Canllawiau

Dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru (cyfarwyddyd ymarfer 49)

Diweddarwyd 27 Awst 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar sut i osgoi gwrthod ceisiadau i newid y gofrestr. Mae’n rhoi enghreifftiau o ddiffygion rydym yn ystyried eu bod yn ddigon difrifol i wrthod y cais a dychwelyd y papurau.

Rydym wedi adolygu’n polisi gwrthod fel y byddwn, fel rheol, yn gwrthod dim ond ceisiadau nad oes disgwyl iddynt lwyddo (gweler Enghreifftiau o geisiadau nad oes disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo); neu rai a ddilëwyd yn flaenorol ac sy’n cael eu hailgyflwyno heb ddelio â’r pwyntiau dileu. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau a gyflwynir yn electronig na chânt eu cyflwyno gan y cwsmer a enwir ym mhanel 7 yr AP1, eAP1 neu gyfwerth, oherwydd dim ond y cwsmer sy’n cyflwyno sydd wedi cytuno i gael ei rwymo gan amodau defnyddio’r porthol.

Lle y gallwn adnabod diffygion sylweddol yn y cais, byddwn hefyd yn egluro pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd i osgoi gwrthod pan gaiff y cais ei ailgyflwyno.

Caiff pob pwynt arall a fyddai (o dan ein polisi gwrthod blaenorol) wedi peri i’r cais gael ei wrthod, ei godi bellach fel ymholiadau.

Am wybodaeth gyffredinol am ymholiadau ac awgrymiadau ar sut i’w hosgoi gweler cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu.

2. Ystyr gwrthod

Yn ôl rheol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wrthod cais ar ôl ei dderbyn neu ei ddileu ar unrhyw bryd lle mae’n ymddangos i ni ei fod yn sylweddol ddiffygiol. Yn y cyfarwyddyd hwn rydym yn defnyddio’r term ‘gwrthod’ ar gyfer pob enghraifft lle bo rheol 16(3) yn briodol.

Gallwn wrthod ceisiadau lle y mae’r diffygion ynddynt yn parhau heb eu datrys yn dilyn trafodaethau rhyngom ni a’r ceisydd.

Os cymerir y camau hyn yn eithriadol, caiff rhybudd ei anfon yn nodi’r diffygion a fydd yn arwain at y gwrthod a’r cyfnod y bydd y gwrthod yn gymwys.

Pan fyddwn yn gwrthod cais, byddwn yn dychwelyd yr holl bapurau a dogfennau a gyflwynwyd yn wreiddiol at yr anfonwr. Byddwn hefyd yn datgan y rheswm dros y gwrthodiad fel bod modd datrys hyn cyn ei ailgyflwyno. Mae cais a wrthodwyd yn colli ei flaenoriaeth. Bydd unrhyw daliad a anfonwyd gyda’r cais yn cael ei ddychwelyd neu ei ad-dalu oni bai y cyflwynwyd y cais ar bapur a’i fod yn cael ei wrthod ar ôl inni ddechrau ei brosesu. Os felly, byddwn yn cadw’r taliad a naill ai’n ei gredydu i gais newydd neu’n rhoi ad-daliad ar gais.

3. Terfyn amser ar wrthod

Ein nod yw canfod unrhyw ddiffygion a gwrthod cais ar ddiwrnod ei dderbyn. Ni fyddwn, fel rheol, yn gwrthod cais sydd wedi bod gyda ni am 5 niwrnod gwaith ond byddwn yn gwneud hynny o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys:

  • lle nad oes gan y cais obaith o lwyddo
  • lle cyflwynir y cais heb ffi
  • lle bo’r cais i ryddhau arwystl

Lle na fydd cais yn cael ei wrthod, bydd yn cadw ei flaenoriaeth a byddwn yn delio â’r mater trwy ymholiad.

4. Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Hyd at Hydref 2024, gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael.

Mae hyn yn golygu os yw eich cais yn cael ei ddychwelyd atoch, copïau o’r dogfennau a sganiwyd a anfonir atoch.

