

Mae cynnig ar y cyd yn cynnwys un prosiect, neu hyd at dri phrosiect sy’n cynrychioli set gydlynol o ymyriadau, gan ymgeiswyr lluosog. Gall hyn fod yn briodol lle mae prosiect(au) yn croesi ffiniau gweinyddol, gan gynnwys ar draws ffiniau ym Mhrydain Fawr.

Bydd cynnig ar y cyd yn cyfrif tuag at nifer y ceisiadau y mae pob ymgeisydd yn gymwys i’w cyflwyno. Gall pob awdurdod lleol ofyn am uchafswm o £20 miliwn o gyllid mewn cais ar y cyd. Er enghraifft, gallai cais ar y cyd gan ddau awdurdod lleol ofyn am uchafswm o £40 miliwn. Cyfanswm y buddsoddiad mwyaf ar gyfer cais ar y cyd yw £60m.

Lle bo cais ar y cyd ar gyfer set o hyd at dri phrosiect, ni ellir gofyn am fwy na £50 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer unrhyw brosiect un elfen unigol o fewn cais ar y cyd. Wrth asesu cynigion ar y cyd ar y maen prawf Mynegai Lleoedd Blaenoriaeth, byddwn yn adlewyrchu’r categori mynegai sy’n ymwneud â’r lleoliad lle mae’r rhan fwyaf o’r prosiect(au) yn cael ei chyflenwi.

Cynigion Mawr

Cynigion Trafnidiaeth Mawr sy’n mynnu hyd at £50 miliwn

Derbynnir ceisiadau am gynigion trafnidiaeth mawr ar sail eithriadol. Rhaid i’r rhain fod ar gyfer trafnidiaeth 90% o leiaf, a rhaid i’r buddsoddiad sy’n weddill fod yn gysylltiedig ag elfen trafnidiaeth y cynnig. Bydd angen i gynigion o’r fath fod rhwng £20 miliwn a £50 miliwn a gellir eu cyflwyno gan unrhyw ymgeisydd (ar yr amod eu bod yn cael cefnogaeth yr awdurdod sydd â chyfrifoldeb statudol dros drafnidiaeth – a cheir tystiolaeth o hynny ar ffurf profforma wedi’i chwblhau).

Dylid cyflwyno cais drwy’r porth ceisiadau ar-lein ar gyfer pob cynnig mawr yn yr un modd ag ar gyfer ceisiadau eraill ar gyfer ail gylch y Gronfa.

Yn achos ceisiadau llwyddiannus, bydd angen gwerthuso achos busnes manylach cyn y gellir cadarnhau cyllid. Bydd yr achosion busnes hyn yn cael eu hasesu unwaith y gwneir y cyhoeddiadau. Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn cynghori, ar ôl ystyried y ffurflen gais, pa wybodaeth bellach sydd ei hangen fel rhan o adolygiad achos busnes manylach. Bydd canllawiau pellach ar brosiectau trafnidiaeth mawr a datblygu cyflwyniadau achos busnes ar gael, maes o law. Bydd angen cymeradwyo achos busnes cyn y gellir rhoi’r holl gyllid.

Cynigion diwylliant mawr sy’n mynnu hyd at £50 miliwn.

Yn ogystal, ar gyfer ail gylch y Gronfa, rydym yn barod i ariannu yn Lloegr, yr Alban, a Chymru gyfanswm o ddau gynnig mawr am hyd at £50 miliwn o dan thema diwylliant y Gronfa. Bydd angen i gynigion o’r fath fod rhwng £20 miliwn a £50 miliwn mewn gwerth grant. Rhaid i’r rhain fod ar gyfer diwylliant 90% o leiaf (fel y’u diffinnir gan ganran costau’r prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgarwch i gefnogi thema buddsoddi’r cynnig), a rhaid i’r buddsoddiad sy’n weddill fod yn gysylltiedig ag elfen ddiwylliant y cynnig. Dylai hefyd fod yn unol â ffocws y Gronfa ar ymyriadau tra gweladwy sy’n hybu balchder lleol mewn lle.

Dylid cyflwyno ceisiadau am gynigion diwylliant mawr drwy’r porth ymgeisio ar-lein yn yr un modd ag y cyflwynir cynigion eraill.

Bydd ceisiadau diwylliant mawr yn Lloegr, yr Alban, a Chymru yn destun yr un prosesau asesu a gwneud penderfyniadau â chynigion eraill. Dylai ymgeiswyr nodi y dylai lefel y manylion a ddarperir yn y cais fod yn gymesur â swm y cyllid y mae’r ymgeisydd yn gofyn amdano.

Ar gyfer ceisiadau llwyddiannus, bydd angen cymeradwyo achos busnes manylach cyn y gellir cyhoeddi cyllid. Bydd y rhain yn cael eu hasesu unwaith y gwneir y cyhoeddiadau. Ar ôl ystyried y ffurflen gais, bydd DLUHC yn cynghori pa wybodaeth bellach sydd ei hangen fel rhan o adolygiad achos busnes manylach. Ceir canllawiau pellach maes o law ar brosiectau diwylliant mawr a datblygu cyflwyniadau achos busnes.

Gwybodaeth sy’n ychwanegol at y ffurflen gais

Er bod rhai atodiadau y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr eu cwblhau (drwy’r dogfennau profforma a ddarparwyd) a rhai dogfennau ychwanegol y gofynnwn amdanynt fel tystiolaeth, rhaid i ymgeiswyr gyfeirio at destun ychwanegol penodol y maent wedi’i gyflwyno os ydynt yn dymuno iddo gael ei ystyried yn yr asesiad. Rhaid i unrhyw ateb sy’n cyfeirio at unrhyw wybodaeth a gynhwyswyd yn yr atodiadau fod yn berthnasol i gwestiwn penodol yn y ffurflen gais ac wedi’i gyfeirnodi yn yr ateb.

Ar gyfer unrhyw atodiadau, nodwch y canlynol:

  • ni fydd ymgeiswyr yn gallu cyflwyno mwy na chyfanswm o 25 o atodiadau. Bydd rhagor o wybodaeth am gyflwyno atodiadau yn cael ei darparu mewn canllaw defnyddiwr.
  • ni allwn dderbyn dolenni wedi’u hymgorffori na rhannu ffeiliau, ac ni fydd gwybodaeth a gyflwynir fel hyn yn cael ei hystyried
  • mae ffolder gyda nifer o ddogfennau profforma y dylai ymgeiswyr eu defnyddio i ddarparu atodiadau penodol ar gael yn GOV.UK

Mae’r rhestr hon yn amlinellu’r wybodaeth ychwanegol y byddem yn disgwyl i ymgeiswyr ei chyflwyno. Nodwch, nid yw’r rhestr hon yn gyflawn:

  • Gweithlyfr Costau a Chynllunio (ar gyfer cynigion pecyn, cwblhewch y Llyfr Gwaith Costau a Chynllunio ar gyfer cynigion pecyn)
  • MP Profforma 6 o gefnogaeth flaenoriaeth ffurfiol (ddim yn berthnasol i ymgeiswyr Gogledd Iwerddon)
  • tystiolaeth o ymgysylltiad â rhanddeiliaid, gan gynnwys cymorth cyffredinol AS, cymorth MSPs neu Aelodau o’r Senedd ar gyfer y cynnig hwn
  • dogfen damcaniaeth newid
  • tystiolaeth o arian cyfatebol wedi’i gadarnhau, darpariaeth tir gan drydydd partïon fel rhan o gyfraniad lleol a thystiolaeth ar ffurf llythyr gan brisiwr annibynnol i ddilysu gwir werth marchnad y tir
  • cynllun cyflawni
  • tystiolaeth yn ymwneud â chaniatadau statudol/caffael tir
  • copi o’r gofrestr risg
  • nodyn esboniadol am y modd y cyfrifwyd y Gymhareb Cost a Budd
  • ffeil GIS (argymhellir ar gyfer prosiectau sy’n cwmpasu nifer o leoliadau) a map yn diffinio ardal y buddsoddiad
  • datganiad o gydymffurfio wedi’i lofnodi gan y Prif Swyddog Ariannol fel y swyddog A151 ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, a’r swyddog A95 yn yr Alban drwy’r profforma a ddarparwyd

Yn benodol i gynigion ar y cyd:

  • tystiolaeth o gefnogaeth gan awdurdodau lleol cyfranogol (trwy profforma 2 a ddarparwyd)

Yn benodol i brosiectau trafnidiaeth:

  • tystiolaeth gan yr awdurdod neu’r corff cyfrifol yn cadarnhau eu cefnogaeth (trwy Profforma 1 a ddarparwyd ar gyfer ymgeiswyr Lloegr, yr Alban, a Chymru)
  • tystiolaeth arall i gefnogi’r atebion a ddarparwyd yn yr adran Achos Economaidd. Gallai hyn gynnwys, os yw’n gymesur â maint y cynnig y maent yn ei gyflwyno: tabl crynodeb o’r gwerthusiad, adroddiadau modelu, rhagolygon ac adroddiadau data perthnasol, taenlenni Pecyn Cymorth Arfarnu Modd Gweithredol (AMAT), allbynnau Arfarnu Budd Defnyddwyr Trafnidiaeth (TUBA) a phecynnau cymorth arfarnu cynlluniau bach
  • ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth mawr, gallai tystiolaeth y gall ymgeisydd ei chynnwys i gefnogi ei atebion gynnwys Cynllun Sicrwydd a Chymeradwyaeth Integredig ac Adroddiad Asesu Opsiynau.

Porth, Asesu, a Gwneud Penderfyniadau

Bydd tri cham i’r prosesau asesu a gwneud penderfyniadau.

Cam 1 Porth

Y cam cyntaf yw porth llwyddo/methu. Rhaid darparu gwybodaeth yn ymwneud â chymhwysedd cynnig, gan gynnwys yr holl ddogfennau angenrheidiol. Mae’r meini prawf sylfaenol i fynd ymlaen i’r cam asesu fel a ganlyn:

  • Rhaid cyflwyno cynigion drwy’r porth ymgeisio ar-lein erbyn 12:00 canol dydd, ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022.
  • Rhaid i gynigion gadarnhau y bydd rhywfaint o gyllid grant y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei thalu yn y flwyddyn ariannol 2022/23[footnote 1].
  • Ni ddylai ymgeiswyr ymgeisio uwchlaw uchafswm gwerth y grant a ganiateir ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar y cyd a chynigion pecyn. Ni ddylai cynigion pecyn gynnwys mwy na thri chynnig.
  • Ni ddylai ceisiadau fod yn fwy na’r uchafswm lwfans cynnig fesul ymgeisydd.
  • Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r asesiad risg rheoli cymhorthdal/cymorth gwladwriaethol.
  • Mae’n rhaid i bob cais gydag elfen trafnidiaeth gynnwys profforma o gefnogaeth gan yr awdurdod perthnasol sydd â chyfrifoldeb statudol am drafnidiaeth oni bai bod gan yr ymgeisydd gyfrifoldeb statudol (trwy Profforma 1 a ddarparwyd).
  • Rhaid i gynigion ar y cyd gynnwys tystiolaeth o gefnogaeth gan holl awdurdodau sy’n gwneud cais i ddilysu’r cynnig cyfunol (trwy Profforma 2 a ddarparwyd).
  • Rhaid i gynigion gael eu cymeradwyo gan y Prif Swyddog Cyllid (fel y swyddog A151 yng Nghymru a Lloegr a swyddog S95 yn yr Alban).

Dylai ymgeiswyr nodi bod y wybodaeth a aseswyd yng Ngham 1 Porth yn eistedd y tu allan i’r fframwaith sgorio ond y bydd yn effeithio ar y modd y caiff y cais ei brosesu. Ni fydd ceisiadau sy’n methu un neu fwy o feini prawf y porth yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i gael eu hystyried am gyllid. Mae’r adrannau’n cadw’r hawl i wrthod cynigion ar sail gwiriadau a gynhaliwyd ar y wybodaeth a ddarparwyd i’w hasesu ar Gam 1 Porth gan gynnwys os na chyflwynir y wybodaeth a ddarparwyd mewn pryd neu os yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn annigonol.

Cam 2 Asesu’r Cynigion a Llunio Rhestr Fer

Bydd cynigion yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf yn y prosbectws i ddarparu rhestr fer o’r cynigion cryfaf. I greu rhestr fer, bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar lefel y cynnig yn erbyn Nodweddion Lle, Ffit Strategol, yr Achos Economaidd ac Ymarferoldeb Cyflawni. Mae Tabl 1 isod yn darparu arweiniad manwl ar beth y disgwylir i gynigion ei arddangos yn erbyn yr adrannau Ffit Strategol, Ymarferoldeb Cyflawni, a’r Achos Economaidd ar eu ffurflen gais. Bydd pwys cyfartal yn cael ei roi i’r tri maen prawf hyn, ynghyd â meini prawf Nodweddion Lle, yn ystod y broses asesu. Oni ddatganwyd fel arall, caiff pwys cyfartal ei roi hefyd i’r is feini prawf o dan Ffit Strategol, Ymarferoldeb Cyflawni, a’r Achos Economaidd. Gellir cymhwyso pwysau gwahanol ar gyfer y meini prawf hyn wrth wneud penderfyniadau ariannu terfynol yn unol â’r ystyriaethau ehangach a gyhoeddwyd. Amlinellir yr is feini prawf ym mhob maen prawf yn Nhabl 1. Dylai ymgeiswyr nodi, lle bydd cynigion pecyn yn cael eu cyflwyno, os oes gwendidau yn un o’r prosiectau, gall hynny cael effaith niweidiol ar sgôr gyffredinol eu cynnig.

Bydd rhestr fer Lloegr, yr Alban, a Chymru ar gyfer cyllid yn cael ei llunio o’r cynigion hynny sy’n sgorio uchaf yn gyffredinol, ac sy’n sgorio’n gyfartalog o leiaf neu uwchlaw o ran Ffit Strategol, yr Achos Economaidd (gyda graddfa sylfaenol “gwerth am arian”), ac Ymarferoldeb Cyflawni.

Dylai ymgeiswyr nodi, yn ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro, fod yna fân wahaniaethau o ran y modd y byddwn ni’n asesu’r Achos Economaidd (galwyd yn flaenorol yn feini prawf Gwerth am Arian yn y cylch cyntaf). Yn yr ail gylch, mae’r meini prawf Achos Economaidd wedi’u symleiddio o bump is faen prawf i bedwar. Mae “Priodoldeb ffynonellau data a thystiolaeth” ac “Effeithiolrwydd y cynnig wrth fynd i’r afael â phroblemau” bob un yn cyfrannu 20% tuag at y sgôr Achos Economaidd gyffredinol; ac mae “Dadansoddi costau a buddion” a “Gwerth am arian y cynnig” bob un yn cyfrannu 30% tuag at sgôr gyffredinol yr Achos Economaidd. Yn olaf, mae sgôr asesu isafswm newydd wedi’i gosod ar gyfer yr is faen prawf “gwerth am arian y cynnig”. Mae pob un o’r newidiadau hyn yn cyfrannu at roi mwy o bwyslais i werth am arian cyffredinol y cynnig.

Cam 3 Gwneud Penderfyniadau

Pan fydd y gwaith asesu a safoni cynigion wedi’i gwblhau, a’r rhestr fer wedi’i llunio, bydd Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau ariannu. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, gall Gweinidogion ystyried rhai o’r ystyriaethau ychwanegol hyn neu bob un ohonynt:

  • Sicrhau rhaniad thematig rhesymol o brosiectau cymeradwy (e.e., ar draws adfywio a chanol trefi, trafnidiaeth a diwylliant a threftadaeth).
  • Sicrhau lledaeniad teg o brosiectau cymeradwy ar draws Prydain Fawr o fewn, a rhwng, cenhedloedd a rhanbarthau unigol, a rhwng ardaloedd gwledig a threfol;
  • Sicrhau cydbwysedd teg o brosiectau cymeradwy ar draws lleoedd mewn angen;
  • Blaenoriaethu naill ai ‘Ffit Strategol’ neu ‘Ymarferoldeb Cyflawni’ neu ‘Achos Economaidd’ dros y meini prawf eraill (gan nodi bod rhaid cymhwyso hyn yn gyson i bob prosiect);
  • Ystyried buddsoddiad arall mewn ardal leol, gan gynnwys buddsoddiad a wnaed o gylch cyntaf y Gronfa i annog lledaeniad cyllid Ffyniant Bro ar draws lleoedd.

Dros gylch cyntaf ac ail gylch y Gronfa, bydd o leiaf 9% o gyfanswm dyraniadau’r DU yn cael eu neilltuo ar gyfer yr Alban, 5% ar gyfer Cymru, a 3% ar gyfer Gogledd Iwerddon, yn amodol ar gyflwyno nifer addas o gynigion o ansawdd uchel.

Disgwyliwn wneud cyhoeddiadau ynglŷn â chanlyniad cynigion yn hydref 2022.

Tabl 1: Fframwaith Asesu ar gyfer asesu, sgorio, a llunio rhestr fer o’r cynigion

Ffit Strategol

Cymeradwyaeth AS (Ffactorau a fydd yn cael eu hystyried)

Os oes cymorth blaenoriaeth ffurfiol wedi’i ddarparu, dylech roi enw’r AS sy’n mynegi cymorth blaenoriaeth ffurfiol yn y cylch ariannu hwn, a chyflwyno Profforma wedi’i lofnodi (gweler Atodiad D) fel tystiolaeth.

Sylwch nad yw hyn yn gymwys i gynigion Gogledd Iwerddon.

Ymgysylltiad â Rhanddeiliaid a Chymorth i Randdeiliaid (Ffactorau a fydd yn cael eu hystyried)

Disgwylir y bydd ymgysylltu a’r holl randdeiliaid perthnasol. Bydd ystod y rhanddeiliaid perthnasol yn amrywio, ac felly nid oes unrhyw restr o randdeiliaid y mae’n rhaid darparu tystiolaeth ar eu cyfer ac eithrio lle mae’r AS lleol yn cefnogi’r cynnig fel blaenoriaeth (gweler yr adran uchod). Dylid dangos cefnogaeth gyffredinol ASau (h.y., nid cymorth blaenoriaeth ffurfiol) yma.

