Crynodeb o'r Adroddiad
Cyhoeddwyd 22 Mawrth 2022
Crynodeb
Cyflwyniad
Lansiwyd Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) ym mis Medi 2021 i gynnig cyngor annibynnol, monitro a rhoi adroddiadau i gefnogi gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig.
Ers gadael yr UE, mae pwerau sylweddol wedi dychwelyd i ddwylo Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynyddu’r posibilrwydd o wahaniaethau rheoleiddiol rhwng y cenhedloedd. Nod Deddf Marchnad Fewnol y DU, a sefydlodd yr OIM o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), yw sicrhau bod y farchnad fewnol yn parhau i weithredu mor effeithiol â phosib, gan alluogi pobl a busnesau i fasnachu heb rwystrau ychwanegol yn seiliedig ar ba wlad maent ynddi.
Mae’r OIM yn darparu cyngor technegol ac economaidd nad yw’n rhwymol i bob un o bedair llywodraeth y DU ar effaith darpariaethau rheoliadol penodol y maent yn eu cyflwyno ar y farchnad fewnol. Bydd ei waith yn cynorthwyo llywodraethau i ddeall pa mor effeithiol y mae cwmnïau yn gallu gwerthu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau ar draws pedair cenedl y Deyrnas Unedig, ac effaith darpariaethau rheoleiddiol ar hyn, i’w hystyried ochr yn ochr ag ystyriaethau polisi ehangach.
Diben yr adroddiad hwn
Rydym yn cyhoeddi’r adroddiad hwn er mwyn datblygu dealltwriaeth o faterion cyfredol ac i’r dyfodol ym marchnad fewnol y DU cyn cyhoeddi adroddiadau statudol cyntaf yr OIM ym mis Mawrth 2023.
Rydym wedi cydweithio â’r pedair cenedl i adolygu data ar fasnach rhyng-DU ac i adnabod y posibilrwydd o wella’r data er budd y rhai sy’n llunio polisïau. Rydym wedi arolygu busnesau i ddeall pa mor ymwybodol ydynt o farchnad fewnol y DU, patrymau masnach ac unrhyw bryderon ynghylch amrywiaethau rheoleiddiol. Rydym wedi adolygu’r tirlun polisi hefyd ac adnabod rhai meysydd ble mae amrywiaethau rheoleiddiol yn debygol o ddigwydd.
Yr amgylchedd rheoleiddiol
Amcan a swyddogaeth yr OIM
Amcan yr OIM yw cefnogi, drwy gymhwyso arbenigedd economaidd a thechnegol arall, gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU. Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn sefydlu dwy ‘egwyddor mynediad at y farchnad’:
-
Cyd-gydnabod, sy’n sicrhau bod cynnyrch neu wasanaeth y gellir ei werthu neu ei ddarparu’n gyfreithlon yn un rhan o’r DU, yn gallu cael ei werthu neu ei ddarparu mewn rhan arall ohoni.
-
Peidio â gwahaniaethu, sy’n sicrhau nad oes gwahaniaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwng nwyddau neu wasanaethau sy’n dod o rannau eraill o’r DU, o blaid nwyddau neu wasanaethau lleol.
Mae’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn berthnasol i nwyddau a gwasanaethau. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system ar gyfer adnabod cymwysterau proffesiynol ledled y DU hefyd.
Mae rhai darpariaethau rheoleiddiol wedi eu heithrio o’r Ddeddf gan eu bod mewn grym cyn diwedd y cyfnod pontio yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE ar 31 Rhagfyr 2020. Yn ogystal, ni all yr OIM gynnal adolygiad o Brotocol Gogledd Iwerddon neu o fesurau angenrheidiol i greu effaith iddo.
Gall yr OIM roi cymorth i’r pedair llywodraeth wrth iddynt ystyried y darpariaethau rheoleiddiol pan allai’r rhain gael effaith ar fasnach rhyng-DU. Gosodir swyddogaethau’r OIM mewn dau gategori:
-
Rhoi cyngor ar ddarpariaethau rheoleiddiol arfaethedig penodol neu rai a weithredwyd, ar gais awdurdod cenedlaethol perthnasol.
-
Monitro ac adrodd ar weithrediad marchnad fewnol y DU drwy adolygiadau drwy ddisgresiwn ac adroddiadau blynyddol a phob pum mlynedd.
