Atodiad A: Cyfarwyddiadau Cais am Grant
Cyhoeddwyd 23 Mai 2022
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. 1. Gwybodaeth gyffredinol
Mae’r cyfarwyddiadau hyn, ynghyd â dogfen Canllaw Menter Cyflogaeth Dan Gymorth Lleol (LSE) i Awdurdod Lleol LSE (“Canllaw”) a’r holl wybodaeth a dogfennau eraill y maent yn cyfeirio atynt, wedi’u cynllunio i sicrhau bod pob Templed Cais am Grant: Cyflogaeth Dan Gymorth Lleol (“Cais am Grant LSE”) sydd wedi’i gwblhau yn cael ystyriaeth gyfartal a theg. Mae’n bwysig, felly, eich bod yn darparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn y fformat a’r drefn a nodir.
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys y wybodaeth a’r cyfarwyddiadau sydd eu hangen ar awdurdodau lleol (ALlau) i gyflwyno Cais am Grant LSE wedi’i gwblhau.
Darllenwch y wybodaeth a’r cyfarwyddiadau yn ofalus gan y gallai methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddiadau arwain at wahardd eich Cais am Grant o’r ymarfer hwn. Mae angen i Awdurdodau Lleol sicrhau eu bod wedi darllen yr holl ddogfennaeth sydd wedi’i chynnwys yn y pecyn hwn yn drylwyr fel nad yw cwestiynau neu geisiadau am eglurhad yn cael eu codi’n ddiangen.
Bydd gan y termau a ddiffinnir yn y Canllaw a/neu’r Amodau Cyllid Grant ar gyfer Cyflogaeth dan Gymorth Lleol cytundeb cyllid grant (a nodir yn Atodiad A i’r Canllaw) yr un ystyr yn y cyfarwyddiadau hyn.
2. 2. Gweinyddu’r broses Cais am Grant LSE
Mae’r broses Cais am Grant y Fenter Cyflogaeth Dan Gymorth Lleol (LSE) yn agor ar 14 Ebrill 2022 ac mae gennych tan 5pm 26 Mai 2022 i e-bostio eich Cais am Grant i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Bydd y Ceisiadau am Grant a dderbynnir yn cael eu sifftio yn unol â’r Meini Prawf Dethol isod yn y lle cyntaf, cyn cael eu trosglwyddo i’r panel i’w gwirio yn erbyn y Meini Prawf Dethol, eu hasesu, eu sgorio, dyrannu pwyntiau ychwanegol (os yn berthnasol) a’u rhoi mewn trefn ar sail nodweddion penodol. Unwaith y bydd DWP wedi penderfynu pa Ymgeiswyr am Grant y bydd Grantiau LSE yn cael eu dyfarnu iddynt bydd tîm DWP LSE yn ysgrifennu at gysylltiadau ALl (gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd) i’w hysbysu o’r canlyniad a dosbarthu’r Cytundebau Cyllid Grant wedi’u cwblhau i’r ALlau llwyddiannus.
3. 3. Costau a threuliau
Ni fydd DWP yn ad-dalu unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth a wynebir gan ALlau mewn cysylltiad â’r Cais am Grant LSE.
4. 4. Eglurhad o gwestiwn
Bydd cofnod cwestiwn ac ateb yn cael ei gadw gan y rhaglen yn dilyn y lansiad i reoli a monitro’r holl gwestiynau a godir er mwyn darparu ymateb cyson i ymholiadau. Bydd y cofnod cwestiwn ac ateb yn cael ei gyhoeddi bob wythnos. Rhaid cyflwyno cwestiynau erbyn dydd Gwener 13 Mai 2022, ac wedi hynny bydd fersiwn terfynol o’r cofnod yn cael ei ddosbarthu.
Bydd yn cael ei ddosbarthu i bob Awdurdod Lleol sy’n tanysgrifio i’r cofnod. Felly, nodwch a hoffech danysgrifio trwy anfon e-bost i DWP gyda’r penawd pwnc ‘Tanysgrifio Cwestiwn ac Ateb’. Bydd pob cwestiwn yn ddienw.
Yn amodol bob amser ar rwymedigaethau’r DWP o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, EIR ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall, os bydd unrhyw beth yn eich cwestiwn am eglurder rydych yn teimlo sy’n sensitif i’ch ALl, nodwch hyn wrth godi’r cwestiwn a byddwn yn ystyried a ddylid ei hepgor o’r cofnod fydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd DWP yn ystyried sensitifrwydd y cwestiwn am eglurder ac os yw’n ystyried bod y cwestiwn am eglurder yn sensitif bydd yn rhoi cyfle i’r ALl naill ai dynnu’r cwestiwn am eglurder yn ôl heb dderbyn ateb neu gadarnhau nad yw’r cwestiwn am eglurder yn sensitif (os felly bydd yr ymateb yn cael ei ddosbarthu i bob ALl sy’n tanysgrifio). Os yw DWP yn ystyried bod cwestiwn am eglurder yn sensitif ac na fyddai darparu ymateb ond i’r ALl perthnasol yn ffafrio neu’n anffafrio unrhyw ALl nac yn ystumio cystadleuaeth, yna gall ymateb i’r ALl hwnnw yn unig.
5. 5. Derbyn a dychwelyd ceisiadau am grant
Unwaith y bydd Templedi Ceisiadau am Grant a Thempledi Proffiliau sydd wedi’u cwblhau yn cael eu cyflwyno, byddant yn aros heb eu hagor hyd nes y bydd y dyddiad cau ar gyfer eu derbyn wedi mynd heibio ac yna byddant yn cael eu hagor a’u gwirio yn erbyn y Meini Prawf Dethol, eu hasesu, eu sgorio, dyrannu pwyntiau ychwanegol (os yn berthnasol) a’u rhoi mewn trefn ar sail nodweddion penodol yn unol â’r gweithdrefnau fel yr amlinellir yn yr Atodiad A hwn. Bydd Ceisiadau am Grant yn cael gwiriad cydymffurfio cychwynnol i sicrhau bod yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi’i derbyn. Os nad yw Cais Am Grant a dderbyniwyd gan ALl yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen, bydd y Cais am Grant hwnnw yn cael ei wrthod ac ni fydd bellach yn cael ei ystyried am Gyllid Grant LSE.
