Cynllun Busnes OPG 2021 to 2022
Diweddarwyd 25 Awst 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Helpu i ddiogelu eich lles chi os na allwch chi mwyach wneud hynny eich hun
Rydym yn credu bod pawb yn haeddu’r hawl i ddewis, a bod eu dymuniadau a’u hurddas yn cael eu diogelu, yn enwedig pan fyddan nhw’n fwyaf agored i niwed. Dyna pam…
Ein cenhadaeth yw hyrwyddo i bawb mewn cymdeithas y ffaith fod pŵer cyfreithiol ar gael i ddewis rhywun y gellir ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau er eu lles gorau os nad oes ganddynt alluedd meddyliol, ac i ddiogelu’r lles hwnnw ar bob cyfrif.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy ganolbwyntio’n dosturiol ar anghenion a dymuniadau ein defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol.
Mae gennym bedwar o werthoedd sy’n ein huno ac yn ein harwain.
Pwrpas
Mae cyfiawnder yn bwysig. Rydyn ni’n falch o wneud gwahaniaeth i’r cyhoedd rydyn ni’n ei wasanaethu.
Bod yn Agored
Rydym yn arloesi, yn rhannu, ac yn dysgu. Rydyn ni’n ddewr ac yn chwilfrydig, yn mynd ar drywydd syniadau yn ddi-baid i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.
Dynoliaeth
ydym yn trin eraill fel yr hoffem gael ein trin. Rydym yn gwerthfawrogi pawb, gan eu cefnogi a’u hannog i fod y gorau y gallant fod.
Gyda’n gilydd
Rydym yn gwrando, yn cydweithredu ac yn cyfrannu, gan weithredu gyda’n gilydd at ein pwrpas cyffredin.
2. Rhagair gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Alex Chalk MP
Rwy’n falch o gael ysgrifennu’r rhagair hwn i gynllun busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2021-22, sy’n nodi cynlluniau i barhau i foderneiddio gwasanaethau’r Swyddfa a dychwelyd i lefelau gwasanaeth arferol yn dilyn blwyddyn eithriadol.
Er bod y cynllun hwn yn edrych tua’r flwyddyn i ddod, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud pa mor falch ydw i o ymdrechion holl staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu gwaith drwy bandemig y coronafeirws.
Gan fod y system yn ddibynnol ar bapur, roedd y pandemig wedi cael effaith sylweddol, nid yn unig ar allu pobl i wneud atwrneiaethau arhosol, ond hefyd ar allu’r Swyddfa i’w cofrestru tra’n cynnal diogelwch y staff.
Mae’r pandemig wedi tynnu sylw hefyd at faint o fudd i gymdeithas mae gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei ddarparu a pha mor bwysig yw hi fod y gwasanaethau hynny’n hygyrch ac yn addas i’r diben ar adegau pan na all yr un ohonom ragweld beth sydd ar y gorwel.
Er mwyn gwneud y system yn llai agored i niwed, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mewn partneriaeth â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn lansio papur ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar foderneiddio atwrneiaethau arhosol.
Mae’r pandemig hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd iechyd a lles y staff. Rwy’n cefnogi holl ymdrechion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddarparu cymorth rhagorol i’w phobl.
3. Cyflwyniad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr, Nick Goodwin
Gan mai proses ar bapur yw creu a chofrestru atwrneiaeth arhosol, mae effaith cyfyngiadau COVID-19 wedi bod yn sylweddol ar allu’r cyhoedd i wneud atwrneiaethau arhosol a gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gofrestru dogfennau o’r fath.
I liniaru’r effaith hon, lluniodd y Swyddfa ganllawiau cyhoeddus ar greu atwrneiaethau arhosol gan gydymffurfio â’r mesurau diogelu sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a rheoliadau COVID-19.
Mae atwrneiaethau arhosol a dirprwyaethau yn darparu budd cymdeithasol sylweddol – mae’n caniatáu i eraill wneud penderfyniadau ar ran pobl sy’n methu gallu gwneud hynny eu hunain, felly mae’n hanfodol fod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gynnig ei wasanaethau o dan yr holl amgylchiadau.