Rydym yn chwilio am gynigion sy’n amlinellu:

  • Pa ymgysylltiad sydd wedi’i wneud gyda rhanddeiliaid lleol a’r gymuned.
  • A ydych chi wedi nodi’r rhanddeiliaid hynny, a’r ymdrechion a wnaethoch i gyrraedd y rhai na fyddent yn ymgysylltu fel arfer efallai.
  • Y dulliau a ddefnyddioch, gan gynnwys dulliau rhithwir arloesol yng ngoleuni pandemig COVID-19.
  • Y graddau y mae’r ymgysylltu hwn wedi llywio’r cynnig, gan gynnwys sut mae’r adborth (cadarnhaol a negyddol) wedi llywio datblygu’r cynnig.
  • Dylai ystod yr adborth o ganlyniad i’r gweithgareddau ymgysylltu gael ei hesbonio’n glir a dylid dangos tystiolaeth ohoni gan gynnwys cysylltiadau ag unrhyw ymgynghoriadau cyfredol/ parhaus, fforymau cymunedol, ac ati
  • Lle mae llwyddiant y cynnig yn dibynnu ar gydweithrediad a chymorth rhanddeiliaid a/neu’r gymuned leol, dylid dweud hynny’n glir a dangos tystiolaeth ohono yn yr ymateb.

Ar gyfer cynigion trafnidiaeth, mae angen i ni wybod pwy sydd â chyfrifoldeb statudol am gyflwyno’r cynnig ac os nad yr ymgeisydd yw, byddwn angen cadarnhad bod gan yr ymgeisydd gefnogaeth awdurdodau perthnasol drwy’r pro fforma a ddarparwyd.

Ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yng Ngogledd Iwerddon, mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn dal llawer o’r pwerau perthnasol. Os nhw yw’r prif ymgeisydd, rhaid iddynt ymgysylltu â’r cyngor lleol perthnasol ar gyfer yr ardal y mae’r cais wedi’i leoli ynddi a sicrhau ei gefnogaeth, er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cyllid. Ar gyfer unrhyw gynigion yng Ngogledd Iwerddon sydd ag elfennau trafnidiaeth, mae cymorth gan y cyngor lleol perthnasol a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ofyniad cymhwysedd.

Yr achos dros fuddsoddi (Ffactorau a fydd yn cael eu hystyried)

Rydym yn chwilio am gynigion i amlinellu achos cryf dros fuddsoddi a damcaniaeth newid realistig sy’n dangos:

  • Tystiolaeth o’r heriau/rhwystrau lleol rhag twf a’r cyd-destun y mae’r cynnig yn ceisio ymateb iddo. Esboniad clir o’r hyn rydych chi’n bwriadu buddsoddi ynddo.
  • Sut bydd yr ymyriadau arfaethedig yn y cynnig yn mynd i’r afael â’r heriau a’r rhwystrau hynny, gyda thystiolaeth i ategu’r esboniad hwnnw ar ffurf damcaniaeth newid
  • Byddem yn disgwyl deall y sail resymegol ar gyfer y lleoliad y mae’r cynnig yn canolbwyntio arno. Caiff hyn ei adolygu ochr yn ochr â’r modd y mae lleoedd wedi’u categoreiddio yn y Mynegai Nodweddion Lle.
  • Dylai pob ymgeisydd nodi’r opsiynau gwahanol a ystyriwyd fel rhan o’r broses o benderfynu ar yr ymyriad dewisol a chyfiawnhau pam mai’r datrysiad arfaethedig yw’r opsiwn a ffefrir uwchlaw eraill. Fel rhan o hyn, dylai ymgeiswyr gyfiawnhau pam mai lleoliad arfaethedig y buddsoddiad yw’r opsiwn a ffefrir uwchlaw eraill. Ar gyfer ceisiadau trafnidiaeth mawr (£20 miliwn - £50 miliwn), dylai ymgeiswyr gyflwyno Adroddiad Asesu Opsiynau (OAR)
  • Amlinellwch beth yw eich allbynnau a deilliannau cynlluniedig, a sut byddwch chi’n cyflawni’r allbynnau, a chadarnhewch fod y canlyniadau hyn yn debygol o lifo o’r ymyriadau
  • Gall ymgeiswyr fod eisiau cyfeirio at atodiad B - Fframwaith Ymyriadau, sy’n darparu crynodeb eglurhaol o’r dangosyddion allbynnau a deilliannau ar sail ymyriadau tebygol sy’n dod o fewn cwmpas y gronfa hon
  • Rhowch esboniad pam y mae angen buddsoddiad gan y llywodraeth (beth yw’r methiant yn y farchnad)
  • Eglurwch p’un a fydd/ sut y bydd cyllid cyhoeddus a phreifat arall yn cael eu sicrhau

Ar gyfer cynigion pecyn, eglurhad ynglŷn â sut mae’r elfennau cydrannol yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cynrychioli set gydlynus o ymyriadau.

Cysondeb â’r cyd-destun lleol a chenedlaethol (Ffactorau a fydd yn cael eu hystyried)

Rydym yn chwilio am gynigion sy’n egluro sut mae’r cynnig yn cefnogi ac yn cyd-fynd â:

  • Strategaethau lleol perthnasol a chyfredol (fel Cynlluniau Lleol, strategaethau economaidd lleol, Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol neu strategaethau diwylliannol lleol) ac amcanion lleol ar gyfer buddsoddi, gwella seilwaith, datblygiad economaidd lleol a hybu ffyniant bro.
  • Amcanion polisi Llywodraeth y DU gan gynnwys y cenadaethau a amlinellwyd yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro, ymrwymiadau cyfreithiol a statudol, fel cyflawni allyriadau carbon Sero Net a gwella ansawdd yr aer. Dylai cynigion nodi sut y byddant yn lleihau unrhyw effaith amgylcheddol negyddol a ble maent yn hyrwyddo dewisiadau amgylcheddol cadarnhaol. Dylai cynigion ar gyfer prosiectau trafnidiaeth, yn benodol, esbonio’u buddion carbon yn glir.
  • Polisïau a/neu strategaethau perthnasol a ddatblygwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig (dim ond i ymgeiswyr yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon y mae hyn yn gymwys).
  • Buddsoddiadau eraill o ffrydiau cyllido gwahanol. Dylai hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) – buddsoddiadau diweddar i hybu ffyniant bro (gan gynnwys Porthladdoedd Rhydd, y Gronfa Trefi a Chyllid Dyfodol y Stryd Fawr), cynlluniau buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd yn yr arfaeth, a chyllid a wnaed ar gael trwy gylch cyntaf y Gronfa Ffyniant Bro.
  • Buddsoddiad presennol a buddsoddiad cynlluniedig a wnaed ar gael gan y Gweinyddiaethau Datganoledig (dim ond i ymgeiswyr yn yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon y mae hyn yn gymwys).

Disgwyliad y llywodraeth yw y bydd yr holl brosiectau ffyrdd lleol yn cyflawni neu’n gwella seilwaith beicio a cherdded hefyd, ac yn cynnwys mesurau blaenoriaeth i fysiau (oni ellir dangos nad oes fawr o angen neu ddim angen gwneud hynny). Dylai cynigion i roi blaenoriaeth i fysiau fod yn gyson â’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Bysiau ac wedi’u seilio ar dystiolaeth gan weithredwyr bysiau neu ffynonellau eraill (fel y gwasanaeth Dadansoddi Data Agored Bysiau). Dylent gynnwys lonydd bysiau lle ceir gwasanaeth bysiau mynych, tagfeydd, a’r gofod ffisegol i osod un. Dylai elfennau beicio’r cynigion gydymffurfio â’r canllawiau dylunio beicio a cherdded cenedlaethol perthnasol sy’n amlinellu’r safonau gofynnol.

Yr Achos Economaidd

Priodoldeb ffynonellau data a thystiolaeth

Ansawdd y dadansoddiad data a thystiolaeth ar gyfer egluro graddfa ac arwyddocâd problemau a materion lleol (gweler Atodiad C am enghreifftiau o fetrigau y gellid eu cynnwys):

  • Ansawdd y dadansoddiad data a thystiolaeth yn ddigonol i ddangos graddfa ac arwyddocâd problemau a materion lleol.
  • Dulliau casglu ac arolygu data yn ddigonol i sicrhau bod data’n gadarn ac yn ddiragfarn.
  • Data yn gynhwysfawr o ran ei gwmpas, h.y. ardal y buddiant.

Effeithiolrwydd cynigion wrth fynd i’r afael â phroblemau

Dadansoddiad a thystiolaeth ar sut bydd y cynigion yn mynd i’r afael â phroblemau presennol neu broblemau a ragwelir yn y dyfodol, a thystiolaeth o p’un a yw’r cynnig yn debygol o ddatrys y materion a nodwyd/o fodloni ei amcan strategol.

Dylai effeithiau mesuradwy, lle bo’n briodol, gael eu hadrodd gan ddefnyddio model addas. Mae ffactorau allweddol yn cynnwys:

  • Cadernid y rhagdybiaethau rhagolygol, y fethodoleg a’r allbynnau model
  • Ansawdd y dadansoddiad neu’r model (o ran ei gywirdeb a’i ymarferoldeb)
  • Dylid nodi a chyfeirio at Ddamcaniaeth Newid, fel y bo’n briodol.

Dadansoddiad o gostau a buddion

  • Mae buddion economaidd y cynnig yn cael eu mesur yn briodol. Dylid egluro’r rhain, lle bo modd, yn nhermau deilliannau. Er enghraifft, gallai’r dadansoddiad o’r achos economaidd ar gyfer cynigion trafnidiaeth amcangyfrif sut byddant yn lleihau amserau siwrneiau, yn cefnogi cyflogaeth, neu’n lleihau allyriadau carbon. Ar gyfer cynigion adfywio, gallai cynnydd yng ngwerth tir yn uniongyrchol ac yn ehangach, amwynder, ac ansawdd aer fod yn berthnasol. Dylid addasu effeithiau cyflogaeth ar gyfer gollyngiadau, amnewid a dadleoli fel y nodir yn Llyfr Gwyrdd TEM.
  • Dylai costau economaidd fod yn gyson â’r costau yn yr achos ariannol. Dylid addasu’r costau i flwyddyn sylfaen pris briodol, gan gynnwys addasu ar gyfer risg a thuedd optimistiaeth.
  • Eglurhad o’r modd y caiff buddion a chostau eu dadansoddi a’u hamcangyfrif, ac o’r modd y mae’r ymagwedd hon at y dadansoddiad yn gymesur i’r cynnig sy’n cael ei ystyried.
  • Dylai ymgeiswyr gyfeirio at holl effeithiau ariannol ac anariannol (costau a buddion) y cynnig.
  • Dylid rhoi tystiolaeth briodol o unrhyw effeithiau heb werth ariannol, gan nodi’r effaith net debygol a graddfa’r effaith.

Rhaid i’r holl gostau a buddion gydymffurfio, neu fod yn gyson â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM, Canllawiau Dadansoddi Trafnidiaeth yr Adran Drafnidiaeth a Chanllawiau Arfarnu DLUHC

Gwerth am arian y cynnig

Crynodeb o werth am arian cyffredinol y cynnig.

  • Dylai hwn gynnwys adroddiad am Gymarebau Costau a Buddion
  • Os amcangyfrifwyd Cymhareb Costau a Buddion, dylai fod esboniad clir o’r modd yr amcangyfrifir hyn h.y. nodyn methodoleg
  • Dylid cynnwys maint ac arwyddocâd effeithiau anariannol y cynnig. Dylid darparu tystiolaeth o’r effeithiau hyn a’u hasesu’n briodol
  • Effeithiau heb werth ariannol yn cael eu dangos a’u hasesu’n briodol.
  • Asesiad cryno o risgiau ac ansicrwyddau a allai effeithio ar y Gwerth am Arian cyffredinol.

Darperir manylion pellach y gofynion ar gyfer yr asesiad Gwerth am Arian yn (Atodiad C – Canllawiau Achos Economaidd).

Ymarferoldeb Cyflawni

Ariannol

Darparu manylion:

  • Proffil costau a gwariant ar lefel y prosiect a’r cynnig, gan gynnwys sut mae’r costau wedi’u pennu, ac unrhyw ragdybiaethau.
  • Y pecyn ariannu cyfan, yn amlinellu’n glir pa gyllid sydd wedi’i sicrhau o ffynonellau eraill ac unrhyw ryngddibyniaethau mawr lle nad yw cyllid wedi’i sicrhau eto. Rhaid i unrhyw fylchau yn y cyllid gael eu dynodi’n glir a rhaid darparu tystiolaeth o unrhyw ymrwymiadau cydariannu ehangach y sector cyhoeddus neu breifat (h.y., llythyrau, ymrwymiadau contractiol).
  • Y prif risgiau ariannol a sut byddant yn cael eu lliniaru, gan gynnwys, er enghraifft, sut y delir ag achosion o orwario a’u rhannu rhwng partneriaid ariannu nad ydynt yn rhan o Lywodraeth y DU, a’r strwythurau cyfreithiol/llywodraethu y bwriadwch eu rhoi ar waith gyda phartneriaid prosiect sydd â buddiant ariannol yn y prosiect.

Bydd cyfraniadau arian cyfatebol lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr asesiad. Anogir cyfraniad lleol o 10% neu’n uwch (awdurdod lleol a/neu drydydd parti) o gostau’r cynnig.

Disgwylir cyfraniad gan randdeiliaid y sector preifat, fel datblygwyr, os byddant yn elwa o gynnig penodol.

Masnachol

Darparu strategaeth gaffael gadarn sy’n cwmpasu’r cylch bywyd caffael cyfan. Dylai hon amlinellu’r sail resymegol hefyd ar gyfer y llwybr a ddewiswyd, yr opsiynau eraill a ystyriwyd ac a ddiystyriwyd ochr yn ochr ag esboniad pam mae’n briodol ar gyfer cynnig o’r maint hwn a’r natur hon.

Rhaid i’r holl gaffaeliadau gael eu gwneud yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, gan gynnwys, er enghraifft, Deddf Caethwasiaeth Fodern a mentrau’r Llywodraeth fel Outsourcing Playbook. Rhaid i ymgeiswyr ddisgrifio’u hymagwedd at sicrhau cydymffurfiaeth lawn er mwyn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.

Dylid ymgorffori cynaliadwyedd a mesurau gwyrdd mewn cynlluniau caffael, lle bynnag y bo modd, yn gyson â Strategaeth Sero Net y Llywodraeth.

Rheolaeth

Cynllun cyflawni sy’n dangos:

  • Cerrig milltir clir, dibyniaethau a rhyngwynebau allweddol, gofynion o ran adnoddau, hyd tasgau a chynlluniau wrth gefn.
  • Dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau (y tîm craidd a’r tîm cyflawni ehangach), sgiliau, gallu, neu gapasiti sydd eu hangen.
  • Trefniadau ar gyfer rheoli unrhyw bartneriaid cyflawni a’r cynllun i wireddu buddion.
  • Ymgysylltiad datblygwyr/ meddianwyr (yn ôl yr angen)
  • Y strategaeth i reoli rhanddeiliaid ac ystyried eu buddion a’u dylanwadau.
  • Cadarnhad o gymeradwyaethau statudol e.e., Caniatâd cynllunio a manylion gwybodaeth ynghylch perchnogaeth neu gytundeb o’r tir/ asedau sydd eu hangen i gyflawni’r cynnig
  • o Yn ogystal, rhestrwch unrhyw bwerau / caniatadau ac ati sydd eu hangen/ sydd wedi’u caffael, manylion y dyddiad a gaffaelwyd, cyfnod yr her (os yn berthnasol) a dyddiad terfynu’r pwerau ac amodau sydd ynghlwm â nhw.
  • o Y gallu i wario rhywfaint o gyllid y Gronfa Ffyniant Bro yn 2022/23.

Asesiad risg manwl ar gyfer cylch bywyd cyfan y prosiect sy’n cwmpasu’r holl risgiau (gan gynnwys, er enghraifft, iechyd a diogelwch a risgiau amgylcheddol) yn nodi’r canlynol:

  • y rhwystrau a lefel y risg i gyflawni’ch cynnig
  • trefniadau priodol ac effeithiol i reoli a lliniaru’r risgiau hyn
  • o dealltwriaeth glir o’r rolau / cyfrifoldebau am risg

Tystiolaeth o gefndir a phrofiad blaenorol o gyflawni cynlluniau o raddfa a math cyffelyb.

Monitro a Gwerthuso

Cynllun monitro a gwerthuso cymesur sy’n amlinellu:

  • Amcanion monitro a gwerthuso ar lefel y cynnig a chwestiynau ymchwil
  • Amlinelliad o ddull gweithredu monitro a gwerthuso ar lefel y cynnig
  • Trosolwg o’r metrigau allweddol ar gyfer monitro a gwerthuso (yn ymdrin â mewnbynnau, allbynnau, deilliannau ac effeithiau), wedi’u llywio gan amcanion y cynnig a Damcaniaeth Newid.
  • Trefniadau darparu adnoddau a llywodraethu ar gyfer monitro a gwerthuso ar lefel y cynnig gan gynnwys unrhyw ymrwymiad adnoddau / cyllideb a ph’un a oes cynlluniau clir ar gyfer lledaenu a defnyddio canlyniadau.

Adolygwch (Atodiad E- Canllawiau Monitro a Gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro – gweler i gael mwy o wybodaeth ac arweiniad.

Adran 4: Sut bydd y Gronfa’n Gweithredu yng Ngogledd Iwerddon

Rydym yn gweithredu’n wahanol wrth gyflwyno’r Gronfa yng Ngogledd Iwerddon, sy’n adlewyrchu’r dirwedd llywodraeth leol wahanol o gymharu â Lloegr, yr Alban, a Chymru.

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Gan gydnabod y dirwedd llywodraeth leol wahanol yng Ngogledd Iwerddon, bydd sefydliadau gwahanol yn gymwys i ymgeisio o gymharu â Lloegr, yr Alban, a Chymru. Bydd Llywodraeth y DU yn derbyn cynigion gan amrywiaeth o ymgeiswyr lleol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fusnesau, prifysgolion, sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, cynghorau dosbarth, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

Ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn benodol, mae gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon lawer o’r pwerau perthnasol. Os mai nhw yw’r ymgeisydd arweiniol, mae’n rhaid iddynt ymgysylltu â’r cyngor lleol perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae’r cynnig wedi’i leoli, er mwyn cael ei ystyried am gyllid. Ar gyfer unrhyw gynigion yng Ngogledd Iwerddon sydd ag elfennau trafnidiaeth, mae cymorth gan y cyngor lleol perthnasol a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ofyniad cymhwysedd.

Nid yw Adrannau Gweithredol Gogledd Iwerddon yn gymwys i wneud cais am brosiectau o dan y themâu diwylliant ac adfywio, lle dylai’r prif ymgeisydd weithredu ar lefel fwy lleol.

