Canllawiau

Gwerthu, prydlesu neu gwaredu tir elusen yn Lloegr a Chymru

Diweddarwyd 7 Mawrth 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Yn y rhan fwyaf o achosion gallwch werthu, prydlesu neu gwaredu ar dir eich elusen yn Lloegr neu Chymru heb ofyn y Comisiwn Elusennau.

Rhaid i chi reoli’r trafodion pwysig hyn yn briodol er lles gorau eich elusen.

Heblaw bod y gwarediad yn destun i nifer cyfyngedig iawn o eithriadau, rhaid i chi hefyd gael y telerau gorau y gallwch, yn rhesymol. Rhaid i chi ddilyn gofynion cyfreithiol perthnasol Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd), sy’n cael eu hesbonio yn y canllaw hwn, os yw’r tir yn cael ei ferchen gan eich elusen yn unig.

Mae gofynion yn amrywio yn dibynnu ar:

  • os oes gennych y pŵer i waredu’r tir
  • sut rydych yn bwriadu cael gwared ar dir eich elusen
  • os byddwch yn ei roi i ‘unigolyn cysylltiedig’
  • os ydych yn bwriadu gwaredu ar dir y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol (tir dynodedig)
  • os yw’r gwarediad yn dod o fewn un o’r eithriadau a restrir yn y canllaw hwn

Defnyddiwch y canllaw hwn i’ch helpu i nodi:

  • pa ofynion y mae’n rhaid i chi eu dilyn ar gyfer y gwarediad rydych yn ei gynllunio
  • os oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch

Efallai y byddwch hefyd yn gallu buddio o’r siart trosolwg.

Fel arfer bydd angen i chi gael cyngor proffesiynol ar unrhyw warediad.

Beth rydym yn golygu wrth ‘tir’ a ‘gwaredu’

Yn y canllaw hwn mae ‘tir’ yn golygu unrhyw:

  • dir sy’n eiddo i’ch elusen, neu’n cael ei ddal mewn ymddiried ar ran eich elusen
  • adeiladau ar y tir
  • hawliau dros dir fel hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu

Pan ddefnyddiwn y term ‘gwaredu’ rydym yn golygu:

  • gwerthu neu drosglwyddo tir
  • rhoi, trosglwyddo neu ildio prydles o dir eich elusen
  • rhoi neu ryddhau hawliau megis hawliau pysgota
  • rhoi neu ryddhau hawddfraint, neu hawl dros dir
  • rhoi neu ryddhau fforddfraint i ganiatáu mynediad i gyfleusterau ar y tir

Defnyddiwch ein canllaw ar wahân ar forgeisi neu daliadau am wybodaeth am rhain.

Camau gweithredu allweddol ar gyfer pob math o waredu

Rhaid i chi gymryd y pedwar cam hyn pryd bynnag y bwriadwch waredu unrhyw ran o dir eich elusen.

1. Byddwch yn sicr mai eich elusen chi sy’n berchen ar y tir

Fel arfer gallwch wirio hyn gyda’r Gofrestrfa Tir.

2. Byddwch yn sicr bod y gwarediad er lles gorau eich elusen

Fel ymddiriedolwyr rhaid i chi bob amser sicrhau bod eich penderfyniadau er lles gorau eich elusen.

Mae dyletswydd arnoch i’ch elusen fel ymddiriedolwyr i sicrhau eich bod yn defnyddio gofal a sgil rhesymol wrth waredu tir.

Gall gwaredu ar dir eich helpu i:

  • godi arian
  • adleoli
  • leihau rhywfaint o waith gweinyddol

Ond dylech chi hefyd feddwl am sut:

  • bydd eich elusen yn gweithredu heb y tir
  • gall gwaredu’r tir effeithio ar eich buddiolwyr neu effeithio ar gefnogaeth gyhoeddus i’ch elusen

3. Gwybod os oes gennych y pŵer i waredu ar y tir

Yn y rhan fwyaf o achosion mae pŵer gan elusennau i waredu tir elusen. Fel arfer caniateir hyn gan bŵer yn y gyfraith (yn aml o dan Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996) neu yn nogfen lywodraethol eich elusen.

Ceisiwch gyngor bob amser os ydych yn ansicr os oes gan eich elusen y pŵer i waredu ei thir.

