Police and Criminal Evidence Act (1984) PACE – Code H (Welsh) (accessible)
Updated 20 December 2023
Applies to England and Wales
Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) – COD H
Cod Ymarfer Diwygiedig mewn cysylltiad â:
Cadw yn y ddalfa, dull o drin a chwestiynu unigolion gan swyddogion yr heddlu dan adran 41, ac atodlen 8, o’r Ddeddf Terfysgaeth 2000
Cadw a thrin gan Swyddogion Heddlu bersonau sydd yn nalfa’r heddlu o dan adran 43B o Ddeddf Terfysgaeth 2000 ac Atodlen 8 iddi
Dull o drin a chwestiynu gan swyddogion yr heddlu o Bersonau a gedwir ble cafwyd awdurdodiad i gwestiynu wedi cyflwyno cyhuddiad dan Adran 22 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008
Cyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag adran 67(7B) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
Rhagfyr 2022
Cychwyniad - Trefniadau Trosiannol
Mae’r Cod hwn yn berthnasol i bobl sy’n cael eu cadw o dan y darpariaethau terfysgaeth ar ôl 00:00 ar 10 Chwefror 2023 er y gallai eu cyfnod cadw fod wedi cychwyn cyn yr amser hwnnw.
1 Cyffredinol
1.0 Rhaid defnyddio’r pwerau a gweithdrefnau yn y Cod hwn yn deg, yn gyfrifol, gyda pharch tuag at y bobl y maent yn berthnasol iddynt a heb wahaniaethu anghyfreithlon. Dan Ddeddf cydraddoldeb 2010, adran 149 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector cyhoeddus), rhaid i heddluoedd, wrth gyflawni eu swyddogaethau, dalu sylw dyledus i’r angen i ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf honno, i hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu, ac i feithrin perthynas dda rhwng y bobl hynny. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid unrhyw un ar sail y ‘nodweddion gwarchodedig’ o oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth wrth ddefnyddio eu pwerau. Gweler Nodiadau 1A ac 1AA.
1.1 Mae’r Cod Ymarfer hwn yn berthnasol i, a dim ond i:
(a) bersonau sydd yn nalfa’r heddlu ar ôl cael eu harestio o dan adrannau 41 neu 43B o Ddeddf Terfysgaeth 2000 (TACT) a’u cadw o dan adrannau 41 neu 43B o’r Ddeddf honno neu Atodlen 8 iddi a heb eu cyhuddo, a
(b)phersonau wedi eu cadw ble gwnaethpwyd awdurdodiad yn eu cylch dan adran 22 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (cwestiynu rhai a amheuir o derfysgaeth wedi cyhuddo) i’w cyfweld ac felly bydd adran 15 y Cod hwn yn berthnasol iddynt.
1.2 Mae’r darpariaethau yng Nghod C PACE yn berthnasol os bydd person:
(a) yn y ddalfa heblaw o ganlyniad i gael eu harestio o dan adrannau 41 neu 43B o TACT neu gael eu cadw i’w harchwilio o dan Atodlen 7 i TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019 (gweler paragraff 1.4
(b)yn cael ei gyhuddo o drosedd, neu
(c)yn cael ei gwestiynu ynghylch unrhyw drosedd wedi cael ei gyhuddo o’r drosedd honno heb roi awdurdodiad dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008.
Gweler Nodyn 1N.
1.3 Yn y Cod hwn, mae cyfeiriadau at drosedd ac i ymwneud rhywun neu amheuaeth o ymwneud mewn trosedd ble nad yw’r person wedi ei gyhuddo o drosedd yn cynnwys bod yn rhan o, neu amheuaeth o fod yn rhan o gomisiynu, paratoi neu symbylu gweithredoedd terfysgaeth.
1.4 Mae’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan baragraff 6 o Atodlen 14 i TACT yn berthnasol i bersonau sy’n cael eu cadw i’w harchwilio o dan Atodlen 7 i TACT ac mae’r Cod a gyhoeddwyd o dan baragraff 56 o Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019 yn gymwys i bersonau sy’n cael eu cadw i’w harchwilio o dan Atodlen 3 Nodyn 1N.
1.5 Rhaid ymdrin â phob person yn y ddalfa yn gyflym, a’i ryddhau cyn gynted ag nad yw’r angen am gadw yn berthnasol mwyach. Rhaid i droseddwr terfysgol ar drwydded sy’n cael ei gadw o dan adran 43B TACT (oni bai ei fod yn cael ei alw’n ôl i’r carchar neu ei gadw fel arall o dan unrhyw bŵer arall) gael ei ryddhau os (a) y gwneir penderfyniad galw’n ôl i beidio â dirymu trwydded y troseddwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud; neu (b) os nad yw penderfyniad galw’n ôl wedi’i wneud o fewn chwe awr sy’n dechrau ag amser yr arestio o dan adran 43B.
1.6 Nid oes darpariaeth ar gyfer mechnïaeth dan TACT cyn nac wedi cyhuddo. Gweler Nodyn 1N.
1.7 Rhaid i swyddog weithredu’r dyletswyddau a neilltuwyd yn y Cod hwn cyn gynted ag y bo modd. Ni fydd swyddog yn torri ar y Cod hwn os bydd yn bosib cyfiawnhau’r oedi a bydd camau rhesymol yn cael eu cymryd i rwystro oedi diangen. Bydd y cofnod cadw yn dangos lle bu oedi a’r rheswm am hynny. Gweler Nodyn 1H.
1.8 Mae’n rhaid i’r Cod Ymarfer fod ar gael yn hwylus ym mhob swyddfa’r heddlu ar gyfer dibenion ymgynghori gan:
-
swyddogion yr heddlu;
-
staff yr heddlu;
-
pobl yn y ddalfa;
-
y cyhoedd.
1.9 Mae darpariaethau’r Cod yma:
-
yn cynnwys yr Atodiadau;
-
heb gynnwys y Nodiadau Arweiniad.
1.10 Os ar unrhyw adeg bod gan swyddog unrhyw reswm i amau bod person o unrhyw oedran yn agored i niwed (gweler paragraff 1.17(d)) yn absenoldeb tystiolaeth glir i chwalu’r amheuaeth honno, bydd y person hwnnw’n cael ei drin felly at ddibenion y Cod hwn ac i sefydlu a all unrhyw reswm o’r fath fodoli mewn perthynas â pherson yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd (gweler paragraff 10.1 a Nodyn 10A), bydd swyddog y ddalfa yn achos person sy’n cael ei gadw, neu’r swyddog sy’n ymchwilio i’r drosedd yn achos person nad yw wedi’i arestio neu ei gadw, yn cymryd, neu’n cyfarwyddo cymryd, (gweler paragraff 3.5 a Nodyn 3I) y camau a ganlyn:
(a) rhaid gwneud ymholiadau rhesymol i ganfod pa wybodaeth sydd ar gael sy’n berthnasol i unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraf f 1.17 (d) fel rhai sy’n awgrymu y gallai’r person fod yn agored i niwed;
(b) rhaid gwneud cofnod yn disgrifio a yw’n ymddangos bod unrhyw un o’r ffactorau hynny’n gymwys ac yn darparu unrhyw reswm i amau y gallai’r person fod yn agored i niwed neu (yn ôl y galw) ddim yn agored i niwed; a
(c) bydd y cofnod a grybwyllir yn is-baragraff (b) ar gael i’w ystyried gan swyddogion heddlu, staff yr heddlu ac unrhyw rai eraill sydd, yn unol â darpariaethau’r Cod hwn neu unrhyw God arall, angen neu sydd â hawl i gyfathrebu â’r person dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw gyfreithiwr, oedolyn priodol a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n arbennig o berthnasol i gyfathrebu at ddiben cyfweld a chwestiynu ar ôl cyhuddo (gweler adrannau 11, 12 a 15), dehongli cyswllt byw (gweler paragraff 13.12) ac adolygiadau ac estyniadau i’r cyfnod cadw (gweler adran 14).
Gweler Nodiadau 1G, 1GA, 1 GB a 1GC.
1.11 Mae unrhyw un sy’n ymddangos i fod dan 18 oed, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth glir ei fod yn hŷn, i’w drin fel troseddwr ifanc ar gyfer amcanion y Cod hwn.
1.11 A Heb ei ddefnyddio.
1.12 Os bydd unigolyn yn ymddangos yn ddall, â nam difrifol ar ei olwg, yn fyddar, yn methu darllen na siarad, neu’n cael trafferth i siarad oherwydd nam ar ei leferydd, rhaid ei drin felly i ddibenion y Cod hwn yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth glir i’r gwrthwyneb.
1.13 Mae ‘yr oedolyn priodol’ yn golygu, yn achos:
(a) person ifanc:
(i) rhiant, gwarchodwr neu, os yw’r person ifanc yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, person sy’n cynrychioli’r awdurdod neu sefydliad hwnnw (gweler Nodyn 1B Nodyn 1B);
(ii) gweithiwr cymdeithasol o awdurdod lleol (gweler Nodyn 1C;
(iii) os nad yw’n un o’r rhain, dylai fod yn oedolyn cyfrifol 18 oed neu hŷn nad yw:
-
yn swyddog yr heddlu;
-
wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
-
dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu;
-
yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau fel prif swyddog, p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio.
Gweler Nodyn 1F.
(b) person sy’n agored i niwed: Gweler paragraff 1.10 a Nodyn 1D
(i) perthynas, gwarcheidwad neu berson cyfrifol arall sy’n gyfrifol am eu gofal neu eu gwarchodaeth;
(ii) rhywun sydd â phrofiad o ddelio gyda phobl sy’n agored i niwed,l, ond nad yw:
-
yn swyddog yr heddlu;
-
wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
-
dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu;
-
yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau fel prif swyddog, p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio.
(iii) os nad yw’n un o’r rhain, dylai fod yn oedolyn cyfrifol arall 18 oed neu hŷn sydd ar wahân i’r sawl a ddisgrifir yn y pwyntiau bwled yn is-baragraff (b)(ii) uchod.
Gweler Nodyn 1F.
1.13A Rôl yr oedolyn priodol yw diogelu hawliau a lles pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed (gweler paragraffau 1.10 ac 1.11 y mae darpariaethau’r Cod hwn ac unrhyw God Ymarfer arall yn berthnasol iddynt. Am y rheswm hwn, mae disgwyl i’r oedolyn priodol, ymysg pethau eraill, i:
-
gefnogi, cynghori a chynorthwyo pobl ifanc pan, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall, y rhoddir neu y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth neu gymryd rhan mewn unrhyw weithdrefn;
-
arsylwi a yw’r heddlu’n gweithredu’n gywir ac yn deg i barchu eu hawliau a’u haeddiannau, a hysbysu swyddog o reng arolygydd neu uwch os ydynt o’r farn nad ydyn nhw;
-
cynorthwyo nhw i gyfathrebu â’r heddlu wrth barchu eu hawl i ddweud dim oni bai eu bod eisiau gwneud hynny fel y nodir yn nhelerau’r rhybudd gweler paragraffau 10.5 a 10.6);
-
helpu nhw i ddeall eu hawliau a sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu gwarchod a’u parchu (gweler paragraffau 3.17, 3.18, 6.6, a 11.10.
1.14 Os yw’r Cod yma yn nodi bod angen rhoi gwybodaeth arbennig i berson, nid yw’n ofynnol ei rhoi iddynt ar y pryd os nad ydynt yn gallu deall yr hyn a ddywedir wrthynt, os ydynt yn dreisgar neu os gallent fynd yn dreisgar, neu os oes angen sylw meddygol brys arnynt, ond rhaid rhoi’r wybodaeth iddynt cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
1.15 Mae cyfeiriadau at swyddog y ddalfa yn cynnwys unrhyw swyddog yr heddlu sydd, ar hyn o bryd, yn cyflawni swyddogaethau swyddog y ddalfa.
1.16 Pan fydd y Cod hwn angen awdurdod blaenorol neu gytundeb swyddog o safle arolygydd neu uwch-arolygydd o leiaf, gall rhingyll neu brif arolygydd wedi’i awdurdodi gan adran 107 PACE gyflawni’r gwaith o’r safle uwch dan TACT.
1.17 Yn y Cod hwn:
(a)golyga ‘person dynodedig’ rywun ar wahân i swyddog heddlu, sydd â phwerau a dyletswyddau penodedig swyddogion heddlu a roddwyd iddynt neu a orfodwyd arnynt trwy ddynodiad dan adran 38 neu 39 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002;
(b) mae cyfeiriad at swyddog yr heddlu yn cynnwys unigolyn a ddynodwyd yn gweithredu’r pwerau a’r dyletswyddau a roddwyd neu a orfodwyd arno gan y dynodiad.
(c) os oes amheuaeth ynghylch a ddylid trin y person fel, neu barhau i drin y person fel, gwryw neu fenyw yn achos:
(i) cyflawni neu arsylwi chwiliad neu weithdrefn arall y mae’r Cod hwn yn berthnasol rhaid iddo gael ei wneud gan berson o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw; neu
(ii) unrhyw weithdrefn arall sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd neu i roi gwybodaeth sy’n dibynnu ar a yw’r person i gael ei drin fel gwryw neu fenyw; yna dylid sefydlu rhyw’r sawl sy’n cael ei gadw a’r partïon eraill sy’n berthnasol a’i gofnodi yn unol ag Atodiad I y Cod hwn.
(d) mae ‘agored i niwed’ yn cyfeirio at unrhyw berson sydd, oherwydd ei gyflwr iechyd meddwl neu anhwylder meddyliol (gweler Nodiadau 1G a 1GB):
(i) efallai yn cael anhawster deall neu gyfathrebu’n effeithiol am oblygiadau llawn unrhyw weithdrefnau a phrosesau sy’n gysylltiedig:
-
â chael eu harestio a’u cadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu neu rywle arall;
-
arfer eu hawliau a’u haeddiannau.
(ii) nid yw’n ymddangos fod y person yn deall arwyddocâd yr hyn a ddywedir wrthynt, y cwestiynau a ofynnir iddynt neu eu hatebion.
(iii) mae’n ymddangos bod y person yn arbennig o dueddol o:
-
fynd yn ddryslyd ac yn aneglur ynghylch eu sefyllfa;
-
darparu gwybodaeth a allai fod yn annibynadwy, yn gamarweiniol neu’n arwain at rywun i’w hamau nhw, heb wybod na bwriadu gwneud hynny;
-
derbyn neu weithredu ar awgrymiadau gan eraill heb fod yn ymwybodol o hynny neu heb ddymuno gwneud hynny; neu
-
cytuno’n barod i awgrymiadau neu gynigion heb unrhyw brotest na chwestiwn.
1.18 Caniateir i bersonau dynodedig ddefnyddio grym rhesymol fel a ganlyn:
(a) wrth arfer pŵer a roddwyd iddynt sy’n caniatáu i swyddog o’r heddlu, wrth arfer y pŵer hwnnw, i ddefnyddio grym rhesymol, mae gan berson dynodedig yr un hawl i ddefnyddio; ac
(b) ar adegau eraill wrth gyflawni dyletswyddau a roddwyd neu a osodwyd arnynt sydd hefyd yn caniatáu iddynt ddefnyddio grym rhesymol, er enghraifft:
-
pan yn cyflawni’r ddyletswydd mewn gorsaf heddlu i gadw unigolion yn y ddalfa y maent yn gyfrifol amdanynt dan reolaeth ac i gynorthwyo unrhyw swyddog heddlu neu berson a ddynodwyd i gadw unrhyw un sydd wedi ei gadw dan reolaeth a’i rwystro rhag dianc.
-
wrth sicrhau, neu gynorthwyo unrhyw swyddog heddlu neu berson a ddynodwyd arall i sicrhau cadw person yng ngorsaf yr heddlu.
-
wrth hebrwng, neu gynorthwyo unrhyw swyddog heddlu neu berson a ddynodwyd arall i hebrwng sawl sy’n cael ei gadw o fewn gorsaf heddlu.
-
i’r diben o achub bywyd neu aelod o’r corff; neu
-
i atal difrod difrifol i eiddo.
1.19 Nid oes dim yn y Cod yma yn atal swyddog y ddalfa, neu swyddog heddlu neu berson penodedig (gweler paragraff 1.17) arall y rhoddwyd gwarchodaeth o’r sawl sy’n cael ei gadw iddo, rhag caniatáu i berson arall (gweler (a) a (b) isod) rhag cynnal gweithdrefnau neu dasgau unigol yn yr orsaf heddlu, os yw’r gyfraith yn caniatáu hynny. Fodd bynnag, mae’r swyddog neu berson penodedig sydd wedi derbyn cystodaeth yn dal yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau a’r tasgau’n cael eu cyflawni’n gywir, yn unol â’r Codau Ymarfer (gweler paragraff paragraff 3.5 a Nodyn 3I). Rhaid i’r person arall sy’n cael cyflawni’r gweithdrefnau neu dasgau fod yn rhywun sydd ar y pryd:
(a) dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu neu’r heddlu sy’n gyfrifol am orsaf heddlu dan sylw; neu
(b) yn darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb gael ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo heddlu parthed cyflawni ei swyddogaethau prif swyddog.
1.20 Rhaid i unigolion a ddynodwyd ac eraill a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) a (b) paragraff 1.19 barchu unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod hwn.
1.21 Mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Cod Ymarfer hwn neu unrhyw God Ymarfer arall sy’n caniatáu neu’n gofyn i swyddogion yr heddlu neu staff yr heddlu wneud cofnod yn ei lyfr adrodd, bydd y cyfeiriadau at lyfr adrodd yn cynnwys unrhyw lyfr adrodd swyddogol neu ddyfais gofnodi electronig a ddarparwyd iddynt sy’n galluogi gwneud y cofnod dan sylw ac i ddelio â hyn yn unol â’r ddarpariaeth honno. Mae cyfeiriadau yn hwn ac unrhyw God arall i gofnodion ysgrifenedig, ffurflenni a llofnodion yn cynnwys cofnodion a ffurflenni electronig a chadarnhad electronig sy’n nodi’r sawl sy’n gwneud y cofnod neu’n llenwi’r ffurflen. Rhaid i brif swyddogion fod yn fodlon ynghylch cywirdeb a diogelwch y dyfeisiau, cofnodion a ffurflenni y mae’r paragraff hwn yn berthnasol iddynt, a bod defnydd o’r dyfeisiau, cofnodion a ffurflenni hynny yn bodloni deddfwriaeth diogelu data perthnasol.
Nodiadau Arweiniad
1A Mae’r cod hwn yn berthnasol yn benodol i bobl sy’n cael eu cadw dan ddeddfwriaeth terfysgaeth. Gweler Cod C PACE (Cadw) am ddarpariaethau a chanllawiau manwl sy’n berthnasol i bobl sy’n mynd i orsafoedd heddlu a lleoliadau eraill yn wirfoddol i gynorthwyo gydag ymchwiliad.
1AA Ym mharagraff 1.0, dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, adran 149, y ‘nodweddion gwarchodedig perthnasol’ yw oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd/ cred a rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Am ragor o arweiniad a chyngor manwl ar y Ddeddf Cydraddoldeb, gweler: https://www.gov.uk/guidance/equality-act-2010-guidance.
1B Ni ddylai person, gan gynnwys rhiant neu warcheidwad, gael ei ystyried yn oedolyn os:
- yw:
- dan amheuaeth o ymwneud â’r drosedd neu ymwneud â chomisiynu, paratoi neu symbylu gweithredoedd terfysgaeth;
- y dioddefwr;
- yn dyst;
- yn ymwneud â’r ymchwiliad.
- wedi derbyn cyfaddefiadau cyn mynychu er mwyn Gweithredu fel oedolyn priodol.
Sylwer: Os yw rhiant person ifanc wedi dieithrio o’r person ifanc, ni ddylid gofyn iddo weithredu fel yr oedolyn priodol os yw’r person ifanc yn gwrthwynebu’n benodol iddo fod yn bresennol.
1C Os yw person ifanc yn cyfaddef i weithiwr cymdeithasol neu aelod o dîm troseddu ieuenctid ei fod wedi cyflawni trosedd, neu’n gwneud hynny yn ei bresenoldeb, ar wahân i’r amser mae’r person hwnnw yn oedolyn priodol ar gyfer y person ifanc, dylid penodi oedolyn priodol er mwyn sicrhau tegwch.
1D Yn achos rhywun sy’n agored i niwed, efallai y bydd hi’n fwy boddhaol i’r oedolyn fod yn rhywun sydd â phrofiad o ofalu amdanynt neu a hyfforddwyd i wneud hynny, yn hytrach na pherthynas nad yw â chymwysterau o’r fath. Ond os yw’n well gan yr unigolyn gael pherthynas yno na rhywun dieithr sydd â gwell cymwysterau, neu os yw’n gwrthwynebu person penodol, dylid parchu ei ddymuniadau os yw hynny’n ymarferol.
1E Pan ofynnir i oedolyn priodol fynychu gorsaf yr heddlu, dylid rhoi’r cyfle bob amser i sawl sy’n cael ei gadw ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n dymuno gwneud hynny. Nid yw oedolyn priodol yn destun braint gyfreithiol.
1F Rhaid i oedolyn priodol nad yw’n rhiant neu’n warcheidwad yn achos person ifanc, neu berthynas, gwarcheidwad neu ofalwr yn achos person sy’n agored i niwed, fod yn annibynnol o’r heddlu gan eu rôl nhw yw diogelu hawliau’r person sy’n cael ei gadw. Yn ychwanegol, ni chaiff cyfreithiwr neu ymwelydd annibynnol â’r ddalfa sy’n bresennol yng ngorsaf yr heddlu yn rhinwedd ei swydd weithredu fel yr oedolyn priodol.
1G Gall oedolyn fod yn agored i niwed o ganlyniad i gyflwr iechyd meddwl neu anhwylder meddyliol. Yn yr un modd, os nad oes gan unigolyn unrhyw gyflwr neu anhwylder o’r fath, neu na wyddys fod ganddo ef, nid yw’n golygu nad yw’n agored i niwed at ddibenion y Cod hwn. Felly mae’n bwysig bod swyddog y ddalfa yn achos person sy’n cael ei gadw yn ystyried, ar sail achos wrth achos a oes unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraf f 1.17(d) a allai fod yn berthnasol i’r person dan sylw. Wrth wneud hynny, rhaid i’r swyddog ystyried amgylchiadau penodol yr unigolyn a sut y gallai natur yr ymchwiliad effeithio arnynt a chofio y bydd angen oedolyn priodol bob amser ar bobl ifanc, oherwydd eu hoedran.
1GA At ddibenion paragraff 1.10 (a), mae enghreifftiau o wybodaeth berthnasol a allai fod ar gael yn cynnwys:
-
ymddygiad yr oedolyn neu’r person ifanc;
-
iechyd meddwl a gallu’r oedolyn neu’r person ifanc;
-
yr hyn y mae’r oedolyn neu’r person ifanc yn ei ddweud amdanynt eu hunain;
-
gwybodaeth gan deulu a ffrindiau’r oedolyn neu’r person ifanc;
-
gwybodaeth gan swyddogion a staff yr heddlu a gwybodaeth o gofnodion yr heddlu;
-
gwybodaeth gan iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cyswllt a dargyfeirio)a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n adnabod, neu wedi cael cyswllt blaenorol â’r unigolyn ac a allai gyfrannu at asesu ei angen am gymorth a chefnogaeth gan oedolyn priodol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau ac asesiadau a drefnir gan yr heddlu neu ar gais yr unigolyn neu (fel sy’n berthnasol) eu hoedolyn priodol neu gyfreithiwr.
1GB Mae Cod Ymarfer Deddf lechyd Meddwl 1983 ar dudalen 26 yn disgrifio’r ystod o gyflyrau a gydnabyddir yn glinigol a all gael eu hystyried yn anhwylder meddwl at ddibenion paragraff 1.17 (d). Mae’r Cod wedi’i gyhoeddi yma: https://www.gov.uk/government/publications/code-of-practice-mental-health-act-1983.
1GC Pan fydd person o dan ddylanwad diod a/neu gyffuriau, ni fwriedir iddo gael ei drin fel rhywun sy’n agored i niwed ac sydd angen oedolyn priodol at y diben oni bai bod gwybodaeth arall yn awgrymu bod unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.17(d) yn berthnasol i’r person hwnnw. Pan fydd y person wedi gwella o effeithiau diod a/neu gyffuriau, dylid ei ailasesu yn unol â pharagraff 1.10.
1H Diben Paragraff 1.7 yw delio â’r oedi a allai ddigwydd wrth brosesu’r sawl sy’n cael ei gadw, e.e.os:
-
dygir nifer fawr o bobl dan amheuaeth i’r orsaf ar yr un pryd er mwyn eu cadw yn y ddalfa;
-
yw’r holl ystafelloedd cyfweld yn cael eu defnyddio;
-
ceir trafferthion wrth gysylltu ag oedolyn priodol, cyfreithiwr neu gyfieithydd.
1I Rhaid i swyddog y ddalfa atgoffa’r oedolyn priodol a’r sawl sy’n cael ei gadw o’r hawl i gael cyngor cyfreithiol, a chofnodi unrhyw resymau dros ei wrthod, yn unol ag adran 6.
1J Heb ei ddefnyddio
1K Nid yw’r Cod yma yn effeithio ar yr egwyddor bod gan bob dinesydd ddyletswydd i helpu swyddogion yr heddlu i atal troseddu a chanfod troseddwyr. Dyletswydd ddinesig yn hytrach na chyfreithiol yw hyn; ond lle mae swyddogion yr heddlu yn ceisio darganfod a gyflawnwyd trosedd, neu pwy a’i cyflawnodd, mae ganddynt hawl i holi unrhyw berson y maent o’r farn y gallai roi gwybodaeth ddefnyddiol, yn amodol ar y cyfyngiadau a osodwyd gan y Cod yma. Nid yw datganiad gan berson nad yw’n barod i ateb yn newid yr hawl yma.
1L Os yw person sy’n cael ei gadw o dan adran 41 o TACT, gan gynnwys yn rhinwedd gwarant o dan Ran 3 o Atodlen 8 i TACT, yn cael ei symud i’r ysbyty oherwydd bod angen triniaeth feddygol arno, rhaid i unrhyw amser y mae’r person yn cael ei holi yn yr ysbyty neu ar y ffordd yno neu yn ôl at ddiben cael tystiolaeth berthnasol gael ei gynnwys wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sydd i’w gyfrifo at ddibenion adran 41 neu Ran 3 o Atodlen 8. Ni ddylid cynnwys unrhyw amser arall pan fydd y person yn yr ysbyty neu ar y ffordd yno neu’n ôl. (Os yw person yn cael ei gadw o dan Atodlen 7 i TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019, bydd yr un egwyddorion yn berthnasol wrth gyfrifo’r cyfnod o chwe awr.)
1M O dan Baragraff 1 o Atodlen 8 i TACT, mae pob gorsaf heddlu wedi’i dynodi ar gyfer cadw pobl a arestiwyd o dan adrannau 41 neu 43B o TACT. Mae paragraff 4 o Atodlen 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod y cwnstabl sy’n arestio person o dan adrannau 41 neu 43B yn mynd ag ef cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol i’r orsaf heddlu y mae’r swyddog o’r farn ei bod “fwyaf priodol”.
1N Nid yw’r pwerau o dan Ran IV o PACE i gadw a rhyddhau ar fechnïaeth (cyn neu ar ôl cyhuddo) person a arestiwyd o dan adran 24 o PACE am unrhyw drosedd (gweler Cod G PACE (Arestio)) yn berthnasol i bersonau tra byddant yn cael eu cadw dan bwerau terfysgaeth yn dilyn eu harestio/cadw dan adrannau 41 neu 43B o, neu Atodlen 7 i, TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019. Os, pan fydd y seiliau dros gadw dan y pwerau hyn yn dod i ben, y bydd y person yn cael ei arestio o dan adran 24 o PACE am drosedd benodol, bydd darpariaethau cadw a mechnïaeth PACE yn berthnasol a rhaid eu hystyried o adeg yr arestiad hwnnw.
1O Heb ei ddefnyddio.
1P Heb ei ddefnyddio.
2 Cofnodion cadw
2.1 Pan fydd person:
-
yn cael ei ddwyn i orsaf heddlu yn dilyn cael ei arestio o dan adran 41 TACT neu adran 43B,
-
yn cael ei arestio dan adran 41 TACT neu adran 43B mewn gorsaf heddlu ar ôl mynychu’n wirfoddol,
-
yn cael ei ddwyn i orsaf heddlu a’i gadw yno i’w holi yn unol ag awdurdodiad o dan adran 22 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (holi ar ôl cyhuddo) (gweler Nodiadau 15A a 15B), neu
-
mewn gorsaf heddlu a chael ei gadw yno pan roddir awdurdod ar gyfer holi ar ôl cyhuddo o dan adran 22 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (gweler Nodiadau 15A a 15B), dylid eu dwyn gerbron swyddog y ddalfa cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddynt gyrraedd yr orsaf neu, os yw’n briodol, ar ôl awdurdodi holi ar ôl cyhuddo neu ar ôl cael eu harestio ar ôl mynychu gorsaf yr heddlu’n wirfoddol gweler Nodyn 3H. Ystyrir bod person “mewn gorsaf heddlu” at y dibenion hyn os yw o fewn ffin unrhyw adeilad neu iard gaeedig sy’n rhan o’r orsaf heddlu honno.
2.2 Rhaid agor cofnod y ddalfa ar wahân cyn gynted ag sy’n ymarferol ar gyfer pob person a ddisgrifir ym mharagraff 2.1. Rhaid cofnodi’r holl wybodaeth a gofnodir dan y Cod yma cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol yn y cofnod cadw, oni bai y nodir fel arall. Nid yw unrhyw recordiad sain neu fideo a wneir yn y ddalfa yn rhan o’r cofnod cadw.
2.3 Os oes unrhyw weithred yn gofyn am weithred swyddog o reng arbennig, rhaid nodi hyn yn y cofnod dalfa, yn amodol i baragraff 2.8.
2.3A Os bydd person yn cael ei arestio dan TACT, adran 41, a’i ddwyn i swyddfa heddlu o ganlyniad i chwiliad wrth arfer pŵer stopio a chwilio y mae Cod A PACE (Stopio a chwilio) neu’r ‘cod pwerau chwilio’ a gyhoeddir dan TACT yn berthnasol, mae’r swyddog sy’n cyflawni’r chwiliad yn gyfrifol am sicrhau y gwneir cofnod o’r stopio a chwilio hwnnw yn rhan o gofnod dalfa’r person. Yna mae’n rhaid i’r swyddog y ddalfa sicrhau y gofynnir i’r person os yw eisiau copi o’r cofnod chwilio ac os yw, ei fod yn cael copi cyn gynted ag sy’n ymarferol. Mae hawl y person i gopi o’r cofnod chwilio a wneir yn rhan o’i gofnod dalfa yn ychwanegol i, ac nid yw’n effeithio ar, ei hawl i gopi o’i gofnod dalfa neu unrhyw ddarpariaethau eraill o adran 2 (Cofnodion dalfa) y Cod hwn. Gweler Cod A paragraff 4.2B a’r cod pwerau chwilio TACT paragraff 5.3.5).
2.4 Mae swyddog y ddalfa’n gyfrifol am ba mor gyflawn a chywir yw’r cofnod cadw, ac am sicrhau bod y cofnod neu gopi o’r cofnod yn cael ei drosglwyddo gyda’r sawl sy’n cael ei gadw os caiff ei drosglwyddo i orsaf heddlu arall. Bydd y cofnod yn nodi:
-
amser y trosglwyddo a’r rheswm dros drosglwyddo;
-
yr amser y bydd person yn cael ei ryddhau.
2.5 Rhaid caniatáu i gyfreithiwr neu oedolyn priodol edrych ar gofnod cadw’r sawl sy’n cael ei gadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol ar ôl iddo gyrraedd yr orsaf ac ar unrhyw adeg arall pan fo’r person yn cael ei gadw.
Ar gais, rhaid caniatáu i’r sawl sy’n cael ei gadw, ei gyfreithiwr ac oedolyn priodol edrych ar y cofnodion canlynol, mor brydlon ag sy’n ymarferol ar unrhyw adeg arall pan fo’r person yn cael ei gadw:
(a) Mae’r wybodaeth ynghylch yr amgylchiadau a’r rhesymau dros arestio’r sawl sy’n cael ei gadw wedi eu cofnodi yn y cofnod dalfa yn unol â pharagraff 3.4. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw resymau a ddaw i’r amlwg ac a gofnodir tra bydd y sawl sy’n cael ei gadw wedi ei gadw;
(b) Y cofnod o’r sail ar gyfer pob awdurdodiad i gadw’r unigolyn yn y ddalfa. Mae’r awdurdodiadau y mae hyn yn berthnasol iddynt yr un rhai â’r rhai a ddisgrifir ym mharagraff 2 Atodiad J y Cod hwn.
Rhaid cytuno ar fynediad at y cofnod dalfa i ddibenion y paragraff hwn a’i drefnu gyda swyddog y ddalfa ac ni ddylai ymyrryd yn afresymol ar ddyletswyddau swyddog y ddalfa neu anghenion cyfiawnadwy’r ymchwiliad. Cofnodir pan ganiateir mynediad. Mae’r mynediad hwn yn atodol i’r gofynion ym mharagraffau 3.4(b), 11.1 ac 14.0 i ddarparu gwybodaeth ynghylch y rhesymau dros arestio a chadw ac yn 14.4A i roi gwybodaeth ysgrifenedig i’r sawl sy’n cael ei gadw ynghylch y sail dros barhau i’w gadw pan wneir cais am warant i gadw ymhellach (neu am estyniad i warant o’r fath).
2.6 Pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn gadael dalfa’r heddlu neu pan fydd yn cael ei ddwyn i’r llys, fe all ef/hi, ei gynrychiolydd cyfreithiol neu’r oedolyn priodol ofyn am gopi o’r cofnod cadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Mae’r hawl hwn yn ddilys am 12 mis ar ôl ei ryddhau.
2.7 Caniateir i’r sawl sy’n cael eu cadw, yr oedolyn priodol neu’r cynrychiolydd cyfreithiol archwilio’r cofnod cadw gwreiddiol unwaith na fydd y person sy’n cael ei gadw’n cael ei gadw mwyach o dan ddarpariaethau TACT adrannau 41 neu 43B ac Atodlen 8 neu’n cael ei holi ar ôl cyhuddo fel yr awdurdodir o dan adran 22 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (gweler adran 15), ar yr amod eu bod yn rhoi rhybudd rhesymol o’u cais. Bydd unrhyw archwiliad o’r fath yn cael ei nodi yn y cofnod cadw.
2.8 Rhaid nodi amser ar gyfer pob cofnod mewn cofnodion cadw a’u dynodi gan y sawl sy’n eu gwneud. Nid oes dim yn y Cod yma yn gofyn am gofnodi neu ddatgelu pwy yw’r swyddogion heddlu neu staff eraill yn achos ymchwiliadau sy’n gysylltiedig i ymchwilio terfysgaeth. Mewn achosion o’r fath, dylent ddefnyddio’u gwarant neu rifau adnabod eraill ac enw’r orsaf heddlu, gweler Nodyn 2A. Nodir amser unrhyw gofnodion cyfrifiadurol, a manylion y sawl sy’n cofnodi.
2.9 Rhaid cofnodi’r ffaith ac amser unrhyw achos pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod llofnodi cofnod cadw pan ofynnir iddo wneud hynny yn unol â’r Cod yma.
Nodyn Arweiniad
2A Diben paragraff 2.8 yw amddiffyn rhai sydd wedi ymwneud ag ymchwiliadau terfysgaeth neu arestio rhai a amheuir o derfysgaeth o’r posibilrwydd y bydd y rhai a arestir, eu cymdeithion neu unigolion neu grwpiau eraill yn bygwth neu achosi niwed i’r rhai dan sylw.
3 Gweithredu cychwynnol
(a) Pobl sy’n cael eu cadw - y drefn arferol
3.1 Pan fo person y mae paragraff 2.1 yn berthnasol iddo mewn gorsaf heddlu, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y person yn cael gwybod yn glir am:
(a) yr hawliau parhaus canlynol y gellir eu harfer ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod yn y ddalfa:
(i) eu hawl i ymgynghori’n breifat â chyfreithiwr a bod cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim ar gael fel yn adran 6;
(ii) eu hawl i hysbysu rhywun am eu harestiad fel yn adran 5;
(iii) eu hawl i ddarllen y Cod Ymarfer hwn (gweler Nodyn 3D);
(iv) eu hawl i gymorth meddygol fel yn adran 9;
(v) eu hawl i aros yn dawel fel y nodir yn y rhybudd (gweler adran 10, gan nodi na fydd hyn yn berthnasol i droseddwr terfysgol ar drwydded a arestiwyd o dan adran 43B o TACT gan nad yw eu harestiad yn dibynnu ar gyflawni trosedd ac felly ni fydd yn destun holi); ac
(vi) os yn berthnasol, eu hawl i wasanaethau dehongli a chyfieithu (gweler paragraff 3.14) a’r hawl i gyfathrebu â’u Huchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth (gweler paragraff 3.14A).
(b) eu hawl i gael gwybod pam eu bod wedi cael eu harestio a’u cadw, a fydd, yn achos person a arestiwyd o dan adran 41 o TACT, yn cynnwys cael gwybod pam y cafodd ei arestio a’i gadw ar amheuaeth o fod yn rhan o drefnu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgol yn unol â pharagraffau 2.5, 3.4 ac 11.1A o’r Cod hwn.