6. 6. Diogelwch data
Byddwch yn ymwybodol o wybodaeth sensitif y gallech ddymuno ei chynnwys yn eich Cais am Grant. Defnyddiwch wybodaeth ddienw os ydych yn cyfeirio at enghraifft benodol, peidiwch â chynnwys unrhyw ddata personol. Nodwch, mae’r Fenter Cyflogaeth Dan Gymorth Lleol yn destun i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth safonol.
7. 7. Amserlen Cais am Grant
Isod mae’r “Amserlen y broses Cais Am Grant” arfaethedig. Canllaw yw hwn ac, er nad yw’r DWP yn bwriadu gwyro’n sylweddol oddi wrtho, efallai y bydd achlysuron (er enghraifft o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogol) pan fydd yr Amserlen Gais am Grant yn destun i newidiadau.
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Lansio’r ymarfer Cais am Grant LSE | 14 Ebrill 2022 |
Dyddiad cau Cais am Grant | 5pm 26 Mai 2022 |
Gwerthuso Cais am Grant | 30 Mai 2022 i 10 Mehefin 2022 |
Rhoi gwybod i ALlau y dyfernir Grantiau LSE iddynt | Gorffennaf 2022 |
Gweithdai cychwynnol LSE * | Awst 2022 |
- Noder: Lleoliad a dyddiadau’r gweithdai cychwynnol i’w cadarnhau unwaith y bydd yr ALlau y dyfernir Grantiau LSE iddynt yn hysbys.
8. 8. Cwblhau Cais Am Grant
8.1 Templed Cais Am Grant
Yn yr adran hon mae Chi yn cyfeirio ar yr Ymgeisydd am Grant
Dylech ateb pob cwestiwn gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir, gan eu cyflwyno yn yr un dilyniant a defnyddio’r un cyfeiriadau. Sicrhewch fod pob ateb yn hunangynhwysol heb unrhyw groesgyfeirio. Dim ond gwybodaeth a roddir yn y blychau ateb priodol (y gellir ei hymestyn yn ôl yr angen ond na ddylai fod yn fwy nag unrhyw uchafswm nifer geiriau perthnasol) a gaiff ei hystyried at ddibenion gwerthuso’r Cais am Grant.
Ni ddylai’r ymatebion fod yn fwy na’r ymylon a’r gofod a osodwyd ymlaen llaw. Mae DWP wedi gosod uchafswm cyfrif geiriau ar eich ymateb i rai neu bob cwestiwn. Darperir y terfynau hyn yn y Templed Cais Am Grant a bydd unrhyw ymateb sy’n fwy na’r dyraniadau hyn yn cael eu diystyru ac ni chaiff ei werthuso.
Caniateir bwledi, tablau, graffiau syml a siartiau i gefnogi eich ymatebion. Bydd rhaid cyflwyno ymatebion gan ddefnyddio ffont maint Arial 12 (yn Gymraeg neu Saesneg a ffurfdeip du) sy’n cynnwys achosion lle gellir rhoi gwybodaeth ar ffurf tabl fel rhan o’r ymateb. Yr unig eithriad a ganiateir yw cipluniau sgrin enghreifftiol, graffiau a siartiau (os yw DWP wedi gofyn yn benodol am y rhain), y dylid eu cyflwyno o fewn y terfyn geiriau a neilltuwyd ar gyfer y cwestiwn y maent yn berthnasol iddo ac ni ddylid ei fewnosod ar wahân gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei diystyru.
Bydd rhaid cwblhau Templedi Cais am Grant gan ddefnyddio Microsoft Word. Ni dderbynnir ffeiliau a gyflwynir mewn fformat Microsoft Project, Excel neu PDF.
Mae’n rhaid i bob acronym a thalfyriad, os cânt eu defnyddio, gael eu hesbonio’n llawn.
Bydd yn rhaid i ALlau gwblhau’r Templed Cais am Grant yn llawn. Ni fydd unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol a gyflwynir yn cael eu hasesu.
8.2 Cwblhau’r Templed Cais Am Grant Ar Ran Clwstwr
Pan fydd Cais am Grant yn cael ei wneud ar ran Clwstwr o ALlau, dylai pob Awdurdodi Lleol yn y Clwstwr gael eu rhestru yn y maes ‘Enw a chyfeiriad’ ar y Templed Cais am Grant, gan nodi enw a chyfeiriad yr ALl arweiniol yn gyntaf.
Gofynnir i awdurdodau lleol a ydynt yn gweithredu darpariaeth Cyflogaeth Dan Gymorth ar hyn o bryd. Mae Cyflogaeth dan Gymorth yn fodel ar gyfer cynorthwyo unigolion sydd ag anabledd i gael gwaith ystyrlon ar y gyfradd gyflog briodol, a ddiffinnir fel o leiaf y gyfradd isaf fesul awr ar gyfer grŵp oedran y Cyfranogwr (cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol perthnasol).
Dylai Clystyrau ALl gael eu diffinio yn ôl nodweddion y mwyafrif o’r Awdurdodai Lleol yn y Clwstwr e.e. rhaid i fwy na 3 o’r ALlau mewn Clwstwr o 6 fod yn darparu Cyflogaeth dan Gymorth er mwyn i Glwstwr gael ei ddiffinio fel darparu Cyflogaeth dan Gymorth.
Os bydd rhaniad cyfartal o’r nodwedd hon mewn Clwstwr, bydd y Clwstwr yn cael ei ddiffinio fel:
- darparu gwasanaeth Cyflogaeth dan Gymorth
Wrth gynnig faint o Gyfranogwyr mae’r fydd yn dechrau ar Ddarpariaeth LSE, dylai ALlau ystyried cyfraddau gadael cyn dechrau darpariaeth i ystyried Cyfranogwyr posibl y gellir eu canfod yn anghymwys neu’n penderfynu peidio â chofrestri am y ddarpariaeth. Diffinnir dechrau ar ddarpariaeth fel y cyfarfod cyntaf gyda Chyfranogwr yn dilyn cadarnhad o gymhwysedd, lle maent yn ymuno â’r Fenter LSE. Mae’r ystod wedi’i osod ar 60-140 o Gyfranogwyr fesul ALl (neu glwstwr ble’n berthnasol), gyda disgwyliad y bydd y rhan fwyaf o ALlau (neu Glystyrau) yn gwneud cais am tua 100 o Gyfranogwyr i ddechrau ar ddarpariaeth.