Cymerwch ofal arbennig i wirio:

  • nad yw eich dogfen lywodraethol, neu’r dogfennau sy’n esbonio sut y mae’n rhaid defnyddio’r eiddo perthnasol, yn eich atal rhag gwaredu ar y tir neu’n gosod amodau y mae’n rhaid i chi ddilyn
  • cyn  gwaredu ‘tir dynodedig’. Mae hyn oherwydd efallai y bydd angen awdurdod y Comisiwn i wneud hyn. Tir dynodedig yw tir y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol yn unig. Er enghraifft, maes hamdden, neu adeilad y mae’n rhaid ei ddefnyddio ar gyfer ysgol. Darllenwch yr adran yn y canllaw hwn ar dir dynodedig

4. Gwybod pan fydd angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch i waredu tir eich elusen. Defnyddiwch y canllawiau yma i wirio os oes angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch

Os oes angen i chi wneud cais am awdurdod, gwnewch hynny mewn da bryd.

Gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir

Mae’r adran gyntaf hon yn nodi’r gofynion cyfreithiol ar gyfer y mathau canlynol o waredu:

  • gwerthu tir
  • rhoi prydles o dir eich elusen am fwy na 7 mlynedd
  • rhoi prydles o dir eich elusen am 7 mlynedd neu lai os yw dirwy neu bremiwm yn cael ei dalu i’ch elusen. Mae dirwy neu bremiwm yn gyfandaliad neu fudd arall, heb gynnwys rhent, a delir i elusen wrth roi’r brydles
  • rhoi prydles o dir eich elusen am 7 mlynedd neu lai gydag opsiwn i adnewyddu neu ymestyn y brydles y tu hwnt i 7 mlynedd
  • rhoi neu ryddhau hawl, hawddfraint neu gyfamod cyfyngu. Gall y rhain gynnwys hawl tramwy neu fynediad i offer ar y tir, neu hawl, megis hawliau pysgota mewn llyn neu afon ar y tir.
  • caniatáu neu ryddhau fforddfraint, sef cytundeb ysgrifenedig ffurfiol sy’n rhoi hawl i barti arall gael mynediad i dir eich elusen ar gyfer gweithgareddau penodedig
  • caniatáu opsiwn i brynu neu brydlesu’r tir. Mae cytundeb opsiwn yn rhoi’r hawl i rywun fynnu bod tir eich elusen yn cael ei waredu iddynt ar adeg yn y dyfodol ar delerau’r cytundeb opsiwn
  • unrhyw fath arall o warediad nad yw’n brydles fer heb unrhyw ddirwy neu bremiwm, ac nid yw’n forgais neu arwystl yn erbyn y tir, er enghraifft ildio les

Yn gyntaf, cymerwch y camau allweddol ar gyfer pob gwarediad a nodir uchod.

Yna, cydymffurfiwch â’r ddau ofyniad cyfreithiol canlynol a nodir yn y Ddeddf Elusennau heblaw bod eithriad yn berthnasol.

Mae’n rhaid i chi:

1. Cael ac ystyried adroddiad gan gynghorydd dynodedig

Cyn i chi gytuno i’r math hwn o warediad, rhaid i chi gael adroddiad gan gynghorydd dynodedig sy’n gweithredu ar ran eich elusen yn unig. Rhaid i gynghorydd dynodedig fod yn:

Rhaid i chi hefyd fod yn fodlon bod gan eich cynghorydd y gallu a’r profiad o brisio tir tebyg i’ch un chi o fewn yr un ardal.

Gall y cynghorydd dynodedig fod yn ymddiriedolwr, yn swyddog neu’n weithiwr i’r elusen os yw’n bodloni lefel ofynnol un o’r cyrff proffesiynol hyn. Os ydynt yn darparu cyngor, yna rhaid i chi reoli unrhyw wrthdaro buddiannau.

Os ydych am dalu ymddiriedolwr am weithredu fel y cynghorydd dynodedig, yna rhaid i chi:

  • sicrhau nad yw eich dogfen lywodraethol yn eich atal rhag talu ymddiriedolwyr am wasanaethau y maent yn eu darparu i’r elusen
  • ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer talu ymddiriedolwyr

Darllenwch ein canllawiau am treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr.

Dylech hefyd wirio yswiriant eich elusen. Ni fydd pob yswiriant yn yswirio cyngor esgeulus a roddir gan gynghorydd sydd hefyd yn ymddiriedolwr, swyddog neu weithwyr eich elusen.

Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio â Rheoliadau Elusennau (Adroddiadau Cynghorwyr Dynodedig) 2022. Dylai eich cynghorydd dynodedig fod yn gyfarwydd â hyn.