3.2 Yn ogystal, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r sawl sy’n cael ei gadw, yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(a) i’w ganiatáu i arfer ei hawliau trwy sefydlu:
(i) ei hawliau dan baragraff 3.1 (yn amodol i baragraffau 3.14 a 3.14A);
(ii) y trefniadau er mwyn cael cyngor cyfreithiol, gweler adran 6;
(iii) ei hawl i gael copi o’r cofnod cadw fel ym mharagraff 2.6;
(iv) y rhybudd yn y termau a ddisgrifir yn adran 10;
(v) ei hawliau i:
-
wybodaeth ynghylch y rhesymau a sail dros ei arestio a chadw ac (yn ôl y digwydd) unrhyw sail a rheswm pellach sy’n dod i’r amlwg tra bydd yn y ddalfa;
-
i gael mynediad at gofnodion a dogfennau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb ei arestio a chadw yn effeithiol; fel sy’n ofynnol yn unol â pharagraffau 2.4, 2.4A, 2.5, 3.4, 11.1, 14.0 a 15.7A(c) y Cod hwn a pharagraff 3.3 Cod G;
(vi) uchafswm y cyfnod ble gellir ei gadw yn nalfa’r heddlu heb ei gyhuddo, ac wedi hynny y bydd angen adolygu ei gadw a rhyddhau.
(vii) ei hawl i gyfathrebu gyda’i Uchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth yn unol ag adran 7 y Cod hwn, gweler paragraff 3.14A;
(xiii) ei hawl i gymorth meddygol yn unol ag adran 9 y Cod hwn
(xi) ei hawl, os yw’n cael ei erlyn, i gael mynediad at y dystiolaeth yn yr achos yn unol â’r Ddeddf Gweithdrefn Droseddol ac Ymchwiliadau 1996, Canllawiau’r Atwrnai Cyffredinol ar Ddatgeliad a chyfraith gwlad a’r Rheolau Gweithdrefnau Troseddol; ac
(b) yn sefydlu’n gryno ei hawliau tra yn y ddalfa trwy:
(i) grybwyll:
-
darpariaethau yn ymwneud â chyflawni cyfweliadau;
-
yr amgylchiadau pan ddylai oedolyn priodol fod ar gael i gynorthwyo’r sawl sy’n cael ei gadw a’i hawliau statudol i gyflwyno sylwadau pryd bynnag fydd yr angen am ei gadw yn cael ei adolygu.
(ii) restru’r hawliau yn y Cod hwn, parthed
-
safonau cysur corfforol rhesymol;
-
bwyd a diod digonol;
-
mynediad at doiledau a chyfleusterau ymolchi, dillad, sylw meddygol, ac ymarfer pan fo’n ymarferol;
-
anghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles ynghylch darparu cynhyrchion mislif ac unrhyw gynnyrch iechyd, hylendid a lles eraill sydd eu hangen gan y sawl sy’n cael ei gadw a siarad am y rhain yn breifat i aelod o staff y ddalfa (gweler paragraffau 9.4A a 9.4B).
Gweler Nodyn 3A
3.2A Rhaid rhoi cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw ddarllen yr hysbysiad ac fe ofynnir iddo neu iddi lofnodi’r cofnod cadw i gydnabod derbyn yr hysbysiadau. Rhaid cofnodi gwrthodiad ar y cofnod cadw.
3.3 Heb ei ddefnyddio.
3.3A Dylid hefyd darparu fersiwn sain a darluniadol ‘hawdd ei darllen’ o’r hysbysiad os ydynt ar gael (gweler Nodyn 3A).
3.4 (a) Bydd swyddog y ddalfa yn:
-
cofnodi bod y person wedi’i arestio dan adrannau 41 neu 43B o TACT a’r rheswm/rhesymau dros yr arestio ar y cofnod cadw. Gweler paragraff 10.3 a Nodyn 3G
-
nodi ar y cofnod cadw unrhyw sylw y mae’r sawl sy’n cael ei gadw’n ei wneud mewn perthynas ag adroddiad y swyddog arestio ond ni fydd yn gwahodd sylwadau. Os nad yw’r swyddog arestio yn gorfforol bresennol pan ddygir y sawl sy’n cael eu cadw i orsaf heddlu, rhaid i adroddiad y swyddog arestio fod ar gael i swyddog y ddalfa o bell neu gan drydydd parti ar ran y swyddog arestio;
-
nodi unrhyw sylw a wna’r sawl sy’n cael ei gadw mewn perthynas â’r penderfyniad i’w gadw ond ni fydd yn gwahodd sylwadau;
-
peidio â gofyn cwestiynau penodol i’r sawl sy’n cael eu cadw ynghylch eu rhan mewn unrhyw drosedd (gweler paragraff 1.3), nac mewn perthynas ag unrhyw sylwadau y gallai eu gwneud mewn ymateb i adroddiad y swyddog arestio neu’r penderfyniad i’w rhoi yn y ddalfa. Gweler paragraffau 14.1 a 14.2 a Nodiadau 3H, 14A a 14B. Mae cyfnewid o’r fath yn debygol o olygu cyfweliad fel ym mharagraff 11.1 ac angen y mesurau diogelu cysylltiedig yn adran 11.
Sylwer: Mae’r is-baragraff hwn hefyd yn berthnasol i unrhyw resymau a seiliau pellach dros gadw a ddaw i’r amlwg tra bydd y person yn cael ei gadw.
Gweler paragraff 11.8A mewn perthynas â sylwadau digymell.
Os cynhelir yr adolygiad cyntaf o gadw ar yr adeg hon, gweler paragraffau 14.1 a 14.2, a Rhan II o Atodlen 8 i Ddeddf Terfysgaeth 2000 mewn perthynas â chamau gweithredu gan y swyddog adolygu.
(b) Rhaid i ddogfennau a deunyddiau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb arést a chadw’r sawl sy’n cael ei gadw yn effeithiol fod ar gael i’r sawl sy’n cael ei gadw neu ei gyfreithiwr. Bydd dogfennau a deunydd yn “allweddol” i’r diben hwn os gallant danseilio’r rhesymau a’r sail sy’n golygu fod arestio a chadw’r sawl sy’n cael ei gadw yn angenrheidiol. Mae’r penderfyniad ynghylch beth ddylid ei ddatgelu i ddibenion y gofyniad hwn yn nwylo swyddog y ddalfa sy’n penderfynu os yw cadw yn angenrheidiol mewn ymgynghoriad gyda’r swyddog ymchwilio sydd â dealltwriaeth o’r dogfennau a deunyddiau mewn achos penodol i allu hysbysu’r penderfyniad hwnnw (gweler Nodyn 3G). Dylid gwneud nodyn yng nghofnod cadw’r sawl sy’n cael ei gadw o’r ffaith y gweithredwyd dan yr is-baragraff hwn a phryd. Dylai’r swyddog ymchwilio wneud nodyn ar wahân o beth a ddarparwyd mewn achos penodol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ddibenion adran 14, gweler paragraff 14.0.
3.5 Bydd swyddog y ddalfa neu staff arall y ddalfa dan gyfarwyddyd swyddog y ddalfa yn:
(a) gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw a hoffai, ar yr adeg yma:
(i) gael cyngor cyfreithiol, gweler paragraff 6.4
(ii) hysbysu rhywun ei fod yn cael ei gadw, gweler adran 5;
(iii) yn dymuno siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa a all fod o’r un rhyw am unrhyw fater yn ymwneud â’I anghenion personol ynghylch iechyd, hylendid a lles (gweler paragraff 9.4A)
(b) gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw lofnodi’r cofnod cadw er mwyn cdarnhau ei benderfyniadau parthed (a);
(c) benderfynu a yw’r sawl sy’n cael ei gadw:
(i) angen, neu a allai fod angen, triniaeth neu sylw feddygol, gweler adran 9;
(ii) yn berson ifanc a/neu yn agored i niwed ac felly angen oedolyn priodol (gweler paragraffau 1.10, 1.11 a 3.17);
(iii) angen
-
help i archwilio dogfennau (gweler paragraff 3.21);
-
cyfieithydd (gweler paragraff 3.14 a Nodyn 13B).
(ca) os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn fenyw 18 oed neu’n hŷn, gofynnwch a oes angen unrhyw gynhyrchion mislif arnynt neu a ydynt yn debygol o fod eu hangen tra’u bod yn y ddalfa (gweler paragraff 9.4B). Yn achos merched o dan 18 oed, gweler paragraff 3.21A;
(d) cofnodwch y penderfyniad a’r camau a gymerwyd fel sy’n berthnasol yn achos (c) a (ca).
Ble mae unrhyw ddyletswyddau dan y paragraff hwn wedi eu cyflawni gan staff y ddalfa dan gyfarwyddyd swyddog y ddalfa, unwaith y bydd yn ymarferol, bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd i swyddog y ddalfa sy’n gyfrifol yn gyffredinol am ofal a chystodaeth ddiogel y sawl sy’n cael ei gadw a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Cod hwn. Gweler Nodyn 3I.
3.6 Wrth bennu’r anghenion a nodir ym mharagraff 3.5(c), mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am gychwyn asesiad er mwyn ystyried a yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn debygol o beri risgiau penodol i staff y ddalfa, unrhyw unigolyn a allai ddod i gysylltiad â’r sawl sy’n cael ei gadw (e.e. cynghorwyr cyfreithiol, staff meddygol), neu i’w hun. Dylai’r asesiad risg yma gynnwys cymryd camau rhesymol i sefydlu hunaniaeth y sawl sy’n cael ei gadw ac i gael gwybodaeth ynghylch y sawl sy’n cael ei gadw sy’n berthnasol i’w gadw’n ddiogel, ei ddiogelwch a lles a risgiau i eraill. Dylai asesiadau o’r fath felly gynnwys chwiliad ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) bob amser, y dylid ei wneud cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, er mwyn nodi unrhyw risgiau a amlygir mewn perthynas â’r sawl sy’n cael ei gadw. Er mai cyfrifoldeb swyddog y ddalfa yw asesiadau o’r fath yn bennaf, bydd angen cael gwybodaeth gan ffynonellau eraill, yn arbennig y tîm ymchwilio ymgynghori a chynnwys eraill, gweler Nodyn 3E, y swyddog arestio neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, gweler paragraff 9.15. Dylid hefyd gwirio cofnodion eraill a gedwir gan neu ar ran yr heddlu ac awdurdodau gorfodi’r gyfraith eraill y Deyrnas Unedig a allai ddarparu gwybodaeth berthnasol i ddal y sawl sy’n cael ei gadw’n ddiogel, ei ddiogelwch a’i les a risg eraill a chadarnhau ei hunaniaeth. Rhaid cofnodi’r rhesymau dros ohirio cychwyn neu gwblhau’r asesiad.
3.7 Dylai Prif Swyddogion sicrhau yr ymgorfforir trefniadau er mwyn sicrhau’r asesiadau risg effeithiol a chywir sy’n ofynnol dan baragraff 3.6 ar gyfer pob un sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu yn eu hardal.
3.8 Rhaid i asesiadau risg ddilyn proses strwythuredig sy’n diffinio’n eglur y categorïau risg i’w hystyried, a rhaid cynnwys y canlyniadau yng nghofnod cadw’r sawl sy’n cael ei gadw. Mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am gyfnod y person yn y ddalfa yn cael eu briffio’n briodol am y risgiau. Nid oes angen dangos na darparu cynnwys unrhyw asesiad risg nac unrhyw ddadansoddiad o’r lefel o risg yn ymwneud â chadw’r person i’r sawl sy’n cael ei gadw nac unrhyw un yn gweithio ar ran y sawl sy’n cael ei gadw. Os na nodir unrhyw risgiau penodol yn yr asesiad, dylid nodi hynny yn y cofnod cadw. Gweler Nodyn 3F a pharagraff 9.15.
3.8A Nid oes angen dangos na darparu cynnwys unrhyw asesiad risg nac unrhyw ddadansoddiad o’r lefel o risg yn ymwneud â chadw’r person i’r sawl sy’n cael ei gadw nac unrhyw un yn gweithio ar ran y sawl sy’n cael ei gadw. Ond ni ddylid dal gwybodaeth yn ôl gan unrhyw un yn Gweithredu ar ran y sawl sy’n cael ei gadw, er enghraifft, oedolyn priodol, cyfreithiwr neu gyfieithydd, os gallai
gwneud hynny achosi risg i’r person hwnnw.
3.9 Mae swyddogion y ddalfa yn gyfrifol am ymgorffori’r ymateb i unrhyw asesiad risg penodol, a ddylai gynnwys, er enghraifft:
-
lleihau’r cyfleoedd i’r person niweidio’i hun;
-
galw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol;
-
cynyddu lefelau monitro neu arsylwi;
-
lleihau’r risg i’r rhai sy’n dod i gysylltiad â’r sawl sy’n cael ei gadw.
Gweler Nodyn 3F
3.10 Mae asesu risg yn broses barhaus a rhaid adolygu asesiadau bob amser os bydd yr amgylchiadau’n newid.
3.11 Os gosodwyd camerâu fideo yn ardal y ddalfa, dylid gosod hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n nodi y defnyddir camerâu. Gwrthodir unrhyw gais i ddiffodd camerâu fideo.
3.12 Gall cwnstabl, swyddog carchar neu unrhyw unigolyn arall a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gymryd unrhyw gamau sydd yn rhesymol angenrheidiol er mwyn:
(a) tynnu llun o’r sawl sy’n cael ei gadw;
(b) mesur y person, neu
(c) adnabod y person.
3.13 Mae Paragraff 3.12 yn ymwneud â’r pŵer yn TACT Atodlen 8 Paragraff 2. Nid yw’r pŵer hwn yn cwmpasu cymryd olion bysedd, samplau personol neu samplau nad ydynt yn bersonol, sy’n cael eu cwmpasu yn TACT Atodlen 8 paragraffau 10 i15. Nid yw TACT Atodlen 8 Paragraff 2 a pharagraff 3.12 o’r Cod hwn yn berthnasol i berson sy’n cael ei gadw dan adran 43B o TACT.
(b) Pobl sy’n cael eu cadw - grwpiau arbennig
3.14 Os yw’n ymddangos bod y sawl sy’n cael ei gadw’n rhywun nad yw’n siarad neu ddeall Saesneg neu sydd â nam ar ei glyw neu leferydd, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau:
(a)heb unrhyw oedi, y gwneir trefniadau (gweler paragraff 13.1ZA) i’r sawl sy’n cael ei gadw gael cymorth cyfieithydd yn y camau gweithredu dan baragraffau 3.1 i 3.5. Os ymddengys bod gan y sawl sy’n cael ei gadw nam ar ei glyw neu leferydd, mae’r cyfeiriad at ‘gyfieithydd’ yn cynnwys cymorth priodol sy’n angenrheidiol i gydymffurfio gyda pharagraffau 3.1 i 3.5. Gweler paragraff 13.1C os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yng Nghymru. Gweler adran 13 a Nodyn 13B;
(b)yn ogystal i’r hawliau a sefydlir ym mharagraff 3.1(i) i (iii), mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn cael gwybod yn glir am ei hawl i gyfieithiad;
(c)fod y rhybudd ysgrifenedig a roddir i’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 3.2 mewn iaith mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn ei deall ac yn cynnwys yr hawl i gyfieithiad ynghyd â gwybodaeth am y darpariaethau yn adran 13 ac Atodiad K, sy’n esbonio sut mae’r hawl yn berthnasol (gweler Nodyn 3A); ac
(d)os nad yw’r cyfieithiad o’r hysbysiad ar gael, y rhoddir yr wybodaeth yn yr hysbysiad ar lafar trwy gyfieithydd ac y darperir cyfieithiad ysgrifenedig heb unrhyw oedi gormodol
3.14A A Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddinesydd o wlad Cymanwlad annibynnol neu’n wladolyn gwlad dramor, yn cynnwys Gweriniaeth Iwerddon, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau yn ogystal â’r hawliau a sefydlir ym mharagraff 3.1(i) i (v), ei fod yn cael gwybod cyn gynted ag sy’n ymarferol am ei hawl i gyfathrebu gyda’i Uwch Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswl a sefydlir yn adran 7. Rhaid cynnwys yr hawl yma yn yr hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 3.2.
3.15 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc, rhaid i swyddog y ddalfa ddod i wybod pwy sy’n gyfrifol am ei les, os yw hynny’n ymarferol. Gall y person hwnnw:
- fod yn:
- rhiant neu warcheidwad;
- os yw’r person ifanc yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, neu fel arall yn cael gofal dan Ddeddf Plant 1989, fod yn berson a benodwyd gan yr awdurdod neu’r sefydliad hwnnw i fod yn gyfrifol am les y person ifanc;
- unrhyw un arall sy’n gyfrifol am les y person ifanc am y tro.
- rhaid ei hysbysu cyn gynted ag y bo’n ymarferol bod y person ifanc wedi cael ei arestio, y rheswm dros ei arestio a’r rheswm dros ei gadw. Mae’r hawl hon yn ychwanegol i hawl y person ifanc yn adran 5 i beidio â chael ei gadw heb allu cysylltu â neb. Gweler Nodyn 3C.
3.16 Os yw’n hysbys bod person ifanc yn destun gorchymyn llys lle rhoddir unrhyw gyfrifoldeb statudol i berson neu sefydliad dros ei oruchwylio neu ei fonitro fel arall, rhaid cymryd camau rhesymol hefyd i hysbysu’r person neu’r sefydliad hwnnw (y ‘swyddog cyfrifol’). Fel arfer, bydd y swyddog cyfrifol yn aelod o Dîm Troseddu Ieuenctid, ac eithrio mewn gorchymyn cyrffyw sy’n ymwneud â monitro electronig, pan mai’r contractwr sy’n darparu’r gwasanaeth monitro fydd y swyddog cyfrifol fel arfer.
3.17 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed, rhaid i swyddog y ddalfa, cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, sicrhau bod:
-
y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei hysbysu o’r penderfyniad bod angen oedolyn priodol a’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw (gweler paragraff 3.5 (c) (ii) a;
-
bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei hysbysu:
-
o ddyletswyddau’r oedolyn priodol fel y disgrifir ym mharagraff 1.13A; ac
-
y gall ymgynghori’n breifat â’r oedolyn priodol ar unrhyw adeg.
-
-
bod yr oedolyn priodol, a all, yn achos person ifanc, fod yn berson sy’n gyfrifol am ei les, fel ym mharagraff 3.15, yn cael ei hysbysu o:
-
y rheswm dros ei gadw;
-
ei leoliad; a
-
-
bod presenoldeb yr oedolyn priodol yn yr orsaf heddlu i weld y sawl sy’n cael eu cadw yn cael ei sicrhau.
3.18 Os yw’r oedolyn priodol:
-
eisoes yng ngorsaf yr heddlu, rhaid cydymffurfio â pharagraffau 3.1 i 3.5 ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol;
-
ddim yn yr orsaf ar adeg cydymffurfio â’r darpariaethau hyn, rhaid cydymffurfio â’r darpariaethau unwaith eto ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol pan fydd yn cyrraedd, a rhoi copi o’r hysbysiad i’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 3.2, i’r oedolyn priodol hefyd os yw’n dymuno cael copi.
3.18A Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau, ar yr adeg y rhoddir copi o’r rhybudd i’r oedolyn priodol, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi hynny, bod yr oedolyn priodol yn cael gwybod am ddyletswyddau’r oedolyn priodol fel y disgrifir ym mharagraff 1.13 A.
3.19 Heb ei ddefnyddio.
3.20 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw, neu’r oedolyn priodol ar ran y sawl sy’n cael ei gadw, yn gofyn am alw cyfreithiwr i roi cyngor cyfreithiol, bydd darpariaethau adran 6 yn berthnasol. (gweler paragraff 6.6 a Nodyn 3K).
3.21 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddall, os oes nam difrifol ar ei olwg neu os nad yw’n gallu darllen, bydd swyddog y ddalfa yn sicrhau bod ei gyfreithiwr, perthynas iddo, ei oedolyn priodol neu unrhyw un arall sy’n debygol o gymryd diddordeb ynddo ac nad yw’n ymwneud â’r ymchwiliad, ar gael i helpu i archwilio unrhyw ddogfennau. Pan fo’r Cod yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig neu lofnod, gellir gofyn i’r un sy’n cynorthwyo i lofnodi yn lle hynny, os yw’n well gan y sawl sy’n cael ei gadw i hynny ddigwydd. Nid yw’r paragraff hwn yn gofyn am alw oedolyn priodol yn unswydd i gynorthwyo wrth archwilio a llofnodi dogfennau ar gyfer person nad yw’n berson ifanc, ac nad yw’n agored i niwed (gweler paragraff 3.17 a Nodyn 13C).
3.21A Mae’r Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933, adran 31, yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i sicrhau fod merch dan 18 oed, sy’n cael ei chadw mewn gorsaf heddlu, dan ofal menyw. Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y fenyw y mae’r ferch dan ei gofal, yn gwneud yr ymholiadau ac yn darparu’r wybodaeth am anghenion personol sy’n ymwneud â’u hiechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraff 9.4A a chynhyrchion mislif a ddisgrifir ym mharagraff 9.4B. Gweler Nodyn 3J. Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y fenyw y mae’r ferch dan ei gofal, yn gwneud yr ymholiadau ac yn darparu’r wybodaeth am anghenion personol sy’n ymwneud â’u hiechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraff 9.4A a chynhyrchion mislif a ddisgrifir ym mharagraff 9.4B. Gweler Nodyn 3J. Mae Adran 31 hefyd yn gofyn am wneud trefniadau i atal unrhyw un dan 18 oed tra’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu, rhag ymwneud ag oedolyn wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, oni bai fod yr oedolyn yn berthynas neu fod yr oedolyn wedi ei gyhuddo o’r un drosedd â’r person dan 18 oed.
(c) Dogfennaeth
3.22 Cofnodir y rhesymau dros gadw person, pan fo’r person dan sylw yn bresennol os yw hynny’n ymarferol.
3.23 Bydd unrhyw gamau a gymerir dan baragraffau 3.14 i 3.21A yn cael eu cofnodi.
(d) Gofynion ar gyfer hysbysu rhai a amheuir o hawliau penodol
3.24 Mae darpariaethau’r adran hon yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi i bobl dan amheuaeth sydd wedi’u harestio o dan adran 41 o’r Ddeddf Terfysgaeth a’u rhybuddio yn unol ag adran 10 y Cod hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol gan gyfraith yr UE a ddargedwir (y gofyniad sy’n deillio’n wreiddiol o Gyfarwyddeb yr UE 2012/13) ar yr hawl i wybodaeth mewn achosion troseddol.Os gwneir cwyn gan neu ar ran y cyfryw berson dan amheuaeth nad yw’r wybodaeth a (fel y gall fod yn wir) mynediad at gofnodion a dogfennau wedi’u darparu yn ôl yr angen, bydd y mater yn cael ei adrodd i arolygydd i ymdrin ag ef fel cwyn at ddibenion paragraff 9.3, neu paragraff 12.10 os gwneir yr her yn ystod cyfweliad. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft:
-
peidio â rhoi gwybod iddynt am eu hawliau (gweler paragraff 3.1);
-
peidio â rhoi copi o’r Hysbysiad iddynt (gweler paragraff 3.2(a))
-
peidio â rhoi cyfle i ddarllen yr hysbysiad (gweler paragraff 3.2A)
-
peidio â darparu’r wybodaeth ofynnol (gweler paragraffau 3.2(a), 3.14(b) a, 3.14A;
-
peidio â chaniatáu mynediad i’r cofnod cadw (gweler paragraff 2.5);
-
peidio â darparu cyfieithiad o’r Hysbysiad (gweler paragraff 3.14(c) a (d));
Nodiadau Arweiniad
3A Ar gyfer mynediad i hysbysiadau sydd ar gael ar hyn o bryd, yn cynnwys fersiynau ‘hawdd i’w darllen’, gweler https://www.gov.uk/notice-of-rights-and-entitlements-a-persons-rights-in-police-detention.
3B Heb ei ddefnyddio.
3C Os yw’r person ifanc yng ngofal awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, ond yn byw gyda’i rieni neu oedolion eraill sy’n gyfrifol am ei les, er nad oes ymrwymiad cyfreithiol i’w hysbysu, fel arfer dylid cysylltu â hwy, yn ogystal â’r awdurdod neu’r sefydliad, oni bai y ceir amheuaeth eu bod yn gysylltiedig â’r drosedd dan sylw. Hyd yn oed os nad yw’r person ifanc yn byw gyda’i rieni, dylid ystyried eu hysbysu.
3D Nid yw’r hawl i ymgynghori â’r Cod hwn na Chodau Ymarfer eraill perthnasol yn rhoi hawl i’r person dan sylw ohirio unrhyw gamau ymchwilio neu weinyddu angenrheidiol am gyfnod afresymol wrth iddo wneud hynny. Mae enghreifftiau o gamau nad oes angen gohirio afresymol cyn eu Gweithredu yn cynnwys:
-
archwilio’r sawl sy’n cael ei gadw yng ngorsaf yr heddlu;
-
cymryd olion bysedd neu samplau nad ydynt yn rhai personol heb ganiatâd at ddibenion cael tystiolaeth.
3E Bydd y tîm ymchwiliadol yn cynnwys unrhyw swyddog sy’n gysylltiedig â chwestiynu unigolyn dan amheuaeth, casglu neu ddadansoddi tystiolaeth parthed troseddau’r sawl sy’n cael ei gadw dan amheuaeth o’u cyflawni. Os bydd swyddog y ddalfa angen gwybodaeth gan y tîm ymchwiliadol, y pwynt cyswllt cyntaf fydd y swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad.
3F Mae Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Cadw a Dalfa (APP) a gynhyrchir gan y Coleg Plismona (gweler http://www.app.college.police.uk) yn rhoi arweiniad mwy manwl ar asesiadau risg ac yn nodi meysydd risg allweddol y dylid eu hystyried bob amser.
3G Ni ellir gwneud arestiadau dan TACT adran 41 oni bai bod gan swyddog sail resymol i amau fod yr unigolyn dan sylw yn “derfysgwr”. Mae hyn yn wahanol i’r pŵer arestio ar gyfer pob trosedd dan PACE, adran 24, o ran nad oes angen iddo fod yn gysylltiedig i drosedd benodol. Efallai hefyd y bydd amgylchiadau ble gwneir arést dan TACT ar sail gwybodaeth sensitif na ellir ei datgelu. Dan amgylchiadau o’r fath, gellir rhoi sail dros arestio yn nhermau’r dehongliad o “derfysgwr” a sefydlir yn TACT adran 40(1)(a) neu (b).
3H At ddibenion arestio dan TACT adran 41, mae’r swyddog adolygu yn gyfrifol am awdurdodi cadw (gweler paragraffau 14.1 ac 14.2, a Nodiadau 14A ac 14B). Esbonnir rôl y swyddog adolygu yn TACT Atodlen 8 Rhan II. Gellir cadw unigolyn yn y ddalfa wedi ei arestio gan ddibynnu ar yr adolygiad cyntaf, a ddylai ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi arestio’r unigolyn.
3HA Dim ond pan fydd swyddog yn amau’n rhesymol bod troseddwr terfysgol ar drwydded wedi torri amod ei drwydded ac yn ystyried yn rhesymol ei fod yn angenrheidiol, at ddibenion sy’n ymwneud ag amddiffyn aelodau’r cyhoedd rhag risg o derfysgaeth, y gellir arestio o dan adran 43B TACT, i gadw’r troseddwr hyd nes y gwneir penderfyniad galw’n ôl.
3I Rhaid i swyddog y ddalfa neu unrhyw swyddog arall sydd, yn unol â’r cod hwn, yn caniatáu neu’n cyfarwyddo cyflawni unrhyw dasg neu weithred parthed gofal, triniaeth a hawliau’r sawl sy’n cael ei gadw gan unrhyw swyddog neu berson arall fod yn fodlon fod y swyddog neu berson yn addas, hyfforddedig a chymwys i gyflawni’r dasg neu weithred dan sylw.
3J Cyhoeddwyd arweiniad i swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu ar weithrediad adran 31 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 gan y Coleg Plismona ac mae ar gael ar:
3K Diben y darpariaethau ym mharagraffau 3.20 a 6.6 yw amddiffyn hawliau pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed nad yw efallai yn deall arwyddocâd yr hyn a ddywedir wrtho. Dylid rhoi cyfle bob amser iddynt, pan alwir am oedolyn priodol i’r orsaf heddlu, i ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n dymuno gwneud hynny.
4 Eiddo’r sawl sy’n cael ei gadw
(a) Gweithredu
4.1 Mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am:
(a) ganfod pa eiddo:
(i) sydd gan y sawl sy’n cael ei gadw pan ddaw i’r orsaf heddlu naill ai ar gyrraedd yr orsaf heddlu gyntaf neu wrth gyrraedd gorsaf heddlu yn ddilynol mewn perthynas â’r cadw yna;
(ii) y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod wedi ei sicrhau at ddiben anghyfreithlon neu niweidiol yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa.
(b) diogelu unrhyw eiddo sy’n cael ei gymryd oddi ar y sawl sy’n cael ei gadw, sy’n aros yng ngorsaf yr heddlu.
Fe all swyddog y ddalfa archwilio’r sawl sy’n cael ei gadw neu awdurdodi iddo gael ei archwilio i’r graddau y mae’n eu hystyried yn angenrheidiol, ar yr amod bod unrhyw chwiliad o rannau personol y corff neu sy’n golygu tynnu mwy nag un haen o ddillad allanol, yn cael ei wneud yn unol ag Atodiad A yn unig. Rhaid i swyddog o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw gyflawni’r chwiliad. Gweler Nodyn 4A ac Atodiad I.
4.2 Yn ddarostyngedig i baragraff 4.3A gall y rhai sy’n cael eu cadw, gadw dillad ac eiddo personol ar eu cyfrifoldeb eu hunain, oni bai fod swyddog y ddalfa o’r farn y gallent eu defnyddio i niweidio’u hunain neu eraill, ymyrryd â thystiolaeth, difrodi eiddo, trefnu ffordd o ddianc neu os oes eu hangen fel tystiolaeth. Os digwydd hyn, gall swyddog y ddalfa gadw unrhyw eitemau o’r fath os bydd yn ystyried bod angen gwneud hyn, a rhaid iddo hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw o’i resymau dros wneud hyn.
4.3 Meddiannau personol yw’r eitemau hynny y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod eu hangen, eu defnyddio neu gyfeirio atynt yn gyfreithiol yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa, ond nid ydynt yn cynnwys arian ac eitemau eraill o werth.
4.3A At ddibenion paragraff 4.2, bydd y cyfeiriad at ddillad ac eiddo personol yn cael ei drin fel pe bai’n cynnwys cynhyrchion mislif ac unrhyw gynhyrchion iechyd, hylendid a lles eraill sydd eu hangen gan y sawl sy’n cael ei gadw (gweler paragraffau 9.4A a 9.4B) a rhaid i benderfyniad i ddal unrhyw gynhyrchion o’r fath yn ôl fod yn destun asesiad risg penodol pellach.
(b) Dogfennaeth
4.4 Mater i swyddog y ddalfa yw pennu a ddylid cofnodi’r eiddo naill ai sydd gan y sawl sy’n cael ei gadw adeg ei arestio neu a gymerwyd oddi arno wrth ei arestio (gweler Nodyn 4D). Nid yw’n ofynnol cadw unrhyw gofnod a wneir fel rhan o gofnod y ddalfa ond fe ddylid nodi yng nghofnod y ddalfa lle gellir dod o hyd i gofnod o’r fath a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei drin fel rhan o’r cofnod y ddalfa i ddibenion y Cod Ymarfer hwn (gweler paragraffau 2.4, 2.5 a 2.7). Lle bynnag y gwneir cofnod caniateir i’r sawl sy’n cael ei gadw archwilio a llofnodi bod y cofnod eiddo yn gywir. Cofnodir unrhyw achos o wrthod llofnodi.
4.5 Os na chaniateir i’r sawl sy’n cael ei gadw, gadw unrhyw ddarn o ddillad neu feddiannau personol, rhaid cofnodi’r rheswm dros hynny.
Nodiadau Arweiniad
4A Mae PACE, Adran 54(1) a pharagraff 4.1 yn mynnu bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei chwilio pan fydd hi’n amlwg y bydd gan swyddog y ddalfa ddyletswyddau parhaus mewn perthynas â’r person hwnnw, neu pan fo ymddygiad neu drosedd y sawl sy’n cael ei gadw yn golygu bod rhestr eiddo yn briodol. Nid ydynt yn mynnu bod pob un sy’n cael ei gadw yn cael ei chwilio, e.e. os yw hi’n amlwg y cedwir y person am gyfnod byr ac na fydd yn cael ei roi mewn cell, gall swyddog y ddalfa benderfynu peidio ei chwilio. Mewn achos o’r fath, nodir ‘ni chwiliwyd’ yn y cofnod cadw, ni fydd paragraff 4.4 yn berthnasol, ac estynnir gwahoddiad i’r sawl sy’n cael ei gadw i lofnodi’r cofnod. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod, bydd yn rhaid i swyddog y ddalfa weld pa eiddo sydd ganddo yn unol â pharagraff 4.1.
4B Nid yw paragraff 4.4 yn mynnu bod swyddog y ddalfa yn cofnodi eiddo a oedd gan y sawl sy’n cael ei gadw pan gafodd ei arestio os nad yw hi’n ymarferol ei ddwyn i orsaf yr heddlu oherwydd ei natur, ei faint neu’r nifer ohonynt.
4C Nid yw paragraff 4.4 yn mynnu y dylid cofnodi’r eitemau dillad y mae’r person yn eu gwisgo, oni bai y bydd swyddog y ddalfa yn eu cadw fel nodir ym mharagraff 4.2.
4D Mae Adran 43(2) TACT yn caniatáu i gwnstabl chwilio person a arestiwyd dan adran 41 I ddarganfod a oes ganddo unrhyw beth yn ei feddiant allai ffurfio tystiolaeth ei fod yn derfysgwr.
5 Hawl i beidio cael ei gadw heb allu cysylltu â neb
(a) Gweithredu
5.1 Gall unrhyw berson y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddo sy’n cael ei gadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu neu safle arall, ar gais, gael un person a enwir sy’n ffrind, perthynas neu berson y maent yn ei adnabod ac sy’n debygol o gymryd diddordeb yn ei les wedi’i hysbysu ar draul y cyhoedd o’u lleoliad cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Rhaid hysbysu person sy’n cael ei gadw am yr hawl hon pan gaiff ei gadw gyntaf. Os na ellir cysylltu â’r person gall y sawl sy’n cael eu cadw ddewis hyd at ddau ddewis arall. Os na ellir cysylltu â nhw, mae gan y person sy’n gyfrifol am y ddalfa neu’r ymchwiliad ddisgresiwn i ganiatáu ymdrechion pellach nes bod y wybodaeth wedi’i chyfleu. Gweler Nodiadau 5D a 5E.
5.2 Gellir gohirio arfer yr hawl uchod mewn perthynas â phob person a enwebir dim ond yn unol ag Atodiad B ar gyfer unrhyw droseddwr terfysgol ar drwydded a gedwir o dan adran 43B o TACT. Ni ellir oedi’r hawl i gysylltu ag un person a enwebir.
5.3 Gellir gweithredu’r hawl uchod bob tro y dygir y sawl sy’n cael ei gadw i orsaf heddlu arall neu ei ddychwelyd i swyddfa heddlu wedi ei drosglwyddo’n flaenorol i garchar. Nid yw’r Cod hwn yn rhoi’r fath hawl i unigolyn ar gael ei drosglwyddo i garchar, lle bydd hawliau’r sawl sy’n cael ei gadw yn cael eu llywodraethu gan Reolau Carchar, gweler Atodiad J paragraff 4.
5.4 Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn cytuno, fe all dderbyn ymweliadau yn ôl doethineb swyddog y ddalfa gan deulu, ffrindiau neu eraill sy’n debygol o fod â diddordeb yn ei les, neu y mae gan y sawl sy’n cael ei gadw ddiddordeb yn eu lles. Dylai Swyddogion y Ddalfa fod mewn cysylltiad agos â’r tîm ymchwilio (gweler Nodyn 3E) i ganiatáu gwneud asesiadau risg pan fydd y sawl sy’n cael ei gadw wedi gofyn am ymwelwyr penodol neu pan fyddant yn enwi eu hunain i’r heddlu. Mewn amgylchiadau ble bydd natur yr ymchwiliad yn golygu na ellir bodloni ceisiadau o’r fath, dylid ystyried, ar y cyd â chynrychiolydd o’r cynllun perthnasol, gynyddu amlder ymweliadau o gynlluniau ymwelwyr annibynnol. Gweler Nodiadau 5B ac 5C.
5.5 Os bydd cyfaill, perthynas neu berson sydd â diddordeb yn lles y sawl sy’n cael ei gadw, yn gofyn ymhle y mae’n cael ei gadw, rhoddir yr wybodaeth yma iddynt os bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cytuno ac os nad yw Atodiad B yn berthnasol. Gweler Nodyn 5E.
5.6 Rhoddir deunydd ysgrifennu i’r sawl sy’n cael ei gadw os bydd yn gofyn amdanynt, ac fe ganiateir iddo ffonio un person am gyfnod rhesymol o amser, gweler Nodiadau 5A a 5F. Gellir gwrthod neu ohirio un o’r breintiau hyn, neu’r ddau ohonynt, os yw swyddog o safle arolygydd neu uwch o’r farn y gallai anfon llythyr neu ffonio rhywun arwain at un o’r canlyniadau yn Atodiad B paragraffau 1 a 2, yn arbennig parthed gwneud galwad ffôn mewn iaith nad yw swyddog sy’n gwrando ar yr alwad (gweler paragraff 5.7) yn ei deall. Gweler Nodyn 5G.
Nid oes unrhyw ran o’r paragraff hwn yn caniatáu cyfyngu neu wrthod yr hawliau ym mharagraffau 5.1 a 6.1.