Mae DWP yn cadw’r hawl i gynnig cyllid i lai o Gyfranogwyr nag y mae ALl yn ei gynnig er mwyn cysoni’r cyflenwad a’r galw am gyllid. Os yw cyfartaledd cyfanswm nifer y Cyfranogwyr a gynigir gan yr 20 Ymgeisydd Grant uchaf (ar ôl gwneud unrhyw amnewidiadau fel y nodir yn adran 14 isod) yn uwch na nifer y Cyfranogwyr a awgrymir gan DWP (100), efallai y bydd angen i DWP leihau proffiliau yn gymesur ar draws Ceisiadau am Grant. Os yw cyfartaledd cyfanswm nifer y Cyfranogwyr a gynigir gan yr 20 Ymgeisydd Grant uchaf (ar ôl gwneud unrhyw amnewidiadau fel y nodir yn adran 14 isod) yn is na nifer y Cyfranogwyr a awgrymir gan DWP (100) fesul ALl, yna gall DWP gynyddu nifer y nifer o Grantiau LSE mae’n ei ddyfarnu i sicrhau y gellir cyflawni’r nifer mwyaf posibl o Gyfranogwyr ar Fenter LSE. Cyfeirir at y Grantiau ychwanegol hyn yn y Cyfarwyddiadau Cais hyn fel “Grantiau Ychwanegol”.
Mae cyllid wedi’i gapio yn unol â nifer y Cyfranogwyr y mae’r ALl yn argymell yn y Templed Cais am Grant fel y cytunwyd gyda’r DWP ac a amlinellir yn y Llythyr Cyllid Grant. Er enghraifft, os yw’r ALl yn cynnig 100 o Gyfranogwyr, yna byddai 100 wedi’u lluosi â £3,500 yn golygu’r uchafswm o Gyllid Grant LSE y byddai’r ALl yn ei gael fyddai £350,000.
Mae’n rhaid ateb pob rhan o gwestiwn 1 o’r Templed Cais am Grant. Os nad ydynt bydd y Cais am Grant yn dod yn Gais am Grant a Wrthodwyd a ni fydd bellach yn cael ei ystyried am gyllid Grant LSE.
-
Cwestiwn 1.1 – Mae Cam 5 o’r Model Cyflogaeth dan Gymorth i’w gweld yn y Canllaw LSE i ALlau.
-
Cwestiwn 1.2.1 – Mae’r cwestiwn hwn yn caniatáu i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r proffil gwariant sydd yn rhaid ei ddarparu yn y Templed Proffil. Dylai hyn gynnwys yr holl gostau a gwariant y mae’r ALl yn disgwyl eu cael wrth gyflenwi LSE. Dylai’r cyfanswm hwn fod yn hafal i neu’n fwy na swm cyllid DWP o £3,500 fesul Cyfranogwr sy’n dechrau ar ddarpariaeth y cynigir amdani ynghyd ag isafswm Cyllid Cyfatebol Derbynnydd y Grant yr ALl o £1,500 fesul Cyfranogwr. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi Cais am Grant am 100 o bobl i ddechrau ar ddarpariaeth, dylai cyfanswm y gwariant fod o leiaf (£,3500+£1,500) x 100 = £500,000.
-
Cwestiwn 1.2.2 – Mae angen ateb Ie/Na ar gyfer ymrwymiad i wariant drwy gydol y fenter.
-
Cwestiwn 1.3 – Mae angen ateb Ie/Na ar gyfer ymrwymiad i ddarparu Cyllid Cyfatebol Derbynnydd y Grant drwy gydol y Fenter. Bydd rhaid i ALlau sicrhau bod Cyllid Cyfatebol Derbynnydd y Grant yn cael ei ddefnyddio at ddiben cyflwyno LSE yn unig ac ni fydd unrhyw ariannu dwbl.
-
Cwestiwn 1.4 – Eglurhad o wariant yn ymwneud â chyfnod gweithredu a sefydlu LSE.
-
Cwestiwn 1.5 – Dylai pob ALl fod yn gweithio i gyflawni Arweinydd Hyderus o Ran Anabledd (Lefel 3) Arweinydd DC Lefel 3 ac rydym yn argymell yn gryf bod eich rhwydwaith cyflogwyr yn ymuno â’r cynllun Hyderus o ran Anabledd a symud ymlaen ar hyd y daith.
Bydd Adran 2 yn darparu i DWP dyluniad a daearyddiaeth eich ALl i’w hystyried wrth werthuso.
Dylai Clystyrau ALl gael eu diffinio gan nodweddion y mwyafrif o’r ALlau yn y Clwstwr, e.e. rhaid i fwy na 3 o’r ALlau mewn Clwstwr o 6 fod yn wledig er mwyn i Glwstwr gael ei ddiffinio fel un gwledig.
Os bydd rhaniad cyfartal o’r nodwedd hon mewn Clwstwr, bydd y Clwstwr yn cael ei ddiffinio fel:
- Gwledig
Bydd Adran 3 yn rhoi dealltwriaeth i’r DWP o ofynion Ffyddlondeb eich ALl neu Bartner Cyflenwi Gweithgaredd penodedig. Os bydd yn llwyddiannus, gofynnir i Dderbynnydd y Grant neu ei Bartner Cyflenwi Gweithgaredd cymeradwy ddarparu tystiolaeth o’r model Nod Barcud Ffyddlondeb neu gyfwerth, os yw’n berthnasol.
Mae Adran 4, isadrannau A-D yn gwestiynau y mae’n rhaid i’r ALl ymateb iddynt a bydd ymatebion yr ALl yn cael eu sgorio yn unol â’r fethodoleg sgorio yn Adran 14 y ddogfen hon.
8.3 Templed proffil
Bydd rhaid cwblhau’r Templed Proffil sy’n cyd-fynd â’r Templed Cais Am Grant gan ddefnyddio Microsoft Excel. Ni fydd ffeiliau a gyflwynir yn Microsoft Word, Microsoft Project neu PDF yn cael eu derbyn.
