Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth
Ffurflenni ar gyfer gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflenni hyn i wrthwynebu i rywun gofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA).
I wrthwynebu cofrestru LPA, defnyddiwch:
-
LPA006 os chi yw rhoddwr yr LPA ac rydych eisiau gwrthwynebu am unrhyw reswm
-
LPA007 os ydych yn atwrnai neu’n ‘unigolyn i’w hysbysu’ ac rydych eisiau gwrthwynebu ar sail ffeithiol
-
LPA008 os ydych yn unrhyw un (gan gynnwys atwrnai neu ‘unigolyn i’w hysbysu’) sydd eisiau gwrthwynebu am resymau eraill (sef ‘sail ragnodedig’)
Os ydych eisiau gwrthwynebu ar sail ragnodedig, mae’n rhaid ichi hefyd wneud cais i’r Llys Gwarchod a thalu ffi o £400.
I wrthwynebu cofrestru EPA:
-
defnyddiwch ffurflen EP3PG os rhoddwyd gwybod ichi am y cofrestru
-
dylech wneud cais i’r llys os na roddwyd gwybod ichi
Fformatau amgen
I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: [email protected]. Cofiwch roi eich cyfeiriad.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Gwybodaeth am sut mae OPG yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mehefin 2018 + show all updates
-
Added 'Personal information' section.
-
Added translation
-
Added translation
-
Added translation
-
Added form to object to an enduring power of attorney
-
Clarified who could use each form to object to registration of a lasting power of attorney
-
Removed COP8 application pack and replaced it with link to relevant page on HM Courts and Tribunals Service website.
-
Replaced forms LPA006, LPA007, LPA008 to remove minor guidance about statutory waiting period.
-
First published.