5.7 Cyn anfon unrhyw lythyr neu neges, neu cyn y gwneir unrhyw alwad ffôn, hysbysir y sawl sy’n cael ei gadw y gellir darllen neu wrando ar unrhyw beth a nodir ganddo mewn llythyr, galwad neu neges (ac eithrio unrhyw gyfathrebu gyda chyfreithiwr), ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth. Gellir terfynu galwad ffôn os yw’r fraint yn cael ei chamddefnyddio gweler Nodyn 5G. Gall swyddog y ddalfa benderfynu defnyddio arian cyhoeddus i dalu’r costau neu beidio.
5.8 Dylai unrhyw oedi neu atal hawliau yn yr adran hon fod yn gymesur ac ni ddylai barhau am fwy nag sydd angen.
(b) Dogfennaeth
5.9 Rhaid gwneud cofnod o’r canlynol:
(a) unrhyw gais a wneir dan yr adran hon a’r camau a gymerwyd;
(b) llythyron, negeseuon neu alwadau ffôn a wnaethpwyd neu a gafwyd neu unrhyw ymweliad a gafwyd;
(c) unrhyw achos pan fo’r sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod i’r heddlu roi gwybodaeth amdano i ymholwr o’r tu allan, neu unrhyw wrthodiad i weld ymwelydd. Rhaid gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw lofnodi’r cofnod a rhaid cofnodi unrhyw achos o wrthod gwneud hynny.
Nodiadau Arweiniad
5A Gall person ofyn am gyfieithydd i ddehongli galwad ffôn neu gyfieithu llythyr.
5B Yn ôl disgresiwn swyddog y ddalfa ac yn amodol i gydsyniad y sawl sy’n cael ei gadw, dylid caniatáu ymweliadau pan fo modd, os oes digon o bersonél ar gael i oruchwylio’r ymweliad ac os na amherir ar yr ymchwiliad mewn unrhyw ffordd. Dylai Swyddogion y Ddalfa gadw natur eithriadol cyfnod estynnol TACT o gadw yn y ddalfa mewn cof ac ystyried y budd posibl y gall ymweliadau gael ar iechyd a lles y rhai a gedwir yn y ddalfa am gyfnodau ymestynnol.
5C Dylai ymwelwyr swyddogol gael mynediad yn dilyn ymgynghoriad gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros yr ymchwiliad cyn belled â bod y sawl sy’n cael ei gadw’n cydsynio, ac nad yw’n cyfaddawdu ar ddiogelwch na diogeledd nac yn oedi neu ymyrryd heb fod angen ar ddatblygiad ymchwiliad. Dylai ymwelwyr swyddogol barhau i orfod darparu prawf hunaniaeth priodol a bod yn destun unrhyw broses sgrinio sydd ar waith yn y lleoliad cadw. Gall ymwelwyr swyddogol gynnwys:
-
Cynrychiolydd ffydd achrededig;
-
Aelodau o naill un o Dai’r Senedd;
-
Swyddogion cyhoeddus sydd angen cyfweld y carcharor fel rhan o’u dyletswyddau;
-
Unigolion eraill sy’n ymweld gyda chaniatâd y swyddog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros yr ymchwiliad;
-
Swyddogion consylaidd yn ymweld â sawl sy’n cael ei gadw sy’n wladolyn y wlad mae’n cynrychioli yn amodol i adran 7 y Cod hwn.
Dylid ymdrin ag ymweliadau gan aelodau priodol o’r Cynllun Ymwelwyr Dalfa Annibynnol yn unol â’r Cod Ymarfer unigol ar gyfer Ymweld Annibynnol â’r Ddalfa.
5D Os nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn gwybod am unrhyw un i gysylltu â nhw am gyngor neu gymorth, neu os nad yw’n gallu cysylltu â chyfaill neu berthynas, dylai swyddog y ddalfa ystyried unrhyw gyrff gwirfoddol lleol neu sefydliadau eraill a allai helpu. Mae paragraff 6.1 yn berthnasol os oes angen cyngor cyfreithiol.
5E Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd hi’n briodol defnyddio’r ffôn i ddatgelu gwybodaeth o dan baragraffau 5.1 a 5.5.
5F Mae’r alwad ffôn ym mharagraff 5.6 yn ychwanegol i unrhyw gyfathrebu o dan baragraffau 5.1 a 6.1. Gellir gwneud alwadau pellach yn ôl doethineb swyddog y ddalfa.
5G Mae natur ymchwiliadau terfysgol yn golygu y dylai swyddogion dalu sylw arbennig i’r posibilrwydd y gallai’r rhai a amheuir geisio trosglwyddo gwybodaeth allai fod yn niweidiol i ddiogelwch y cyhoedd, neu i ymchwiliad
6 Yr hawl i gyngor cyfreithiol
(a) Gweithredu
6.1 Oni bai fod Atodiad B yn berthnasol, rhaid hysbysu pob un sy’n cael ei gadw y gall ymgynghori a chyfathrebu’n breifat gyda chyfreithiwr ar ben ei hun, trwy ysgrifennu ato neu dros y ffôn, a bod cyngor cyfreithiol annibynnol ar gael yn rhad ac am ddim gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd. Os oes oedolyn priodol yn bresennol, rhaid ei hysbysu o’r hawl hwn hefyd. Gweler paragraff 3.1, Nodyn 1I, Nodiadau 6B a 6J.
6.2 Rhaid arddangos poster sy’n hysbysebu’r hawl i gael cyngor cyfreithiol mewn rhywle amlwg yn y man cyhuddo ym mhob gorsaf heddlu. Gweler Nodyn 6G.
6.3 Ni ddylai unrhyw swyddog heddlu wneud unrhyw beth neu ddweud unrhyw beth ar unrhyw adeg gyda’r bwriad o berswadio unrhyw berson sydd â hawl i gyngor cyfreithiol yn unol â’r Cod hwn rhag gofyn am gyngor cyfreithiol. Gweler Nodyn 6ZA.
6.4 Gall arfer yr hawl i gael mynediad at gyngor cyfreithiol gael ei ohirio fel eithriad dim ond yn unol ag Atodiad B. Ar gyfer unrhyw droseddwr terfysgol ar drwydded a gedwir o dan adran 43B o TACT, ni ellir oedi’r hawl i gael mynediad at gyngor cyfreithiol. Pryd bynnag y gofynnir am gyngor cyfreithiol, ac oni bai fod Atodiad B yn gymwys, rhaid i swyddog y ddalfa weithredu’n ddi-oed i sicrhau y darperir cyngor o’r fath. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw, ar ôl cael ei hysbysu neu ei atgoffa o’r hawl hon, yn gwrthod siarad â chyfreithiwr yn bersonol, dylai’r swyddog nodi bod yr hawl yn cynnwys yr hawl i siarad â chyfreithiwr dros y ffôn (gweler paragraff 5.6). Os bydd y sawl sy’n cael eu cadw yn parhau i ildio’r hawl hon dylai’r swyddog ofyn iddynt pam, a dylid cofnodi unrhyw resymau ar y cofnod cadw neu gofnod y cyfweliad fel y bo’n briodol. Rhaid rhoi nodiadau atgoffa o’r hawl i gyngor cyfreithiol fel ym mharagraffau 3.5 ac 11.3 a pharagraff 5 o Atodiad K o’r Cod hwn a Chod D PACE ar Adnabod Personau gan Swyddogion Heddlu, paragraffau 3.17(ii) a 6.3. Unwaith y daw’n amlwg nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn dymuno siarad â chyfreithiwr yn bersonol neu dros y ffôn, ni ddylid gofyn iddynt am eu rhesymau mwyach. Gweler Nodyn 6J.
6.5 Gall swyddog o reng uwch-arolygydd neu uwch roi cyfarwyddyd o dan TACT Atodlen 8 paragraff 9 na all hawl gan y sawl sy’n cael ei gadw i ymgynghori â chyfreithiwr (o dan Atodlen 8 paragraff 7) gael ei harfer drwy ymgynghori â’r cyfreithiwr sy’n mynychu at ddiben yr ymgynghoriad neu a fyddai’n mynychu oni bai am roi’r cyfarwyddyd, ond yn lle hynny gellir ei harfer drwy ymgynghori â chyfreithiwr gwahanol o ddewis y person sy’n cael ei gadw. Caniateir i gyfarwyddyd o dan y paragraff hwn gael ei roi cyn neu ar ôl i ymgynghoriad person sy’n cael ei gadw â chyfreithiwr ddechrau (ac os caiff ei roi ar ôl iddo ddechrau mae’r hawl i ymgynghori ymhellach yn peidio â’r cyfreithiwr hwnnw pan roddir y cyfarwyddyd). Gellir rhoi cyfarwyddyd o’r fath dim ond os oes gan y swyddog sail resymol dros gredu, pe na fyddai’n cael ei roi, y gallai arwain at unrhyw un o’r canlyniadau a nodir yn Atodlen 8 paragraff 8(4) TACT (e.e. ymyrryd â neu niwed dystiolaeth i drosedd ddifrifol) neu fod y person sy’n cael ei gadw wedi cael budd o’i ymddygiad troseddol ac, oni bai y rhoddir y cyfarwyddyd, y bydd arfer yr hawl gan y person sy’n cael ei gadw’n rhwystro adennill gwerth yr eiddo sy’n ffurfio’r budd.
6.6 Yn achos person sy’n ifanc neu berson sy’n agored i niwed,dylai oedolyn priodol ystyried a oes angen cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr. Os yw’r person o’r fath sydd wedi ei gadw yn nodi ei fod yn dymuno arfer yr hawl i gyngor cyfreithiol, dylid cymryd camau priodol a pheidio oedi nes bydd yr oedolyn priodol yn cyrraedd. Os yw’r person ifanc yn nodi nad yw’n dymuno cael cyngor cyfreithiol, a rhaid ei hysbysu o hynny. Yn yr achos hwn, rhaid cymryd camau ar unwaith i sicrhau darpariaeth cyngor os bydd yr oedolyn priodol yn gofyn amdano yn yr un modd â phan ofynnir amdano gan yr unigolyn. Fodd bynnag, ni ellir gorfodi’r person sy’n cael ei gadw i weld cyfreithiwr os yw’n bendant nad yw am wneud hynny.
6.7 Ni ellir cyfweld na pharhau i gyfweld carcharor sydd eisiau cyngor cyfreithiol (gan nodi na fydd troseddwr terfysgol ar drwydded a arestiwyd o dan adran 43B TACT wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni trosedd ac felly ni fydd yn cael ei gyfweld dan rybudd) hyd nes y bydd wedi cael cyngor o’r fath oni bai:
(a) mae Atodiad B yn berthnasol, pan fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn gymwys oherwydd na chaiff y sawl sy’n cael ei gadw gyfle i ymgynghori â chyfreithiwr; neu
(b) mae gan swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch sail resymol dros gredu:
(i) gallai’r oedi o ganlyniad:
-
arwain at ymyrryd â thystiolaeth sy’n gysylltiedig â throsedd, neu niweidio’r dystiolaeth honno;
-
arwain at ymyrraeth â phobl eraill, neu niwed corfforol iddynt;
-
arwain at golled difrifol o, neu ddifrod i, eiddo
-
arwain at rybuddio pobl eraill yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd ond heb eu harestio ar ei chyfer eto;
-
rhwystro adennill eiddo a gafwyd o ganlyniad i gyflawni trosedd.
Gweler Nodyn 6A
(ii) pan gysylltwyd â chyfreithiwr, gan gynnwys cyfreithiwr ar ddyletswydd, a’i fod wedi cytuno i fod yn bresennol, byddai aros iddo gyrraedd yn achosi oedi afresymol i’r broses ymchwilio.
Sylwer: Yn yr achosion hyn bydd yr cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn gymwys oherwydd na chaiff y sawl sy’n cael ei gadw gyfle i ymgynghori â chyfreithiwr.
(c) bod y cyfreithiwr a enwebwyd neu a ddewiswyd o restr gan y sawl sy’n cael ei gadw:
(i) yn rhywun na ellir cysylltu ag ef;
(ii) wedi dweud o’r blaen nad yw’n dymuno cysylltu ag ef; neu
(iii) ar ôl cysylltu ag ef, mae wedi gwrthod â mynychu; ac
-
mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cael ei hysbysu am y Cynllun Cyfreithiwr ar Ddyletswydd ond mae wedi gwrthod gofyn am y cyfreithiwr ar ddyletswydd;
-
yn yr amgylchiadau hyn, gellir cychwyn y cyfweliad neu barhau â’r cyfweliad heb oedi pellach, ar yr amod bod swyddog o safle arolygydd neu uwch, wedi cytuno y dylai’r cyfweliad fynd yn ei flaen.
Sylwer: Ni fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn berthnasol oherwydd mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyfle i ymgynghori â’r cyfreithiwr ar ddyletswydd;
(d) bod y sawl sy’n cael ei gadw yn newid ei feddwl ynghylch cael cyngor cyfreithiol neu (fel y gallai ddigwydd) am fod eisiau cyfreithiwr yn bresennol yn y cyfweliad ac yn datgan nad yw bellach eisiau siarad â chyfreithiwr. Yn yr amgylchiadau hyn, gellir cychwyn neu barhau â’r cyfweliad heb oedi ar yr amod:
(i) bod swyddog o safle arolygydd neu uwch:
-
wedi siarad gyda’r sawl sy’n cael ei gadw am y rhesymau dros newid ei feddwl (gweler Nodyn 6J), ac
-
yn gwneud, neu’n cyfarwyddo gwneud, ymdrechion rhesymol i bennu’r amser y disgwylir i’r cyfreithiwr gyrraedd ac i hysbysu’r cyfreithiwr fod y sawl a amheuir wedi datgan ei fod eisiau newid ei feddwl a’r rheswm (os rhoddwyd);
(ii) yn cofnodi rheswm y sawl sy’n cael ei gadw dros newid ei feddwl (os rhoddwyd) a chanlyniad y Gweithredu yn (i) yng nghofnod y ddalfa;
(iii) fod y sawl sy’n cael ei gadw, wedi cael hysbysiad o ganlyniad y weithred yn (i) uchod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod eisiau i’r cyfweliad fwrw ymlaen heb siarad gyda na siarad ymhellach gyda chyfreithiwr neu (fel y gallai fod yn wir) heb gyfreithiwr yn bresennol ac nid yw eisiau aros am gyfreithiwr trwy lofnodi cofnod i ddatgan hyn yng nghofnod y ddalfa;
(iv) fod swyddog o reng arolygydd neu uwch yn fodlon ei bod yn briodol i’r cyfweliad fwrw ymlaen dan yr amgylchiadau hyn ac:
-
mae’n rhoi awdurdod i’r cyfweliad fwrw ymlaen ac, os nad yw’r awdurdod wedi ei gofnodi yng nghofnod y ddalfa, rhaid i’r swyddog sicrhau bod cofnod y ddalfa yn dangos dyddiad ac amser yr awdurdodiad a ble y’i cofnodwyd; ac
-
yn cymryd, neu gyfarwyddo cymryd, camau rhesymol i hysbysu’r cyfreithiwr y rhoddwyd awdurdod a’r amser pan ddisgwylir i’r cyfweliad gychwyn ac yn cofnodi neu’n achosi i greu cofnod o ganlyniad y weithred hon yng nghofnod y ddalfa.
(v) Pan fydd y cyfweliad yn cychwyn a’r cyfwelydd yn atgoffa’r sawl a amheuir o’i hawl i gyngor cyfreithiol (gweler paragraff 11.3) a’r cod Ymarfer a gyhoeddir dan baragraff 3 Atodlen 8 Deddf Terfysgaeth 2000 a’r recordiad fideo gyda sain mewn cyfweliadau, bydd y cyfwelydd yna’n sicrhau y cofnodir y canlynol yn y cofnod cyfweliad ysgrifenedig neu yn y cofnod cyfweliad a wneir yn unol â’r Cod hwnnw:
-
cadarnhad bod y sawl sy’n cael ei gadw wedi newid ei feddwl ynghylch cael cyngor cyfreithiol neu (fel y gallai ddigwydd) am fod eisiau cyfreithiwr yn bresennol a’r rhesymau dros hyn os y’i rhoddir;
-
y ffaith y rhoddwyd awdurdod i’r cyfweliad fwrw ymlaen ac, yn amodol i baragraff 2.8, enw’r swyddog awdurdodi;
-
os bydd y cyfreithiwr yn cyrraedd yr orsaf cyn cwblhau’r cyfweliad, bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei hysbysu heb oedi ac fe gymerir egwyl i ganiatáu iddo siarad â’i gyfreithiwr os yw eisiau, oni bai fod paragraff 6.7(a) yn berthnasol, ac
-
ar unrhyw adeg yn ystod y cyfweliad, efallai y bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn eto am gyngor cyfreithiol ac os yw’n gwneud hyn, cymerir egwyl i ganiatáu iddo siarad â’r cyfreithiwr, oni bai fod paragraff 6.7(a), (b), neu (c) yn berthnasol.
Sylwer: Yn yr amgylchiadau hyn, ni fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn Atodiad C yn berthnasol oherwydd bod y sawl sy’n cael ei gadw wedi cael cyfle i ymgynghori â chyfreithiwr os yw’n dymuno.
6.8 Os bydd paragraff 6.7(a) yn berthnasol, ble mae’r rheswm dros awdurdodi’r oedi yn peidio â bod yn berthnasol mwyach, ni ellir cael unrhyw oedi pellach wrth ganiatáu arfer yr hawl yn absenoldeb awdurdodiad pellach oni bai fod paragraff 6.7(b), (c) neu (d) yn berthnasol. Os bydd paragraff 6.7(b)(i) yn berthnasol, ar ôl cael digon o wybodaeth er mwyn osgoi’r risg, rhaid i’r cwestiynu ddod i ben nes i’r sawl sy’n cael ei gadw gael cyngor cyfreithiol, oni bai fod paragraff 6.7(a), (b)(ii), (c) neu (d) yn berthnasol.
6.9 Bydd sawl sy’n cael ei gadw, sydd wedi cael caniatâd i ymgynghori â chyfreithiwr, yn cael yr hawl i ofyn i’r cyfreithiwr fod yn bresennol wrth gael ei gyfweld, ond bai fod un o’r eithriadau ym mharagraff 6.7 yn berthnasol.
6.10 Yr unig adeg y gellir gofyn i’r cyfreithiwr adael y cyfweliad yw os bydd ei ymddygiad yn golygu nad yw’r cyfwelydd yn gallu holi’r sawl sydd dan amheuaeth yn briodol. Gweler Nodiadau 6C a 6D.
6.11 Os yw’r cyfwelydd o’r farn bod cyfreithiwr yn ymddwyn yn y fath ffordd, bydd yn atal y cyfweliad ac yn ymgynghori â swyddog nad yw ei safle yn is na safle uwch-arolygydd, os oes un ar gael, ac fel arall, swyddog nad yw ei safle yn is na safle arolygydd, nad yw’n gysylltiedig â’r ymchwiliad. Ar ôl siarad â’r cyfreithiwr, bydd y swyddog yr ymgynghorwyd ag ef, yn penderfynu a ddylai’r cyfweliad barhau ym mhresenoldeb y cyfreithiwr hwnnw. Os bydd yn penderfynu na ddylai’r cyfweliad barhau, rhoddir cyfle i’r sawl sydd dan amheuaeth ymgynghori â chyfreithiwr arall cyn i’r cyfweliad fynd yn ei flaen, a rhoddir cyfle i’r cyfreithiwr hwnnw fynychu’r cyfweliad. Gweler Nodyn 6D.
6.12 Mae gofyn i gyfreithiwr adael cyfweliad yn gam difrifol ac os bydd yn digwydd, bydd y swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch a wnaeth y penderfyniad yn ystyried a ddylid hysbysu Cymdeithas y Cyfreithwyr am y digwyddiad. Os bydd swyddog o safle is nag uwch-arolygydd wedi penderfynu y dylai’r cyfreithiwr adael y cyfweliad, rhaid adrodd y ffeithiau i swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch, a fydd yn ystyried yn yr un modd a fyddai’n briodol hysbysu Cymdeithas y Cyfreithwyr. Pan fo’r cyfreithiwr dan sylw yn gyfreithiwr ar ddyletswydd, dylid anfon adroddiad at yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
6.13 Ystyr ‘cyfreithiwr’ yn y cod hwn yw:
-
cyfreithiwr sydd â thystysgrif weithredol gyfredol;
-
cynrychiolydd wedi’i achredu neu ar gyfnod prawf, sydd ar gofrestr y cynrychiolwyr a gedwir gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
6.14 Bydd cynrychiolydd wedi’i achredu neu ar ei gyfnod prawf a anfonwyd er mwyn rhoi cyngor gan, ac ar ran, cyfreithiwr yn cael mynediad i orsaf yr heddlu at y diben hwn, oni bai fod swyddog o safle arolygydd neu uwch o’r farn y bydd ymweliad o’r fath yn amharu ar yr ymchwiliad, gan roi cyfarwyddyd fel arall. Nid yw amharu ar yr ymchwiliad yn cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol priodol i sawl sy’n cael ei gadw, fel nodir yn Nodyn 6C. Ar ôl iddo gyrraedd gorsaf yr heddlu, bydd paragraffau 6.7 i 6.11 yn berthnasol.
6.15 Wrth weithredu yn ôl ei ddisgresiwn dan baragraff 6.14, dylai’r swyddog ystyried yn arbennig:
- a yw:
- hunaniaeth a statws y cynrychiolydd heb ei achredu neu sydd ar ei gyfnod prawf wedi cael eu nodi’n foddhaol;
- o gymeriad addas i roi cyngor cyfreithiol,
- unrhyw faterion eraill mewn unrhyw lythyr awdurdodi ysgrifenedig a ddarparwyd gan y cyfreithiwr y mae’r person yn mynychu gorsaf yr heddlu ar ei ran. Gweler Nodyn 6E.
6.16 Os bydd yr arolygydd yn gwrthod mynediad i gynrychiolydd wedi’i achredu neu sydd ar gyfnod prawf, neu os gwneir penderfyniad sy’n golygu nad yw person o’r fath yn cael aros yn y cyfweliad, rhaid i’r arolygydd hysbysu’r cyfreithiwr yr oedd y cynrychiolydd yn Gweithredu ar ei ran, o hyn, a rhoi’r cyfle iddo wneud trefniadau amgen. Rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw a nodi hyn yn y cofnod cadw.
6.17 Os bydd cyfreithiwr yn cyrraedd yr orsaf er mwyn gweld person penodol, rhaid hysbysu’r person hwnnw, oni bai fod Atodiad B yn berthnasol, os yw’n cael ei gyfweld neu beidio, a dylid gofyn iddo a hoffai weld y cyfreithiwr. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r sawl sy’n cael ei gadw wedi gwrthod cyngor cyfreithiol neu, ar ôl gofyn amdano, wedi cytuno i gael ei gyfweld heb gael cyngor. Rhaid nodi presenoldeb y cyfreithiwr a phenderfyniad y sawl sy’n cael ei gadw yn y cyfnod cadw.
(b) Dogfennaeth
6.18 Dylid cofnodi unrhyw gais am gyngor cyfreithiol a’r camau i’w cymryd.
6.19 Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am gyngor cyfreithiol ac mae cyfweliad wedi cychwyn naill ai yn absenoldeb cyfreithiwr neu ei gynrychiolydd, neu os bu’n rhaid iddo adael y cyfweliad, yna cofnodir hynny yng nghofnod y cyfweliad.
Nodiadau Arweiniad
6ZA Ni fydd unrhyw swyddog yr heddlu na staff yr heddlu yn awgrymu i unrhyw un a amheuir, ac eithrio i gyfarwyddo cwestiwn, y gellir lleihau’r cyfnod y mae’n debygol o gael ei gadw, neu’r amser a gymerir i gwblhau’r cyfweliad:
-
os nad yw’n gofyn am gyngor cyfreithiol neu os nad yw eisiau cyfreithiwr yn bresennol pan fydd yn cael ei gyfweld; neu
-
os wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, y bydd yn newid ei feddwl am fod ei eisiau neu (yn ôl y digwydd) eisiau i gyfreithiwr fod yn bresennol pan fydd yn cael ei gyfweld ac yn cytuno i gael ei gyfweld heb fod eisiau cyfreithiwr.
6A Wrth ystyried a yw paragraff 6.7(b) yn berthnasol, dylai’r swyddog, os yw hynny’n ymarferol, ofyn i’r cyfreithiwr amcangyfrif faint o amser y bydd hi’n cymryd iddo gyrraedd yr orsaf a pherthnasu hyn gyda’r amser a ganiateir i gadw’r sawl sy’n cael ei gadw, yr amser o’r dydd (h.y. a yw’r cyfnod gorffwys o dan baragraff 12.2 ar fin cychwyn) a gofynion ymchwiliadau eraill. Os yw’r cyfreithiwr ar ei ffordd neu’n mynd i gychwyn yn syth, ni fydd yn briodol fel arfer i gychwyn cyfweliad cyn iddo gyrraedd. Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol cychwyn cyfweliad cyn i’r cyfreithiwr gyrraedd, dylid rhoi syniad iddo o ba mor hir y gallai’r heddlu aros er mwyn sicrhau bod cyfle i wneud trefniadau i rywun arail ddarparu cyngor cyfreithiol. Nid oes unrhyw beth yn yr adran yma wedi ei fwriadu i atal yr heddlu rhag pennu ar unwaith wedi arestio unigol os oes bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd (gweler paragraff 11.2).
6B Mae gan sawl sy’n cael ei gadw hawl i gyngor cyfreithiol am ddim ac i gael ei gynrychioli gan gyfreithiwr. Mae’r Nodyn Arweiniad hwn yn esbonio’r trefniadau sy’n galluogi rhai sy’n cael eu cadw y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt i gael cyngor cyfreithiol. Mae amlinelliad o’r cytundebau hyn hefyd wedi ei gynnwys yn yr Hysbysiad o Hawliau a roddir i rai sy’n cael eu cadw yn unol â pharagraff 3.2.
Gall y sawl sy’n cael ei gadw ofyn am gyngor am ddim gan gyfreithiwr mae’n adnabod neu os nad yw’n adnabod cyfreithiwr neu os na ellir cysylltu â’r cyfreithiwr mae’n adnabod, gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd.
I drefnu cyngor cyfreithiol am ddim, dylai’r heddlu ffonio Canolfan Alwadau Cyfreithwyr yr Amddiffyn (DSCC). Bydd y ganolfan alwadau yn cysylltu naill ai â’r cyfreithiwr ar ddyletswydd neu gyfreithiwr a geisiwyd gan y sawl sy’n cael ei gadw, fel fo’n briodol.
Pan fydd sawl sy’n cael ei gadw eisiau talu am gyngor cyfreithiol ei hun:
-
bydd y DSCC yn cysylltu â chyfreithiwr o’u dewis ar ei ran;
-
dylid rhoi cyfle iddo ymgynghori gyda chyfreithiwr penodol neu gyfreithiwr arall o gwmni’r cyfreithiwr hwnnw. Os na fydd y cyfreithiwr ar gael, gall ddewis hyd at ddau arall. Os na fydd yr ymdrechion hyn yn llwyddo, gall swyddog y ddalfa ganiatáu ymdrechion pellach hyd nes cysylltir â chyfreithiwr a bod y cyfreithiwr hwnnw yn cytuno darparu cyngor cyfreithiol;
-
mae ganddo hawl i ymgynghoriad preifat gyda chyfreithiwr o’i ddewis ar y ffôn neu gall y cyfreithiwr benderfynu dod i’w weld yng ngorsaf yr heddlu;
-
os na ellir cysylltu â’r cyfreithiwr y mae wedi ei ddewis, efallai y bydd y DSCC yn dal i gael galwad i drefnu cyngor cyfreithiol am ddim.
Ar wahân i gyflawni’r dyletswyddau angenrheidiol i weithredu’r trefniadau hyn, ni ddylai swyddog gynghori’r sawl sydd dan amheuaeth ynghylch unrhyw gwmni o gyfreithwyr arbennig.
6C Unig rôl y cyfreithiwr yng ngorsaf yr heddlu yw amddiffyn a hybu hawliau cyfreithiol ei gleient. Ar brydiau, efallai y bydd hyn yn golygu rhoi cyngor sy’n golygu bod cleient yn osgoi rhoi tystiolaeth sy’n cryfhau achos yr erlyniad. Gall y cyfreithiwr ymyrryd er mwyn gofyn am fanylion, herio cwestiwn amhriodol a ofynnir i’w gleient neu’r ffordd y gofynnir y cwestiwn, cynghori ei gleient i beidio ag ateb cwestiynau arbennig, neu os yw’n dymuno, rhoi cyngor cyfreithiol pellach i’w gleient. Mae paragraff 6.9 yn berthnasol yn unig os yw dull Gweithredu neu ymddygiad y cyfreithiwr yn atal neu’n rhwystro cwestiynau cywir rhag cael eu gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth mewn ffordd afresymol neu gofnodi ymateb y sawl sydd dan amheuaeth. Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys ateb cwestiynau ar ran y sawl sydd dan amheuaeth neu ddarparu atebion ysgrifenedig er mwyn i’r sawl sydd dan amheuaeth eu dyfynnu.
6D Rhaid i swyddog sy’n penderfynu gwahardd cyfreithiwr fod mewn sefyllfa i fodloni’r llys bod y penderfyniad a wnaethpwyd yn gywir. I wneud hyn, efallai y bydd angen iddo fod yn dyst i’r hyn sy’n digwydd.
6E Os yw swyddog o safle arolygydd o leiaf o’r farn bod cyfreithiwr arbennig neu gwmni penodol o gyfreithwyr dro ar ôl tro yn anfon cynrychiolwyr ar eu cyfnod prawf, nad ydynt yn addas i ddarparu cyngor cyfreithiol, dylai hysbysu swyddog o safle uwch-arolygydd o leiaf, a allai ddymuno trafod y mater gyda Sefydliad Rheoleiddio’r Cyfreithwyr.
6F Yn amodol i gyfyngiadau Atodiad B, gall cyfreithiwr gynghori mwy nag un cleient mewn ymchwiliad os yw’n dymuno. Mae unrhyw wrthdaro o ran buddiannau yn fater i’r cyfreithiwr dan ei god ymddygiad proffesiynol. Os, fodd bynnag, y gallai aros am un cyfreithiwr i roi cyngor i un cleient, arwain at oedi afresymol wrth geisio cyfweld un arall, gallai darpariaethau paragraff 6.7(b) fod yn berthnasol.
6G Yn ogystal â phoster yn Saesneg, dylid dangos poster neu bosteri sy’n cynnwys cyfieithiadau Cymraeg, y prif ieithoedd ethnig lleiafrifol a’r prif ieithoedd Ewropeaidd ble bynnag y byddent o gymorth a phan fo hynny’n ymarferol.
6H Heb ei ddefnyddio
6I Pryd bynnag y bydd carcharor yn arfer ei hawl i gyngor cyfreithiol trwy ymgynghori neu gyfathrebu â chyfreithiwr, rhaid caniatáu iddo wneud hynny yn breifat. Mae’r hawl hon i ymgynghori neu gyfathrebu’n breifat yn sylfaenol. Os yw’r gofyniad am breifatrwydd yn cael ei beryglu oherwydd bod yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu gan y sawl sy’n cael ei gadw neu’r cyfreithiwr at ddiben rhoi a derbyn cyngor cyfreithiol yn cael ei glywed, ei wrando arno, neu’n cael ei ddarllen gan eraill heb ganiatâd gwybodus y sawl sy’n cael ei gadw, bydd yr hawl i bob pwrpas wedi’i gwadu. Pan fydd carcharor yn siarad â chyfreithiwr dros y ffôn, dylid caniatáu iddo wneud hynny’n breifat oni bai bod hyn yn anymarferol oherwydd dyluniad a chynllun y man cadw, neu leoliad y ffonau. Fodd bynnag, y disgwyliad arferol yw y bydd cyfleusterau ar gael, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio, ym mhob gorsaf heddlu i alluogi carcharorion i siarad yn breifat â chyfreithiwr naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
6J Nid oes rhaid i sawl sy’n cael ei gadw roi rhesymau dros wrthod cyngor cyfreithiol ac ni ddylid ceisio’i ddarbwyllo i wneud hynny.
7 Dinasyddion gwledydd annibynnol y Gymanwlad neu wledydd tramor
(a) Gweithredu
7.1 Gall unrhyw ddinesydd o un o wledydd annibynnol y Gymanwlad neu unrhyw ddinesydd gwlad dramor, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, gyfathrebu â’r Uchel Gomisiwn, y Llysgenhadaeth neu’r Gonswliaeth briodol ar unrhyw adeg. Rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol o’r hawl hon a gofyn a yw’n dymuno i rywun gysylltu â’i Uchel Gomisiwn, ei Lysgenhadaeth neu ei Gonswliaeth, i’w hysbysu o’i leoliad a’r rhesymau dros ei gadw. Dylid ymateb i gais o’r fath cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Gweler Nodyn 7A.
7.2 Rhaid i garcharor sy’n ddinesydd gwlad y mae confensiwn neu gytundeb consylaidd dwyochrog â hi sy’n gofyn am hysbysiad arestio, hefyd gael ei hysbysu, yn amodol ar baragraff 7.4, y bydd hysbysiad o’u harestiad yn cael ei anfon at yr Uchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth priodol cyn gynted ag y bo’n ymarferol, p’un a ydynt yn gofyn am hynny ai peidio. Gellir cael rhestr o’r gwledydd y mae’r gofyniad hwn yn berthnasol iddynt ar hyn o bryd a manylion cyswllt yr Uchel Gomisiynau, Llysgenadaethau a Chonsyliaethau perthnasol gan Gyfarwyddiaeth Gonsylaidd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) fel a ganlyn:
- o dudalennau gwe yr FCDO
- dros y ffôn ar 020 7008 1500,
- trwy e-bost i [email protected], a
- trwy lythyr at y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, King Charles Street, Llundain, SW1A 2AH
7.3 Gall swyddogion consylaidd ymweld â’u dinasyddion yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa er mwyn siarad â hwy ac, os oes angen, trefnu cyngor cyfreithiol ar eu cyfer. Cynhelir ymweliadau o’r fath allan o glyw swyddog yr heddlu.
7.4 Er gwaethaf darpariaethau confensiynau consylaidd, os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn hawlio ei fod yn ffoadur neu wedi ymgeisio neu’n bwriadu ymgeisio am loches, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau yr hysbysir Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) (Asiantaeth Ffiniau’r DU gynt) cyn gynted ag sy’n ymarferol o’r hawliad. Yna bydd UKVI yn penderfynu os yw cydymffurfiad gyda’r rhwymedigaethau rhyngwladol perthnasol yn gofyn am anfon hysbysiad o arést a bydd yn hysbysu swyddog y ddalfa pa gamau Gweithredu sydd angen i’r heddlu gymryd.
(b) Dogfennaeth
7.5 Gwneir cofnod:
-
pan hysbysir sawl sy’n cael ei gadw o’i hawliau dan yr adran hon ac unrhyw ofyniad ym mharagraff 7.2;
-
o unrhyw gyfathrebu gydag Uchel Gomisiwn, Llysgenhadaeth neu Gonswliaeth, ac
-
o unrhyw gyfathrebu gydag UKVI ynghylch hawliad sawl sy’n cael ei gadw i fod yn ffoadur neu i geisio lloches a’r camau dilynol a gymerwyd gan yr heddlu.
Nodyn Arweiniad
7A Ni ellir ymyrryd ag ymarfer yr hawliau yn yr adran hon, er bod Atodiad B yn berthnasol.
8 Amodau cadw
(a) Gweithredu
8.1 Cyn belled ag y bod hynny’n ymarferol, ni ddylid cadw mwy nag un person ym mhob cell.
Gweler Nodyn 8E.
8.2 Rhaid sicrhau bod y celloedd a ddefnyddir yn cael eu gwresogi, eu glanhau a’u hawyru’n ddigonol. Rhaid eu goleuo’n ddigonol a rhaid gwanhau’r golau yn gyson â diogelwch, er mwyn galluogi pobl sy’n cael ei gadw dros nos i gysgu. Ni ddefnyddir unrhyw gyfyngiadau ychwanegol mewn cell sydd dan glo oni bai fod yn rhaid gwneud hynny, ac wedyn dim ond offer cyfyngu a gymeradwywyd gan y prif swyddog a ganiateir, sy’n rhesymol ac yn angenrheidiol dan yr amgylchiadau, gan ystyried ymddygiad y sawl sy’n cael ei gadw ac er mwyn ceisio sicrhau ei ddiogelwch a diogelwch eraill. Os yw sawl sy’n cael ei gadw yn fyddar, neu’n berson sy’n agored i niwed, rhaid cymryd gofal arbennig wrth benderfynu a ddylid defnyddio unrhyw fath o gyfyngiadau a gymeradwywyd.
8.3 Bydd blancedi, matresi, gobennydd a dillad gwely arall a gyflenwir o ansawdd rhesymol ac mewn cyflwr glân a glanweithiol.
8.4 Rhaid darparu mynediad i gyfleusterau toiled ac ymolchi. Rhaid i hyn ystyried urddas y sawl sy’n cael ei gadw. Gweler Nodyn 8F.
8.5 Os oes angen diosg dillad y sawl sy’n cael ei gadw at ddibenion archwilio, neu oherwydd rhesymau’n ymwneud â hylendid, iechyd neu er mwyn ei lanhau, rhaid eu tynnu gan roi sylw priodol i urddas, sensitifrwydd a bregusrwydd y sawl sy’n cael ei gadw a darperir dillad glân, cyffyrddus ac o safon resymol yn eu lle. Ni ellir cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw oni bai ei fod wedi cael cynnig dillad digonol.