Mae’n rhaid i bob acronym a thalfyriad, os cânt eu defnyddio, gael eu hesbonio’n llawn.
9. 9. Trefn Cyflwyno Cais am Grant
Yn yr adran hon mae Chi yn cyfeirio ar yr Ymgeisydd Am Grant
Ni ddylid newid y Templed Cais am Grant a’r Templed Proffil, o dan unrhyw amgylchiadau.
Gall eich Cais am Grant gael ei gwblhau a’i gyflwyno unrhyw bryd cyn neu ar y Dyddiad Cau Cais am Grant gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost DWP a ddarparwyd ym mharagraff 2.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich Templed Cais am Grant a’ch Templed Proffil wedi’u cwblhau’n llawn a bod yr holl wybodaeth wedi’i chynnwys cyn y Dyddiad Cau Cais am Grant.
Caniatewch ddigon o amser i gyflwyno’ch Cais am Grant, argymhellir eich bod yn caniatáu amser ar gyfer gwiriad terfynol cyn y Dyddiad Cau Cais am Grant. Ni fydd yn bosibl i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth bellach ar ôl y Dyddiad Cau Cais am Grant. Ni fydd problemau Technoleg Gwybodaeth (TG) o fewn eich system eich hun yn cael eu hystyried yn sail resymol dros gyflwyno’n hwyr eich Cais am Grant.
Ni ellir addasu Ceisiadau am Grant ar ôl y Dyddiad Cau Cais am Grant. Ar y Dyddiad Cau Cais am Grant, bydd rhaid i chi sicrhau mai dim ond y Templed Cais am Grant a’r Templed Proffil rydych wedi’u cyflwyno - ni dderbynnir unrhyw ddogfennau eraill.
Os bydd angen i’r DWP ymestyn y Dyddiad Cau Cais am Grant, byddwch yn cael eich hysbysu’n ysgrifenedig.
10. 10. Dyddiad cau ar gyfer Cyflwyno Cais am Grant
Mae’n rhaid i Geisiadau am Grant gael eu derbyn erbyn y Dyddiad Cau Cais am Grant a ddangosir yn yr Amserlen Gais am Grant.
Er mwyn sicrhau bod pob ALl yn cael ei drin yn deg, bydd Ceisiadau am Grant a ddaw i law ar ôl y Dyddiad Cau Cais am Grant yn cael eu gwrthod gan DWP a ddim yn cael eu hystyried am gyllid Grant LSE.
11. 11. Deunyddiau, dogfennau ac atodiadau ychwanegol
Ni ddylid cyflwyno unrhyw ddogfennaeth ychwanegol gyda thempled Cais am Grant a thempled proffil. Ni fydd gwybodaeth sy’n rhan o lenyddiaeth gyffredinol neu bamffledi hyrwyddo cwmni yn ffurfio rhan o’r broses werthuso ac ni ddylid eu cyflwyno.
Ni ddylai’r Templed Cais am Grant a’r Templed Proffil gynnwys unrhyw luniau neu ddogfennau sydd wedi’u gosod, eu gludo neu eu mewnosod (ffeiliau delwedd, dogfennau Adobe Acrobat neu ddogfennau Word eraill) oni bai bod DWP yn gofyn yn benodol am hynny.
12. 12. Proses Asesu Ceisiadau am Grant
Bydd DWP yn cynnal gwerthusiad dethol cychwynnol o bob Cais am Grant LSE i fodloni ei hun bod y Cais am Grant LSE wedi diwallu’r Meini Prawf Dethol a nodir isod, fel y nodir ym mharagraff adran 1 o Atodiad B: Templed Gwneud Cais am Grant (“Meini Prawf Dethol”).
Dim ond y Ceisiadau am Grant LSE hynny sy’n bodloni’r Meini Prawf Dethol fydd yn mynd ymlaen wedyn i gael eu hasesu gan DWP yn erbyn y Meini Prawf Asesu a nodir isod.
13. 13. Meini Prawf Dethol
Hoffai DWP weithio gydag ALlau ar draws amrywiaeth o gategorïau. Gall ALlau sydd eisoes yn darparu gwasanaeth Cyflogaeth dan Gymorth a’r rhai nad ydynt yn darparu gwasanaeth Cyflogaeth dan Gymorth ar hyn o bryd wneud Cais am Grant LSE. Er mwyn i’w Gais am Grant LSE gael ei ddewis mae’n rhaid i ALl fod:
-
wedi’i lleoli yng Nghymru neu Loegr;
-
mewn ardaloedd sy’n wledig yn bennaf neu’n drefol yn bennaf;
-
gweithredu fel Cyngor Sir neu Awdurdod Unedol (gan gynnwys Cynghorau Metropolitanaidd a Bwrdeistrefi Llundain).
I gael ei ystyried i’w ddewis mae’n rhaid i Gais am Grant LSE gwrdd â’r Meini Prawf Dethol.
Os nad yw Cais Am Grant LSE yn dangos i foddhad DWP bod yr ALl wedi bodloni’r Meini Prawf Dethol hyn, ni fydd y Cais am Grant LSE yn mynd ymlaen i gael ei asesu yn erbyn y Meini Prawf Asesu, ni fydd bellach yn cael ei ystyried ar gyfer cyllid Grant LSE a bydd yn cael ei wrthod o’r broses. Mae Cais am Grant sy’n cael ei wrthod dod yn “Gais Grant a Wrthodwyd”.
14. 14. Meini Prawf Asesu
Mae wyth cwestiwn â sgôr y mae’n rhaid i bob Ymgeisydd Grant ddarparu ymatebion iddynt wedi’u nodi yng nghwestiynau 4.1 – 4.8 o’r Templed Cais am Grant.
