Canllawiau i Ddirprwyon Lleyg
Cyhoeddwyd 13 Chwefror 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae safonau dirprwyon yr OPG yn rhestru nifer o gamau y mae’n rhaid i chi eu cymryd fel dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran person sydd heb y galluedd i wneud penderfyniadau penodol drosto’i hun (sef ‘P’, fel y mae’n cael ei alw yn y canllawiau hyn).
Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer dirprwyon lleyg; maen nhw’n rhoi gwybodaeth ychwanegol am sut i gyrraedd y safonau a pha gamau y mae angen i chi eu cymryd.
Gall y safonau fod yn berthnasol i faterion ariannol ac eiddo, i faterion iechyd a lles, neu’r naill a’r llall. Disgwylir i chi gyrraedd yr holl safonau sy’n berthnasol i’ch math chi o benodiad, a darparu tystiolaeth o hynny pan fydd angen i chi wneud hynny.
Rhaid i chi gadw copïau o gofnodion, llythyrau, derbynebau, anfonebau, apwyntiadau, a manylion unrhyw benderfyniadau arwyddocaol sydd wedi cael eu gwneud ar ran P.
Fel dirprwy, mae disgwyl i chi weithredu’n onest a chydag uniondeb, a gweithredu er lles pennaf P. Rhaid i chi ddefnyddio’r un gofal, sgìl a diwydrwydd wrth wneud penderfyniadau ar ran P ag y byddech wrth reoli eich materion eich hun.
Mae rhai safonau’n berthnasol i ddirprwyon proffesiynol neu ddirprwyon awdurdodau cyhoeddus yn unig. Pan nad yw safonau’n berthnasol i ddirprwyon lleyg, bydd y canllawiau’n datgan hynny.
Pan gewch chi eich penodi’n ddirprwy, bydd rheolwr achos Goruchwylio yr OPG yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rôl fel dirprwy. Byddwch chi’n cael galwad ymsefydlu ar ddechrau’r ddirprwyaeth.
Mae’r OPG yn ceisio comisiynu ymwelydd o’r Llys Gwarchod i ymweld yn ystod y flwyddyn gyntaf â’r holl ddirprwyon lleyg sydd wedi cael eu penodi o’r newydd.
Yn ogystal â’r safonau craidd, bydd y canllawiau hyn yn rhoi sylw i gamau gweithredu a allai gael eu hystyried yn arferion gorau.
Safon 1: Rhwymedigaethau Dirprwyaeth
Rhaid i bob dirprwy ddeall a chyflawni ei rwymedigaethau, a chael y sgiliau a’r profiad i gyflawni ei rôl.
1a Ymwybyddiaeth o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA); y Cod Ymarfer; a chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr OPG
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Fel dirprwy lleyg, does dim disgwyl i chi fod yn arbenigwr cyfreithiol, ond mae’n rhaid i chi ddeall digon o’r gyfraith i gyflawni eich rôl. Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn rhoi arweiniad ar bynciau pwysig, ac mae’r Cod ar gael ar-lein.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen penodau 1 i 5 a phennod 8.
Mae canllawiau ar gael ar wefan GOV.UK i ddirprwyon sydd wedi cael eu penodi o’r newydd.
Mae’r OPG wedi cyhoeddi canllawiau mwy manwl, sef nodiadau ymarfer, ar faterion penodol fel rhoi rhodd.
1b Deall awdurdod a rhwymedigaethau’r gorchymyn llys sy’n penodi’r dirprwy
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi ddeall a gweithredu o fewn yr awdurdod a roddwyd gan eich gorchymyn dirprwyaeth. Bydd y gorchymyn llys sy’n eich penodi chi’n ddirprwy yn cynnwys adran sy’n rhestru camau penodol rydych chi’n cael eu cymryd, neu nad ydych chi’n cael eu cymryd, fel dirprwy a benodwyd gan y llys. Bydd y camau hyn yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol. Er enghraifft, efallai y bydd y gorchymyn yn caniatáu i chi brynu eiddo ar ran P. Bydd eich rheolwr achos Goruchwylio yn gallu’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch eich gorchymyn dirprwyaeth.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall eich awdurdod cyfyngedig i roi rhoddion o ystad P.
