Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Glo 2020-21: Adroddiad ar berfformiad
Cyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2021
Trosolwg
Mae’r Awdurdod Glo yn gorff cyhoeddus anadrannol a sefydliad partner i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).
Ein cenhadaeth:
Creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Ein diben:
-
rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl
-
rydym yn gwarchod a gwella’r amgylchedd
-
rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
-
rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl
Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.
Rydym yn cyfrannu at gyflawni strategaethau allweddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y cynllun deg pwynt ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd, y strategaeth datgarboneiddio diwydiannol ac ymrwymiadau i godi’r gwastad yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach Llywodraethau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig. Trwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cynorthwyo nhw, a’n partneriaid, i greu gwledydd glanach a gwyrddach i bawb ohonom.
Ein trefniadau llywodraethu:
Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am osod ein cyfeiriad strategol a’n dal i gyfrif. Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein diben a’n gwerthoedd.
Mae gan ein cadeirydd ac aelodau ein bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith. Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn cael eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS. Mae cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd ac mae rhai ohonynt yn cael eu penodi i’r bwrdd wedi hynny, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS unwaith eto.
Ein gwerthoedd:
Dibynadwy
-
rydym yn gweithredu gydag uniondeb
-
rydym yn agored ac yn dryloyw
-
rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau
Cynhwysol:
-
rydym yn hyrwyddo diwylliant o barchu pawb
-
rydym yn sylweddoli bod ein gwahaniaethau’n ein gwneud yn gryfach
-
rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth
Blaengar:
-
rydym yn eangfrydig ac yn arloesol
-
rydym yn sylweddoli bod y gorffennol yn gallu ein helpu i ffurfio’r dyfodol
-
rydym yn gwrando ac yn dysgu
Y gwaith a wnawn
Yn ystod 2020-21, ar draws y 3 gwlad a wasanaethwn:
Cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl
8,370 o archwiliadau mynedfa pwll glo wedi’u cynnal
589 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
212 o hawliadau difrod ymsuddiant wedi’u hasesu
Defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
195,371 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u darparu
1,704 o drwyddedau i groestorri glo wedi’u rhoi
7,599 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
Gwarchod a gwella’r amgylchedd
122 billion o litrau o ddŵr wedi’u trin
32,000m² o’n 350,000m² o welyau cyrs wedi’u hamnewid
4,500 o dunelli o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
Creu gwerth a lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl
£2.4 miliwn wedi’i arbed trwy ailgylchu deunydd gwelyau cyrs
£6 miliwn o incwm wedi’i gynhyrchu trwy ein gwasanaethau cynghori
78% o solidau haearn a dynnwyd ymaith wedi’u hailgylchu
Rhagair y Cadeirydd
Mae’n destun balchder i mi gael fy mhenodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn Gadeirydd yr Awdurdod Glo ac ysgrifennu fy rhagair cyntaf ar gyfer ein Hadroddiad Blynyddol. Yn ystod yr amser yr wyf eisoes wedi’i dreulio gyda’r sefydliad, gallaf weld bod ein pwyslais ar wireddu ein cenhadaeth, ein diben a’n gwerthoedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r cwsmeriaid a’r cymunedau a gefnogwn.
Fel cadeirydd, byddaf yn parhau i sicrhau bod y sefydliad yn canolbwyntio’n glir ar greu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a bod arloesi a chynyddu cyfleoedd i’r eithaf yn parhau i fod yn bwysig ochr yn ochr â’n gwaith statudol craidd i warchod bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn. Fe’m tarwyd gan uchelgais y sefydliad, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda’r 3 llywodraeth a wasanaethwn i helpu Prydain Fawr i ailadeiladu ar ôl y pandemig COVID-19 i fod yn well, yn decach ac yn wyrddach.