2. Byddwch yn fodlon mai’r telerau arfaethedig yw’r rhai gorau y gallwch yn rhesymol eu cael ar gyfer eich elusen

Mae’n rhaid i chi:

  • ystyried argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys sut i hysbysebu’r gwarediad
  • bod yn fodlon mai’r telerau arfaethedig yw’r rhai gorau y gallwch yn rhesymol eu cael ar gyfer eich elusen
  • gynnwys rhai datganiadau a thystysgrifau yn y dogfennau gwaredu

Dylech gadw cofnod clir o’ch penderfyniadau. Gallwch ddewis peidio â dilyn holl argymhellion yr adroddiad, ond dylech gofnodi eich rhesymau dros hyn yn glir.

Pryd mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau

Rhaid i chi wneud cais am awdurdod y Comisiwn cyn i chi waredu tir:

Ymdrinnir â mwy am y sefyllfaoedd hyn a sut i wneud cais nesaf.

Os nad ydych yn dilyn y ddau ofyniad cyfreithiol hyn

Pan fyddwch yn gwneud cais am awdurdod y Comisiwn bydd angen i chi esbonio sut rydych wedi:

  • cyfrifo gwerth ariannol y tir gyda thystiolaeth ategol
  • hysbysebu’r gwarediad arfaethedig
  • rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau
  • penderfynu bod y gwarediad arfaethedig er lles gorau eich elusen

Os yw’r trafodiad arfaethedig gyda ‘unigolyn cysylltiedig’

Diffinnir ‘person cysylltiedig’ yn adran 118 o’r Ddeddf Elusennau. Mae’n cynnwys rhai pobl neu sefydliadau sydd â chysylltiad agos â’r elusen neu’n gysylltiedig â’r elusen ac mae’n cynnwys:

  • yr ymddiriedolwyr a’u perthnasau agos
  • rhoddwr unrhyw dir a’u perthnasau agos
  • gweithwyr, asiantau neu swyddogion yr elusen
  • priod neu bartner sifil naill ai ymddiriedolwr, rhoddwr tir, cyflogai, neu berthynas agos i ymddiriedolwr neu roddwr
  • sefydliadau y mae gan unrhyw un o’r cyfrifoldeb rheoli neu fuddiant breintiedig ynddynt. Mae hyn yn cynnwys is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’ch elusen

Gwiriwch y rhestr yn adran 118 o’r Ddeddf Elusennau neu mynnwch gyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr os yw rhywun yn berson cysylltiedig.

Cofiwch, os ydych yn gwerthu, yn prydlesu neu’n gwaredu tir fel arall i berson cysylltiedig, mae angen i’r trafodiad fod er lles gorau eich elusen o hyd ac ar y telerau gorau y gellir yn rhesymol eu cael. Pan fyddwch yn gwneud cais am awdurdod, bydd angen i chi arddangos mai’r telerau y cytunwyd arnynt yw’r rhai gorau y gellir yn rhesymol eu cael a darparu crynodeb o adroddiad y cynghorydd dynodedig.

Os ydych yn gwerthu tir dynodedig yn y rhan fwyaf o amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn i waredu tir dynodedig yn y rhan fwyaf o amgylchiadau os nad ydych yn bwriadu disodli’r tir.

Darllenwch yr adran ar gwaredu tir dynodedig isod os ydych yn bwriadu gwaredu ar y math hwn o dir

Gwerthu tir mewn arwerthiant

Rhaid i chi ddilyn y ddau ofyniad cyfreithiol a nodir uchod cyn yr arwerthiant a bod yn fodlon bod arwerthiant er lles gorau eich elusen. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael cyngor proffesiynol.

Dylech hefyd:

  • osod y pris wrth gefn ar neu uwchlaw gwerth isaf eich cynghorydd dynodedig ar gyfer y tir. Y pris wrth gefn yw’r isafbris y caniateir i’r tir werthu amdano mewn arwerthiant
  • ysgrifennu i mewn i amodau’r gwerthiant, os yw’r prynwr yn berson cysylltiedig, bydd y trafodiad yn amodol ar wneud cais y Comisiwn Elusennau

Gofynion cyfreithiol ar gyfer ‘prydlesi byr’

Mae’r adran hon yn ymwneud â rhoi prydles o dir eich elusen am 7 mlynedd neu lai os nad oes angen talu dirwy neu bremiwm i’ch elusen.

Os byddwch yn caniatáu prydles sy’n cynnwys opsiwn i adnewyddu neu ymestyn am gyfnod pellach o amser, a bod y swm o ddau gyfnod yn fwy na 7 mlynedd, mae angen i chi ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir.

I roi ‘prydles fer’, cymerwch y camau allweddol ar gyfer pob math o warediad. Yna, cydymffurfiwch â’r ddau ofyniad cyfreithiol hyn a nodir yn y Ddeddf Elusennau, heblaw bod eithriad yn berthnasol.