Gwybodaeth ychwanegol ynghylch eich gorchymyn dirprwyaeth
Mae’r llys yn gallu penodi dau ddirprwy neu fwy i weithredu mewn un o dair ffordd:
- ‘ar y cyd’ – rhaid i ddirprwyon weithredu gyda’i gilydd bob amser, rhaid i bawb gytuno ar benderfyniad neu gamau gweithredu, a rhaid i bawb lofnodi unrhyw ddogfennau perthnasol
- ‘ar y cyd ac yn unigol’ – gall dirprwyon weithredu gyda’i gilydd, ond gallant hefyd weithredu’n annibynnol
- ‘ar y cyd’ ar gyfer rhai materion, ac ‘ar y cyd ac yn unigol’ ar gyfer materion eraill.
Dylech sicrhau eich bod yn gwneud penderfyniadau yn unol â’ch math chi o benodiad.
1c Cyflwyno adroddiadau i’r OPG
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi lenwi adroddiad dirprwy a’i gyflwyno i’r OPG pan ofynnir i chi wneud hynny, unwaith y flwyddyn fel arfer.
Mae canllawiau ar lenwi a chyflwyno adroddiadau ar gael ar GOV.UK.
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddir yn yr adroddiad dirprwy yn gywir, a bod yr adroddiad yn cynnwys manylion unrhyw benderfyniadau arwyddocaol sydd wedi cael eu gwneud ar ran P.
1d Talu ffioedd goruchwylio
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi dalu ffioedd Goruchwylio’r OPG pan ofynnir i chi wneud hynny. Mae gwefan GOV.UK yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd a sut mae gwneud cais am gymorth i’w talu.
1e Sicrhau bod sicreb briodol ar waith
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Bydd y Llys Gwarchod yn gofyn i chi drefnu bond cyn i’ch gorchymyn dirprwyaeth gael ei gyhoeddi. Bydd gwerth y bond yn cael ei bennu gan y llys.
Rhaid i chi dalu premiymau blynyddol i ddarparwr y bond.
Os bydd gwerth ystad P yn cynyddu neu’n gostwng yn sylweddol, rhaid i chi ystyried a yw swm y warchodaeth a ddarperir gan y bond yn dal yn briodol. Er enghraifft, os bydd P yn derbyn taliad gan hawliad esgeuluster meddygol, mae’n bosibl y bydd angen cynyddu lefel y sicreb a bydd angen i chi wneud cais i’r llys i gynyddu gwerth y bond.
1f Ysgwyddo dyletswyddau ymddiriedol*
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Fel dirprwy, ni chewch fanteisio ar eich safle, ac ni chaiff eich buddiannau personol wrthdaro â’ch dyletswyddau fel dirprwy. Mae hyn yn cael ei egluro’n fanylach ym mhennod 8 y Cod Ymarfer, paragraffau 8.58 ac 8.59.
Chewch chi ddim dirprwyo’ch cyfrifoldebau dros wneud penderfyniadau i neb arall, ond fe gewch chi ofyn am gyngor arbenigol neu broffesiynol. Edrychwch ar y Cod Ymarfer, pennod 8, paragraffau 8.61 ac 8.62.
*Mae dyletswydd ymddiriedol yn golygu na chaiff dirprwy fanteisio ar ei safle na chaniatáu i’w fuddiannau personol wrthdaro â’i ddyletswyddau.
1g Gwneud ceisiadau llys priodol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Efallai y bydd gofyn i chi wneud ceisiadau i’r Llys Gwarchod pan fydd angen; er enghraifft, i wneud cais am ganiatâd i amrywio telerau’r ddirprwyaeth er mwyn gwerthu eiddo P. Gallwch ddefnyddio arian P i dalu ffi’r llys.
Bydd eich rheolwr achos Goruchwylio yn dweud wrthych os oes angen gwneud cais. Mae canllawiau ar sut i wneud cais llys ar gael ar GOV.UK.