Ond yr hyn y mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi ei ddangos yw pa mor fregus yw proses sy’n seiliedig ar bapur a sut mae angen i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus newid ac addasu ei gwasanaethau er mwyn i’n cwsmeriaid allu gwneud a defnyddio eu pwerau ym mhob sefyllfa – a bydd bwrw ymlaen i wneud hyn yn elfen allweddol o’n cynllun busnes yn y flwyddyn i ddod.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i glirio gwaith sydd wedi cronni, ond bydd adferiad llawn yn dal yn heriol nes bydd cyfyngiadau COVID-19 wedi cael eu codi, neu nes bydd y fframwaith cyfreithiol ar gyfer creu atwrneiaethau arhosol wedi cael ei foderneiddio.
Yn allweddol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y flwyddyn i ddod fydd clirio’r gwaith sydd wedi cronni oherwydd COVID-19 a dychwelyd at gyflawni ein targedau ar gyfer cofrestru atwrneiaethau arhosol. Ond fel y llynedd, rydym yn dibynnu ar beth sy’n digwydd gyda COVID-19 a sut a phryd mae’r llywodraeth yn llacio’r cyfyngiadau.
Mae’r Swyddfa hefyd wedi arloesi eleni o ran darparu gwasanaeth atgyfeirio llwybr carlam ar gyfer staff y GIG, gan symud i ymweliadau rhithiol ac ymweld mewn gerddi (ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal) a drwy ehangu’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol, sydd i gyd wedi bod o fudd i ddefnyddwyr a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd eraill o arloesi ein gwasanaethau (o fewn ein fframwaith deddfwriaethol presennol) yn y misoedd i ddod.
3.1 Ystadegau
Gostyngiad o 5.5% yn niferoedd y ddirprwyaeth
Ar 31 Mawrth 2021, roeddem yn goruchwylio 57,446 o orchmynion dirprwyaeth, sef 3,347 yn llai o ddiwedd 2019 i 2020 (60,793).
691,746
oedd nifer y ceisiadau i gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus a dderbyniwyd yn 2019/2020, sef gostyngiad o 225,804 o 2019 i 2020 (917,553).
5.3 miliwn o atwrneiaethau
Ar ddiwedd y flwyddyn roedd dros 5.3 miliwn o atwrneiaethau ar y gofrestr
3.2 Cyflawniadau yn erbyn targedau dros y flwyddyn ddiwethaf
Disgrifiad | Cyflawniad | Targed |
---|---|---|
Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau | 58 diwrnod Gwaith | 40 dyddia |
Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol | 33 diwrnod Gwaith | 40 diwrnod Gwaith |
Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol | 7 diwrnod Gwaith | 15 dyddia |
Canran yr arolwg boddhad cwsmeriaid gyda gwasanaethau PoA (yn fodlon iawn neu’n weddol) | 79% | 80% |
Canran arolwg boddhad cwsmeriaid gyda gwasanaethau dirprwyaeth (yn fodlon iawn neu’n weddol) | 78% | 80% |
Canran arolwg boddhad cwsmeriaid gyda’r gwasanaethau digidol (yn fodlon iawn neu’n weddol) | 94% | 80% |
Canran yr asesiadau risg diogelu a gynhelir o fewn 2 ddiwrnod | 94% | 95% |
Amser cyfartalog i ddod ag ymchwiliadau i ben | 79 diwrnod Gwaith | 70 diwrnod Gwaith |
Canran y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud | 56% | 95% |
Canran y cwynion yr ymatebwyd iddynt yn llawn o fewn y dyddiad cau | 82% | 90% |
4. Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025
4.1 Newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau. Gwella bywydau gyda’n gilydd
Wrth i anghenion cymdeithas barhau i newid, rhaid i’n busnes ninnau newid hefyd.Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud hyn yn glir– mae’n rhaid i’n gwasanaethau fod yn hawdd eu defnyddio ac yn hawdd eu cyrraedd.