Ym mhob achos, bydd angen i’r ymgeisydd fod â’r pwerau a/neu’r caniatadau perthnasol i gyflawni’r prosiectau sy’n ffurfio rhan o’i gynnig.

Mae rôl ASau yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon hefyd – er na allant ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i gynigion fel rhan o’r broses asesu fel yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, gallant ddarparu cymorth cyffredinol fel rhan o’r broses ehangach ymgysylltu â rhanddeiliaid. Anogir ymgeiswyr i ymgynghori ag ASau lleol ac Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol wrth baratoi eu cynigion; fodd bynnag, nid yw’r cymorth hwn yn amod nac yn ofyniad er mwyn i gynnig fod yn llwyddiannus.

Gan y gall ystod ehangach o sefydliadau wneud cais i’r Gronfa yng Ngogledd Iwerddon, disgwyliwn i ymgeiswyr, trwy ddau faen prawf porth ychwanegol, ddangos bod y capasiti a’r gallu ganddynt i gyflawni prosiectau cyfalaf. Gweler yr adran ar y Porth, Asesiadau a Gwneud Penderfyniadau isod.

Yn wahanol i ymgeiswyr o Loegr, yr Alban, a Chymru, nid yw niferoedd lwfans cynigion Gogledd Iwerddon ar gyfer ymgeiswyr ar draws y mathau gwahanol o gynigion yn cael eu pennu gan y meini prawf cymhwysedd a ddefnyddir yn Lloegr, yr Alban, a Chymru. Anogir ymgeiswyr Gogledd Iwerddon i flaenoriaethu cynigion drwy gyflwyno’r rheiny y cred ymgeiswyr fydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae ymgeiswyr aflwyddiannus o gylch cyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn gymwys i wneud cynnig arall gyda fersiwn o’u cynnig yn y cylch hwn, ac mae croeso iddynt wneud, gan nodi’r newidiadau i’r cais, asesiad, a phrosesau gwneud penderfyniadau yn y cylch hwn, neu gyda chais newydd a gwahanol.

Canfod risg a gwiriadau diwydrwydd dyladwy ariannol

Fel corff ariannu cyhoeddus, mae gan DLUHC a’r Adran Drafnidiaeth ddyletswydd i asesu lefel y risg sy’n gysylltiedig ag unrhyw gynnig ariannu neu brosiectau rydym yn eu cefnogi. Er mwyn monitro a rheoli’r risg hon, cynhelir cyfres o wiriadau trwy gydol y broses sy’n ein helpu i asesu lefel y risg sy’n gysylltiedig â sefydliadau ymgeisio (oni bai yr ystyrir eu bod wedi’u heithrio).

Ceisiadau gan sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus

Bydd y sefydliadau canlynol a ariennir yn gyhoeddus wedi’u heithrio o’r gwiriadau Cam 1 hyn:

  • adrannau’r llywodraeth;
  • cyrff cyhoeddus anadrannol;
  • cyrff hyd braich;
  • corfforaethau cyhoeddus;
  • awdurdodau lleol, ni waeth beth yw eu strwythur (e.e., bwrdeistref sirol, dosbarth, dinas, unedol);
  • sefydliadau (gan gynnwys sefydliadau yn y sector preifat) y mae’r mwyafrif ohonynt ym mherchnogaeth neu’n cael eu rheoli gan sefydliad sector cyhoeddus neu gyfuniad o sefydliadau sector cyhoeddus yn y DU. Bydd ‘Perchnogaeth mwyafrifol’ yn golygu mai’r sefydliad cyhoeddus:
    • yw perchennog buddiol mwy na 50% o gyfalaf cyfranddaliadau’r sefydliad hwnnw neu gyfwerth,
    • sydd â’r gallu i benodi’r rhai sy’n rheoli, neu sy’n pennu polisi’r endid; a/neu
    • sydd â hawl i fynnu ceisio eu barn ar benodiadau o’r fath, neu i gael feto dros benodiadau; a/neu
    • sydd â darpariaeth cyllid yn cyd-fynd â hawliau rheoli dros sut y caiff yr arian hwnnw ei wario; a/neu
    • sydd â hawl gyffredinol i reoli rhediad y corff o ddydd i ddydd.

Gwiriad Risg (nid yw’n gymwys i sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus):

Bydd gwiriadau’n cael eu cwblhau ar bob sefydliad nad yw’n cael ei ariannu’n gyhoeddus gan gynnwys yr holl sefydliadau cefnogi rydych chi’n gweithio ar y cyd â nhw sydd hefyd yn sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus. Os yw’r prif ymgeisydd yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, rhaid iddo fod yn fodlon bod unrhyw endidau nad ydynt yn cael eu hariannu’n gyhoeddus y maent yn gweithio ar y cyd â nhw yn bodloni’r gwiriadau risg a diwydrwydd dyladwy ariannol angenrheidiol fel y nodir yn y Nodyn Technegol hwn.

Mae’r mathau o wiriadau y byddwn yn eu cynnal yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

  • wirio gwybodaeth y mae’r ymgeisydd wedi’i darparu am y sefydliad yn erbyn gwybodaeth sydd ar gael drwy gofnodion cyhoeddus fel Tŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau ac ati.
  • cynnal gwiriad adnabod o uwch reolwyr fel prif weithredwyr, cyfarwyddwyr, ysgrifenyddion cwmnïau yn erbyn cofnodion cyhoeddus.
  • cwblhau gwiriadau diwydrwydd dyladwy ariannol yn erbyn manylion sydd ar gael i ni drwy asiantaethau cofnodion credyd a chyfrifon ariannol yr ymgeisydd.
  • cwblhau gwiriadau dilysu cefndir i ddarparu sicrwydd y byddai’n ddiogel ymddiried arian cyhoeddus i sefydliad yr ymgeisydd. Bydd hyn yn cael ei gwblhau gan ddefnyddio offeryn diwydrwydd dyladwy llywodraeth sydd â dangosyddion risg rhagddiffiniedig.
  • ymgymryd â gwiriadau ar-lein o wefan sefydliad yr ymgeisydd, tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i werthuso lefel y risg. Lle mae pryderon neu risgiau annerbyniol o uchel wedi’u nodi, cadwn yr hawl i wrthod ceisiadau yng Ngham 1 y Porth. Mae’n bwysig bod y wybodaeth a ddarperir mewn ceisiadau yn gywir ac yn gyfredol.

Prosiectau ar y cyd sy’n cynnwys sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus a sefydliadau nas ariennir yn gyhoeddus

Lle mae’r ymgeisydd arweiniol yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus a bod cynlluniau i’r grant gael ei rannu ymhlith partneriaid prosiect, disgwyliwn i ymgeiswyr arweiniol gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy priodol, gan gynnwys asesiadau risg ariannol. Wrth gyflwyno ceisiadau, bydd Prif Swyddog Ariannol yr ymgeisydd yn gyfrifol am ddatgan bod gwiriadau digonol wedi’u cwblhau, a chadarnhau y bydd rheolaethau llywodraethu cadarn a threfniadau cyfreithiol ar waith i ddiogelu’r defnydd o arian cyhoeddus.

Os yw ymgeiswyr yn bwriadu rhannu’r grant gyda thrydydd partïon trwy drefniant is-grant, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr egluro hyn yn y cais. Mae’r Gronfa’n cadw’r hawl i ofyn am ragor o wybodaeth am bartneriaid prosiect ymgeiswyr cyn mynd ymlaen i roi cytundeb grant. Gallwn hefyd benderfynu cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ychwanegol i ddilysu partneriaid prosiect pe baem o’r farn fod hyn yn angenrheidiol.

Ymgeiswyr nas ariennir yn gyhoeddus

Ar gyfer cyflawni yng Ngogledd Iwerddon, bydd pob ymgeisydd sy’n cymryd rhan mewn ceisiadau ac eithrio’r rhai lle mae’r unig ymgeisydd neu’r prif ymgeisydd yn sefydliad sector cyhoeddus yn destun gwiriad diwydrwydd dyladwy ariannol. Os cyflwynir cais ar y cyd ag ymgeisydd arweiniol sy’n sefydliad sector cyhoeddus gydag ymgeiswyr partner nad ydynt yn sefydliadau sector cyhoeddus, rhaid i’r prif ymgeisydd fod yn fodlon bod yr holl ymgeiswyr nad ydynt yn rhai sector cyhoeddus yn bodloni’r gwiriadau risg a diwydrwydd dyladwy angenrheidiol (fel y nodir yn y Nodyn Technegol hwn) gan na fyddant yn destun gwiriadau diwydrwydd dyladwy ariannol ychwanegol gan yr adran.

Mae sefydliad nad yw’n un sector cyhoeddus ym mherchnogaeth fwyafrifol grwpiau neu bobl breifat, fel arfer fel modd o sefydlu ar gyfer elw neu ddi-elw, yn hytrach na bod yn eiddo i’r llywodraeth neu o dan ei pherchnogaeth fwyafrifol.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o sefydliadau y bydd yr adran yn eu hystyried yn rhai nad ydynt yn rhai sector cyhoeddus.

  • busnesau sector preifat neu gyd-fentrau (boed yn gyfyngedig drwy gyfranddaliadau neu drwy warant);
  • partneriaethau / Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig;
  • sefydliadau gwirfoddol (ni waeth am statws elusennol neu anelusennol);
  • cwmnïau buddiannau cymunedol;
  • colegau addysg uwch ac addysg bellach a chyfwerth;
  • Prifysgolion

Mae gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) a’r Adran Drafnidiaeth bolisi dim goddefgarwch tuag at gamddefnyddio arian cyhoeddus a thwyll. Os sefydlwn risg twyll yn ystod ein gwerthusiad o’r cais, byddwn yn gwrthod y cais a gallwn adrodd am hyn wrth yr Heddlu a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Os yw’r cais yn llwyddiannus a sefydlir bod gweithgarwch twyllodrus wedi digwydd wrth reoli’r grant, byddwn yn gweithredu mesurau i adennill yr arian. Byddwn hefyd yn tynnu’n ôl unrhyw daliadau yn y dyfodol a byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am hyn. Byddwn yn ymgymryd â gwiriadau sicrwydd prosiect a diwydrwydd dyladwy ar gyfnodau allweddol drwyddi draw. Rhaid i’r ymgeisydd beidio â darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn y cais nac ar unrhyw adeg yn ystod oes y prosiect grant.

Rhaid i dderbynyddion grant sicrhau bod ganddynt reolaethau llywodraethu a rheolaethau ariannol digonol ar waith i atal a lliniaru twyll neu gamddefnydd o’r cyllid grant, gan gynnwys mesurau i osgoi a lliniaru gwrthdaro buddiannau. Disgwyliwn i dderbynyddion (gan gynnwys partneriaid prosiect) gydymffurfio â safonau moesegol a phroffesiynol ac egwyddorion arfer gorau a bennir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Derbynyddion Grant Cyhoeddus yma.

Byddwn yn cynnal gwiriadau archwilio fel rhan o’n mesurau sicrwydd prosiect; darperir rhagor o wybodaeth am hyn i’r ymgeiswyr llwyddiannus pan fyddwn yn sefydlu’r grant.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddisgrifio’r gweithdrefnau llywodraethu o dan yr adran Ymarferoldeb Cyflawni ar y ffurflen gais.

Cyfrifon Ariannol

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr (gan gynnwys y rhai a restrir fel ymgeiswyr ar y cyd mewn cynigion ar y cyd) nad ydynt wedi’u heithrio o’r gwiriad Cam 1 Porth gyflwyno Datganiadau Ariannol archwiliedig ar gyfer y tair blynedd ariannol ddiweddaraf. Mae’n ofynnol i elusennau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gyflwyno cyfrifon blynyddol y tair blynedd ariannol ddiwethaf sydd wedi’u harolygu/eu harchwilio’n annibynnol. I gydymffurfio â’r agwedd hon, ystyrir bod ymgeiswyr sy’n cyflwyno naill ai dim cyfrifon ariannol, Datganiadau Ariannol archwiliedig (neu gyfrifon blynyddol archwiliedig ar gyfer elusennau cofrestredig) ar gyfer llai na thair blynedd ariannol neu gyfrifon heb eu harchwilio’n unig, wedi methu gofyniad y Porth.

Dangos rheolaeth ar brosiect cyfalaf

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr (gan gynnwys y rhai a restrir fel ymgeiswyr ar y cyd mewn cynigion ar y cyd) nad ydynt wedi’u heithrio ddarparu tystiolaeth hefyd sy’n dangos eu bod wedi cyflawni’n uniongyrchol ddau brosiect seilwaith cyfalaf o faint a graddfa debyg i’r prosiect fel cyfanrwydd. Rhaid i’r prosiectau hyn fod wedi’u dechrau a’u cwblhau o fewn y pum mlynedd diwethaf a chael eu cyflawni o fewn cyd-destun daearyddol tebyg. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio fel rhan o’n gwiriadau Cam 1 Porth er mwyn pennu gallu ariannol a gweithredol blaenorol ymgeiswyr.

Mae hyn yn wahanol i’r adran Ymarferoldeb Cyflawni o’r fframwaith asesu, sy’n canolbwyntio ar y trefniadau partneriaeth arfaethedig. Lle nad yw cynigion heb eu heithrio wedi’u cefnogi gyda thystiolaeth o gyflawni, ystyrir eu bod wedi methu meini prawf y Porth.

Cyllid Capasiti

Gwnaed taliad cyllid capasiti untro o £125,000 i bob awdurdod lleol yng Ngogledd Iwerddon gyda’r prif fwriad o gefnogi’r awdurdodau lleol hyn i ddatblygu eu ceisiadau drwy gydol oes y Gronfa. Ni wneir taliadau capasiti pellach.

Adran 5: Y broses ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon

Paratoi a Chyflwyno Ceisiadau

Yn yr un modd ag awdurdodau cynigion yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, gwahoddir ymgeiswyr Gogledd Iwerddon i gyflwyno cais cyfalaf drwy’r porth ymgeisio ar-lein, a fydd yn mynd yn fyw o 31 Mai 2022 ac yn cau am 12:00 canol dydd ar 6 Gorffennaf 2022. Gall cynnig cyfalaf fod ar gyfer prosiect unigol neu becyn o hyd at dri phrosiect, hyd at £20 miliwn mewn gwerth grant fesul bid. Bydd cynigion trafnidiaeth a diwylliant mawr o hyd at £50 miliwn yn cael eu hystyried fel eithriad.

Mae’r ffurflen gais yn cyd-fynd â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM. Wrth gwblhau eu cais, dylai awdurdodau lleol roi sylw i’r Llyfr Gwyrdd gan gynnwys Atodiad A2: Dadansoddiad Seiliedig ar Le.

Gall ymgeiswyr sy’n cyflwyno cynigion unigol, ar y cyd, pecyn a mawr gynnwys cynigion o fewn un thema, neu ar draws themâu lluosog, cyn belled â’u bod yn rhan o gynnig cydlynol, cyson. Wrth nodi canran y thema/themâu o fewn cynnig, dylai ymgeiswyr ddiffinio hyn yn ôl costau prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgaredd i gefnogi pob thema. Er enghraifft, pe bai 75% o gyfanswm gwerth cynnig yn cynnwys costau prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgaredd i gefnogi allbwn neu ganlyniad adfywio, gyda 25% o gostau’n gysylltiedig â gweithgaredd i gefnogi allbwn neu ganlyniad diwylliant, byddai’n cael ei ddiffinio fel cais 75% adfywio a 25% diwylliant.

Nid oes isafswm gwerth grant y Gronfa Ffyniant Bro y gall ymgeiswyr wneud cais amdano.

Mae ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro yn agored i brosiectau sy’n gallu dangos gwariant o’r Gronfa ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Byddem yn disgwyl i’r holl gyllid a ddarperir o’r Gronfa gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2025, ac erbyn 2025-26 ar sail eithriadol.

Rhaid cyflwyno pob cynnig yn llawn, gyda’r holl ddogfennaeth ategol ar y porth ymgeisio ar-lein erbyn 12:00 canol dydd, ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022. Ni fydd unrhyw gynigion neu ddogfennaeth ategol a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer eu cyllido. Bydd cynigion yn cael eu hasesu a’u sgorio ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Bydd gwybodaeth sydd heb ei darparu neu wybodaeth anghyflawn yn cael effaith ar asesiad y cynnig.

Cynigion Pecyn

Mae cynnig pecyn yn cynnwys dau neu dri phrosiect gan un ymgeisydd. Rhaid i gynigion pecyn esbonio’n eglur sut mae eu gwahanol elfennau yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cynrychioli set gydlynus o ymyriadau. Byddant yn cael eu hasesu gyda’i gilydd ar lefel y cynnig yn hytrach nag fel prosiectau unigol. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno set gydlynus o ymyriadau yn unol â nodau’r Gronfa.

Felly, mae angen i ni allu asesu sut mae pecynnau o brosiectau yn gweithio gyda’i gilydd. Os oes gwendidau yn un o’r prosiectau, dylai lleoedd fod yn ystyriol y bydd yn effeithio’n niweidiol ar sgôr gyffredinol eu cynnig.

Cynigion ar y Cyd

Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr eisiau cyflwyno cais ar y cyd. Mae cais ar y cyd yn cynnwys un prosiect, neu hyd at dri phrosiect sy’n cynrychioli set gydlynol o ymyriadau, gan ymgeiswyr lluosog. Gall hyn fod yn briodol lle mae prosiectau yn croesi ffiniau gweinyddol. Gall pob ymgeisydd ofyn am uchafswm o £20 miliwn o gyllid mewn cais ar y cyd. Er enghraifft, gallai cais ar y cyd gan ddau ymgeisydd ofyn am uchafswm o £40 miliwn. Cyfanswm y buddsoddiad mwyaf ar gyfer unrhyw gais ar y cyd yw £60m. Os bydd cais ar y cyd ar gyfer set o hyd at dri phrosiect, ni ellir gofyn am fwy na £50 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer unrhyw brosiect un elfen unigol o fewn cynnig ar y cyd.

Cynigion Mawr

Cynigion trafnidiaeth mawr sy’n mynnu hyd at £50 miliwn

Yn yr un modd ag ymgeiswyr yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, bydd cynigion am brosiectau trafnidiaeth mawr yn cael eu derbyn ar sail eithriadol a rhaid iddynt fod yn gynigion “trafnidiaeth yn unig”. Bydd angen i gynigion o’r fath fod rhwng £20 miliwn a £50 miliwn mewn gwerth grant a gellir eu cyflwyno gan ymgeisydd cyn belled â bod ganddo gefnogaeth yr awdurdod sydd â chyfrifoldeb statudol dros drafnidiaeth – a cheir tystiolaeth o hynny ar ffurf profforma wedi’i chwblhau.

