Cyfarwyddyd ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol i elusennau (CC9)
Beth mae angen i elusennau ystyried wrth ymgyrchu neu gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol. Mae hyn hefyd yn cynnwys canllawiau ar Etholiadau a Refferenda.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Canllawiau er mwyn cynghori elusennau i ba raddau y gallant gymryd rhan mewn ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol.
Gall elusennau ymgyrchu i gyflawni eu dibenion. Ond ni all elusen:
- gael pwrpas gwleidyddol, neu
- ymgymryd â gweithgaredd gwleidyddol nad yw’n berthnasol at ddibenion elusennol yr elusen
Rhaid i ymddiriedolwyr beidio â chaniatáu i’r elusen gael ei ddefnyddio fel cyfrwng i fynegi barn bersonol neu bleidiol wleidyddol gan unrhyw ymddiriedolwr unigol neu aelod o staff.
Rhaid i ymddiriedolwyr elusen bwyso a mesur y buddion posibl yn ofalus yn erbyn y costau a’r risgiau wrth benderfynu os yw’r ymgyrch yn debygol o fod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo neu gefnogi dibenion yr elusen. Dylent feddwl pa gyfreithiau all fod yn berthnasol i’w dulliau ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol arfaethedig.
Fe all elusennau sy’n cynnal ymgyrchu neu weithgaredd gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd fod eisiau darllen ein canllawiau ar Elusennau a chyfryngau cymdeithasol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2008Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Tachwedd 2022 + show all updates
-
Guidance has been reviewed and updated following the passing of the new Elections Act 2022.
-
First published.