Ffurflen

Sut i gofrestru fel busnes sy'n gosod cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol (PPPs) ar y farchnad

Diweddarwyd 30 Medi 2022

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Pwy sy’n gorfod cofrestru

Rhaid i fewnforwyr, gweithgynhyrchwyr, proseswyr, dosbarthwyr neu werthwyr naill ai cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs), adjiwfantau neu gynhwysion PPPs at ddibenion proffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) gofrestru gyda’r ffurflen hon.

Does dim angen i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw gofrestru gyda’r ffurflen hon.

Mewnforwyr

Rhaid ichi gofrestru os yw eich busnes yn mewnforio naill ai PPPs, eu cynhwysion neu adjiwfantau i’w defnyddio’n broffesiynol i Brydain Fawr.

Gweithgynhyrchwyr a phrosesyddion

Rhaid ichi gofrestru os yw eich busnes:

  • yn cynhyrchu PPPs wedi’u fformiwleiddio
  • yn cynhyrchu cynhwysion PPPs
  • yn cynhyrchu adjiwfantau
  • yn ailbacio PPPs
  • yn ail-labelu PPPs

Rhaid i’r PPPs, y cynhwysion PPPs neu’r adjiwfantau gael eu gweithgynhyrchu ym Mhrydain Fawr a rhaid iddynt fod at ddibenion proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithgynhyrchu am ffi.

Dosbarthwyr a gwerthwyr

Rhaid ichi gofrestru os yw eich busnes yn gwneud PPPs, eu cynhwysion neu adjiwfantau sydd ar gael i’w prynu i’w defnyddio’n broffesiynol ym Mhrydain Fawr, naill ai mewn siop neu dros y we.

Sut i gofrestru

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel busnes sy’n gosod cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol (PPPs) ar y farchnad.

Lawrlwytho’r ffurflen

Mae’r ffurf ar fformat taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen fel Microsoft Excel, LibreOffice neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi’r ffurflen.

Mae’r ffurflen ar gael mewn 2 wahanol fath o ffeiliau:

  • Fformat OpenDocument (.ods)
  • Fformat Excel (.xlsx)

Os ydych chi’n defnyddio dyfais Apple a bod gennych chi OpenOffice neu LibreOffice, defnyddiwch y math o ffeil OpenDocument (.ods). Os ydych chi’n defnyddio Numbers, bydd angen ichi allforio a chadw eich ffeil orffenedig ar fformat Excel (.xls neu .xlsx) neu OpenDocument (.ods).

Dychwelyd y ffurflen

Ar ôl ei llenwi, cadwch y ffurflen fel ffeil OpenDocument (.ods) neu Excel (.xls neu .xlsx).

Ebostiwch eich ffeil .ods, .xls neu .xlsx i [email protected].

Dim ond ffurflenni sydd wedi’u cadw yn y fformatau hyn y gall Defra eu prosesu. Os anfonwch chi’ch eich ffurflen mewn fformat ffeil gwahanol, megis dogfen PDF neu Word, ni fydd yn cael ei phrosesu a gofynnir ichi ailgyflwyno’r wybodaeth.

Os bydd eich cwmni’n cau ar ôl cofrestru, rhaid ichi roi gwybod i [email protected].

Help gyda’r ffurflen

I gael help gyda’r ffurflen, gallwch:

  • ebostio: [email protected] (defnyddiwch y llinell bwnc ‘Ymholiad cofrestru OCR-PPP’)
  • ffonio’r llinell gymorth: 03459 33 55 77

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.

Gwybodaeth am daliadau am alwadau (yn Saesneg).

I gysylltu â Defra ynghylch cwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno (yn Saesneg).