Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (SD12): Cyfrifoldebau dirprwyaeth awdurdod cyhoeddus (fersiwn y we)
Diweddarwyd 31 Awst 2017
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Crynodeb
Atgoffir awdurdodau cyhoeddus am eu rhwymedigaethau cyfreithiol a’u dyletswydd gofal pan benodir hwy’n ddirprwy gan y Llys Gwarchod i reoli materion ariannol pobl sydd heb alluedd meddyliol.
Ni chaniateir dirprwyo dyletswyddau y tu allan i’r awdurdod cyhoeddus, a dylid cymryd gofal wrth gontractio gyda neu atgyfeirio cleientiaid bregus at ddarparwyr dirprwyaeth allanol.
Dirprwyo dyletswyddau: y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Cod Ymarfer
Mae awdurdodau cyhoeddus a benodir gan y Llys Gwarchod i reoli cyllid ac eiddo pobl sydd heb alluedd meddyliol yn gyfrifol am incwm ac asedau pobl fregus, a all fod yn werth miliynau lawer o bunnoedd.
Mae rhwymedigaeth arnynt i weithredu yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005, ei rheoliadau cysylltiedig, a Chod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Lle mae’r dirprwy a enwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau i oedolion neu’n swyddog awdurdod cyhoeddus arall, gall ddirprwyo dyletswyddau i staff eraill yr awdurdod cyhoeddus, ond mae’n parhau i fod yn atebol am weithredoedd a phenderfyniadau mewn perthynas â’r cleientiaid hynny.
Ni ellir dirprwyo dyletswyddau i gyrff y tu allan i’r awdurdod cyhoeddus.
Ffactorau pwysig i’w cofio
Cynghorir awdurdodau cyhoeddus sy’n ystyried newid o ddarpariaeth uniongyrchol gwasanaeth dirprwyaeth i ystyried yn ofalus y dewisiadau sydd ar gael yn lleol i sicrhau nad yw cleientiaid bregus yn cael eu hamlygu i risg o gam-drin ariannol.
Os yw’n ymrwymo i drefniadau cytundebol â darparwr allanol, bydd yr awdurdod cyhoeddus yn dymuno bodloni ei hun fod y darparwr yn addas i ymdrin â sefyllfa ariannol pobl fregus.
Gall archwiliadau gynnwys sicrhau fod gwiriadau troseddol priodol ynghylch unigolion a gyflogir gan ddarparwyr wedi cael eu cynnal gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd y gwiriad manylach yn datgelu’r un wybodaeth â gwiriad safonol, ond bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth gan yr heddlu lleol sy’n berthnasol ac y dylid ei datgelu.
Mae’n bosibl y bydd gan awdurdodau cyhoeddus gysylltiadau cryf hefyd â’u heddlu lleol drwy eu byrddau diogelu, a allai ddarparu cyfle i drafod achosion o’r fath cyn eu penodi.
Mae’n rhaid i unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd eisiau ymddeol o fod yn ddirprwy yn eu hachosion presennol wneud cais i’r Llys Gwarchod, ac os felly, bydd y llys yn disgwyl i’r awdurdod cyhoeddus ddangos bod dirprwy amgen priodol wedi cael ei nodi, os bydd yn ofynnol cael un o hyd.
Gall methu â mynd i’r afael â’r materion hyn arwain at bryderon diogelu a gwneud yr awdurdod cyhoeddus yn agored i risg i’w enw da, ac mewn rhai achosion, risg ariannol.
Am ragor o gyngor
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Ffôn 0300 456 0300
www.gov.uk/become-deputy