5. Enghreifftiau o geisiadau nad oes disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo

5.1 Buddion na ellir eu cofrestru

Mae buddion na ellir eu cofrestru’n cynnwys:

  • mathau penodol o brydlesi a roddir am ddim hirach na 7 mlynedd
  • gwarediadau buddion ecwitïol
  • prydles a ddylai fod, ond nad yw, yn brydles cymalau penodedig

5.2 Nid oes hawl gan y ceisydd wneud cais oherwydd nid yw’r ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddo

Er enghraifft buddiolwr o dan ewyllys nad yw’r ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddo.

5.3 Ceisiadau i gofnodi cyfyngiadau

Lle y mae’r canlynol yn wir am gais i gofnodi cyfyngiad:

  • nid oes hawl o dan adran 42 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • mae warchod dyled heb ei gwarantu
  • mae am gyfyngiad Ffurf A lle y mae cyfyngiad o’r fath eisoes yn y gofrestr

5.4 Meddiant gwrthgefn

Cais am feddiant gwrthgefn lle:

  • y cyflwynir y math anghywir o gais, fel FR1 pan fo’r tir yn gofrestredig
  • y mae amser annigonol yn cael ei hawlio i arwain at feddiant gwrthgefn
  • y mae’r dystiolaeth o feddiant yn annigonol

5.5 Rhybuddion

Rhybuddion lle:

  • nad oes budd wedi ei ddangos
  • y mae’r budd o dan ymddiried
  • y mae’r budd mewn prydles tymor byr

6. Rhestr adolygu ceisiadau: osgoi gwrthod ceisiadau i gofrestru

Mae’r wybodaeth isod yn dangos ein meini prawf, gan roi awgrymiadau ar sut i osgoi gwrthodiad. Oherwydd natur hynod amrywiol y ceisiadau a dderbyniwn, nid yw’r rhestr yn cynnwys popeth. Fe all fod enghreifftiau prin lle bo gan gais ddiffyg sylweddol nad yw’n cael sylw yn y cyfarwyddyd hwn.

Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu am awgrymiadau ar osgoi ymholiadau.

6.1 Cynlluniau i weithredoedd gyda deliadau â rhan a phrydlesi

Mae pob un o’r gofynion hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau sy’n dod gyda chwiliadau trwy ffurflen OS2 neu ffurflen OS3.

Rydym yn gwrthod

Rydym yn gwrthod ceisiadau lle y mae’n amhosibl nodi maint y tir sy’n destun y cais, megis:

  • lle bo’r weithred yn cyfeirio at gynllun ond nad yw ynghlwm
  • lle nad oes modd cyfateb y maint ar y cynllun i fap yr Arolwg Ordnans
  • lle nad yw’r maint ar y cynllun wedi ei ddiffinio’n eglur, megis trwy ymylu, lliwio neu linellu
  • y mae’r cynllun wedi ei wyrdroi’n sylweddol i atal nodi’r maint