Mae ein buddsoddiad mewn ardaloedd meysydd glo a’n defnydd o gyflenwyr lleol yn cefnogi’r agenda codi’r gwastad. Gall y mwyngloddiau hanesyddol sydd o dan 25% o Brydain Fawr ddarparu gwres carbon isel neu ddi-garbon am bris sefydlog i gymunedau ar draws y meysydd glo, ac rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu hyn. Yn ystod 2020-21, rydym wedi datblygu ein cyfundrefn drwyddedu, gweithio gyda phartneriaid a gwneud mwy o waith ymchwil a datblygu i wireddu hyn. O ganlyniad, gweithiodd ein tîm Ymgynghoriaeth Wres gyda Chyngor Gateshead i ddrilio’r tyllau turio peilot cyntaf ar gyfer gwres dŵr mwynglawdd yn y rhanbarth. Mae ein mapiau gwres mwynglawdd sydd newydd eu cyhoeddi, a ddatblygwyd ar y cyd ag Arolwg Daearegol Prydain, yn creu mwy o ddiddordeb yn y potensial ar gyfer y ffynhonnell hon o ynni adnewyddadwy, a dealltwriaeth ohoni, ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu ni, BEIS, y llywodraethau datganoledig a phartneriaid i wneud gwahaniaeth ymarferol i gyflawni statws di-garbon net trwy rwydweithiau gwres.
Wrth i ni barhau â’n gwaith i warchod pobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio, mae ein cynlluniau cynaliadwyedd yn cynyddu ein pwyslais ar helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd. Byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon er mwyn cyrraedd sero-net erbyn 2030 mewn sawl ffordd, gan gynnwys buddsoddi ymhellach mewn ynni adewyddadwy a defnyddio dyluniad a deunyddiau carbon isel yn ein gweithgareddau adeiladu. Bydd heriau hefyd, ond byddwn yn eu hwynebu’n gadarn a byddwn yn arloesol wrth greu datrysiadau a gweithio gydag eraill a dysgu oddi wrthynt.
Trwy fwyafu a mapio’r amgylcheddau yn ein hystad a gweithio gydag eraill, fel Rhwydweithiau Adfer Natur, gallwn wella gwerth trwy gynyddu bioamrywiaeth er mwyn cael effaith leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae ein safleoedd eisoes yn creu brithwaith pwysig o gynefinoedd sy’n denu amrywiaeth eang o rywogaethau. Y llynedd, canfu arolygon o 2 yn unig o’n safleoedd helaethrwydd o fywyd gwyllt a 12 rhywogaeth adar ar y rhestr o bryder cadwraeth. Yn ystod y pandemig COVID-19, mae mynediad at fyd natur wedi arwain at lawer o fuddion, a bydd caniatáu i’r cyhoedd gael mwy o fynediad i’n safleoedd yn y dyfodol yn cefnogi lles mewn ardaloedd meysydd glo.
Rwyf wedi gweld yn amlwg pa mor ganolog yw ymateb brys ac ymateb i ddigwyddiadau i waith yr Awdurdod Glo a sut gall cyfnodau hir o law a thywydd eithafol effeithio ar hynny. Mae’r bwrdd a minnau’n croesawu’r adolygiad y byddwn yn ei gynnal eleni i’n helpu i weithio’n agosach fyth â phartneriaid ymateb brys a chwmnïau cyfleustodau i gynyddu ymwybyddiaeth o’n gallu 24/7 ymhellach, ochr yn ochr â gwell dealltwriaeth o beryglon a dangosyddion mwyngloddio etifeddol a allai ein helpu i ddarparu cymorth ac arbenigedd i atal digwyddiadau, lle y bo’n bosibl, neu ymateb yn fwy effeithiol fyth pan fyddant yn digwydd.
Mae fy meddyliau’n troi at bawb y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol sy’n gwarchod bywyd a lles ac, o ganlyniad i ymrwymiad ein staff, rydym wedi gallu darparu’r rhan fwyaf o’n gweithgareddau ar gyfer cwsmeriaid trwy weithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol, gyda 90% o’r sefydliad yn gweithio gartref, ond yn parhau i weithio gyda’n gilydd fel ‘Un Awdurdod Glo’. Ni allaf ddiolch digon i’n pobl am eu hymroddiad a’u hymrwymiad parhaus ar hyd y cyfnod heriol hwn. Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn yn manteisio ar y pethau cadarnhaol a ddysgwyd o weithio mewn ffyrdd newydd a gwahanol i fod yn sefydliad mwy hyblyg, teg ac ymatebol fyth. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i recriwtio a chadw talent fwy amrywiol, clywed gan fwy o leisiau ar draws hyd a lled ein gwaith a bod yn fwy cynrychioliadol fyth o’r cymunedau a wasanaethwn.
Wrth orffen, mae’n rhaid i mi ddiolch yn fawr i Stephen Dingle am ei ymroddiad i’r sefydliad yn ystod 8 mlynedd fel Cadeirydd a 5 mlynedd ar y bwrdd cyn hynny. Mae’n anrhydedd ei ddilyn yn y rôl ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr bwrdd a gweithredol a’n pobl wych ar draws y sefydliad cyfan i barhau â’r ddarpariaeth gref y mae’r Awdurdod Glo’n enwog amdani.
