Canllawiau ar gyfer gwneud cais am drawsgrifiad
Diweddarwyd 4 Hydref 2024
Gwneud cais am drawsgrifiad
Os ydych am gael trawsgrifiad o achos llys neu dribiwnlys rhaid i chi lenwi ffurflen EX107 a thalu am gost y trawsgrifiad. Mewn achosion troseddol, bydd y cwmni trawsgrifio yn cysylltu â chi i ddweud wrthych faint fydd y trawsgrifio yn ei gostio.
Os ydych am archebu trawsgrifiad ar gyfer mwy nag un achos, rhaid i chi lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob achos gwahanol y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Mae gan staff y llys 2 ddiwrnod gwaith i brosesu ffurflen EX107 a’i chyflwyno i’r cwmni trawsgrifio. Dylid ystyried hyn wrth ddewis y band lefel gwasanaeth lle mae angen cymeradwyaeth farnwrol.
Mae’r band lefel gwasanaeth yn ymwneud â’r amser a roddir i’r cwmni trawsgrifio naill ai:
- gynhyrchu’r trawsgrifiad a’i gyflwyno i’r sawl wnaeth y cais
- ei gyflwyno i’r llys os oes angen cymeradwyaeth farnwrol cyn cyflwyno
Nid yw’n cynnwys yr amser a gymerir i gael cymeradwyaeth y barnwr.
Nid yw pob tribiwnlys yn recordio achosion, felly efallai na fydd gwasanaethau trawsgrifio ar gael. Rhaid gwneud ymholiadau i’r tribiwnlys perthnasol cyn i chi lenwi’r ffurflen.
Gellir anfon ffurflen EX107 drwy e-bost neu’r post i’r llys neu dribiwnlys. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y llys neu dribiwnlys yma.
Mae’n bosibl bod trawsgrifiad rydych wedi gofyn amdano eisoes wedi’i gynhyrchu ar gyfer Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Mae’n bosibl bod cwmni trawsgrifio awdurdodedig y llys hefyd wedi darparu stenograffydd neu gofnodwr llys i wneud cofnod o’r achos. O dan yr amgylchiadau hyn:
- bydd cwmni trawsgrifio awdurdodedig y llys yn darparu’r trawsgrifiad
- bydd y llys yn dweud wrthych gyda phwy dylech gysylltu
Mae trefniadau penodol yn berthnasol i’r Tribiwnlys Cyflogaeth.
Y Llys Apêl (Adran Droseddol) a’r Llys Gweinyddol
Rhaid i chi lenwi ffurflen EX107 os ydych am gael trawsgrifiad o ddyfarniad (er enghraifft, rhesymau’r barnwr dros y penderfyniad) a roddwyd gan y naill neu’r llall o’r canlynol:
- Y Llys Apêl (Adran Droseddol)
- Y Llys Gweinyddol
Rhaid i chi anfon ffurflen EX107 i’r cwmni trawsgrifio awdurdodedig trwy e-bost neu’r post. Gweler y manylion cyswllt ar gyfer adran trawsgrifiadau’r Llys Apêl (Adran Droseddol) a’r Llys Gweinyddol.
Os ydych am gael trawsgrifiad o unrhyw ran arall o’r achos, rhaid i chi lenwi ffurflen EX107 a’i anfon i’r llys trwy e-bost neu’r post. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y llys.
Os daw’r trawsgrifiad sydd ei angen arnoch o wrandawiad y Llys Apêl (Adran Droseddol) sy’n eistedd mewn llys y Goron rhanbarthol ar gylchdaith, neu o’r Llys Gweinyddol sy’n eistedd yn y rhanbarthau, gallwch ddewis unrhyw un o’r 5 cyflenwr. Nid ydych wedi’ch cyfyngu i gyflenwyr awdurdodedig trawsgrifiadau’r Llys Apêl (Adran Droseddol) a’r Llys Gweinyddol.
Trawsgrifiadau gwrandawiad preifat
Ar gyfer pob achos preifat ac ex parte, fe’ch cynghorir i ymgynghori â’r llys perthnasol cyn llenwi ffurflen EX107.