8.6 Dylid cynnig o leiaf dau bryd ysgafn ac un prif bryd mewn unrhyw gyfnod 24 awr. Gweler Nodyn 8B. Dylid darparu diod gyda phrydau a rhwng prydau os gwneir cais rhesymol amdanynt. Pan fo angen, gofynnir am gyngor y gweithiwr iechyd proffesiynol priodol, gweler Nodyn 9A, ynghylch materion meddygol a diet. Cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, bydd y prydau a ddarperir yn cynnig diet amrywiol, gan fodloni unrhyw anghenion diet penodol, neu gredoau crefyddol a allai fod gan y sawl sy’n cael ei gadw. Rhaid i rai a gedwir hefyd fod yn ymwybodol bod prydau a gynigir yn bodloni anghenion o’r fath. Yn ôl disgresiwn swyddog y ddalfa, gall teulu neu gyfeillion y sawl sy‘n cael ei gadw ddarparu prydau iddo, a thalu amdanynt. Gweler Nodyn 8A.
8.7 Cynigir cyfnodau byr o ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd, os yw hynny’n ymarferol. Os bydd cyfleusterau ar gael, cynigir peth ymarfer tu mewn fel dewis arall, os bydd yr amodau tu allan yn golygu na ellir disgwyl yn rhesymol i sawl sy’n cael ei gadw ymarfer tu allan (e.e. mewn tywydd oer neu wlyb), neu os gwneir cais gan y sawl sy’n cael ei gadw neu am resymau diogelwch. Gweler Nodyn 8C.
8.8 Os bydd yn ymarferol, dylid darparu ar gyfer galluogi’r rhai sy’n cael eu cadw i ymarfer eu harferion crefyddol. Dylid ystyried darparu ystafell ar wahân y gellir ei defnyddio fel ystafell weddi. Dylid hefyd ystyried darparu bwyd a dillad priodol, a darpariaeth addas ar gyfer cyfleusterau gweddi, megis copïau glân o lyfrau crefyddol. Gweler Nodyn 8D.
8.9 Ni ddylid rhoi person ifanc mewn cell oni bai nad oes unrhyw safle diogel arall ar gael ac os yw swyddog y ddalfa o’r farn nad yw hi’n ymarferol ei oruchwylio os nad yw’n cael ei roi mewn cell, neu fod cell yn rhoi lle mwy cyffyrddus iddo na man diogel arall yn yr orsaf. Ni ellir rhoi person ifanc mewn cell gydag oedolyn sy’n cael ei gadw.
8.10 Dylai gorsafoedd heddlu gadw cyflenwad rhesymol o ddeunydd darllen ar gyfer rhai a gedwir, gan gynnwys ond heb gyfyngu i hynny, y prif destunau crefyddol. Gweler Nodyn 8D. Dylai rhai a gedwir fod yn ymwybodol bod deunydd o’r fath ar gael, a dylid ymateb i geisiadau am ddeunydd o’r fath cyn gynted â phosibl, oni bai y byddai gwneud hynny yn:
(i) ymyrryd gyda’r ymchwiliad; neu
(ii) rwystro neu oedi swyddog rhag parhau â’i ddyletswyddau statudol, neu’r rheiny yn y Cod hwn.
Os gwrthodir cais o’r fath ar sail (i) neu (ii) uchod, dylid nodi hyn yng nghofnod y ddalfa ac ymateb yn gadarnhaol i’r cais mor fuan â phosib ar ôl i’r rhesymau uchod beidio bod yn berthnasol.
(b) Dogfennaeth
8.11 Rhaid gwneud cofnod o ddillad a phrydau a gynigir.
8.11A Os rhoddir person ifanc mewn cell, rhaid cofnodi’r rheswm dros wneud hynny.
8.12 Cofnodir y defnydd o unrhyw gyfyngiadau ar y sawl sy’n cael ei gadw tra’i fod mewn cell, y rhesymau dros wneud hynny ac, os yw hynny’n briodol, y trefniadau i oruchwylio’r sawl sy’n cael ei gadw ymhellach ar ôl ei gyfyngu. Gweler paragraff 3.9
Nodiadau Arweiniad
8A Wrth benderfynu a ddylid caniatáu i deuluoedd neu gyfeillion ddarparu prydau, mae gan swyddog y ddalfa’r hawl i ystyried y risg o eitemau’n cael eu cuddio mewn unrhyw fwyd neu becyn, a dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swyddog o dan ddeddfwriaeth trin bwyd. Os bydd swyddog angen archwilio bwyd neu eitemau eraill a ddaw oddi wrth deulu neu ffrindiau cyn penderfynu a ddylid eu rhoi i’r sawl sy’n cael ei gadw, dylai roi gwybod i’r unigolyn sydd wedi dod â’r eitem i orsaf yr heddlu a’r rhesymau am wneud hynny.
8B Cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, dylid cynnig prydau ar adegau prydau penodol, neu ar adegau eraill sy’n ystyried pryd gafodd y sawl sy’n cael ei gadw bryd o fwyd ddiwethaf.
8C Yng ngoleuni’r posibilrwydd o gadw unigolion yn y ddalfa am gyfnodau estynedig, dylid rhoi lle ac amser i gyfnod o ymarfer fel prif egwyddor, oni bai y byddai hynny’n amharu ar yr ymchwiliad, oedi rhyddhau neu gyhuddo’r unigolyn, neu os caiff ei wrthod gan yr unigolyn sydd yn y ddalfa.
8D Dylai heddluoedd ymgynghori â chynrychiolwyr y prif gymunedau crefyddol i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer cadw arferion crefyddol yn ddigonol, a gofyn am gyngor ar storio a thrafod testunau crefyddol neu eitemau crefyddol eraill.
8E Mae Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Cadw a Dalfa (APP) a gynhyrchir gan y Coleg Plismona (gweler http://www.app.college.police.uk) yn rhoi arweiniad mwy manwl ar faterion yn ymwneud â gofal iechyd a thriniaeth y sawl sy’n cael ei gadw a materion fforensig cysylltiedig y dylid eu darllen ar y cyd ag adrannau 8 a 9 y Cod hwn.
8F Mewn celloedd sy’n destun monitro CCTV, dylid sicrhau preifatrwydd yn ardal y toiled trwy unrhyw fodd priodol a dylid sicrhau bod y rhai sy’n cael eu cadw yn ymwybodol o hyn pan gânt eu rhoi yn y gell. Os yw unigolyn sy’n cael ei gadw neu oedolyn priodol ar ei ran, yn mynegi amheuon ynghylch effeithiolrwydd y modd a ddefnyddir, dylid cymryd camau rhesymol i dawelu’r amheuon hynny, er enghraifft, trwy egluro neu ddangosy modd a ddefnyddir.
9 Gofal a thriniaeth pobl sy’n cael eu cadw
(a) Cyffredinol
9.1 Er gwaethaf ceisiadau eraill am sylw meddygol fel y’u gosodir yn yr adran hon, rhaid i weithiwr proffesiynol gofal iechyd ymweld ag unigolion sy’n cael eu dal yn y ddalfa am fwy na 96 o oriau unwaith bob 24 awr.
9.2 Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn atal yr heddlu rhag galw ar weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol i archwilio sawl sy’n cael ei gadw, at ddibenion cael tystiolaeth yn ymwneud ag unrhyw drosedd y mae’r sawl sy’n cael ei gadw dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig ag ef. Gweler Nodyn 9A.
9.3 Os gwneir cwyn gan y sawl sy’n cael ei gadw, neu ar ei ran, ynghylch ei driniaeth ers iddo gael ei arestio, neu os yw’n dod i’r amlwg y gallai sawl sy’n cael ei gadw fod wedi cael ei drin yn anghywir, rhaid paratoi adroddiad cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, i swyddog o safle arolygydd neu uwch, nad yw’n ymwneud â’r ymchwiliad. Os yw’r mater yn ymwneud ag achos posibl o ymosod, neu’r posibilrwydd y defnyddiwyd grym afresymol neu ddiangen, rhaid galw am weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
9.4 Dylid ymweld â rhai sy’n cael eu cadw o leiaf unwaith bob hanner awr. Os na nodir unrhyw risg y gellir fod wedi ei ragweld mewn asesiad risg, gweler paragraffau 3.6 i 3.10, nid oes angen deffro person sy’n cysgu. Dylai’r rhai yr amheuir eu bod yn feddw neu dan ddylanwad cyffuriau, neu wedi llyncu cyffuriau, gweler Nodyn 9C, neu y mae lefel eu hymwybyddiaeth yn destun pryder, yn amodol i unrhyw gyfarwyddiadau clinigol a roddwyd gan y gweithiwr gofal iechyd priodol, gweler paragraff 9.15:
(a) gael ymweld â nhw a’u deffro o leiaf bob hanner awr;
(b) gael asesu eu cyflwr fel y nodir yn Atodiad H;
(c) a threfnu triniaeth glinigol ar eu cyfer os yw hynny’n briodol.
Gweler Nodiadau 9B, 9C a 9G
9.4A Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd yr orsaf heddlu, rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw gael cyfle i siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa sydd os ydynt yn dymuno, o’r un rhyw a nhw (gweler paragraff 1.17 (c)), am unrhyw fater sy’n ymwneud ag anghenion personol y sawl sy’n cael ei gadw sy’n gysylltiedig â’u hiechyd, hylendid a lles a allai effeithio arnynt neu achosi pryder iddynt tra maent yn y ddalfa. Os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn dymuno manteisio ar y cyfle hwn, bydd y trefniadau angenrheidiol yn cael eu gwneud cyn gynted ag sy’n ymarferol. Yn achos person ifanc neu berson sy’n agored i niwed, rhaid i’r oedolyn priodol fod yn rhan o’r drafodaeth yn unol â pharagraff 3.17 [ac yn achos merch o dan 18 oed, gweler paragraff 3.21A. (Gweler Nodyn 9CB).
9.4B Gofynnir, yn breifat os yw’n bosibl, ac ar y cyfle cyntaf i bob benyw dros 18 oed neu hŷn, a oes angen neu a ydynt yn debygol o fod angen unrhyw gynhyrchion mislif tra byddant yn y ddalfa. Rhaid dweud wrthyn nhw hefyd y byddan nhw’n cael eu darparu yn rhad ac am ddim a bod cynhyrchion glân ar gael. Yn ôl disgresiwn swyddog y ddalfa, gall teulu neu gyfeillion y sawl sy’n cael ei gadw darparu cynhyrchion mislif, a thalu amdanynt (gweler Nodyn 9CC). Ar gyfer merched o dan 18 oed, gweler paragraff 3.21A.
9.5 Pan wneir trefniadau i sicrhau sylw clinigol ar gyfer y sawl sy’n cael ei gadw, rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau y darperir yr holl wybodaeth berthnasol a allai gynorthwyo wrth drin cyflwr y sawl sy’n cael ei gadw i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyfrifol. Mae hyn yn berthnasol os yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am wybodaeth o’r fath neu beidio. Rhaid i unrhyw swyddog neu staff heddlu sydd â’r wybodaeth berthnasol hysbysu swyddog y ddalfa cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
(b) Sylw a thriniaeth glinigol
9.6 Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael sylw clinigol priodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol os:
(a) yw hi’n ymddangos bod y person yn dioddef salwch corfforol; neu
(b) os yw wedi ei anafu; neu
(c) os yw’n ymddangos ei fod yn dioddef anhwylder meddwl; neu
(d) os yw’n ymddangos bod angen sylw clinigol arno
9.7 Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am sylw clinigol ac os yw wedi cael sylw clinigol mewn rhywle arall eisoes neu beidio. Os yw’n ymddangos bod angen sylw brys arno, e.e. fel nodir yn Atodiad H, rhaid galw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd ar gael neu ambiwlans yn syth.
9.8 Mae’n rhaid i swyddog y ddalfa hefyd ystyried yr angen am sylw clinigol fel nodwyd yn Nodyn 9C mewn perthynas â rhai sy’n dioddef effeithiau alcohol a chyffuriau.
9.9 Os yw hi’n ymddangos i swyddog y ddalfa ei bod hi’n bosibl bod person sy’n cyrraedd yr orsaf ar ôl cael ei arestio, yn dioddef clefyd neu gyflwr heintus, neu os oes rhywun yn dweud hynny wrth swyddog y ddalfa, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i ddiogelu iechyd y sawl sy’n cael ei gadw ac eraill yn yr orsaf. Wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd, rhaid gofyn am gyngor gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol. Gweler Nodyn 9D. Mae gan swyddog y ddalfa’r disgresiwn i gadw’r person a’i eiddo ar wahân nes y ceir cyfarwyddiadau clinigol.
9.10 Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn am archwiliad clinigol, rhaid galw ar weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol er mwyn asesu anghenion clinigol y sawl sy’n cael ei gadw. Os na ellir darparu cynllun gofal priodol a diogel, rhaid gofyn am gyngor gweithiwr gofal iechyd priodol. Gall y sawl sy’n cael ei gadw ddewis ymarferwr meddygol i’w archwilio hefyd, a thalu amdano.
9.11 Os oes rhaid i sawl sy’n cael ei gadw gymryd neu ddefnyddio unrhyw feddyginiaeth er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddiadau clinigol a roddwyd iddo cyn ei ddwyn i’r ddalfa, rhaid i swyddog y ddalfa ymgynghori â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol cyn defnyddio’r feddyginiaeth. Yn unol â chyfyngiadau paragraff 9.12, mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am gadw unrhyw feddyginiaeth yn ddiogel ac am sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael cyfle i gymryd neu ddefnyddio meddyginiaeth a ragnodwyd neu a gymeradwywyd. Nodir unrhyw ymgynghori o’r fath, a’i ganlyniad, yn y cofnod cadw.
9.12 Ni chaniateir i unrhyw swyddog heddlu roi cyffuriau a reolir a roddwyd ar bresgripsiwn meddygol, neu oruchwylio’r person yn eu rhoi iddo’i hunan, fel y mathau a’r ffurfiau a restrir yn Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, Atodlen 2 neu 3. Yr unig adeg y gall y sawl sy’n cael ei gadw roi cyffuriau o’r fath iddo’i hun yw dan oruchwyliaeth yr ymarferwr meddygol cofrestredig sy’n awdurdodi y gellir eu defnyddio. Gall swyddog y ddalfa oruchwylio hunan weinyddu, neu awdurdodi staff eraill y ddalfa i oruchwylio hunan weinyddu, cyffuriau a restrir yn Atodlen 4 neu 5 os yw’r swyddog wedi ymgynghori â’r gweithiwr gofal iechyd priodol sy’n awdurdodi y gellir eu defnyddio, a’u bod ill dau yn fodlon na fydd hunan weinyddu yn amlygu’r sawl sy’n cael ei gadw, swyddogion yr heddlu nac unrhyw un arall, mewn perygl o gael niwed neu anaf.
9.13 Pan fo gweithiwyr gofal iechyd proffesiynol priodol yn rhoi neu’n awdurdodi defnyddio cyffuriau neu feddyginiaethau eraill, neu’n ymgynghori â swyddog y ddalfa ynghylch caniatáu hunan weinyddu o gyffuriau a restrir yn Atodlen 4 neu 5, rhaid i hyn gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch meddyginiaethau a chwmpas ymarfer fel y pennwyd gan eu corff rheoleiddio perthnasol.
9.14 Os oes gan y sawl sy’n cael ei gadw feddyginiaeth yn ymwneud â chyflwr ar y galon, diabetes, epilepsi neu gyflwr sy’n gallu bod yr un mor ddifrifol, neu os yw’n honni bod angen meddyginiaeth o’r fath arno, rhaid cael cyngor y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, hyd yn oed os na fydd paragraff 9.6 o bosib yn berthnasol.
9.15 Pan elwir ar y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn unol â’r adran hon i archwilio neu drin y sawl sy’n cael ei gadw, bydd swyddog y ddalfa yn gofyn ei farn am:
-
unrhyw beryglon neu broblemau y bydd angen i’r heddlu eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch parhau i gadw’r person;
-
pryd i gynnal cyfweliad os yw hynny’n berthnasol; ac
-
yr angen am fesurau diogelwch.
9.16 Pan roddir cyfarwyddiadau clinigol gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol, ar lafar neu ar bapur, ac os oes gan swyddog y ddalfa unrhyw amheuon neu os yw’n ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar y cyfarwyddiadau, bydd swyddog y ddalfa yn gofyn am eglurhad. Mae’n arbennig o bwysig bod y cyfarwyddiadau ynghylch amlder ymweliadau yn eglur, yn fanwl ac yn gallu cael eu Gweithredu. Gweler Nodyn 9E.
(c) Dogfennaeth
9.17 Rhaid cofnodi’r canlynol yn y cofnod cadw:
(a) y trefniadau a wneid i archwilio’r person gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol o dan baragraff 9.3 ac unrhyw gŵyn a adroddir dan y paragraff hwnnw ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol gan swyddog y ddalfa;
(b) unrhyw drefniadau a wneir yn unol â pharagraff 9.6;
(c) unrhyw gais am archwiliad clinigol o dan baragraff 9.10 ac unrhyw drefniadau a wnaethpwyd mewn ymateb i hyn;
(d) yr anaf, salwch, cyflwr neu’r rheswm arall a olygodd bod angen gwneud y trefniadau yn (a) i (c); Gweler Nodyn 9F
(e) unrhyw gyfarwyddiadau a chyngor clinigol, gan gynnwys unrhyw esboniadau pellach a roddir i’r heddlu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch gofal a thriniaeth y sawl sy’n cael ei gadw, yn ymwneud ag unrhyw un o’r trefniadau a wnaethpwyd yn (a) i (c);
Gweler Nodiadau 9D a 9E
(f) os yn berthnasol, yr ymateb a gafwyd wrth geisio deffro person trwy ddefnyddio’r drefn yn Atodiad H. Gweler Nodyn 9G.
9.18 Os na fydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cofnodi ei ganfyddiadau clinigol yn y cofnod cadw, rhaid i’r cofnod ddangos lle y cânt eu cofnodi. Gweler Nodyn 9F. Fodd bynnag, rhaid cofnodi gwybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer staff cadw er mwyn sicrhau gofal a lles parhaus y sawl sy’n cael ei gadw, yn agored yn y corned cadw gweler paragraff 3.8 ac Atodiad G, paragraff 7.
9.19 Yn amodol i ofynion Adran 4, bydd y cofnod cadw yn cynnwys:
-
cofnod o’r holl feddyginiaeth a oedd gan y sawl sy’n cael ei gadw pan gyrhaeddodd orsaf yr heddlu;
-
nodyn o unrhyw feddyginiaeth o’r fath y mae’n honni bod ei hangen, ond nad oes ganddo.
Nodiadau Arweiniad
9A Mae ‘gweithiwr gofal iechyd proffesiynol’ yn golygu person sydd â chymwysterau clinigol ac sy’n gweithio yng nghwmpas ymarfer a bennwyd gan ei gorff proffesiynol perthnasol. Mae penderfynu a yw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ‘briodol’ neu beidio yn dibynnu ar amgylchiadau’r dyletswyddau a gyflawnir ganddo ar y pryd.
9B Ble bynnag fo’n bosibl, dylid ymweld ag unigolion ifanc ac unigolion sy’n agored i niwed yn fwy cyson yn ystod eu cyfnod cadw.
9C Gallai person sy’n ymddangos yn feddw neu sy’n ymddwyn yn annormal fod yn dioddef o salwch, effeithiau cyffuriau neu wedi cael ei anafu, yn enwedig anaf i’r pen nad yw’n amlwg. Gallai person sydd angen neu sy’n ddibynnol ar gyffuriau arbennig, gan gynnwys alcohol, brofi effeithiau niweidiol o fewn cyfnod byr, o beidio â chael ei gyflenwad o gyffuriau. Dan yr amgylchiadau hyn, pan geir unrhyw amheuaeth, dylai’r heddlu ymateb ar fyrder trwy alw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol neu ambiwlans. Nid yw paragraff 9.6 yn berthnasol i salwch na mân anafiadau nad oes angen rhoi sylw iddynt. Fodd bynnag, rhaid cofnodi pob salwch neu anaf o’r fath yn y cofnod cadw a rhaid datrys unrhyw amheuaeth trwy alw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol.
9CB Mae materion sy’n ymwneud ag anghenion personol y mae paragraff 9.4A yn berthnasol iddynt yn cynnwys unrhyw ofyniad am gynhyrchion mislif ac anymataliaeth ac offer colostomi, lle na nodwyd yr anghenion hyn o’r blaen (gweler paragraff 3.5 (c)). Mae hefyd yn galluogi menywod sy’n oedolion i siarad yn breifat â swyddog benywaidd am eu gofynion ar gyfer cynhyrchion mislif os ydynt yn gwrthod ymateb i’r ymholiad mwy uniongyrchol a ragwelir o dan baragraff 9.4B. Dylid hwyluso’r cyswllt hwn ar unrhyw adeg, lle bo hynny’n bosibl.
9CC Mae Arweiniad manwl ar gyfer swyddogion heddlu a staff ynghylch menywod sy’n cael eu mislif yn nalfa’r heddlu wedi’u cynnwys yn Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig (APP) y Coleg Plismona (APP).
9D Mae’n bwysig parchu hawl person i breifatrwydd a rhaid cadw gwybodaeth am ei iechyd yn gyfrinachol a’i ddatgelu ar ôl cael ei ganiatâd neu’n unol â chyngor clinigol pan fo angen amddiffyn iechyd y sawl sy’n cael ei gadw neu iechyd eraill sy’n ymwneud ag ef.
9E Dylai swyddog y ddalfa geisio egluro cyfarwyddiadau bod angen arsylwi neu oruchwylio’r sawl sy’n cael ei gadw yn gyson, a dylai ofyn i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol esbonio’n union pa gamau y mae angen eu cymryd er mwyn ymgorffori cyfarwyddiadau o’r fath.
9F Nid yw paragraffau 9.17 a 9.18 yn gofyn am gofnodi unrhyw wybodaeth am achos unrhyw anaf, salwch neu gyflwr yn y cofnod cadw os yw’n ymddangos ei fod yn gallu darparu tystiolaeth am drosedd.
9G Diben cofnodi ymatebion person wrth geisio’i ddeffro trwy ddefnyddio’r drefn yn Atodiad H yw galluogi nodi unrhyw newid yn lefel ymwybyddiaeth y person, a threfnu triniaeth glinigol os yw hynny’n briodol.
10 Rhybuddion
(a) Pryd y mae’n rhaid rhoi rhybudd
10.1 Rhaid rhoi rhybudd i berson pan fydd sail i amau ei fod wedi cyflawni trosedd, gweler Nodyn 10A, cyn ei holi ynghylch trosedd, neu ofyn cwestiynau pellach iddo os yw’r atebion yn sail i’w amau, os gellir defnyddio atebion neu ddistawrwydd y sawl sydd dan amheuaeth, (h.y. methu neu wrthod ag ateb neu ateb yn foddhaol) fel tystiolaeth mewn llys wrth erlyn.
10.2 Nid oes unrhyw ofyniad i roi rhybuddiad i droseddwr terfysgol ar drwydded sy’n cael ei arestio o dan adran 43B o TACT. Mae adran 43B yn bŵer i arestio heb warant o dan amgylchiadau lle yr amheuir tor-drwydded, lle mae risg terfysgaeth ac yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol cadw’r troseddwr hyd nes y bydd y gwasanaeth prawf yn gwneud penderfyniad galw’n ôl. Nid yw’n dibynnu ar y person yn cyflawni trosedd. Yn dilyn arestiad dan adran 43B, os bydd cwnstabl heddlu yn amau’n rhesymol bod trosedd wedi’i chyflawni, byddai angen i’r troseddwr terfysgol gael ei ail-arestio o dan adran 41 TACT neu adran 24 o PACE a rhoi rhybuddiad iddo fel y bo’n briodol.
10.3 Rhaid hysbysu person sy’n cael ei arestio, neu’n cael ei arestio ymhellach, ar y pry dos yw’n ymarferol neu, os na, cyn gynted ag y daw’n ymarferol wedi hynny, ei fod wedi’I arestio ac am y seiliau a’r rhesymau dros ei arestio, gweler paragraff 3.4, Nodyn 3G a Nodyn 10B.
10.4 Fel sy’n ofynnol gan adran 3 o God G PACE, rhaid i berson sy’n cael ei arestio, neu ei arestio ymhellach, ac eithrio arestiadau o dan adran 43B, gael rhybuddiad hefyd oni bai:
(a) ei bod yn anymarferol i wneud hynny oherwydd eu cyflwr neu ymddygiad ar y pryd; neu
(b) eu bod eisoes wedi cael rhybuddiad yn union cyn eu harestio fel ym mharagraff 10.1.
(b) Amodau’r rhybudd
10.5 Dylai’r rhybudd, y mae’n rhaid ei roi:
(a) wrth arestio;
(b) ar bob achlysur arall cyn cyhuddo rhywun neu ei hysbysu y gallai gael ei erlyn; gweler PACE Cod C, adran 16, ac
(c) cyn cwestiynu wedi cyhuddo dan adran 22 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (gweler adran 15.9), oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C, ddilyn y ffurf ganlynol:
“You do not have to say anything. But it may harm your defence if you do not mention when questioned something which you later rely on in Court. Anything you do say may be given in evidence.”
Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gall cwnstabl ddarparu’r rhybudd yn uniongyrchol yn Gymraeg yn y termau canlynol:
“Does dim rhaid i chi ddweud dim byd. Ond gall niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chi’n sôn, wrth gael eich holi, am rywbeth y byddwch chi’n dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.”
Gweler Nodyn 10F
10.6 Mae Atodiad C, paragraff 2 yn nodi termau amgen y rhybudd i’w roi pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol.
10.7 Nid yw achosion o wyro ychydig ar eiriad unrhyw rybudd a roddir yn unol â’r Cod yma, yn golygu y torrir y Cod yma, ar yr amod bod ystyr y rhybudd perthnasol wedi’i ddiogelu. Gweler Nodyn 10C.
10.8 Ar ôl unrhyw doriad wrth holi rhywun ar ôl rhoi rhybudd iddo, rhaid sicrhau bod y person a holir yn ymwybodol ei fod yn parhau i fod dan rybudd. Os ceir unrhyw amheuaeth, rhaid rhoi’r rhybudd perthnasol unwaith eto yn llawn ar ôl i’r cyfweliad ailgychwyn. Gweler Nodyn 10D.
10.9 Os bydd unigolyn, er ei fod wedi cael ei rybuddio, yn parhau i fethu cydweithredu neu ateb cwestiynau penodol a allai effeithio ar y ffordd y bydd yn cael ei drin, dylid hysbysu’r person o unrhyw oblygiadau perthnasol, ac na effeithir ar y goblygiadau hynny gan y rhybudd. Mae enghreifftiau’n cynnwys pan fo person yn gwrthod darparu:
-
ei enw a’i gyfeiriad wrth ei gyhuddo, a allai olygu y bydd yn rhaid ei gadw;
-
manylion a gwybodaeth yn unol â gofyniad statudol.
(c) Rhybuddion arbennig dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 36 a 37
10.10 Pan fo’r sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei gyfweld mewn gorsaf heddlu neu fan cadw awdurdodedig ar ôl ei arestio, ac yn methu ag ateb neu’n gwrthod ateb cwestiynau penodol, neu ateb yn foddhaol ar ôl rhoi rhybudd digonol, gweler Nodyn 10E, gall llys neu reithgor ddod i gasgliadau sy’n briodol o dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 36 a 37. Yr unig adeg y gellir dod i gasgliadau o’r fath yw:
(a) pan na fydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, yn berthnasol; ac
(b) os yw’r sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei arestio gan heddwas ac yn methu esbonio neu’n gwrthod esbonio unrhyw wrthrychau, marciau neu sylweddau, neu farciau ar wrthrychau o’r fath a ganfuwyd:
-
arno’n bersonol;
-
yn neu ar ei ddillad neu ei esgidiau;
-
yn ei feddiant fel arall; neu
-
yn y man lle cafodd ei arestio;
(c) pan fydd heddwas wedi dod o hyd i’r sawl sydd dan amheuaeth mewn man neu oddeutu’r un adeg pryd yr honnwyd y cyflawnwyd y drosedd y cafodd ei arestio yn ei gylch, ac os yw’r sawl sydd dan amheuaeth yn methu neu’n gwrthod esbonio’i bresenoldeb yno.
Pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, efallai y gofynnir i’r sawl sydd dan amheuaeth roi cyfrif am unrhyw un o’r materion yn (b) neu (c) ond ni fydd y rhybudd arbennig a ddisgrifiwyd ym mharagraff 10.10 yn berthnasol ac ni ddylid ei roi.
10.11 Er mwyn ffurfio casgliad pan fo sawl sydd dan amheuaeth yn methu neu’n gwrthod ateb cwestiwn ynghylch un o’r materion hyn, neu’n methu neu wrthod â’i ateb yn foddhaol, rhaid hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth, mewn iaith gyffredin:
(a) o ba drosedd yr ymchwilir iddo;
(b) o ba ffaith y gofynnir iddo ei hesbonio;
(c) y gallai’r ffaith hon fod oherwydd iddo gymryd rhan wrth gomisiynu’r drosedd;
(d) y gallai llys ddod i gasgliad priodol os yw’n methu neu’n gwrthod esbonio’r ffaith hon; a
(e) bod cofnod yn cael ei baratoi o’r cyfweliad ac y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth pe bai achos yn deillio o’r mater.
(d) Pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed
10.12 A Ni ddylid rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol ym mharagraff 10.10 i rywun dan amheuaeth os yw’n berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed oni bai bod yr oedolyn priodol yn bresennol.
10.13 Os rhoddir rhybudd i berson ifanc neu berson sy’n agored i niwed, yn absenoldeb yr oedolyn priodol, rhaid ailadrodd y rhybudd ym mhresenoldeb yr oedolyn.
10.14A Heb ei ddefnyddio.
(e) Dogfennaeth
10.14 Gwneir cofnod pan roddir rhybudd dan yr adran hon, naill ai yn llyfr poced y cyfwelydd neu yng nghofnod y cyfweliad.
Nodiadau Arweiniad
10A Rhaid bod peth sail resymol a gwrthrychol dros amau rhywun, yn seiliedig ar ffeithiau hysbys neu wybodaeth sy’n berthnasol i’r tebygolrwydd bod y drosedd wedi cael ei chyflawni ac mai’r person a holir, a’i cyflawnodd.
10B Rhaid rhoi digon o wybodaeth i berson sy’n cael ei arestio er mwyn ei alluogi i ddeall y cyfyngwyd ar ei ryddid a’r rheswm dros ei arestio, e.e. pan fo person yn cael ei arestio dan amheuaeth o gyflawni trosedd, rhaid ei hysbysu ynghylch natur y drosedd yr amheuir iddo’i chyflawni, pryd a ble y’i cyflawnwyd, gweler Nodyn 3G. Rhaid hysbysu’r sawl sydd dan amheuaeth hefyd o’r rheswm neu’r rhesymau pam fod arestio yn angenrheidiol. Dylid osgoi iaith annelwig neu dechnegol.
10C Os yw’n ymddangos nad yw person yn deall y rhybudd, rhaid i ‘r un sy’n ei roi ei esbonio yn ei eiriau ei hun.
10D Efallai y bydd angen dangos i’r llys na ddigwyddodd unrhyw beth yn ystod egwyl cyfweliad neu rhwng cyfweliadau a ddylanwadodd ar dystiolaeth a gofnodwyd y sawl sydd dan amheuaeth. Ar ôl egwyl mewn cyfweliad neu ar ddechrau cyfweliad dilynol, dylai’r swyddog cyfweld roi crynodeb o’r rheswm dros yr egwyl a chadarnhau hynny gyda’r sawl sydd dan amheuaeth.
10E Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 36 a 37, yn berthnasol i unigolion dan amheuaeth a arestiwyd gan gwnstabl neu swyddog Cyllid a Thollau yn unig, ac y rhoddir y rhybudd perthnasol iddynt gan yr heddlu neu’r swyddog Cyllid a Thollau sy’n eu harestio, neu sy ‘n ymchwilio i’r drosedd. Nid ydynt yn berthnasol i unrhyw gyfweliadau gyda’r rhai nad ydynt wedi cael eu harestio.
10F Nid oes unrhyw ran o’r Cod yma yn mynnu y dylid rhoi rhybudd neu ailadrodd rhybudd wrth hysbysu rhywun nad yw wedi cael ei arestio, y gellir ei erlyn am drosedd. Fodd bynnag, ni fydd llys barn yn gallu dod i unrhyw gasgliadau dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adran 34, os na roddwyd rhybudd i’r person.
11 Cyfweliadau - cyffredinol
(a) Gweithredu
11.1 Ystyr cyfweliad yn y Cod hwn yw cwestiynu unigolyn a arestiwyd dan amheuaeth o fod yn derfysgwr a rhaid, dan baragraff 10.1, gwneud hynny dan rybudd.
11.1A Ni fydd troseddwr terfysgol ar drwydded a arestiwyd o dan adran 43B TACT wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni trosedd ac felly ni fydd yn cael ei gyfweld dan rybuddiad. Pryd bynnag y bydd person yn cael ei gyfweld, mae’n rhaid ei hysbysu ef a’i gyfreithiwr o’r sail dros arestio, a rhoi digon o wybodaeth iddynt i’w galluogi i ddeall natur eu rhan a amheuir wrth ymwneud â threfnu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgol (gweler paragraff 3.4(a)) er mwyn caniatáu ar gyfer arfer hawliau’r amddiffyniad yn effeithiol. Fodd bynnag, er bod rhaid i’r wybodaeth bob amser fod yn ddigon o wybodaeth i’r person ddeall natur yr amheuaeth y mae’n ymwneud â’r gwaith o drefnu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgol, nid yw hyn yn gofyn am ddatgelu manylion ar adeg a allai niweidio’r ymchwiliad i derfysgaeth. (Gweler Nodyn 3G). Felly, y swyddog ymchwilio sydd â gwybodaeth ddigonol am yr achos i wneud y penderfyniad hwnnw sy’n penderfynu beth sydd angen ei ddatgelu at ddiben y gofyniad hwn. Bydd y swyddog sy’n datgelu’r wybodaeth yn gwneud cofnod o’r wybodaeth a ddatgelwyd a phryd y’i datgelwyd. Gellir gwneud y cofnod hwn yng nghofnod y cyfweliad, yn llyfr adroddiadau’r swyddog neu ar ffurf arall a ddarperir at y diben hwn. Gweler Nodyn 11ZA.
11.2 Yn dilyn arestio person dan adran 41 TACT, ni ddylid cyfweld y person hwnnw ynghylch y drosedd dan sylw mewn unrhyw le ar wahân i le a ddynodwyd ar gyfer cadw dan Atodlen 8 paragraff 1 o Ddeddf Terfysgaeth 2000, ac eithrio lle gallai’r oedi dilynol fod yn debygol o:
(a) arwain at:
-
ymyrryd neu niweidio tystiolaeth sy’n gysylltiedig â throsedd;
-
ymyrryd â phobl eraill, neu achosi niwed corfforol iddynt; neu
-
golled neu ddifrod difrifol i eiddo;
(b) arwain at hysbysu pobl eraill sydd dan amheuaeth o gyflawni trosedd, ond nad ydynt wedi cael eu harestio am y drosedd hyd yma; neu
(c) amharu ar y gwaith o adennill eiddo a gafwyd o ganlyniad i gomisiynu trosedd.
O dan unrhyw un o’r amgylchiadau hyn, bydd y cyfweliad yn dod i ben unwaith y mae’r risg perthnasol wedi’i osgoi neu unwaith y gofynnir y cwestiynau angenrheidiol er mwyn ceisio osgoi’r risg hwnnw.
11.3 Yn union cyn cychwyn neu ailgychwyn unrhyw gyfweliad mewn man cadw penodedig, dylai’r cyfwelydd atgoffa’r sawl sydd dan amheuaeth o’i hawl i gael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim ac y gellir gohirio’r cyfweliad er mwyn iddo gael cyngor cyfreithiol, oni bai fod un o’r eithriadau ym mharagraff 6.7 yn berthnasol. Y cyfwelydd sy’n gyfrifol am sicrhau y cofnodir yr holl achosion o atgoffa yng nghofnod y cyfweliad.
11.4 Ar ddechrau cyfweliad, bydd y cyfwelydd, ar ôl rhybuddio’r sawl sydd dan amheuaeth, gweler adran 10, yn sôn wrtho am unrhyw ddatganiad neu ddistawrwydd arwyddocaol a ddigwyddodd ym mhresenoldeb ac yng nghlyw swyddog yr heddlu neu staff heddlu eraill cyn dechrau’r cyfweliad ac na soniwyd wrth y sawl sydd dan amheuaeth amdano yn ystod y cyfweliad blaenorol. Gweler Nodyn 11A. Bydd y cyfwelydd yn gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth a yw’n cadarnhau neu’n gwadu’r datganiad neu’r distawrwydd blaenorol hwnnw ac a yw’n dymuno ychwanegu unrhyw beth.
11.5 Ystyr datganiad arwyddocaol yw datganiad y mae’n ymddangos y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y sawl sydd dan amheuaeth, yn arbennig, cyfaddefiad uniongyrchol ei fod yn euog. Ystyr distawrwydd arwyddocaol yw methu neu wrthod ateb cwestiwn neu fethu neu wrthod ateb cwestiwn yn foddhaol yn dilyn rhybudd, a allai arwain, gan ystyried y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, at gasgliad dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, Rhan III.
11.6 Ni fydd unrhyw gyfwelydd yn ceisio cael atebion neu gael datganiad yn uniongyrchol trwy ormesu. Ac eithrio sefyllfa paragraff 10.8, ni fydd unrhyw gyfwelydd yn nodi, oni bai ei fod yn ateb cwestiwn uniongyrchol, y camau y bydd yr heddlu’n eu cymryd os bydd y person a holir yn ateb cwestiynau, yn gwneud datganiad neu’n gwrthod gwneud yr un o’r ddau. Os yw’r person yn gofyn yn uniongyrchol pa gamau a gymerir os bydd yn ateb cwestiynau, gwneud datganiad neu’n gwrthod gwneud yr un o’r ddau, fe all y cyfwelydd ddweud wrtho pa gamau y mae’r heddlu yn bwriadu eu cymryd ar yr amod bod y camau hynny’n briodol ac yn gyfiawn.