1h Ystyried a oes angen dirprwyaeth o hyd
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os bydd P yn adennill ei alluedd i reoli ei faterion ei hun.
Os bydd amgylchiadau P yn newid, dylech hefyd ystyried a oes angen dirprwyaeth o hyd ac, os oes angen, gwneud cais i’r llys i ddod â’r ddirprwyaeth i ben.
Rhaid i chi roi gwybod i’ch gweithiwr achos Goruchwylio os ydych chi’n bwriadu gwneud cais i ddod â’ch dirprwyaeth i ben.
Rhaid i chi roi gwybod i’r OPG os bydd P yn marw.
1i Rhoi gwybod i’r OPG ar unwaith am unrhyw newidiadau i’r atebion a roddwyd yn COP4
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Fe wnaethoch chi lenwi ffurflen datganiad dirprwy (COP4) wrth ymgeisio i fod yn ddirprwy. Os bydd unrhyw newid yn yr wybodaeth roeddech chi wedi’i darparu, rhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr achos Goruchwylio. Rhaid i chi roi gwybod i’r OPG os:
- ydych chi wedi eich cael yn euog o drosedd
- ydych chi wedi cael eich datgan yn fethdalwr, wedi cael eich gwneud yn ddyledwr o dan Drefniant Gwirfoddol Unigol, neu’n destun Gorchymyn Rhyddhad Dyled
- yw busnes rydych chi’n ymwneud ag ef yn dod yn destun trefn ansolfedd gydnabyddedig
- ydych chi’n ymwybodol o unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau a allai effeithio ar eich rôl chi fel dirprwy
- ydych chi’n methu parhau i weithredu fel dirprwy oherwydd salwch neu ffactorau eraill
Rhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr achos Goruchwylio am unrhyw newidiadau yn eich manylion cyswllt chi ac ym manylion cyswllt P.
Safon 2: Gwneud penderfyniadau er lles pennaf
Rhaid i bob dirprwy gydymffurfio ag egwyddorion gwneud penderfyniadau sydd er lles pennaf P.
2a Cydymffurfio ag adran 4 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, gan gynnwys ystyried barn personau perthnasol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi sicrhau bod eich holl benderfyniadau yn cael eu gwneud gyda lles pennaf P mewn golwg. Wrth wneud penderfyniadau rhaid i chi ystyried teimladau a dymuniadau P yn y gorffennol, a’r credoau a’r gwerthoedd a fyddai wedi dylanwadu ar ei ffordd o ymdrin â’r mater pe byddai wedi cadw ei alluedd.
Rhaid i chi ymgynghori â phobl eraill i gael eu barn am les pennaf P os yw’n briodol ac yn ymarferol gwneud hynny. Gallai hyn gynnwys gofalwyr, aelodau o’r teulu ac unrhyw un yr oedd P wedi’i enwi’n flaenorol fel rhywun i ymgynghori â nhw ynghylch y mater hwnnw.
Mae Pennod 5 y Cod Ymarfer yn rhoi rhagor o fanylion am wneud penderfyniadau er lles pennaf.
2b Cynnwys P mewn penderfyniadau
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi gynnwys P yn y broses o wneud penderfyniadau, hyd ag y mae modd. Rhaid i chi ystyried galluedd P i wneud penderfyniadau penodol ar yr adeg berthnasol.
Mae Pennod 3 y Cod Ymarfer yn egluro sut i helpu pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
Mae Pennod 4 y Cod Ymarfer yn rhoi rhagor o fanylion am sut mae asesu galluedd meddyliol person.
Safon 3: Rhyngweithio â P
Rhaid i bob dirprwy ymgysylltu â P mewn modd priodol, gan ystyried amgylchiadau unigol P.
3a Ymweld â P o leiaf unwaith y flwyddyn
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi ymweld â P ac asesu ei anghenion yn rheolaidd; rhaid ymweld o leiaf unwaith y flwyddyn.
Arferion gorau wrth ymgysylltu â P
Dylech gofnodi teimladau, dymuniadau, credoau a diddordebau blaenorol a phresennol P, a’u trafod â P, teulu P a’r darparwyr gofal.
