Adroddiad corfforaethol

Cynllun busnes Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus: 2020 i 2021 (fersiwn y we)

Diweddarwyd 27 Ebrill 2021

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cryfhau’r broses o helpu pobl i wneud penderfyniadau.

Byddwn yn annog rhoi’r rhyddid i wneud penderfyniadau i bawb sy’n gallu gwneud penderfyniadau, yn helpu pawb a allai wneud penderfyniadau, ac yn amddiffyn unrhyw bobl sy’n methu gwneud penderfyniadau.

Ein nod

Cynnal egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol yng Nghymru a Lloegr.

Ein pwrpas

Credwn fod gan bawb yr hawl i ddewis.

Lle nad oes gan bobl alluedd meddyliol, rydym yn cefnogi penderfyniadau sydd er eu budd pennaf.

Rydym yn darparu gwasanaethau rhagorol sy’n bodloni ac yn adlewyrchu anghenion ein cwsmeriaid.

Pump egwyddor Deddf Galluedd Meddyliol 2005

  1. Mae gan bawb yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac mae ganddynt alluedd meddyliol oni phrofir fel arall.

  2. Rhaid rhoi pob cymorth ymarferol cyn bod rhywun yn cael ei drin fel rhywun nad yw’n gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun.

  3. Mae gan bobl hawl i wneud penderfyniadau y gallai eraill eu hystyried yn ecsentrig neu annoeth. Nid yw hyn yn rheswm dros ddiffyg gallu.

  4. Rhaid i unrhyw beth a wneir ar ran rhywun sydd heb alluedd meddyliol gael ei wneud er ei les gorau.

  5. Ni ddylai penderfyniadau gyfyngu ar ryddid rhywun sydd â diffyg galluedd meddyliol yn fwy nag sy’n angenrheidiol.

Ein gwerthoedd

Mae gennym 4 gwerth sy’n ein huno ac yn ein harwain. Mae gennym bwrpas i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol. Rydym yn trin eraill â dyngarwch fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Drwy fod yn agored rydym yn arloesi, yn rhannu ac yn dysgu, a gyda’n gilydd rydym yn gwrando, yn cydweithio ac yn cyfrannu. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn.

Pwrpas
Mae cyfiawnder yn bwysig. Rydym yn falch o wneud gwahaniaeth i’r cyhoedd a wasanaethwn.

Bod Yn Agored
Rydym yn arloesi, yn rhannu ac yn dysgu. Rydym yn ddewr ac yn chwilfrydig, yn mynd ar drywydd syniadau’n ddygn i wella’r gwasanaethau a ddarparwn.

Dyngarwch
Rydym yn trin eraill â dyngarwch fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Rydym yn gwerthfawrogi pawb, gan eu cefnogi a’u hannog i fod y gorau y gallant fod.

Gyda’n Gilydd
Rydym yn gwrando, yn cydweithio ac yn cyfrannu, gan weithredu gyda’n gilydd at ein diben cyffredin.

Ein huchelgais

Rydym am i’n gwasanaethau atwrneiaeth arhosol fod yr un mor adnabyddus â thrwyddedau gyrru – yn fforddiadwy, yn symudol, yn hyblyg ac yn cael eu derbyn lle bynnag y cânt eu defnyddio.

Fel rhan o’i waith trawsnewid parhaus - ‘OPG 2025’- mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn edrych eto ar ei datganiadau o fwriad, gweledigaeth ac uchelgais – i sicrhau eu bod yn ddealladwy i’r staff ac i’r cyhoedd, gan amlinellu’n glir yr hyn y mae OPG yma i’w gyflawni a darparu gweledigaeth gref ar gyfer cyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol.

Rhagair gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Alex Chalk AS

Ein hawl i ddewis

Ein hawl i lais.

Mae’r rhain yn bethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol – hyd nes i ni eu colli.

P’un ai a gaiff ei gymryd oddi wrthym drwy ddamwain neu drwy afiechyd, mae Deddf Galluedd Meddyliol (2005) yn rhoi cyfle i’r rhai na allant siarad drostynt eu hunain ddewis y rhai y maent yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) y pŵer i amddiffyn y rheini sydd fwyaf mewn perygl mewn cymdeithas, ac rwy’n ddiolchgar am y gwaith maen nhw’n ei wneud i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau er budd gorau pobl.

Mae OPG wedi parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn yn ystod y pandemig COVID-19 ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff – p’un ai a ydynt wedi bod yn y swyddfa neu’n gweithio gartref – am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod hwn.