11.7 Rhaid i gyfweliad neu gyfweliad pellach gyda pherson ynghylch trosedd nad yw’r person hwnnw wedi cael ei gyhuddo o’i gyflawni, neu nad yw wedi cael gwybod y gallai gael ei erlyn yn ei gylch, ddod i ben:
(a) pan fo’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad wedi’i fodloni bod yr holl gwestiynau y mae’n eu hystyried sy’n berthnasol er mwyn cael gwybodaeth gywir a dibynadwy am y drosedd, wedi eu gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r cyfle i’r sawl sydd dan amheuaeth roi esboniad diniwed a gofyn cwestiynau er mwyn profi bod yr esboniad yn gywir a dibynadwy, e.e. er mwyn dileu unrhyw amwysedd neu egluro’r hyn a ddywedodd y sawl sydd dan amheuaeth;
(b) pan fo’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad wedi ystyried unrhyw dystiolaeth arall sydd ar gael; a
(c) phan fo’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad, neu yn achos person dan amheuaeth sy’n cael ei gadw, swyddog y ddalfa, gweler PACE Cod C paragraff 16.1, o’r farn resymol bod digon o dystiolaeth i sicrhau cyfle realistig o gollfarnu’r person o gyflawni’r drosedd yma. Gweler Nodyn 11B.
(b) Cofnodion cyfweld
11.8 Rhaid i gyfweliadau gyda pherson a gedwir dan adran 41, neu Atodlen 8, TACT gael eu recordio ar fideo gyda sain yn unol â’r Cod Ymarfer a gyhoeddir dan baragraff 3 Atodlen 8 Deddf Derfysgaeth 2000, neu yn achos cwestiynu wedi cyhuddo a awdurdodwyd dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008, y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd dan adran 25 y Ddeddf honno.
11.8A Gwneir cofnod ysgrifenedig o unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sydd dan amheuaeth, gan gynnwys sylwadau na ofynnwyd amdanynt, sydd y tu allan i gyd-destun cyfweliad ond a allai fod yn berthnasol i’r drosedd. Rhaid i’r un a wnaeth gofnod o’r fath nodi’r amser a llofnodi’r cofnod. Pan fo hynny’n ymarferol, rhoddir cyfle i’r sawl sydd dan amheuaeth ddarllen y cofnod hwnnw a llofnodi ei fod yn gywir neu nodi ym mha ffordd y mae’n ystyried fod y cofnod yn anghywir. Gweler Nodyn 11E.
11.8B Nid yw paragraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn gymwys i droseddwr terfysgol ar drwydded a gedwir o dan adran 43B o TACT oherwydd nad yw person o’r fath wedi’i arestio ar amheuaeth o gyflawni trosedd ac felly ni fydd yn cael ei gyfweld gan gwnstabl mewn gorsaf heddlu ar y sail hon. Fodd bynnag, gwneir cofnod ysgrifenedig o unrhyw sylwadau a wneir gan yr unigolyn, gan gynnwys sylwadau digymell, sydd y tu allan i gyd-destun cyfweliad ond a allai fod yn berthnasol i drosedd. Rhaid i unrhyw gofnod o’r fath gael ei amseru a’i lofnodi gan y gwneuthurwr. Pan fo’n ymarferol, rhoddir cyfle i’r unigolyn ddarllen y cofnod hwnnw a’i lofnodi fel un cywir neu nodi sut y mae’n ystyried ei fod yn anghywir.
(c) Pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed
11.9 Rhaid peidio â chyfweld person ifanc neu berson agored i niwed ynglŷn â’u rhan neu a amheuir o ymwneud â thramgwydd neu dramgwyddau troseddol, na gofyn iddynt ddarparu neu lofnodi datganiad ysgrifenedig dan rybuddiad neu gofnod o gyfweliad, yn absenoldeb yr oedolyn priodol oni bai bod paragraffau 11.2 neu 11.11 i 11.13 yn berthnasol. Gweler Nodyn 11C.
11.10 Os bydd unrhyw oedolyn priodol yn bresennol yn ystod cyfweliad, fe’i hysbysir:
-
na ddisgwylir iddo arsylwi yn unig; ac
-
mai diben ei bresenoldeb yw:
-
cynghori’r person a gyfwelir;
-
arsylwi a gynhelir y cyfweliad yn gywir ac yn deg;
-
hwyluso cyfathrebu gyda’r person a gyfwelir.
-
Gweler paragraff 1.13A.
11.10A Efallai y bydd gofyn i’r oedolyn priodol adael y cyfweliad os yw ei ymddygiad yn golygu nad yw’r cyfwelydd yn gallu cyflwyno cwestiynau’n briodol i’r sawl sydd dan amheuaeth. Bydd hyn yn cynnwys sefyllfaoedd ble mae dull neu ymddygiad yr oedolyn priodol yn atal neu’n rhwystro’n afresymol gyflwyno cwestiynau priodol i’r sawl sydd dan amheuaeth neu gofnodi ymatebion y sawl sydd dan amheuaeth (gweler Nodyn 11F). Os yw’r cyfwelydd o’r farn bod oedolyn priodol yn ymddwyn yn y fath ffordd, bydd yn atal y cyfweliad ac yn ymgynghori â swyddog nad yw ei safle yn is na safle uwch-arolygydd, os oes un ar gael, ac fel arall, swyddog nad yw ei safle yn is na safle arolygydd, nad yw’n gysylltiedig â’r ymchwiliad. Wedi siarad gyda’r oedolyn priodol, rhaid i’r swyddog yr ymgynghorwyd ag ef atgoffa’r oedolyn nad yw ei rôl dan baragraff 11.10 yn caniatáu iddo rwystro cwestiynu priodol a rhoi cyfle i’r oedolyn ymateb. Yna bydd y swyddog yr ymgynghorwyd ag ef yn penderfynu os dylai’r cyfweliad barhau heb bresenoldeb yr oedolyn priodol hwnnw. Os yw’n penderfynu y dylai, yna mae’n rhaid dod o hyd i oedolyn priodol arall cyn i’r cyfweliad barhau, oni bai fod darpariaethau paragraff 11.11 isod yn berthnasol.
(d) Rhai sydd dan amheuaeth sy’n agored i niwed - cyfweliadau brys mewn gorsafoedd heddlu
11.11 Ni cheir cyfweld yr unigolion canlynol oni bai fod swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch o’r farn y byddai oedi yn arwain at y goblygiadau a nodir ym mharagraff 11.2(a) i (c), a’i fod yn fodlon na fyddai’r cyfweliad yn niweidio cyflwr corfforol neu feddyliol y person yn sylweddol (gweler Atodiad G):
(a) cyfweliad gyda pherson ifanc neu berson sy’n agored i niwed heb yr oedolyn priodol yn bresennol (gweler Nodyn 11C);
(b) cyfweliad gydag unrhyw un ac eithrio’r rhai a ddisgrifiwyd yn (a) y mae’n ymddangos nad yw’n gallu:
-
gwerthfawrogi arwyddocâd cwestiynau a’u hatebion; neu
-
ddeall yr hyn sy’n digwydd oherwydd effeithiau diod, cyffuriau neu unrhyw salwch, anhwylder neu gyflwr;
(c) cyfweliad ble nad oes cyfieithydd wedi ei drefnu, gyda pherson y mae swyddog y ddalfa wedi pennu i fod angen cyfieithydd (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) a 3.14) a gynhelir gyda’r cyfwelydd yn siarad iaith y sawl sydd dan amheuaeth ei hun neu (yn ôl y digwydd) fel arall yn sefydlu cyfathrebiad effeithiol sy’n ddigonol i holi ac ateb y cwestiynau angenrheidiol er mwyn osgoi’r goblygiadau. Gweler paragraffau 13.2 ac 13.5.
11.12 Ni all y cyfweliadau hyn barhau unwaith y ceir digon o wybodaeth er mwyn osgoi’r goblygiadau ym mharagraff 11.2(a) i (c).
11.13 Gwneir cofnod o sail unrhyw benderfyniad i gyfweld person o dan baragraff 11.11.
Nodiadau Arweiniad
11ZA Mae’r gofyniad ym mharagraff 11.1 i sawl sydd dan amheuaeth gael digon o wybodaeth ynghylch natur yr amheuaeth ynghylch ei ymwneud â chomisiynu, paratoi neu symbylu trosedd gweithredoedd terfysgol yn berthnasol cyn y cyfweliad a p’un a yw wedi ei gynrychioli’n gyfreithiol neu beidio. Bydd beth sy’n ddigonol yn ddibynnol ar amgylchiadau’r achos, ond dylai fel arfer gynnwys, fel isafswm, disgrifiad o’r ffeithiau mewn perthynas â’r amheuaeth o ymwneud sy’n hysbys i’r swyddog, yn cynnwys yr amser a lle dan sylw. Nod hyn yw osgoi drysu’r rhai a amheuir neu fod yn aneglur ynghylch beth yr honnir y maent wedi ei wneud ac i helpu rhywun a amheuir sy’n ddiniwed i glirio’r mater yn gyflymach.
11A Nid yw paragraff 11.4 yn atal y cyfwelydd rhag sôn wrth berson dan amheuaeth am unrhyw ddistawrwydd neu ddatganiad arwyddocaol yn nes ymlaen neu mewn cyfweliad pellach.
11B Mae Cod Ymarfer Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996, paragraff 3.4 yn nodi ‘Wrth gynnal ymchwiliad, dylai’r ymchwilydd fwrw ymlaen â phob ymholiad rhesymol, os yw’r rhain yn awgrymu bod y sawl sydd dan amheuaeth yn euog neu beidio. Bydd yr hyn a fydd yn rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau arbennig.’ Dylai pob cyfwelydd gofio hyn wrth benderfynu pa gwestiynau i’w holi mewn cyfweliad.
11C Er bod pobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed, yn aml yn gallu darparu tystiolaeth ddibynadwy mewn amgylchiadau arbennig, gallant fod yn fwy tebygol o ddarparu gwybodaeth a allai fod yn annibynadwy, yn gamarweiniol neu’n arwain at rywun i’w hamau nhw, heb wybod na bwriadu gwneud hynny. Dylid cymryd gofal arbennig bob amser wrth holi person o’r fath, a dylai’r unigolyn priodol fod yn gysylltiedig â’r broses os ceir unrhyw amheuaeth ynghylch oedran, cyflwr meddyliol neu allu meddyliol y person dan sylw. Oherwydd risg tystiolaeth annibynadwy, mae’n bwysig hefyd cadarnhau unrhyw ffeithiau a gyfaddefir pan fo modd. Oherwydd y risgiau, y bwriedir i bresenoldeb yr oedolyn priodol eu lleihau, dylai swyddogion o safle uwch-arolygydd neu uwch arfer eu disgresiwn dan baragraff 11.11(a) i awdurdodi dechrau cyfweliad yn absenoldeb yr oedolyn priodol dim ond mewn achosion eithriadol, os bydd angen osgoi un neu fwy o’r risgiau penodedig ym mharagraff 11.2.
11D Dylid rhoi ystyriaeth i effaith ymestyn cyfnod cadw sawl a gedwir ac unrhyw wybodaeth a roddir ganddo ar ôl hynny, yn arbennig os yw’n perthyn i wybodaeth ar faterion na chafodd ei rhoi mewn ymateb i gwestiynu cyn hyn (gweler Atodiad G).
11E Bydd datganiadau arwyddocaol a ddisgrifiwyd ym mharagraff 11.4 bob amser yn berthnasol i’r drosedd ac mae’n rhaid eu cofnodi. Pan fo’r sawl sydd dan amheuaeth yn cytuno darllen cofnodion cyfweliadau a sylwadau eraill a llofnodi eu bod yn gywir, dylid gofyn iddo gymeradwyo’r cofnod trwy nodi, e.e. ‘Rwy’n cytuno bod hwn yn gofnod cywir o’r hyn a ddywedwyd’ ac ychwanegu ei lofnod. Os na fydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cytuno â’r cofnod, dylai’r cyfwelydd gofnodi manylion unrhyw anghytundeb a gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth i ddarllen y manylion hyn a’u llofnodi er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r anghytundeb. Dylid cofnodi unrhyw achos o wrthod llofnodi.
11F Gall yr oedolyn priodol ymyrryd os yw’n ystyried bod hyn yn angenrheidiol i helpu’r sawl sydd dan amheuaeth i ddeall unrhyw gwestiwn a holwyd ac i helpu’r sawl sydd dan amheuaeth i ateb unrhyw gwestiwn. Mae paragraff 11.10A yn berthnasol yn unig os yw dull Gweithredu neu ymddygiad yr oedolyn priodol yn atal neu’n rhwystro cwestiynau cywir rhag cael eu gofyn i’r sawl sydd dan amheuaeth mewn ffordd afresymol neu gofnodi ymateb y sawl sydd dan amheuaeth. Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys ateb cwestiynau ar ran y sawl sydd dan amheuaeth neu ddarparu atebion ysgrifenedig er mwyn i’r sawl sydd dan amheuaeth eu dyfynnu. Rhaid i swyddog sy’n penderfynu gwahardd oedolyn priodol fod mewn sefyllfa i fodloni’r llys bod y penderfyniad a wnaethpwyd yn gywir. Er mwyn gwneud hyn, efallai y bydd angen bod yn dyst i’r hyn sy’n digwydd a rhoi cyfle i gyfreithiwr y sawl sydd dan amheuaeth (os oes ganddo un) a oedd yn dyst i’r hyn a ddigwyddodd i roi sylw.
12 Cyfweliadau mewn gorsafoedd heddlu
(a) Gweithredu
12.1 Os yw swyddog yr heddlu yn dymuno cyfweld neu wneud ymholiadau sy’n gofyn am bresenoldeb sawl sy’n cael ei gadw, mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am benderfynu a ddylid trosglwyddo’r sawl sy’n cael ei gadw, i ofal y swyddog. Mae swyddog ymchwilio sy’n derbyn cystodaeth sawl sy’n cael ei gadw yn dod yn gyfrifol am ofal a thriniaeth sawl sy’n cael ei gadw i ddibenion y Cod hwn nes y bydd yn dychwelyd y sawl sy’n cael ei gadw i swyddog y ddalfa ble mae’n rhaid adrodd ar y modd y cydymffurfiodd â’r Cod tra’i fod yn gyfrifol am y sawl sy’n cael ei gadw.
12.2 Ac eithrio fel y nodir isod, mewn unrhyw gyfnod o 24 awr rhaid caniatáu cyfnod di-dor o 8 awr o leiaf i’r sawl sy’n cael eu cadw, i orffwys, yn rhydd rhag holi, teithio nac unrhyw amhariad mewn cysylltiad â’r ymchwiliad dan sylw. Dylai’r cyfnod hwn fel arfer fod yn y nos neu ar amser priodol arall sy’n ystyried pryd mae’r carcharor wedi cysgu neu orffwys ddiwethaf. Os caiff carcharor ei arestio mewn gorsaf heddlu ar ôl mynd yno’n wirfoddol, mae’r cyfnod o 24 awr yn rhedeg o’r adeg y’i arestiwyd (neu, os oedd person yn cael ei gadw dan TACT Atodlen 7 neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019) pan gafodd ei arestio, o’r amser y dechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol) ac nid yr amser cyrraedd gorsaf yr heddlu. Ni all y cyfnod gael ei dorri neu ei ohirio, ac eithrio:
(a) pan fo sail resymol dros gredu y byddai peidio ag oedi neu dorri ar draws y cyfnod yn:
(i) cynnwys risg o niwed i bobl neu golled difrifol neu ddifrod difrifol i eiddo;
(ii) gohirio rhyddhau’r person o’r ddalfa yn ddiangen; neu
(iii) niweidio canlyniad yr ymchwiliad fel arall
(b) ar gais y sawl sy’n cael ei gadw, ei oedolyn priodol neu gynrychiolydd cyfreithiol;
(c) pan fo angen oedi neu ymyrraeth er mwyn:
(i) cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a’r dyletswyddau cyfreithiol sy’n codi o dan adran 14; neu
(ii) i gymryd y camau gofynnol o dan adran 9 neu yn unol â chyngor meddygol.
Os ymyrrir â’r cyfnod yn unol ag (a), rhaid caniatáu cyfnod newydd. Nid yw ymyriadau o dan (b) ac (c) angen i gyfnod newydd gael ei ganiatáu.
12.3 Cyn cyfweld sawl sy’n cael ei gadw, bydd swyddog y ddalfa, ar ôl ymgynghori gyda’r swyddog sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol yn ôl yr angen, yn asesu a yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddigon da i’w gyfweld. Mae hyn yn golygu pennu ac ystyried y risg i gyflwr corfforol a meddyliol y sawl sy’n cael ei gadw o gynnal y cyfweliad a phennu pa gamau diogelu y mae angen eu cymryd er mwyn galluogi i’r cyfweliad gael ei gynnal. Ni fydd swyddog y ddalfa yn caniatáu i’r sawl sy’n cael ei gadw gael ei gyfweld os yw o’r farn y byddai’n peri niwed sylweddol i gyflwr corfforol neu feddyliol y sawl sy’n cael ei gadw. Bydd rhai dan amheuaeth sy’n agored i niwed a restrir ym mharagraff 11.11 yn cael eu trin fel unigolion y ceir ychydig risg iddynt yn ystod cyfweliad bob amser, ac ni ellir cyfweld yr unigolion hyn ac eithrio yn unol â pharagraffau 11.11 i 11.13.
12.4 Cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol, dylid cynnal cyfweliadau mewn ystafelloedd cyfweld wedi’u gwresogi, eu goleuo a’u hawyru’n ddigonol.
12.5 Gall sawl sydd dan amheuaeth yr awdurdodwyd ei gadw heb ei gyhuddo dan TACT Atodlen 8, oherwydd bod angen ei gadw er mwyn ei gyfweld a chael tystiolaeth o’r drosedd y cafodd ei arestio am ei chyflawni, ddewis peidio ag ateb cwestiynau, ond nid oes angen i’r heddlu gael caniatâd neu gytundeb y sawl sydd dan amheuaeth i gael ei gyfweld at y diben hwn. Os bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cymryd camau i atal ei hun rhag cael ei holi neu gael ei holi ymhellach, e.e. trwy wrthod gadael ei gell neu wrthod mynd i ystafell gyfweld addas neu geisio gadael yr ystafell gyfweld, dylid ei hysbysu nad oes angen cael ei ganiatâd neu ei gytundeb i gynnal y cyfweliad. Rhoddir rhybudd i’r sawl sydd dan amheuaeth fel yn adran 10, ac fe’i hysbysir y gellir cynnal y cyfweliad yn y gell pe bai’n methu neu’n gwrthod cydweithredu, ac y gellir defnyddio’r ffaith ei fod wedi methu neu wrthod cydweithredu, fel tystiolaeth. Os yw’r unigolyn yn gwrthod a bod y swyddog y ddalfa o’r farn, am resymau rhesymol, na ddylid gohirio’r cyfweliad, mae gan swyddog y ddalfa ddisgresiwn i gyfarwyddo bod y cyfweliad yn cael ei gynnal mewn cell. Yna, estynnir gwahoddiad i’r sawl sydd dan amheuaeth gydweithredu a mynd i’r ystafell gyfweld.
12.6 Ni fydd yn rhaid i’r bobl a holir neu’r rhai sy’n gwneud datganiadau i sefyll ar eu traed.
12.7 Cyn cychwyn y cyfweliad, bydd pob cyfwelydd, yn amodol i’r cymhwysiad ym mharagraff 2.8, yn nodi pwy ydyw ac unrhyw bersonau eraill sy’n bresennol i’r sawl sy’n cael ei gyfweld.
12.8 Dylid trefnu egwyl yn ystod cyfweliadau ar adegau prydau bwyd neu ar adegau eraill sy’n ystyried pryd y mae’r un a gyfwelir wedi bwyta ddiwethaf. Darperir egwyl fer am luniaeth oddeutu bob dwy awr, ond fe all y cyfwelydd ohirio egwyl yn ôl ei ddisgresiwn os ceir sail resymol i gredu y byddai hynny’n:
(i) golygu:
-
risg o niwed i bobl;
-
colled neu ddifrod difrifol i eiddo;
(ii) gohirio rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw yn ddiangen;
(iii) yn niweidio canlyniad yr ymchwiliad fel arall.
Gweler Nodyn 12B
12.9 Yn ystod cyfnodau estynedig pan na chynhelir cyfweliadau, oherwydd yr angen am gasglu tystiolaeth bellach neu ddadansoddi tystiolaeth sy’n bodoli eisoes, bydd y rhai a gedwir a’u cynrychiolwyr cyfreithiol yn cael gwybod bod yr ymchwiliad i’r drosedd berthnasol yn dal i fynd yn ei flaen. Os yn ymarferol, dylai’r sawl sy’n cael ei gadw a’i gynrychiolydd cyfreithiol fod yn ymwybodol yn gyffredinol o unrhyw resymau dros y bylchau hir o amser rhwng cyfweliadau. Dylid rhoi ystyriaeth i ganiatáu ymweliadau, ymarfer yn fwy aml, neu i gynnig deunydd darllen ac ysgrifennu gweler paragraff 5.4, adran 8 a Nodyn 12C.
12.10 Os gwneir cwyn gan neu ar ran yr un a gyfwelir yn ystod y cyfweliad ynghylch darpariaethau’r Cod yma, neu os bydd yn dod i sylw’r cyfwelydd y gallai’r sawl sy’n cael ei gyfweld fod wedi ei drin yn amhriodol, dylai’r cyfwelydd:
(i) gofnodi’r mater yng nghofnod y cyfweliad; ac
(ii) hysbysu swyddog y ddalfa, sydd wedyn yn gyfrifol am ddelio â’r cwyn yn unol ag adran 9.
(b) Dogfennaeth
12.11 Rhaid gwneud cofnod o’r:
-
amser pan na fydd y sawl sy’n cael ei gadw yng ngofal swyddog y ddalfa, a’r rheswm dros hynny;
-
rheswm dros wrthod rhyddhau’r sawl sy’n cael ei gadw o’r ddalfa.
12.12 Gwneir cofnod:
-
o’r rhesymau pam nad oedd hi’n ymarferol defnyddio ystafell gyfweld; ac
-
unrhyw gamau a gymerir fel nodir ym mharagraff 12.5.
Gwneir y cofnod yn y cofnod cadw neu gofnod y cyfweliad am gamau a gymerir pan gedwir cofnod y cyfweliad, gyda chyfeiriad byr ynghylch hyn yn y cofnod cadw.
12.13 Rhaid cofnodi unrhyw benderfyniad i ohirio egwyl yn ystod cyfweliad, ynghyd â’r rhesymau dros wneud hyn, yng nghofnod y cyfweliad.
12.14 Ysgrifennir pob datganiad ysgrifenedig a wneir mewn gorsaf heddlu dan rybudd ar y ffurflenni a ddarparwyd at y diben hwn.
12.15 Ysgrifennir pob datganiad ysgrifenedig a wneir dan rybudd yn unol ag Atodiad D. Cyn y bydd rhywun yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar ôl ei rybuddio mewn gorsaf heddlu, fe’i hatgoffir am ei hawl i gael cyngor cyfreithiol. Gweler Nodyn 12A.
Nodiadau Arweiniad
12A Nid yw fel arfer yn angenrheidiol gofyn am ddatganiad ysgrifenedig os cafodd y cyfweliad ei recordio yn unol â’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd dan TACT Atodlen 8 Paragraff 3. Dylid ond cymryd datganiadau dan rybudd fel arfer dan yr amgylchiadau hyn yn ôl dymuniad penodol yr unigolyn. Fodd bynnag, gellir gofyn i rywun a hoffai wneud datganiad o’r fath.
12B Fel arfer, dylai cyfnodau egwyl i gael bwyd fod o leiaf 45 munud o hyd, a dylai egwyl fyrrach ar ôl dwy awr fod o leiaf 15 munud o hyd. Os bydd y cyfwelydd yn gohirio egwyl yn unol â pharagraff 12.8 ac yn ymestyn y cyfweliad, dylid darparu egwyl hirach. Os ceir cyfweliad byr, ac os ystyrir cynnal cyfweliad byr arall, gellir gostwng hyd yr egwyl os ceir sail resymol i gredu bod angen gwneud hyn oherwydd y goblygiadau ym mharagraffau 12.8(i) i (iii).
12C Dylid rhoi ystyriaeth i’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff 12.9 wedi cyfnod o dros 24 awr heb gwestiynu. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw cyfnodau estynedig o gadw heb arwydd bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen yn cyfrannu at ddirywiad iechyd y sawl sy’n cael ei gadw.
13 Cyfieithwyr
(a) Cyffredinol
13.1 Mae prif swyddogion yn gyfrifol am sicrhau y gwneir trefniadau priodol (gweler paragraff 13.1ZA) i ddarparu cyfieithwyr annibynnol sydd â chymwysterau addas i weithredu fel dehonglwyr ac i ddarparu cyfieithiadau o ddogfennau allweddol ar gyfer rhai a amheuir sydd wedi eu cadw y mae swyddog y ddalfa, yn unol â pharagraff 3.5(c)(ii), wedi pennu eu bod angen cyfieithydd.
Os oes gan y sawl sydd dan amheuaeth nam ar ei glyw neu leferydd, dylai cyfeiriadau at ‘gyfieithydd’ a ‘chyfieithiad’ yn y Cod hwn gynnwys cymorth priodol sy’n angenrheidiol i sefydlu cyfathrebu effeithiol gyda’r unigolyn hwnnw. Gweler paragraff 13.1C os yw’r sawl sy’n cael ei gadw yng Nghymru.
13.1ZA Golyga cyfeiriadau ym mharagraff 13.1 uchod ac mewn rhannau eraill o’r Cod hwn (gweler paragraffau 3.14(a), 13.2, 13.3, 13.5, 13.6, 13.9, 13.10A, 13.10D ac 13.11 isod ac mewn unrhyw God arall at wneud trefniadau i gyfieithydd gynorthwyo sawl sydd dan amheuaeth wneud trefniadau i’r cyfieithydd fod yn gorfforol bresennol yn yr un lleoliad â’r sawl sydd dan amheuaeth oni bai fod y darpariaethau ym mharagraff 13.12 isod, a Rhan 1 o Atodiad L, yn caniatáu ar gyfer defnyddio cyfieithu trwy ddolen fyw.
13.1 A Rhaid i’r trefniadau gydymffurfio â’r hawliau lleiaf a ddarperir gan gyfraith yr UE a ddargedwir (fel sy’n deillio o Gyfarwyddeb 2010/64/EU ar yr hawl i wasanaethau dehongli a chyfieithu mewn achosion troseddol (gweler Nodyn 13A). Mae darpariaethau’r Cod hwn yn gweithredu’r hawliau lleiaf hynny ar gyfer y rhai y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt. Mae’r gofynion hyn yn cynnwys y canlynol:
-
Bod y trefniadau a wneir ac ansawdd y dehongli a’r cyfieithu a ddarperir yn ddigonol i ‘ddiogelu tegwch yr achos, yn arbennig drwy sicrhau bod pobl a amheuir neu a gyhuddir yn gwybod am yr achosion yn eu herbyn ac yn gallu arfer eu hawl i amddiffyniad’. Mae’r term hwn a ddefnyddir gan y Gyfarwyddeb yn golygu bod rhaid i’r sawl dan amheuaeth allu deall ei sefyllfa a gallu cyfathrebu’n effeithiol â swyddogion yr heddlu, cyfwelwyr, cyfreithwyr ac oedolion priodol fel y darperir ar ei gyfer gan y Cod hwn ac unrhyw God arall yn yr un modd â pherson dan amheuaeth sy’n gallu siarad a deall Saesneg nad oes ganddo nam ar y clyw neu’r lleferydd ac na fyddai angen cyfieithydd ar y pryd. Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad L i’w gymhwyso i ddehongli cyswllt byw.
-
Darparu cyfieithiad ysgrifenedig o’r holl ddogfennau a ystyrir yn hanfodol er mwyn i’r person arfer ei hawl i amddiffyniad ac i ‘ddiogelu tegwch yr achos’ fel y disgrifir uchod. At ddibenion y Cod hwn, mae hyn yn cynnwys unrhyw benderfyniad i awdurdodi person i gael ei gadw a manylion unrhyw drosedd(au) y mae’r person wedi’i gyhuddo ohonynt neu y dywedwyd wrtho y gellir ei erlyn amdanynt, gweler Atodiad K.
-
Gweithdrefnau i helpu i benderfynu:
-
a yw’r sawl sydd dan amheuaeth yn gallu siarad a deall Saesneg ac angen cymorth cyfieithydd (gweler paragraff 13.1 a Nodiadau 13B a 13C); ac
-
a ddylid galw cyfieithydd arall neu a ddylid darparu cyfieithiad arall pan fo’r sawl sydd dan amheuaeth yn cwyno am ansawdd y naill neu’r llall neu’r ddau (gweler paragraffau 13.10A a 13.10C).
-
13.1B Dylid gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod y sawl sydd dan amheuaeth yn deall y bydd cyfieithu ar y pryd a chyfieithiad ar gael ar gost i’r cyhoedd.
13.1C Parthed personau yng Nghymru, nid oes unrhyw beth yn y Cod hwn nac unrhyw God arall yn effeithio ar weithrediad Cynlluniau Iaith Gymraeg a gynhyrchwyd gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Gweler paragraffau 3.14 ac 13.1.
(b) Cyfweld rhai a amheuir - ieithoedd tramor
13.2 Oni bai fod paragraffau 11.2 neu 11.11(c) yn berthnasol, ni ddylid cyfweld unigolyn a amheuir sydd i ddibenion y Cod hwn angen cyfieithydd ar y pryd oherwydd nad yw’n ymddangos i fod yn gallu siarad na deall Saesneg (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) a 3.14) oni bai y gwneir trefniadau i berson sy’n medru cyfieithu gynorthwyo’r sawl sydd dan amheuaeth i ddeall a chyfathrebu.
13.3 Os cyfwelir rhywun sy’n berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed ac nad yw’r person sy’n Gweithredu fel oedolyn priodol yn ymddangos i fod yn gallu siarad neu ddeall Saesneg, rhaid gwneud trefniadau i gyfieithydd gynorthwyo gyda chyfathrebu rhwng y person, yr oedolyn priodol a’r cyfwelydd, oni bai fod y cyfweliad yn un brys a bod paragraffau 11.2 neu 11.11(c) yn berthnasol.
13.4 Yn achos person yn gwneud datganiad dan rybudd i swyddog yr heddlu neu staff heddlu nad yw mewn Saesneg:
(a) bydd y cyfieithydd ar y pryd yn cofnodi’r datganiad yn yr iaith y’i gwneir;
(b) bydd y person yn cael ei wahodd i’w lofnodi;
(c) dylid gwneud cyfieithiad Saesneg swyddogol maes o law.
Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad L ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.
(c) Cyfweld pobl sydd ag anawsterau clyw neu leferydd
13.5 Oni bai fod paragraffau 11.2 neu 11.11(c) (cyfweliadau brys) yn berthnasol ni ddylid cyfweld unigolyn a amheuir sydd i ddibenion y Cod hwn angen cyfieithydd ar y pryd neu gymorth priodol arall i alluogi cyfathrebiad effeithiol gydag ef neu hi oherwydd ei fod yn ymddangos i fod â nam ar y clyw neu leferydd (gweler paragraffau 3.5(c)(ii) a 3.14) heb wneud trefniadau i ddarparu person annibynnol sy’n gallu cyfieithu neu ddarparu cymorth priodol arall.
13.6 Dylid hefyd trefnu cyfieithydd os cyfwelir person ifanc neu berson sy’n agored i niwed ac yr ymddengys fod gan y person sy’n bresennol fel yr oedolyn priodol nam ar y clyw neu leferydd, oni bai fod y cyfweliad yn un brys ac mae paragraffau 11.2 neu 11.11(c) yn berthnasol.
13.7 Heb ei ddefnyddio
(d) Rheolau ychwanegol ar gyfer pobl a gedwir
13.8 Heb ei ddefnyddio.
13.9 Os yw paragraff 6.1 yn berthnasol ac nad yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn gallu cyfathrebu gyda’r cyfreithiwr oherwydd anawsterau iaith, clyw neu leferydd, rhaid gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithydd ar y pryd i alluogi cyfathrebu. Ni ellir defnyddio swyddog yr heddlu nac unrhyw staff arall yr heddlu i’r diben hwn.
13.10 Wedi i swyddog y ddalfa bennu bod y sawl sy’n cael ei gadw angen cyfieithydd (gweler paragraff 3.5(c)(ii)) ac yn dilyn y Gweithredu cychwynnol ym mharagraffau 3.1 to 3.5, rhaid hefyd gwneud trefniadau i gyfieithydd esbonio:
-
y sail a’r rhesymau dros unrhyw awdurdodiad i’w gadw dan ddarpariaethau Deddf Terfysgaeth 2000 neu Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (cwestiynu wedi cyhuddo) y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt; ac
-
unrhyw wybodaeth ynghylch yr awdurdodiad a roddwyd iddynt gan y swyddog awdurdodi neu (yn ôl y digwydd) y llys ac sy’n cael ei gofnodi yng nghofnod y ddalfa.
Gweler adrannau 14 a 15 y Cod hwn.
13.10A Os bydd sawl sy’n cael ei gadw yn cwyno nad yw’n fodlon gyda safon y cyfieithiad, mae swyddog y ddalfa neu (yn ôl y digwydd) y cyfieithydd, yn gyfrifol am benderfynu a ddylid gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithydd arall yn unol â’r gweithdrefnau a sefydlwyd yn y trefniadau a wnaethpwyd gan y prif swyddog, gweler paragraff 13.1A.
(e) Cyfieithiadau o ddogfennau allweddol
13.10B Bydd cyfieithiadau ysgrifenedig, cyfieithiadau llafar a chrynodebau llafar o ddogfennau allweddol mewn iaith mae’r sawl sy’n cael ei gadw yn ei deall yn cael eu darparu yn unol ag Atodiad K (Cyfieithiadau o ddogfennau a chofnodion).
13.10C Os bydd sawl sy’n cael ei gadw yn anfodlon gydag ansawdd y cyfieithiad, mae swyddog y ddalfa neu (yn ôl y digwydd) y cyfwelydd, yn gyfrifol am benderfynu os dylid darparu cyfieithiad pellach yn unol â gweithdrefnau a sefydlwyd yn y trefniadau a wnaed gan y prif swyddog, gweler paragraff 13.1A.
(f) Penderfyniadau i beidio darparu cyfieithu ar y pryd a chyfieithiadau.
13.10D Os bydd sawl sydd dan amheuaeth yn herio penderfyniad:
-
a wnaed gan swyddog y ddalfa yn unol â’r Cod hwn (gweler paragraff 3.5(c)(ii)) nad yw angen cyfieithydd ar y pryd, neu
-
a wnaed yn unol â pharagraffau 13.10A, 13.10B neu 13.10C i beidio gwneud trefniadau i ddarparu gwahanol gyfieithydd neu gyfieithiad arall neu i beidio cyfieithu dogfen a geisiwyd, bydd y mater yn cael ei adrodd i sylw arolygydd i’w drin fel cwyn i ddibenion paragraff 9.3 neu
12.10 os cyflwynir yr her yn ystod cyfweliad.
(g) Dogfennaeth
13.11 Rhaid cofnodi’r canlynol yng nghofnod y ddalfa neu, fel sy’n berthnasol, gofnod y cyfweliad:
(a) Camau a gymerwyd i drefnu cyfieithydd ar y pryd, yn cynnwys y gofynion cyswllt byw yn Atodiad L fel fo’n berthnasol;
(b) Camau a gymerwyd pan na fydd sawl a gedwir yn fodlon ynghylch y safonau cyfieithu ar y pryd neu gyfieithu a ddarparwyd, gweler paragraffau 13.10A ac 13.10C;
(c) Pan gynhelir cyfweliad brys yn unol â pharagraff 13.2 neu 13.5 yn absenoldeb cyfieithydd ar y pryd;
(d) Pan fydd sawl sy’n cael ei gadw wedi ei gynorthwyo gan gyfieithydd ar y pryd i’r diben o ddarparu neu gael gwybodaeth neu gael ei gyfweld;
(e) Camau a gymerwyd yn unol ag Atodiad K pan:
-
ddarperir cyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol;
-
darperir cyfieithiad llafar neu grynodeb llafar o ddogfen allweddol yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig a rhesymau’r swyddog sy’n awdurdodi pam na fyddai hyn yn peryglu tegwch yr achos (gweler Atodiad K, paragraff 3);
-
mae sawl sydd dan amheuaeth yn ildio ei hawl i gyfieithiad o ddogfen allweddol (gweler Atodiad K, paragraff 4);
-
pan wrthodir sylwadau fod dogfen nad yw wedi ei chynnwys yn y tabl yn allweddol ac y dylid darparu cyfieithiad a’r rheswm dros wrthod (gweler Atodiad K, paragraff 8).
(h) Cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw
13.12 Yn yr adran hon ac yn Atodiad L, ystyr ‘dehongliad cyswllt byw’ yw trefniant i alluogi cyfathrebu rhwng y sawl sydd dan amheuaeth a chyfieithydd ar y pryd nad yw’n gorfforol bresennol gyda’r sawl dan amheuaeth. Rhaid i’r trefniant sicrhau y gellir dehongli unrhyw beth a ddywedir gan unrhyw berson ym mhresenoldeb a chlyw’r sawl dan amheuaeth yn yr un modd â phe byddai’r cyfieithydd yn gorfforol bresennol ar yr adeg honno. Rhaid i’r cyfathrebu fod trwy ddulliau sain a gweledol at ddiben cyfweliad, ac at bob diben arall y gallai fod naiil ai; drwy ddulliau sain a gweledol, neu drwy ddulliau sain.