Jeff Halliwell, Cadeirydd
Adroddiad y Prif Weithredwr
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg. Rwy’n falch o ymrwymiad ac ymroddiad ein pobl a sicrhaodd ein bod yn gallu parhau â’n hymateb brys a chymunedol 24/7 ledled Prydain Fawr a blaenoriaethu gwaith ar ddiogelwch cyhoeddus, diogelu dŵr yfed a’r amgylchedd.
Roedd ein cwsmeriaid wrth wraidd pob penderfyniad a wnaethom fel y gallem flaenoriaethu gwasanaethau i’w cadw nhw’n ddiogel a chefnogi adferiad gwyrdd ac economaidd y gwledydd a wasanaethwn. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi canolbwyntio ar les ein staff, y mae’r pandemig COVID-19 wedi amharu ar eu bywydau nhw, fel pawb arall.
Mae ein gwaith gweithredol ar lawr gwlad wedi parhau, gan weithio’n agos gyda’n partneriaid a’r gadwyn gyflenwi. Rydym wedi cyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed, sy’n golygu bod mwy o ddyfrhaenau dŵr yfed, afonydd a nentydd yn cael eu diogelu rhag llygredd o ddŵr mwynglawdd. Rydym wedi ymateb i 589 o adroddiadau am beryglon arwyneb a 212 o hawliadau difrod ymsuddiant. Sicrhaom fod ein 76 o gynlluniau trin dŵr mwynglawdd yn parhau i weithredu, ar yr un pryd â gweithio gyda BEIS, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a phartneriaid i ddatblygu blaenraglenni uchelgeisiol ar gyfer gwaith pellach i drin mwyngloddiau glo a metel ledled Prydain Fawr.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac amrywiaeth o bartneriaid yng Nghymru, rydym wedi cynnal asesiad cynhwysfawr o domenni pwll glo yng Nghymru a sicrhau bod yr holl safleoedd risg uwch wedi cael eu harchwilio o leiaf ddwywaith, gan wneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol a defnyddio technoleg arloesol i roi sicrwydd i’r cymunedau sy’n byw oddi tanynt ac o’u hamgylch.
Ar 21 Ionawr 2021, yn dilyn cyfnod hir o dywydd gwlyb a glawiad trwm oherwydd Storm Christoph, cafodd 77 o gartrefi/gerddi yn Sgiwen yn ne Cymru eu gorlifo gan ddŵr a chwythodd allan o lefel ddraenio mwynglawdd hanesyddol. Aethom ati i helpu partneriaid brys â’r ymateb cychwynnol ac rydym wedi gweithio gyda’r gymuned, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid eraill i gynorthwyo’r preswylwyr a rhoi cymorth ymarferol iddynt i’w helpu i adfer. Rydym yn adeiladu cynllun rheoli dŵr mwynglawdd newydd i roi tawelwch meddwl ar gyfer y dyfodol.
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn adfer ein gorsafoedd draenio tir a ddifrodwyd gan lifogydd helaeth yn Swydd Efrog y llynedd i sicrhau eu bod yn galluogi cymunedau a ffermwyr i ddefnyddio eu tir.
Mae mwyafrif ein gwasanaethau eraill wedi cael eu darparu trwy weithio gartref. Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar iawn i’n pobl, sydd wedi parhau i wneud eu gorau glas i gynorthwyo ein cwsmeriaid ar yr un pryd â wynebu eu hofnau, eu pwysau teuluol a’u cyfrifoldebau gofalu eu hunain.
Yn ein hadroddiad blynyddol diwethaf, gwneuthum nifer o ymrwymiadau ar gyfer 2020-21, ac rydym wedi gwneud cynnydd clir ar bob un.
-
Rydym wedi parhau i gefnogi llywodraethu’r tair gwlad a wasanaethwn trwy ddarparu’n briodol yn ystod cyfyngiadau COVID-19 sy’n newid a galluogi adferiad economaidd trwy gefnogi’r farchnad dai, darparu arbenigedd a chyngor i ddarparwyr seilwaith a gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi a’n partneriaid i gyflawni ein rhaglen adeiladu cyfalaf a’n prosiectau seilwaith ynni dŵr mwynglawdd.