Adeg ysgrifennu hwn, mae effaith barhaus COVID-19 ar bob un ohonom yn ansicr.

Ni allwn ddarparu gwasanaeth o’r 20fed ganrif ym myd yr unfed ganrif ar hugain. Felly, rwy’n falch o weld y cynnydd y mae’r OPG eisoes wedi’i wneud tuag at eu rhaglen trawsnewid – OPG 2025.

Bydd y gwaith hollbwysig hwn yn sicrhau bod yr asiantaeth yn addas ar gyfer y dyfodol – yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb.

Cyflwyniad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus dros Gymru a Lloegr, Nick Goodwin

Pan gefais fy mhenodi’n Warcheidwad Cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2019, roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn wynebu dyfodol cyffrous. Mae’n fraint cael helpu i lywio’r sefydliad ar hyd ei daith drawsnewid – OPG 2025.

Mae llawer o waith da wedi’i wneud eisoes – fis Gorffennaf diwethaf fe wnaethom lansio gwasanaeth newydd i gefnogi Deddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. Roedd angen cydweithio’n agos ac yn ddwys â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i allu darparu gwasanaeth yn llwyddiannus i bobl yn wynebu helbulon mawr.

Yn fwy diweddar, mae ymateb yn gadarnhaol i bandemig COVID-19 wedi golygu heriau sylweddol ac rwy’n edmygu’n fawr yr holl staff sydd wedi gweithio fel tîm, yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac yn ehangach, a chyda phwrpas, angerdd a brwdfrydedd i gynnal ein gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae COVID-19 wedi lleihau incwm ffioedd OPG yn sylweddol ac wedi bod yn dreth ar ein hadnoddau, o ganlyniad, mae’n rhaid i’r cynllun busnes hwn ein galluogi i addasu i ddelio â’r ansicrwydd yn y flwyddyn sydd i ddod.

Ein nod yw darparu ein gwasanaethau craidd yn dda – gan drawsnewid yr hyn a allwn ni pan allwn ni.

Mae pob unigolyn yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi pobl wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud – maen nhw’n deall y rôl maen nhw’n ei chwarae, ac mae hyn yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’r cyhoedd. Dywedodd dros 85% o’n cwsmeriaid a holwyd yn 2019 eu bod yn fodlon â’n gwasanaethau atwrneiaeth, ac roedd dros 75% yn fodlon â’n gwasanaethau dirprwyaeth.

Ond mae gennym hefyd lawer o heriau i’w hystyried – mae anghenion newidiol cymdeithas a phoblogaeth sy’n heneiddio yn golygu y bydd galw o hyd am y gwasanaethau craidd y mae OPG yn eu cynnig.

Ond mae angen i ni sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol a’n bod yn parhau i’w haddasu i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr presennol a’n defnyddwyr yn y dyfodol a sicrhau bod eu darpariaeth mor gadarn â phosibl – er mwyn delio â’r holl bethau a ddaw yn sgil y dyfodol.

I gyflawni’r uchelgais hwn, mae’n golygu bod yn rhaid i ni ddarparu mwy o wasanaethau ar-lein yn ogystal ag Atwrneiaethau Arhosol ar bapur.

Bydd Atwrneiaeth Arhosol wedi’i moderneiddio yn diwygio’r gwasanaeth a’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i gwsmeriaid i ddiwallu eu hanghenion heddiw ac yn y dyfodol – ac rwyf wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn gan fod pwysigrwydd hyn wedi dod fwyfwy i’r amlwg yn yr amgylchiadau presennol.

Bydd OPG 2025 yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau yn ogystal â’r ffordd mae ein pobl yn gweithio – gan greu gweithlu mwy ystwyth sy’n gweithio’n fwy clyfar, sy’n effeithiol ac yn symudol a fydd yn ein helpu ar ein taith – mae COVID-19 wedi dangos yr hyn sy’n bosibl.

Ni fydd yn hawdd, ond credaf gyda gweithlu cryf ac amrywiol a’n cwsmeriaid yn ganolog i’n gwaith, gallwn barhau i wella’r gwasanaethau a ddarparwn.

Mae angen i ni ddarparu ein gwasanaethau a gweithio mewn ffordd sy’n hybu cynhwysiant i bawb – ein staff a’n defnyddwyr.

Tystlythyr cwsmer

Dylai atwrneiaeth fod yn ystyriaeth safonol, ynghyd â phensiwn, cerdyn bws a gwneud ewyllys.