14.1 Adran A
4.1. Cynllun darpariaeth (6 phwynt)
4.2 Cefnogaeth gyfranogwr (6 phwynt)
4.3 Cyflenwi gweithgaredd (6 phwynt)
4.4 Gweithredu (6 phwynt)
4.5.1. Cyflenwi cyflogaeth dan gymorth (6 phwynt)
14.2 Adran B
4.6 Integreiddio lleol (6 phwynt)
14.3 Adran C
4.7 Delio â data (6 phwynt)
14.4 Adran D
4.8 Cynlluniau’r dyfodol (6 phwynt)
Mae’r tabl isod yn nodi’r Meini Prawf Asesu y bydd DWP yn chwilio amdanynt yn yr ymatebion i bob un o’r cwestiynau hyn, a fydd yn cael eu hystyried at ddibenion gwerthuso’r cwestiynau y cyfeirir atynt isod.
Cwestiwn | Meini Prawf Asesu |
---|---|
4.1 Cynllun darpariaeth | Disgrifiad clir o’r gwasanaeth i’w gyflwyno i Gyfranogwyr yn unol â Cham 5 y Model Cyflogaeth dan Gymorth Eglurhad o sut mae’r gwasanaeth LSE mae’r ALl yn bwriadu ei ddarparu yn berthnasol i unrhyw wasanaeth cyflogaeth dan gymorth presennol a ddarperir gan yr ALl Eglurhad o nifer y Cyfranogwyr mae’r ALl yn cynnig fydd yn cael eu cefnogi ar y Fenter LSE, gyda rhesymeg glir |
4.2 Cefnogaeth gyfranogwr | Dealltwriaeth o anghenion cymorth Cyfranogwyr Faint o amser a chefnogaeth y bydd pob Cyfranogwr yn ei gael gan y gwasanaeth LSE, gan ystyried y llwyth achosion ar gyfer hyfforddwyr swyddi Eglurhad o daith y Cyfranogwr a sut y bydd staff yn ymgysylltu ac yn darparu gwasanaeth cyflogaeth dan gymorth LSE o safon i bob Cyfranogwr drwy gydol yr amser mae’r Cyfranogwr ar y Fenter LSE Eglurhad o sgiliau a gwybodaeth, gan gynnwys unrhyw hyfforddiant priodol staff ALl neu unrhyw Bartner Cyflenwi Gwasanaeth sy’n rhan o ddarparu’r gwasanaeth LSE |
4.3 Cyflenwi gweithgaredd | Eglurhad a sail resymegol glir y tu ôl i bob gweithgaredd sy’n cael ei wneud fel rhan o gyflenwi’r Fenter LSE gan yr ALl gan gynnwys recriwtio i’r fenter a chymorth drwyddi draw Tystiolaeth bod y gwasanaeth LSE y mae’r ALl yn cynnig ei gyflenwi yn ychwanegol i unrhyw ddarpariaeth gyflogaeth dan gymorth mae’r ALl yn ei gyflenwi ar hyn o bryd Eglurhad o sut i reoli diwedd y Fenter LSE ac o’r camau nesaf y cytunwyd arnynt gan gynnwys y camau nesaf a fydd yn cael eu cymryd ar gyfer y rhai nad ydynt yn symud i mewn i waith Ymrwymiad i annog cyflogwyr i gofrestru i fod yn Hyderus o ran Anabledd |
4.4 Gweithredu | Mae’n rhaid i’r ALl ddangos dealltwriaeth, ac egluro’n fanwl, y camau i’w cymryd i weithredu gwasanaeth LSE a fydd yn cefnogi ystod o Gyfranogwyr mae’r ALl yn bwriadu eu cefnogi fel rhan o’r Fenter LSE Mae’n rhaid i’r ALl ddangos tystiolaeth a dealltwriaeth dda o’r prosesau gofynnol i fonitro a rheoli cyflenwi’r Fenter LSE Mae’n rhaid i’r ALl ddangos dealltwriaeth dda o’r perthnasoedd sydd eu hangen ar gyfer cyflenwi’r Fenter LSE a phrofiad o weithredu a rheoli perthnasoedd o’r fath |
4.5 Cyflenwi Cyflogaeth Dan Gymorth | Tystiolaeth o ddealltwriaeth o Gam 5 o fodel Cyflogaeth dan Gymorth Eglurhad clir o sut bydd safonau a gofynion Cam 5 y Model Cyflogaeth dan Gymorth yn cael eu bodloni a’u gwella gan gynnwys ymrwymiad i adolygiadau Ffyddlondeb priodol Disgrifiad o’r wybodaeth rheoli fydd yr ALl yn ei ddarparu i DWP ar dystiolaeth fydd yr ALl yn ei ddarparu i DWP i ddangos cydymffurfiaeth i Gam 5 y Model Cyflogaeth dan Gymorth Mae’n rhaid i’r ALl ddangos dealltwriaeth dda, ac ymrwymo i Gam 5 y Model Cyflogaeth dan Gymorth a disgrifio ei chynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd y Fenter LSE yn y dyfodol |
4.6 Integreiddio Lleol | Mae’n rhaid i’r ALl ddangos dealltwriaeth dda o wybodaeth am wasanaethau lleol perthnasol a disgrifio sut y cânt eu defnyddio’n effeithiol i sicrhau darpariaeth effeithiol o’r Fenter LSE. Rhaid i’r ALl hefyd amlinellu unrhyw ymgysylltu perthnasol sydd wedi digwydd gyda’r gwasanaethau lleol perthnasol hynny cyn y Fenter LSE Mae’n rhaid i’r ALl ddangos agwedd glir at integreiddio’r Fenter LSE gyda gwasanaethau lleol perthnasol |
4.7 Delio â Data | Mae’n rhaid i’r ALl ddangos dealltwriaeth dda o’r GDPR, deddfwriaeth a rheoliadau Diogelu Data perthnasol a sut y bydd yn bodloni holl safonau diogelwch data DWP a gofynion trin data mewn cysylltiad â’r Fenter LSE Mae’n rhaid i’r ALl ddangos dull sydd wedi’i ddiffinio’n glir ar gyfer rheoli data, gan gadw at y GDPR, deddfwriaeth a rheoliadau Diogelu Data a sut y bydd yn bodloni holl safonau diogelwch data a gofynion trin data DWP mewn cysylltiad â’r Fenter LSE |
4.8 Cynlluniau’r Dyfodol | Mae’n rhaid i’r ALl ddangos ymagwedd wedi’i diffinio’n glir at ddarpariaeth gyflogaeth dan gymorth barhaus gyda dull ariannu ymarferol ar gyfer y fath ddarpariaeth barhaus |
Bydd yr ymateb i bob cwestiwn yn cael ei sgorio yn unol â’r tabl isod.
