Mae’r Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi’r cyfle gorau posibl i ni i ddod o hyd i’r person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob rôl rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.
Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:
-
Gallu – y dawn neu’r potensial i berfformio i’r safon gofynnol
-
Technegol – yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
-
Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
-
Cryfderau – y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy’n ein hysgogi
-
Profiad – y wybodaeth neu’r feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo
Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob rôl. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella’r cyfle o gael y person gorau ar gyfer y rôl.
Cryfderau’r Gwasanaeth Sifil
Cryfderau yw’r pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy’n ein hysgogi. Maent yn berthnasol i’r diwylliant a’r math o waith rydym yn ei wneud.
Ni ddiffinnir cryfderau’r Gwasanaeth Sifil yn ôl gradd.
Mae tair elfen sy’n pennu a yw rhywbeth yn gryfder:
- Perfformiad - gallwch berfformio gweiddgaredd/ymddygiad i lefel uchel o allu
- Ymgysylltiad - rydych yn teimlo’n ysgogol, yn frwdfrydig ac yn awdurdodedig wrth wneud y gweithgaredd
- Defnydd - rydych yn gwneud y gweithgaredd yn rheolaidd ac mor reolaidd â phosibl.
Pam rydym yn asesu cryfderau
Pan fyddwn yn edrych ar eich cryfderau, rydym eisiau gwybod a ydych yn addas ar gyfer y sefydliad neu’r swydd. Byddwn yn edrych ar beth rydych yn hoffi ei wneud a beth rydych yn ei wneud yn dda ac yn rheolaidd. Trwy wneud yn siŵr bod y rôl yn addas iawn, rydych chi’n fwy tebygol o’i mwynhau a pherfformio’n dda
Sut rydym yn asesu cryfderau
Gellir asesu cryfderau mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft:
- cyfweliadau
- cyfweliadau wedi’u recordio ar fideo
- prawf cryfderau sefyllfaol pwrpasol
- asesiad efelychu
- prawf personoliaeth
Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau yn eich cyfweliad i’n helpu i ddeall a oes gennych y cryfderau perthnasol ar gyfer y swydd. Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw atebion cywir neu anghywir i’r cwestiynau hyn.
Peidiwch ag ymarfer eich atebion - oherwydd rydym yn chwilio am eich ymateb cyntaf. Bydd yr hysbyseb swydd yn disgrifio’r rhinweddau rydych eu hangen ar gyfer y rôl. Y ffordd orau i baratoi yw i fyfyrio ar:
- beth ydych chi’n meddwl yw eich cryfderau personol
- eich hoff ffyrdd o weithio
Efallai asesir eich cryfderau ochr yn ochr ag elfennau eraill o’r Proffil Llwyddiant. Mae hyn yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl. Bydd yr hysbyseb swydd yn dweud wrthych pa elfennau rydych eu hangen ar gyfer y rôl a’r dull(iau) dethol y byddwn yn eu defnyddio.
Addasiadau rhesymol
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad rydym yn ei ddefnyddio.
Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:
- darparu dogfennau mewn print bras neu braille
- caniatáu mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad
- darparu cymorth mewn canolfan asesu
Os ydych angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais eich bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.
