Canllawiau

Proffiliau Llwyddiant: Gallu

Diweddarwyd 14 Hydref 2024

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi’r cyfle gorau posibl i ddod o hyd i’r person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob rôl rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.

Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:

  1. Gallu – y dawn neu’r potensial i berfformio i’r safon gofynnol
  2. Technegol – yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
  3. Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
  4. Cryfderau – y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy’n ein hysgogi
  5. Profiad – y wybodaeth neu’r feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo

Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob rôl. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella’r cyfle o gael y person gorau ar gyfer y rôl.

Gallu Gwasanaeth Sifil

Gallu yw’r dawn neu’r potensial i berfformio i’r safon ofynnol. Mae’r Gwasanaeth Sifil yn defnyddio cyfres o brofion seicometrig i helpu i ragfynegi perfformiad yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys prawf rhesymu ar lafar a phrawf rhesymu rhifiadol.

Pam rydym yn asesu gallu

Wrth brofi’ch gallu, rydym am ddeall eich gallu ar gyfer math o waith penodol.

Rydym yn asesu gallu i helpu i ragweld perfformiad yn y dyfodol. Gall hyn helpu rheolwyr recriwtio i gael dealltwriaeth go iawn o weld a oes gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl. Gall hefyd eu helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y math o waith y mae’r Gwasanaeth Sifil yn ei wneud.

Sut rydym yn asesu gallu

Gellir asesu gallu trwy ddefnyddio profion seicometrig, yn aml mewn fformat ar-lein ar y we.

Gellir asesu gallu ar wahanol gamau o’r broses recriwtio. Ond yn aml mae’n cael ei wneud ar y dechrau.

Y profion mwyaf cyffredin rydym yn eu defnyddio yn y Gwasanaeth Sifil yw:

  • prawf rhesymu ar lafar - i asesu eich galluoedd ar lafar
  • prawf rhesymu rhifiadol - i asesu eich galluoedd rhifiadol

Mae canllaw profion ar-lein y Gwasanaeth Sifil yn cynnwys ystod o brofion ymarfer, canllaw prawf manwl a fideos i’ch helpu i baratoi.

Sgorir y profion yn awtomatig. Dywedir wrthych a ydych wedi cyflawni’r meincnod pasio. Ni fydd y profion hyn yr unig ffurff o ddethol. Os byddwch yn pasio, byddwch yn derbyn gwybodaeth am y cam nesaf yn y broses recriwtio.

Efallai y bydd eich gallu yn cael ei asesu ochr yn ochr ag elfennau eraill o’r Proffil Llwyddiant. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.

Bydd y disgrifiad swydd yn amlinellu’r elfennau rydych eu hangen ar gyfer y rôl a’r dull(iau) dethol byddwn yn eu defnyddio.

Addasiadau rhesymol

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy’n cael ei ddefnyddio.

Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:

  • darparu dogfennau mewn print bras neu braille
  • caniatáu mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad neu
  • darparu cymorth mewn canolfan asesu

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.

Mae yna ganllaw ar gyfer pobl ag anableddau y gofynnir iddynt gwblhau prawf ar-lein ac y gallent fod yn ansicr os oes angen cymorth arnynt i gael mynediad iddo.