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • rhaid amgáu cynllun gyda throsglwyddiadau, arwystlon a phrydlesi o ran oni bai fod modd dynodi’r rhan yn eglur naill ai:
  • tu hwnt i amheuaeth ar gynllun teitl y prydleswr neu werthwr o’r disgrifiad yn nhestun y weithred
  • trwy gyfeirio at union liwiad ar gynllun teitl y prydleswr neu werthwr, er enghraifft “… dangoswyd wedi ei liwio’n las ar gynllun teitl rhif teitl …”. Rhaid iddo beidio â chyfeirio at gynllun ystad cymeradwy
  • sicrhewch nad yw unrhyw ymylon yn rhy drwchus ac yn cuddio unrhyw fanylyn arall ar y cynllun. Ar gynllun ar raddfa fechan gall llinellau trwchus fod yn amryw fetrau ar draws yn y maes. Os na allwn benderfynu’r union faint, gallwn wrthod y cais
  • byddwn yn derbyn ymwadiad sy’n ymddangos ar gynlluniau gweithredoedd a grëwyd gan National Grid Gas ccc (Rhif Cofrestru Cwmni 2006000) (Transco ccc gynt) lle bo’r ymwadiad yn berthnasol i leoliad a/neu fodolaeth pibelli, offer ac ati
  • dylid paratoi unrhyw gynllun ar gyfer gweithred neu gais newydd gyda golwg ar y canllawiau canlynol. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg.
    • tynnu a dangos ar ei wir raddfa
    • dangos ei ogwydd (ee gogledd)
    • defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/1250 – 1/500 ar gyfer eiddo trefol
    • defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/2500 ar gyfer eiddo gwledig (caeau a ffermydd ac ati)
    • peidio â seilio ar raddfa o fesuriad imperial (er enghraifft, 16 troedfedd i 1 fodfedd)
    • peidio â gostwng y raddfa (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg
    • peidio â nodi na chyfeirio ato fel bod at ddiben dynodi’n unig
    • peidio â dangos datganiadau ymwadiad sy’n cael eu defnyddio o dan Ddeddf Camddisgrifiadau Eiddo 1991
    • dangos manylion digonol i’w adnabod ar fap yr Arolwg Ordnans
    • dangos ei leoliad cyffredinol trwy ddangos ffyrdd, cyffyrdd neu dirnodau eraill
    • dangos tir yr eiddo, gan gynnwys tir unrhyw fodurdy neu ardd
    • dangos adeiladau yn eu lle cywir (neu arfaethedig
    • dangos mynedfeydd neu lwybrau os ydynt yn ffurfio rhan o derfynau’r eiddo
    • dangos y tir a’r eiddo’n eglur (er enghraifft, trwy ymylu, lliwio neu linellu)
    • bod ag ymylon o drwch nad ydynt yn cuddio unrhyw fanylion eraill
    • dangos rhannau ar wahân trwy farciau addas ar y cynllun (tŷ, man parcio, lle biniau)
    • nodi gwahanol lefelau lloriau (pan fo’n briodol)
    • dangos terfynau cymhleth gyda chynllun ar raddfa fwy neu gynllun mewnosod
    • dangos mesuriadau mewn unedau metrig yn unig, i 2 le degol
    • dangos terfynau amhenodol yn gywir a, lle bo angen, trwy gyfeirio at fesuriadau
    • dangos mesuriadau sy’n cyfateb, cyn belled ag y bo modd, i fesuriadau graddedig

6.2 Cynlluniau i weithredoedd gyda chofrestriadau cyntaf

Rydym yn gwrthod

  • lle bo’r weithred neu ffurflen FR1 yn cyfeirio at gynllun ond nad yw ynghlwm
  • lle nad oes unrhyw gynllun a bod disgrifiad y tir i’w gofrestru yn annigonol
  • lle nad oes modd cysylltu’r stent ar y cynllun â map yr Arolwg Ordnans

6.3 Gwneud cais am gofrestriad cyntaf

Rydym yn gwrthod ceisiadau:

  • lle cyflwynir ffurflen gais AP1 yn lle ffurflen gais FR1
  • lle nad yw panel 3 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau (stent y tir i’w gofrestru)
  • lle nad yw panel 5 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau na ffi wedi ei chyflwyno (gwerth y tir a’r ffi a dalwyd) (ni chynhwysir ceisiadau sy’n cynnwys datganiadau statudol yn ymwneud â meddiant gwrthgefn neu weithredoedd coll yn y pwynt gwrthod hwn)
  • lle nad yw panel 12 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau (tystysgrif teitl)

6.4 Cofrestru prydlesi newydd

6.3.1 A roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 allan o dir cofrestredig

Mae’r adran hon yn berthnasol i brydlesi a roddwyd allan o dir a gofrestrwyd eisoes ar ddyddiad y grant. Os cofrestrwyd y teitl rifersiwn ar ôl dyddiad y grant, yna mae A roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig yn berthnasol.

