Gwneud cais am ostyngiad yn y ffi ar gyfer eich atwrneiaeth
Gwneud cais i dalu llai i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais i dalu llai i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus.
Defnyddiwch y ffurflen hon os byddwch chi angen help gyda’r canlynol:
- £82 - ffi gwneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol(LPA) neu atwrneiaeth barhaus(EPA).
- £41 - ffi i wneud cais arall i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus
Os yw’r sawl a wnaeth yr atwrneiaeth arhosol neu’r atwrneiaeth barhaus (y ‘rhoddwr’) yn cael rhai budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd pan fyddwch yn gwneud cais i’w chofrestru, ni fydd yn rhaid i chi dalu dim - ‘esemptiad’ yw’r enw ar hyn.
Mae’r budd-daliadau’n cael eu rhestru ar y ffurflen uchod.
Os yw incwm y rhoddwr cyn treth yn llai na £12,000 y flwyddyn, dim ond hanner y bydd yn rhaid i chi ei dalu – gelwir hyn yn ‘ostyngiad o 50%’.
Mae’r ffurflen hefyd yn esbonio sut a phryd i dalu’r ffioedd.
Fformatau amgen
I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: [email protected]. Cofiwch roi eich cyfeiriad.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Gwybodaeth am sut mae OPG yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Tachwedd 2022 + show all updates
-
Changed the titles of the page and documents within to make it clearer on what they relate to. English and Welsh updated.
-
Removed reference to braille and audio versions of this form - we don't have them. Added 'personal information' text to Welsh language version
-
Change to debit and credit card payments
-
Added 'Personal information' section.
-
Added translation
-
Changed fee levels on documents
-
Updated text to explain in more detail how exemptions and remissions apply.
-
Replaced LPA120 form to reflect new power of attorney application fees from 1 October 2013
-
Details of application fees added to page description, including information about fee changes on 1 October 2013.
-
First published.