Johanna Roberts, Peterborough

#YourVoiceYourDecision

Ein blwyddyn mewn niferoedd

2.3%

Ar 31 Mawrth 2020, roeddem yn goruchwylio 60,793 o orchmynion dirprwyaeth, cynnydd o 1,385 o ddiwedd 2018 at 2019 (59,408).

917,550 ceisiadau

Nifer y ceisiadau i gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus a dderbyniwyd yn 2019 at 2020 oedd 917,550, cynnydd o 81,600 ar 2018 at 2019 (835,950).

4.7 miliwn PoAs

Ar ddiwedd y flwyddyn roedd dros 4.7 miliwn o atwrneiaethau ar y gofrestr.

Llwyddiannau yn erbyn ein targedau dros y flwyddyn ddiwethaf

Disgrifiad Perfformiad Nod
Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau 40 diwrnod 40 diwrnod
Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol 38 diwrnod 40 diwrnod
Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol 11 diwrnod 15 diwrnod
Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau atwrneiaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon) 89% 80%
Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau dirprwyaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon) 77% 80%
Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau digidol (bodlon iawn neu gweddol fodlon) 95% 80%
% yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod 98% 95%
Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau 74 diwrnod 70 diwrnod
% y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud 92% 95%
% y cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser 88% 90%

OPG2025 - trawsnewid ein gwasanaethau

Mae OPG 2025 yn paratoi’r llwybr ar gyfer y dyfodol – rydyn ni’n gwybod bod ein Cymdeithas yn newid, rydyn ni’n heneiddio, yn fwy digidol, ac eisiau gwneud penderfyniadau am ein dyfodol. Felly, dylai Atwrneiaethau Arhosol ffitio’n haws i fywydau bob dydd ein cwsmeriaid er mwyn i fwy o bobl allu cael budd ohonynt a chynllunio ymlaen llaw. Bydd hyn hefyd yn rhoi gwytnwch i ni ar gyfer y dyfodol.

Nick Goodwin, Gwarcheidwad Cyhoeddus

Newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau - gwella bywydau gyda’n gilydd

Wrth i anghenion cymdeithas barhau i newid, rhaid i’n busnes ninnau newid hefyd. Yn 2018, fe wnaethom gyhoeddi ein rhaglen trawsnewid - OPG 2025.

Bydd OPG 2025 yn ein helpu i rymuso pobl yn well i gynllunio ymlaen llaw a chreu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy. Mae digideiddio ein gwasanaethau yn ganolog i’n gweledigaeth. Bydd gwneud gwell defnydd o offer digidol, a ffyrdd mwy clyfar o weithio, yn rhyddhau ein hamser i gynnig gwell cefnogaeth a chyngor i bawb.

Bydd yn darparu gwytnwch i OPG a’n defnyddwyr i ddelio â materion fel COVID-19.

Ein gwasanaethau

Hyrwyddo atwrneiaethau arhosol ym mhob rhan o gymdeithas – gyda chynllun peilot yr ymgyrch ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ‘Your Voice, Your Decision’ – gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith hwn.

Lansio beta cyhoeddus ‘Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’ – gwasanaeth ar-lein i ganiatáu i atwrneiod a thrydydd partïon ddefnyddio atwrneiaeth arhosol yn gyflym ac yn gyfleus.

Datblygu cynnig i foderneiddio’r Atwrneiaeth Arhosol i gwrdd ag anghenion cymdeithas ac edrych ar ffyrdd o leihau’r swmp mawr o bapur a dderbyniwn yn y sefydliad.

Parhau â’n hymchwil i ganfod pam nad yw mwy o bobl yn trefnu Atwrneiaethau Arhosol, pa gymorth sydd ei angen ar ein cwsmeriaid a sut gallwn ni eu cefnogi.

Sefydlu pa effaith y mae Atwrneiaeth Arhosol wedi’i chael ar gymdeithas a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol.

Ein partneriaid

Darparu mwy o gefnogaeth i’n cwsmeriaid wrth ddefnyddio eu Hatwrneiaeth Arhosol drwy weithio ar draws sectorau fel y sector cyllid, y sector cyfreithiol a’r sector iechyd i wneud y broses yn haws a sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o Atwrneiaethau Arhosol.

Ein pobl

Adolygu effeithiolrwydd ein sefydliad a’r hyn rydym yn ei wneud heddiw, i’n helpu i wneud yn siŵr bod gennym fodel sy’n caniatáu i ni gyflawni ein huchelgeisiau.