Llysoedd Barn Brenhinol, Llysoedd y Goron a Thribiwnlysoedd
Rhaid i chi gael caniatâd barnwr ar gyfer trawsgrifiadau o wrandawiadau preifat a wrandawyd yn:
- Y Llysoedd Barn Brenhinol
- Llysoedd y Goron
- tribiwnlysoedd penodol
Rhaid i Epiq Europe, y cwmni trawsgrifio awdurdodedig ar gyfer y gwasanaeth achosion sensitif, gynhyrchu pob trawsgrifiad o achosion preifat. Oherwydd natur sensitif yr achosion hyn, bydd trawsgrifio yn digwydd yn yr uned drawsgrifio ddiogel trwy wasanaeth sy’n seiliedig ar bresenoldeb.
Mae trefniadau penodol yn berthnasol i’r Tribiwnlys Cyflogaeth.
Y llys sirol ar gyfer achosion sifil
Yn y llys sirol, ar gyfer achosion sifil, rhaid i’r rhai nad ydynt yn bartïon i wrandawiad preifat dynodedig wneud y canlynol:
- llenwi ffurflen N244 i ofyn am ganiatâd i gael mynediad i drawsgrifiad
- talu’r ffi llys briodol
Llys teulu
Yn y llys teulu (isaf), rhaid i’r rhai nad ydynt yn bartïon mewn unrhyw wrandawiad teulu wneud cais ffurfiol i’r llys am ganiatâd i gael mynediad i drawsgrifiad.
Ar gyfer achosion teulu, rhaid i chi lenwi ffurflen C2 a thalu’r ffi llys briodol.
Ar gyfer achosion ysgariad rhaid i chi lenwi ffurflen D11 a thalu’r ffi llys briodol.
Os rhoddir caniatâd i gael trawsgrifiad yna:
- rhaid llenwi ffurflen EX107 fel arfer
- rhaid talu cost y trawsgrifiad priodol i’r cwmni trawsgrifio a ddewisir gan yr ymgeisydd
Gweler yr adran costau trawsgrifio.
Mathau o drawsgrifiadau
Gwrandawiad cyfan
Mae trawsgrifiadau gwrandawiad cyfan ar gael ar gyfer y mathau canlynol o achosion:
- troseddol
- tribiwnlys
- sifil
- teulu
Ar gyfer gwrandawiadau sy’n para diwrnod neu lai, rhaid i chi ddarparu’r amseroedd dechrau a gorffen.
Ar gyfer gwrandawiadau sy’n para mwy nag un diwrnod, rhaid i chi ddarparu’r dyddiadau ac, os yn bosibl, yr amseroedd dechrau a gorffen ar gyfer pob diwrnod.
Os byddwch yn gofyn am drawsgrifiad o wrandawiad Tribiwnlys Cyflogaeth, ni fydd hyn yn cynnwys y dyfarniad.
Ffeithiau agoriadol yr erlyniad
Mae trawsgrifiadau ffeithiau agoriadol yr erlyniad ar gael ar gyfer achosion troseddol.
Maent yn cynnwys crynodeb yr erlyniad o’r ffeithiau.
Lliniaru
Mae trawsgrifiadau lliniaru ar gael ar gyfer achosion troseddol.
Maent yn ymdrin ag araith bargyfreithiwr yr amddiffyniad i’r barnwr am y math o ddedfryd y dylai’r diffynnydd ei chael.
Sylwadau crynhoi y barnwr
Mae trawsgrifiadau sylwadau crynhoi y barnwr ar gael ar gyfer achosion troseddol.
Maent yn cynnwys:
- cyfarwyddyd y barnwr ar y gyfraith
- crynodeb o’r dystiolaeth a glywyd yn ystod y treial i helpu’r rheithgor i wneud eu penderfyniad
Sylwadau dedfrydu
Mae trawsgrifiadau o sylwadau dedfrydu ar gael ar gyfer achosion troseddol.