Mae’n rhaid i chi:

1. Cael ac ystyried adroddiad gan berson cymwys i roi cyngor ar waredu

Rhaid i chi gael adroddiad gan berson y credwch sydd â’r gallu a’r profiad i roi cyngor cymwys ar y brydles. Rhaid i chi wneud hyn cyn i chi gytuno ar y brydles.

Nid yw’n ofynnol i’ch cynghorydd feddu ar gymhwyster proffesiynol, ond rydym yn argymell ei fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol fel:

Gall ymddiriedolwr, swyddog neu weithiwr yr elusen ddarparu’r adroddiad os credwch fod ganddo’r gallu a’r profiad ymarferol cywir. Rhaid i chi reoli unrhyw wrthdaro buddiannau.

Os ydych am dalu ymddiriedolwr am ddarparu adroddiad, rhaid i chi:

  • sicrhau nad yw eich dogfen lywodraethol yn eich atal rhag talu ymddiriedolwyr am wasanaethau y maent yn eu darparu i’r elusen
  • ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer talu ymddiriedolwyr

Darllenwch ein canllawiau ynghylch treuliau ymddiriedolwyr.

Dylech hefyd wirio yswiriant eich elusen. Ni fydd pob yswiriant yn yswirio cyngor esgeulus a roddir gan gynghorydd sydd hefyd yn ymddiriedolwr, swyddog neu weithiwr eich elusen.

2. Byddwch yn fodlon mai’r telerau arfaethedig yw’r rhai gorau y gallwch yn rhesymol eu cael ar gyfer eich elusen

Mae’n rhaid i chi:

Dylech gadw cofnod clir o’ch penderfyniadau. Gallwch ddewis peidio â dilyn holl argymhellion yr adroddiad, ond dylech gofnodi eich rhesymau dros hyn yn glir.

Pryd mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau

Rhaid i chi wneud cais am awdurdod y Comisiwn cyn i chi gynnig prydles fer o’ch tir os:

Ymdrinnir â mwy am y sefyllfaoedd hyn a sut i wneud cais nesaf.

Nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch os yw’r brydles i weithiwr elusen sydd â’r hawl i fyw yn yr eiddo fel eu cartref, a naill ai bod y brydles ar gyfer:

  • cyfnod penodol o flwyddyn neu lai, neu
  • tenantiaeth gyfnodol o flwyddyn neu lai

Os nad ydych yn dilyn y ddau ofyniad cyfreithiol

Pan fyddwch yn gwneud cais am awdurdod y Comisiwn bydd angen i chi esbonio sut rydych wedi:

  • derbyn cynnig gwerth y tir gyda thystiolaeth ategol
  • hysbysebu’r gwarediad arfaethedig
  • rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau
  • penderfynu bod y gwarediad arfaethedig er lles gorau eich elusen

Os yw’r trafodiad arfaethedig gyda ‘unigolyn cysylltiedig’

Diffinnir ‘person cysylltiedig’ yn adran 118 o’r Ddeddf Elusennau. Mae’n rhai pobl neu sefydliadau sydd â chysylltiad agos â’r elusen neu’n gysylltiedig â’r elusen ac mae’n cynnwys:

  • yr ymddiriedolwyr a’u perthnasau agos
  • rhoddwr unrhyw dir i’r elusen a’u perthnasau agos
  • gweithwyr, asiantau neu swyddogion yr elusen
  • priod neu bartner sifil naill ai ymddiriedolwr, rhoddwr tir, cyflogai, neu berthynas agos i ymddiriedolwr neu roddwr
  • sefydliadau y mae gan unrhyw un o’r uchod fuddiant rheoli neu sylweddol ynddynt. Mae hyn yn cynnwys is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’ch elusen

Gwiriwch y rhestr yn adran 118 o’r Ddeddf Elusennau neu mynnwch gyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr os yw rhywun yn berson cysylltiedig.

Cofiwch, os ydych yn prydlesu tir i berson cysylltiedig, mae angen i’r trafodiad fod er lles gorau eich elusen o hyd ac ar y telerau gorau y gellir yn rhesymol eu cael. Pan fyddwch yn gwneud cais am awdurdod, bydd angen i chi arddangos mai’r telerau y cytunwyd arnynt yw’r rhai gorau y gellir yn rhesymol eu cael. Bydd angen i chi ddarparu crynodeb o’r adroddiad a gawsoch gan berson y credwch fod ganddo’r gallu a’r profiad i roi cyngor cymwys ar y brydles.

os ydych yn gwerthu tir dynodedig yn y rhan fwyaf o amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn i waredu tir dynodedig yn y rhan fwyaf o amgylchiadau os nad ydych yn bwriadu disodli’r tir.