Amrywiaethau rheoleiddiol o fewn y DU
Gall gwaith y pwerau datganoledig gan ddeddfwriaethau seneddol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn eang, ond yr hyn sydd fwyaf perthnasol i farchnad fewnol y DU yw’r grym i fabwysiadu rheoliadau newydd a newid rheoliadau presennol mewn meysydd a ddatganolwyd drwy’r Deddfau datganoli perthnasol. Gall amrywiaethau rheoleiddiol ddigwydd pan nad yw rheoliadau newydd neu a ddiwygiwyd mewn un neu ragor o’r pedair cenedl wedi eu mabwysiadau gan bob un ohonynt, neu pan fydd Llywodraeth y DU yn defnyddio’i phwerau neilltuedig ond gydag agweddau neu amserlenni gwahanol i’r cenhedloedd datganoledig. Gall newid rheoleiddiol gynnwys un ai gostyngiad neu gynnydd mewn rheoliadau.
Gallai unrhyw benderfyniad gan un neu ragor o’r pedair llywodraeth i wyro oddi wrth systemau rheoleiddiol a oedd wedi’u halinio cyn hynny, effeithio ar weithrediad marchnad fewnol y DU. Tra gallai rhesymau democrataidd, polisi ac ymarferol fodoli i egluro pam fod llywodraethau yn mabwysiadu agweddau rheoleiddiol gwahanol, gallai hyn arwain at oblygiadau hefyd – cadarnhaol a negyddol – ar gyfer masnach rhyng-DU.
Gall newidiadau rheoleiddiol arwain at ddrwgdeimlad sy’n ei gwneud hi’n anoddach cynnal busnes ar draws ffiniau. Gall gwahaniaethau mewn rheoleiddio gael yr un effaith â threth neu dariff ar gynhyrchion neu wasanaethau o awdurdodaethau eraill oherwydd eu bod yn cyflwyno cost ychwanegol i gynhyrchwyr. Yn y pendraw, gallai’r costau hyn arwain at brisiau uwch, effeithiau ar ansawdd a llai o ddewis o bosib i ddefnyddwyr. Mae’r OIM felly yn monitro marchnad fewnol y DU i adnabod materion a allai olygu’r angen am adolygiad mwy manwl ac yn cynghori llywodraethau, ar gais, ar effeithiau technegol ac economaidd posibl o ddarpariaethau rheoleiddiol.
Ers 2017, mae Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi bod yn cydweithio i ddatblygu Fframweithiau Cyffredin. Mae’r rhain yn gytundebau rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin i feysydd polisi ble mae pwerau a ildiwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn croesi meysydd o gymhwysedd datganoledig. Mae adroddiadau bob pum mlynedd yr OIM yn cynnwys adolygiad o effeithiau Fframweithiau Cyffredin ar farchnad fewnol y DU.
Trosolwg economaidd o farchnad fewnol y DU
Mae deall economeg marchnad fewnol y DU, gan gynnwys masnach rhwng y pedair cenedl, yn hanfodol wrth fonitro iechyd y farchnad ac ystyried effaith amrywiaethau rheoleiddiol. Wrth ymgymryd â’r asesiad dadansoddol cyntaf hwn o fasnach rhyng-DU, rydym wedi ceisio archwilio’r ffynonellau allweddol o ddata ar economïau’r pedair cenedl a masnach rhyng-DU, ac adnabod y prif themâu a ddaw i’r amlwg. Mae hyn, ynghyd â’n gwaith arolygu, wedi ein galluogi i adnabod rhai themâu allweddol ynghylch marchnad fewnol y DU a masnach rhyng-DU. Mae hyn yn rhoi llwyfan o’r OIM i ni allu cynnal dadansoddiad pellach arno.
Data economaidd
Mae’r pedair cenedl yn amrywio’n sylweddol o ran poblogaeth a’u heconomïau. Mae Lloegr â’r gyfran fwyaf o GDP y DU (86.7%), gyda’r Alban yn dilyn (7.6%), Cymru (3.5%) a Gogledd Iwerddon (2.2%). Er mai’r prif wahaniaethau yw mewn maint y boblogaeth, ceir gwahaniaethau pwysig hefyd mewn GDP fesul pen o’r boblogaeth. Lloegr sydd â’r GDP uchaf fesul pen o’r boblogaeth, ac yna’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, gyda 38% o wahaniaeth rhwng GDP fesul pen o’r boblogaeth o Loegr a Chymru.