Diffiniadau cryfderau
Cryfder |
Diffiniad |
Addasadwy |
Gallwch addasu i amrywiadau yn y gwaith neu’r amgylchedd. Nid yw eich effeithiolrwydd yn cael ei effeithio gan newid. Rydych yn hyblyg ac amryddawn. Rydych chi’n gweithredu fel eiriolwr dros newid. |
Dadansoddol |
Rydych yn chwilio ac yn dadansoddi gwybodaeth i lywio eich penderfyniadau, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. |
Dilys |
Rydych yn hunanymwybodol ac yn ffyddlon i chi eich hun ym mhob sefyllfa, hyd yn oed pan dan bwysau. |
Catalydd |
Rydych chi’n hunanysgogol i weithredu tuag at gyflawni nod. Rydych yn hyderus i ddefnyddio eich menter eich hun er mwyn symud gweithgareddau yn eu blaen. |
Heriwr |
Gallwch ddod â persbectif newydd i ba bynnag sefyllfa neu gyd-destun. Rydych yn ystyried barn pobl eraill ac yn gwerthfawrogi bod sawl ochr gwahanol i’w hystyried. |
Asiant newid |
Rydych yn gadarnhaol ac yn ysbrydoledig wrth awarin a chefnogi eraill trwy newid. |
Hyderus |
Rydych yn cymryd reolaeth o sefyllfaoedd, pobl a phenderfyniadau. Rydych yn cyfathrebu’n hyderus ac yn rhoi cyfarwyddyd. |
Dewr |
Rydych chi’n arloeswr sy’n rhoi cynnig ar ddulliau newydd. Rydych chi’n gwthio’ch hun i weithio y tu allan i’r hyn sy’n eich gwneud yn gyffyrddus. |
Pendant |
Rydych yn defnyddio eich barn. Rydych yn cymryd dull ystyriol i sefyllfaeodd a thasgau wrth wneud penderfyniadau. |
Disgybledig |
Rydych yn dilyn prosesau, gan weithredu’n gadarn o fewn y safonau, rheolau a chyfarwyddiadau a bennwyd. |
Effeithlon |
Rydych yn trawsnewid adnoddau i mewn i ganlyniadau yn y ffordd mwyaf effeithlon a costeffeithiol. |
Emosiynol deallus |
Rydych yn tynnu mewnwelediad o’ch emosiynau chi eich hun ag eraill i ddangos empathi. |
Galluogwr |
Rydych yn gweld potensial ym mhawb ac yn eu hannog i ddysgu, symud ymlaen a datblygu. |
Eglurwr |
Rydych yn cyfathrebu ystyriaethau a syniadau ar lafar neu’n ysgrifenedig. Rydych yn symleiddo cymhlethion ac yn addasu cyfathrebu fel y gallai eraill eich deall. |
Canolbwyntio |
Rydych yn ymdrechu i gael canlyniadau o ansawdd a rhagoriaeth ym mhopeth a wnewch. |
Cynhwysol |
Rydych yn adnabod pawb fel unigolyn. Rydych chi’n derbyn pobl am bwy ydynt ac yn trin pawb yn deg. Rydych yn annog ac yn cynnig cyfleoedd i eraill rannu syniadau a chyfraniadau. |
Dylanwadwr |
Rydych yn dylanwadu ar eraill, rydych yn ynganu’r rhesymwaith er mwyn ennill eu cytundeb. |
Gwellhäwr |
Rydych yn chwlilio am ffyrdd gwell o wneud pethau ac yn mwynhau meddwl am syniadau newydd a gwreiddiol. |
Dysgwr |
Rydych yn holi, yn chwilio am wybodaeth newydd ac yn chwilio am ffyrdd newydd i ddatblygu eich hun. |
Cyfryngwr |
Rydych yn darparu sefydlogrwydd a chydlyniad o fewn timau, gan ddod o hyd i dir cyffredin a phwrpas. Rydych chi’n mwynhau gweithio gydag eraill tuag at nod a rennir. |
Cenhedwr |
Rydych yn dilyn i fyny pethau sy’n rhoi synnwyr o ystyr a phwrpas i chi, wrth weithio tuag at nod hirdymor. |
Ysgogwr |
Rydych yn hunanysgogol iawn ac yn ysbrydoli eraill i symud pethau ymlaen a gwneud i bethau ddigwydd. |
