Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021
Mae'r Papur Gwyn hwn, ‘Helpu i Lunio Ein Dyfodol’, yn amlinellu cynigion Awdurdod Ystadegau'r DU ar gyfer cynnal Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
Dogfennau
Manylion
Mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi gwneud argymhellion ynglŷn â chynnwys Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr a’r broses o’i gynnal, fel y nodir yn y Papur Gwyn hwn.
Yn eu plith, mae’r cynnig y dylai’r cyfrifiad gael ei gynnal ar lein yn bennaf, a hynny am y tro cyntaf.
Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi’r canlynol:
- y dyddiad arfaethedig ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
- y pynciau yr argymhellir eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2021 a’r broses ymgynghori a lywiodd yr argymhellion hyn
- darpariaethau cyfrinachedd ar gyfer casglu data personol a diogelwch digidol
- cynlluniau i gyhoeddi data Cyfrifiad 2021 a chael gafael arnynt
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gael ar y fersiwn Saesneg o’r dudalen hon.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil a’r gwaith ymgynghori sydd wedi llywio’r argymhellion ynglŷn â chynnwys Cyfrifiad 2021 a’r broses o’i gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).