Darllenwch yr adran ar gwaredu tir dynodedig isod os ydych yn bwriadu cael gwared ar y math hwn o dir.

Eithriadau i ddilyn y gofynion cyfreithiol

Mae eithriadau sy’n golygu y gellir cwblhau rhai mathau o warediadau heb gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthiannau, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir neu brydlesi byr.

Prydlesu tir i fuddiolwr

Gallwch wneud hyn am lai na’r rhent gorau y gallech fod wedi disgwyl yn rhesymol ei gael o dan yr amgylchiadau, os yw’n ffordd resymol o gyflawni diben eich elusen. Nid yw’n ofynnol i chi ddilyn y gofynion cyfreithiol a nodir uchod.

Er enghraifft:

Gall elusen sy’n ceisio lleddfu tlodi drwy ddarparu tai brydlesu eiddo i un o’i buddiolwyr am lai na gwerth y farchnad. Mae hyn yn ffordd o gyflawni ei ddiben. Nid oes rhaid i’r elusen gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a nodir uchod cyn prydlesu’r eiddo i’r buddiolwr.

Gwerthu, prydlesu neu waredu tir fel arall am werth mewn enw i elusen sydd â’r un diben neu ddiben tebyg â’ch elusen

Gallwch wneud hyn heb fodloni’r gofynion cyfreithiol os mai unig nod y gwarediad yw hyrwyddo dibenion eich elusen. Byddai’r gwarediad am ddim gwerth neu werth mewn enw oherwydd nid yw’n ymwneud â chodi arian i’ch elusen.

Dylech wirio dibenion eich elusen a gofyn i wirio dibenion yr elusen arall yn eu dogfen lywodraethol.

Rhaid i ddiben yr elusen arall fod yr un peth â diben eich elusen chi, neu rhaid iddo gynnwys diben eich elusen os yw ei dibenion yn ehangach na diben eich elusen.

Os yw dibenion yr elusen arall yn ehangach na diben eich elusen chi, rhaid bod cyfyngiad yn yr ymddiriedolaethau fel bod y tir sy’n cael ei waredu yn cael ei ddefnyddio – ar ôl ei drosglwyddo i’r elusen arall – i hyrwyddo diben eich elusen. Mae hyn yn cynnwys os yw’r tir yn cael ei waredu wedyn gan yr elusen arall. Os ydyw, rhaid i enillion y gwarediad gael ei ddefnyddio gan yr elusen arall at ddibenion eich elusen chi; ni ddylent gael eu defnyddio at ddibenion ehangach yr elusen arall.

Ceisiwch gyngor proffesiynol bob amser os ydych yn ansicr.

Er enghraifft:

Pwrpas elusen A yw lleddfu tlodi yn Aberystwyth. Mae’r ymddiriedolwyr am drosglwyddo tir i elusen B sydd â’r un diben, ond am ddim gwerth neu am werth enwol. Mae hyn oherwydd bod elusen B mewn gwell sefyllfa i ddefnyddio’r tir ac nid gwneud elw ariannol i’w helusen yw’r rheswm pam mae elusen A yn gwerthu’r tir i elusen B.

Diben Elusen C yw hybu iechyd da yn Lloegr, tra bod diben elusen D yn gulach: hybu iechyd da yn Norfolk yw diben elusen C. Gall elusen D drosglwyddo ei thir i elusen C, ond dim ond i hybu iechyd da yn Norfolk y gall elusen C ddefnyddio’r tir, neu unrhyw arian a gaiff drwy waredu’r tir.

Nid yw gwaredu tir i elusen gyda dibenion gwahanol yn dod o dan yr esemptiad hwn. Rhaid i chi ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir neu brydlesi byr.

Nid yw gwaredu tir os mai’ch bwriad yw sicrhau enillion ariannol a chyflawni diben eich elusen (buddsoddiad cymdeithasol) yn dod o fewn yr esemptiad hwn. Rhaid i chi ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir neu brydlesi byr ac ystyried mai’r telerau y cytunwyd arnynt yw’r rhai gorau y gellir yn rhesymol eu cael. Mae hyn yn wahanol na chael y pris gorau yng nghyd-destun buddsoddiad cymdeithasol.

Er enghraifft:

Mae gan elusennau E ac F yr un diben, sef darparu tai i bobl ddigartref. Mae Elusen E yn dewis gwerthu tir gwerth £100,000 i elusen F am bris gostyngol o £80,000. Mae’n gwneud hyn i godi rhywfaint o arian iddo’i hun, ond hefyd i sicrhau bod y tir yn dal i gael ei ddefnyddio i gyflawni pwrpas elusen E. Mae hwn yn cael ei ddosbarthu fel buddsoddiad cymdeithasol gan fod gwneud elw ariannol yn rhan o benderfyniad elusen E i werthu’r tir i elusen F. Felly, rhaid i elusen E ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu, sy’n cynnwys bod yn fodlon mai’r telerau yw’r rhai gorau y gellir eu cael yn rhesymol.