Bydd pob ymateb yn cael ei farcio allan o 6. Mae’n ofynnol i bob ymateb sgorio o leiaf 2. Bydd Ceisiadau am Grant sy’n cynnwys ymateb i’r cwestiynau uchod yn cael ei wrthod ac ni fydd bellach yn cael ei ystyried ar gyfer cyllid Grant LSE a bydd yn dod yn Gais am Grant a Wrthodwyd. Er mwyn osgoi amheuaeth ni fydd sgôr o 0 mewn perthynas â mesur ASCOF, cyfradd cyflogaeth anabledd a data dyraniad UKSPF yn arwain at Gais am Grant LSE yn dod yn Gais am Grant a Wrthodwyd.
Sgôr | Ymateb |
---|---|
6 | Roedd yr ymateb yn gadarn, yn fanwl, wedi’i fynegi’n dda ym mhob ffordd berthnasol gan ddarparu tystiolaeth gref y byddai’r Meini Prawf Asesu perthnasol yn cael eu bodloni, heb unrhyw wendidau na meysydd sy’n peri pryder gyda’r cynnwys. |
4 | Roedd yr ymateb yn cyflwyno tystiolaeth y byddai’r Meini Prawf Asesu perthnasol yn cael eu bodloni, yn dda mewn sawl ffordd ond gyda mân wendidau neu bryderon gyda’r cynnwys. |
2 | Roedd yr ymateb yn darparu tystiolaeth dderbyniol y byddai’r Meini Prawf Asesu perthnasol yn cael eu bodloni. Roedd y dystiolaeth yn foddhaol ond nid oedd yn rhoi’r lefel o fanylion/neu’r eglurder gofynnol gan DWP. |
0 | Ni roddodd yr ymateb dystiolaeth y byddai’r Meini Prawf Asesu perthnasol yn cael eu bodloni; ac roedd yn gwbl anfoddhaol o ran cynnwys. Nodwyd gwendidau, materion neu hepgoriadau mawr. Roedd yr ymateb wedi’i fynegi’n wael a/neu’n anghyson. |
Y sgôr uchaf sydd ar gael ar gyfer ymatebion i’r wyth cwestiwn fydd 48.
15. 15. Methodoleg Sgorio a Methodoleg Gwerthuso
15.1 Methodoleg Sgorio
Bydd pob Cais am Grant LSE yn cael ei sgorio ar ei ymatebion i’r wyth cwestiwn a sgoriwyd o fewn y Cais Am Grant LSE yn erbyn y Meini Prawf Asesu a nodir uchod. Noder y bydd unrhyw gwestiynau a gafodd sgôr o sero yn arwain at y Cais am Grant LSE yn cael ei wrthod, ac na fydd yn cael ei ystyried mwyach ar gyfer cyllid Grant LSE.
Mae wyth cwestiwn â sgôr o fewn y Cais am Grant LSE. Mae pob un wedi’i bwysoli’n gyfartal.
15.2 Methodoleg Gwerthuso
Bydd y dull gwerthuso ar gyfer Ceisiadau am Grant LSE sydd heb ddod yn Geisiadau Grant a Wrthodwyd fel a ganlyn:
- Bydd pob Cais am Grant o’r fath yn cael ei werthuso ac yn cael “Sgôr Ymateb i Gwestiwn” a fydd y cyfanswm o’r sgoriau ar gyfer yr ymatebion i bob un o’r with cwestiwn sy’n cael eu sgorio yn y Cais am Grant LSE hwnnw
15.3 Cyfrifo’r pwyntiau ychwanegol
Unwaith y bydd Sgoriau Ymatebion i Gwestiynau terfynol wedi’u cyfrifo ar gyfer pob Cais Am Grant, bydd y panel gwerthuso Ceisiadau am Grant yn cynnal cyfarfod i wahanu Ceisiadau Am Grant a wneir gan ALlau yng Nghymru o’r Ceisiadau am Grant a wneir gan ALlau yn Lloegr.
Bydd y panel gwerthuso Ceisiadau am Grant wedyn yn cyfrifo’r pwyntiau ychwanegol ar gyfer pob Cais am Grant. Cyfrifir pwyntiau ychwanegol yn unol â gwahanol fesurau yn dibynnu a yw’r Cais am Grant wedi’i wneud gan ALl sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu Loegr, fel y nodir isod.