Dylid cyflwyno cais drwy’r porth ceisiadau ar-lein ar gyfer pob cynnig mawr yn yr un modd â chynigion eraill ar gyfer ail gylch y Gronfa. Yn achos cynigion llwyddiannus, bydd angen gwerthuso achos busnes manylach cyn y gellir cadarnhau cyllid. Bydd yr achosion busnes hyn yn cael eu hasesu unwaith y gwneir y cyhoeddiadau. Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn cynghori, ar ôl ystyried y ffurflen gais, pa wybodaeth bellach sydd ei hangen fel rhan o adolygiad achos busnes manylach. Bydd angen cymeradwyo achos busnes cyn y gellir rhoi’r holl gyllid.

Ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn benodol, mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn dal llawer o’r pwerau perthnasol. Os nhw yw’r prif ymgeisydd, rhaid iddynt ymgysylltu â’r cyngor lleol perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae’r cais wedi’i leoli ynddi a sicrhau ei gefnogaeth, er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cyllid. Ar gyfer unrhyw gynigion yng Ngogledd Iwerddon sydd ag elfennau trafnidiaeth, mae cymorth gan y cyngor lleol perthnasol a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ofyniad cymhwysedd.

Cynigion diwylliant mawr sy’n mynnu hyd at £50 miliwn

Yn ogystal, yn ail gylch y Gronfa, rydym yn barod i ariannu cynigion mawr am hyd at £50 miliwn o dan thema diwylliant y Gronfa yng Ngogledd Iwerddon. Bydd y cynigion hyn yn cael eu hariannu ar sail eithriadol i sicrhau ffocws y Gronfa ar fuddsoddi mewn prosiectau lleol ar raddfa lai ac ystyried lledaeniad teg ar draws Gogledd Iwerddon. Bydd angen i gynigion o’r fath fod rhwng £20 miliwn a £50 miliwn mewn gwerth grant. Rhaid i’r rhain fod yn ddiwylliant 90% o leiaf (fel y’u diffinnir gan ganran costau’r prosiect sy’n gysylltiedig â gweithgaredd i gefnogi thema buddsoddi’r cynnig), a rhaid i’r buddsoddiad sy’n weddill fod yn gysylltiedig ag elfen ddiwylliant y cynnig. Dylai hefyd fod yn unol â ffocws y Gronfa ar ymyriadau tra gweladwy sy’n hybu balchder lleol mewn lle.

Dylid cyflwyno cais drwy’r porth ceisiadau ar-lein ar gyfer pob cynnig mawr yn yr un modd â chynigion eraill ar gyfer ail gylch y Gronfa.

Bydd ceisiadau am gynigion diwylliant mawr yng Ngogledd Iwerddon yn destun yr un prosesau asesu a gwneud penderfyniadau â chynigion eraill. Dylai ymgeiswyr nodi y dylai lefel y manylion a ddarperir yn y cais fod yn gymesur â swm y cyllid y mae’r ymgeisydd yn gofyn amdano.

Ar gyfer cynigion llwyddiannus, bydd angen cymeradwyo achos busnes manylach cyn y gellir cadarnhau cyllid. Bydd y rhain yn cael eu hasesu unwaith y gwneir y cyhoeddiadau. Bydd DLUHC yn cynghori, ar ôl ystyried y ffurflen gais, pa wybodaeth bellach sydd ei hangen fel rhan o adolygiad achos busnes manylach.

Gwybodaeth sy’n ychwanegol at y ffurflen gais

Er bod rhai atodiadau y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr eu llenwi (drwy’r dogfennau profforma a ddarparwyd) a rhai dogfennau ychwanegol y gofynnwn amdanynt fel tystiolaeth, rhaid i ymgeiswyr gyfeirio at destun ychwanegol penodol y maent wedi’i gyflwyno os ydynt yn dymuno iddo gael ei ystyried yn yr asesiad. Rhaid i unrhyw ateb sy’n cyfeirio at unrhyw wybodaeth a gynhwyswyd yn yr atodiadau fod yn berthnasol i gwestiwn penodol yn y ffurflen gais ac wedi’i gyfeirnodi yn yr ateb.

Ar gyfer unrhyw atodiadau, nodwch y canlynol:

  • ni fydd ymgeiswyr yn gallu cyflwyno mwy na chyfanswm o 25 o atodiadau. Bydd rhagor o wybodaeth am gyflwyno atodiadau yn cael ei darparu mewn canllaw defnyddiwr.
  • ni allwn dderbyn dolenni wedi’u hymgorffori na rhannu ffeiliau, ac ni fydd gwybodaeth a gyflwynir fel hyn yn cael ei hystyried
  • mae ffolder gyda nifer o ddogfennau profforma y dylai ymgeiswyr eu defnyddio i ddarparu atodiadau penodol ar gael yn GOV.UK

Mae’r rhestr hon yn amlinellu’r ychwanegiadau a’r atodiadau y byddem yn disgwyl i ymgeiswyr eu cyflwyno (er nad yw’r rhestr yn gyflawn):

  • Gweithlyfr Costau a Chynllunio (ar gyfer cynigion pecyn, cwblhewch y Llyfr Gwaith Costau a Chynllunio ar gyfer cynigion pecyn)
  • tystiolaeth o ymgysylltiad â rhanddeiliaid
  • dogfen Damcaniaeth Newid
  • tystiolaeth o arian cyfatebol wedi’i gadarnhau, darpariaeth tir gan drydydd partïon fel rhan o gyfraniad lleol a thystiolaeth ar ffurf llythyr gan brisiwr annibynnol i ddilysu gwir werth marchnad y tir
  • cynllun cyflawni
  • tystiolaeth yn ymwneud â chaniatadau statudol/caffael tir statudol
  • copi o’r gofrestr risg
  • nodyn esboniadol am y modd y cyfrifwyd y Gymhareb Cost a Budd
  • ffeil GIS (argymhellir ar gyfer prosiectau sy’n cwmpasu nifer o leoliadau) a map yn diffinio ardal y buddsoddiad
  • datganiad o gydymffurfio wedi’i lofnodi gan y Prif Swyddog Ariannol (drwy’r profforma a ddarparwyd)

Yn benodol i gynigion ar y cyd:

  • tystiolaeth o gefnogaeth gan bob partner i ddilysu’r cynnig cyfunol (trwy Profforma 3)

Yn benodol i brosiectau trafnidiaeth:

  • profforma o gefnogaeth gan yr awdurdod perthnasol sydd â chyfrifoldeb statudol ar gyfer trafnidiaeth (trwy Profforma 4)
  • tystiolaeth arall y mae’r ymgeisydd o’r farn ei bod yn cefnogi’r atebion a ddarparwyd yn yr adran Achos Economaidd. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, os yw’n gymesur â maint y cynnig y maent yn ei gyflwyno: tabl crynodeb o’r gwerthusiad, modelu perthnasol, rhagolygon ac adroddiadau data perthnasol, taenlenni Pecyn Cymorth Arfarnu Modd Gweithredol (AMAT), allbynnau Arfarnu Budd Defnyddwyr Trafnidiaeth (TUBA) a phecynnau cymorth arfarnu cynlluniau bach
  • ar gyfer cynigion trafnidiaeth mawr, gallai tystiolaeth y gall ymgeisydd ei chynnwys i gefnogi ei atebion gynnwys Cynllun Sicrwydd a Chymeradwyaeth Integredig ac Adroddiad Asesu Opsiynau.

Gofynion ychwanegol yn benodol i ymgeiswyr Gogledd Iwerddon:

  • datganiadau ariannol archwiliedig (neu gyfrifon blynyddol archwiliedig ar gyfer elusennau cofrestredig) sy’n cwmpasu’r tair blynedd ariannol ddiwethaf gan bob ymgeisydd nad yw’n gyhoeddus (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn y sector cyhoeddus a restrir fel ymgeiswyr ar y cyd mewn cynigion ar y cyd)
  • tystiolaeth sy’n dangos bod dau brosiect seilwaith cyfalaf o faint a graddfa debyg wedi’u cyflawni’n uniongyrchol gan bob ymgeisydd (gan gynnwys y rheini nad ydynt yn y sector cyhoeddus a restrir fel ymgeiswyr ar y cyd mewn cynigion ar y cyd)
  • tystiolaeth o gefnogaeth gan yr NIE a’r cyngor lleol perthnasol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth (trwy Profforma 4)
  • cyngor cyfreithiol annibynnol ar gyfundrefn rheoli cymhorthdal y DU a/neu gydymffurfio â Chymorth Gwladwriaethol (ar gyfer pob ymgeisydd nad yw’n rhan o’r sector cyhoeddus)
  • dogfen ar Gymorth Gwladwriaethol i ddangos effaith cymhelliant yn unol â Rheoliad 6(2).

Porth, Asesu a Gwneud Penderfyniadau

Yn yr un modd â chynigion Lloegr, yr Alban, a Chymru, bydd ceisiadau ar gyfer Gogledd Iwerddon hefyd yn cael eu hasesu gan ddefnyddio proses tri cham.

Yn yr un modd ag ymgeiswyr o Loegr, yr Alban, a Chymru, dylai ymgeiswyr yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at Dabl 1 i gael gwybodaeth yn ymwneud â’r fframwaith ar gyfer asesu, sgorio a llunio rhestr fer o’r cynigion.

Cam 1 Porth

Y cam cyntaf yw maen prawf porth llwyddo/methu, lle bydd yr holl gynigion Gogledd Iwerddon yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Rhaid cyflwyno cynigion drwy’r porth ymgeisio ar-lein erbyn 12:00 canol dydd, ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022.
  • Rhaid i gynigion gadarnhau y bydd rhywfaint o gyllid grant y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei thalu yn y flwyddyn ariannol 2022/23[footnote 1].
  • Ni ddylai cynigion ymgeisio uwchlaw uchafswm gwerth y grant a ganiateir ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar y cyd a chynigion pecyn.
  • Rhaid i gynigion ar y cyd gynnwys tystiolaeth o gymorth gan y parti arall neu’r partïon eraill er mwyn dilysu’r cynnig cyfunol (drwy Profforma 3 a ddarperir).
  • Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r asesiad risg rheoli cymorthdaliadau/Cymorth gwladwriaethol.
  • Rhaid i bob cynnig gydag elfen drafnidiaeth gynnwys Profforma o gefnogaeth gan y cyngor lleol perthnasol sydd â chyfrifoldeb statudol am drafnidiaeth (trwy Profforma 4 a ddarperir ar gyfer ymgeiswyr Gogledd Iwerddon)
  • Rhaid i gynigion gael eu llofnodi gan y Prif Swyddog Ariannol (fel y swyddog A54 ar gyfer ymgeiswyr awdurdod lleol).

Yng Ngogledd Iwerddon, am resymau dichonoldeb, yn achos cynigion sengl neu rai ar y cyd lle mae’r ymgeiswyr cyfranogol yn dod o sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus, rhaid i bob ymgeisydd gyflawni’r canlynol:

  • darparu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf. Rhaid i elusennau cofrestredig gael eu hategu gyda chyfrifon archwiliedig y tair blynedd diwethaf neu gyfrifon a archwiliwyd yn annibynnol (gan ddibynnu ar incwm gros yr elusen);
  • darparu tystiolaeth sy’n dangos eu bod wedi cyflawni’n uniongyrchol ddau brosiect seilwaith cyfalaf o faint a graddfa debyg i’r prosiect yn ei gyfanrwydd. Mae’n rhaid bod y prosiectau hyn wedi’u dechrau a’u cwblhau o fewn y pum mlynedd diwethaf;
  • llwyddo yn y gwiriadau diwydrwydd dyladwy ariannol, fel y nodwyd uchod.

Dylai ymgeiswyr nodi bod y wybodaeth a aseswyd yng Ngham 1 Porth yn eistedd y tu allan i’r fframwaith sgorio ond y bydd yn effeithio ar y modd y caiff y cais ei brosesu. Ni fydd cynigion sy’n methu un neu fwy o feini prawf y porth yn cael eu hasesu ac ni fyddant yn gymwys i gael eu hystyried am gyllid. Mae’r adrannau’n cadw’r hawl i wrthod cynigion ar sail y gwiriadau a wnaed ar y wybodaeth a ddarparwyd i’w hasesu yng Ngham 1 Porth, gan gynnwys os nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn cael ei chyflwyno mewn pryd neu os yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn annigonol.

Cam 2 Asesu a Llunio Rhestr Fer

Caiff cynigion eu hasesu yn erbyn 3 o’r 4 maen prawf a nodir yn y prosbectws. Mae hyn oherwydd nad oes Mynegai Nodweddion o Leoedd yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer yr ail gylch. Bydd ceisiadau Gogledd Iwerddon yn cael eu hasesu yn erbyn ffit strategol, yr achos economaidd ac ymarferoldeb cyflawni yn yr un modd â chynigion Lloegr, yr Alban, a Chymru (gweler Tabl 1 uchod am y manylion), ac eithrio cefnogaeth AS na fydd yn cael ei hadlewyrchu yn yr asesiad, gan na ofynnir i ASau gynnig cefnogaeth â blaenoriaeth i gynigion. Mae pwys cyfartal i’r tri maen prawf. Oni ddatganwyd fel arall, caiff pwys cyfartal ei roi hefyd i’r is feini prawf o dan Ffit Strategol, Ymarferoldeb Cyflawni a’r Achos Economaidd. Mae’r is feini prawf o fewn pob maen prawf wedi’u hamlinellu yn Nhabl 1. Bydd rhestr fer ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei llunio o’r cynigion hynny sy’n sgorio’r uchaf yn gyffredinol, ac sy’n sgorio o leiaf y cyfartaledd neu uwch o ran ffit strategol, yr achos economaidd (gyda graddfa “Gwerth am Arian” leiaf), ac ymarferoldeb cyflawni.

Yn yr un modd ag ymgeiswyr yn Lloegr, yr Alban, a Chymru, dylai ymgeiswyr nodi, yn ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro, fod yna wahaniaethau o ran y modd y byddwn ni’n asesu’r Achos Economaidd (galwyd yn flaenorol yn feini prawf Gwerth am Arian yn y cylch cyntaf). Yn yr ail gylch, mae’r meini prawf Achos Economaidd wedi’u symleiddio o bump is faen prawf i bedwar. Mae “Priodoldeb ffynonellau data a thystiolaeth” ac “Effeithiolrwydd y cynnig wrth fynd i’r afael â phroblemau” bob un yn cyfrannu 20% tuag at y sgôr Achos Economaidd gyffredinol; ac mae “Dadansoddi costau a buddion” a “Gwerth am arian y cynnig” bob un yn cyfrannu 30% tuag at sgôr gyffredinol yr Achos Economaidd. Yn olaf, mae sgôr asesu isafswm newydd wedi’i gosod ar gyfer yr is faen prawf “gwerth am arian y cynnig”. Mae pob un o’r newidiadau hyn yn cyfrannu at roi mwy o bwyslais i werth am arian cyffredinol y cynnig.

Cam 3 Gwneud Penderfyniadau

Pan fydd y gwaith asesu a safoni cynigion wedi’i gwblhau, a’r rhestr fer wedi’i llunio, bydd gweinidogion yn gwneud penderfyniadau ariannu o restr Gogledd Iwerddon o gynigion. Gall Gweinidogion ystyried rhai o’r ystyriaethau ychwanegol hyn hefyd, neu bob un ohonynt, yn eu penderfyniadau:

  • sicrhau rhaniad thematig rhesymol o brosiectau cymeradwy (e.e., ar draws adfywio a chanol trefi, trafnidiaeth a diwylliant a threftadaeth)
  • sicrhau lledaeniad teg o brosiectau cymeradwy ar draws Gogledd Iwerddon, a rhwng ardaloedd gwledig a threfol
  • sicrhau cydbwysedd teg o brosiectau cymeradwy ar draws lleoedd mewn angen
  • blaenoriaethu naill ai ‘Ffit Strategol’ neu ‘Ymarferoldeb Cyflawni’ neu ‘Achos Economaidd’ dros y meini prawf eraill (gan nodi bod rhaid cymhwyso hyn yn gyson i bob prosiect)
  • ystyried buddsoddiad arall mewn ardal leol gan gynnwys buddsoddiad a wnaed o gylch cyntaf y Gronfa i annog lledaeniad cyllid ffyniant bro ar draws lleoedd.

Dros gylch cyntaf ac ail gylch y Gronfa, bydd o leiaf 9% o gyfanswm dyraniadau’r DU yn cael eu neilltuo ar gyfer yr Alban, 5% ar gyfer Cymru, a 3% ar gyfer Gogledd Iwerddon, yn amodol ar gyflwyno nifer addas o gynigion o ansawdd uchel.

Atodiad A: Geirfa

Cynnig unigol

Cyflwyniad sy’n cynnwys un prosiect gan un endid sy’n ymgeisio / awdurdod lleol

Cynnig pecyn

Cyflwyniad sy’n cynnwys dau neu dri phrosiect gan un endid sy’n ymgeisio / awdurdod lleol

Cynnig ar y cyd

Cyflwyniad sy’n cynnwys un prosiect neu becyn o hyd at dri phrosiect gan fwy nag un endid neu awdurdod lleol sy’n ymgeisio

OAR

Adroddiad Asesu Opsiynau

Dadansoddiad Cost a Budd (CBA)

Dadansoddiad sy’n asesu gwerth gymaint o gostau a buddion cynnig ag sy’n ymarferol, gan gynnwys eitemau nad yw’r farchnad yn rhoi mesur boddhaol o werth economaidd ar eu cyfer

Arfarniad

Mae’n cyfeirio at yr asesiad a wneir cyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol ac atebolrwydd i’r cyhoedd, ac effeithiau dosbarthiadol y gallai ymyriad eu cael

Cymhareb Cost a Budd (BCR)

Rhoddir gan y PVB / PVC ac mae’n dynodi faint o fudd a geir ar gyfer pob uned o gost, gyda BCR sy’n fwy nag 1 yn dynodi bod y buddion yn gorbwyso’r costau.

Gwerth Presennol Costau (PVC)

Swm costau a refeniwiau disgowntiedig i’r gyllideb sydd ar gael dros y cyfnod arfarnu ac mae’n rhoi gwerth yr effeithiau hyn ym mhrisiau blwyddyn sylfaen ddynodedig.