Darllenwch y canllawiau ar fuddsoddiad cymdeithasol.

Gwarediadau gan ddatodwyr, datodwyr dros dro, derbynwyr, morgeisi neu weinyddwyr

Nid yw’n ofynnol i’r mathau hyn o waredu ddilyn y gofynion cyfreithiol a nodir uchod.

Gwaredu tir gan ddefnyddio pŵer mewn Deddf Seneddol, darpariaeth statudol arall neu gynllun

Mae rhai elusennau wedi’u sefydlu gan Ddeddf Seneddol neu’n cael eu llywodraethu gan ryw ddarpariaeth statudol arall neu gynllun llys neu Gomisiwn. Gallai’r rhain roi awdurdod penodol i chi gael gwared ar:

  • darn penodol o dir neu
  • tir mewn amgylchiadau penodol

Rhaid i chi wirio’r geiriad yn ofalus iawn, dilyn y gofynion, a cheisio cyngor cyfreithiol os ydych chi’n ansicr. Rhaid rhoi’r pŵer yn benodol ar gyfer gwarediad penodol neu ddosbarth penodol o waredu. Ni chewch eich esemptio os mai dim ond pŵer gwaredu cyffredinol sydd gennych.

Os oes gennych awdurdodiad penodol ar gyfer y gwarediadau hyn, nid yw’n ofynnol i chi ddilyn y gofynion cyfreithiol a nodir uchod.

Mae eich elusen yn elusen eithriedig

Nid yw’n ofynnol i’ch elusen ddilyn y gofynion cyfreithiol a nodir uchod. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi ddilyn gofynion gwahanol a nodir gan eich prif reoleiddiwr a bydd angen i chi wirio hyn.

Rhyddhau rhent-dâl

Mae rhent-dâl yn daliad blynyddol i berson nad yw’n berchen ar y tir neu sydd ag unrhyw fuddiant cyfreithiol arall ynddo. Os yw eich elusen yn berchen ar rent-dâl o £10 neu fwy, rydym yn eich annog i drafod ar gyfer ei ryddhau oherwydd gallant fod yn anodd eu casglu ac yn aml nid yw swm y rhent-dâl yn berthnasol i werth y tir.

Nid oes angen i chi ddilyn y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthiannau, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir os byddwch yn rhyddhau rhent-dâl am daliad o ddeg gwaith neu fwy ei swm blynyddol.

Gwaredu adfowson

Gallwch gael gwared ar adfowson heb ddilyn y gofynion ychwanegol ar gyfer gwerthu, prydlesi hirach a mathau eraill o waredu tir.

Mae gan elusen sy’n berchen ar adfowson yr hawl i enwebu ymgeisydd cymwys addas fel ficer neu berson plwyf i Esgob yr esgobaeth.

Cael gwared ar dir dynodedig

Mae’r adran hon yn cynnwys:

  • beth yw tir dynodedig
  • pryd fydd arnoch angen awdurdod y Comisiwn Elusennau i gael gwared ar dir dynodedig, a phryd na fydd
  • os oes angen awdurdod arnoch, sut i wneud cais
  • rhoi hysbysiad cyhoeddus
  • defnyddio elw’r gwarediad

Beth yw ‘tir dynodedig’

Mae tir dynodedig yn dir y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben neu ddibenion penodol eich elusen yn unol â’r ddogfen sy’n esbonio sut y mae’n rhaid defnyddio’r tir. Hon fydd y ‘ddogfen lywodraethu’.

Er enghraifft:

  • eiddo y mae’n rhaid ei ddefnyddio fel tir hamdden, neu
  • adeilad y mae’n rhaid ei ddefnyddio fel ysgol

Gall tir dynodedig fod yn dir ‘penodol’; gall hefyd fod yn waddol parhaol.

I ddarganfod a yw eich elusen wedi dynodi tir, edrychwch ar delerau’r dogfennau sy’n esbonio sut y mae’n rhaid defnyddio’r tir, er enghraifft ewyllysiau, trawsgludiadau neu weithredoedd ymddiriedolaeth.