(a) Cyfathrebiad sain a gweledol
Mae hyn yn ofynnol ar gyfer cyfweliadau a gyflawnir ac sy’n cael eu recordio yn unol â’r cod Ymarfer ar gyfer recordio fideo gyda sain, cyfweliadau gyda phersonau sy’n cael eu cadw dan adran 41 Deddf Terfysgaeth 2000 a phersonau ble rhoddwyd awdurdodiad i gwestiynu wedi cyhuddo dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008 (gweler Nodyn 13D). Ym mhob un o’r achosion hyn, rhaid i gyfweliad gael ei recordio ar fideo gyda sain ac yn ystod y cyfweliad hwnnw, rhaid i gyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw alluogi:
(i) y sawl sydd dan amheuaeth, y cyfwelydd, cyfreithiwr, oedolyn priodol ac unrhyw un arall sy’n gorfforol bresennol gyda’r sawl sydd dan amheuaeth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfweliad a chyfieithydd nad yw’n gorfforol bresennol, i weld a chlywed ei gilydd; ac
(ii) i’r cyfweliad gael ei gyflawni a recordio yn unol â darpariaethau priodol y Cod, yn amodol i’r addasiadau yn Rhan 2 Atodiad L.
(b) Cyfathrebiad sain a gweledol neu sain heb gyfathrebiad gweledol.
Mae hyn yn berthnasol i gyfathrebu i ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Cod hwn fel y disgrifiwyd yn (a), sy’n gofyn neu’n caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi i, ceisio gan, neu ddarparu gan sawl sydd dan amheuaeth, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, a fyddai’n cynnwys cyfathrebu rhwng y sawl sydd dan amheuaeth a’i gyfreithiwr ac/neu oedolyn priodol ac, ar gyfer yr achosion hyn, rhaid i gyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw:
(i) alluogi’r sawl sydd dan amheuaeth, y person sy’n rhoi neu geisio’r wybodaeth honno, unrhyw berson arall sy’n gorfforol bresennol gyda’r sawl sydd dan amheuaeth ar y pryd a chyfieithydd nad yw’n bresennol, i naill ai weld a chlywed ei gilydd, neu i glywed heb weld ei gilydd (er enghraifft, trwy ddefnyddio ffôn); a
(ii) galluogi i’r wybodaeth honno gael ei rhoi i, ceisio gan, neu ddarparu gan y sawl sydd dan amheuaeth yn unol â darpariaethau’r Cod hwn sy’n berthnasol i’r wybodaeth honno, fel yr addaswyd i ddibenion y ddolen fyw, gan Ran 2 Atodiad L.
13.12 A Golyga’r gofyniad yn is-baragraffau 13.12(a)(ii) a (b)(ii), y dylai cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw alluogi cydymffurfiad gyda darpariaethau perthnasol y Codau penodedig, bod yn rhaid i’r trefniadau ddarparu ar gyfer unrhyw gofnod ysgrifenedig neu electronig o’r hyn mae’r sawl sydd dan amheuaeth yn ei ddweud yn ei iaith ei hun a wneir gan y cyfieithydd, er mwyn cael ei drosglwyddo’n ddiogel heb oedi fel bod y sawl sydd dan amheuaeth yn gallu darllen, gwirio ac, os yn briodol, lofnodi neu gadarnhau fel arall fod y cofnod yn gywir neu wneud addasiadau i’r cofnod.
13.13 Rhaid i brif swyddogion fod yn fodlon fod y cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a ddefnyddir yn ardal eu heddlu ar gyfer dibenion paragraffau 3.12(a) a (b), yn darparu ar gyfer cyfathrebu cywir a diogel gyda’r sawl sydd dan amheuaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ar unrhyw adeg pan fydd cyfieithu trwy ddolen fyw yn cael ei defnyddio, na all unigolyn weld, clywed na fel arall gael mynediad at unrhyw gyfathrebu rhwng y sawl sydd dan amheuaeth a’r cyfieithydd neu gyfathrebu gyda’r sawl sydd dan amheuaeth neu’r cyfieithydd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi neu ganiatáu gan swyddog y ddalfa neu yn achos cyfweliad, y cyfwelydd ac fel fo’n berthnasol, y cynhelir cyfrinachedd unrhyw ymgynghoriad preifat rhwng y sawl sydd dan amheuaeth a’i gyfreithiwr ac oedolyn priodol (gweler paragraffau 13.2A, 13.6 ac 13.9). Gweler Atodiad L paragraff 4.
Nodiadau Arweiniad
13A Mae gan brif swyddogion hawl i ddewis wrth bennu’r unigolion neu sefydliadau a ddefnyddiant i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd neu gyfieithu i’w heddluoedd ar yr amod bod y gwasanaethau hyn yn gydnaws gyda gofynion y Gyfarwyddeb. Un enghraifft y gallai prif swyddogion ei ystyried yw trefniadau masnachol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer gwasanaethau dehongli a chyfieithu.
13B Gall gweithdrefn i bennu os yw person angen cyfieithydd ar y pryd gynnwys gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn neu ddefnyddio cardiau awgrym neu gymhorthion gweledol tebyg sy’n galluogi’r sawl sy’n cael ei gadw i nodi ei allu i siarad a deall Saesneg a’i ddewis o iaith. Gellid cadarnhau hyn trwy gyfieithydd a fyddai hefyd yn asesu i ba raddau y gall y person siarad a deall Saesneg.
13C Dylid hefyd sicrhau gweithdrefn i bennu a yw unigolyn a amheuir sydd angen cyfieithydd angen cymorth yn unol â pharagraff 3.20 i’w helpu i wirio ac, os yn berthnasol, lofnodi unrhyw ddogfennaeth.
13D Mae’r Cod Ymarfer y cyfeirir ato ym mharagraff 13.12 ar gael yma: https://www.gov.uk/government/publications/terrorism-act-2000-video-recording-code-of-practice.
14 Adolygu ac Ymestyn Cyfnodau Cadw dan Ddeddf Terfysgaeth 2000
(a) Cyffredinol
14.0 Mae’r gofyniad ym mharagraff 3.4(b) y dylid darparu dogfennau a deunyddiau sy’n allweddol i herio cyfreithlondeb arestio a chadw’r sawl sydd dan amheuaeth i’r sawl sydd dan amheuaeth neu ei gyfreithiwr, yn berthnasol i ddibenion yr adran hon.
14.1 Rhestrir pwerau a dyletswyddau’r swyddog adolygu yn Neddf Terfysgaeth 2000, Atodlen 8, Rhan II. Gweler Nodiadau 14A ac 14B. Dylai swyddog adolygu gyflawni ei ddyletswyddau yn yr orsaf heddlu lle cedwir y sawl sy’n cael ei gadw a chael y mynediad angenrheidiol at yr unigolyn hwnnw i arfer y dyletswyddau hynny.
14.2 I ddibenion adolygu cyfnod cadw unigolyn, ni chaiff unrhyw swyddog ofyn cwestiynau penodol i’r sawl sy’n cael ei gadw:
-
ynghylch ei ymwneud ag unrhyw drosedd; neu
-
ynghylch unrhyw sylwadau a wneir ganddo:
-
wrth iddo gael y cyfle i wneud cyflwyniadau; neu
-
wrth ymateb i benderfyniad i’w gadw neu ymestyn y cyfnod hiraf posibl y gellir ei gadw.
-
Gallai trafodaeth o’r fath gael ei hystyried yn gyfweliad dan amodau paragraff 11.1 ac felly byddai’n destun y camau diogel cysylltiedig yn adran 11.
14.3 Os oes angen cadw person a arestiwyd o dan adran 41 TACT am fwy na 48 awr o’r adeg arestio neu, os oedd person yn cael ei gadw i ddechrau o dan Atodlen 7 i TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019, o’r amser y dechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol, gall swyddog heddlu o safle uwch-arolygydd o leiaf, neu Erlynydd y Goron wneud cais am warant cadw pellach neu am estyniad neu estyniad pellach i warant o’r fath o dan baragraff 29 neu (fel y gallai fod yn wir) 36 o Ran III o Atodlen 8 i Ddeddf Terfysgaeth 2000. Gweler Nodyn 14C.
14.4 Rhaid i droseddwr terfysgol ar drwydded sy’n cael ei gadw o dan adran 43B o TACT (oni bai ei fod yn cael ei alw’n ôl i’r carchar neu’n cael ei gadw fel arall o dan unrhyw bŵer arall – er enghraifft, cael ei arestio am drosedd) gael ei ryddhau os (a) gwneir penderfyniad galw’n ôl i beidio â dirymu trwydded y troseddwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud; neu (b) os nad yw penderfyniad galw’n ôl wedi’i wneud o fewn chwe awr sy’n dechrau ag amser yr arestiad o dan adran 43B.
14.5 Nid oes unrhyw amgylchiadau lle y caniateir i berson gael ei gadw o dan adran 43B am fwy na chwe awr.
14.6 Pan wneir cais am warant fel y disgrifir ym mharagraff 14.3, rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw a’i gynrychiolydd o’i hawliau parthed y cais. Mae’r rhain yn cynnwys:
(i) yr hawl i hysbysiad ysgrifenedig o’r cais (gweler paragraff 14.4);
(ii) yr hawl i gyflwyno sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig i’r awdurdod barnwrol / barnwr yr Uchel Lys ynghylch y cais;
(iii) yr hawl i fod yn bresennol ac i gael cynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y cais, oni bai y’i heithriwyd yn benodol gan awdurdod barnwrol / barnwr yr Uchel Lys;
(iv) ei hawl i gyngor cyfreithiol am ddim (gweler adran 6 y Cod hwn).
14.7 A Mae TACT Atodlen 8 paragraff 31 yn gofyn am ddarparu’r hysbysiad o’r cais am warant i gadw ymhellach cyn gwrandawiad barnwrol o’r cais ar gyfer y warant honno ac mae’n rhaid i’r warant gynnwys:
(a) hysbysiad y gwnaethpwyd y cais am warant;
(b) yr amser pan wnaethpwyd y cais;
(c) yr amser pan fydd y cais yn cael gwrandawiad;
(d) ar ba sail y gofynnir am gadw ymhellach.
Rhaid hefyd darparu hysbysiad bob tro y gwneir cais i ymestyn cyfnod cadw neu i ymestyn warant cyfredol ymhellach.
(b) Trosglwyddo personau a gedwir am fwy na 14 niwrnod i garchar
14.8 Os yw’r Bil Cadw Terfysgwyr a Amheuir (Estyniad Dros Dro) yn cael ei ddeddfu ac mewn grym, caiff barnwr Uchel Lys estyn neu estyn ymhellach warant cadw pellach i awdurdodi person i gael ei gadw y tu hwnt i gyfnod o 14 diwrnod o’r adeg y’i arestiwyd (neu os oedd yn cael ei gadw i ddechrau o dan Atodlen 7 TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019, o’r amser y dechreuodd eu harchwiliad o dan yr Atodlen berthnasol). Bydd darpariaethau Atodiad J yn berthnasol pan fydd gwarant cadw pellach yn cael ei hymestyn neu ei hymestyn ymhellach. Nid yw’r estyniad hwn yn berthnasol i gadw unigolion dan adran 43B o TACT.
14.9 Heb ei ddefnyddio.
14.10 Heb ei ddefnyddio.
14.11 Heb ei ddefnyddio.
14.12 Heb ei ddefnyddio.
14.13 Heb ei ddefnyddio.
(c) Dogfennaeth
14.14 Cyfrifoldeb y swyddog sy’n rhoi unrhyw atgoffad fel ym mharagraff 14.4, yw sicrhau bod y rhain yn cael eu nodi yng nghofnod y ddalfa, yn ogystal ag unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sy’n cael ei gadw ar gael gwybod am yr hawliau hynny.
14.15 Cofnodir sail, a graddau, unrhyw oedi a geir wrth gynnal adolygiad.
14.16 Cedwir unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig.
14.17 Bydd cofnod yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd ynghylch canlyniad pob adolygiad ac, os yn berthnasol, y sail ar gyfer awdurdodi cadw parhaus gan y swyddog adolygu. Gwneir cofnod hefyd cyn gynted ag y bo modd ynghylch canlyniad cais am warant am gadw pellach neu estyniad ohono.
14.18 Heb ei ddefnyddio.
Nodiadau Arweiniad
14A Mae Atodlen 8 Rhan II TACT yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer adolygu cadw hyd at 48 awr o’r adeg arestio o dan adran 41 TACT (neu os oedd person yn cael ei gadw i ddechrau o dan Atodlen 7 TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019), o’r amser y dechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol). Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer y gofyniad i adolygu cadw, gohirio adolygiad, seiliau dros barhau i gadw, dynodi swyddog adolygu, sylwadau, hawliau’r person sy’n cael ei gadw a chadw cofnod. Fe ddaw rôl y swyddog adolygu i ben ar ôl i warant gael ei gyhoeddi i ymestyn cyfnod cadw o dan Ran III o Atodlen 8.
14B Gall swyddog adolygu awdurdodi parhau i gadw rhywun os yw wedi ei fodloni fod angen cadw:
(a) i gael tystiolaeth berthnasol bydded trwy gwestiynu’r person neu fel arall;
(b) i ddiogelu tystiolaeth berthnasol;
(c) tra’n aros am ganlyniad archwiliad neu ddadansoddiad o’r dystiolaeth berthnasol;
(d) er mwyn archwilio neu ddadansoddi unrhyw beth gyda’r bwriad o dderbyn tystiolaeth berthnasol;
(e) hyd nes y gwneir penderfyniad i anfon cais at yr Ysgrifennydd Gwladol am hysbysiad alltudiaeth ar gyfer y sawl sy’n cael ei gadw, llunio cais o’r fath, neu’r ystyriaeth a roddir i gais o’r fath gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
(f) hyd nes y gwneir penderfyniad i gyhuddo’r sawl sy’n cael ei gadw o gyflawni trosedd.
14C Caniateir i geisiadau am warantau i ymestyn cyfnod cadw y tu hwnt i 48 awr gael eu gwneud am gyfnodau o 7 diwrnod ar y tro (o dan Atodlen 8 TACT paragraff 29 i ddechrau, ac estyniadau wedi hynny o dan TACT Atodlen 8, paragraff 36), hyd at uchafswm cyfnod o 14 diwrnod (neu 28 diwrnod os yw’r Bil Cadw Terfysgwyr a Amheuir (Ymestyn Dros Dro)) yn cael ei ddeddfu ac mewn grym) o’r adeg y cânt eu harestio (neu os oeddent yn cael eu cadw o dan TACT Atodlen 7 neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019, o’r amser y dechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol). Gellir gwneud ceisiadau am gyfnodau byrrach na 7 diwrnod, y mae’n rhaid eu nodi. Gall yr awdurdod barnwrol neu farnwr yr Uchel Lys hefyd
amnewid cyfnod byrrach os ydynt yn teimlo bod cyfnod o 7 diwrnod yn amhriodol.
14D Oni bai fod Nodyn 14F yn berthnasol, dylid gwneud ceisiadau am warantau a fyddai’n mynd â chyfanswm y cyfnod cadw hyd at 14 diwrnod neu lai i awdurdod barnwrol, sef Barnwr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) wedi’i benodi gan yr Arglwydd Ganghellor i glywed ceisiadau o’r fath.
14E Os, yn rhinwedd deddfu’r darpariaethau perthnasol a ddisgrifir yn Nodyn 14C, yr estynnir y cyfnod cadw hwyaf i 28 diwrnod, rhaid i unrhyw gais am warant a fyddai’n cymryd y cyfnod cadw y tu hwnt i 14 diwrnod o’r adeg arestio (neu os oedd person yn cael ei gadw o dan TACT Atodlen 7 neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019, o’r amser y dechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol), gael ei wneud i Farnwr yr Uchel Lys.
14F Os, pan fydd y Bil Cadw Rhai a Amheuir o Derfysgaeth (Estyniad Dros Dro) yn cael ei ddeddfu ac mewn grym, y gwneir cais i farnwr yr Uchel Lys am warant a fyddai’n mynd â chadw tu hwnt i 14 diwrnod ac yn hytrach na barnwr yr Uchel Lys yn cyhoeddi warant am gyfnod o amser nad yw’n mynd â’r cadw tu hwnt i 14 diwrnod, rhaid hefyd gwneud ceisiadau pellach am ymestyn cadw i farnwr yr Uchel Lys, heb ystyried y cyfnod o amser y cyfeirir ato.
14G Heb ei ddefnyddio.
14H Gall swyddog sy’n gwneud cais am orchymyn dan TACT Atodlen 8 paragraff 34 i ddal yn ôl gwybodaeth benodedig y mae’n bwriadu dibynnu arni wrth wneud cais am warant ar gyfer cyfnod cadw pellach neu ymestyn warant o’r fath ymhellach, wneud cais am y gorchymyn ar lafar neu’n ysgrifenedig. Bydd y dull mwyaf priodol o wneud cais yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos a’r angen am sicrhau tegwch i’r un sy’n cael ei gadw yn y ddalfa.
14I Wedi clywed sylwadau gan neu ar ran y sawl sy’n cael ei gadw a’r sawl sy’n cyflwyno’r cais, gall yr awdurdod barnwrol neu farnwr yr Uchel Lys gyfeirio y dylai’r gwrandawiad sy’n delio ag ymestyn cyfnod cadw dan Ran III Atodlen 8 gael ei gynnal yn defnyddio cyfleusterau fideogynadledda. Fodd bynnag, os yw’r awdurdod barnwrol yn gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw fod yn bresennol yn y cnawd mewn unrhyw wrandawiad, dylid cydymffurfio â hyn cyn gynted ag y bydd yn ymarferol. Mae paragraff 33(4) i (9) TACT Atodlen 8 yn llywodraethu gwrando ceisiadau trwy gyswllt fideo neu ddulliau eraill.
14J Heb ei ddefnyddio.
14K Heb ei ddefnyddio.
15 Cyhuddo a chwestiynu wedi cyhuddo mewn achosion terfysgaeth
(a) Cyhuddo
15.1 PACE sy’n delio â chyhuddo personau a gedwir ac fe gyhoeddir cyfarwyddyd dan PACE gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. Mae penderfyniadau i gyhuddo personau y mae’r Cod hwn (H) yn berthnasol iddynt, y broses o gyhuddo a materion cysylltiedig yn ddarostyngedig i adran 16 PACE Cod C.
(b) Cwestiynu wedi cyhuddo
15.2 Dan adran 22 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008, gall barnwr yn yr Uchel Lys awdurdodi cwestiynu person ynghylch trosedd y mae wedi ei gyhuddo ohoni, ei hysbysu y gallai gael ei erlyn neu anfon am achos os yw’r drosedd:
-
yn drosedd derfysgol fel y sefydlir yn adran 27 y Ddeddf gwrthderfysgaeth 2008; neu
-
yn drosedd sy’n ymddangos i fod â chysylltiad terfysgol ym marn y barnwr. Gweler Nodyn 15C.
Bydd y penderfyniad ynghylch a ddylid gwneud cais am gwestiynu o’r fath yn seiliedig ar anghenion yr ymchwiliad. Nid oes unrhyw bŵer i gadw rhywun dim ond i ddibenion cwestiynu wedi cyhuddo. Dim ond os yw eisoes yno mewn cystodaeth gyfreithiol dan ryw bŵer sy’n bodoli y gellir cadw rhywun (p’un ai mewn gorsaf heddlu neu mewn carchar) i’w gwestiynu. Os mewn gorsaf heddlu, dylid ystyried cynnwys adrannau 8 a 9 y Cod hwn fel y safonau isaf posibl wrth drin pobl o’r fath sy’n cael eu cadw.
15.3 Gall barnwr yr Uchel Lys awdurdodi’r cwestiynu os yw’n fodlon:
-
fod angen cwestiynu pellach i sicrhau cyfiawnder;
-
fod yr ymchwiliad y mae angen y cwestiynu pellach a gynigir ar ei gyfer yn cael ei gyflawni yn ddyfal ac yn gyflym; ac
-
ni fyddai’r cwestiynu yn amharu’r ormodol ar y paratoadau ar gyfer amddiffyn y person yn erbyn y cyhuddiad nac unrhyw gyhuddiad troseddol arall y mae’n wynebu.
Gweler Nodyn 15E
15.4 Gall y barnwr sy’n awdurdodi’r cwestiynu ddynodi lleoliad y cwestiynu.
15.5 Dim ond cyfnod o hyd at uchafswm o 48 awr all y barnwr awdurdodi cyn y bydd rhaid gofyn am awdurdodiad pellach. Byddai’r cyfnod 48 awr yn rhedeg yn barhaus o gychwyn y cwestiynu. Rhaid i’r cyfnod hwn gynnwys egwyliau mewn cwestiynu yn unol â pharagraffau 8.6 a 12.2 y Cod hwn (gweler Nodyn 15B).
15.6 Ni ddylid defnyddio unrhyw beth yn y Cod yma i atal sawl sydd dan amheuaeth rhag ceisio cyfweliad gwirfoddol gyda’r heddlu ar unrhyw adeg.
15.7 At ddibenion yr adran hon, mae unrhyw gyfeiriad yn adrannau 6, 10, 11, 12 a 13 y Cod hwn at:
-
‘sawl sydd dan amheuaeth’ yn golygu person ble rhoddwyd awdurdodiad dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008 (cwestiynu rhai a amheuir o derfysgaeth wedi cyhuddo) i’w cyfweld;
-
‘gyfweliad’ yn golygu cwestiynu wedi cyhuddo a awdurdodwyd dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008;
-
‘drosedd’ yn golygu trosedd y mae’r person wedi ei gyhuddo ohoni, ei hysbysu y gellir ei erlyn neu anfon am dreial ac y mae’r person yn cael ei gwestiynu ynglŷn â hi; a
-
‘lleoliad cadw’ yn golygu lleoliad y cwestiynu a ddynodwyd gan y barnwr (gweler paragraff 15.4), ac mae darpariaethau’r adrannau hyn yn berthnasol (fel fo’n briodol) i gwestiynu o’r fath (p’un ai mewn gorsaf heddlu neu garchar) yn amodol ar addasiadau pellach yn y paragraffau canlynol:
Yr hawl i gyngor cyfreithiol
15.8 Yn adran 6 o’r Cod hwn, at ddibenion holi ar ôl cyhuddo:
-
ni ellir gohirio mynediad at gyfreithiwr o dan Atodiad B; a
-
nid yw paragraff 6.5 (cyfarwyddyd na chaiff y sawl sy’n cael ei gadw arfer yr hawl i ymgynghori â chyfreithiwr drwy ymgynghori â’r cyfreithiwr sy’n mynychu at ddiben yr ymgynghoriad, neu a fyddai’n mynychu felly oni bai am roi’r cyfarwyddyd, ond yn lle hynny y gellir ei arfer drwy ymgynghori â chyfreithiwr gwahanol o ddewis y sawl sy’n cael ei gadw) yn berthnasol.
Rhybuddion
15.9 Yn adran 10 y Cod hwn, oni bai bod y cyfyngiad ar wneud casgliadau niweidiol o gadw’n dawel yn berthnasol (gweler paragraff 15.10), i ddibenion cwestiynu wedi cyhuddo, rhaid rhoi’r rhybudd yn y termau canlynol cyn gofyn unrhyw gwestiynau o’r fath:
“You do not have to say anything. But it may harm your defence if you do not mention when questioned something which you later rely on in Court. Anything you do say may be given in evidence.”
Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gall cwnstabl ddarparu’r rhybudd yn uniongyrchol yn Gymraeg yn y termau canlynol:
“Does dim rhaid i chi ddweud dim byd. Ond gall niweidio eich amddiffyniad os na fyddwch chi’n sôn, wrth gael eich holi, am rywbeth y byddwch chi’n dibynnu arno nes ymlaen yn y Llys. Gall unrhyw beth yr ydych yn ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.”
15.10 Mae’r unig gyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol o gadw’n dawel, gweler Atodiad C, yn berthnasol yn y sefyllfaoedd hynny pan mae rhywun wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ac yn cael ei gwestiynu cyn derbyn cyngor o’r fath yn unol â pharagraff 6.7(b).
Cyfweliadau
15.11 Yn adran 11, i ddibenion cwestiynu wedi cyhuddo, pryd bynnag bydd rhywun yn cael ei gwestiynu, rhaid ei hysbysu o’r drosedd y mae wedi ei gyhuddo ohoni neu ei hysbysu y gall gael ei erlyn amdani, neu ei fod wedi ei anfon am dreial ac y mae’n cael ei gwestiynu amdani.
15.12 Nid yw paragraff 11.2 (lleoliad ble gall cwestiynu ddigwydd) yn berthnasol i gwestiynu wedi cyhuddo.
Recordio cwestiynu wedi cyhuddo
15.13 Rhaid i bob cyfweliad gael ei recordio ar fideo gyda sain yn unol â’r Cod Ymarfer unigol a gyhoeddwyd dan adran 25 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 ar gyfer recordio fideo gyda sain wrth gwestiynu wedi cyhuddo a awdurdodwyd dan adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008 (gweler paragraff 11.8).
Nodiadau Arweiniad
15A Os bydd person yn cael ei gadw mewn gorsaf heddlu i ddibenion cwestiynu wedi cyhuddo, rhaid agor cofnod y ddalfa yn unol ag adran 2 y Cod hwn. Rhaid i gofnod y ddalfa nodi dan ba bŵer y mae’r person yn cael ei gadw, yr amser pan gafodd y person ei drosglwyddo i ddalfa’r heddlu, yr amser pan gyrhaeddodd yr orsaf heddlu a’r amser pan gafodd ei gyflwyno i swyddog y ddalfa.
15B Rhaid i gofnod y ddalfa nodi’r amser pan fydd y broses gyfweld yn cychwyn. Bydd hyn yn cael ei ystyried i fod yr amser perthnasol ar gyfer unrhyw gyfnod o gwestiynu yn unol â pharagraff 15.5 y Cod hwn.
15C Lle cyfeirir at ‘gysylltiad terfysgol’ ym mharagraff 15.2, penderfynir ar hyn yn unol ag adran 69 o’r Cod Dedfrydu. O dan adran 69 o’r Cod mae’n rhaid i lys o dan rai amgylchiadau benderfynu a oes gan drosedd gysylltiad terfysgol. Mae gan drosedd gysylltiad terfysgol os yw’r drosedd yn weithred, neu’n digwydd yn ystod, gweithred o derfysgaeth neu wedi’i chyflawni at ddibenion terfysgaeth. Fel arfer bydd y llys yn gwneud y penderfyniad yn ystod y broses ddedfrydu, fodd bynnag, at ddibenion holi ar ôl cyhuddo, rhaid i Farnwr Llys y Goron benderfynu a yw’n ymddangos bod gan y drosedd gysylltiad terfysgol.
15D Mae’r pwerau dan adran 22 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 ar wahân i ac yn atodol i’r gweithdrefnau cwestiynu arferol yn y cod hwn. Eu diben cyffredinol yw galluogi cwestiynu sawl sydd dan amheuaeth o derfysgaeth wedi cyhuddo. Felly ni ddylid eu defnyddio yn lle neu i drechu’r pwerau arferol i ddelio gyda chwestiynu rheolaidd.
15E Mae cwestiynu wedi cyhuddo wedi ei greu oherwydd y cydnabyddir y gall ymchwiliadau terfysgol fod yn fawr a chymhleth, ac y gall cryn dipyn o dystiolaeth ddod i’r amlwg yn dilyn cyhuddo sawl sydd dan amheuaeth o derfysgaeth. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, wrth gyfieithu deunydd neu o ganlyniad i ymchwiliad atodol. Wrth ystyried cais am gwestiynu wedi cyhuddo, rhaid i’r heddlu ‘fodloni’ y barnwr ar y tri phwynt dan baragraff 15.3. Mae hyn yn golygu y bydd y barnwr naill ai’n awdurdodi neu wrthod cais gan ystyried a yw’r holl amodau ym mharagraff 15.3 wedi eu bodloni. Felly, mae’n bwysig ystyried y cwestiynau canlynol wrth wneud y cais:
-
Pa dystiolaeth bellach a ddisgwylir i’r cwestiynu ddarparu?
-
Pam nad oedd yn bosibl casglu’r dystiolaeth yma cyn cyhuddo?
-
Sut a pham y nodwyd gyntaf fod angen cwestiynu wedi cyhuddo?
-
Sut mae disgwyl i’r cwestiynu gyfrannu ymhellach at yr achos?
-
I ba raddau allai’r amser a’r lleoliad ar gyfer cwestiynu pellach amharu ar baratoad amddiffyn yr unigolyn (er enghraifft, os ceisir awdurdodiad yn agos at ddyddiad yr achos llys)?
-
Pa gamau a gymerir i leihau unrhyw risg y gallai cwestiynu amharu ar baratoadau amddiffyn yr unigolyn?
Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol, ond mae’n amlinellu’r mathau o gwestiynau allai fod yn berthnasol i unrhyw rai a ofynnir gan farnwr wrth ystyried cais.
16 Profi unigolion am bresenoldeb cyffuriau Dosbarth A penodedig
16.1 Nid yw’r darpariaethau ar gyfer profi am gyffuriau dan adran 63B PACE (fel y’i diwygiwyd gan adran 5 Deddf Cyfiawnder Trosedd 2003 ac adran 7 Deddf Cyffuriau 2005), yn berthnasol i bersonau y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt. Ceir canllawiau ar y darpariaethau hyn yn adran 17 PACE Cod C.
Atodiad A: Archwiliadau personol a noeth-chwiliadau
A Chwiliad personol
1. Mae chwiliad personol yn cynnwys archwiliad corfforol o agorfeydd corff rhywun ac eithrio’r geg. Mae natur ymwthgar archwiliadau o’r fath yn golygu na ddylid byth ddibrisio’r risgiau gwirioneddol a’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig ag archwiliadau personol.
(a) Gweithredu
2. Gellir chwilio agorfeydd eraill o’r corff heblaw’r geg os yw wedi ei awdurdodi gan swyddog o reng arolygydd neu uwch sydd â sail resymol dros gredu bod yr unigolyn wedi cuddio ar ei gorff unrhyw beth y gallai ei ddefnyddio i achosi niwed corfforol iddo’i hun neu eraill yn yr orsaf, a bod gan y swyddog sail resymol dros gredu mai’r unig ffordd i gael gwared â’r eitemau hynny yw drwy wneud chwiliad personol.
3. Cyn i’r chwiliad gychwyn mae’n rhaid i swyddog heddlu neu swyddog cadw dynodedig hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw:
(a) bod awdurdod wedi’i roi i gynnal y chwiliad;
(b) ar ba sail yr awdurdodwyd y chwiliad a’r sail dros gredu na ellir tynnu’r eitem heb gynnal chwiliad personol.
4. Yr unig rai a all gyflawni chwiliad personol yw ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, oni bai fod swyddog o safle arolygydd o leiaf, o’r farn nad yw hyn yn ymarferol, ac felly gall swyddog heddlu gyflawni’r chwiliad. Gweler Nodiadau A1 i A5.
5. Yr unig adeg y dylid ystyried unrhyw fwriad i gynnal chwiliad dan baragraff 2 gan rywun nad yw’n ymarferwr meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig, yw pan nad oes dewis arall ar gael a phan fo’r swyddog awdurdodi yn fodlon bod y risg o adael i’r eitem barhau gyda’r sawl sy’n cael ei gadw, yn fwy na’r risg o’i dynnu oddi yno. Gweler Nodiadau A1 i A5.
6. Rhaid cynnal chwiliad personol ar berson ifanc neu berson sy’n agored i niwed, mewn gorsaf heddlu ym mhresenoldeb oedolyn priodol o’r un rhyw (gweler Atodiad I), oni bai fod y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn yn benodol am oedolyn arbennig o’r rhyw arall sydd ar gael yn hwylus. Yn achos person ifanc, gellir cynnal y chwiliad yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’r person ifanc yn datgan ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol, nad yw’n dymuno i’r oedolyn fod yn bresennol yn ystod y chwiliad a bod yr oedolyn yn cytuno. Gwneir cofnod o benderfyniad y person ifanc ac fe’i llofnodir gan yr oedolyn priodol.
7. Pan gynhelir chwiliad personol dan baragraff 2 gan swyddog heddlu, rhaid i’r swyddog fod o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw (gweler Atodiad I). Rhaid i o leiaf ddau berson, ac eithrio’r sawl sy’n cael ei gadw, fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad. Yn unol â pharagraff 6, ni ddylai unrhyw un o’r rhyw arall nad yw’n ymarferwr meddygol neu’n nyrs, fod yn bresennol, ac ni fydd unrhyw un nad oes angen iddynt fod yno yn bresennol ychwaith. Rhaid cynnal y chwiliad gyda sylw priodol i urddas, sensitifrwydd a bregusrwydd y sawl sy’n cael ei gadw gan gynnwys yn benodol, ei anghenion iechyd, hylendid a lles y mae paragraffau 9.4A a 9.4B yn berthnasol.
(b) Dogfennaeth
8. Yn achos chwiliad personol dan baragraff 2, cofnodir y canlynol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol yng nghofnod y ddalfa’r sawl sy’n cael ei gadw:
-
yr awdurdodiad i gynnal y chwiliad;
-
y sail dros roi’r awdurdodiad;
-
y sail dros gredu na ellid tynnu’r eitem heb gynnal chwiliad personol;
-
pa rannau o gorff y sawl sy’n cael ei gadw a chwiliwyd;
-
pwy gynhaliodd y chwiliad;
-
pwy oedd yn bresennol;
-
y canlyniad.
9. Os cynhelir chwiliad personol gan swyddog heddlu, rhaid cofnodi’r rheswm pam yr oedd hi’n anymarferol i ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, ei gynnal.
B Noeth-chwiliad
10. Mae noeth-chwiliad yn golygu chwiliad lle bydd mwy na dillad allanol yn cael eu diosg. Yn y Cod yma, mae dillad allanol yn cynnwys esgidiau a hosanau.
(a) Gweithredu
11. Yr unig adeg y gellir cynnal noeth-chwiliad yw os bernir bod angen ei gynnal er mwyn cael gafael ar eitem na fyddai gan y sawl sy’n cael ei gadw hawl i’w gadw, a phan fo’r swyddog o’r farn resymol y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod wedi cuddio eitem o’r fath. Ni chynhelir noeth- chwiliadau dan y drefn arferol os na cheir unrhyw reswm dros gredu bod eitemau wedi cael eu cuddio.
Cynnal noeth-chwiliadau
12. Pan gynhelir noeth-chwiliadau:
(a) rhaid i swyddog yr heddlu sy’n cynnal noeth-chwiliad fod o’r un rhyw â’r sawl sy’n cael ei gadw (gweler Atodiad I);
(b) cynhelir y noeth-chwiliad mewn man lle na all unrhyw un arall nad oes angen iddynt fod yn bresennol, nac unrhyw un o’r rhyw arall (gweler Atodiad I) ac eithrio oedolyn priodol y mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi gofyn yn benodol i fod yn bresennol, weld y sawl sy’n cael ei gadw;
(c) ac eithrio mewn achosion brys, pan fo risg o berygl difrifol i’r sawl sy’n cael ei gadw neu i eraill, pan fo noeth-chwiliad yn golygu y bydd rhannau preifat o’r corff yn y golwg, rhaid i o leiaf ddau berson fod yn bresennol ar wahân i’r sawl sy’n cael ei gadw, ac os yw’r person dan sylw yn berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed, rhaid i un o’r oedolion fod yn oedolyn priodol y person dan sylw. Ac eithrio mewn achosion brys megis y rhai a nodir uchod, gellir cynnal chwiliad ar berson ifanc yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’r person ifanc yn datgan ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol, nad yw’n dymuno i’r oedolyn fod yn bresennol yn ystod y chwiliad a bod yr oedolyn yn cytuno. Gwneir cofnod o benderfyniad y person ifanc ac fe’i llofnodir gan yr oedolyn priodol. Caniateir i fwy na dau berson fod yn bresennol, ac eithrio’r oedolyn priodol, yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol yn unig;
(d) rhaid cynnal y chwiliad gyda sylw priodol i urddas, sensitifrwydd a bregusrwydd y sawl sy’n cael ei gadw yn yr amgylchiadau hyn, gan gynnwys yn benodol, ei anghenion iechyd, hylendid a lles y mae paragraffau 9.4A a 9.4B yn berthnasol. Gwneir pob ymdrech resymol i sicrhau cydweithrediad y sawl sy’n cael ei gadw, i gynnal ei urddas a lleihau unrhyw embaras. Fel arfer, ni fydd yn rhaid i unigolion a gedwir ac y cynhelir chwiliad arnynt, ddiosg eu holl ddillad ar yr un pryd, e.e. dylid caniatáu i berson dynnu dillad o’r canol i fyny a’u hail wisgo, cyn diosg unrhyw ddillad pellach;
(e) efallai y bydd yn rhaid i’r sawl sy’n cael ei gadw ddal ei freichiau i fyny neu sefyll gyda’i goesau ar led a phlygu ymlaen os oes angen gwneud hynny i gynorthwyo’r chwiliad, er mwyn cynnal chwiliad gweledol o’r mannau cenhedlol a rhefrol, ar yr amod na chyffyrddir ag unrhyw un o agorfeydd y corff;
(f) os gwelir unrhyw eitemau, gofynnir i’r sawl sy’n cael ei gadw eu rhoi i’r heddlu. Os ceir unrhyw eitemau mewn unrhyw un o agorfeydd y corff, ac eithrio’r geg, ac os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn gwrthod eu rhoi i’r heddlu, rhaid cynnal chwiliad personol er mwyn cael gafael arnynt, ac mae’n rhaid cynnal chwiliad personol o’r fath yn unol â Rhan A;
(g) cynhelir noeth-chwiliad mor gyflym ag y bo modd, gan roi’r cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw i wisgo cyn gynted ag y bydd y chwiliad wedi’i gwblhau.