Dylech gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag aelodau o’r teulu a’r gofalwyr, a sicrhau eu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau er lles pennaf P pan fydd yn briodol.
Dylech fynd ati’n rheolaidd i adolygu anghenion, gwariant a galluedd P i drin arian.
Dylech ddefnyddio ffyrdd priodol o gyfathrebu â P, er enghraifft, yn ei ddewis iaith.
Safon 4: Rheolaeth ariannol
Rhaid i bob dirprwy reoli materion ariannol P yn briodol, gan ddibynnu ar asedau penodol ystad P.
4a Sicrhau bod taliadau a hawliadau budd-dal yn gyfredol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau eich bod wedi gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae P yn gymwys i’w cael, a hynny o fewn tri mis i gael eich gorchymyn dirprwyaeth. Dylech adolygu budd-daliadau P o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae manylion llawn y budd-daliadau presennol ar gael ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau:
4b Gwahanu arian
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau bod arian P yn cael ei gadw ar wahân i arian y dirprwy oni bai fod trefniant sy’n bodoli ers tro; er enghraifft, os yw’r dirprwy a P yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wahanu arian ym mhennod 8 y Cod Ymarfer, paragraff 8.67.
Arferion gorau o ran gwahanu arian
Os yw arian yn cael ei ddal mewn cyfrif ar y cyd, dylech ystyried a yw hynny’n dal er lles pennaf P ar ôl i’r ddirprwyaeth gael ei rhoi ar waith.
Pan fydd cyfrif ar y cyd yn cael ei gau, bydd yr arian fel arfer yn cael ei rannu rhwng deiliaid y cyfrif sy’n cael eu henwi. Os oes gan P gyfrif ar y cyd, rhaid i chi gytuno â deiliad/deiliaid eraill y cyfrif sut dylai’r arian gael ei rannu. Rhaid i’r trefniant a gytunir fod er lles pennaf P.
Efallai y bydd angen i chi ofyn am sêl bendith y llys i gytuno i wahanu arian os bydd gwrthdaro posibl rhwng buddiannau.
4c Cyflawni cynlluniau a rhwymedigaethau treth
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl rwymedigaethau treth yn cael eu cyflawni. Rhaid i chi ystyried a oes angen cyngor arbenigol arnoch i’ch helpu i wneud hynny.
4d Rheoli buddsoddiadau
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi reoli buddsoddiadau P er mwyn cael yr elw mwyaf posibl, gyda chyn lleied o risg â phosibl. Gallwch ofyn am gyngor proffesiynol neu arbenigol os yw buddsoddiadau P yn gymhleth.
Arferion gorau wrth reoli buddsoddiadau
Dylech adolygu buddsoddiadau P yn rheolaidd i ystyried a ydyn nhw’n addas, ac a ddylid eu hamrywio yn unol â hynny. Efallai y bydd angen cyngor proffesiynol neu arbenigol arnoch i’ch helpu i adolygu hynny.
Wrth benderfynu ar lefel y risg a chyfnod y buddsoddiad, dylech ystyried amgylchiadau P, fel ei oedran ac unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl.
Dylech hefyd ystyried oedran a disgwyliad oes P, maint ei ystad, unrhyw oblygiadau sy’n deillio o amrywio’r buddsoddiadau, a’i anghenion ariannol yn y dyfodol.
Dylech geisio gwneud trefniadau buddsoddi yn unol â dymuniadau a phatrwm blaenorol P, os yw hynny’n dal er lles pennaf P.
Dylech ystyried anghenion P ar hyn o bryd a’i anghenion yn y dyfodol wrth ystyried hyd y buddsoddiad – er enghraifft, a oes angen bod arian ar gael i dalu am ofal.
Yn gyffredinol, mae buddsoddiadau tymor byr, isel eu risg yn fwy addas os yw disgwyliad oes P yn is (llai na 5 mlynedd) oherwydd henaint neu gyflwr sy’n byrhau bywyd. Gallai buddsoddiad tymor hwy gyda lefel isel i ganolig o risg fod yn addas i berson iau sydd heb unrhyw gyflyrau iechyd sy’n byrhau bywyd, os oes gan y person lawer o arian.