Defnyddio syniadau ein pobl i sbarduno arloesed yn y ffordd rydym yn datblygu ein gwasanaethau a’n sefydliad er budd ein cwsmeriaid.

Adeiladu ar y gweithio clyfar rydym wedi’i wreiddio i ddelio â COVID-19 ar draws ein meysydd busnes a chefnogi ein pobl i fabwysiadu hyn yn y “normal” newydd.

Parhau â’r gwaith o symud ein staff yn Birmingham i swyddfeydd newydd yn 2021 at 2022.

Tystlythyr cwsmer

Pan wnes i atwrneiaeth arhosol i mi fy hun, roeddwn i’n gallu ei gwneud ar-lein, ac i gyd ar fore Sul.

Roger Payne, Huddersfield

#YourVoiceYourDecision

Darparu gwasanaethau rhagorol

Er ein bod yn edrych tua’r dyfodol, rhaid i ni barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol heddiw. Mae ein gwasanaethau – cofrestru Atwrneiaethau Arhosol, goruchwylio dirprwyon ac ymchwilio i bryderon Diogelu, yn bwysicach nag erioed. Rydym yn falch bod gan ein pobl ymdeimlad mawr o bwrpas o ran darparu gwasanaeth hanfodol y mae galw cynyddol amdano.

Julie Lindsay, Prif Swyddog Gweithredu

Darparu gwasanaeth hanfodol heddiw - paratoi ar gyfer y dyfodol

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n holl gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol. Ein rôl ni o ran cofrestru atwrneiaethau, goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid a benodwyd gan y llys ac ymchwilio i bryderon yw ein ffocws o hyd.

Byddwn yn darparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid gan sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth o’r radd flaenaf ar yr un pryd ag yr ydym yn bwriadu trawsnewid y gwasanaeth a hefyd delio â’r holl faterion ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.

Ein cwsmeriaid

Cyflawni ein targedau perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid (o fewn terfynau effaith COVID-19) – ac yn ystod y pandemig presennol, sicrhau bod ein defnyddwyr yn parhau i allu cael mynediad at ein gwasanaethau.

Gweithio gydag eraill i roi mwy o eglurder ynghylch rôl OPG o fewn y cyd-destun diogelu er mwyn sicrhau ein bod ni, ac eraill, yn glir ynghylch ein rolau a’n cyfrifoldebau.

Annog defnyddio gwahanol ffyrdd o dalu am ein gwasanaethau gyda llai o ddefnydd o sieciau.

Ein pobl

Hyrwyddo gweithgareddau llesiant meddyliol ar gyfer yr holl staff a chefnogi ein holl staff i ddelio â COVID-19 a’r ffyrdd niferus y mae hyn wedi effeithio ar unigolion.

Dysgu o weithio gartref oherwydd COVID-19 i wella’r cynnig i’n staff yn y “normal” newydd – gan gynnwys defnydd mwy hyblyg o TG a’r gallu parhaus i weithio gartref (lle mae’r gweithgareddau’n caniatáu hynny).

Annog ein gweithlu amrywiol i rannu a datblygu eu sgiliau drwy fentora, cysgodi a rhannu arferion gorau.

Bwrw ymlaen â rhaglen waith yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau mwy o gynwysoldeb a symudedd cymdeithasol – gan ddefnyddio cynlluniau fel academïau gwaith sy’n seiliedig ar sector. Gwneud OPG yn lle gwych i weithio.

Ac fe wnawn ni gyhoeddi data ac ymchwil i helpu i lywio ystyriaethau ehangach, ar draws y llywodraeth a chymdeithas, o boblogaeth sy’n heneiddio a’r risg o golli galluedd meddyliol.

Dangosyddion Perfformiad

Fel gydag unrhyw beth, mae eich allbwn yn dibynnu ar eich mewnbwn cychwynnol. Mae bod ar y rhaglen Bridges yn rhoi nod a gweledigaeth i mi lwyddo yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n fy ngalluogi i fod yn greadigol, a theimlo fy mod yn cael fy nghynnwys – yn enwedig gan fy mod gen i gefndir BAME.

Palminder Ghai

Swyddog Diogelu

Er mai bwriad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw bodloni ei holl ddangosyddion perfformiad yn ystod y flwyddyn 2020 ar 2021, mae’r sefyllfa bresennol o ran COVID-19 a’i heffaith ar bethau fel nifer y staff sy’n bresennol yn y swyddfa yn debygol o gael effaith sylweddol ar ein gallu i wneud hynny.