Gwerth Presennol Buddion (PVB)

Swm yr holl fuddion disgowntiedig ac anfuddion heb eu cynnwys yn y diffiniad o’r PVC dros y cyfnod arfarnu, ac mae’n rhoi gwerth yr effeithiau hyn ym mhrisiau blwyddyn sail benodedig

Effeithiau Dosbarthiadol (DIs)

Mae’n ystyried amrywiant effeithiau ymyriad ar draws grwpiau cymdeithasol gwahanol.

Tuedd Optimistiaeth (OB)

Y duedd systematig a ddangoswyd i arfarnwyr fod yn or-optimistaidd ynglŷn â pharamedrau prosiect allweddol, gan gynnwys costau cyfalaf, costau gweithredu, hyd y gwaith a chyflawni buddion.

Cymorth Blaenoriaeth Ffurfiol

Mae’n cyfeirio at y ffordd y gall ASau ddewis un cynnig i’w hyrwyddo yn yr ail gylch ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro (hyd yn oed os oedd eu cynnig yn llwyddiannus yn y cylch cyntaf) ar gyfer prosiect sydd o fantais uniongyrchol i etholaeth AS. Caiff y flaenoriaeth hon ei chydnabod a’i chyflwyno fel rhan o gais.

Asesiad Risg Meintioledig (QRA)

Mae’n galluogi i werth annisgwyl (diffinnir fel cyfartaledd yr holl ddeilliannau posibl, gan ystyried tebygolrwyddau gwahanol y deilliannau hynny’n digwydd) cost y cynnig gael ei gyfrifo. Dylai’r gwerth disgwyliedig hwn ffurfio’r amcangyfrif cost ‘wedi’i addasu yn ôl risg’.

Gwerthusiad

Proses ddadansoddol systematig sy’n archwilio effeithiolrwydd prosiect yn seiliedig ar ganlyniadau gwirioneddol. Gall hyn gynnwys pa wahaniaeth a wnaeth (gwerthuso effaith), p’un a oedd ei fuddion yn cyfiawnhau ei gostau (gwerthusiad economaidd) a sut y cafodd ei gyflawni (gwerthuso proses).

Atodiad B: Y fframwaith ymyriadau

Bydd ail gylch y Gronfa yn canolbwyntio ar yr un tair thema fuddsoddi graidd â’r cylch cyntaf: prosiectau trafnidiaeth llai sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ardaloedd lleol; adfywio canol trefi a’r stryd fawr; a chymorth ar gyfer cynnal ac ehangu portffolio asedau diwylliannol a threftadaeth y DU sy’n arwain y byd.

Bydd yr ymyriadau (neu weithgareddau) penodol a gefnogir drwy brosiectau unigol yn pennu’r deilliannau a gyflawnir, ac ar ôl hynny, y deilliannau a’r effeithiau a wireddir gan le ac, yn gyfunol, gan y Gronfa yn gyffredinol. Mae’r tablau isod yn cyflwyno rhestrau o allbynnau, deilliannau ac effeithiau, y gall ymgeiswyr eu defnyddio i helpu llywio dyluniad eu cynigion. Efallai y bydd ymgeiswyr eisiau cyfeirio at y fframwaith hwn wrth ddatblygu’r wybodaeth sydd i’w chyflwyno yn eu cynnig, gan gynnwys eu damcaniaeth newid, a fydd yn cael ei asesu.

Mae Tabl B1 yn rhestr o allbynnau “safonedig” a welwyd yng nghylch cyntaf y Gronfa. Anogir lleoedd yn gryf i ddylunio’u cynigion fel bod yr allbynnau a gyflawnir yn cyd-fynd â’r rhestr hon lle bo modd - er y cydnabyddir y gall rhai prosiectau newydd gynhyrchu allbynnau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr hon.

Mae Tabl B2 yn rhestr o ganlyniadau ac effeithiau y byddem yn disgwyl iddynt gael eu gwireddu drwy’r Gronfa ac felly anogir ymgeiswyr i ddylunio cynigion sy’n cyd-fynd â’r rhain – er nad yw’r rhestr yn hollgynhwysol.

Tabl B1 – Allbynnau Safonol y Gronfa Ffyniant Bro

Trafnidiaeth - Allbynnau safonol

  • Llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus newydd
  • Nodau trafnidiaeth gyda phwyntiau cysylltu amlfoddol newydd
  • Gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus
  • Llwybrau beicio newydd neu wedi’u gwella
  • Llwybrau cerdded newydd neu wedi’u gwella
  • Ffyrdd wedi’u troi’n llwybrau cerdded neu feicio
  • Ffyrdd wedi’u hadeiladu’n newydd
  • Ffyrdd ag arwyneb newydd/ffyrdd wedi’u gwella
  • Mannau parcio ceir newydd neu wedi’u gwella
  • Pwyntiau amgen gwefru tanwydd/ail-lenwi â thanwydd

Adfywio - Allbynnau safonol

  • Unedau preswyl newydd neu wedi’u gwella
  • Ôl-osodiadau gwyrdd i unedau preswyl presennol (h.y., gwella effeithlonrwydd ynni a/neu bontio i wres glân)
  • Ôl-osodiadau gwyrdd i unedau dibreswyl presennol (h.y., gwella effeithlonrwydd ynni a/neu bontio i wres glân)
  • Adeiladau dadfeiliedig wedi’u gwella
  • Safleoedd wedi’u clirio
  • Tir wedi’i adfer
  • Tir cyhoeddus wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod gwyrdd neu las wedi’i greu neu ei wella
  • Coed newydd wedi’u plannu
  • Amwynderau/cyfleusterau cyhoeddus wedi’u creu, eu gwella, neu’u hadleoli
  • Gofod llawr wedi’i ad-drefnu
  • Cynnydd o ran cwmpas 5G
  • Poethfannau Wi-Fi cyhoeddus newydd wedi’u gosod
  • Unedau masnachol ychwanegol gyda mynediad band eang o 30Mbps o leiaf
  • Unedau preswyl ychwanegol gyda mynediad band eang o 30Mbps o leiaf
  • Gofod gofal iechyd wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod addysgol wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod canolfan gymunedol wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod canolfan chwaraeon wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod manwerthu wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod lletygarwch wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod swyddfa wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod diwydiannol wedi’i greu neu ei wella
  • Gofod masnachol arall (heb ei nodi yn rhywle arall) wedi’i greu neu ei wella

Diwylliant - Allbynnau safonol

  • Gofod diwylliannol wedi’i greu neu ei wella
  • Adeiladau treftadaeth wedi’u hadnewyddu/hadfer
  • Cyfleoedd i wirfoddoli’n cael eu cefnogi

Tabl B2 – Deilliannau ac Effeithiau’r Gronfa Ffyniant Bro

Trafnidiaeth - Allbynnau ac Effeithiau

  • Newid yn y llif beiciau
  • Newid yn y llif cerddwyr
  • Newid mewn llif cerbydau
  • Newid mewn amser siwrneiau cerbydau
  • Newid yn niferoedd teithwyr
  • Newid yn yr oedi i gerbydau
  • Newid yn nibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus
  • Newid modd
  • Newid mewn profiad/bodlonrwydd teithwyr
  • Newid yn y niferoedd â Cherbydau Trydan (EV)
  • Newid yn ansawdd yr aer

Diwylliant - Allbynnau ac Effeithiau

  • Newid yn nifer yr ymwelwyr â lleoliadau diwylliannol
  • Newid yn nifer y digwyddiadau diwylliannol
  • Newid yn niferoedd cynulleidfa ar gyfer digwyddiadau diwylliannol
  • Newid yng ngwariant defnyddwyr mewn lleoliadau diwylliannol

Adfywio a chroestorri - Allbynnau ac Effeithiau

  • Newid yn nifer yr ymwelwyr
  • Newid mewn cynhyrchiant a thâl
  • Newid yn y gyfradd cyflogaeth
  • Newid mewn cyfraddau swyddi gweigion
  • Newid mewn canfyddiadau o le (busnesau, trigolion, ac ymwelwyr)
  • Newid mewn buddsoddiad busnes
  • Newid mewn barnau busnes
  • Newid mewn gwariant defnyddwyr
  • Newid yn nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru/cwblhau cyrsiau Addysg Bellach ac Addysg Uwch
  • Newid yn iechyd trigolion (corfforol a/neu feddyliol)

Atodiad C: Canllawiau Achos Economaidd

Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno achos economaidd i ddangos bod eu cynnig yn cyflawni’r amcanion a nodwyd ac y bydd yn cynhyrchu gwerth am arian.

Dylai’r asesiad achos economaidd ddarparu tystiolaeth addas a chymesur o’r effeithiau disgwyliedig, buddion a chostau, a gwerth am arian cyffredinol, a risgiau ac ansicrwyddau cysylltiedig.

Dylid datblygu’r achos economaidd mewn ffordd sy’n gyson â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM a chyda chanllawiau adrannol perthnasol. Ar gyfer cynigion trafnidiaeth, dylai’r dadansoddiad o achosion economaidd fod yn gyson â’r canllawiau yng Nghanllaw Dadansoddi Trafnidiaeth yr Adran Drafnidiaeth Ar gyfer prosiectau adfywio a phrosiectau diwylliannol, dylai’r achos economaidd fod yn gyson â chanllawiau arfarnu DLUHC. Mae ffynonellau pellach o ganllawiau arfarnu wedi’u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth neu DLUHC y gall ymgeiswyr eu defnyddio i ddarparu dadansoddiad priodol ar gyfer mathau penodol o brosiectau, er enghraifft, Pecyn Cymorth Arfarnu Modd Gweithredol yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer ymyriadau beicio a cherdded Mae templedi ar gyfer tablau gwerthuso ar gyfer prosiectau trafnidiaeth (gan gynnwys Tabl Crynhoi’r Arfarniad) ar gael yma.

Yn unol ag egwyddorion y ffynonellau canllawiau arfarnu hyn, ac arestir uchod, dylid egluro buddion mewn perthynas â deilliannau, lle bo modd. Er enghraifft, gallai dadansoddiad o’r achos economaidd ar gyfer cynigion trafnidiaeth ddangos sut y byddant yn lleihau amseroedd siwrneiau, yn cefnogi twf economaidd, neu’n lleihau allyriadau carbon.

Yn unol â chanllawiau arfarnu, dylai’r ymgeisydd ystyried graddau’r dadansoddiad sydd ei angen i gefnogi ei gynnig, a ddylai fod yn gymesur â maint y cynllun.

Dylai’r achos economaidd gynnwys y canlynol:

  • ar gyfer yr holl brosiectau, dadansoddi data a thystiolaeth sy’n dangos graddfa ac arwyddocâd materion lleol a’r graddau y mae’r cynnig yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r materion hyn, amcanion lleol, a hybu ffyniant bro. Dylai ymgeiswyr amcanu i gyfiawnhau bod y data a gyflenwyd yn gadarn ac yn ddiduedd, a bod lefel y dystiolaeth a ddarparwyd yn ddigonol i egluro problemau lleol. Gallai’r metrigau a/neu’r dystiolaeth a ddarparwyd gynnwys:
    • Metrigau economaidd gymdeithasol. Mae’r metrigau hyn yn dangos p’un a yw’r buddsoddiad arfaethedig yn canolbwyntio ar ardal sy’n flaenoriaeth ar gyfer hybu ffyniant bro. Er enghraifft:
    • Enillion wythnosol gros
    • Cyfradd diweithdra; Cyfradd cyflogaeth
    • Cyfran y boblogaeth sydd wedi’i haddysgu i lefel gradd neu gyfwerth.
    • Safle yn y Mynegai Amddifadedd Lluosog

    • Metrigau trafnidiaeth. Mae’r metrigau hyn yn cyflwyno data cymharol ar berfformiad y rhwydwaith trafnidiaeth yn yr ardal dargedig. Er enghraifft:
      • Mesurau Cysylltedd megis set ddata Cysylltedd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
    • Metrigau Effaith Economaidd. Mae’r metrigau yn rhoi dirnadaeth o effaith bosibl y buddsoddiad arfaethedig ar yr economi leol. Er enghraifft:
      • Buddion i Ddefnyddwyr Trafnidiaeth
      • Effeithiau Economaidd Ehangach (lle mae’r rhain wedi’u hamcangyfrif yn yr achos busnes)
  • tystiolaeth o p’un ai a yw’r prosiect yn debygol o fodloni ei amcanion strategol, gan gyfeirio at yr asesiad a ddarperir yn yr achos strategol, a bod yn gyson ag ef. Lle bo’n briodol, dylid adrodd am effeithiau mesuradwy. Gallai hyn gynnwys defnyddio model arfarnu addas. Gellid cyfeirio at astudiaethau achos perthnasol neu enghreifftiau o ymyriadau tebyg sydd wedi’u cyflawni’n flaenorol.
  • adnabod ac amcangyfrif yr effeithiau, buddion a chostau perthnasol yn briodol. Dylid darparu cyfiawnhad clir ar gyfer pa fathau o effeithiau, buddion a chostau a gaiff eu hystyried, a bod y dadansoddiad o’r rhain yn gymesur â’r effeithiau a’r cais sy’n cael eu hystyried. Dylai’r dadansoddiad fod yn gyson â chanllawiau’r Llyfr Gwyrdd a’r canllawiau arfarnu adrannol perthnasol. Yn yr achos economaidd, dylid adrodd am yr holl gostau a buddion ar sail gwerth presennol, gan addasu ar gyfer chwyddiant a disgowntio i flwyddyn sylfaen briodol.
  • crynodeb o werth am arian cyffredinol y cynnig. Mae hyn yn cynnwys y buddion y gellir eu moneteiddio a’r buddion na ellir eu moneteiddio y mae’r prosiect yn amcanu i’w cyflawni. Dylid adrodd am Gymarebau Cost a Budd (BCR) os gellir eu hamcangyfrif, a dylai’r rhain fod yn gyson â’r canllawiau arfarnu adrannol perthnasol. Yn unol â chanllawiau arfarnu’r Adran Drafnidiaeth a’r DLUHC, gellir darparu BCR cychwynnol a BCR wedi’i addasu. Dylid cynnwys effeithiau wedi’u moneteiddio a gyfrifwyd gan ddefnyddio methodoleg sefydledig yn y BCR cychwynnol. Gall effeithiau wedi’u moneteiddio a gyfrifwyd gan ddefnyddio dulliau nad ystyrir eu bod yn dderbyniol yn gyffredinol, neu nad ydynt yn gyson â chanllawiau adrannol gael eu cynnwys yn y cyfrifiad BCR a addaswyd. Os nad yw’n bosibl amcangyfrif BCR ar gyfer y prosiect penodol, dylid darparu eglurhad clir a chyfiawnhad yn nodi’r rheswm dros hynny. Dylid dangos tystiolaeth lawn o raddfa ac arwyddocâd tebygol unrhyw fuddion na ellir eu moneteiddio.
  • dylid adnabod a dadansoddi’n briodol y risgiau a’r ansicrwyddau a allai effeithio ar effeithiau, buddion, costau, a gwerth am arian cyffredinol y prosiect. Mae hyn yn cynnwys addasiadau priodol ar gyfer tuedd optimistiaeth a dadansoddiad sensitifrwydd o’r rhagdybiaethau allweddol sy’n sail i unrhyw gyfrifiadau i amcangyfrif y buddion.
  • gellid ystyried ystod o fuddion yn asesiad gwerth am arian y cynigion. Mae hyn yn cynnwys potensial i hybu twf economaidd lleol, buddion amgylcheddol (gan gynnwys cyfrannu at gyflawni ymrwymiadau Sero Net carbon Llywodraeth y DU a gwella ansawdd aer lleol), cyfleoedd cyflogaeth gwell, amseroedd teithio byrrach i wasanaethau allweddol, nifer uwch o ymwelwyr yng nghanolfannau trefi a dinasoedd, lleihau trosedd a gwerth cymdeithasol i gymunedau lleol. Dylai ceisiadau am brosiectau trafnidiaeth gynnwys esboniad o’u buddion carbon yn eglur.
  • dylai lefel y manylion a ddarperir fod yn gymesur â swm y cyllid y gofynnir amdano. Bydd angen i gynigion gynnwys asesiad cynhwysfawr ond cymesur. Bydd hyn yn amrywio yn ôl cost y cynnig a’r canlyniadau sydd yn y fantol.
  • gall ymgeiswyr ddefnyddio pecyn cymorth Hybu Ffyniant Bro yr Adran Drafnidiaeth hefyd. Cynlluniwyd y pecyn cymorth hwn i helpu awduron achosion busnes ymgysylltu â, ac asesu, sut mae cynnig trafnidiaeth yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaeth strategol yr Adran Drafnidiaeth i Dyfu a Hybu Ffyniant yr Economi. Gellir defnyddio’r pecyn cymorth yn nimensiwn strategol yr achos busnes, lle mae ‘hybu ffyniant bro’ yn amcan strategol perthnasol y rhaglen neu brosiect trafnidiaeth.

Atodiad D: Profforma Cymorth Blaenoriaeth Aelod Seneddol - copi enghreifftiol (ar gyfer ymgeiswyr o Loegr, yr Alban, a Chymru yn unig)

Sylwch fod hwn yn gopi enghreifftiol o’r ddogfen profforma y gellir ei lawrlwytho, y dylai ymgeiswyr ei defnyddio ac sydd i’w chael yma.

Y Gronfa Ffyniant Bro: Profforma Cymorth Blaenoriaeth AS

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod rôl bwysig Aelodau Seneddol (ASau) wrth hyrwyddo buddiannau eu hetholwyr. Gall ASau ddarparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i un cynnig yn unig yn ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro, gan gynnwys ASau a gefnogodd gynnig llwyddiannus neu unllwydiannus yn y cylch cyntaf.

Lle mae AS yn darparu cymorth blaenoriaeth i gynnig, rhaid iddo/iddi gopïo’r tabl isod i ddogfen wag y gellir ei golygu. Llenwch yr adrannau gwag, rhowch lofnod ac anfonwch at awdurdod lleol yr ymgeisydd y mae’n rhaid iddo atodi hwn gyda’r cais erbyn y dyddiad cyflwyno. Ni cheir cyflwyno hwn mewn unrhyw ffordd arall.

Enw’r AS

Etholaeth yr AS

Enw’r Cynnig

Enw’r Awdurdod Lleol

Trwy lenwi a llofnodi’r Profforma Cymorth hwn, cadarnhaf:

i) pa gynnig unigol rwy’n darparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol iddo ar gyfer ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro.

ii) nad wyf wedi rhoi cymorth blaenoriaeth ffurfiol i gynnig arall yn y cylch hwn a,

iii) fy mod yn darparu cymorth i’r cynnig hwn gan ei fod o fudd uniongyrchol i’r ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a/neu amgylcheddol yn fy etholaeth.