4e Rheoli rhwymedigaethau ariannol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi sicrhau bod dyledion P yn cael eu talu’n brydlon, er enghraifft ffioedd gofal a biliau cyfleustodau.
4f Darparu lwfans personol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau bod gan P ddigon o lwfans personol i dalu am eitemau fel eitemau ymolchi a thriniaeth traed os ydyn nhw mewn gofal preswyl. Os yw P yn byw yn ei gartref ei hun neu mewn llety gwarchod, rhaid i chi ystyried lles pennaf P a’i alluedd i drin arian, a darparu digon o arian gwario ar gyfer ei anghenion.
Arferion gorau wrth reoli materion ariannol P
Ar ôl cael eich penodi’n ddirprwy, dylech fynd ati i nodi a diogelu’r holl asedau a buddsoddiadau sydd gan P.
Dylech gael copi o ewyllys P, os yw’n bosibl. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw eitemau penodol sy’n cael eu rhestru fel becweddau yn cael eu cadw’n ddiogel. Dylech fynd ati i brisio eitemau unigol pan fydd hynny’n briodol.
Rhaid i chi roi gwybod i fanciau a sefydliadau ariannol lle mae gan P gyfrif eich bod chi wedi cael eich penodi’n ddirprwy i P. Dylech hefyd roi gwybod i unrhyw ddarparwyr incwm ychwanegol, fel cwmnïau pensiwn preifat.
Dylech fynd ati i gael gwybod a oes unrhyw arian neu asedau’n ddyledus i P – er enghraifft rhent gosod eiddo neu gredyd mewn cyfrifon cyfleustodau. Dylech geisio adennill y dyledion hyn.
Arferion gorau o ran ariannu darpariaeth gofal
Pan gewch chi eich penodi’n ddirprwy, dylech gysylltu ag unrhyw ddarparwyr gofal, rhoi gwybod iddyn nhw eich bod wedi cael eich penodi a rhannu’ch manylion cyswllt.
Dylech sicrhau bod darpariaeth gofal P yn cynnig gwerth da am arian, ac yn briodol i lefel yr arian sydd ar gael.
Os ydych chi, neu aelod o deulu P, yn derbyn tâl am ddarparu gofal, efallai y bydd angen i chi ofyn am sêl bendith y llys. Mae’r OPG wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar daliadau gofal teulu.
Safon 5: Cadw cofnodion ariannol
Rhaid i bob dirprwy gadw cofnodion o benderfyniadau ariannol a gwariant. Pan fyddwch chi’n llenwi’r adroddiad dirprwy, bydd disgwyl i chi gynnwys cofnodion o unrhyw benderfyniadau ariannol sydd wedi cael eu gwneud ar ran P.
5a Diweddaru cofnodion ariannol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi gadw derbynebau ac anfonebau ar gyfer pob trafodiad ariannol sy’n cael ei wneud ar ran P. Rhaid i chi gadw cofnodion o bob penderfyniad ariannol arwyddocaol.
Pan fyddwch chi’n llenwi’r adroddiad dirprwy, bydd disgwyl i chi gynnwys datganiadau sy’n ymwneud ag unrhyw benderfyniadau ariannol sydd wedi cael eu gwneud ar ran P.
5b Dangos sut mae penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud, a ffactorau perthnasol yn cael eu hystyried
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl benderfyniadau ariannol arwyddocaol yn cael eu gwneud er lles pennaf P, ac nad oes unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau.
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw benderfyniadau ynghylch rhoddion yn cyd-fynd â’r awdurdod a roddwyd gan eich gorchymyn dirprwyaeth. Mae’r OPG wedi cyhoeddi canllawiau ar roi rhodd, sydd ar gael ar GOV.UK.
Safon 6: Rheoli eiddo
Rhaid i bob dirprwy reoli eiddo P yn unol â’r gorchymyn dirprwyaeth ac er lles pennaf P.