Bydd OPG 2025 yn ein helpu i rymuso pobl yn well i gynllunio ymlaen llaw a chreu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy.
Yn ganolog i’n gweledigaeth, mae mwy o waith digideiddio ar ein gwasanaethau er mwyn rhoi cadernid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’n defnyddwyr i ddelio â materion fel COVID-19 yn y dyfodol.
Adeiladu ar y ffyrdd clyfar o weithio yr ydym wedi’u gwreiddio i ddelio â COVID ar draws ein meysydd busnes, a chefnogi ein pobl i fabwysiadu hyn yn y “normal” newydd.
4.2 Ein partneriaid
Darparu mwy o gefnogaeth i’n cwsmeriaid wrth ddefnyddio eu Hatwrneiaeth Arhosol drwy weithio ar draws sectorau fel y sector cyllid,y sector cyfreithiol a’r sector iechyd i wneud y broses yn haws a sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o Atwrneiaethau Arhosol.
Darparu gwasanaeth hanfodol heddiw. Paratoi ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n holl gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol.
Ein rôl ni o ran cofrestru atwrneiaethau, goruchwylio dirprwyon gwarcheidwaid a benodwyd gan y llys ac ymchwilio i bryderon yw einffocws o hyd.
Fe wnaethon ni sylweddoli’n sydyn petai rhywbeth yn digwydd i Mam y byddai gennym heriau i ddelio â nhw. Felly, gwnaethom gais bryd hynny am atwrneiaeth arhosol. Dydyn ni ddim eisiau ei ddefnyddio, dyna’r gwir plaen ond rydym yn ei weld fel polisi yswiriant.”
#EichLlaisEichPenderfyniad
Sefydlu model busnes ar gyfer y dyfodol a fydd yn sail i’r rhaglen drawsnewid yn y blynyddoedd i ddod.
Defnyddio syniadau ein pobl i sbarduno arloesedd yn y ffordd rydym yn datblygu ein gwasanaethau a’n sefydliad er budd ein cwsmeriaid.
Adeiladu ar y ffyrdd clyfar o weithio yr ydym wedi’u gwreiddio i ddelio â COVID ar draws ein meysydd busnes, a chefnogi ein pobl i fabwysiadu hyn yn y “normal” newydd.
Byddwn yn darparu gwasanaethau rhagorol i’n holl gwsmeriaid gan sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth o’r radd flaenaf wrth geisio trawsnewid y ffordd rydym yn darparu ac yn delio ag effaith barhaus COVID-19.
Er bod newidiadau tymor hir mewn perthynas ag atwrneiaethau arhosol yn gofyn am ddeddfwriaeth, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canolbwyntio hefyd ar wneud newidiadau posibl i wella ein holl wasanaethau wrth i ni geisio ymgynghori ar y rhaglen newid ehangach.
4.3 Our cwsmeriaid
Yn 2021 i 2022 fe wnawn ni
Cyflawni ein targedau perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid (o fewn terfynau effaith COVID-19) – ac yn ystod y pandemig presennol, sicrhau bod ein defnyddwyr yn parhau i allu cael gafael ar ein gwasanaethau, gan gynnwys delio â gwaith sydd wedi cronni oherwydd COVID-19.
Adolygu ein prosesau mewnol mewn perthynas â goruchwylio er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni mor effeithlon ac effeithiol ag y gallwn yn unol â’n dyletswyddau statudol.
Cynllunio a rheoli’r symud i’n hadeilad newydd yn Birmingham – gan sicrhau nad yw’r cwsmer yn gweld unrhyw effaith ar y lefelau gwasanaeth.
4.4 Ein pobl
Yn 2021, byddwn yn lansio ein strategaeth pobl newydd: Addewid i Bobl gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2021 – 2025. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eisoes yn lle gwych i weithio. Erbyn 2025, rydym eisiau bod yn lle gwych i weithio, i bawb.