Mae pob un o’r pedair cenedl yn dibynnu’n helaeth ar wasanaethau, sy’n cynrychioli 70% o leiaf o’u heconomïau. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng y cenhedloedd. Er enghraifft, mae gweithgynhyrchu’n cyfrannu mwy i economïau Cymru a Gogledd Iwerddon yn gymharol, tra bod gweithgareddau proffesiynol a thechnegol a gwasanaethau ariannol yn cyfrannu mwy yn gymharol i economïau Lloegr a’r Alban.
Data masnachol rhyng-DU
Mae cyfyngiadau ar ddata ar fasnach rhwng cenhedloedd y DU. Nid yw Lloegr yn cyhoeddi data ar fasnachu rhyng-DU a cheir gwahaniaethau yn y dulliau a ddefnyddir mewn perthynas â’r data a gyhoeddir gan Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Ceir oedi hir hefyd rhwng cyhoeddi’r data, gyda’r data mwyaf diweddar ar fasnach rhyng-DU wedi ei gyhoeddi yn 2019.
Er y cyfyngiadau hyn, rydym wedi cwblhau adolygiad cynhwysfawr o’r data sydd ar gael. Mae amryw o themâu yn dod i’r amlwg:
-
Mae allforion rhyng-DU werth £190bn y flwyddyn o leiaf, gan gynrychioli o leiaf chwarter o holl allforion y DU.
-
Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn wahanol i Loegr, yn masnachu fwy gyda gweddill y DU na’r UE neu weddill y byd. Maent hefyd yn fewnforwyr net o fewn y DU, gan brynu mwy gan genhedloedd eraill y DU na maent hwythau yn ei werthu iddyn nhw. I’r gwrthwyneb, mae Lloegr yn allforiwr net i genhedloedd eraill y DU.
-
O blith y cenhedloedd datganoledig, yr Alban sydd â’r lefel uchaf o fasnach gyda gweddill y DU (£66bn o fewnforion a £52bn o allforion) gyda Chymru’n dilyn (£27bn o fewnforion a £26bn o allforion) a Gogledd Iwerddon (£13bn o fewnforion a £11bn o allforion).
-
Yn gymharol, mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon batrymau masnachol tebyg iawn i’w gilydd gyda gweddill y DU. Mae 66% o fewnforion yr Alban a 60% o allforion yn gysylltiedig â chenhedloedd eraill y DU. Ar gyfer Gogledd Iwerddon a Chymru, mae mewnforion o weddill y DU yn 63% a 58% ar gyfer y ddwy wlad yn y drefn honno, gyda’r DU yn cynrychioli tua hanner eu holl allforion. Prin mae Lloegr yn masnachu â chenhedloedd eraill y DU.
Rydym wedi archwilio llif masnach rhyng-DU fesul sector hefyd, sy’n dangos:
-
Mae allforion gwasanaethau i weddill y DU yn uwch ar gyfer yr Alban (60% o allforion rhyng-DU) na Gogledd Iwerddon a Chymru (40%), er bod gwasanaethau’n cynrychioli rhwng 70-80% o’r tair economi hyn.
-
Mae 40% o werthiannau’r Alban i weddill yn DU yn y gwasanaethau busnes – sef dwywaith gymaint â Gogledd Iwerddon a Chymru’n unigol – gyda diwydiant gwasanaethau ariannol yr Alban yn rhannol gyfrifol am hynny.
-
Roedd bron i 40% o werthiannau Gogledd Iwerddon a Chymru i weddill y DU mewn nwyddau a weithgynhyrchwyd, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd gweithgynhyrchu i’r economïau hyn.
-
Roedd bron i 20% o werthiannau’r Alban a 15% o rai Cymru i weddill y DU mewn nwyddau a chyfleustodau’r sector sylfaenol, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd diwydiant olew a nwy Yr Alban a’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru.
Gwaith cydweithredol i wella data masnachol rhyng-DU
Mae datblygu ystadegau cymharol a chadarn ar fasnach rhyng-DU yn bwysig i’r rhai sy’n llunio polisiau, busnesau a defnyddwyr ledled y DU. Rydym felly’n cydweithio â’r pedair llywodraeth i adnabod cyfyngiadau’r data cyfredol ac i yrru blaengynlluniau er mwyn gallu gwella’r data.