6a Diogelu eiddo P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau bod eiddo P yn ddiogel ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol. Rhaid i chi sicrhau bod yswiriant priodol ar waith ar gyfer yr adeilad a’r cynnwys, a’ch bod chi’n deall telerau’r polisïau.
6b Gwerthu eiddo P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw benderfyniad i werthu eiddo P yn cael ei wneud gyda lles pennaf P mewn golwg. Rhaid i chi ymgynghori â phersonau priodol, os oes modd, gan gynnwys P a theulu P cyn penderfynu gwerthu’r eiddo. Rhaid i chi sicrhau bod yr eiddo’n cael ei werthu ar sail gwerth y farchnad, a chael tri phrisiad os yw hynny’n bosibl.
Dim ond os yw’ch gorchymyn dirprwyaeth yn rhoi’r awdurdod i chi werthu eiddo P y cewch chi wneud hynny.
Arferion gorau o ran eiddo P (os nad yw P yn byw yno) pan gewch chi’ch gwneud yn ddirprwy
Dylech fynd ati i gael gwybod pwy sy’n berchen ar yr eiddo. Gallwch chwilio am yr wybodaeth honno ar wefan Cofrestrfa Tir EF. Pan nad oes perchennog byw arall yn gallu gwneud hynny, dylech gael mynediad i’r eiddo i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel.
Os yw P wedi cael ei symud i ofal preswyl, dylech ystyried a yw’n briodol symud eitemau sydd o werth sentimental i P i’w gartref newydd.
Dylech ystyried creu rhestr o’r holl bethau sy’n perthyn i P.
Os byddwch chi’n penderfynu gwerthu eitemau sy’n perthyn i P, dylech gadw cofnod o bob eitem sydd wedi cael ei gwerthu.
Dylech sicrhau bod post yn cael ei ailgyfeirio, a bod unrhyw gyfleustodau angenrheidiol yn dal i gael eu darparu.
Os yw P o dan ofal sy’n cael ei ariannu gan awdurdod cyhoeddus, dylech ystyried creu trefniant taliadau gohiriedig pan fydd hynny’n briodol ac er lles pennaf P.
Os oes unrhyw aelod o’r teulu’n byw yn yr eiddo, dylech adolygu unrhyw drefniadau sydd eisoes yn bodoli ac ystyried a fyddai taliadau rheolaidd i P yn briodol.
Os yw eiddo P yn cael ei osod, dylech ystyried a ddylid rhoi rhybudd i derfynu’r denantiaeth. Dylech sicrhau bod cytundebau tenantiaeth cyfreithiol cywir yn eu lle ac yn cael eu cynnal. (Bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi ganiatâd y llys i derfynu cytundeb tenantiaeth, ac efallai y bydd angen i chi ystyried gofyn am gyngor arbenigol ar y gyfraith eiddo.)
Mae canllawiau manwl ar osod eiddo ar gael ar wefan GOV.UK.
Bydd rhwymedigaeth treth os yw eiddo P yn cynhyrchu incwm rhent. Mae canllawiau ar dalu treth fel landlord ar gael gan Gyllid a Thollau EF.
Arferion gorau o ran eiddo P (os yw P yn byw yno) pan gewch chi’ch gwneud yn ddirprwy
Dylech ystyried a yw’r eiddo’n dal i fodloni anghenion P. Dylech ystyried a oes angen cynllun gofal neu adroddiad therapi galwedigaethol, a sicrhau bod unrhyw addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud.
Dylech adolygu unrhyw drefniadau tenantiaeth neu forgais, a mynd ati i gael y gweithredoedd perchnogaeth os bydd angen.
Os oes cytundeb tenantiaeth ar waith, dylech ystyried trefnu yswiriant atebolrwydd tenantiaid.
Dylech fynd ati i sicrhau tystysgrifau archwiliad nwy ar gyfer teclynnau, boeleri a thanau nwy.
Dylech sicrhau bod archwiliadau trydanol yn cael eu cynnal, a bod tystysgrifau trydanol ar gael. Os mai P sy’n gyfrifol am dalu biliau cyfleustodau, mae angen cytuno ar unrhyw gyfraniadau sydd i’w gwneud gan aelodau eraill o’r aelwyd.