Ein cwsmeriaid

Ein targedau

90%

galwadau a atebwyd o fewn 5 munud

35%

adroddiadau blynyddol a dderbyniwyd yn ddigidoly

90%

cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser

Ein darpariaeth weithredol

Ein targedau

95%

Atwrneiaethau Arhosol wedi’u cofrestru heb gamgymeriad

40 diwrnod

amser cyfartalog i gael adroddiad blynyddol

4.5%

adroddiadau dirprwyon heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr

15 diwrnod

amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol

Ein pobl

Ein targedau

60%

ysmgysylltu â staff

< 11%

staff sydd wedi cael eu bwlio neu eu harasio’n bersonol yn ystod y 3 mis diwethaf

< 11%

staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn bersonol yn ystod y 3 mis diwethaf

90%

staff sydd wedi cymryd rhan mewn cyfle dysgu neu ddatblygu yn ystod y 3 mis diwethaf

10%

trosiant staff

7.5 diwrnod

cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd salwch

Ar hyn o bryd mae 1,689 o bobl yn gweithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Amdanom ni

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i gadw rheolaeth dros benderfyniadau am eu hiechyd a’u cyllid a gwneud penderfyniadau pwysig i eraill na allant benderfynu drostynt eu hunain.

Rydym yn un o gyrff y llywodraeth ac yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ). Rydym yn cefnogi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau mynediad at gyfiawnder mewn ffordd sy’n diwallu anghenion pobl orau.

Rydym yn cyflawni swyddogaethau cyfreithiol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Gwarcheidiaeth (Personau Coll) 2017.

Rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • cofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus, er mwyn i bobl allu dewis pwy maen nhw am eu dewis i wneud penderfyniadau ar eu rhan

  • ymchwilio i adroddiadau a phryderon ynghylch cam-drin gan atwrneiod, dirprwyon neu warcheidwaid cofrestredig

  • cynnal cofrestri atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid

  • goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid a benodir gan y llysoedd, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol

Geirfa

Atwrnai

Atwrnai yw’r person a ddewisir i weithredu dros rywun arall ar atwrneiaeth arhosol.

Atwrneiaeth arhosol (LPA)

Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau penodol eich hun.

Mae 2 fath o LPA:

  • iechyd a lles
  • eiddo a materion ariannol

Rhaid cofrestru’r ddau fath o LPA gyda’r OPG cyn gellir eu defnyddio.

Atwrneiaeth barhaus (EPA)

Disodlwyd atwrneiaeth barhaus gan atwrneiaeth arhosol (LPA) ym mis Hydref 2007.

Yn yr un modd ag LPA, dogfen gyfreithiol ydyw sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd.

Mae atwrneiaeth barhaus a lofnodwyd a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda’r OPG pan mae’r rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol, neu pan mae wedi ei golli.

Buddion pennaf

Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu weithrediadau a gymerir, ar ran rhywun arall sydd wedi colli galluedd gael eu gwneud er eu budd pennaf. Mae yna gamau safonol isafswm i’w dilyn wrth benderfynu ar fuddion pennaf unigolyn.

Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 neu yng nghod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Cleient

Dyma’r gair a ddefnyddir gan yr OPG i gyfeirio at y person rydych wedi cael eich penodi i weithredu ar ei ran.

Defnyddiwr

Mae defnyddiwr yn cyfeirio at unrhyw un sy’n gwneud defnyddio o wasanaethau’r OPG.Gallai hyn fod yn uniongyrchol (rhoddwyr LPA/EPA, atwrneiod, dirprwyon, cleientiaid) neu’n anuniongyrchol (partneriaid, cyfryngwyr).

Mae hefyd yn cynnwys staff mewnol yn defnyddio systemau’r OPG.

Dirprwy

Dyma rhywun a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd i wneud penderfyniadau penodol eu hunain.

Penodir dirprwy os oes rhywun yn colli galluedd a bod dim atwrneiaeth arhosol yn ei le.

Galluedd

Galluedd yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg honno pan fod rhaid gwneud y penderfyniad.

Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad o alluedd yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Rhoddwr

Rhywun sydd wedi creu atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus. Maent yn cael eu galw’n rhoddwyr oherwydd eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Cyswllt OPG

Ffôn: 0300 456 0300
(y tu allan i'r DU +44 300 456 0300)
Textffôn: 0115 934 2778
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher 10am tan 5pm

Gwybodaeth am gost galwadau

Ebost: [email protected]