15.4 Ceisiadau am Grantiau gan ALlau o Loegr
Bydd Ceisiadau am Grant gan ALlau o Loegr nad ydynt wedi dod yn Geisiadau am Grant a Wrthodwyd yn cael pwyntiau ychwanegol yn seiliedig ar y mesur/rhestr flaenoriaeth ganlynol:
-
Bydd mesur 1e y Fframwaith Canlyniadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion (ASCOF) yn cael ei rannu’n chwartelau. Bydd ALlau sy’n sgorio yn y chwartel isaf yn derbyn 6 phwynt ychwanegol, 2il chwartel 4 pwynt, 3ydd chwartel 2 bwynt, uwchlaw hyn ni fydd yr ALlau hyn yn cael unrhyw bwyntiau ychwanegol
-
Bydd DWP yn ystyried a yw unrhyw ALlau yn Lloegr sydd wedi gwneud Cais am Grant yn un o’r lleoedd a nodwyd yn y 100 o leoedd blaenoriaeth, at ddibenion dyrannu Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae’r rhestr hon o 100 o leoedd blaenoriaeth hefyd yn llywio dyluniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd DWP yn rhoi 6 phwynt ychwanegol i ALlau yn Lloegr sydd wedi gwneud Cais am Grant ac sydd ar y rhestr 100 o leoedd blaenoriaeth hon. Ni fydd ALlau yn Lloegr sydd wedi gwneud Cais am Grant ond nad ydynt ar y rhestr flaenoriaeth 100 lle hon yn cael unrhyw bwyntiau ychwanegol
15.5 Ceisiadau am Grant gan ALlau Cymru
Bydd Ceisiadau am Grant gan ALlau o Loegr nad ydynt wedi dod yn Geisiadau am Grant a Wrthodwyd yn cael pwyntiau ychwanegol yn seiliedig ar y mesur/rhestr flaenoriaeth ganlynol:
-
Bydd DWP yn edrych ar gyfradd cyflogaeth anabledd ALlau yng Nghymru sydd wedi gwneud Cais am Grant. Bydd cyfradd gyflogaeth anabledd Cymru yn cael ei rhannu’n chwartelau. Bydd ALlau Cymru sydd yn y chwartel isaf yn cael 6 phwynt ychwanegol, 2il chwartel 4 pwynt, 3ydd chwartel 2 bwynt, uwchlaw hyn ni fydd yr ALlau Cymru hyn yn cael unrhyw bwyntiau ychwanegol
-
Bydd DWP yn ystyried a yw unrhyw ALlau yng Nghymru sydd wedi gwneud Cais am Grant yn un o’r lleoedd a nodwyd yn y 100 o leoedd blaenoriaeth, at ddibenion dyrannu Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae’r rhestr hon o 100 o leoedd blaenoriaeth hefyd yn llywio dyluniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd DWP yn rhoi 6 phwynt ychwanegol i ALlau Cymru sydd wedi gwneud Cais am Grant ac sydd ar y rhestr 100 o leoedd blaenoriaeth hwn. Ni fydd ALlau Cymru sydd wedi gwneud Cais am Grant ond nad ydynt ar y rhestr flaenoriaeth 100 lle hon yn cael unrhyw bwyntiau ychwanegol
15.6 Cyfanswm y Sgôr
Cyfanswm y Sgôr” ar gyfer pob Cais am Grant nad ydynt wedi dod yn Geisiadau am Grant a Wrthodwyd fydd swm y pwyntiau ychwanegol wedi’u hychwanegu at y Sgoriau i Ymatebion Cwestiwn ar gyfer y Cais am Grant hwnnw.
15.7 Gosod mewn trefn a dewis Ceisiadau Grant
Yna bydd y Ceisiadau am Grant yn cael eu gosod mewn trefn yn ôl Cyfanswm Sgôr a bydd yr 20 Cais am Grant gyda’r Cyfanswm Sgoriau uchaf (“Yr 20 Uchaf yn ôl Sgôr”) yn cael eu dewis i dderbyn Grantiau, ar yr amod:
a) bydd uchafswm o 2 Grant yn cael eu dyfarnu i ALlau yng Nghymru; a
b) rhaid i’r nodweddion graddio a nodir isod (“Nodweddion Gosod Mewn Trefn”) gael eu bodloni gan dderbynwyr y Grantiau. Os na chaiff gofynion unrhyw Nodwedd(ion) Safle eu cyflawni gan yr 20 uchaf yn ôl y sgôr, yna gall DWP, yn unol â threfn pwysigrwydd y Nodweddion Gosod Mewn Trefn, ddisodli’r Cais am Grant â’r sgôr isaf o’r 20 Uchaf yn ôl Sgôr nad oes eu hangen er mwyn bodloni Nodwedd Safle (gan gymryd i ystyriaeth Nodweddion Gosod Mewn Trefn Ceisiadau Grant â sgôr uwch) gyda’r Ceisiadau Grant â’r sgôr uchaf sy’n ofynnol i fodloni’r Nodweddion Gosod Mewn Trefn (ond nad ydynt o fewn yr 20 uchaf yn ôl sgôr). E.e. pe na bai’r 20 uchaf yn ôl sgôr yn cynnwys y nifer lleiaf o ALlau gwledig yn unol â Nodweddion Gosod Mewn Trefn (b), byddai DWP yn disodli’r ALl trefol â’r sgôr isaf yn yr 20 uchaf â’r ALlau gwledig â’r sgôr uchaf nad oedd yn y Rhestr 20 Uchaf yn ôl Sgôr
Ar ôl graddio’r holl Geisiadau am Grant yn unol â’r Nodweddion Gosod Mewn Trefn ac (os oes angen) defnyddio’r fethodoleg datglwm y cyfeirir ati yn adran 16 isod, bydd y panel gwerthuso Ceisiadau am Grant yn cytuno ar ddetholiad terfynol o 20 ALl y dyfernir Grantiau LSE iddynt. Yna gall DWP ystyried nifer cyfartalog y Cyfranogwyr a gwmpesir gan 20 Cais am Grant o’r fath a phenderfynu a yw’n dymuno dyfarnu Grantiau Ychwanegol ai peidio, fel y nodir yn adran 8 uchod (gan ddefnyddio’r fethodoleg datglwm os oes angen).
Mae’r Nodweddion Gosod Mewn Trefn fel a ganlyn:
(a) a yw’r Cais am Grant yn wedi’i leoli yng Nghymru neu Loegr.
Bydd uchafswm o 2 Grant LSE yn cael eu dyfarnu i ALlau o Gymru
(b) a yw’r Cais am Grant yn wledig neu drefol (gweler Atodiad B: Templed Cais am Grant)
Bydd o leiaf 3 o’r Grantiau LSE yn cael eu dyfarnu i Geisiadau am Grant gwledig. Bydd ALlau yn darparu’r wybodaeth hon yn adran 2.3 o’r Templed Cais am Grant.
(c) os yw’r Ymgeisydd am Grant ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth cyflogaeth dan gymorth ai peidio
Bydd o leiaf 3 o’r Grantiau LSE yn cael eu dyfarnu i ALlau sydd gan wasanaeth cyflogaeth dan gymorth ar hyn o bryd.
(d) os yw’r Cais am Grant wedi’i leoli yng Ngogledd Orllewin Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr neu Ddwyrain Canolbarth Lloegr
Dyfernir o leiaf 3 Grant LSE i ALlau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Lloegr, Gogledd = NW, NE, WM, EM, Swydd Efrog ar Humber.
(e) os yw’r Cais am Grant wedi’i leoli yn Llundain neu yn Ne-orllewin Lloegr, De-ddwyrain Lloegr, neu Ddwyrain Lloegr
Dyfernir o leiaf 3 Grant LSE i ALlau a leolir yn Ne Lloegr, De = SW, SE, Llundain, Dwyrain Lloegr
Mae’r Nodweddion Gosod Mewn Trefn wedi’u rhestru mewn trefn pwysigrwydd (a) i (e) a bydd DWP yn eu gymhwyso yn y drefn hon.