(b) Dogfennaeth
13. Gwneir cofnod yn y cofnod cadw y cynhaliwyd noeth-chwiliad, gan gynnwys y rheswm pam yr ystyriwyd bod angen ei gynnal, y rhai oedd yn bresennol ac unrhyw ganlyniad.
Nodiadau Arweiniad
A1 Cyn awdurdodi unrhyw chwiliad personol, rhaid i’r swyddog awdurdodi wneud pob ymdrech rhesymol i berswadio’r sawl sy’n cael ei gadw, i roi’r eitem iddo heb orfod cynnal archwiliad. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn cytuno, dylid gofyn i ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig i asesu’r risgiau cysylltiedig pan fo modd a bod yn bresennol, os oes angen er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n cael ei gadw.
A2 Os na fydd y sawl sy’n cael ei gadw’n cytuno rhoi’r eitem i’r swyddog heb orfod cynnal archwiliad, rhaid i’r swyddog awdurdodi adolygu’r holl ffactorau perthnasol yn ofalus cyn awdurdodi chwiliad personol. Yn arbennig, rhaid i’r swyddog ystyried a yw’r rhesymau dros gredu y gallai eitem fod wedi cael ei guddio yn rhesymol.
A3 Os rhoddir awdurdod i gynnal chwiliad dan baragraff 2, ymgynghorir ag ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig pryd bynnag y bo modd. Dylid rhagdybio y cynhelir y chwiliad gan ymarferwr meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig ac mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodi wneud pob ymdrech rhesymol i ddarbwyllo’r sawl sy’n cael ei gadw i ganiatáu i’r ymarferwr meddygol neu’r nyrs i gynnal yr archwiliad.
A4 Yr unig adeg y dylid awdurdodi heddwas i gynnal chwiliad yw pan na fydd dewis arall a phan fo pob llwybr arall wedi methu. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r swyddog awdurdodi fod yn fodlon y gallai’r sawl sy’n cael ei gadw, ddefnyddio’r eitem ar gyfer un neu fwy o’r dibenion ym mharagraff 2 neu fwy, a bod yr anaf corfforol a achosir, yn debygol o fod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau awdurdodi heddwas i gynnal yr archwiliad.
A5 Os yw swyddog yn amau a ddylai awdurdodi chwiliad personol gan heddwas, dylai’r swyddog ofyn am gyngor swyddog o safle uwch-arolygydd neu uwch.
Atodiad B: Oedi cyn rhoi gwybod am arestio a lleoliad neu ganiatáu mynediad at gyngor cyfreithiol ar gyfer personau a gadwyd dan Ddeddf Terysgaeth 2000.
A OEDI dan TACT Atodlen 8
1. Gellir oedi’r hawliau yn adrannau 5 neu 6, os yw’r person yn cael ei gadw o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, adran 41 neu Atodlen 7, nad yw eto wedi’i gyhuddo o drosedd a bod gan swyddog o reng uwch-arolygydd neu uwch sail resymol dros gredu y bydd arfer y naill hawl neu’r llall yn arwain at un o’r canlyniadau a ganlyn:
(a) ymyrryd â neu niweidio tystiolaeth o drosedd ddifrifol,
(b) ymyrryd â neu anaf corfforol i unrhyw berson,
(c) rhybuddio pobl yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd ddifrifol ond nad ydynt wedi cael eu harestio amdani,
(d) rhwystro adennill eiddo a gafwyd o ganlyniad i drosedd ddifrifol neu y gellid gwneud gorchymyn fforffedu mewn cysylltiad ag ef o dan adran 23,
(e) ymyrryd â chasglu gwybodaeth am drefnu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgol,
(f) rhybuddio person a thrwy hynny ei gwneud yn anos atal gweithred o derfysgaeth, neu
(g) rhybuddio person a thrwy hynny ei gwneud yn fwy anodd i sicrhau bod person yn cael ei ddal, ei erlyn neu ei gollfarnu mewn cysylltiad â threfnu, paratoi neu gychwyn gweithred o derfysgaeth.
2. Gellir oedi’r hawliau hyn hefyd os oes gan y swyddog sail resymol i gredu’r canlynol:
(a) bod y person a gadwyd wedi ymelwa o’i ymddygiad troseddol (i’w benderfynu unol â Rhan 2 Deddf Elw Troseddau 2002), a
(b) bydd adfer gwerth yr eiddo sy’n cyfateb i’r ymelwa hynny wedi ei lesteirio gan—
(i) roi gwybod i’r person a enwir o gaethiwed y sawl sydd wedi ei gadw (yn yr achos o awdurdodiad dan Baragraff 8(1)(a) Atodlen 8 TACT), neu
(ii) arfer yr hawl dan baragraff 7 (yn yr achos o awdurdodiad dan Baragraff 8(1)(a) Atodlen 8 TACT).
3. Ni ellir gohirio’r hawliau hyn os yw’r person wedi’i gadw o dan adran 43B o Ddeddf Terfysgaeth 2000.
4. Yr unig adeg y gellir rhoi awdurdod i ohirio hawl y sawl sy’n cael ei gadw i gysylltu â chyfreithiwr, yw pan fo gan y swyddog awdurdodi sail resymol dros gredu y bydd y cyfreithiwr y mae’r sawl sy’n cael ei gadw wedi’i ddewis i ymgynghori ag ef, yn trosglwyddo neges gan y sawl sy’n cael ei gadw, neu’n ymddwyn mewn unrhyw ffordd arall a fyddai’n arwain at unrhyw un o’r goblygiadau a nodir o dan baragraff 8 Atodlen 8 Deddf Derfysgaeth 2000 yn anfwriadol neu fel arall. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid rhoi’r cyfle i’r sawl sy’n cael ei gadw ddewis cyfreithiwr arall. Gweler Nodyn B3.
5. Os bydd y sawl sy’n cael ei gadw yn dymuno gweld cyfreithiwr, ni ellir gwrthod mynediad at gyfreithiwr ar y sail y gallai gynghori’r sawl sy’n cael ei gadw i beidio ag ateb cwestiynau neu os gofynnwyd i’r cyfreithiwr fynychu gorsaf yr heddlu gan rywun arall yn gyntaf. Yn yr achos olaf rhaid hysbysu’r sawl sy’n cael ei gadw, bod y cyfreithiwr wedi dod i orsaf yr heddlu ar gais rhywun arall, a rhaid gofyn iddo lofnodi’r cofnod cadw er mwyn nodi a yw’n dymuno gweld cyfreithiwr neu beidio.
6. Nid yw’r ffaith y gellir bodloni’r amodau dros oedi hysbysu rhywun ei fod yn cael ei arestio yn golygu yn awtomatig bod yr amodau dros oedi cael mynediad at gyngor cyfreithiol hefyd wedi cael eu bodloni.
7. Gellir gohirio’r hawliau hyn dim ond cyhyd ag y bo angen ond nid y tu hwnt i 48 awr o’r adeg arestio (neu os oedd person yn cael ei gadw i ddechrau o dan TACT Atodlen 7 neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019, o’r amser pan ddechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol). Os bydd y seiliau uchod yn peidio â bod yn berthnasol o fewn yr amser hwn, rhaid gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw cyn gynted ag sy’n ymarferol a yw’n dymuno arfer y naill hawl neu’r llall, nodi’r cofnod cadw yn unol â hynny, a chymryd camau yn unol ag adran berthnasol y Cod hwn.
8. Rhaid caniatáu i berson ymgynghori â chyfreithiwr am gyfnod rhesymol cyn unrhyw wrandawiad llys.
B Dogfennaeth
9. Cofnodir y sail dros weithredu dan yr Atodiad hwn a hysbysir y sawl sy’n cael ei gadw amdani cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
10. Rhaid cofnodi unrhyw ateb a roddir gan y sawl sy’n cael ei gadw dan baragraff 6 a gofyn i’r sawl sy’n cael ei gadw gymeradwyo’r cofnod o ran a yw’n dymuno cael cyngor cyfreithiol ar yr adeg yma neu beidio.
C Rhybuddion a rhybuddion arbennig
11. Pan gyfwelir person dan amheuaeth sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu yn ystod unrhyw gyfnod lle gohiriwyd mynediad at gyngor cyfreithiol dan yr Atodiad hwn, ni all y llys na’r rheithgor ddod i gasgliadau niweidiol am ddistawrwydd y person hwnnw.
Nodiadau Arweiniad
B1 Hyd yn oed os bydd Atodiad B yn berthnasol yn achos person ifanc, neu berson sy’n agored i niwed, dylid cymryd unrhyw gamau i hysbysu’r oedolyn priodol a’r person sy’n gyfrifol am les person ifanc os yw hwnnw’n rhywun gwahanol, fel nodir ym mharagraff 3.15 a 3.17.
B2 Yn achos dinasyddion gwledydd y Gymanwlad a dinasyddion gwledydd tramor, gweler Nodyn 7A.
B3 Mae penderfyniad i ohirio mynediad at gyfreithiwr penodol yn debygol o fod yn ddigwyddiad prin ac yn cael ei wneud pan ellir dangos bod y sawl sydd dan amheuaeth yn gallu camarwain y cyfreithiwr hwnnw a bod mwy na risg sylweddol y bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn llwyddo i beri gwybodaeth i gael ei throsglwyddo a fydd yn arwain at un neu fwy o’r canlyniadau a nodwyd.
Atodiad C: Cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd a thelerau’r rhybudd pan fo’r cyfyngiad yn berthnasol
(a) Y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd
1. Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, adrannau 34, 36 a 37 fel y’u diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999, adran 58, yn disgrifio’r amodau lle gellir dod i gasgliadau niweidiol pan fo person yn methu neu’n gwrthod dweud unrhyw beth am ei ymwneud â’r drosedd wrth gael ei gyfweld, ar ôl cael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gallai gael ei erlyn. Mae’r darpariaethau hyn yn ddibynnol ar gyfyngiad blaenaf ynghylch gallu llys neu reithgor i ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd person. Mae’r cyfyngiad hwn yn berthnasol i:
(a) unrhyw un sy’n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu sydd, cyn cael ei gyfweld, gweler adran 11 neu gael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn, gweler adran 15, wedi:
(i) gofyn am gyngor cyfreithiol, gweler adran 6, paragraff 6.1;
(ii) heb gael cyfle i ymgynghori â chyfreithiwr, gan gynnwys y cyfreithiwr ar ddyletswydd, fel nodir yn y Cod yma; ac
(iii) heb newid ei feddwl ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler adran 6, paragraff 6.7(d).
Sylwer y bydd yr amod yn (ii) yn:
-
berthnasol pan fydd person sy’n cael ei gadw ac sydd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, yn cael ei gyfweld cyn siarad â chyfreithiwr fel nodir yn adran 6, paragraff 6.6(a) neu (b);
-
amherthnasol os bydd y person sy’n cael ei gadw yn penderfynu peidio gofyn am y cyfreithiwr ar ddyletswydd, gweler adran 6, paragraffau 6.7(b) ac (c).
(b) unrhyw berson a gyhuddwyd o gyflawni trosedd, neu a hysbyswyd y gellir ei erlyn am gyflawni trosedd, sydd:
(i) wedi cael gwybod am ddatganiad ysgrifenedig a wnaethpwyd gan berson arall neu gynnwys cyfweliad gyda pherson arall sy’n berthnasol i’r drosedd dan sylw, gweler PACE Cod C adran 16, paragraff 16.4;
(ii) yn cael ei gyfweld ynghylch y drosedd dan sylw, gweler PACE Cod C adran 16, paragraff 16.5; neu
(iii) yn gwneud datganiad ysgrifenedig ynghylch y drosedd dan sylw, gweler Atodiad D paragraffau 4 a 9, oni bai yr awdurdodwyd cwestiynu wedi cyhuddo yn unol ag adran 22 Deddf Gwrthderfysgaeth 2008, ac os felly bydd y cyfyngiad yn berthnasol dim ond os yw’r person wedi gofyn am gyngor cyfreithiol, gweler adran 6, paragraff 6.1, ac mae’n cael ei gwestiynu cyn derbyn cyngor o’r fath yn unol â pharagraff 6.7(b). Gweler paragraff 15.11.
(b) Amodau’r rhybudd pan fo’r cyfyngiad yn berthnasol
2. Pan fo gofyniad i roi rhybudd yn codi ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, bydd y rhybudd fel a ganlyn:
‘You do not have to say anything, but anything you do say may be given in evidence.’
Ble mae’n briodol i ddefnyddio’r Gymraeg, gellir defnyddio’r rhybudd yn uniongyrchol yn Gymraeg yn y termau canlynol:
‘Does dim rhaid i chi ddweud dim byd, ond gall unrhyw beth yr ydych chi’n ei ddweud gael ei roi fel tystiolaeth.’
3. Pan fo’r cyfyngiad naill ai’n dechrau dod i rym neu’n gorffen bod yn berthnasol ar ôl rhoi rhybudd eisoes, defnyddir y termau priodol i ailrybuddio’r person. Esbonnir y sefyllfa sydd wedi newid ynghylch dod i gasgliadau niweidiol ac nad yw’r rhybudd blaenorol yn berthnasol mwyach, i’r sawl sy’n cael ei gadw, hefyd mewn iaith gyffredin. Gweler Nodyn C1.
Nodiadau Arweiniad
C1 Awgrymir y canlynol fel fframwaith er mwyn helpu esbonio’r newidiadau yn y sefyllfa gyda golwg ar ddod i gasgliadau niweidiol os bydd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd:
(a) yn cychwyn bod yn berthnasol:
‘Dyw’r rhybudd a gafodd ei roi i chi yn gynharach ddim yn berthnasol mwyach. Mae hyn oherwydd eich bod chi, ar ôl cael y rhybudd hwnnw:
(i) wedi gofyn am gael siarad gyda chyfreithiwr ond heb gael cyfle eto i siarad gyda chyfreithiwr. Gweler paragraff 1(a); neu
(ii) wedi cael eich cyhuddo o/wedi cael eich hysbysu y gellir eich erlyn. Gweler paragraff 1 (b).
‘Mae hyn yn golygu o hyn ymlaen na ellir dod i gasgliadau niweidiol yn y llys ac na fydd eich amddiffyniad yn cael ei niweidio, dim ond oherwydd eich bod chi’n dewis peidio â dweud dim byd. Gwrandewch yn ofalus, os gwelwch yn dda, ar y rhybudd rwy’n mynd i’w roi i chi oherwydd hwn fydd yn berthnasol o hyn ymlaen. Byddwch chi’n gweld na fydd yn dweud dim byd am niwed yn cael ei wneud i’ch amddiffyniad.’
(b) yn peidio bod yn berthnasol cyn neu ar yr adeg y cyhuddir y person neu ei hysbysir y gellir ei erlyn, gweler paragraff 1(a);
‘Dyw’r rhybudd a gafodd ei roi i chi yn gynharach ddim yn berthnasol mwyach. Mae hyn oherwydd eich bod chi, ar ôl cael y rhybudd hwnnw, wedi cael cyfle i siarad gyda chyfreithiwr. Gwrandewch yn ofalus, os gwelwch yn dda, ar y rhybudd rwy’n mynd i’w roi i chi oherwydd hwn fydd yn berthnasol o hyn ymlaen. Mae’n esbonio sut y gall eich amddiffyniad gael ei effeithio os byddwch chi’n dewis peidio â dweud dim byd.’
Atodiad D: Datganiadau ysgrifenedig ar ôl rhoi rhybudd
(a) A ysgrifennir gan y person a rybuddiwyd
1. Estynnir gwahoddiad i berson ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud bob amser.
2. Gofynnir i berson nad yw wedi cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd, neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd, y mae’r datganiad y mae’n dymuno’i ysgrifennu yn ymwneud â hi:
(a) oni bai y gwneir y datganiad ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud:
‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
(b) os gwneir y datganiad ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn bodoli, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud;
‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’
3. Gofynnir i berson, pan yw’n cael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd, a’i fod yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath ac yn dymuno’i ysgrifennu:
(a) oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd, gweler Atodiad C, yn berthnasol pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud:
‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
(b) os oedd y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau oherwydd distawrwydd yn berthnasol pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn, i ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud:
‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’
4. Pan fydd person, sydd eisoes wedi cael ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am gyflawni unrhyw drosedd, yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath ac yn dymuno’i ysgrifennu, gofynnir iddo ysgrifennu a llofnodi’r canlynol cyn ysgrifennu’r hyn y mae’n dymuno’i ddweud:
‘Rwy’n gwneud y datganiad hwn o’m gwirfodd. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
5.Caniateir i unrhyw berson sy’n ysgrifennu ei ddatganiad, wneud hynny heb anogaeth, ac eithrio lle gall swyddogion yr heddlu neu staff heddlu eraill ei hysbysu pa faterion sy’n faterol neu gwestiynu unrhyw amwysedd yn y datganiad.
(b) A ysgrifennir gan swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu
6. Os bydd person yn dweud ei fod yn dymuno i rywun ysgrifennu’r datganiad ar ei ran, bydd swyddog heddlu neu aelod arall o staff yr heddlu yn ei ysgrifennu ar ei ran.
7. Os na chyhuddwyd y person, neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd y mae’r datganiad y mae’n dymuno’i wneud yn berthnasol iddo, cyn dechrau, gofynnir iddo lofnodi, neu wneud ei farc, ger y canlynol:
(a) oni bai fod y datganiad yn cael ei wneud ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C:
‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
(b) os gwneir y datganiad ar adeg pan fo’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol:
‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’
8. Ar ôl ei gyhuddo, neu ei rybuddio y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd o’r fath, os bydd y person yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath, gofynnir iddo lofnodi, neu roi ei farc, ger y canlynol cyn cychwyn:
(a) oni bai fod y cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol, gweler Atodiad C, pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn:
‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd ond y gall niweidio fy amddiffyniad os na fyddaf yn sôn, wrth gael fy holi, am rywbeth y byddaf yn dibynnu arno nes ymlaen yn y llys. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’;
(b) os yw’r cyfyngiad ar ddod i gasgliadau niweidiol oherwydd distawrwydd yn berthnasol pan gafodd ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn:
‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’
9. Ar ôl ei gyhuddo neu ei hysbysu y gellir ei erlyn am unrhyw drosedd, os bydd person yn gofyn am gael gwneud datganiad sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd o’r fath, gofynnir iddo lofnodi, neu wneud ei farc gerllaw’r canlynol cyn cychwyn:
‘Rwyf i, ………………………., yn dymuno gwneud datganiad. Rwyf am i rywun ysgrifennu’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy’n deall nad oes rhaid i mi ddweud dim byd. Gall y datganiad hwn gael ei roi fel tystiolaeth.’
10. Rhaid i’r person sy’n ysgrifennu datganiad nodi neu gofnodi’r union eiriau a ddywedir gan y person sy’n ei wneud ac ni ddylai ei olygu na’i aralleirio. Rhaid cofnodi unrhyw gwestiynau angenrheidiol, e.e. er mwyn ei wneud yn fwy dealladwy, a’r atebion a roddir, ar ffurflen y datganiad ar yr un pryd.
11. Ar ôl gorffen ysgrifennu datganiad, gofynnir i’r person a’i gwnaeth i’w ddarllen a gwneud unrhyw gywiriadau, addasiadau neu ychwanegiadau y mae’n dymuno eu gwneud. Ar ôl iddo orffen ei ddarllen, gofynnir iddo ysgrifennu a llofnodi neu wneud ei farc ger y dystysgrif ganlynol ar ddiwedd y datganiad:
‘Rwyf wedi darllen y datganiad uchod ac rwyf wedi gallu cywiro, newid neu ychwanegu unrhyw beth yr oeddwn yn dymuno. Mae’r datganiad hwn yn wir. Rwyf wedi ei wneud o’m gwirfodd.’
12. Os na all y person sy’n gwneud y datganiad ddarllen, neu os yw’n gwrthod ei ddarllen, neu ysgrifennu’r dystysgrif y soniwyd amdani uchod ar ei ddiwedd neu ei llofnodi, bydd y person a ysgrifennodd y datganiad yn ei ddarllen iddo ac yn gofyn iddo a hoffai gywiro, addasu neu ychwanegu unrhyw beth, a llofnodi neu roi ei farc ar y diwedd. Bydd y person sy’n ysgrifennu’r datganiad yn tystio ar y datganiad ei hun, yr hyn a ddigwyddodd.
Atodiad E: crynodeb o’r darpariaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed
1. Os oes gan swyddog ar unrhyw adeg reswm i amau y gall person o unrhyw oedran fod yn agored i niwed (gweler paragraff 1.17(d)), yn absenoldeb tystiolaeth glir i ddileu’r amheuaeth honno, bydd y person hwnnw yn cael ei drin yn y ffordd honno at ddibenion y Cod hwn ac i sefydlu a all unrhyw reswm o’r fath fodoli mewn perthynas â pherson yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd (gweler paragraff 10.1 a Nodyn 10A), bydd swyddog y ddalfa yn cymryd, neu gyfarwyddo cymryd (gweler paragraff 3.5 a Nodyn 3I) y camau a ganlyn:
(a) rhaid gwneud ymholiadau rhesymol i ganfod pa wybodaeth sydd ar gael sy’n berthnasol i unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.17 (d) fel rhai sy’n awgrymu y gallai’r person fod yn agored i niwed;
(b) rhaid gwneud cofnod yn disgrifio a yw’n ymddangos bod unrhyw un o’r ffactorau hynny’n gymwys ac yn darparu unrhyw reswm i amau y gallai’r person fod yn agored i niwed neu (yn ôl y galw) ddim yn agored i niwed; a
(c) bydd y cofnod a grybwyllir yn is-baragraff (b) ar gael i’w ystyried gan swyddogion heddlu, staff yr heddlu ac unrhyw rai eraill sydd, yn unol â darpariaethau’r Cod hwn neu unrhyw God arall, angen neu sydd â hawl i gyfathrebu â’r person dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys unrhyw gyfreithiwr, oedolyn priodol a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n arbennig o berthnasol i gyfathrebu at ddiben cyfweld a chwestiynu ar ôl cyhuddo (gweler adrannau 11, 12 a 15), dehongli cyswllt byw (gweler paragraff 13.12) ac adolygiadau ac estyniadau i’r cyfnod cadw (gweler adran 14).
Gweler Nodiadau 1G, E4, E5 ac E6.
2. Yn achos person sy’n agored i niwed, mae’r ‘oedolyn priodol’ yn golygu:
(i) perthynas, gwarcheidwad neu berson arall sy’n gyfrifol am ei ofal neu ei warchod;
(ii) rhywun sydd â phrofiad o ddelio gyda phobl sy’n agored i niwed, ond nad yw:
-
yn swyddog yr heddlu;
-
wedi ei gyflogi gan yr heddlu;
-
dan gyfarwyddyd neu reolaeth prif swyddog heddlu;
-
yn berson sy’n darparu gwasanaethau dan drefniadau cytundebol (ond heb ei gyflogi gan brif swyddog heddlu), i gynorthwyo’r heddlu hwnnw parthed cyflawni ei swyddogaethau fel prif swyddog,
-
p’un a yw ar ddyletswydd ar y pryd neu beidio.
(iii) os nad yw’n un o’r rhain, dylai fod yn rhyw oedolyn cyfrifol arall 18 oed neu hŷn ar wahân i’r sawl a ddisgrifir yn y pwyntiau bwled yn is-baragraff (ii) uchod.
Gweler paragraff 1.13(b) a Nodyn 1D
2A Rôl yr oedolyn priodol yw diogelu hawliau a lles pobl ifanc a ‘phobl sy’n agored i niwed‘ (gweler paragraff 1) y mae darpariaethau’r Cod hwn ac unrhyw God Ymarfer arall yn berthnasol iddynt. Am y rheswm hwn, mae disgwyl i’r oedolyn priodol, ymysg pethau eraill, i:
-
cefnogi, cynghori a chynorthwyo pobl ifanc pan, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall, y rhoddir neu y gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth neu gymryd rhan mewn unrhyw weithdrefn;
-
arsylwi a yw’r heddlu’n Gweithredu’n gywir ac yn deg i barchu eu hawliau a’u haeddiannau , a hysbysu swyddog o reng arolygydd neu uwch os ydynt o’r farn nad ydyn nhw;
-
cynorthwyo nhw i gyfathrebu â’r heddlu wrth barchu eu hawl i ddweud dim oni bai eu bod eisiau gwneud hynny fel y nodir yn nhelerau’r rhybudd gweler paragraffau 10.5 a 10.6);
-
helpu nhw i ddeall eu hawliau a sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu gwarchod a’u parchu.
Gweler paragraff 1.13A.
3. Os yw cadw person sy’n agored i niwed yn cael ei awdurdodi gan y swyddog adolygu (gweler paragraffau 14.1 ac 14.2 a Nodiadau 14A ac 14B), rhaid i swyddog y ddalfa hysbysu’r oedolyn priodol o sail y penderfyniad i’w gadw cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol, a lleoliad y person, a threfnu i’r oedolyn priodol ddod i orsaf yr heddlu i weld y person sy’n cael ei gadw. Os:
-
yw’r oedolyn priodol eisoes yn yr orsaf pan roddir yr wybodaeth fel ym mharagraffau 3.1 i 3.5 rhaid rhoi’r wybodaeth tra bydd yno;
-
nad yw’r oedolyn priodol yn yr orsaf pan gydymffurfir â darpariaethau pharagraff 3.1 i 3.5 rhaid cydymffurfio â’r darpariaethau hyn unwaith eto yn ei bresenoldeb pan fydd yn cyrraedd.
Gweler paragraffau 3.15 i 3.16
4. Ar ôl ei hysbysu o’i hawl i gael cyngor cyfreithiol, os bydd yr oedolyn priodol yn ystyried y dylid cymryd cyngor cyfreithiol, bydd darpariaethau adran 6 yn berthnasol fel pe byddai’r person agored i niwed wedi gofyn am gyngor cyfreithiol. Gweler paragraffau 3.20, 6.6 a Nodyn E1.
5. Rhaid i swyddog y ddalfa sicrhau y rhoddir sylw clinigol priodol i berson cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol os yw hi’n ymddangos bod y person yn dioddef anhwylder meddwl neu mewn achosion brys, ffonio’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol agosaf neu ambiwlans. Gweler paragraffau 9.6 a 9.8. Gweler Cod C paragraffau 9.5 a 9.6 pan fydd person yn cael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, adrannau 135 a 136, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017.
6. Os rhoddir rhybudd i berson agored i niwed yn absenoldeb yr oedolyn priodol, rhaid ailadrodd y rhybudd ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol. Gweler paragraff 10.11.
7. Ni ddylid cyfweld person agored i niwed, na gofyn iddo ddarparu neu lofnodi datganiad ysgrifenedig os na fydd yr oedolyn priodol yn bresennol, oni bai fod darpariaethau paragraffau
11.2 neu 11.11 i 11.13 yn berthnasol. Ni ellir holi ymhellach yn yr amgylchiadau hyn os na fydd oedolyn priodol yn bresennol unwaith y ceir gwybodaeth ddigonol i osgoi’r risg. Gwneir cofnod o sail unrhyw benderfyniad i ddechrau cyfweld yn yr amgylchiadau hyn. Gweler paragraffau 11.2, 11.9 ac 11.11 i 11.13
8. Os yw’r oedolyn priodol yn bresennol mewn cyfweliad, fe’i hysbysir na ddisgwylir iddo arsylwi yn unig, ac mai diben ei bresenoldeb yw:
-
cynghori’r sawl a gyfwelir
-
arsylwi a gynhelir y cyfweliad yn gywir ac yn deg neu beidio
-
hwyluso cyfathrebu gyda’r sawl a gyfwelir
Gweler paragraff 11.10.
9. Os bydd swyddog y ddalfa yn cyhuddo person agored i niwed o gyflawni trosedd neu os yw’n cymryd unrhyw gamau priodol pan geir digon o dystiolaeth i erlyn, rhaid gwneud hyn ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol os yw yng ngorsaf yr heddlu. Rhaid rhoi’r hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys unrhyw gyhuddiad i’r oedolyn priodol. Gweler PACE Cod C Adran 16.
10. Yr unig adeg y gellir cynnal chwiliad personol neu noeth-chwiliad o berson agored i niwed yw pan fydd yr oedolyn priodol o’r un rhyw yn bresennol, oni bai fod y sawl sy’n cael ei gadw yn gofyn yn benodol am bresenoldeb oedolyn arbennig o ryw wahanol. Gellir cynnal noeth- chwiliad yn absenoldeb oedolyn priodol mewn achosion o argyfwng yn unig pan geir risg o niwed difrifol i’r sawl sy’n cael ei gadw neu i eraill. Gweler Atodiad A, paragraffau 6 a12(c)
11. Rhaid cymryd gofal arbennig wrth benderfynu a ddylid defnyddio unrhyw fath arall o gyfyngiadau a gymeradwywyd ar berson agored i niwed mewn cell wedi’i chloi. Gweler paragraff 8.2
Nodiadau Arweiniad
E1 Diben y darpariaethau ym mharagraff 3.20 a 6.6 yw amddiffyn hawliau person sydd yn agored i niwed nad yw’n deall arwyddocâd yr hyn a ddywedir wrtho. Dylid rhoi’r cyfle bob amser i berson agored i niwed pan alwir am oedolyn priodol i’r orsaf heddlu, i ymgynghori â chyfreithiwr yn breifat yn absenoldeb yr oedolyn priodol os yw’n dymuno gwneud hynny.
E2 Er bod pobl sy’n agored i niwed yn aml yn gallu darparu tystiolaeth ddibynadwy mewn amgylchiadau arbennig, gallant fod yn fwy tebygol o ddarparu gwybodaeth a allai fod yn annibynadwy, yn gamarweiniol neu’n arwain at rywun i’w hamau nhw, heb wybod na bod eisiau gwneud hynny. Dylid cymryd gofal arbennig bob amser wrth holi person o’r fath, a dylai’r unigolyn priodol fod yn gysylltiedig â’r broses os ceir unrhyw amheuaeth ynghylch cyflwr meddyliol neu allu meddyliol y person dan sylw. Oherwydd risg tystiolaeth annibynadwy, mae’n bwysig cadarnhau unrhyw ffeithiau a gyfaddefir pan fo modd.
E3 Oherwydd y risgiau y cyfeiriwyd atynt yn Nodyn E2, y mae presenoldeb yr oedolyn priodol i fod i’w lleihau gymaint ag y bo modd, dylai swyddogion o safle uwch-arolygydd neu uwch, awdurdodi cychwyn cyfweliad yn absenoldeb yr oedolyn priodol mewn amgylchiadau arbennig yn unig, yn ôl ei ddisgresiwn, os oes angen osgoi un neu fwy o’r risgiau penodedig ym mharagraff 11.2. Gweler paragraffau 11.2 ac 11.11 i 11.13.
E4 At ddibenion Atodiad E paragraff 1, mae enghreifftiau o wybodaeth berthnasol a allai fod ar gael yn cynnwys:
-
ymddygiad yr oedolyn neu’r person ifanc;
-
iechyd meddwl a gallu’r oedolyn neu’r person ifanc;
-
yr hyn y mae’r oedolyn neu’r person ifanc yn ei ddweud amdanynt eu hunain;
-
gwybodaeth gan deulu a ffrindiau’r oedolyn neu’r person ifanc;
-
gwybodaeth gan swyddogion a staff yr heddlu a gwybodaeth o gofnodion yr heddlu;
-
gwybodaeth gan iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cyswllt a dargyfeirio) a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n adnabod, neu wedi cael cyswllt blaenorol â’r unigolyn ac a allai gyfrannu at asesu ei angen am gymorth a chefnogaeth gan oedolyn priodol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau ac asesiadau a drefnir gan yr heddlu neu ar gais yr unigolyn neu (fel sy’n berthnasol) eu hoedolyn priodol neu gyfreithiwr.
E5 Mae Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar dudalen 26 yn disgrifio’r ystod o gyflyrau a gydnabyddir yn glinigol a all gael eu hystyried yn anhwylder meddwl at ddibenion paragraff 1.17 (d). Mae’r Cod wedi’i gyhoeddi yma:
https://www.uk/government/publications/code-of-practice-mental-health-act-1983.
E6 Pan fydd person o dan ddylanwad diod a/neu gyffuriau, ni fwriedir iddo gael ei drin fel rhywun sy’n agored i niwed ac sydd angen oedolyn priodol at y diben oni bai bod gwybodaeth arall yn awgrymu bod unrhyw un o’r ffactorau a ddisgrifir ym mharagraff 1.17(d) yn berthnasol i’r person hwnnw. Pan fydd y person wedi gwella o effeithiau diod a/neu gyffuriau, dylid ei ailasesu yn unol ag Atodiad E pharagraff 1.
Atodiad F: Heb ei ddefnyddio
Atodiad G: A yw person mewn cyflwr i’w gyfweld
1. Mae’r Atodiad hwn yn cynnwys arweiniad cyffredinol i helpu swyddogion heddlu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i asesu a allai’r sawl sy’n cael ei gadw fod mewn risg yn ystod cyfweliad.
2. Gallai’r sawl sy’n cael ei gadw fod mewn risg mewn cyfweliad os ystyrir:
(a) y gallai cynnal y cyfweliad niweidio cyflwr corfforol neu feddyliol y sawl sy’n cael ei gadw, yn sylweddol;
(b) y gallai unrhyw beth a ddywedir gan y sawl sy’n cael ei gadw yn ystod y cyfweliad, ynghylch ei gyswllt neu ei gyswllt tybiedig â’r drosedd y mae’n cael ei gyfweld yn ei gylch, gael ei ystyried yn annibynadwy mewn achos llys dilynol oherwydd ei gyflwr corfforol neu feddyliol.
3. Wrth asesu a ddylid cyfweld y sawl sy’n cael ei gadw, rhaid ystyried y canlynol:
(a) sut allai cyflwr corfforol neu feddyliol y sawl sy’n cael ei gadw effeithio ar ei allu i ddeall natur a diben y cyfweliad, deall yr hyn a ofynnir iddo a gwerthfawrogi arwyddocâd unrhyw atebion a roddir a gwneud penderfyniadau rhesymegol ynghylch a yw’n dymuno dweud unrhyw beth;
(b) y graddau y gellir effeithio ar atebion y sawl sy’n cael ei gadw gan ei gyflwr corfforol neu feddyliol, yn hytrach na chynrychioli esboniad rhesymegol a chywir o’i ymwneud â’r drosedd;
(c) sut y gallai natur y cyfweliad, a allai gynnwys cwestiynau arbennig o dreiddgar, effeithio ar y sawl sy’n cael ei gadw.
4. Mae’n hanfodol bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yr ymgynghorir ag ef yn ystyried gallu swyddogaethol y sawl sy’n cael ei gadw yn hytrach na dibynnu ar ddiagnosis meddygol yn unig, e.e. mae’n bosibl ei bod yn addas cyfweld person sydd â salwch meddwl difrifol.
5. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gynnig cyngor ar yr angen i oedolyn priodol fod yn bresennol, a fydd angen ailasesu a yw’r person mewn cyflwr i gael ei gyfweld os bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal dros gyfnod penodol, ac a fydd angen barn arbenigol bellach.
6. Pan fydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn nodi risgiau, dylid gofyn iddo fesur y risgiau.
Dylai hysbysu swyddog y ddalfa:
-
a yw cyflwr y person:
-
yn debygol o wella;
-
yn gofyn am driniaeth neu’n gallu cael ei wella gan driniaeth; a
-
-
nodi pa mor hir y gallai ei gymryd i welliant o’r fath ddigwydd.
7. Rôl y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yw ystyried y risgiau a chynghori swyddog y ddalfa o ganlyniad yr ystyriaeth honno. Dylid nodi penderfyniad y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac unrhyw gyngor neu argymhellion a wneir, ar bapur, a dylai fod yn rhan o’r cofnod cadw.
8. Ar ôl i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddarparu’r wybodaeth honno, rhaid i swyddog y ddalfa benderfynu a ddylai ganiatáu i’r cyfweliad fynd yn ei flaen ac os dylid parhau â’r cyfweliad, penderfynu pa gamau diogelu y mae angen eu cymryd. Nid oes unrhyw beth i atal darparu camau diogel yn ychwanegol i’r rhai sy’n angenrheidiol o dan y Cod. Gallai enghraifft olygu gofyn i weithiwr gofal iechyd proffesiynol fod yn bresennol yn ystod y cyfweliad, yn ogystal â’r oedolyn priodol, er mwyn monitro cyflwr y person yn gyson a sut mae’r cyfweliad yn effeithio ar ei gyflwr.
Atodiad H: Person sy’n cael ei gadw: rhestr arsylwi
1. Os bydd y person sy’n cael ei gadw yn methu â bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol, rhaid galw am weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol neu ambiwlans.
2. Wrth asesu lefel ei ymateb corfforol, dylid ystyried:
Ymateb corfforol - a ellir ei ddeffro?
-
ewch i mewn i’r gell
-
dywedwch ei enw
-
ysgwydwch y person yn ysgafn
Ymateb i gwestiynau - a yw’n gallu rhoi atebion priodol i gwestiynau megis:
-
Beth yw eich enw?
-
Ble ydych chi’n byw?
-
Ble ydych chi’n credu ydych chi?
Ymateb i orchmynion - a yw’n gallu ymateb yn briodol i orchmynion megis:
-
Agorwch eich llygaid!
-
Codwch un fraich, a’r fraich arall nawr!