Ar y sail hon, rwyf yn darparu cymorth blaenoriaeth ffurfiol i’r un cynnig hwn yn ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro.

Os dymunwch, rhowch eich rhesymau dros ddarparu cymorth blaenoriaeth ar gyfer y cynnig hwn neu unrhyw wybodaeth ychwanegol y dymunwch ei darparu (nodwch nad ydym yn mynnu eglurhad nac unrhyw wybodaeth ychwanegol):

Dyddiad

Llofnodwyd

Atodiad E: Canllawiau Monitro a Gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i hybu ffyniant bro ar draws y Deyrnas Unedig gyfan i sicrhau nad yw’r un gymuned yn cael ei gadael ar ôl, yn enwedig wrth i ni ymadfer o’r pandemig COVID-19.

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn cynnig cyfle unigryw i gael gwell dealltwriaeth o p’un a all prosiectau seilwaith ar raddfa fach fod yn effeithiol wrth ysgogi ffyniant a balchder cymunedol mewn mannau sy’n wynebu her economaidd ar lefel uchel, a sut y gallent wneud hynny. I fanteisio ar y cyfle hwn, byddwn yn mynd ati i fonitro a gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro yn drwyadl.

Bydd monitro a gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro yn cynnwys cyfuniad o weithgarwch gwerthuso ar lefel genedlaethol (dan arweiniad DLUHC) gyda monitro a gwerthuso ar lefel prosiect (dan arweiniad ardaloedd lleol). O ran gwerthuso ar lefel genedlaethol bydd ein strategaeth monitro a gwerthuso yn amlinellu cynllun yr adran ar gyfer monitro a gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Bro ar lefel rhaglen.

Mae’r adran hon yn amlinellu beth yw monitro a gwerthuso, a pham rydym yn gwneud hynny; ein hymagwedd ar gyfer gwerthuso a monitro ar lefel rhaglen; a beth a ddisgwyliwn gan ymgeiswyr llwyddiannus o ran monitro a gwerthuso, ar lefel rhaglen a lefel prosiect.

Bydd cynigion mawr (y rheiny sy’n gofyn am fuddsoddiad o rhwng £20 miliwn a £50 miliwn o’r Gronfa) yn destun gofynion monitro a gwerthuso ychwanegol.

**Ar gyfer trafnidiaeth, amlinellir y rhain yn Fframwaith Monitro a Gwerthuso Cynlluniau Mawr Awdurdod Lleol Ar gyfer themâu eraill bydd y rhain yn cael eu nodi yn dilyn y cyhoeddiad.

Beth yw monitro a gwerthuso, a pam rydym ni’n ei wneud?

Mae cysylltiad agos rhwng monitro a gwerthuso, a bydd gwerthusiad nodweddiadol yn dibynnu’n drwm ar ddata monitro. Mae monitro’n edrych ar weithrediad a pherfformiad rhaglen trwy broses barhaus a systematig o gasglu data. Mae’n galluogi ymyrryd yn gynnar os yw cynnydd yn arafach na’r disgwyl.

Mae gwerthuso yn asesiad systematig o ddyluniad, gweithrediad, a deilliannau ymyriad (e.e. rhaglen neu brosiect). Mae’n golygu deall sut mae ymyriad yn cael, neu wedi cael, ei weithredu a pha effaith a gaiff, i bwy a pham. Mae’n nodi beth gellir ei wella ac yn amcangyfrif ei effeithiau cyffredinol a chost-effeithiolrwydd. Bydd monitro yn dangos beth sydd wedi’i gyflawni, tra bydd gwerthuso yn asesu ei effaith.
Mae ymagwedd drwyadl at fonitro a gwerthuso yn bwysig i sicrhau atebolrwydd dros arian cyhoeddus. Mae’n ein galluogi ni i fod yn atebol am ddarparu’r cyllid a gwireddu’r nodau polisi y dyrannwyd cyllid ar eu cyfer; ac mae hefyd yn darparu atebolrwydd i leoedd i sicrhau bod prosiectau cytûn yn cael eu cyflawni.

Ategir yr ymagwedd monitro a gwerthuso gan Fframwaith Sicrwydd a Pherfformiad sy’n amlinellu ymagwedd y Gronfa at sicrwydd ac atebolrwydd. Bydd y gofynion monitro a gwerthuso yn ffurfio rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth / Cytundeb Cyllid Grant (GFA)[footnote 3] rhyngom ni a’r ymgeisydd. Caiff cydymffurfiaeth â gofynion monitro a gwerthuso’r Gronfa ei hystyried pan fydd taliadau’n cael eu gwneud.

Monitro a Gwerthuso ar Lefel Rhaglen

Mae ein hymagwedd gyffredinol at fonitro a gwerthuso yn cynnwys:

  • Monitro’r holl brosiectau yn barhaus gyda rhai gofynion gorfodol a safoni dangosyddion yn sylweddol er mwyn galluogi cymharu a dysgu ar draws lleoedd, tra’n galluogi rhywfaint o hyblygrwydd hefyd
  • Gwerthuso rhaglen y Gronfa Ffyniant Bro yn ei chyfanrwydd (h.y., gwerthuso ar lefel rhaglen) yn ogystal â gwerthuso prosiectau unigol ar y lefel leol.
  • Bydd cyfrifoldebau ar gyfer yr elfennau gwahanol hyn yn cael eu rhannu rhwng yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) /yr Adran Drafnidiaeth ac ymgeiswyr llwyddiannus (gweler “Beth a ddisgwyliwn gan ymgeiswyr llwyddiannus” isod).

Monitro

Bydd y broses fonitro yn cynnwys casglu data sy’n cwmpasu mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, deilliannau, ac effaith. Mewnbynnau yw’r adnoddau, ariannol ac anariannol (e.e., cyfraniadau o fath arall), sy’n galluogi i brosiect ddigwydd. Allbynnau yw tystiolaeth bod gweithgarwch prosiect wedi’i gynnal, e.e. cilometrau o lwybr beicio a adeiladwyd. Deilliannau yw’r newidiadau tymor byr a thymor canolig sy’n deillio o weithgarwch sy’n digwydd e.e., gwella ffitrwydd trigolion. Effaith yw’r newid tymor hwy sy’n deillio e.e., gwella lles trigolion.

Gwerthuso

Fel rhan o’r gwerthusiad ar lefel rhaglen, bwriadwn ymgymryd â thri math o werthusiad a amlinellir isod. Mae’r rhain wedi’u dewis yn sgil y math o ddysgu y dymunwn ei gael o’r rhaglen. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y Llyfr Magenta (HMT 2020).

  • Gwerthuso prosesau – i asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd penderfyniadau a chyflawniad y Gronfa
  • Gwerthuso effaith – i asesu a deall yn llawn y deilliannau ac effeithiau ychwanegol sydd wedi’u cyflawni gan gynnwys buddion anniriaethol a nodwyd yn achos busnes y rhaglen
  • Gwerthuso gwerth am arian - i fesur deilliannau a buddion economaidd yr ymyriadau a chost-effeithiolrwydd y rhaglen.

Lle bo modd, amcanwn i rannu data a gasglwyd o ddeilliannau ac effeithiau gyda lleoedd, gan y bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth a defnydd cyfoethocach o’r data a gasglwyd.

Beth a ddisgwyliwn gan ymgeiswyr llwyddiannus

Rydym wedi rhannu cyfrifoldebau am fonitro a gwerthuso mewn ffordd sy’n galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i ganolbwyntio ar gasglu data at ddibenion monitro, ac i’r DLUHC arwain ar werthuso ar lefel rhaglen.

Monitro

Bydd angen i leoedd gasglu data ar fewnbynnau, gweithgareddau, deilliannau, ac allbynnau. Byddwn yn mynnu bod gwybodaeth ragarweiniol yn cael ei darparu cyn i’r cyfarfodydd sefydlu gael eu cynnal. Bydd adroddiadau chwarterol dilynol yn canolbwyntio’n bennaf ar wariant prosiect, cynnydd prosiect, newidiadau prosiect ac ymgysylltiad rhanddeiliaid. Bob chwe mis, bydd rhaid i leoedd adrodd ar allbynnau a deilliannau hefyd. Mae hyn yn cynnwys nifer o ddangosyddion gorfodol a detholiad o ddangosyddion y bydd yr ymgeisydd yn penderfynu arnynt ar sail cymysgedd y prosiect. Dylai hyn oll gael ei ymgorffori yng ngweithgareddau rheoli prosiect yr ymgeisydd.

Bydd y DLUHC yn arwain ar gasglu data ar gyfer deilliannau ac effeithiau, ond mewn rhai achosion, byddwn yn mynnu rhywfaint o gymorth gan yr ymgeisydd i gasglu data lle nad yw ffynonellau data amgen ar gael i’r DLUHC. Gan ddibynnu ar amcanion prosiect(au) yr ymgeisydd, gallai hyn gynnwys data nad yw’n cael ei gasglu fel mater o drefn arferol ar lefel awdurdod lleol (neu is) – er enghraifft, at gyfrifiadau beicio sylfaenol neu lefelau ansawdd aer cyn gweithredu prosiect. Mae casglu data sylfaenol yn sensitif i amser gan ei bod yn bwysig sicrhau bod data’n cael ei gasglu cyn i’r prosiect ddechrau er mwyn galluogi amcangyfrif effaith y prosiect ar ôl ei gwblhau.

Gwerthusiad

Bydd y DLUHC yn arwain y gwerthusiad ar lefel rhaglen, a fydd yn edrych ar y Gronfa yn gyffredinol. Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â’u gwerthusiadau eu hunain o brosiect er mwyn hyrwyddo’u dealltwriaeth eu hunain o beth sy’n gweithio, a pham, yn eu hardal leol. Bydd mabwysiadu dangosyddion allbynnau a deilliannau safonol (er y bydd canllawiau pellach ar ddangosyddion yn cael ei gyhoeddi maes o law) yn cynyddu cyfatebolrwydd gwerthusiadau prosiect gyda’r gwerthusiad ar lefel rhaglen a arweinir gan y DLUHC. Dylai cynlluniau ar gyfer gwerthusiadau prosiect fod yn gymesur â graddfa’r prosiect.

Ar y gwerthusiad lefel rhaglen, mae’n werth nodi hefyd y bydd angen cymorth arnom gan ymgeiswyr llwyddiannus i gynnal y gwerthusiad ar lefel rhaglen. Gallai hyn gynnwys hwyluso mynediad i safleoedd, nodi rhanddeiliaid ar gyfer timau astudio a/neu gymryd rhan mewn grwpiau ffocws neu gyfweliadau. Fel y crybwyllwyd, mae’n bosibl hefyd y bydd angen i ymgeiswyr gasglu data ar nifer fach o ddangosyddion deilliannau.

Y Cais

Fel rhan o’r cais, byddem yn hoffi i ymgeiswyr ystyried yn ofalus sut byddant yn sicrhau eu bod yn casglu data’n amserol ac yn adrodd ar ddata fel rhan o’r broses fonitro; a pha werthusiad y gall ymgeiswyr ymgymryd ag ef ar lefel leol a fydd yn cyfateb i’r gwerthusiad ar lefel rhaglen ac yn darparu cipolygon defnyddiol i ymgeiswyr ynglŷn â beth sy’n gweithio, a pham, yn yr ardal leol.

Disgwyliwn i ymgeiswyr ymdrin â phob un o’r pwyntiau canlynol yn eu cais – er nad yw’r rhestr hon yn gyflawn, a gall ymgeiswyr fod eisiau darparu manylion pellach am eu cynlluniau at ddiben monitro a gwerthuso:

  • Beth rydych eisiau ei gyflawni drwy eich monitro a gwerthuso ar lefel prosiect, e.e., beth yw’r cwestiynau dysgu allweddol rydych chi eisiau eu hateb?
  • Eich ymagwedd gyffredinol at fonitro a gwerthuso e.e., a ydych chi’n bwriadu ymgymryd â gwerthusiadau o broses, effaith, a/neu werth am arian sy’n cwmpasu’r holl brosiectau?
  • Beth fydd y cyflawniadau allweddol (e.e., adroddiadau interim a therfynol) a sut bydd y rhain yn cael eu defnyddio a’u lledaenu?
  • Y data y bydd angen i chi ei gasglu, neu y byddwch eisiau ei gasglu, ar gyfer monitro a gwerthuso ar lefel rhaglen a lefel prosiect, gan gyfeirio at eich damcaniaeth newid er mwyn nodi mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, deilliannau, ac effeithiau allweddol. Byddai’n arbennig o ddefnyddiol pe gallwch nodi unrhyw ffynonellau data lleol a allai gyd-fynd â ffynonellau data cenedlaethol yn ymwneud â deilliannau ac effeithiau. Byddai’n ddefnyddiol hefyd deall sut y bwriadwch gasglu data sylfaenol mewn modd amserol.
  • Sut byddwn chi’n darparu adnoddau ar gyfer yr elfennau monitro a gwerthuso, e.e., pwy fydd yn casglu’r data? Pwy fydd yn ymgymryd â’r gweithgareddau gwerthuso?
  • Pa brosesau byddwch chi’n eu rhoi ar waith i sicrhau bod y data a gesglir yn amserol a chywir, e.e., pa dystiolaeth byddwch chi’n ei chasglu i gefnogi’r data yr adroddwyd amdano?

Fel y soniwyd uchod, bydd angen i’r data y mae ymgeiswyr llwyddiannus yn ei gyflwyno i DLUHC a’r Adran Drafnidiaeth fel rhan o’r broses fonitro lefel rhaglen gael ei safoni cymaint â phosibl er mwyn galluogi cydgasglu ar lefel rhaglen. Felly, gofynnwn i ymgeiswyr geisio fframio’r allbynnau, y canlyniadau a’r effeithiau yn eu cais i gyd-fynd â’r rhai a nodir yn Atodiad B, gan y bydd hyn yn helpu i ddewis dangosyddion dilynol ar gyfer olrhain cynnydd.

Yr adnoddau monitro a gwerthuso a allai fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr yw:

Atodiad F: Canllaw i lwfans cynigion (ar gyfer ymgeiswyr o Loegr, yr Alban, a Chymru yn unig)

Mae’r tabl hwn yn nodi’r nifer sy’n weddill o gynigion ar sail etholaeth a thrafnidiaeth yn unig y gall pob awdurdod lleol cymwys yn Lloegr, yr Alban, a Chymru eu cyflwyno, gan ystyried cynigion llwyddiannus yng nghylch cyntaf y Gronfa Ffyniant Bro.

Mae gwybodaeth am y sefydliadau sy’n gymwys i wneud cais a sut y pennwyd lwfansau bid ar gael [yma](#adran-2-sut-bydd-y-gronfan-gweithredu-yn-lloegr-yr-alban-a-chymru.

Defnyddiwyd y fersiwn diweddaraf o ddogfen ‘Ward to Westminster Parliamentary Constituency to Local Authority District to Upper Tier Local Authority Lookup’ a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i bennu lleoliad etholaethau ac a yw ffiniau awdurdodau lleol ac etholaethau seneddol yn gorgyffwrdd. Gellir cyrchu hwn yma. Fel yr amlinellwyd yn y Nodyn Technegol, ni wahaniaethir rhwng etholaethau cyfan a rhannol at ddibenion pennu gweddill y balansau cynigion etholaethol.

Mae’r cynigion llwyddiannus hynny o’r cylch cyntaf sy’n cynrychioli buddsoddiad o 90% o leiaf mewn trafnidiaeth wedi’u tynnu o lwfans trafnidiaeth yr ymgeisydd lle bo hynny ar gael. Mae’r holl gynigion llwyddiannus eraill o’r cylch cyntaf wedi’u tynnu o falans etholaeth yr ymgeisydd.

