Proffiliau Llwyddiant: Profiad
Diweddarwyd 14 Hydref 2024
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi’r cyfle gorau posibl i ddod o hyd i’r person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob rôl rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.
Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:
- Gallu – y dawn neu’r potensial i berfformio i’r safon gofynnol
- Technegol – yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
- Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
- Cryfderau – y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy’n ein hysgogi
- Profiad – y wybodaeth neu’r feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo
Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob rôl. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella’r cyfle o gael y person gorau ar gyfer y rôl.
Profiad
Profiad yw gwybodaeth neu feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc a enillwyd trwy gymryd rhan ynddo neu amlygiad iddo.
Yn y Gwasanaeth Sifil, yn aml mae angen profiad ar gyfer recriwtio i:
- uwch rolau
- rolau yn proffesiynau y Gwasanaeth Sifil
Pam rydym yn asesu profiad
Wrth edrych ar eich profiad, rydym yn chwilio am:
-
enghreifftiau o’r pethau rydych wedi’u cyflawni o’r blaen
- eich gwybodaeth mewn maes penodol sy’n berthnasol i rôl y swydd
- Sut y gwnaethoch berfformio mewn maes penodol – nid faint o amser yr ydych wedi ei wasanaethu
Weithiau gall profiad o du allan i waith gael ei drosglwyddo o gyd-destun di-waith. Gall sgiliau a enillir trwy waith gwirfoddol neu hobi, ddangos y profiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl. Er enghraifft gwaith tîm neu gyfathrebu.
Sut rydym yn asesu profiad
Byddwn yn edrych ar eich profiad, eich hanes gyrfa a’ch cyflawniadau sy’n berthnasol i rôl y swydd.
Mae rhai o’r dulliau asesu efallai y byddwn yn defnyddio i ddeall eich profiad yn cynnwys:
- ffurflen gais
- CV
- cyfweliad
Ystyriwch ddefnyddio y dull STAR sy’n eich galluogi i osod y sefyllfa, dangos beth a sut wnaethoch a’r canlyniad.
Efallai y byddwn yn asesu eich profiad ochr yn ochr ag elfennau eraill o’r Proffil Llwyddiant. Mae hyn er mwyn cael darlun mwy cyflawn o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.
Bydd y disgrifiad swydd yn disgrifio’r elfennau rydych eu hangen ar gyfer y rôl a’r dull(iau) dethol byddwn yn eu defnyddio.
Addasiadau rhesymol
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy’n cael ei ddefnyddio.
Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:
- darparu dogfennau mewn print bras neu braille
- caniatáu mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad neu
- darparu cymorth mewn canolfan asesu
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.