Maent yn cynnwys:
- penderfyniad ar ddedfrydu’r barnwr
- rhesymau’r barnwr dros osod y ddedfryd
Hanes blaenorol
Mae trawsgrifiadau hanes blaenorol ar gael ar gyfer achosion troseddol.
Maent yn cynnwys:
- cefndir y diffynnydd
- troseddau blaenorol y diffynnydd
Achos yn dilyn rheithfarn
Mae trawsgrifiadau achos yn dilyn rheithfarn ar gael ar gyfer achosion troseddol.
Maent yn cynnwys:
- yr achos
- y trafodaethau ar ôl i’r rheithgor gyflwyno eu dyfarniad terfynol
Tystiolaeth
Mae trawsgrifiadau tystiolaeth ar gael ar gyfer pob achos.
Maent yn cynnwys yr holl dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod gwrandawiad. Rhaid i chi ddarparu enw’r tyst ac, os yw’n berthnasol, nodi a ydych am gael trawsgrifiad o’r canlynol:
- yr holl dystiolaeth
- dim ond y dystiolaeth sydd naill ai yn y brif dystiolaeth, y croesholi neu’r ail-holi
Sylwadau agoriadol a sylwadau i gloi cwnsleriaid
Mae trawsgrifiadau o sylwadau agoriadol a sylwadau i gloi cwnsleriaid ar gael ar gyfer pob achos.
Maent yn cynnwys sylwadau agoriadol a sylwadau i gloi y cwnsleriaid. Rhaid i chi wneud y canlynol:
- darparu enw’r bargyfreithiwr perthnasol neu ei rôl
- nodi a ydych am gael yr areithiau agoriadol neu’r areithiau i gloi
Dyfarniad
Mae trawsgrifiadau dyfarniad ar gael ar gyfer y mathau canlynol o achosion:
- sifil
- teulu
- Y Llys Apêl (Adran Droseddol)
- tribiwnlys
Maent yn cynnwys:
- y penderfyniad ffurfiol
- y rhesymau a roddwyd gan y barnwr ar ddiwedd yr achos
Ni ddarperir trawsgrifiadau dyfarniad ar gyfer dyfarniad a roddir gan y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Dadleuon cyfreithiol a dyfarniadau
Mae trawsgrifiadau dadleuon cyfreithiol a dyfarniadau ar gael ar gyfer pob achos.
Maent yn cynnwys y ddadl a wnaed gan gynrychiolydd cyfreithiol neu barti ar fater penodol yn ystod yr achos a wnaed i’r canlynol:
- barnwr
- meistr
- tribiwnlys
Maent hefyd yn ymdrin â’r penderfyniad (dyfarniad) a roddwyd gan y:
- barnwr
- meistr
- tribiwnlys
Rhaid i chi ddweud os ydych chi eisiau’r dadleuon neu’r dyfarniad yn unig.
Ni ddarperir trawsgrifiadau dyfarniad ar gyfer dyfarniad a roddir gan y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Dyfarniad atafaelu
Mae trawsgrifiadau dyfarniad atafaelu ar gael ar gyfer pob achos.
Mae dyfarniadau atafaelu yn cynnwys y dyfarniad a roddwyd gan y barnwr mewn gwrandawiad atafaelu.
Ceisiadau eraill am drawsgrifiad
Ar gyfer unrhyw gais arall am drawsgrifiad, rhaid i chi wneud y canlynol:
- disgrifio’r math o achos yr hoffech gael trawsgrifiad ohono
- cynnwys yr amseroedd dechrau a gorffen ar gyfer y rhannau perthnasol o’r achos
Cost trawsgrifio
Bydd cost y trawsgrifiad yn cynnwys tudalen deitl gyda:
- manylion y gwrandawiad a’r achos
- unrhyw gyfyngiadau adrodd
- enwau’r partïon
- cynrychiolwyr cyfreithiol
- disgrifiad byr o’r math o drawsgrifiad
Trawsgrifiadau Llys y Goron
Unwaith y byddwch wedi llenwi ffurflen EX107, bydd y cwmni trawsgrifio awdurdodedig yn dweud wrthych faint fydd y trawsgrifiad yn ei gostio.