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd am gyfnod o 7 mlynedd neu lai o ddyddiad y grant oni bai:
    • y gwnaed y brydles yn unol â Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles a roddwyd allan o ystad sy’n rhyddfraint neu faenor heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles rifersiwn sydd naill ai:
  • yn brydles sy’n dod i rym â meddiant ar ôl diwedd cyfnod o fwy na thri mis o ddyddiad y grant, heb ystyried y cyfnod
  • yn brydles sydd i ddod i rym o fewn mis i ddiwedd prydles gyfredol â meddiant, o’r un tir, i’r un person, ond bod cyfnodau’r 2 brydles sy’n weddill gyda’i gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr i’r brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo’r prydleswr a’r prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gyda’r cais i egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd â rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bo’r cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat
  • bydd ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 sy’n gorfod cynnwys y cymalau penodedig yn ôl Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhinwedd rheol 58A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cael eu gwrthod naill ai lle:
    • nad ydynt yn cynnwys y cymalau penodedig
    • na chwblhawyd unrhyw un o gymalau LR4

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • mae’n ofynnol i chi gofrestru prydles a roddwyd am gyfnod o fwy na 7 mlynedd o ddyddiad y grant, hyd yn oed os oes 7 mlynedd neu lai o’r cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar y dyddiad cofrestru
  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru’r prydlesi sy’n dod o dan yr adran hon trwy ddewis ‘prydles newydd’ oni bai ei bod yn brydles rifersiwn sy’n dod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol â meddiant, o’r un tir, i’r un person. Nid oes modd cofrestru prydlesi o’r fath ond trwy gais gwirfoddol ar ffurflen FR1, lle bo cyfnodau’r 2 brydles sy’n weddill gyda’i gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig o’r wythnos am gyfnod o flynyddoedd)
  • mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl y prydleswr – gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr.
  • fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl y prydleswr – gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
  • gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth am ofynion prydlesi cymalau penodedig ac i gael manylion y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cwblhau pob cymal a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig

6.3.2 A roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig

Mae’r adran hon yn berthnasol i brydlesi a roddwyd allan o dir oedd yn ddigofrestredig ar ddyddiad y grant, heb ystyried a yw’r teitl rifersiwn wedi ei gofrestru ar y dyddiad cofrestru.

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd am gyfnod o 7 mlynedd neu lai o ddyddiad y grant oni bai:
    • y gwnaed y brydles yn unol â Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles a roddwyd allan o ystad sy’n rhyddfraint neu faenor heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles rifersiwn sydd naill ai’n:
      • ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig
      • ystad brydlesol ddigofrestredig oedd, ar ddyddiad rhoi’r brydles rifersiwn, â mwy na 7 mlynedd o’i chyfnod gwreiddiol heb ddarfod, sy’n dod i rym â meddiant ar ôl diwedd cyfnod o fwy na thri mis o ddyddiad y grant, heb ystyried y cyfnod
      • yn brydles sydd i ddod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol â meddiant, o’r un tir, i’r un person, ond bod cyfnodau’r 2 brydles sy’n weddill gyda’i gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr i’r brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo’r prydleswr a’r prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gyda’r cais sy’n egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd â rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bo’r cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

6.5 Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003

Mae’r adran hon yn berthnasol:

  • i ystadau prydlesol a roddwyd allan o naill ai dir cofrestredig neu ddigofrestredig
  • lle na fu digwyddiad i beri cofrestriad gorfodol

Os bu digwyddiad peri cofrestriad (fel trosglwyddiad trwy werthu), mae Trosglwyddiadau, aseiniadau a morgeisi cyfreithiol cyntaf gwarchodedig dyddiedig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 o ystad brydlesol ddigofrestredig yn berthnasol.