Er mwyn gwireddu ein haddewid i bobl byddwn yn gweithio ar bum thema strategol:
Perthyn: Mae hyn yn golygu ein bod yn perthyn i weithle lle mae pob un ohonom yn teimlo’n gysylltiedig, â’n gilydd ac â’n pwrpas. Mae’r ffordd rydym yn rhyngweithio, yn meithrin ymddiriedaeth ac yn cefnogi ein gilydd i fod ein gorau yn y gwaith yn dod â’n gwerthoedd yn fyw.
Mae ein camau gweithredu o fewn thema “perthyn” yn ein Strategaeth Pobl yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud newid systemig go iawn, hirdymor i greu a chynnal gweithlu amrywiol ar bob lefel ac i wella profiad ein staff.
Teimlo’n Dda: Rydym yn gwybod beth sy’n gwella ein llesiant a’n cadernid ein hunain a chadernid ein timau. Rydym yn cael ein cefnogi ac rydym yn cefnogi ein gilydd i fod yn iach ac i ffynnu drwy’r diwylliant ‘sut wyt ti?’ sydd gennym.
Datblygu Ein Hunain: Gwyddom fod datblygu’n digwydd drwy lawer o lwybrau. Mae gennym ddatblygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fel ein bod yn darparu’r gwasanaethau gorau, yn cyflawni ein potensial unigol ac yn cyflawni ein nodau gyrfa.
Arweinwyr Gwych ar bob Lefel: Mae gennym arweinwyr a chyfathrebwyr gwych sy’n darparu arweinyddiaeth a rheolaeth ardderchog. Maent yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu ac maent yn arweinwyr cynhwysol. Maen nhw’n arwain drwy, ac yn byw yn ôl, ein gwerthoedd, ac maen nhw’n hyfforddi’n hyderus, gan ymgysylltu ag eraill a’u hysbrydoli.
Addas ar gyfer y Dyfodol: Drwy ein Strategaeth Pobl a’n cynlluniau blynyddol ar gyfer pobl, byddwn hefyd yn sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu ffynnu yn y dyfodol, gan ddenu’r bobl orau sydd â’r sgiliau a’r potensial cywir i dyfu gyda ni ac aros gyda ni ar ein taith yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Ar hyn o bryd rydym wrthi’n llunio cynllun o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer cyflawni’r strategaeth hon.
Gwelais yr atwrneiaeth arhosol a meddwl y byddai’n dda gwneud hynny tra rydw i’n dal i allu cymryd y straen oddi ar y plant. Oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel.
#EichLlaisEichPenderfyniad
5. Dangosyddion perfformiad
Er mai bwriad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw bodloni ei holl ddangosyddion perfformiad yn ystod y flwyddyn 2020 i 2021, mae effaith barhaus COVID-19 ar bethau fel nifer y staff sy’n bresennol yn y swyddfa yn debygol o amharu’n sylweddol ar ein gallu i wneud hynny.
5.1 Ein cwsmeriaid
Ein targedau
90%
galwadau wedi’u hateb o fewn 5 munud
35%
dirprwy adroddiadau blynyddol a dderbynnir yn ddigidol
90%
ymatebwyd i gwynion o fewn y dyddiad cau
5.2 Ein darpariaeth weithredol
Ein targedau
95%
ACLlau wedi’u cofrestru heb gamgymeriad
40 dyddiau
yr amser a gymerir ar gyfartaledd i gael dirprwy adroddiad blynyddol
4.5%
dirprwy adroddiadau heb eu talu am dros 98 diwrnod calendr
15 Diwrnod
yr amser a gymerir ar gyfartaledd i adolygu’r adroddiad blynyddol
5.3 Ein pobl
Ein targedau
60%
ymgysylltu â staff
Llai nag 11%
staff sydd wedi profi bwlio neu aflonyddu yn bersonol yn ystod y 3 mis diwethaf
Llai nag 11%
staff sydd wedi profi gwahaniaethu yn bersonol yn ystod y 3 mis diwethaf
90%
staff sydd wedi cymryd rhan mewn cyfle dysgu neu ddatblygu yn ystod y 3 mis diwethaf
10%
trosiant staff
7.5 Diwrnod
diwrnodau gwaith ar gyfartaledd yn cael eu colli oherwydd salwch
roddiadau blynyddol dirprwyo a dderbyniwyd yn ddigidol Amser cyfartalog i gael adroddiad blynyddol dirprwyon
Ar hyn o bryd mae 1,689 o staff yn gweithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
6. Amdanom ni
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i gadw rheolaeth ar benderfyniadau am eu hiechyd a’u cyllid a gwneud penderfyniadau pwysig i eraill na allant benderfynu drostynt eu hunain.