Y gwasanaethau y mae’r cwmnïau trawsgrifio yn eu cynnig yw:
- dros nos (24 awr) – band 1
- 48 awr – band 2
- 3 diwrnod gwaith – band 3
- 7 diwrnod gwaith – band 4
- 12 diwrnod gwaith – band 5
- cyfradd copi – band 6
Trawsgrifiadau achosion sifil, teulu neu dribiwnlys
Y pris a ddangosir yw’r gost fesul ffolio. Mae ffolio yn cynnwys 72 gair. Cyfanswm cost y trawsgrifiad fydd nifer y ffolios wedi’i luosi â’r pris a ddangosir.
Gellir defnyddio unrhyw un o’r cwmnïau trawsgrifio i ddarparu trawsgrifiad mewn achosion sifil, teulu neu dribiwnlys.
Y prisiau yw’r costau uchaf a godir gan bob cyflenwr am y 2 lefel gwasanaeth safonol. Os oes angen trawsgrifiad arnoch ar gyfer lefel gwasanaeth wahanol, rhaid i chi gysylltu â’r cwmni trawsgrifio i gytuno ar y tâl.
Bydd y gost yn berthnasol os bydd y cwmni trawsgrifio yn cyflwyno’r trawsgrifiad o fewn yr amser yr ydych wedi gofyn amdano. Os bydd yn cymryd mwy o amser i gyflwyno’r trawsgrifiad, yna bydd y cwmni trawsgrifio yn addasu’r gost.
Rhaid i chi gytuno ar y gost gyda’r cwmni trawsgrifio os ydych yn gofyn am drawsgrifiad rhwng 48 awr a 12 diwrnod gwaith.
Acolad UK
Band lefel gwasanaeth | Disgrifiad o’r gwasanaeth | Cost fesul 72 gair |
---|---|---|
Band 2 | 48 awr | £1.41 |
Band 5 | 12 diwrnod gwaith | £0.80 |
Band 6 | Cyfradd copi | £0.00 |
Epiq Europe
Band lefel gwasanaeth | Disgrifiad o’r gwasanaeth | Cost fesul 72 gair |
---|---|---|
Band 2 | 48 awr | £1.34 |
Band 5 | 12 diwrnod gwaith | £1.08 |
Band 6 | Cyfradd copi | £0.34 |
eScribers
Band lefel gwasanaeth | Disgrifiad o’r gwasanaeth | Cost fesul 72 gair |
---|---|---|
Band 2 | 48 awr | £1.35 |
Band 5 | 12 diwrnod gwaith | £1.05 |
Band 6 | Cyfradd copi | £0.10 y dudalen |
Martin Walsh Cherer
Band lefel gwasanaeth | Disgrifiad o’r gwasanaeth | Cost fesul 72 gair |
---|---|---|
Band 2 | 48 awr | £1.47 |
Band 5 | 12 diwrnod gwaith | £1.23 |
Band 6 | Cyfradd copi | £0.34 y dudalen |
The Transcription Agency
Band lefel gwasanaeth | Disgrifiad o’r gwasanaeth | Cost fesul 72 gair |
---|---|---|
Band 2 | 48 awr | £1.91 |
Band 5 | 12 diwrnod gwaith | £1.44 |
Band 6 | Cyfradd copi | £0.43 per page |
Cysylltu â chwmni trawsgrifio awdurdodedig
Acolad UK
291 to 299 Borough High Street
London
SE1 1JG
DX 149165 Southwark 9
Ffôn: 020 7759 2695
Ffacs: 020 7405 9884
E-bost: [email protected]
Gwefan: www.ubiqus.co.uk
Epiq Europe
Lower ground
46 Chancery Lane
London
WC2A 1JE
Ffôn: 020 7421 4036
Ebost sifil: [email protected]
Ebost llys y goron: [email protected]
Gwefan: www.eqipglobal.com/en-gb
eScribers
Ludgate House
107 to 111 Fleet Street
London
EC4A 2AB
Ffôn: 03301 005223
Ffacs: 03301 005213
Ebost: [email protected]
Gwefan: www.escribers.net