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo 7 mlynedd neu lai o’r cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar y dyddiad cofrestru, am nad oes modd eu cofrestru, oni bai naill ai:
    • y gwnaed y brydles yn unol â Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles rifersiwn sydd i ddod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol â meddiant, o’r un tir, i’r un person, ond bod cyfnodau’r 2 brydles sy’n weddill gyda’i gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr i’r brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo’r prydleswr a’r prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gyda’r cais sy’n egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd â rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bo’r cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi sy’n dod o dan yr adran hon, a roddwyd am gyfnod o 21 mlynedd neu lai allan o naill ai dir cofrestredig neu ddigofrestredig, fel cofrestriad cyntaf gwirfoddol ar ffurflen FR1. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyfarwyddyd ar sut i wneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF – gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru
  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi sy’n dod o dan yr adran hon a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd (hy sy’n gallu cael eu cofrestru ar adeg y grant) allan o dir cofrestredig trwy ddewis ‘prydles newydd’ a lanlwytho copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol
  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi sy’n dod o dan yr adran hon a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd (hy sy’n gallu cael eu cofrestru ar adeg y grant) allan o dir digofrestredig fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1
  • enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig o’r wythnos am gyfnod o flynyddoedd
  • mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl cofrestredig y prydleswr – gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
  • fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl cofrestredig y prydleswr – gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr

6.6 Trosglwyddiadau, aseiniadau a morgeisi cyfreithiol cyntaf gwarchodedig, dyddiedig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, o ystad brydlesol ddigofrestredig

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru aseiniadau, trosglwyddiadau neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio (trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys), ystad brydlesol ddigofrestredig â 7 mlynedd neu lai o’r cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestriad, am nad oes modd eu cofrestru, oni bai ei fod naill ai:
    • yn drosglwyddiad, aseiniad neu gydsyniad o brydles amharhaol ddigofrestredig, heb ystyried y cyfnod, neu
    • yn drosglwyddiad o brydles ddigofrestredig a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
  • ceisiadau i gofrestru morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig â 7 mlynedd neu lai o’r cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y morgais yn peri cofrestriad, am nad oes modd eu cofrestru

‘Morgais cyfreithiol cyntaf’ yw morgais cyfreithiol sydd â blaenoriaeth dros holl forgeisi eraill sy’n effeithio ar eiddo – gweler adran 4(8)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

‘Morgais gwarchodedig’ yw morgais sy’n cael ei warchod trwy adneuo dogfennau perthnasol i’r ystad a forgeisiwyd, er enghraifft gweithredoedd cyn-gofrestru a dogfennau teitl.

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • Mae’n ofynnol i chi gofrestru aseiniadau, trosglwyddiadau neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio, trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys, ystad brydlesol ddigofrestredig lle bo mwy na 7 mlynedd o’r cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestriad (ond gweler Sylwer isod). Rhaid cyflwyno’r ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1

Sylwer: Mae’r trosglwyddiadau/aseiniadau canlynol wedi eu heithrio o gofrestru gorfodol, ond gall fod modd cofrestru’r ystad brydlesol ddigofrestredig ei hun yn wirfoddol – gweler Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003.

  • trosglwyddiad trwy weithredu’r gyfraith, er enghraifft pan fo eiddo rhywun ymadawedig yn breinio yn eu hysgutor – gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • aseiniadau o gyfnod morgais, hy morgais trwy brydles – gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • aseinio neu ildio prydles i’r rifersiynydd uniongyrchol lle bo’r cyfnod i ymdoddi i’r cyfryw rifersiwn – gweler 4(4)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

  • mae’n ofynnol i chi gofrestru naill ai:
    • trosglwyddiad neu aseiniad o brydles amharhaol ddigofrestredig
    • drosglwyddiad o brydles ddigofrestredig a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985 heb ystyried y cyfnod. Rhaid cyflwyno’r ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1.
  • mae’n ofynnol i chi gofrestru morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig lle’r oedd mwy na 7 mlynedd o’r cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y morgais yn peri cofrestriad. Rhaid cyflwyno’r ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1

Sylwer: Mae morgeisi eraill wedi eu heithrio o gofrestru gorfodol, ond gall fod modd cofrestru’r ystad brydlesol ddigofrestredig ei hun – gweler Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003

6.7 Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i nodi prydlesi a roddwyd am gyfnod o dair blynedd neu lai o ddyddiad y grant, ac nad oes angen eu cofrestru yn safonol

Sylwer: Mae hyn yn berthnasol i unrhyw brydlesi amharhaol nad yw’n orfodol eu cofrestru, a lle bo cyfanswm y cyfnod yn dair blynedd neu lai.