-
Ymrwymodd ein bwrdd i gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030 a galluogi cydnerthedd naturiol a mynediad cymdeithasol trwy’r cynefinoedd a grëwn a’r storfeydd gwres ac ynni datgarboneiddiedig y gallwn eu darparu. Eleni, rydym wedi sefydlu sefyllfa sylfaenol ac yn cwblhau cynllun clir ar gyfer cynnydd tuag at 2030 a thu hwnt yn derfynol.
-
Rydym wedi parhau i gyflawni ein dyletswyddau craidd a darparu ymateb i ddigwyddiadau a thawelwch meddwl 24/7 i unrhyw un y mae nwy, ymsuddiant neu beryglon mwyngloddio yn effeithio arno, a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod tomenni gwastraff pyllau glo yng Nghymru yn cael eu harchwilio ac i lywio ymagwedd yn y dyfodol at reoleiddio a chynnal a chadw.
Yn 2021-22, byddwn yn:
-
datblygu ein cydnerthedd i ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys ymhellach trwy ein strwythur newydd ac ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon mwyngloddiau etifeddol, ein gwaith a’n hymateb 24/7. Byddwn yn cyflawni hyn trwy hyfforddiant a thrwy ymgysylltu â phartneriaid cydnerthedd lleol a chwmnïau cyfleustodau
-
gwneud mwy o gynnydd clir ar ein taith tuag at gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030 a datblygu cyfres o brosiectau gwres mwynglawdd mewn partneriaeth â chynghorau a datblygwyr. Ochr yn ochr â hynny, byddwn yn gwneud mwy o waith i asesu’r risg o’n hasedau mwyngloddio etifeddol, peryglon a risgiau o ystyried y newid yn yr hinsawdd a mwy o dywydd eithafol
-
datblygu ein cynllun busnes tymor hir newydd i osod y cyfeiriad ar gyfer y sefydliad, gan gefnogi’r tair llywodraeth a wasanaethwn, ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf yn unol ag adolygiad nesaf o wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Ni fyddai hyn yn bosibl heb ein pobl wych. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r ffyrdd o weithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn dod yn fwy hyblyg a deinamig fyth. Mae hyn yn cynnwys parhau i ddod yn fwy amrywiol, cynhwysol a gwrth-hiliol i sicrhau ein bod yn berthnasol i’r cymunedau a wasanaethwn, a pharhau i ganolbwyntio ar les i sicrhau ein bod yn sefydliad y mae pobl sydd â llawer o botensial eisiau gweithio iddo.
Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
Astudiaeth achos: Ein gwaith yng Nghymru
Ym mis Chwefror 2020, dioddefodd Cymru effeithiau sylweddol o ganlyniad i Stormydd Ciara a Dennis, a oedd yn cynnwys llithriad tomen lo yr oedd y cyngor yn berchen arni yn Tylorstown. Gofynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i ni roi cyngor ac arbenigedd i dasglu a arweinir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni glo yng Nghymru yn cael eu hamlygu, eu hasesu o ran risgiau, eu harchwilio a’u nodi ar gyfer gwaith cynnal a chadw er mwyn lleihau’r risg o’r safleoedd hyn i’r cymunedau o’u hamgylch ac oddi tanynt.
Gweithiom 7 diwrnod yr wythnos ar ôl y digwyddiad i gynorthwyo Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Tylorstown, i ddefnyddio ein gwybodaeth i amlygu lleoliadau tomenni, rhoi cyngor ar unwaith i bartneriaid brys a chynnig gwybodaeth a sicrwydd trwy’r cyfryngau.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r tasglu, amlygom fwy na 2,000 o domenni glo, ar draws Cymoedd De Cymru yn bennaf. Mae’r rhain i gyd wedi cael eu dosbarthu o ran risg ac archwiliwyd y tomenni â’r risg fwyaf rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2020, ac unwaith eto yn ystod gaeaf 2020-21. Cafodd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ei nodi a’i fonitro gan y tasglu.
Yn aml, mae tomenni glo yng Nghymru wedi’u lleoli ar lethrau serth, ar ochrau bryniau a mynyddoedd.
O dan y gyfraith a’r rheoliadau presennol, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am reoli tomenni a’u diogelwch. Mae’r rhan fwyaf o domenni glo yn nwylo preifat, tra bod eraill dan reolaeth cynghorau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r Awdurdod Glo yn berchen ar 26 o domenni yng Nghymru. I gael gwybod mwy am sut rydym yn eu rheoli, ewch i’n gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith wneud argymhellion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, ac rydym yn cefnogi hyn ac yn cyfrannu at y broses ymgynghori.