Safon 7: Penderfyniadau sy’n ymwneud yn benodol ag iechyd a lles
Rhaid i bob dirprwy a benodir mewn achosion iechyd a lles gydymffurfio â’r awdurdod a roddwyd gan y gorchymyn dirprwyaeth, a sicrhau bod yr OPG yn cael gwybod am benderfyniadau allweddol sy’n cael eu gwneud ar ran P.
7a Penderfynu ble y dylai P fyw
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion iechyd a lles
Yn eich adroddiad dirprwy, rhaid i chi gynnwys manylion unrhyw benderfyniadau rydych chi wedi’u gwneud ynghylch ble y dylai P fyw.
Arferion gorau wrth benderfynu ble y dylai P fyw
Os yw P yn talu am ei lety ei hun, gallwch ddewis unrhyw lety ar gyfer P ar yr amod ei fod yn bodloni anghenion P a’ch bod chi’n dilyn egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Os nad yw P yn talu am ei lety ei hun, dylech weithio ochr yn ochr â’r darparwr cyllid a cheisio dod i gytundeb ar y cyd gyda lles pennaf P mewn golwg.
7b Penderfynu pwy ddylai gael cyswllt â P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion iechyd a lles
Ni fydd gennych y pŵer i wahardd person sy’n cael ei enwi rhag cael cyswllt â P pan fyddwch chi’n gwneud cais i gael eich penodi’n ddirprwy. Bydd angen ystyried yn ofalus unrhyw gyfyngiadau rydych chi eisiau eu rhoi ar gyswllt â P, oherwydd mae’n bosibl y bydd angen gorchymyn llys ar eu cyfer.
Yn eich adroddiad dirprwy, rhaid i chi gynnwys manylion unrhyw benderfyniad i gyfyngu ar gyswllt neu ymweld â P. Os ydych chi’n credu bod angen gwahardd person sy’n cael ei enwi rhag ymweld â P er lles pennaf P, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod.
7c Cydsynio i driniaeth
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion iechyd a lles
Yn eich adroddiad blynyddol, rhaid i chi gynnwys manylion unrhyw benderfyniadau rydych chi wedi’u gwneud i ganiatáu neu wrthod gofal iechyd ar gyfer P. (Nid oes gan ddirprwyon yr awdurdod i wrthod triniaeth cynnal bywyd ar gyfer P). Dylech hefyd ystyried pa benderfyniadau sy’n debygol o fod angen eu gwneud yn y flwyddyn i ddod. Os oes triniaeth gyfredol, rhaid i chi gyfeirio ati’n glir yn yr adroddiad dirprwy.
Ystyriaethau ychwanegol o ran darparu gofal iechyd
Ar ôl cael eich penodi’n ddirprwy, dylech roi gwybod i feddygon, darparwyr gofal a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill am y gorchymyn llys.
Dylech adolygu anghenion iechyd a lles P o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau nad yw ei anghenion wedi newid, a’u bod yn dal i gael eu bodloni.
Safon 8: Rhwymedigaethau ychwanegol
Rhaid i ddirprwyon ystyried y rhwymedigaethau ychwanegol canlynol:
8a Archwilio ffeiliau mewnol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Nid yw’r safon hon yn berthnasol i ddirprwyon lleyg.
8b Cyflawni rhwymedigaethau proffesiynol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Nid yw’r safon hon yn berthnasol i ddirprwyon lleyg.
8c Rhoi gwybod i’r OPG ar unwaith am unrhyw ymchwiliad neu achos sydd ar waith
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr achos Goruchwylio os ydych chi, neu P, yn destun ymchwiliad gan yr heddlu neu achos sifil.
8d Rhoi gwybod i’r OPG am bryderon ynghylch dirprwyon eraill
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Rhaid i chi roi gwybod i’ch rheolwr achos Goruchwylio am unrhyw bryderon sydd gennych chi am weithredoedd dirprwy arall.