Gwneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol os ydych yn rhiant neu’n ofalwr
Hawlio neu drosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gan ddefnyddio ffurflen CF411A.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr i blentyn sydd o dan 12 oed
Dylech gael credydau yn awtomatig os ydych yn hawlio Budd-dal Plant.
Os ydych chi neu’ch partner wedi cofrestru i gael Budd-dal Plant, gallwch wneud y canlynol:
- gwneud cais am gredydau sydd ar goll o’ch cofnod Yswiriant Gwladol
- trosglwyddo credydau o’ch priod neu’ch partner
Os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas
Gallwch wneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol. Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth ategol gyda’ch ffurflen.
Sut i lenwi’r ffurflen
Defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
I wneud cais ar-lein, mae angen cyfrif Porth y Llywodraeth arnoch. Darllenwch sut i gofrestru a mewngofnodi.
Os ydych yn cyflwyno llythyr o gadarnhad neu dystiolaeth ategol, dylai fod ar ffurf PDF neu JPEG, ac ni ddylai fod yn fwy na 5MB.
Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Anfon y ffurflen bost
Cyn i chi ddechrau
Sicrhewch fod eich porwr wedi’i ddiweddaru (yn Saesneg).
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi. Bydd angen i chi bostio unrhyw dystiolaeth ategol gyda’r ffurflen.
I ble y dylid anfon y ffurflen
Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2012Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2022 + show all updates
-
Carers of a child under 12 and kinship carers can apply for National Insurance credits.
-
Foster and kinship carers can apply online or by post for NICs. Address for postal application has been updated.
-
New English and Welsh PDF versions of the CF411A form have been added.
-
The Welsh version of the CF411A notes have been updated with information on the Data Protection Act and time limits for applications.
-
The English version of 'Notes on how to apply or transfer credits for parents and carers' has been updated with information on the Data Protection Act and time limits for applications.
-
The English and Welsh versions for the print and post iForms and notes have been updated.
-
An online forms service is now available.
-
Welsh version of the form CF411A has been added to this page.
-
First published.