Bydd y rhain yn nodi cyfarwyddiadau pwysig ar sut i ddefnyddio a rheoli’r tir. Gallant hefyd gynnwys cyfarwyddiadau am:

  • gwaredu’r tir
  • sut y gellir defnyddio unrhyw elw

Dylech gael cyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr a oes gan eich elusen dir dynodedig, pa bwerau sydd gennych i waredu’r tir a sut y gallwch ddefnyddio’r elw.

Cyn i chi wneud penderfyniad terfynol i gael gwared ar dir dynodedig, dylech ymgynghori â:

  • buddiolwyr eich elusen, ac
  • unrhyw un arall y gallai’r gwarediad effeithio arno

Dylech ystyried eu safbwyntiau wrth wneud eich penderfyniad.

Rhaid i’r penderfyniad i waredu fod er lles gorau eich elusen. Defnyddiwch ein canllawiau penderfynu i’ch helpu chi.

Wrth gael gwared ar dir dynodedig:

  • rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn oni bai y gallwch fynd ymlaen hebddo, fel yr eglurir isod
  • rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i waredu unrhyw dir elusennol oni bai bod eithriad yn gymwys, fel yr eglurir yng ngweddill y canllawiau hyn uchod
  • Efallai y bydd angen i chi gydymffurfio â’r rheolau ar roi rhybudd cyhoeddus, fel yr eglurir isod

Pryd nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch

Nid oes angen i chi gael awdurdod y Comisiwn i waredu os:

(1) byddwch yn defnyddio enillion y gwerthiant neu’r brydles i amnewid y tir dynodedig â thir cyfatebol a ddefnyddir at yr un dibenion elusennol

(2) ni fydd gwaredu’r tir yn effeithio ar y diben y mae’n ofynnol defnyddio’r tir ar ei gyfer na sut mae’r elusen yn hyrwyddo ei bwrpas. Er enghraifft, lle mai dim ond cyfran fach o’r tir sydd i’w waredu, neu os ydych yn caniatáu hawddfraint neu hawl tramwy cyhoeddus

Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau hyn, gallwch ddechrau’r broses i werthu neu brydlesu neu gael gwared ar y tir mewn rhyw ffordd arall.

Rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion arferol sy’n berthnasol i waredu unrhyw dir elusennol. (Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar sut rydych chi’n bwriadu gwaredu, er enghraifft prydles fer neu hir, neu werthiant. Mae yna hefyd ofynion sy’n ymwneud â gwaredu i berson cysylltiedig).

Darllenwch yr adrannau perthnasol o’r canllawiau hyn uchod i ddeall beth yw’r gofynion hyn.

Ac, os yw amgylchiad (2) yn gymwys i chi, darllenwch yr adran isod am roi hysbysiad cyhoeddus.

Pryd mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn

Mae’n rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn os:

  • nid yw amgylchiadau (1) nac (2) uchod yn berthnasol i’ch gwarediad
  • nid yw eich dogfen lywodraethu’n cynnwys pŵer i waredu’r tir

Mae’n rhaid eich bod wedi derbyn awdurdod y Comisiwn cyn i chi ddechrau’r broses o waredu.

Mae’r awdurdod sydd ei angen arnoch yn ymwneud â newid dibenion y tir dynodedig.

Mae hyn oherwydd na allwch gyflawni pwrpas yr elusen mwyach heb y tir.

Er enghraifft:

Ni allai elusen sydd â phwrpas sy’n ei gwneud yn ofynnol i’w thir dynodedig gael ei ddefnyddio fel tir hamdden gyflawni’r diben hwnnw mwyach pe bai’r holl dir hamdden yn cael ei werthu ac na fyddai’n cael ei amnewid.

Mae rheolau ynglŷn â newid dibenion elusen. Darllen canllawiau ar newid dogfennau llywodraethu i’ch helpu i gydymffurfio â’r rheolau hyn. Mae hefyd yn esbonio sut i wneud cais am awdurdod y Comisiwn.

Cael gwared ar y tir ar ôl derbyn awdurdod y Comisiwn

Unwaith y byddwch wedi derbyn awdurdod y Comisiwn i’ch dibenion newydd, gallwch ddechrau’r broses o werthu, prydlesu neu gael gwared ar y tir mewn rhyw ffordd arall.

Rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion arferol sy’n berthnasol i waredu unrhyw dir elusennol. (Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar sut rydych chi’n bwriadu gwaredu, er enghraifft prydles fer neu hir, neu werthiant. Mae yna hefyd ofynion sy’n ymwneud â gwaredu i berson cysylltiedig).

Darllenwch yr adrannau perthnasol o’r canllawiau hyn uchod i ddeall beth yw’r gofynion hyn.

