Gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA
I gael gwybod pa wybodaeth y mae DVLA yn ei chadw amdanoch chi a’ch cerbyd, gallwch wneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR). Y ffordd gyflymaf yw llenwi’r ffurflen a’i chyflwyno drwy e-bost.
Dogfennau
Manylion
Mae gennych hawl i ofyn am ddata personol y mae DVLA yn ei gadw amdanoch chi. Gelwir hon yn hawl am fynediad at ddata gan y testun ac mae’n cael ei rheoli gan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).
Bydd angen ichi roi gwybodaeth inni i helpu profi eich hunaniaeth, fel y gallwn ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn gofyn amdani a phrosesu eich cais.
Gallwch ofyn am wybodaeth y mae DVLA yn ei chadw am:
- eich cofnod gyrrwr
- eich cerbyd cyfredol
- cerbyd a oedd wedi’i gofrestru yn eich enw chi
Nid oes tâl am y wybodaeth hon.
Gwybodaeth am eich cofnod gyrrwr
Bydd angen ichi gynnwys:
- eich enw llawn
- dyddiad geni
- eich cyfeiriad presennol a’r cyfeiriad a ddangosir ar eich trwydded yrru Prydain Fawr (os yw’n wahanol)
- cymaint o fanylion â phosibl, os hoffech inni adalw gwybodaeth feddygol a gedwir am eich ffitrwydd i yrru
Gallwch weld eich cofnod gyrru am restr o’ch gwaharddiadau gyrru a phwyntiau cosb.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch ofyn i’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau am wybodaeth amdanoch chi ar eich cofnod gyrrwr.
Gwybodaeth am eich cerbyd
Bydd angen ichi gynnwys:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad presennol a’r cyfeiriad ar eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
- rhif cofrestru’r cerbyd rydych yn gofyn amdano
- pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch, er enghraifft pryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf neu’r dyddiad y’i prynoch
Sut i wneud cais
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- cyflwyno’ch cais drwy ddefnyddio’r ffurflen a’i hatodi i e-bost i’w hanfon i [email protected]
- argraffu’r ffurflen, ei llenwi, a’i hanfon i Ymholiadau Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR), DVLA, Abertawe, SA99 1BX
- e-bostio neu bostio llythyr, gan gynnwys y wybodaeth y gofynnwn amdani ar y ffurflen
- gwneud cais drwy we-sgwrs (Saesneg yn unig) neu dros y ffôn
Peidiwch â defnyddio’r manylion hyn ar gyfer ymholiadau cyffredinol - cysylltwch â DVLA yn lle.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 26 Ebrill 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Awst 2022 + show all updates
-
Accessible form added.
-
Added translation