Yswiriant Gwladol: Hawlio ad-daliad o gyfraniadau a dalwyd i'r DU tra'n gweithio dramor (CA307)
Llenwch ffurflen CA307 i hawlio ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd i'r DU tra'r oeddech yn gweithio dramor.
Dogfennau
Manylion
Er mwyn hawlio ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU a dalwyd tra oeddech yn gweithio dramor, gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
- llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM
Er mwyn hawlio ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth hawlio.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol – mae hwn yn 2 lythyren wedi’i ddilyn gan 6 rhif ac 1 llythyren. Cewch hyd i hwn ar eich slip talu, eich P60 neu’ch Ffurflen Dreth
- eich cyfeiriad rhyngwladol
- manylion eich statws cyflogaeth yn y DU cyn i chi adael y DU, gan gynnwys enw a chyfeiriad eich cyflogwr
- y dyddiad y gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ddiwethaf
- manylion eich cyflogaeth dramor, gan gynnwys pryd y gwnaethoch adael y DU, y wlad yr oeddech ynddi, enw a chyfeiriad eich cyflogwr, dyddiadau dechrau a gorffen eich cyflogaeth, a chyda phwy yr oedd eich contract (darllenwch yr adran ynghylch preswyliaeth gyffredin ar dudalennau 6 a 7 o daflen wybodaeth NI38 cyn i chi ateb y cwestiwn hwn). Byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth os oes angen i ni wirio hyn
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth ynghyd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 12 Awst 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Mai 2016 + show all updates
-
An online form service is now available.
-
New Welsh addition of the CA307 available
-
Welsh translation added to the page.
-
First published.