Marten Walsh Cherer
1st Floor, Quality House
6 to 9 Quality Court
Chancery Lane
London
WC2A 1HP
DX 410 LDE
Ffôn: 020 7067 2900
Ffacs: 020 7831 6864
Ebost llys y goron: [email protected]
Ebost sifil, teulu a’r tribiwnlysoedd: [email protected]
Gwefan: www.martenwalshcherer.com
The Transcription Agency
24 to 28 High Street
Hythe
Kent
CT21 5AT
Ffôn: 01303 230038
Ebost: [email protected]
Gwefan: www.thetranscriptionagency.com
Manylion cyswllt ar gyfer trawsgrifiadau’r Llys Apel (Adran Droseddol) a’r Llys Gweinyddol
Cwmni trawsgrifio awdurdodedig ar gyfer dyfarniadau llys yn y Llys Apêl (Adran Droseddol) a’r Llys Gweinyddol
Epiq Europe
Lower ground
46 Chancery Lane
London
WC2A 1JE
Ffôn: 020 7421 4036
Ebost: [email protected]
Manylion cyswllt y llys
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
Rhif ffôn apeliadau troseddol: 020 7947 6011
Ebost apeliadau troseddol: [email protected]
Rhif ffôn y Llys Gweinyddol: 020 7947 6655
Ebost y Llys Gweinyddol: [email protected]
Dilyn trywydd eich trawsgrifiad
Mae’n ofynnol i gwmnïau trawsgrifio awdurdodedig ddarparu gwybodaeth olrhain a statws archebu yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar eich trawsgrifiad. Mae manylion y system olrhain ar gael ar wefan y cwmni trawsgrifio perthnasol. Gallwch hefyd gysylltu â’r cwmni trawsgrifio.
Ar gyfartaledd, mae amser arweiniol o 10 diwrnod gwaith i staff y llys wneud y canlynol:
- dod o hyd i’r recordiad sain
- anfon y recordiad sain i’r cwmni trawsgrifio
Nid yw hyn yn cynnwys recordiadau sain mewn llys agored yn Llys y Goron.
Bydd llysoedd bob amser yn ceisio, lle bo modd, i ddarparu ar gyfer ceisiadau o natur brys.
Bydd angen i unrhyw geisiadau am drawsgrifiad ar gyfer dyfarniad gael eu cymeradwyo gan y barnwr, felly bydd angen amser ychwanegol cyn y gellir rhyddhau’r trawsgrifiad.
Dyfarniadau’r Llys Apêl (Adran Droseddol) a’r Llys Apêl (Adran Sifil)
Gallwch ddod o hyd i ddyfarniadau cyhoeddedig ar yr Archifau Cenedlaethol ar gyfer:
- Dyfarniadau’r Llys Apêl (Adran Droseddol)
- Dyfarniadau’r Llys Apêl (Adran Sifil)
Os nad yw’r dyfarniad sydd ei angen arnoch ar gael ar-lein, rhaid i chi lenwi ffurflen EX107 i ofyn am drawsgrifiad.
Dyfarniadau’r Tribiwnlys Cyflogaeth
Gallwch ddod o hyd i ddyfarniadau a rhesymau ysgrifenedig gan y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Os nad yw’r dyfarniad sydd ei angen arnoch ar gael ar-lein, rhaid i chi lenwi ffurflen EX107 i ofyn am drawsgrifiad.
Gwneud cwyn am gwmni trawsgrifio
Mae cwmnïau trawsgrifio awdurdodedig yn destun contract gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Dan delerau’r contract hwnnw, mae’n rhaid i’r darparwyr feddu ar drefn gwyno gadarn.
