Canllawiau

Proffiliau Llwyddiant: Technegol

Diweddarwyd 14 Hydref 2024

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi’r cyfle gorau posibl i ddod o hyd i’r person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob rôl rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.

Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:

  1. Gallu – y dawn neu’r potensial i berfformio i’r safon gofynnol
  2. Technegol – yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
  3. Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
  4. Cryfderau – y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy’n ein hysgogi
  5. Profiad – y wybodaeth neu’r feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo

Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob rôl. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella’r cyfle o gael y person gorau ar gyfer y rôl.

Pam rydym yn asesu sgiliau technegol, gwybodaeth a chymwysterau

Mae mwy nag 20 proffesiwn yn y Gwasanaeth Sifil. Mae’r proffesiynau yn cynnig ystod eang o rolau, gan gynnwys rhai arbenigol.

Bydd pob pennaeth Proffesiwn yn diffinio’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau penodol efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos i fod yn llwyddiannus ar gyfer y rolau hyn.

Er enghraifft, efallai y bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer rôl arbenigol yn Cyllid y Llywodraeth feddu ar:

  • gymwysterau cyfrifeg
  • gwybodaeth o’r ffordd rydym yn rheoli cyllid o fewn y llywodraeth

Sut rydym yn asesu sgiliau technegol, gwybodaeth a chymwysterau

Mae gan nifer o’r proffesiynau fframwaith proffesiynol. Mae’r fframweithiau wedi’u cynllunio i asesu’r sgiliau, y cymwysterau a’r wybodaeth benodol sydd eu hangen ar gyfer rolau yn y proffesiwn.

Bydd y disgrifiad swydd yn rhestru unrhyw ofynion technegol efallai y byddwch eu hangen ar gyfer y rôl. Bydd hefyd yn esbonio pa ddulliau asesu byddwn yn eu defnyddio. Gall rhai o’r dulliau asesu sy’n asesu eich sgiliau technegol gynnwys:

  • ffurflen gais
  • CV
  • cyfweliad
  • cyflwyniadau ac ymarferion technegol
  • prawf(profion) technegol
  • cyflwyniad
  • sampl(au) gwaith
  • ymarfer “in-tray”
  • efelychiad sy’n gysylltiedig â swydd
  • ymarfer briffio ar lafar
  • dadansoddiad/ymarfer ysgrifenedig
  • canolfan asesu.

Os oes gofyniad am:

  • gymhwyster penodol
  • aelodaeth o gorff proffesiynol

efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cymhwyster(au) neu’ch aelodaeth.

Efallai y byddwn yn asesu eich sgiliau technegol/proffesiynol ochr yn ochr ag elfennau eraill o’r Proffil Llwyddiant. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.

Addasiadau rhesymol

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy’n cael ei ddefnyddio.

Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:

  • darparu dogfennau mewn print bras neu braille
  • caniatáu mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad
  • darparu cymorth mewn canolfan asesu

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.