I gynorthwyo’r gymuned a rhoi sicrwydd, rydym yn darparu llinell gymorth 24/7 ar domenni ar 0800 021 9230.
Ein blwyddyn yng Nghymru
602 o archwiliadau mynedfa pwll glo wedi’u cynnal
107 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
14,924 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u darparu
1,110 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
17 biliwn o litrau o ddŵr wedi’u trin
380 o dunelli o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
Ein perfformiad
Rydym ychydig dros hanner ffordd drwy ein cynllun 5 mlynedd presennol ac wedi gwneud cynnydd da, gan osod y sylfeini i greu sefydliad mwy cynaliadwy a fydd yn gallu cyflawni ein cenhadaeth am flynyddoedd i ddod. Rydym wedi canolbwyntio ar les ein pobl ar hyd COVID-19 ar yr un pryd â chyflawni’n gryf yn unol â’n diben o gadw pobl yn ddiogel, gwarchod yr amgylchedd, a darparu gwybodaeth o ansawdd da i helpu eraill i wneud penderfyniadau gwybodus a chreu gwerth.
Ein pobl
Drwy gydol y pandemig, blaenoriaethom ein gwaith fel y gallai ein pobl gydbwyso ei gyflawni â gofalu am eu lles eu hunain a’u hanwyliaid. Addasom ein ffyrdd o weithio fel y gallai’r rhan fwyaf o bobl weithio gartref ac y gallai’r rhai sy’n gweithio mewn cymunedau wneud hynny’n hyderus mewn ffordd COVID-ddiogel.
Gweithiom i gynyddu’r profiad o’n prosesau a’u heffeithlonrwydd i’r eithaf ar gyfer staff sy’n gweithio gartref, gan ddefnyddio fideogynadledda a chyfryngau eraill i sicrhau y gellid parhau i weithio’n effeithiol ar draws y sefydliad a bod pawb yn deall ein blaenoriaethau a’n cyfeiriad i gynorthwyo ein cwsmeriaid. Roedd hyn yn cynnwys galwadau staff bob pythefnos i rannu arfer gorau, heriau a ffyrdd newydd o feddwl, a oedd yn beth da er mwyn dysgu a chynnal morâl.
Cyflwynom ddysgu ar-lein diddorol a lansio rhaglen gynefino newydd, i sicrhau bod staff newydd yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd yn yr Awdurdod Glo.
Mae gweithio yn y modd hwn wedi gwneud ein sefydliad yn decach, gan fod staff sydd wedi’u lleoli ledled Prydain Fawr wedi cael llais mwy cyfartal ar draws pob agwedd ar ein gwaith, ac rydym yn canolbwyntio ar sut i gynnwys y pethau cadarnhaol a ddysgwyd yn ein dulliau ‘trefn arferol newydd’ ar gyfer y dyfodol.
Drwy gydol hyn i gyd, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys cynnydd pellach ar ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gweithio i ddod yn sefydliad sy’n cymryd camau mwy pendant i fod yn wrth-hiliol. Yn ogystal ag addysgu a thrafod, rydym wedi newid polisïau a phrosesau craidd, gan gynnwys recriwtio, ar sail arfer da gan eraill ac rydym yn codi a denu lleisiau a safbwyntiau ehangach i lywio ein gwaith.
Mae llawer o hyn wedi ein helpu i wneud cynnydd yn erbyn canfyddiadau ein harolwg pobl yn 2019, ond mae gennym fwy i’w wneud a bydd hyn yn parhau i fod yn thema yn ystod 2021-22.
Cwsmeriaid a rhanddeiliaid
Mae cwsmeriaid wedi parhau i fod wrth wraidd ein ffordd o feddwl a’n penderfyniadau yn ystod 2020-21. Rydym wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i grwpiau penodol o gwsmeriaid ac yn agored ar gyfryngau cymdeithasol i bawb, gwella hygyrchedd ein gwasanaethau digidol a rhewi codiadau i daliadau a gynlluniwyd ar gyfer ein holl gynhyrchion a gwasanaethau tan 30 Medi 2021 o leiaf, gan gydnabod yr heriau y mae pawb wedi’u hwynebu eleni. Bu angen i ni ymestyn yr amserau ymateb ar gyfer ein safonau cwsmeriaid ar adegau, ond mae ein hymrwymiad i ymateb mor gyflym a chyflawn â phosibl wedi parhau.
