Canllawiau

Gwefannau tocynnau eilaidd: gwybodaeth i ddefnyddwyr

Cyhoeddwyd 5 Mawrth 2015

Mae gwefannau tocynnau eilaidd yn galluogi unigolion neu fusnesau i ail-werthu tocynnau maent wedi eu prynu ar gyfer chwaraeon, cerddoriaeth neu ddigwyddiadau eraill.

Cyn prynu tocyn sy’n cael ei ail-werthu, dylech sicrhau eich bod yn hapus gyda’r tocyn y byddwch yn ei gael a’ch bod yn gwybod faint fydd yn ei gostio i chi.

Beth i gadw llygad amdano

Cyfyngiadau

Gallai’r rhain gynnwys:

  • golygfa gyfyngedig
  • fod yn rhaid i blant dan oed penodol fod ag oedolyn gyda nhw

Lleoliad

Os ydych chi’n prynu nifer o seddi, gwiriwch a ydynt wedi eu lleoli gyda’i gilydd.

Taliadau atodol

Gallai’r rhain gynnwys:

  • ffioedd archebu a gweinyddu
  • ffioedd danfon

Pris gwreiddiol

Nid yw’r prisiau a godir am docyn a werthwyd ar y farchnad eilaidd o reidrwydd yr un fath â phris gwreiddiol y tocyn – a ydych chi’n hapus i dalu’r gwahaniaeth?

Gwarantau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall ar gyfer beth mae gennych sicrwydd os aiff rhywbeth o’i le.

Dylai gwefannau tocynnau eilaidd a gwerthwyr busnes ddarparu gwybodaeth gywir, gyflawn a thryloyw i chi cyn i chi brynu.

Chwiliwch am yr wybodaeth hon a’i hystyried yn ofalus cyn prynu tocynnau ar y farchnad eilaidd. Gallai busnesau nad ydynt yn daprau’r wybodaeth ofynnol fod yn torri cyfraith cystadleuaeth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

  • Cyngor ar Bopeth (rhif ffôn 03454 040506)
  • Consumerline Gogledd Iwerddon (rhif ffôn 0300 1236262)

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.