15.8 Asesu Clystyrau ALlau
Dylai Clystyrau ALl gael eu diffinio gan Nodweddion Gosod Mewn Trefn y mwyafrif o’r ALlau yn y Clwstwr, e.e. rhaid i fwy na 3 o’r ALlau mewn clwstwr o 6 fod yn wledig er mwyn i Glwstwr gael ei ddiffinio fel un gwledig.
Os bydd rhaniad cyfartal o Nodweddion Gosod Mewn Trefn (b) ymysg ALlau mewn Clwstwr, bydd y Clwstwr yn cael ei ddiffinio fel:
- Gwledig
Dylai Clystyrau ALl gael eu diffinio yn ôl nodweddion y mwyafrif o’r ALlau yn y Clwstwr e.e. rhaid i fwy na 3 o’r ALlau mewn Clwstwr o 6 fod yn darparu gwasanaeth cyflogaeth dan gymorth er mwyn i Glwstwr gael ei ddiffinio fel darparu Cyflogaeth dan Gymorth.
Os bydd rhaniad cyfartal o Nodweddion Gosod Mewn Trefn (c) mewn Clwstwr, bydd y Clwstwr yn cael ei ddiffinio fel:
- Darparu gwasanaeth cyflogaeth dan gymorth
Bydd cyfartaledd cymedrig o bwyntiau ychwanegol pob Aelod Clwstwr mewn perthynas â’r mesur ASCOF, neu gyfradd cyflogaeth anabledd ac ymddangosiad yn y rhestr o 100 o leoedd blaenoriaeth yn cael eu cyfrifo i roi’r pwyntiau ychwanegol (os oes rhai) ar gyfer pob Clwstwr.
16. 16. Datglwm
Bydd datglwm yn cael ei gynnal fel y nodir isod os bydd angen gwahaniaethu rhwng dau neu fwy o Geisiadau am Grant sy’n llwyddo i gael yr un Cyfanswm Sgôr fel na fydd cyfanswm nifer y Grantiau y bwriedir eu dyfarnu yn cael ei basio.
Pan fydd angen datglwm, caiff ei gymhwyso i sgoriau’r holl Geisiadau am Grant perthnasol gyda Chyfanswm Sgoriau yn gyfartal. Noder nad yw’r defnydd o un datglwm yn ddigon o bosibl i nodi’n glir yr holl Geisiadau am Grant llwyddiannus ac felly, os na fydd y datglwm cyntaf yn cynhyrchu canlyniad sy’n gwahaniaethu’r Ceisiadau am Grant sydd â’r un Cyfanswm Sgôr, defnyddir ail ddatglwm.
Bydd y gweithrediad o’r datglwm fel a ganlyn. Os bydd hyn yn arwain at ganlyniad clir ar unrhyw adeg sy’n gwahaniaethu’r Ceisiadau am Grant sydd â’r un Cyfanswm Sgôr, caiff y broses ei therfynu ac fe bernir bod y Cais am Grant gyda’r sgôr uchaf yn llwyddiannus.
16.1 Cam 1
bydd 10% o’r sgôr ar gyfer cwestiwn 4.5.1 yn cael ei ychwanegu at Gyfanswm Sgôr.
Cam 2
bydd 10% o’r sgôr ar gyfer cwestiwn 4.2, yn cael ei ychwanegu at y sgôr o Gam 1.
Cam 3
bydd 10% o’r sgôr ar gyfer cwestiwn 4.3 yn cael ei ychwanegu at y sgôr o Gam 2.
17. 17. Hysbysiad ar ôl dewis
Bydd DWP yn hysbysu’r Ymgeiswyr am Grant drwy gyswllt y person a enwir yn eu Templed Cais am Grant trwy e-bost o ganlyniad y broses Grant LSE a gwblhawyd erbyn y dyddiad a nodir yn amserlen y Cais am Grant.
Bydd adborth ar gael ar gais.
18. 18. Proses Datrys Materion sy’n codi o’r broses Cais am Grant
Os bydd unrhyw faterion, cwestiynau neu bryderon yn ystod cyfnod cwblhau’r Cais Am Grant (LSE), ysgrifennwch i’r tîm DWP LSE yn fel y gellir cofnodi a gweithredu eich ymholiad.
19. 19. Diwygiadau i’r broses Gwneud Cais am Grant LSE neu Ddogfennau gan DWP
19.1. Mae’r DWP yn cadw’r hawl i:
(a) newid sail y broses o neu’r gweithdrefnau ddyfarnu Grantiau LSE ar unrhyw adeg;
(b) diwygio, egluro, ychwanegu at neu dynnu’n ôl y cyfan neu unrhyw ran o’r Cyfarwyddiadau Cais am Grant LSE, Canllawiau’r ALl, yr Amodau, y Cytundeb Cyllid Grant ac unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm neu sydd wedi’u hatodi iddynt, ar unrhyw adeg yn ystod y broses o wneud Cais am Grant LSE, gan gynnwys amrywio unrhyw amserlen neu derfynau amser a nodir yn y Cyfarwyddiadau Gwneud Cais am Grant LSE hyn;
(c) canslo’r cyfan neu ran o’r Fenter Grant LSE ar unrhyw adeg ar unrhyw amser; a/neu
(d) peidio â chwblhau’r Fenter Grant LSE na ddyfarnu contract Grant LSE ar gyfer rhywfaint neu’r cyfan o’r cyllid y gwahoddir Ceisiadau Grant ar ei gyfer.
19.2. Mae ALlau fel darpar Ymgeiswyr am Grant yn derbyn ac yn cydnabod nad yw’r DWP yn rhwym i dderbyn unrhyw Gais am Grant nac yn gorfod dyfarnu Grant LSE i unrhyw Ymgeisydd am Grant.
19.3. Os yw’r DWP o’r farn nad oes yr un o’r Ceisiadau Am Grant a dderbyniwyd yn foddhaol, mae’n cadw’r hawl i derfynu’r cyfan neu ran o’r broses Gwneud Cais am Grant LSE a/neu’r Fenter Grant LSE.