3. Cofiwch ystyried posibilrwydd neu bresenoldeb mathau eraill o salwch, anafiadau neu gyflyrau meddyliol, oherwydd efallai bod person sy’n gysglyd ac arogl alcohol arno, yn dioddef o’r canlynol hefyd:
-
Diabetes
-
Epilepsi
-
Anaf i’r pen
-
Dan ddylanwad cyffuriau neu wedi cymryd gorddos o gyffuriau
-
Strôc
Atodiad I: Sefydlu rhyw personau i ddiben chwilio a gweithdrefnau penodol eraill
1. Mae darpariaethau penodol y Cod yma a Chodau PACE eraill yn datgan yn eglur y dylid cyflawni chwiliadau gan, neu ym mhresenoldeb, personau o’r un rhyw â’r person sy’n destun y chwiliad neu weithdrefn arall yn unig. neu ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd neu i roi gwybodaeth sy’n dibynnu a yw’r sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei drin fel gwryw neu fenyw. Gweler Nodyn I1.
2. Rhaid cynnal pob chwiliad, gweithdrefn a gofynion gyda chwrteisi, ystyriaeth a pharch tuag at y person dan sylw. Dylai swyddogion yr heddlu ddangos sensitifrwydd penodol wrth ddelio ag unigolion trawsryweddol (yn cynnwys personau trawsrywiol) a thrawswisgwyr (gweler Nodiadau I2, I3 ac I4).
(a) Ystyriaeth
3. Yn ôl y gyfraith, rhywedd (ac felly hefyd rhyw) unigolyn yw ei rywedd fel y’i cofrestrwyd ar enedigaeth, oni bai ei fod wedi derbyn Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) dan y Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 (GRA), ac felly rhywedd y person yw ei rywedd caffaeledig. Mae hyn yn golygu os yw’r rywedd gaffaeledig yn rywedd gwrywaidd, mae rhyw’r person yna bellach yn ddyn, ac os yw’n rywedd benywaidd, mae rhywedd y person yna yn fenyw, ac mae’n rhaid eu trin yn unol â’r rhywedd gaffaeledig.
4. Wrth sefydlu a ddylid trin y person dan sylw fel gwryw neu fenyw i ddibenion y chwiliadau gweithdrefnau a’r gofynion hyn, dylid dilyn y dull canlynol sydd wedi’i gynllunio i gynnal ei urddas, i leihau embaras a sicrhau eu cydweithrediad:
(a) Ni ddylid gofyn i’r person os oes ganddo/ganddi GRC (gweler paragraff 8);
(b) Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a ddylid trin y person fel gwryw neu fenyw, dylid delio â’r person fel o’r rhyw yna.
(c) Os ar unrhyw adeg (yn cynnwys yn ystod chwiliad neu wrth gyflawni gweithdrefn neu ofyniad) mae yna amheuaeth ynghylch a ddylid trin y person fel, neu barhau i drin y person fel, gwryw neu fenyw:
(i) dylid gofyn i’r person pa ryw mae’n ystyried ei hun i fod. Os yw’n mynegi ffafriaeth i’w drin fel rhyw benodol, dylid gofyn iddo/iddi ddynodi a chadarnhau ei ddewis trwy lofnodi cofnod y ddalfa neu, os nad agorwyd cofnod y ddalfa, y cofnod chwilio neu lyfr nodiadau’r swyddog. Yn ddarostyngedig i (ii) isod, dylid trin y person yn unol â’i ddewis ar wahân i’r gofynion i ddarparu gwybodaeth i’r person hwnnw am gynhyrchion mislif a’i anghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraf f 3.21A (os o dan 18 oed) a pharagraffau 9.4A a 9.4B (os ydynt yn 18 oed neu’n hŷn). Yn yr achosion hyn, dylid gofyn yn breifat i berson y mae ei ddewis wedi’i gadarnhau fel bod yn wrywaidd a yw’n dymuno siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa o ryw o’i ddewis ynglŷn â darparu cynhyrchion mislif a’i anghenion personol, er gwaethaf ei dewis wedi’i gadarnhau (gweler Nodyn I3A);
(ii) os oes sail i amau fod y dewis yn (i) yn adlewyrchu ffordd o fyw pennaf y person, er enghraifft, os yw’n gofyn i gael ei drin fel menyw ond mae dogfennau a gwybodaeth arall yn ei gwneud yn glir ei fod yn byw’n bennaf fel dyn, neu fel arall, dylid ei drin yn unol â beth sy’n ymddangos i fod ei ffordd o fyw pennaf ac nid y dewis a ffafrir;
(iii) Os yw’r person yn anfodlon i fynegi dewis fel yn (i) uchod, dylid gwneud ymdrech i bennu ei ffordd o fyw pennaf a’i drin yn unol â hynny. Er enghraifft, os ymddengys eu bod yn byw yn bennaf fel menyw, dylid eu trin fel menyw; ac eithrio o ran y gofynion i roi gwybodaeth i’r unigolyn hwnnw am gynhyrchion mislif a’u hanghenion personol sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles a ddisgrifir ym mharagraff 3.21A (os o dan 18 oed) a pharagraffau 9.4A a 9.4B (os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn). Yn yr achosion hyn, dylid gofyn yn breifat i berson y penderfynwyd bod ei ffordd o fyw yn wrywaidd yn bennaf a yw’n dymuno siarad yn breifat ag aelod o staff y ddalfa o ryw o’i ddewis ynglŷn â darparu cynhyrchion mislif a’i anghenion personol, er gwaethaf ei brif ffordd o fyw penodedig (gweler Nodyn I3A); neu
(iv) os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, dylid delio â’r person yn ôl beth sy’n ymddangos yn rhesymol i fod ei ryw pan y’i cofrestrwyd ar enedigaeth.
5. Wedi gwneud penderfyniad ynghylch dan ba rywedd y dylid trin unigolyn, dylai pob swydd sy’n gyfrifol am y chwiliad, y weithdrefn neu ofyniad ble fo’n bosibl gael ei gynghori cyn i’r chwiliad neu weithdrefn gychwyn o unrhyw amheuon ynghylch rhywedd yr unigolyn a hysbysu’r unigolyn y datgelwyd yr amheuon. Mae hyn yn bwysig er mwyn cynnal urddas y person ac unrhyw swyddogion dan sylw.
(b) Dogfennaeth
6. Rhaid i rywedd y person fel y sefydlwyd dan baragraff 4(c)(i) i (iv) uchod gael ei gofnodi yng nghofnod dalfa’r person, neu os nad agorwyd cofnod y ddalfa, ar y cofnod chwilio neu yn llyfr nodiadau’r swyddog.
7. Ble mae’r person yn dewis pa rywedd mae’n ystyried ei hun i fod dan baragraff 4(b)(i) ond yn dilyn 4(b)(ii) nad yw’n cael ei drin yn unol â’i ddewis, rhaid cofnodi’r rheswm yn y cofnod chwilio, yn llyfr nodiadau’r swyddog neu, os yn berthnasol, yng nghofnod y ddalfa’r person.
(c) Datgelu gwybodaeth
8. Mae Adran 22 y Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn diffinio unrhyw wybodaeth yn ymwneud â chais person am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd neu i rywedd llwyddiannus ymgeisydd cyn iddo fod ei rywedd caffaeledig fel ‘gwybodaeth warchodedig’. Ni ddylid darllen unrhyw beth yn yr Atodiad hwn i fod yn awdurdodi na chaniatáu i unrhyw swyddog yr heddlu na unrhyw staff yr heddlu sydd wedi caffael gwybodaeth o’r fath wrth weithredu yn ei gapasiti swyddogol i ddatgelu gwybodaeth i unrhyw berson arall yn groes i’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd. Mae datgeliad yn cynnwys gwneud cofnod o ‘wybodaeth warchodedig’ sydd eisoes wedi ei ddarllen gan eraill.
Nodiadau Arweiniad
I1 Mae darpariaethau y mae paragraff 1 yn gymwys iddynt yn cynnwys:
-
Yng Nghod C; paragraffau 3.20A, 4.1 ac Atodiad A paragraffau 5, 6, 11 a 12 (chwiliadau, noeth-chwiliadau a chwiliadau personol o garcharorion o dan adrannau 54 a 55 o PACE) a 9.3B;
-
Yng Nghod A; paragraffau 2.8 a 3.6 a Nodyn 4;
-
Yng Nghod D; paragraff 5.5 a Nodyn 5F (chwiliadau, archwiliadau a thynnu lluniau o garcharorion o dan adran 54A o PACE) a pharagraff 6.9 (cymryd samplau);
-
Yng Nghod H; paragraffau 3.21, 4.1 ac Atodiad A paragraffau 6, 7 a 12 (chwiliadau, noeth-chwiliadau a chwiliadau personol o dan adrannau 54 a 55 o PACE o bersonau a arestiwyd o dan adrannau 41 neu 43B o Ddeddf Terfysgaeth 2000) a 9.4B.
I2 Er nad oes diffiniad cytunedig o drawsrywedd (neu draws), yn gyffredinol fe’i defnyddir fel term hollgwmpasog i ddisgrifio pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd (ymuniaethiad fel menyw, dyn, ddim y naill na’r llall neu’r ddau) yn wahanol i’r rhyw pan y’i cofrestrwyd ar enedigaeth. Mae’r term yn cynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i, bobl drawsrywiol.
I3 Mae trawsrywiol yn golygu person sy’n cynnig cyflawni, neu sydd yn cyflawni neu wedi cyflawni proses (neu ran o broses) i ddiben ailbennu rhywedd, sy’n nodwedd warchodedig dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (gweler paragraff 1.0), trwy newid priodweddau ffisiolegol neu arall ei ryw. Mae hyn yn cynnwys agweddau o rywedd megis gwisg a theitl. Byddai’n berthnasol i fenyw yn trosi i fod yn ddyn a dyn yn trosi i fod yn fenyw, yn ogystal ag i berson sydd ddim ond wedi cychwyn ar y broses o ailbennu rhywedd ac i berson sydd wedi cwblhau’r broses. Byddai’r ddau yn rhannu nodweddion ailbennu rhywedd gyda’r ddau gyda nodweddion un rhyw, ond gydag agweddau penodol o’r rhyw arall.
I3A Y rheswm dros yr eithriad yw addasu’r un dull rhyw/rhywedd ar gyfer chwilio i gydnabod anghenion posib unigolion trawsryweddol o ran cynhyrchion mislif ac anghenion personol eraill sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a lles a sicrhau nad ydynt yn cael eu hanwybyddu.
I4 Golyga trawswisgwr berson o un rhyw sy’n gwisgo mewn dillad person o’r rhyw arall. Fodd bynnag, nid yw trawswisgwr yn byw yn barhaol yn y rhyw groes i’w ryw genedigaeth.
I5 Mae prif swyddogion yn gyfrifol am ddarparu arweiniad a chyfarwyddiadau gweithredol cyfatebol ar gyfer trefnu swyddogion a staff trawsrywedd dan eu cyfarwyddyd a rheolaeth i ddyletswyddau sy’n ymwneud â chyflawni, neu fod yn bresennol yn, unrhyw un o’r chwiliadau a gweithdrefnau a ddisgrifir ym mharagraff 1. Rhaid i’r arweiniad a chyfarwyddiadau gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac felly dylai gyd-fynd â’r ymagwedd yn yr Atodiad hwn.
Atodiad J: Trosglwyddo personau a gadwir am fwy na 14 niwrnod i garchar
1. Pan fydd gwarant cadw pellach yn cael ei hymestyn neu ei hymestyn ymhellach gan farnwr yr Uchel Lys i awdurdodi cadw person o dan adran 41 o TACT y tu hwnt i gyfnod o 14 diwrnod o’r adeg y’i arestiwyd (neu os oedd yn cael ei gadw ar y dechrau o dan Atodlen 7 TACT neu Atodlen 3 i Ddeddf CT a Diogelwch y Ffin 2019, o’r amser y dechreuodd yr archwiliad o dan yr Atodlen berthnasol), rhaid i’r person gael ei drosglwyddo o gael ei gadw mewn gorsaf heddlu i’w gadw mewn carchar dynodedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r warant gael ei chyhoeddi, oni bai:
(a) bod y sawl sy’n cael ei gadw yn gwneud cais penodol i aros yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu a bod modd bodloni’r cais hwnnw, neu
(b) bod sail resymol dros gredu y byddai trosglwyddo’r sawl sy’n cael ei gadw i garchar yn:
(i) rhwystro ymchwiliad i derfysgaeth yn sylweddol;
(ii) oedi cyhuddo’r sawl sy’n cael ei gadw neu ei ryddhau o’r ddalfa, neu
(iii) fel arall atal yr ymchwiliad rhag cael ei gynnal yn ddiwyd ac yn gyflym.
Rhaid i unrhyw seiliau yn (b)(i) i (iii) uchod y dibynnir arnynt dros beidio â throsglwyddo’r sawl sy’n cael ei gadw i’r carchar gael eu cyflwyno i’r uwch farnwr fel rhan o’r cais am estyniad neu estyniad pellach i’r warant. Gweler Nodyn J1.
2. Os ar unrhyw adeg pan fydd person yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu dan y warant y bydd y seiliau yn (b)(i) i (iii) yn peidio â bod yn berthnasol, rhaid trosglwyddo’r person i’r carchar cyn gynted ag sy’n ymarferol.
3. Dylai’r heddlu gynnal cytundeb gyda’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) sy’n amodi carchardai penodol ble gellir trosglwyddo unigolion dan y paragraff hwn. Dylid gwneud hyn gan dalu sylw i sicrhau bod rhai sy’n cael eu cadw yn cael eu symud i’r carchar mwyaf addas i ddibenion yr ymchwiliad a’u lles, a dylai gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo unigolion gwrywaidd, benywaidd ac ifanc sy’n cael eu cadw. Dylai’r heddlu sicrhau fod Llywodraethwr carchar y maent yn bwriadu trosglwyddo sawl sy’n cael ei gadw iddo yn cael rhybudd rhesymol o hyn. Ble fo’n ymarferol, ni ddylai hyn fod yn ddim hwyrach na’r pwynt pan wneir cais am warant gan y byddai hynny’n mynd â’r cyfnod cadw tu hwnt i 14 niwrnod.
4. Wedi trosglwyddo sawl sy’n cael ei gadw i garchar penodedig, bydd ei gadw yn cael ei lywodraethu gan amodau Atodlen 8 TACT 2000 a Rheolau’r Carchar ac ni fydd y Cod Ymarfer hwn yn berthnasol yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd yr unigolyn yn dal wedi ei gadw yn y carchar. Bydd y Cod yn weithredol unwaith eto os bydd y person yn cael ei drosglwyddo yn ôl o’r carchar i’w gadw yn nalfa’r heddlu. Er mwyn galluogi’r Llywodraethwr i drefnu ar gyfer cynhyrchu’r sawl sy’n cael ei gadw yn ôl yn nalfa’r heddlu, dylai’r heddlu roi rhybudd i Lywodraethwr y carchar perthnasol cyn gynted ag sy’n bosibl am unrhyw benderfyniad i drosglwyddo sawl sy’n cael ei gadw o’r carchar yn ôl i orsaf yr heddlu. Dylai’r heddlu gyflawni unrhyw drosglwyddiad rhwng carchar a gorsaf heddlu a bydd y Cod hwn yn weithredol yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Gweler Nodyn 2J. Dylai sawl sy’n cael ei gadw aros yn nalfa’r heddlu wedi ei drosglwyddo o garchar am y cyfnod sy’n angenrheidiol i ddiben yr ymchwiliad yn unig.
5. Dylai tîm ymchwilio a swyddog y ddalfa ddarparu cymaint o wybodaeth ag sydd angen i alluogi’r awdurdodau carchar perthnasol i ddarparu cyfleusterau priodol i gadw unigolyn. Dylai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
(i) asesiadau meddygol
(ii) asesiadau diogelwch a risg
(iii) manylion cynrychiolwyr cyfreithiol y sawl sy’n cael ei gadw
(iv) manylion unrhyw unigolion sydd wedi ymweld â’r sawl sy’n cael ei gadw, neu sydd wedi gofyn am gael ymweld â’r sawl sy’n cael ei gadw.
6. Pan fydd sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei drosglwyddo i garchar, dylai swyddog y ddalfa hysbysu cynghorydd cyfreithiol y sawl sy’n cael ei gadw o flaen llaw y bydd y trosglwyddiad yn digwydd (yn cynnwys enw’r carchar). Dylai swyddog y ddalfa hefyd wneud pob ymgais resymol i hysbysu:
-
teulu neu ffrindiau sydd wedi eu hysbysu yn flaenorol am gadw’r sawl sy’n cael ei gadw; a’r
-
person a gafodd ei hysbysu’n wreiddiol am gadw’r sawl sy’n cael ei gadw yn unol â pharagraff 5.1.
7. Rhaid i unrhyw benderfyniad i beidio trosglwyddo person sydd wedi ei gadw i garchar penodedig dan baragraff 1 gael ei gofnodi, ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Os na ddarperir ar gyfer cais dan baragraff 1(a), dylid hefyd cofnodi’r rhesymau dros hyn.
Nodiadau Arweiniad
J1 Bwriedir i drosglwyddiad i garchar sicrhau fod unigolion sy’n cael eu cadw am gyfnodau estynedig o amser yn cael eu cadw mewn lle a gynlluniwyd ar gyfer cadw am gyfnodau hirach na gorsafoedd heddlu. Bydd carchar yn darparu mwy o amrediad o gyfleusterau i rai sy’n cael eu cadw sy’n fwy priodol ar gyfer cyfnodau cadw hirach.
J2 Bydd y Cod hwn ond yn berthnasol fel sy’n briodol i amodau cadw yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Yn amlwg nid oes gofyniad i ddarparu pethau fel dillad gwely neu ddeunydd darllen ar gyfer y daith rhwng y carchar a gorsaf yr heddlu.
Atodiad K: Dogfennau a chofnodion i’w cyfieithu
1. At ddibenion yr hawliau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a deilliodd yn wreiddiol o Gyfarwyddeb 2010/64/EU a’r Cod hwn, mae dogfennau hanfodol yn cynnwys cofnodion y mae’n ofynnol eu gwneud yn unol â’r Cod hwn sy’n berthnasol i benderfyniadau i amddifadu person o’i ryddid, i unrhyw gyhuddiad ac i unrhyw gofnod yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i alluogi’r sawl sy’n cael ei gadw i amddiffyn eu hunain mewn achosion troseddol a diogelu tegwch yr achos. Nid oes angen cyfieithu darnau o ddogfennau hanfodol nad ydynt yn berthnasol. Gweler Nodyn K1.
2. Y dogfennau a ystyrir i fod yn allweddol i ddibenion y Cod hwn ac y mae’n rhaid (yn amodol i baragraffau 3 i 7) creu cyfieithiadau ysgrifenedig ohonynt yw’r cofnodion a wnaed yn unol â’r Cod hwn o’r seiliau a rhesymau dros unrhyw awdurdodiad o gadw sawl sydd dan amheuaeth dan ddarpariaethau’r Ddeddf Terfysgaeth 2000 neu Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (cwestiynu wedi cyhuddo) y mae’r Cod hwn yn berthnasol iddynt fel y’u disgrifir a chyfeirio atynt yng nghofnod cadw’r sawl sydd dan amheuaeth. Dylid creu cyfieithiadau cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi cofnodi’r awdurdodiad a’i roi cyn gynted ag sy’n ymarferol wedi hynny, tra bod y person wedi ei gadw neu wedi ei ryddhad (gweler Nodyn K3). Gweler paragraffau 13.12 i 13.14 ac Atodiad L ar gyfer cais i gyfieithu trwy gyswllt byw.
3. Gall swyddog y ddalfa awdurdodi darparu cyfieithiad llafar neu grynodeb llafar o ddogfennau (trwy gyfieithydd ar y pryd) yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig. Gellir darparu cyfieithiad neu grynodeb llafar i’r fath dim ond os na fyddai’n rhagfarnu tegwch yr achos trwy effeithio’n andwyol mewn unrhyw ffordd neu danseilio neu gyfyngu gallu’r sawl a amheuir fel arall i ddeall ei sefyllfa ac i gyfathrebu’n effeithiol gyda swyddogion yr heddlu, cyfwelwyr, cyfreithwyr ac oedolion priodol parthed ei gadw ac i’r ymchwiliad o’r drosedd dan sylw ac i amddiffyn ei hun os bydd achos troseddol. Dylid ystyried maint a chymhlethdod yr wybodaeth yn y ddogfen bob amser a rhoi ystyriaeth ychwanegol benodol os yw’r sawl a amheuir yn berson ifanc neu’n berson sy’n agored i niwed. Rhaid cofnodi’r rheswm dros y penderfyniad (gweler paragraff 13.11(e)).
4. Yn amodol i baragraffau 5 i 7 isod, gall sawl a amheuir ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o’r dogfennau allweddol a ddisgrifir yn y tabl, ond dim ond os yw’n gwneud hynny’n wirfoddol wedi derbyn cyngor cyfreithiol neu gyda gwybodaeth lawn o’r goblygiadau ac yn cydsynio’n ddiamod ac yn llawn yn ysgrifenedig (gweler paragraff 9).
5. Efallai y gofynnir i’r sawl a amheuir os yw’n dymuno ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig a chyn rhoi ei gydsyniad, rhaid ei atgoffa o’i hawl i gyngor cyfreithiol a gofyn a yw eisiau siarad gyda chyfreithiwr.
6. Ni ddylai unrhyw swyddog yr heddlu na staff yr heddlu wneud unrhyw beth gyda’r bwriad o berswadio’r sawl a amheuir sydd â hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol i ildio’r hawl hwnnw. Gweler Nodiadau K2 ac K3.
7. I ddiben yr ildiad:
(a) fydd cydsyniad person sy’n agored i niwed ddim ond yn ddilys os yw’r wybodaeth ynghylch yr amgylchiadau ble gall ildio’r hawl a’r atgoffad am ei hawl i gyngor cyfreithiol a grybwyllir ym mharagraffau 3 i 5 ac y rhoddir eu cydsyniad ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol, ac mae’r oedolyn priodol hefyd yn cytuno.
(b) mae cydsyniad person ifanc yn ddilys dim ond os cafwyd cydsyniad ei riant neu warchodwr hefyd, oni bai fod y person ifanc dan 14 oed, ac yna bydd cydsyniad ei riant neu warchodwr yn ddigon ynddo’i hun ac mae’r wybodaeth a’r atgoffad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) uchod ac y rhoddir eu cydsyniad ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol hefyd (a all fod yn rhiant neu warchodwr neu beidio).
8. Gall y sawl sy’n cael ei gadw, ei gyfreithiwr neu oedolyn priodol wneud cyflwyniadau i swyddog y ddalfa y dylid darparu dogfen nad yw wedi ei chynnwys yn y tabl ac y dylid darparu cyfieithiad. Gellir gwrthod y cais os yw’r swyddog yn fodlon nad yw’r cyfieithiad a geisiwyd yn allweddol i’r dibenion a ddisgrifiwyd ym mharagraff 1 uchod.
9. Os oes gan swyddog y ddalfa amheuon ynghylch:
-
darparu cyfieithiad neu grynodeb llafar o ddogfen allweddol yn hytrach na chyfieithiad ysgrifenedig (gweler paragraff 3);
-
p’un a yw’r sawl a amheuir yn deall yn llawn y goblygiadau o ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol (gweler paragraff 4); neu
-
ynghylch gwrthod darparu cyfieithiad o ddogfen a geisiwyd (gweler paragraff 7), dylai’r swyddog geisio cyngor gan arolygydd neu uwch.
Dogfennaeth
10. Bydd camau a gymerwyd yn unol â’r Atodiad hwn yn cael eu cofnodi yng nghofnod y ddalfa’r sawl sy’n cael ei gadw neu’r cofnod cyfweld fel fo’n briodol (gweler Cod H paragraff 13.11(e)).
Nodyn Arweiniad
K1 Nid yw’n angenrheidiol datgelu gwybodaeth mewn unrhyw gyfieithiad sy’n gallu tanseilio neu effeithio’n andwyol mewn unrhyw ffordd arall ar unrhyw broses ymchwilio, er enghraifft, trwy alluogi’r sawl a amheuir i ffugio esboniad diniwed neu i gelu celwyddau rhag y cyfwelydd.
K2 Ni fydd unrhyw swyddog yr heddlu na staff yr heddlu yn awgrymu i unrhyw un a amheuir, ac eithrio i ateb cwestiwn uniongyrchol os yw’r cyfnod y mae’n debygol o gael ei gadw neu, os nad yw wedi ei gadw, yr amser a gymer i gwblhau’r cyfweliad, yn debygol o leihau:
-
os nad yw’n gofyn am gyngor cyfreithiol cyn penderfynu a yw eisiau ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol; neu
-
os yw’n penderfynu ildio ei hawl i gyfieithiad ysgrifenedig o ddogfen allweddol.
K3 Nid oes unrhyw bŵer dan TACT i gadw person nac i oedi ei ryddhau dim ond er mwyn creu a darparu cyfieithiad o unrhyw ddogfen allweddol.
Atodiad L: Cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw (para. 13 .12)
Rhan 1: Pan nad oes angen i gyfieithydd fod yn bresennol yn gorfforol.
1. Fe wnaeth Erthygl 2(6) o Gyfarwyddeb yr UE 2010/64 (gweler paragraff 13.1) ddarparu “Lle bo’n briodol, gellir defnyddio technoleg cyfathrebu fel fideo-gynadledda, ffôn neu’r Rhyngrwyd, oni bai fod angen presenoldeb ffisegol y cyfieithydd er mwyn diogelu tegwch yr achos.” Mae’r Erthygl hon yn caniatáu, ond nid yw’n galw am, ddefnyddio cyswllt byw, ac mae darpariaethau canlynol yr Atodiad hwn yn pennu a yw’n briodol defnyddio cyswllt byw mewn unrhyw achos penodol. Mae’r hawliau sy’n deillio o Erthygl 2(6) yn cael eu cadw fel rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir.
2. Rhaid gwneud penderfyniadau yn unol â’r Atodiad hwn nad yw presenoldeb corfforol y cyfieithydd yn ofynnol ac i ganiatáu cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw ar sail fesul achos. Rhaid i bob penderfyniad ystyried oed, rhywedd a bregusrwydd y sawl a amheuir, natur ac amgylchiadau’r ymchwiliad terfysgol a’r effaith ar y sawl a amheuir yn ôl y diben(ion) penodol y mae’r sawl a amheuir angen cymorth cyfieithydd a’r amser(au) pan fydd angen y cymorth hwnnw (gweler Nodyn L1). Oherwydd hyn, rhaid i swyddog y ddalfa ystyried a yw gallu sawl a amheuir penodol i gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol i’r diben dan sylw (gweler paragraff 3) yn debygol o fod wedi ei effeithio’n andwyol neu danseilio fel arall os nad yw’r cyfieithydd yn gorfforol bresennol ac y defnyddir cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw. Er y gallai sawl a amheuir ble mae angen oedolyn priodol fod yn fwy tebygol o gael ei effeithio’n andwyol fel y disgrifiwyd, mae’n bwysig nodi y gall person nad yw angen oedolyn priodol hefyd gael ei effeithio’n andwyol trwy ddefnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw.
3. Mae enghreifftiau o’r dibenion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yn cynnwys:
(a) deall a gwerthfawrogi ei sefyllfa parthed unrhyw wybodaeth a roddir iddo, neu a geisir ganddo, yn unol â’r Cod hwn neu unrhyw God Ymarfer arall sydd, yn benodol, yn cynnwys:
-
y rhybudd (gweler paragraffau C10.1 a 10.12).
-
y rhybuddiad arbennig (gweler paragraffau 10.9 i 10.11).
-
gwybodaeth am yr amheuaeth o’i ymwneud â chomisiynu, paratoi neu symbylu gweithredoedd terfysgol (gweler paragraffau 10.3, 11.1 a Nodyn 11ZA).
-
y sail a’r rhesymau dros gadw (gweler paragraffau 13.10 ac 13.10A).
-
cyfieithu dogfennau allweddol (gweler paragraff 13.10B ac Atodiad L).
-
ei hawliau (gweler paragraff 3.14).
-
chwiliadau personol ac nad ydynt yn bersonol o bersonau a gedwir mewn gorsafoedd heddlu.
-
darpariaethau a gweithdrefnau sy’n berthnasol i gymryd olion bysedd, samplau a ffotograffau gan bersonau a gedwir i ddibenion ymchwiliad terfysgol.
(b) deall a cheisio eglurhad gan y cyfwelydd o gwestiynau a ofynnir yn ystod cyfweliad y mae’n rhaid ei recordio ar fideo gyda sain (gweler paragraff 7) ac unrhyw beth arall a ddywedir gan y cyfwelydd ac ateb y cwestiynau.
(c) ymgynghori’n breifat gyda’i gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol (gweler paragraffau 3.18, 13.3, 13.6 ac 13.9):
(i) i helpu penderfynu a ddylai ateb cwestiynau a gyflwynwyd yn ystod cyfweliad; ac
(ii) ynghylch unrhyw fater arall yn ymwneud â’i gadw a thriniaeth tra yn y ddalfa.
(d) cyfathrebu gydag ymarferwyr ac eraill sydd â rhyw gyfrifoldeb ffurfiol dros, neu ddiddordeb mewn, iechyd a lles y sawl a amheuir. Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd priodol (gweler adran 9 y Cod hwn) ac Ymwelwyr Cystodaeth Annibynnol.
4. Os yw swyddog y ddalfa yn fodlon ar gyfer diben penodol fel y disgrifiwyd ym mharagraffau 2 a 3 uchod, na fyddai’r cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw yn effeithio’n andwyol ar neu’n tanseilio na chyfyngu gallu’r sawl a amheuir fel arall i gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol i’r diben hwnnw, rhaid hysbysu’r sawl a amheuir o hyn, ei gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol. Ar yr un pryd, rhaid esbonio gweithrediad cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a’i arddangos iddo, rhaid ei gynghori o rwymedigaethau’r prif swyddog parthed diogelwch cyfathrebiadau dolen fyw dan baragraff 13.13 (gweler Nodyn L2) a rhaid gofyn a yw eisiau cyflwyno sylwadau na ddylid cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw os yw eisiau mwy o wybodaeth ynghylch gweithrediad y trefniadau. Rhaid hefyd ei hysbysu ar unrhyw adeg ble defnyddir cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, y gall gyflwyno sylwadau i swyddog y ddalfa neu’r cyfwelydd y dylid stopio ei weithredu ac y dylid trefnu presenoldeb corfforol cyfieithydd.
Pan fydd angen awdurdod arolygydd
5. Os gwneir sylwadau na ddylid defnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, neu ar unrhyw adeg pan fydd cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw mewn defnydd, y dylai ei weithrediad ddod i ben a threfnu presenoldeb corfforol cyfieithydd, ac nad yw swyddog y ddalfa yn gallu lliniaru’r pryderon a godwyd, ni ellir defnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, neu (yn ôl y digwydd) barhau i’w ddefnyddio, oni bai yr awdurdodir hynny yn ysgrifenedig gan swyddog o reng arolygydd neu uwch, yn unol â pharagraff 6.
6. Gellir rhoi awdurdod os yw’r swyddog yn fodlon i’r diben(ion) dan sylw ar y pryd pan mae angen cyfieithydd, fod cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw yn angenrheidiol a gellir ei gyfiawnhau. Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhaid i’r swyddog ystyried:
(a) amgylchiadau’r sawl a amheuir;
(b) natur a difrifoldeb y drosedd;
(c) gofynion yr ymchwiliad, yn cynnwys ei effaith debygol ar y sawl a amheuir a’r dioddefwr(dioddefwyr);
(d) y sylwadau a wnaethpwyd gan y sawl a amheuir, ei gyfreithiwr ac (os yn berthnasol) yr oedolyn priodol na ddylid cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw (gweler paragraff 5);
(e) argaeledd cyfieithydd addas i fod yn gorfforol bresennol o gymharu ag argaeledd cyfieithydd addas ar gyfer cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw (gweler Nodyn L3); ac
(f) y perygl os nad yw cyfieithydd yn gorfforol bresennol, y gallai tystiolaeth a gaffaelwyd yn defnyddio cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw gael ei eithrio mewn achosion troseddol dilynol.
(g) yr effaith debygol ar y sawl a amheuir a’r ymchwiliad o unrhyw oedi dilynol i drefnu i’r cyfieithydd fod yn gorfforol bresennol gyda’r sawl a amheuir.
7. Mae’r Cod Ymarfer unigol sy’n llywodraethu ymddygiad a chofnodi cyfweliadau ar gyfer personau a gedwir mewn gorsaf heddlu dan adran 41 Deddf Terfysgaeth 2000 (TACT) a phersonau y rhoddwyd awdurdodiad i’w cwestiynu wedi cyhuddo dan adran 22 y Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 yn gofyn bod y cyfweliadau hynny yn cael eu recordio ar fideo gyda sain. Bydd hyn yn gofyn i’r cofnod gweledol ddangos y trefniadau cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a’r cyfieithydd fel y mae’n cael ei weld a’i brofi gan y sawl sydd dan amheuaeth yn ystod y cyfweliad (gweler Nodyn L4).
Dogfennaeth
8. Rhaid gwneud cofnod o’r camau Gweithredu, penderfyniadau, awdurdodiadau a chanlyniadau yn deillio o ofynion yr Atodiad hwn. Mae hyn yn cynnwys sylwadau a wnaethpwyd yn unol â pharagraffau 4 a 7.
Rhan 2: Addasiadau ar gyfer cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw
9. Bydd yr addasiad canlynol yn berthnasol i ddibenion cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw:
(a) Cod H paragraff 13.4:
Ar gyfer is-baragraff (b), amnewid: “Dylid anfon copi clir darllenadwy o’r datganiad llawn heb oedi trwy’r ddolen fyw i’r cyfwelydd. Bydd y cyfwelydd, wedi cadarnhau gyda’r sawl a amheuir fod y copi yn ddarllenadwy ac yn gyflawn, yn gwahodd y sawl a amheuir i’w lofnodi. Mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir y copi a lofnodir a’r cofnod gwreiddiol a wnaed gan y cyfwelydd gyda phapurau’r achos i’w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen ac mae’n rhaid cynghori’r cyfieithydd o’i rwymedigaeth i gadw’r cofnod gwreiddiol yn ddiogel i’r diben hwnnw.”;
(b) Cod Ymarfer ar gyfer recordio cyfweliadau ar fideo gyda sain – paragraff 4.4
Ar ddechrau’r paragraff, mewnosod: “Cyn i’r cyfweliad gychwyn, fe esbonnir gweithrediad y cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw a’i arddangos i’r sawl a amheuir, ei gyfreithiwr ac oedolyn priodol, oni bai ei fod wedi ei esbonio ac arddangos yn flaenorol (gweler Cod H Atodiad L paragraff 4).”
(c) Cod ar gyfer recordio cyfweliadau ar fideo gyda sain - paragraff 4.22 (llofnodi label y recordiad meistr)
Wedi’r drydedd frawddeg, mewnosod, “Os defnyddiwyd cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw, dylai’r cyfwelydd ofyn i’r cyfieithydd arsylwi tynnu a selio’r recordiad meistr ac i gadarnhau’n ysgrifenedig ei fod wedi ei weld yn cael ei selio a’i lofnodi gan y cyfwelydd. Rhaid anfon copi clir darllenadwy o’r cadarnhad a lofnodwyd gan y cyfieithydd trwy’r ddolen fyw i’r cyfwelydd. Mae’r cyfwelydd yn gyfrifol am sicrhau y cedwir y cadarnhad a’r copi gwreiddiol a wnaed gan y cyfwelydd gyda phapurau’r achos i’w defnyddio fel tystiolaeth os oes angen, ac mae’n rhaid cynghori’r cyfieithydd o’i rwymedigaeth i gadw’r cadarnhad gwreiddiol yn ddiogel i’r diben hwnnw.”
Nodiadau Arweiniad
L1 I ddibenion ar wahân i gyfweliad, gall cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw sain yn unig, er enghraifft dros y ffôn (gweler Cod H paragraff paragraff 13.12(b)) ddarparu dewis priodol nes bydd cyfieithydd yn gorfforol bresennol neu y bydd cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw ar gael. Enghraifft benodol fyddai’r Gweithredu cychwynnol sydd angen pan fydd sawl sy’n cael ei gadw yn cyrraedd gorsaf heddlu i’w hysbysu o, ac i esbonio, y rhesymau dros ei arestio a chadw a’i amrywiol hawliau. Enghraifft arall fyddai i hysbysu’r sawl a amheuir dros y ffôn fod cyfieithydd y bydd yn gallu ei weld a chlywed yn cael ei drefnu. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai cyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw dros y ffôn helpu leddfu pryderon y sawl a amheuir a chyfrannu i gwblhau’r asesiad risg (gweler Cod H paragraff 3.6).
L2 Bwriedir i’r esboniad ac arddangosiad o gyfieithu ar y pryd trwy ddolen fyw helpu’r sawl a amheuir, cyfreithiwr a’r oedolyn priodol i wneud penderfyniad gwybodus ar p’un ai i gytuno i’w ddefnyddio ac i leddfu unrhyw bryderon.
L3 Bydd ffactorau sy’n effeithio ar argaeledd cyfieithydd addas yn cynnwys lleoliad gorsaf yr heddlu a’r iaith a math o ddehongliad (llafar neu iaith y byddar) sydd angen.
L4 Mae’r Cod Ymarfer y cyfeirir ato ym mharagraffau 7 a 9 ar gael yma: https://www.gov.uk/government/publications/terrorism-act-2000-video-recording-code-of-practice.
Mae’r Cod yn y llyfryn hwn wedi’i gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cartref o dan Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ac mae wedi’i gymeradwyo gan y Senedd.
Rhaid i gopïau o’r Codau a gyhoeddwyd o dan Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 fod ar gael yn rhwydd ym mhob gorsaf heddlu er mwyn i swyddogion heddlu, pobl sy’n cael eu cadw, ac aelodau’r cyhoedd ynghynghori â nhw.