Rydym yn gorff llywodraethol ac yn asiantaeth weithredol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ). Rydym yn cefnogi MoJ i sicrhau mynediad at gyfiawnder mewn ffordd sy’n diwallu anghenion pobl orau.
Rydym yn cyflawni swyddogaethau cyfreithiol Deddf Capasiti Meddwl 2005 a Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017.
Rydym yn gyfrifol am:
-
cofrestru pwerau atwrnai parhaol a pharhaus, fel y gall pobl ddewis pwy maen nhw am wneud penderfyniadau drostyn nhw.
-
ymchwilio i adroddiadau a phryderon ynghylch cam-drin a wneir yn erbyn atwrneiod cofrestredig, dirprwyon neu warcheidwaid
-
cynnal cofrestrau atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid
-
goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid a benodir gan y llysoedd, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol
7. Geirfa
Rhoddwr
Rhywun sydd wedi creu atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus. Maent yn cael eu galw’n rhoddwyr oherwydd eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall. ####Atwrnai Y person sydd wedi cael ei ddewis i weithredu ar ran rhywun arall ar atwr-neiaeth arhosol (LPA).
Cleient
Dyma’r gair a ddefnyddir gan yr OPG i gyfeirio at y person rydych wedi cael eich penodi i weithredu ar ei ran.
Dirprwy
Dyma rhywun a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd i wneud penderfyniadau penodol eu hunain.
Penodir dirprwy os oes rhywun yn colli galluedd a bod dim atwrneiaeth arhosol yn ei le.
Atwrneiaeth arhosol (LPA)
Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau penodol eich hun. Mae dau fath o atwrneiaethau arhosol:
- iechyd a lles
- eiddo a materion ariannol
Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaethau arhosol gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn bod modd eu defnyddio.
Atwrneiaeth barhaus (EPA)
Disodlwyd atwrneiaeth barhaus gan atwrneiaeth arhosol (LPA) ym mis Hydref 2007. Yn yr un modd ag LPA, dogfen gyfreithiol ydyw sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd. Mae atwrniaethau parhaus a lofnodwyd a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda’r OPG pan mae’r rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol, neu pan mae wedi ei golli.
Budd pennaf
Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu weithrediadau a gymerir, ar ran rhywun arall sydd wedi colli galluedd gael eu gwneud er eu budd pen-naf. Mae yna gamau safonol isafswm i’w dilyn wrth benderfynu ar fuddion pennaf unigolyn. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn Adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 neu yng nghod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Defnyddiwr
Mae defnyddiwr yn cyfeirio at unrhyw un sy’n gwneud defnydd wasanaethau’r OPG. Gallai hyn fod yn rhoddwyr LPA/EPA, yn atwrneiod, yn ddirprwyon, yn gleientiaid neu’n gyfryngwyr. Gall hefyd ol-ygu staff sy’n defnyddio systemau OPG.
Galluedd
Galluedd yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg honno pan fod rhaid gwneud y penderfyniad. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad o alluedd yn Adran 2 Deddf Galluedd Med-dyliol 2005.
7.1 Manylion cyswllt
Cyfeiriad:
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Blwch Post 16185 Birmingham 822WH
Ffon:
0300 456 0300 (y tu allan i’r DU +44 300 456 0300) Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am tan 5pm Dydd Mercher 10am tan 5pm
Ffon testun:
0115 934 2778
Ffacs:
0870 739 5780