Rhaid i chi gysylltu â’r cwmni trawsgrifio perthnasol os ydych am wneud cwyn am ddarparu trawsgrifiad, gan gynnwys:
- prisiau
- bilio
- ansawdd y cynnyrch
- materion technegol eraill
Gallwch gael gwybod sut i wneud cwyn am ymateb neu ymddygiad cwmni trawsgrifio.
Llysoedd y Goron a gwmpesir gan bob cwmni trawsgrifio
Acolad UK
- Llys y Goron Blackfriars
- Llys Troseddol Canolog
- Llys y Goron Croydon
- Llys y Goron Harrow
- Llys y Goron Canol Llundain
- Llys y Goron Isleworth
- Llys y Goron Kingston Upon Thames
- Llys y Goron Leeds
- Llys y Goron Snaresbrook
- Llys y Goron Southwark
- Llys y Goron Green Wood
- Llys y Goron Woolwich
Epiq Europe
- Llys y Goron Birmingham
- Llysoedd Cyfun Coventry – Llys y Goron
- Canolfan Llysoedd Cyfun Derby – Llys y Goron
- Llys y Goron Great Grimsby
- Llys y Goron Henffordd
- Llys y Goron Kingston Upon Hull
- Llys y Goron Caerlŷr
- Llys y Goron Lincoln
- Llysoedd Cyfun Northampton – Llys y Goron
- Llys y Goron Nottingham
- Llys y Goron Amwythig
- Llysoedd Cyfun Stafford – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Stoke on Trent – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Warwick – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Wolverhampton – Llys y Goron
- Llys y Goron Caerwrangon
- Llys y Goron Efrog
The Transcription Agency
- Llys y Goron Bournemouth
- Llys y Goron Bryste
- Llys y Goron Caernarfon
- Llys y Goron Caerdydd
- Llys y Goron Durham
- Llys y Goron Caerwysg
- Llys y Goron Caerloyw
- Llys Cyfun Ynys Wyth
- Llysoedd Cyfun Merthyr Tudful – Llys y Goron
- Llys y Goron yr Wyddgrug
- Llys y Goron Newcastle
- Llys y Goron Casnewydd (De Cymru)
- Llysoedd Cyfun Plymouth – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Portsmouth – Llys y Goron
- Llysoedd Barn Caersallog – Llys y Goron
- Llys y Goron Southampton
- Llys y Goron Abertawe
- Llysoedd Cyfun Swindon – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Taunton – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Truro – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Caerwynt – Llys y Goron
Marten Walsh Cherer
- Barrow-in-Furness (Llys Dibynnol ar gyfer Llys y Goron Caerliwelydd)
- Llysoedd Cyfun Bolton – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Burnley – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Caerliwelydd – Llys y Goron
- Llys y Goron Caer
- Llys y Goron Doncaster
- Llys y Goron Caerhirfryn
- Llys y Goron Lerpwl
- Llys y Goron Manceinion (Crown Square)
- Llys y Goron Manceinion (Minshull)
- Llys y Goron Preston
- Llys y Goron Sheffield
- Llys y Goron Warrington
eScribers
- Llysoedd Barn Amersham – Llys y Goron (Llys Dibynnol ar gyfer Llys y Goron Aylesbury
- Llys y Goron Aylesbury
- Llysoedd Cyfun Basildon – Llys y Goron
- Llys y Goron Bradford
- Llys y Goron Bury St. Edmunds
- Llys y Goron Caergrawnt
- Llysoedd Cyfun Caergaint – Llys y Goron
- Llys y Goron Guildford
- Llys y Goron Ipswich
- Llys y Goron Kings Lynn (Llys Dibynnol ar gyfer Llys y Goron Norwich)
- Canolfan Llysoedd Cyfun Lewes – Llys y Goron
- Llys y Goron Luton
- Llysoedd Cyfun Maidstone – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Norwich – Llys y Goron
- Canolfan Llysoedd Cyfun Rhydychen – Llys y Goron
- Llysoedd Cyfun Peterborough – Llys y Goron
- Llys y Goron Reading
- Llys y Goron Southend
- Llys y Goron St. Albans
- Llys y Goron Teesside