Rydym hefyd yn werthfawrogol o sylwadau ac awgrymiadau gan ddadansoddwyr o’r pedair cenedl a fu o gymorth wrth ddatblygu’r adroddiad hwn.
Arolygon o farchnad fewnol y DU
Comisiynwyd arolwg dros y ffôn gennym o bron i 600 o fusnesau ledled y DU, i ddeall economeg marchnad fewnol y DU yn fwy manwl ac i ddarparu data mwy cyfredol na’r ystadegau a gyhoeddwyd. Llwyddodd y dadansoddwyr o’r pedair llywodraeth i gyfrannu mewn modd defnyddiol iawn at y gwaith hwn.
Gweithiom hefyd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnwys dau gwestiwn ar fasnach rhyng-DU yn yr arolwg Business Insights and Conditions Survey (BICS) a gyhoeddir bob pythefnos, sy’n denu rhwng 8,000-9,000 o ymatebion fel arfer ym mhob ton.
O’r canlyniadau BICS gwelwyd bod:
-
26% o fusnesau wedi gwerthu nwyddau neu wasanaethau i gwsmeriaid yng nghenhedloedd eraill y DU dros y 12 mis diwethaf. Gallai fod 9% arall fod wedi masnachu gyda chenhedloedd eraill y DU ond nid oeddent yn gallu amcangyfrif hyn fel cyfran hyn o’u gwerthiant.
-
Gweithgynhyrchu (42%) a masnachu Cyfanwerthu/Manwerthu (40%) oedd y ddau sector oedd â’r cyfrannau uchaf o fusnesau mewn masnach rhyng-DU.
-
Roedd cwmnïau mwy o faint yn fwy tebygol o fasnachu gyda chenhedloedd eraill o’r DU na gyda chwmnïau llai o faint.
-
Dywedodd 10% o fusnesau a fasnachodd gyda chwsmeriaid yng nghenedloedd eraill o’r DU eu bod yn profi trafferthion wrth geisio gwneud hynny, gyda lletya a’r gwasanaeth bwyd (21%), cludiant a storio (16%) a gweithgynhyrchu (16%) yn sectorau a effeithiwyd arnynt waethaf.
Archwiliodd arolwg yr OIM farchnad fewnol y DU yn fwy manwl gan ganfod:
-
Yn gyson â chanlyniadau’r BICS, roedd cwmnïau mwy o faint yn fwy tebygol o fasnachu gyda chenhedloedd eraill o’r DU na gyda chwmnïau llai o faint.
-
Mae amryw o farchnadoedd yn rai lleol o ran natur, sy’n cyfyngu ar ysgogiad neu allu cwmnïau, yn enwedig y rhai llai o faint, i fasnachu y tu hwnt i’w rhanbarth neu wlad.
-
O’r cwmnïau hynny a fasnachodd ar lefel rhyng-DU, roedd y mwyafrif a ymatebodd yn ei chael hi’n rhwydd neu’n rhwydd iawn i fasnachu ar draws y cenhedloedd. Fodd bynnnag, nododd rhai cwmnïau wahaniaethau ar hyn o bryd mewn rheoliadau a allai effeithio ar eu gwerthiant o nwyddau neu wasanaethau o fewn y DU. Nododd nifer fechan o gwmnïau wahaniaethau polisi a rheoleiddiol i’r dyfodol a allai effeithio ar eu gwerthiant o nwyddau neu wasanaethau.
-
O’r cwmnïau hynny a fasnachodd ar lefel rhyng-DU, roedd y mwyafrif yn gallu adnabod y gyfran o’u gwerthiant a fasnachwyd ar draws cenhedloedd y DU, ac o’r rheiny, roedd y mwyafrif yn ei chael hi’n rhwydd neu’n rhwydd iawn i wneud hynny. Fodd bynnag roedd nifer leiafrifol eithaf sylweddol nad oeddent yn gallu gwneud hynny, yn bennaf un ai gan nad oeddent yn gallu canfod eu cwsmeriaid terfynol neu oherwydd nad oedd y systemau gwybodaeth ganddynt i greu’r data.
-
Nododd y rhan fwyaf o fusnesau a fasnachodd gyda chenhedloedd eraill o’r DU bod lefelau masnach un ai wedi aros yr un fath neu wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.