Rhoi hysbysiad cyhoeddus o’ch cynlluniau cyn i chi gael gwared ar dir dynodedig

Mae’n rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus o’ch cynlluniau cyn gael gwared ar dir dynodedig, neu gytuno i gael gwared arno, oni bai:

  • mae’r tir yn cael ei amnewid
  • rydych yn rhoi les am gyfnod o 2 flynedd neu lai heb bremiwm na dirwy
  • rydych wedi derbyn awdurdod y Comisiwn i newid dibenion y tir dynodedig, ac nid yw’r tir bellach wedi’i ddynodi (gweler yr adran flaenorol uchod)

Mae’n rhaid i’ch hysbysiad:

  • rhoi manylion y tir
  • esbonio sut rydych chi am gael gwared ar y tir
  • gwahodd pobl i gysylltu â chi ag unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau
  • rhoi o leiaf un mis i bobl gysylltu â chi

Dylech geisio cyrraedd cymaint o fuddiolwyr eich elusen ag sy’n rhesymol bosibl.

Gallwch sicrhau bod eich ymagwedd yn cyd-fynd ag amgylchiadau eich elusen. Er enghraifft:

  • elusen fach, gymunedol sy’n hysbysebu mewn papur newydd lleol neu drwy hysbysiad wedi’i osod ar yr eiddo
  • elusen fwy yn dewis papur newydd cenedlaethol, ei gwefan a’i gyfryngau cymdeithasol
  • elusen sy’n arbenigo mewn gweithgaredd penodol sy’n hysbysebu mewn cyhoeddiad arbenigol, ei gwefan a’i gyfryngau cymdeithasol

Gallwch wneud cais i awdurdod y Comisiwn i beidio â rhoi hysbysiad cyhoeddus o’r gwarediad lle mae’n amlwg er budd gorau’r elusen. Er enghraifft:

  • Mae’r ddogfen lywodraethu’n dweud bod angen i chi wneud rhywbeth mwy na rhoi rhybudd cyhoeddus, fel cynnal cyfarfod cyhoeddus
  • rydych eisoes wedi ymgynghori’n eang am y cynnig, er enghraifft os gwnaethoch ymgynghori cyn i chi wneud eich penderfyniad i gael gwared ac nad ydych yn ystyried bod safbwyntiau wedi newid

Dylech ystyried yr holl adborth a dderbyniwch, gyda gwybodaeth berthnasol arall, cyn i chi symud ymlaen i waredu’r tir.

Elw gwaredu

Os gwnaethoch newid dibenion y tir dynodedig a derbyn awdurdod y Comisiwn, mae’r dibenion newydd yn llywodraethu ac yn esbonio sut y mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r elw.

Os ydych wedi gwaredu tir dynodedig fel y’i disgrifir yn (1) a (2)](#s1-awdurdod) uchod, a bod gennych chi elw, gallai’r ddogfen lywodraethu nodi sut i’w defnyddio, er enghraifft ar atgyweirio a chynnal a chadw’r eiddo newydd, neu eiddo presennol.

Os nad yw’r ddogfen lywodraethu’n nodi sut i ddefnyddio’r elw, bydd angen awdurdod y Comisiwn arnoch i newid dibenion yr elw i ddibenion newydd addas. Er enghraifft, atgyweirio a chynnal a chadw’r eiddo amnewid, neu eiddo presennol.

Darllen canllawiau ar newid dogfennau llywodraethu.

Gofynnwch am gyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr.

Datganiadau a thystysgrifau y mae’n rhaid i chi eu gwneud

Ar gyfer pob gwarediad (ac eithrio adfowsynau a thaliadau rhent penodol) rhaid i chi wneud datganiadau a thystysgrifau penodol yn eich dogfennau gwaredu, sy’n datgan:

  • sut mae’r tir yn cael ei ddal a chan ba fath o elusen
  • sut y caniateir y gwarediad yn ôl y gyfraith

Bydd eich cyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol arall fel arfer yn drafftio’r holl ddogfennau i’w gwaredu. Rhaid iddynt sicrhau bod y datganiadau a’r tystysgrifau yn defnyddio’r geiriad cywir. Mae’r Gofrestrfa Tir Cyfarwyddyd Ymarfer yn rhoi rhagor o fanylion.

Os ydych yn gwaredu tir sydd wedi’i freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yna rhaid eu henwi ar unrhyw ddogfen trawsgludiad, prydles neu waredu arall. Darllenwch beth sydd angen ei wneud pan fydd tir a freiniwyd yn y Ceidwad Swyddogol yn cael ei waredu.

Nodyn cyfreithiol

Y prif deddfau sy’n berthnasol i’r canllaw hwn yw:

Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd)

Deddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Deddf Ymddiriedolwyr 2000