Enw’r Awdurdod Lleol (ALl) Cam 1: Math o ALl Cydbwysedd Etholaethau Cydbwysedd Trafnidiaeth Cyfanswm yn weddill
Dinas Aberdeen Awdurdod Unedol 2 1 3
Swydd Aberdeen Awdurdod Unedol 3 1 4
Adur Cyngor Dosbarth 1 0 1
Allerdale Cyngor Dosbarth 3 0 3
Amber Valley Cyngor Dosbarth 3 0 3
Angus Awdurdod Unedol 3 1 4
Argyll a Bute Awdurdod Unedol 1 1 2
Arun Cyngor Dosbarth 2 0 2
Ashfield Cyngor Dosbarth 2 0 2
Ashford Cyngor Dosbarth 1 0 1
Babergh Cyngor Dosbarth 1 0 1
Barking a Dagenham Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Barnet Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Barnsley Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Barrow-in-Furness Cyngor Dosbarth 0 0 0
Basildon Cyngor Dosbarth 3 0 3
Basingstoke a Deane Cyngor Dosbarth 3 0 3
Bassetlaw Cyngor Dosbarth 2 0 2
Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf Awdurdod Unedol 2 0 2
Bedford Awdurdod Unedol 3 1 4
Bexley Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Birmingham Bwrdeistref Fetropolitanaidd 7 0 7
Blaby Cyngor Dosbarth 2 0 2
Blackburn gyda Darwen Awdurdod Unedol 2 1 3
Blackpool Awdurdod Unedol 2 1 3
Blaenau Gwent Awdurdod Unedol 1 1 2
Bolsover Cyngor Dosbarth 1 0 1
Bolton Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Boston Cyngor Dosbarth 1 0 1
Bournemouth, Christchurch a Poole Awdurdod Unedol 5 1 6
Coedwig Bracknell Awdurdod Unedol 2 1 3
Bradford Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Braintree Cyngor Dosbarth 2 0 2
Breckland Cyngor Dosbarth 2 0 2
Brent Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Brentwood Cyngor Dosbarth 1 0 1
Pen-y-bont ar Ogwr Awdurdod Unedol 2 1 3
Brighton a Hove Awdurdod Unedol 2 1 3
Bryste, Dinas Awdurdod Unedol 4 0 4
Broadland Cyngor Dosbarth 2 0 2
Bromley Bwrdeistref Llundain 4 0 4
Bromsgrove Cyngor Dosbarth 0 0 0
Broxbourne Cyngor Dosbarth 1 0 1
Broxtowe Cyngor Dosbarth 2 0 2
Swydd Buckingham Awdurdod Unedol 5 1 6
Burnley Cyngor Dosbarth 0 0 0
Bury Bwrdeistref Fetropolitanaidd 0 0 0
Caerffili Awdurdod Unedol 3 1 4
Calderdale Bwrdeistref Fetropolitanaidd 1 0 1
Caergrawnt Cyngor Dosbarth 2 0 2
Swydd Gaergrawnt        
a Peterborough Awdurdod Cyfun 0 1 1
Camden Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Cannock Chase Cyngor Dosbarth 0 0 0
Caergaint Cyngor Dosbarth 2 0 2
Caerdydd Awdurdod Unedol 4 1 5
Caerliwelydd Cyngor Dosbarth 2 0 2
Sir Gaerfyrddin Awdurdod Unedol 1 1 2
Castle Point Cyngor Dosbarth 1 0 1
Canol Swydd Bedford Awdurdod Unedol 3 0 3
Ceredigion Awdurdod Unedol 0 1 1
Charnwood Cyngor Dosbarth 2 0 2
Chelmsford Cyngor Dosbarth 3 0 3
Cheltenham Cyngor Dosbarth 2 0 2
Cherwell Cyngor Dosbarth 3 0 3
Dwyrain Swydd Gaer Awdurdod Unedol 5 1 6
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer Awdurdod Unedol 5 1 6
Chesterfield Cyngor Dosbarth 1 0 1
Chichester Cyngor Dosbarth 2 0 2
Chorley Cyngor Dosbarth 2 0 2
Dinas Caeredin Awdurdod Unedol 4 1 5
Dinas Llundain Bwrdeistref Llundain 1 0 1
Swydd Clackmannan Awdurdod Unedol 1 1 2
Colchester Cyngor Dosbarth 3 0 3
Conwy Awdurdod Unedol 2 1 3
Copeland Cyngor Dosbarth 1 0 1
Cernyw Awdurdod Unedol 6 1 7
Cotswold Cyngor Dosbarth 1 0 1
Swydd Durham Awdurdod Unedol 5 0 5
Coventry Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Craven Cyngor Dosbarth 1 0 1
Crawley Cyngor Dosbarth 1 0 1
Croydon Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Cumbria Cyngor Sir 0 1 1
Dacorum Cyngor Dosbarth 2 0 2
Darlington Awdurdod Unedol 2 0 2
Dartford Cyngor Dosbarth 1 0 1
Sir Ddinbych Awdurdod Unedol 3 1 4
Derby Awdurdod Unedol 3 1 4
Swydd Derby Cyngor Sir 0 0 0
Dyffrynnoedd Swydd Derby Cyngor Dosbarth 1 0 1
Dyfnaint Cyngor Sir 0 1 1
Doncaster Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Dorset Awdurdod Unedol 5 1 6
Dover Cyngor Dosbarth 2 0 2
Dudley Bwrdeistref Fetropolitanaidd 5 0 5
Dumfries a Galloway Awdurdod Unedol 2 1 3
Dinas Dundee Awdurdod Unedol 2 1 3
Ealing Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Dwyrain Swydd Ayr Awdurdod Unedol 2 1 3
Dwyrain Swydd Gaergrawnt Cyngor Dosbarth 2 0 2
Dwyrain Dyfnaint Cyngor Dosbarth 3 0 3
Dwyrain Swydd Dunbarton Awdurdod Unedol 3 1 4
Dwyrain Hampshire Cyngor Dosbarth 2 0 2
Dwyrain Swydd Hertford Cyngor Dosbarth 3 0 3
Dwyrain Lindsey Cyngor Dosbarth 3 0 3
Dwyrain Lothian Awdurdod Unedol 1 1 2
Dwyrain Swydd Renfrew Awdurdod Unedol 1 1 2
Riding Dwyreiniol Swydd Efrog Awdurdod Unedol 5 1 6
Dwyrain Swydd Stafford Cyngor Dosbarth 2 0 2
Dwyrain Suffolk Cyngor Dosbarth 3 0 3
Dwyrain Sussex Cyngor Sir 0 0 0
Eastbourne Cyngor Dosbarth 0 0 0
Eastleigh Cyngor Dosbarth 2 0 2
Eden Cyngor Dosbarth 1 0 1
Elmbridge Cyngor Dosbarth 2 0 2
Enfield Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Coedwig Epping Cyngor Dosbarth 3 0 3
Epsom ac Ewell Cyngor Dosbarth 1 0 1
Erewash Cyngor Dosbarth 2 0 2
Essex Cyngor Sir 0 1 1
Caerwysg Cyngor Dosbarth 2 0 2
Falkirk Awdurdod Unedol 2 0 2
Fareham Cyngor Dosbarth 2 0 2
Fenland Cyngor Dosbarth 1 0 1
Fife Awdurdod Unedol 5 1 6
Sir y Fflint Awdurdod Unedol 2 1 3
Folkestone a Hythe Cyngor Dosbarth 1 0 1
Fforest y Ddena Cyngor Dosbarth 0 0 0
Fylde Cyngor Dosbarth 1 0 1
Gateshead Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Gedling Cyngor Dosbarth 2 0 2
Dinas Glasgow Awdurdod Unedol 7 1 8
Caerloyw Cyngor Dosbarth 1 0 1
Swydd Gaerloyw Cyngor Sir 0 0 0
Gosport Cyngor Dosbarth 1 0 1
Gravesham Cyngor Dosbarth 1 0 1
Great Yarmouth Cyngor Dosbarth 1 0 1
Awdurdod Llundain Fwyaf Awdurdod Llundain Fwyaf 0 1 1
Manceinion Fwyaf Awdurdod Cyfun 0 1 1
Greenwich Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Guildford Cyngor Dosbarth 4 0 4
Gwynedd Awdurdod Unedol 2 1 3
Hackney Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Halton Awdurdod Unedol 2 0 2
Hambleton Cyngor Dosbarth 2 0 2
Hammersmith a Fulham Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Swydd Hampshire Cyngor Sir 0 1 1
Harborough Cyngor Dosbarth 3 0 3
Haringey Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Harlow Cyngor Dosbarth 1 0 1
Harrogate Cyngor Dosbarth 3 0 3
Harrow Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Hart Cyngor Dosbarth 2 0 2
Hartlepool Awdurdod Unedol 1 0 1
Hastings Cyngor Dosbarth 1 0 1
Havant Cyngor Dosbarth 2 0 2
Havering Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Swydd Henffordd Awdurdod Unedol 2 1 3
Swydd Hertford Cyngor Sir 0 1 1
Hertsmere Cyngor Dosbarth 1 0 1
High Peak Cyngor Dosbarth 1 0 1
Highland Awdurdod Unedol 2 1 3
Hillingdon Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Hinckley a Bosworth Cyngor Dosbarth 1 0 1
Horsham Cyngor Dosbarth 2 0 2
Hounslow Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Swydd Huntingdon Cyngor Dosbarth 2 0 2
Hyndburn Cyngor Dosbarth 1 0 1
Inverclyde Awdurdod Unedol 1 1 2
Ipswich Cyngor Dosbarth 2 0 2
Ynys Môn Awdurdod Unedol 1 1 2
Ynys Wyth Awdurdod Unedol 0 1 1
Ynysoedd Scilly Awdurdod Unedol 1 0 1
Islington Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Kensington a Chelsea Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Caint Cyngor Sir 0 1 1
King’s Lynn a Gorllewin Norfolk Cyngor Dosbarth 2 0 2
Kingston upon Hull, Dinas Awdurdod Unedol 2 1 3
Kingston upon Thames Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Kirklees Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Knowsley Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Lambeth Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Swydd Gaerhirfryn Cyngor Sir 0 1 1
Caerhirfryn Cyngor Dosbarth 2 0 2
Leeds Bwrdeistref Fetropolitanaidd 7 0 7
Caerl?r Awdurdod Unedol 1 0 1
Swydd Gaerl?r Cyngor Sir 0 1 1
Lewes Cyngor Dosbarth 1 0 1
Lewisham Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Lichfield Cyngor Dosbarth 2 0 2
Lincoln Cyngor Dosbarth 1 0 1
Swydd Lincoln Cyngor Sir 0 0 0
Lerpwl Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Dinas-Ranbarth Lerpwl Awdurdod Cyfun 0 0 0
Luton Awdurdod Unedol 1 1 2
Maidstone Cyngor Dosbarth 2 0 2
Maldon Cyngor Dosbarth 2 0 2
Bryniau Malvern Cyngor Dosbarth 1 0 1
Manceinion Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Mansfield Cyngor Dosbarth 1 0 1
Medway Awdurdod Unedol 2 1 3
Melton Cyngor Dosbarth 1 0 1
Mendip Cyngor Dosbarth 2 0 2
Merthyr Tudful Awdurdod Unedol 2 1 3
Merton Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Canol Dyfnaint Cyngor Dosbarth 2 0 2
Canol Suffolk Cyngor Dosbarth 2 0 2
Canol Sussex Cyngor Dosbarth 3 0 3
Middlesbrough Awdurdod Unedol 2 0 2
Midlothian Awdurdod Unedol 1 1 2
Milton Keynes Awdurdod Unedol 2 1 3
Mole Valley Cyngor Dosbarth 2 0 2
Sir Fynwy Awdurdod Unedol 2 1 3
Moray Awdurdod Unedol 1 1 2
Na h-Eileanan Siar Awdurdod Unedol 1 1 2
Castell-nedd Port Talbot Awdurdod Unedol 2 1 3
New Forest Cyngor Dosbarth 2 0 2
Newark a Sherwood Cyngor Dosbarth 1 0 1
Newcastle upon Tyne Bwrdeistref Fetropolitanaidd 1 0 1
Newcastle-under-Lyme Cyngor Dosbarth 4 0 4
Newham Bwrdeistref Llundain 0 0 0
Casnewydd Awdurdod Unedol 2 1 3
Norfolk Cyngor Sir 0 1 1
Gogledd Swydd Ayr Awdurdod Unedol 2 0 2
Gogledd Dyfnaint Cyngor Dosbarth 1 0 1
Gogledd Ddwyrain Awdurdod Cyfun 0 1 1
Gogledd Ddwyrain Swydd Derby Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln Awdurdod Unedol 2 1 3
Gogledd Ddwyrain Swydd Hertford Cyngor Dosbarth 3 0 3
Gogledd Kesteven Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gogledd Swydd Lanark Awdurdod Unedol 5 1 6
Gogledd Swydd Lincoln Awdurdod Unedol 3 1 4
Gogledd Norfolk Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gogledd Swydd Northampton Awdurdod Unedol 4 1 5
Gogledd Tyne Awdurdod Cyfun 0 1 1
Gogledd Gwlad yr Haf Awdurdod Unedol 2 1 3
Gogledd Tyneside Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Gogledd Swydd Warwick Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gogledd Orllewin Swydd Gaerl?r Cyngor Dosbarth 1 0 1
Gogledd Swydd Efrog Cyngor Sir 0 1 1
Northampton Cyngor Dosbarth 3 0 3
Northumberland Awdurdod Unedol 5 0 5
Norwich Cyngor Dosbarth 2 0 2
Nottingham Awdurdod Unedol 3 0 3
Swydd Nottingham Cyngor Sir 0 1 1
Nuneaton a Bedworth Cyngor Dosbarth 2 0 2
Oadby a Wigston Cyngor Dosbarth 1 0 1
Oldham Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Ynysoedd Orkney Awdurdod Unedol 1 1 2
Rhydychen Cyngor Dosbarth 2 0 2
Swydd Rydychen Cyngor Sir 0 1 1
Sir Benfro Awdurdod Unedol 1 1 2
Pendle Cyngor Dosbarth 0 0 0
Perth a Kinross Awdurdod Unedol 2 1 3
Peterborough Awdurdod Unedol 1 0 1
Plymouth Awdurdod Unedol 3 0 3
Portsmouth Awdurdod Unedol 1 1 2
Powys Awdurdod Unedol 0 1 1
Preston Cyngor Dosbarth 3 0 3
Reading Awdurdod Unedol 2 1 3
Redbridge Bwrdeistref Llundain 4 0 4
Redcar a Cleveland Awdurdod Unedol 2 0 2
Redditch Cyngor Dosbarth 1 0 1
Reigate a Banstead Cyngor Dosbarth 3 0 3
Swydd Renfrew Awdurdod Unedol 2 0 2
Rhondda Cynon Taf Awdurdod Unedol 2 0 2
Ribble Valley Cyngor Dosbarth 1 0 1
Richmond upon Thames Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Swydd Richmond Cyngor Dosbarth 1 0 1
Rochdale Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Rochford Cyngor Dosbarth 2 0 2
Rossendale Cyngor Dosbarth 2 0 2
Rother Cyngor Dosbarth 2 0 2
Rotherham Bwrdeistref Fetropolitanaidd 1 0 1
Rugby Cyngor Dosbarth 2 0 2
Runnymede Cyngor Dosbarth 1 0 1
Rushcliffe Cyngor Dosbarth 2 0 2
Rushmoor Cyngor Dosbarth 1 0 1
Rutland Awdurdod Unedol 1 1 2
Ryedale Cyngor Dosbarth 1 0 1
Salford Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Sandwell Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Scarborough Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gororau’r Alban Awdurdod Unedol 2 1 3
Sedgemoor Cyngor Dosbarth 2 0 2
Sefton Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Selby Cyngor Dosbarth 1 0 1
Sevenoaks Cyngor Dosbarth 3 0 3
Sheffield Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Ynysoedd Shetland Awdurdod Unedol 1 1 2
Swydd Amwythig Awdurdod Unedol 4 1 5
Slough Awdurdod Unedol 2 1 3
Solihull Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Gwlad yr Haf Cyngor Sir 0 0 0
Gorllewin Gwlad        
yr Haf a Taunton Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Swydd Ayr Awdurdod Unedol 2 1 3
De Swydd Gaergrawnt Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Swydd Derby Cyngor Dosbarth 1 0 1
De Swydd Gaerloyw Awdurdod Unedol 3 0 3
De Hams Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Holland Cyngor Dosbarth 1 0 1
De Kesteven Cyngor Dosbarth 3 0 3
De Lakeland Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Swydd Lanark Awdurdod Unedol 4 1 5
De Norfolk Cyngor Dosbarth 3 0 3
De Swydd Rydychen Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Ribble Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Gwlad yr Haf Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Swydd Stafford Cyngor Dosbarth 2 0 2
De Tyneside Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
De Swydd Efrog Awdurdod Unedol 0 1 1
Southampton Awdurdod Unedol 3 1 4
Southend-on-Sea Awdurdod Unedol 1 1 2
Southwark Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Spelthorne Cyngor Dosbarth 1 0 1
St Albans Cyngor Dosbarth 3 0 3
St. Helens Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Stafford Cyngor Dosbarth 2 0 2
Swydd Stafford Cyngor Sir 0 1 1
Rhostiroedd Swydd Stafford Cyngor Dosbarth 2 0 2
Stevenage Cyngor Dosbarth 2 0 2
Stirling Awdurdod Unedol 1 1 2
Stockport Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Stockton-on-Tees Awdurdod Unedol 1 0 1
Stoke-on-Trent Awdurdod Unedol 0 1 1
Stratford-on-Avon Cyngor Dosbarth 2 0 2
Stroud Cyngor Dosbarth 2 0 2
Suffolk Cyngor Sir 0 1 1
Sunderland Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Surrey Cyngor Sir 0 1 1
Surrey Heath Cyngor Dosbarth 1 0 1
Sutton Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Swale Cyngor Dosbarth 2 0 2
Abertawe Awdurdod Unedol 3 1 4
Swindon Awdurdod Unedol 2 1 3
Tameside Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Tamworth Cyngor Dosbarth 1 0 1
Tandridge Cyngor Dosbarth 1 0 1
Tees Valley Awdurdod Cyfun 0 1 1
Teignbridge Cyngor Dosbarth 2 0 2
Telford a Wrekin Awdurdod Unedol 2 1 3
Tendring Cyngor Dosbarth 2 0 2
Test Valley Cyngor Dosbarth 2 0 2
Tewkesbury Cyngor Dosbarth 2 0 2
Thanet Cyngor Dosbarth 0 0 0
Three Rivers Cyngor Dosbarth 3 0 3
Thurrock Awdurdod Unedol 2 1 3
Tonbridge a Malling Cyngor Dosbarth 2 0 2
Torbay Awdurdod Unedol 2 1 3
Torfaen Awdurdod Unedol 2 1 3
Torridge Cyngor Dosbarth 1 0 1
Tower Hamlets Bwrdeistref Llundain 1 0 1
Trafford Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Tunbridge Wells Cyngor Dosbarth 2 0 2
Uttlesford Cyngor Dosbarth 1 0 1
Bro Morgannwg Awdurdod Unedol 2 1 3
Vale of White Horse Cyngor Dosbarth 2 0 2
Wakefield Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Walsall Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Coedwig Waltham Bwrdeistref Llundain 3 0 3
Wandsworth Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Warrington Awdurdod Unedol 2 1 3
Warwick Cyngor Dosbarth 2 0 2
Swydd Warwick Cyngor Sir 0 1 1
Watford Cyngor Dosbarth 1 0 1
Waverley Cyngor Dosbarth 2 0 2
Wealden Cyngor Dosbarth 4 0 4
Welwyn Hatfield Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gorllewin Swydd Berkshire Awdurdod Unedol 3 1 4
Gorllewin Dyfnaint Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gorllewin Swydd Dunbarton Awdurdod Unedol 0 1 1
Gorllewin Swydd Gaerhirfryn Cyngor Dosbarth 2 0 2
Gorllewin Lindsey Cyngor Dosbarth 0 0 0
Gorllewin Lothian Awdurdod Unedol 2 1 3
Gorllewin Canolbarth Lloegr Awdurdod Cyfun 0 1 1
Gorllewin Swydd Northampton Awdurdod Unedol 4 1 5
Gorllewin Lloegr Awdurdod Cyfun 0 1 1
Gorllewin Swydd Rydychen Cyngor Dosbarth 1 0 1
Gorllewin Suffolk Cyngor Dosbarth 3 0 3
Gorllewin Sussex Cyngor Sir 0 1 1
Gorllewin Swydd Efrog Awdurdod Cyfun 0 1 1
San Steffan Bwrdeistref Llundain 2 0 2
Wigan Bwrdeistref Fetropolitanaidd 4 0 4
Wiltshire Awdurdod Unedol 5 1 6
Winchester Cyngor Dosbarth 2 0 2
Windsor a Maidenhead Awdurdod Unedol 2 1 3
Wirral Bwrdeistref Fetropolitanaidd 3 0 3
Woking Cyngor Dosbarth 1 0 1
Wokingham Awdurdod Unedol 4 1 5
Wolverhampton Bwrdeistref Fetropolitanaidd 2 0 2
Caerwrangon Cyngor Dosbarth 1 0 1
Swydd Gaerwrangon Cyngor Sir 0 1 1
Worthing Cyngor Dosbarth 2 0 2
Wrecsam Awdurdod Unedol 1 1 2
Wychavon Cyngor Dosbarth 3 0 3
Wyre Cyngor Dosbarth 3 0 3
Coedwig Wyre Cyngor Dosbarth 0 0 0
Efrog Awdurdod Unedol 2 1 3

Atodiad G: Canllaw i reoli cymorthdaliadau a Chymorth gwladwriaeth

Cyflwyniad

O 1 Ionawr 2021, mae Cyfundrefn Rheoli Cymhorthdal y DU interim wedi disodli cynllun Cymorth Gwladwriaethol yr UE, na fydd yn berthnasol i’r DU mwyach ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig yng Ngogledd Iwerddon.