-
Isel oedd yr ymwybyddiaeth o’r OIM, er i’r rhan helaeth o’r cwmnïau ateb y cwestiynau ar y MAPs yn gywir.
Yn ogystal â darparu sail dystiolaeth fwy swmpus, bu’r arolwg yn gyfle hefyd i ddeall yn well sut ellir dylunio arolygon i archwilio masnach rhyng-DU ac mae wedi ein galluogi ni i ddysgu gwersi ar gyfer gwaith arolygu i’r dyfodol.
Datblygiadau i’r dyfodol yn yr amgylchedd rheoleiddiol
Mae ein dadansoddiad o’r data masnachol wedi dangos beth yw graddfa marchnad fewnol y DU a’i phwysigrwydd ar draws pedair cenedl y DU. O ystyried y lefel uchel o integreiddio mewn llifau masnach rhwng cenhedloedd y DU, gallai rhwystrau posib i fasnachu gyda gweddill y DU gael effaith ar dwf economaidd a ffyniant.
Ni lwyddom i adnabod tystiolaeth o amrywiaethau sylweddol newydd mewn polisi yn datblygu rhwng y pedair cenedl ers 31 Rhagfyr 2020. Ynghyd â’n canfyddiadau o’n harolygon ar fusnesau, nid oes unrhyw beth yn y dystiolaeth a welsom hyd yma i awgrymu bod amrywiaethau rheoleiddiol ers Rhagfyr 2020 wedi effeithio ar farchnad fewnol y DU.
Nid yw hyn yn annisgwyl, oherwydd gallai amrywiaethau posib mewn dulliau rheoleiddiol o fewn y DU ddigwydd yn raddol dros amser wrth i lywodraethau ddatblygu eu rhaglenni a’u rhoi ar waith. Yn neilltuol, mae’n adlewyrchiad o’r cyfnod pontio a rwystrodd unrhyw addasiadau yn neddfau’r UE a gadwyd.
Awgryma ein dadansoddiad mai’r prif feysydd polisi ble y gallai amrywiaethau rheoleiddiol ddatblygu i raddau dros amser, fydd mewn sectorau fel:
- Amgylchedd.
- Y defnydd o ynni.
- Amaethyddiaeth.
- Llesiant anifeiliaid.
- Bwyd, diod ac iechyd.
- Materion ynghylch diogelwch.
Mae amryw o’r meysydd hyn yn alinio neu’n gorgyffwrdd i raddau gyda rhai o’r Fframweithiau Cyffredin amodol.
Mewn amryw o achosion, efallai na fydd amrywiaeth yn datblygu yn y pen draw a gallai dulliau rheoleiddiol ar draws y DU gydgyfeirio yn wir dros amser neu gael eu rheoli drwy Fframweithiau Cyffredin. Fodd bynnag, mae adnabod meysydd penodol ble mae amrywiaethau rheoleiddiol yn fwyaf tebygol o ddigwydd, wedi llwyddo i roi gwybodaeth werthfawr iawn.
Rydym wedi cynnig rhai enghreifftiau o ddatblygiadau yn y sectorau hyn – gan gynnwys mewn perthynas â phlastigau defnydd untro, gwefru clyfar, cnydau addasu-genyn, allforio anifeiliaid byw a labelu maeth. Mae’r enghreifftiau hyn yn cynnwys rheoliadau ynghylch gwerthu nwyddau, darparu gwasanaethau a chydnabod cymwysterau proffesiynol – gan ddangos yr ystod posibl o amrywiaethau rheoleiddiol a allai ddatblygu.
Fel rhan o’n swyddogaeth i gynnig cyngor annibynnol, monitro ac adrodd fel modd o gefnogi gweithrediad effeithiol o farchnad fewnol y DU, byddwn yn parhau i ystyried datblygiadau newydd mewn polisi – gan elwa o gyfraniadau gan fusnesau a rhanddeiliaid eraill i’n gwasanaeth adrodd digidol a’n hymgysylltiad parhaus gyda rhanddeiliaid o’r pedair cenedl.
Yn ogystal, rydym yn barod i ymateb i geisiadau gan lywodraethau am adroddiadau a chyngor ar ddarpariaethau rheoleiddiol penodol, ac erbyn mis Mawrth 2023 byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiadau statudol cyntaf ar ddatblygiadau sy’n berthnasol i farchnad fewnol y DU a’i gweithrediad effeithiol.