Cynlluniau pensiwn: Hysbysiad o dreth a ddidynnwyd (R185) (Gweinyddwr cynllun pensiwn)
Defnyddiwch ffurflen R185 (Gweinyddwr cynllun pensiwn) i ddarparu gwybodaeth gan ymddiriedolaeth am daliad wedi'i gyllido gan gyfandaliad budd-dal marwolaeth trethadwy.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn weinyddwr cynllun pensiwn, defnyddiwch ffurflen R185 (Gweinyddwr cynllun pensiwn) wrth wneud taliad i ymddiriedolwr, sydd ddim yn ymddiriedolwr noeth, sydd wedi’i gyllido gan un o’r cyfandaliadau budd-dal marwolaeth canlynol, a oedd yn destun tâl cyfandaliadau budd-dal marwolaeth arbennig o dan adran 206 o Ddeddf Cyllid 2004:
- cyfandaliad budd-dal marwolaeth o fuddiannau diffiniedig
- budd-dal marwolaeth o arian nas defnyddiwyd ar ffurf cyfandaliad
- budd-dal a gyrchir o gronfa pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
- budd-dal marwolaeth o arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa pensiwn
- budd-dal diogelu pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
- budd-dal diogelu blwydd-dal ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
Dylech ddarparu’r ffurflen hon cyn pen 30 diwrnod o wneud y taliad.
Dylai’r ymddiriedolaeth sy’n cael y taliadau gadw’r ffurflen hon. Bydd angen hon ar yr ymddiriedolaeth er mwyn iddi allu darparu’r wybodaeth hon i’r buddiolwr.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Ebrill 2017 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.