Rhaid i’r holl gyllid a weinyddir gan awdurdod cyhoeddus ystyried rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau (neu ar gyfer Gogledd Iwerddon, y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau a’r gyfraith Cymorth gwladwriaethol) yn ogystal â’r holl rwymedigaethau cyfreithiol perthnasol eraill fel y gyfraith caffael (ynghyd â “chyfreithiau perthnasol”). Mae hyn yn golygu, fel adran ddyfarnu’r Gronfa Ffyniant Bro, fod yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) yn gyfrifol am sicrhau bod y cyllid y mae’n ei ddarparu yn cydymffurfio â chyfreithiau perthnasol. Fel rhan o’r cydymffurfio hwn, mae DLUHC yn mynnu bod yr holl ymgeiswyr yn cadarnhau os yw’r potensial gan y dyfarniad o’r Gronfa Ffyniant Bro i fod yn gyfystyr â chymhorthdal, a lle mae’r potensial ganddo, egluro sut gellir darparu’r cymhorthdal hwnnw yn gydymffurfiol. Yn yr un modd, yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’r potensial gan ddyfarniad o’r Gronfa Ffyniant Bro i fod yn gyfystyr â Chymorth gwladwriaeth, rhaid i ymgeiswyr ddangos sut mae’n bodloni’r rheoliadau neu’r fframweithiau a’r canllawiau.

Lle mae cynlluniau gan yr ymgeisydd arweiniol i ddyrannu rhywfaint o’r cyllid grant i drydydd partïon, fel partneriaid prosiect sy’n gweithio gydag ymgeiswyr i gyflawni’r prosiect, (e.e., rhoi is-grant), rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw alldaliad pellach o’r grant yn cael ei wneud yn unol ag unrhyw reolaeth gymwys ar gymorthdaliadau neu reolau Cymorth gwladwriaeth. Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am sicrhau bod cytundebau cyfreithiol priodol ar waith gyda phartneriaid prosiect, gyda darpariaethau adfachu digonol i ddiogelu cyllid cyhoeddus pe canfyddid yn ddiweddarach na ddilynwyd y rheolau yn gywir, neu fod dyfarniadau wedi’u gwneud ar sail gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn ymwybodol hefyd fod gofyniad ar awdurdodau cyhoeddus i gofnodi’r modd y mae telerau unrhyw ddyfarniad yn bodloni’r rheolaeth ar gymorthdaliadau a/neu gyfreithiau Cymorth gwladwriaeth, gan gynnwys sut y cânt eu darparu. Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi datblygu cronfa ddata tryloywder newydd sydd ar gael i’r cyhoedd i awdurdodau cyhoeddus gofnodi cymorthdaliadau. At ddibenion cadw cofnodion, bydd yn ofynnol i’r holl awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys DLUHC, i gofnodi a chyflwyno gwybodaeth am unrhyw gymorthdaliadau a ddyfarnwyd, yn unol â gofynion tryloywder rhyngwladol.

Yng nghylch cyntaf y Gronfa Ffyniant Bro, aethpwyd at bob ymgeisydd ar wahân i gadarnhau a oedd eu cynnig yn gyfystyr â chymhorthdal neu Gymorth gwladwriaeth. Ar gyfer ail gylch y Gronfa Ffyniant Bro, mae’r ffurflen gais yn cynnwys adran newydd wedi’i neilltuo’n benodol i reoli cymorthdaliadau a Chymorth gwladwriaeth. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd lenwi’r rhan hon o’r cais - nid yw unrhyw un wedi’i eithrio.

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i’r holl ymgeiswyr.

Sut byddwn ni’n asesu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau / Cymorth Gwladwriaeth

Er bod y ffurflen gais bellach yn cynnwys adran neilltuedig ar gyfer Rheoli Cymorthdaliadau/Cymorth Gwladwriaeth, ni fydd yr asesiad yn gyfyngedig i’r adran hon, a byddwn hefyd yn ystyried ymatebion yr ymgeisydd ar draws y cais ehangach (yn enwedig yr adran Ymarferoldeb Cyflawni). Bydd yr asesiad rheoli cymorthdaliadau/Cymorth gwladwriaeth yn sefyll yn annibynnol (ni fydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r fframwaith sgorio). Bydd ymatebion yn destun proses graddio risg Coch Melyn Gwyrdd; lle mae cynnig yn creu risg annerbyniol lle mae cynigion yn nodi’n glir y ceir cyflawni heb gydymffurfio, yna gall y cynnig fethu’r asesiad a gellir argymell ei wrthod ar sail anghymhwystra.

Lle nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol fod y dyfarniad o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cydymffurfio o dan Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau neu reolau Cymorth gwladwriaeth y DU, yna gellid ystyried bod y prosiect yn anghymwys, a gellir gwrthod y cais.

Gofynion gwneud cais o dan Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau’r DU

Rhaid i’r holl ymgeiswyr ystyried a fydd buddsoddiad y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymhorthdal uniongyrchol yn unol â rhwymedigaethau’r DU ar reoli cymorthdaliadau, yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd canllawiau Rheoli Cymorthdaliadau’r DU ar gyfer awdurdodau cyhoeddus i’w helpu i ddehongli’r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau, ac mae hyn yn gymwys hefyd i sefydliadau nad ydynt yn gyhoeddus i ddeall y modd y mae’n rhaid cymhwyso’r egwyddorion hyn. I gael rhagor o fanylion, dylai ymgeiswyr gyfeirio at y canllawiau pellach a gyhoeddwyd yma:

Yn gyntaf, rhaid i’r holl ymgeiswyr bennu p’un a allai unrhyw rai o’r gweithgareddau cynlluniedig a nodwyd yng nghynnig y Gronfa Ffyniant Bro fod yn gyfystyr â chymhorthdal. Mae gan fesur cymorth bedair nodwedd allweddol sy’n debygol o ddangos y byddai’n cael ei ystyried yn gymhorthdal, a byddai angen bodloni pob un ohonynt:

1. rhaid i’r mesur cymorth fod yn gyfraniad ariannol (neu o fath arall) fel grant, benthyciad neu warant, a rhaid iddo gael ei ddarparu gan ‘awdurdod cyhoeddus’, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol; 2. rhaid i’r mesur cymorth roi mantais economaidd ar un neu fwy o gyfranogwyr economaidd; 3. mae’r mesur cymorth yn benodol i’r graddau ei fod yn fuddiol, fel mater o gyfraith neu fater o ffaith, i rai cyfranogwyr economaidd dros rai eraill mewn perthynas â chynhyrchu rhai nwyddau neu wasanaethau; ac 4. rhaid i’r mesur cymorth fod â’r potensial i achosi ystumio neu niweidio cystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.

Mae “cyfrannwr economaidd” yn golygu endid neu grŵp o endidau sy’n gyfystyr ag endid economaidd unigol, ni waeth beth yw ei statws cyfreithiol, sy’n ymgysylltiedig â gweithgarwch economaidd trwy gynnig nwyddau neu wasanaethau ar farchnad.

Rhaid i ymgeiswyr ystyried p’un a yw unrhyw rai o’r gweithgareddau cynlluniedig a nodwyd yn eu cynnig y Gronfa Ffyniant Bro yn bodloni pob un o’r pedwar nodwedd hyn. Lle bodlonir yr holl nodweddion, gofynnir i fuddsoddwyr wedyn egluro sut gellid darparu’r cymhorthdal yn gydymffurfiol. Bydd hyn yn golygu ystyried sut gellir darparu’r cymhorthdal yn unol â’r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau canlynol a restrir yn y Bil Rheoli Cymhorthdal:

1. dylai cymorthdaliadau ddilyn amcan polisi cyhoeddus penodol i unioni methiant a nodwyd yn y farchnad neu i fynd i’r afael â rhesymeg ecwiti fel anawsterau cymdeithasol neu bryderon dosbarthiadol (“yr amcan”). 2. dylai cymorthdaliadau fod yn gymesur ac yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r amcan. 3. dylai cymorthdaliadau fod wedi eu cynllunio i achosi newid yn ymddygiad economaidd y buddiolwr sy’n ffafriol i gyflawni’r amcan ac na fyddai’n cael ei gyflawni pe na bai cymorthdaliadau’n cael eu darparu. 4. ni ddylai cymorthdaliadau fel arfer wneud iawn am gostau y byddai’r buddiolwr wedi eu cyllido yn absenoldeb unrhyw gymhorthdal. 5. dylai cymorthdaliadau fod yn offeryn polisi priodol i gyflawni amcan polisi cyhoeddus ac ni ellir cyflawni’r amcan hwnnw drwy ddulliau eraill llai ystumiol. 6. dylai cymorthdaliadau gael eu dylunio i gyflawni eu hamcan polisi penodol tra’n lleihau unrhyw effeithiau negyddol ar gystadleuaeth neu fuddsoddiad o fewn y Deyrnas Unedig. 7. dylai cyfraniadau cadarnhaol cymorthdaliadau at gyflawni’r amcan orbwyso unrhyw effeithiau negyddol, yn enwedig yr effeithiau negyddol ar fasnach neu fuddsoddi rhwng y Partïon.

Os yw’r gweithgareddau Cronfa Ffyniant Bro yn gyfystyr â chymhorthdal ond nad yw bob un o’r egwyddorion wedi’u bodloni, ystyrir bod cais y Gronfa Ffyniant Bro yn methu cydymffurfio a gallai gael ei wrthod.

Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i geisio cyngor cyfreithiol cyn llenwi’r rhan hon o’r ffurflen gais.

Gofynion cais ychwanegol sy’n benodol i sefydliadau ymgeisio’r sector cyhoeddus

Lle mae ymgeiswyr awdurdod lleol yn defnyddio arian y Gronfa Ffyniant Bro yn uniongyrchol, disgwylir iddynt lenwi’r adrannau rheoli cymorthdaliadau ar y ffurflen gais.

Fodd bynnag, lle mae awdurdodau lleol yn bwriadu rhoi arian y Gronfa Ffyniant Bro i drydydd parti, rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth bod y broses y byddant yn ei dilyn yn cydymffurfio. O 1 Ionawr 2021, rhaid i bob cyllid a weinyddir gan awdurdod lleol ystyried rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau, ac mae hyn yn berthnasol i unrhyw arian y Gronfa Ffyniant Bro a ddyfernir ymlaen i sefydliadau trydydd parti. Lle mae’r adran yn dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i awdurdodau lleol, rhaid i’r adran fod yn fodlon y bydd yr awdurdodau lleol yn dyfarnu’n gydymffurfiol. Yn yr achos hwn, rhaid i Brif Swyddog Ariannol yr awdurdod ddarparu datganiad o gydymffurfio llofnodedig yn dilysu cyflawni’n gydymffurfiol.

Gofynion ceisiadau o dan Reolaeth Cymorthdaliadau a chyfraith Cymorth gwladwriaeth sy’n benodol i gyflawni yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd yr holl sefydliadau yng Ngogledd Iwerddon (cyhoeddus a heb fod yn gyhoeddus) yn ddarostyngedig i’r rheolau rheoli cymorthdaliadau a Chymorth gwladwriaeth. O dan Erthygl 107 ac 108 y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU), mae cyfraith Cymorth gwladwriaeth yn mynnu bod y wladwriaeth yn sicrhau cydymffurfio. Yng Ngogledd Iwerddon, yr adran fydd y rhoddwr cymorth uniongyrchol i’r holl ymgeiswyr; cyhoeddus a heb fod yn gyhoeddus, ac felly ni all ddirprwyo cyllid i gorff cyhoeddus arall. Byddwn yn mynnu bod ymgeiswyr yn amlinellu sut byddant yn rheoli cynllun Cymorth gwladwriaeth/ rheoli cymorthdaliadau cydymffurfiol.

Ar gyfer cynigion yng Ngogledd Iwerddon sy’n cynnwys gweithgareddau yr ystyrir eu bod yn Gymorth gwladwriaeth, mae’n ofynnol i ymgeiswyr egluro ar y cychwyn pa eithriad y bwriadant ei ddefnyddio i’w wneud yn gyfreithlon.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gymhwyso’r profion Cymorth gwladwriaeth i bob sefydliad a allai elwa o ddyfarniad y Gronfa Ffyniant Bro. I wneud hyn, rhaid i’r ymgeisydd restru pob endid sydd â’r potensial i fod â mantais economaidd o ganlynid i’r cyllid. Wedyn, rhaid i’r ymgeisydd gymhwyso pob un o’r pedwar prawf i bob buddiolwr i bennu p’un a fydd y dyfarniad yn gyfystyr â Chymorth gwladwriaeth. Byddai angen bodloni bob un o’r pedwar prawf canlynol:

  • A yw’r cymorth yn cael ei roi gan y wladwriaeth neu drwy adnoddau’r wladwriaeth?
  • A yw’r cymorth yn cynnig mantais na fyddai’r ymgymeriad yn ei chael fel arall?
  • A yw’r arian yn gwyrdroi, neu a yw’r potensial ganddo i wyrdroi, cystadleuaeth?
  • A yw’r arian yn effeithio ar fasnach rhwng Aelod-wladwriaethau?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ystyried p’un a yw’r dyfarniad yn bodloni’r holl brofion ar gyfer pob buddiolwr. Os bodlonir bob un o’r pedwar prawf, yna mae’r dyfarniad yn gyfystyr â Chymorth gwladwriaeth a rhaid iddo gydymffurfio â’r gyfraith Cymorth gwladwriaeth.

Mae dehongliad y Comisiwn Ewropeaidd o gyfraith achosion yr UE o ran yr hyn sy’n gyfystyr a’r hyn nad yw’n gyfystyr â Chymorth gwladwriaeth wedi’i amlinellu yn Commission Notice on the Notion of State aid.

Bydd angen i sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau’r sector cyhoeddus gadarnhau os mai mentrau bach neu chanolig (BBaCh) ydynt. Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth

Hefyd, mae’n ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau a fydd y prosiect yn cael ei ariannu o dan fframwaith, canllawiau neu o dan esemptiad yn seiliedig ar y Rheoliadau Esemptiad Bloc Cyffredinol (“GBER”) (Rheoliad 651/2014). Os cânt eu hariannu o dan GBER, dylai ymgeiswyr gadarnhau o dan ba ddarpariaeth, teitl y cynllun, swm y cyllid i’w ddarparu o dan y GBER a dangos sut maent yn bodloni telerau’r esemptiad.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr hefyd naill ai gadarnhau bod y prosiect o fewn cwmpas Rheoliad 6(5) neu ddangos effaith cymhelliad yn unol â Rheoliad 6(2) y Rheoliadau Esemptiad Bloc Cyffredinol (651/2014).

Rhaid i ymgeiswyr nodi hefyd sut byddant yn monitro a rheoli cyflawni’r cymorth i ddangos sut y bydd y ddarpariaeth cymorth yn parhau i gael ei gyflawni’n gydymffurfiol at ddibenion archwilio.

Lle mae sefydliad yr ymgeisydd yn destun adennill Cymorth gwladwriaethol, rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r manylion yn egluro telerau’r adennill a manylion bras.

Mae cyfraith cymorth gwladwriaeth yn gymhleth o ran ei natur. Mae unrhyw ddyfarniad Cymorth gwladwriaeth anghyfreithlon yn debygol o arwain at adennill y cymorth gan y buddiolwr gydag adlog wedi’i ôl-ddyddio i ddyddiad y dyfarniad. Er mwyn lleihau risg diffyg cydymffurfio, mae’n ofynnol i’r holl ymgeiswyr nad ydynt yn sector cyhoeddus gael cyngor cyfreithiol annibynnol sy’n cyfateb i ymateb yr ymgeisydd ar Gymorth gwladwriaeth, a sut y maent yn bwriadu cyflawni o dan Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau’r DU. Mae’n ofynnol i’r ymgeiswyr nad ydynt yn sector cyhoeddus gyflwyno’r cyngor fel tystiolaeth i ddilysu yr ystyrir bod y dyfarniad cyllid yn gydymffurfiol.

Os yw prosiect ymgeiswyr nad ydynt yn sector cyhoeddus yn llwyddo i dderbyn cyllid, bydd yr esemptiadau Cymorth gwladwriaeth y cyfeiriwyd atynt yn y cais yn ffurfio rhan o Gytundeb Cyllid Grant (GFA). Bydd y GFA yn cynnwys darpariaeth adfachu hefyd ar gyfer gweithgarwch nad yw’n cydymffurfio o dan reolau Cymorth gwladwriaeth a Chyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau’r DU. Bydd yr holl brosiectau llwyddiannus yn destun gwiriadau cydymffurfio targedig a hap-wiriadau lle bydd swyddog yn cynnal cyfres o wiriadau a fydd yn cynnwys adolygiad o’r esemptiadau Cymorth gwladwriaeth a rheoli cymorthdaliadau, a sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu a’i monitro.

Atodiad H: Rhestr o awdurdodau lleol newydd yng Nghategori 1 i dderbyn cyllid capasiti (ar gyfer ymgeiswyr Lloegr, yr Alban, a Chymru yn unig)

Rhanbarth Enw’r ALl
Dwyrain Lloegr Maldon
Dwyrain Lloegr Gogledd Norfolk
Llundain Brent
Llundain Hackney
Llundain Coedwig Waltham
Gogledd Orllewin Lloegr Allerdale
Gogledd Orllewin Lloegr Chorley
Gogledd Orllewin Lloegr Copeland
Gogledd Orllewin Lloegr Cilgwri
Gorllewin Canolbarth Lloegr Coventry
Gorllewin Canolbarth Lloegr Swydd Henffordd
Gorllewin Canolbarth Lloegr Bryniau Malvern
Gorllewin Canolbarth Lloegr Nuneaton a Bedworth
Gorllewin Canolbarth Lloegr Redditch
Swydd Efrog a’r Humber Kirklees

  1. Gallai gwariant cymwys yn 2002-23 gynnwys costau datblygu cyfalaf  2

  2. Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei roi ar waith ar gyfer awdurdodau lleol, a Chytundeb Cyllid Grant ar gyfer awdurdodau nad ydynt yn lleol yng Ngogledd Iwerddon.