  • ceisiadau i nodi prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • gallwch wneud cais penodol i nodi prydles (gweler adrannau 32, 33 a 34 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ar yr amod:
    • ei bod yn cael ei rhoi am gyfnod o fwy na 3 blynedd o ddyddiad y grant
    • nad oes angen ei chofrestru
    • nad yw’n berthnasol i ymddiried o dir neu setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925

Sylwer 1: Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i gofrestru prydles a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 allan o deitl (deitlau) cofrestredig, y mae angen ei chofrestru, byddwn yn ddiofyn yn nodi’r brydles yn unol ag adran 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Sylwer 2: Wrth roi teitl prydlesol llwyr ar gofrestriad cyntaf, byddwn yn ddiofyn yn nodi’r brydles (ond bod uwch-deitl y prydleswr wedi ei gofrestru ac na nodwyd y brydles eisoes), yn amodol ar gyflwyno rhybudd i’r prydleswr. Os lanlwythwyd cydsyniad y prydleswr eisoes gyda’r cais, ni fydd angen i ni gyflwyno rhybudd i’r prydleswr – gweler rheol 37 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Sylwer 3: Os nad yw cofrestriad cyntaf teitl prydlesol wedi ei gwblhau gyda theitl llwyr, ni fyddwn yn gwneud cofnod yn nheitl y prydleswr, heb gais penodol i gofnodi rhybudd.

6.8 Trosglwyddo cyfran

Rydym yn gwrthod

  • trosglwyddiadau sydd wedi eu llunio’n anghywir. Er enghraifft, os A a B yw’r perchnogion cofrestredig, nid oes modd cofrestru trosglwyddiad cyfran B gan ymddiriedolwr mewn methdaliad A a B

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • fel arfer rhaid i’r holl berchnogion cofrestredig fod yn drosglwyddwyr, hyd yn oed lle bo un (neu fwy) ohonynt hefyd yn drosglwyddai, er enghraifft A, B ac C yn trosglwyddo i A ac C
  • lle bo cyfyngiad cydberchnogaeth yn Ffurf A yn y gofrestr, rhaid bod o leiaf 2 drosglwyddwr ar unrhyw drosglwyddiad am werth (mae modd penodi ymddiriedolwr newydd i’r diben)

Sylwer: Nid yw’r uchod yn berthnasol lle bo’r perchennog sy’n weddill yn gorfforaeth ymddiried.

6.9 Terfynau a bennwyd

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau heb ddim cynllun wedi ei gyflwyno
  • cynlluniau nad oes modd gweld y berthynas rhyngddynt a map yr Arolwg Ordnans
  • ceisiadau lle na chyflwynwyd tystiolaeth o deitl i’r tir hyd at y terfyn

6.10 Ceisiadau’n ymwneud ag endidau tramor

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru endid tramor yn berchennog ystad gofrestredig a gyflwynir heb rif adnabod yr endid tramor a ddyroddir gan Dŷ’r Cwmnïau. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau i gofrestru gwarediad gan endid tramor (lle mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022 yn effeithio arno) a gyflwynir heb rif adnabod yr endid tramor neu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gydymffurfio â chyfyngiad yn y gofrestr lle bo hyn yn ofynnol

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • gweler ein cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor i gael gwybodaeth am y ceisiadau y mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn effeithio arnynt a’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

6.11 Ceisiadau a ddilëwyd sy’n aros yn ddiffygiol

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau a ddilëwyd neu a wrthodwyd yn flaenorol lle bo’r diffygion gwreiddiol heb eu datrys
  • ceisiadau a ddilëwyd neu a wrthodwyd yn flaenorol lle bo angen ffurflen gais ac na ddefnyddiwyd un

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • pan fyddwn yn dileu neu’n gwrthod cais rhown y rhesymau’n ysgrifenedig. Os cafodd cais ei ddileu neu ei wrthod yn flaenorol, cofiwch sicrhau bod y diffygion a nodwyd gennym wedi cael eu cywiro cyn ei ailgyflwyno

7. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.