Credydau treth: anghytuno ag adennill gordaliad (TC846)
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein os yw CThEM wedi talu gormod o gredydau treth i chi ac rydych o’r farn na ddylai’n rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Dogfennau
Manylion
Rhowch wybod i CThEM os ydych o’r farn eich bod wedi cael gormod o gredydau treth ac nad ydych o’r farn y dylech orfod ei ad-dalu oherwydd gwnaethoch fodloni’ch cyfrifoldebau chi ac ni wnaethant fodloni eu rhai nhw.
Rhaid eich bod yn gallu dangos bod CThEM wedi gwneud camgymeriad neu wedi rhoi cyngor anghywir i chi, a’i bod yn rhesymol i chi gredu bod eich taliadau yn gywir.
Cyn i chi ddechrau
Darllenwch ‘Credydau treth: apeliadau a chŵynion cyn i chi lenwi’r ffurflen er mwyn gwneud yn siwr y gallwch ddadlau yn erbyn penderfyniad.
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch er mwyn llenwi’r ffurflen:
- pam yr ydych yn anghytuno â’r gordaliad yn y fan hon
- eich rhif Yswiriant Gwladol (fe welwch hwn ar eich slip cyflog, eich P60 neu’ch Ffurflen Dreth)
- rhif Yswiriant Gwladol eich partner, os gwnaed y gordaliad ar hawliad ar y cyd
Dylech hefyd gynnwys manylion o bryd y gwnaethoch gysylltu â ni, a beth a ddigwyddodd os rhoesoch wybod i CThEM:
- roedd eich amgylchiadau personol ar eich hysbysiad o ddyfarniad yn anghywir neu’n anghyflawn
- nid oedd eich taliadau’n cyd-fynd â’r rheiny ar eich hysbysiad dyfarnu
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM os oes angen rhagor o amser arnoch i dalu gordaliad credyd treth.
Gwneud cais ar-lein
Er mwyn rhoi gwybod i CThEM ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch.
Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni.
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Gwneud cais drwy’r post
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Gordaliadau credydau treth
Sut y gall gordaliadau credydau treth ddigwydd, ad-dalu gordaliadau ac anghydfodau.
Credydau treth: Beth sy’n digwydd os oes gormod wedi ei dalu i chi (COP26)
Mae’r daflen hon yn esbonio pam fod gordaliadau yn digwydd a sut i’w had-dalu. Mae’n rhoi gwybod i chi hefyd pan nad oes angen i chi eu had-dalu a sut i ddadlau yn erbyn gordaliad.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2023 + show all updates
-
The form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.
-
The form to tell HMRC about a tax credit overpayment by post has been updated for 2020 to 2021.
-
The form to tell HMRC about a tax credit overpayment by post has been updated for 2019 to 2020.
-
The form to tell HMRC about a tax credit overpayment by post has been updated for 2018 to 2019.
-
The Welsh version of this page has been updated.
-
Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.
-
New forms published for 2017 to 2018
-
An online forms service is now available.
-
A new version of the form is now available.
-
The 2015 to 2016 form has been added to this page.
-
Added translation