Trafodwr |
Rydych yn cefnogi trafodaeth adeiladol ac yn mwynhau ceisio cael yr holl bartïon i ddod i gytundeb. |
Rhwydweithiwr |
Rydych yn creu ac yn cynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol, proffesiynol ac ymddiriedus. Gall y rhain fod gydag ystod eang o bobl y tu mewn a’r tu allan i’ch sefydliad. Rydych yn nodi cysylltiadau ac yn ymestyn allan i ddod â phobl at ei gilydd |
Trefnwr |
Rydych yn gwneud cynlluniau ac yn paratoi’n dda. Rydych yn ceisio uchafu amser a chynhyrchiant. |
Manwl gywir |
Rydych chi’n canolbwyntio ar fanylion ac yn sicrhau bod popeth yn gywir ac yn rhydd o wallau. |
Ataliwr |
Rydych yn meddwl ymlaen llaw i ragweld, adnabod a mynd i’r afael â risgau neu broblemau cyn iddynt ddigwydd. |
Datryswr problemau |
Rydych yn cymryd agwedd gadarnhaol i ddatrys problemau. Rydych chi’n dod o hyd i ffyrdd i adnabod datrysiadau addas. |
Adeiladwr perthnasau |
Rydych yn gyflym yn sefydlu parch a ffydd ar y cyd, gan feithrin perthnasau hirdymor ag eraill. |
Gwydn |
Mae gennych hunanfeddiant mewnol, yn dod dros anawsterau yn gyflym ac yn dysgu ohonynt. |
Cyfrifol |
Rydych chi’n cymryd perchnogaeth dros eich penderfyniadau. Rydych chi’n ystyried eich hun yn atebol am yr hyn rydych chi wedi’i addo. |
Canolbwyntio ar wasanaeth |
Rydych yn chwilio am ffyrdd i wasanaethu cwsmeriaid gan rhoi eu hanghenion wrth wraidd popeth a wnewch. |
Strategol |
Rydych yn edrych ar y darlun cyflawn. Rydych yn ystyried y ffactorau ehangach a’r goblygiadau hir dymor o benderfyniadau. |
Arweinydd tîm |
Rydych yn hyderus wrth arwain tîm. Rydych chi’n rheoli deinameg tîm yn effeithiol tuag at nod a rennir. Rydych chi’n ystyried anghenion unigol pawb ac yn creu ysbryd tîm gwirioneddol. |
Chwaraewr tîm |
Rydych yn gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn ymdrechu i sicrhau fod y tîm yn tynnu at ei gilydd ac yn effeithiol. |
Gweledwr |
Rydych yn creu a rannu gweledigaeth clir o’r dyfodol. |
Cryfderau wedi’u mapio i ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifi
Fe mapiwyd y cryfderau i’r ymddygiad(au)’r Gwasanaeth Sifil fwyaf perthnasol Fodd bynnag, gellir asesu unrhyw gryfder os yw’n addas i’r swydd.
Gweld y Darlun Cyflawn
- Heriwr
- Cenhedwr
- Strategol
- Gweledwr
Newid a Gwella
- Addasadwy
- Dewr
- Asiant newid
- Gwellhäwr
- Datryswr problemau
- Gwydn
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Dadansoddol
- Pendant
- Ataliwr
- Datryswr problemau
Arweinyddiaeth
- Hyderus
- Asiant newid
- Cynhwysol
- Ysgogwr
- Arweinydd tîm
- Gweledwr
Cyfathrebu a Dylanwadu
- Dilys
- Emosiynol deallus
- Eglurwr
- Cynhwysol
- Dylanwadwr
Gweithio ar y Cyd
- Heriwr
- Emosiynol deallus
- Cynhwysol
- Negodwr
- Rhwydweithiwr
- Adeiladwr perthnasau
- Chwaraewr tîm
- Cyfryngwr
Datblygu Eich Hun ac Eraill
- Galluogwr
- Eglurwr
- Cynhwysol
- Dysgwr
Rheoli Gwasanaeth Safonol
- Disgybledig
- Effeithlon
- Canolbwyntio
- Trefnwr
- Manwl gywir
- Ataliwr
- Canolbwyntio ar wasanaeth
Cyflawni’n Brydlon
- Addasadwy
- Disgybledig
- Catalydd
- Canolbwyntio
- Trefnwr
- Gwydn
- Cyfrifol