Rydym wedi blaenoriaethu darparu ar lawr gwlad ac ymateb i ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn i warchod bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd. Rydym yn parhau i ddarparu llinell ymateb i ddigwyddiadau 24/7 (01623 646 333) ac wedi ymateb i 752 o beryglon mwyngloddio fel ymsuddiant, nwy mwynglawdd a chwymp siafft, ac wedi cymryd camau i gynorthwyo’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rydym wedi cynorthwyo partneriaid brys mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â thomenni glo a’r digwyddiad llifogydd dŵr mwynglawdd mawr yn Sgiwen yn Ne Cymru ym mis Ionawr a arweiniodd at wacáu 100 o gartrefi a 77 achos o lifogydd mewnol a/neu allanol.
Yn dilyn y digwyddiad yn Sgiwen, sefydlom linell gymorth benodol i gwsmeriaid i helpu preswylwyr yr effeithiwyd arnynt ac i ddarparu’r cymorth y gallem o dan ein polisi ar gyfer Sgiwen, ochr yn ochr â’n cyfrifoldebau craidd i unioni’r nodweddion mwyngloddio a ddifrodwyd ac adeiladu cynllun rheoli dŵr mwynglawdd newydd. Rydym wedi cynnal nifer o gyfarfodydd â’r preswylwyr ac mae gennym swyddog cyswllt â’r gymuned ar y safle erbyn hyn i ddarparu cymorth hyd nes y bydd ein gwaith ar y safle wedi’i gwblhau. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid eraill i sicrhau’r ymagwedd fwyaf cydgysylltiedig posibl i gynorthwyo’r preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trist hwn.
Rydym wedi parhau i weithio yn rhan o Dasglu Tomenni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella’r broses o gofnodi, dosbarthu risgiau cyffredin, archwilio a chynnal a chadw tomenni glo ledled Cymru ac i gynorthwyo Comisiwn y Gyfraith i baratoi ei ymgynghoriad ar ddull rheoleiddio ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi gwneud mwy o waith i fynd i’r afael â llygredd o fwyngloddiau metel yng Nghymru a Lloegr, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ac wedi gweithio i leihau llygredd o byllau glo ymhellach trwy adnewyddu asedau presennol a datblygu cynlluniau trin newydd. Oherwydd hyn, rydym wedi cyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed o £11.3 miliwn, sy’n glod i’n cadwyn gyflenwi, a ailffurfiodd yn gryf ar ôl y cyfnod clo cyntaf pan osodwyd llawer o’u staff ar ffyrlo, ac yn arwydd o’n hymrwymiad i fentrau Ailadeiladu’n Well, yn Wyrddach ac yn Decach Llywodraeth y Deyrnas Unedig. I gefnogi hyn ymhellach, rydym wedi darparu 1,704 o drwyddedau a 7,599 o ymgynghoriadau cynllunio yn unol â’n targedau, yn ogystal â 195,371 o adroddiadau mwyngloddio (96% o’n disgwyliad cyn COVID-19).
Rydym wedi parhau i weithio gyda gwleidyddion lleol a phartneriaid i ddatblygu’r cyfle i storio gwres ac ynni o ddŵr mwynglawdd, gan gynnwys cynllun newydd yn Gateshead. Gwnaethom ddatblygu a chyhoeddi map gwres mwynglawdd gydag Arolwg Daearegol Prydain sy’n galluogi cynghorau, datblygwyr ac eraill i weld y lleoliadau gorau i fanteisio ar yr adnodd hwn. Rydym hefyd wedi datblygu ein proses trwyddedu i wella’r broses ymgeisio ac wedi parhau i weithio gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Triple Point a rheoleiddwyr eraill i helpu i sicrhau bod prosesau cyllid a phrosesau eraill mor syml â phosibl i ymgeiswyr.
Prosesau mewnol
Gweithiom yn gyflym i gefnogi trefniadau gwydn ac effeithiol o weithio gartref ar hyd y pandemig ac i sicrhau bod ein rheolaethau ariannol, llywodraethu a chraidd eraill yn parhau i weithredu ac yn cael eu gwella, fel y bo’r angen. Asesom unrhyw risgiau newydd a sefydlu hyfforddiant ychwanegol i gadw ein pobl a’r Awdurdod Glo yn ddiogel – yn enwedig o ran seiberddiogelwch ac amddiffyniadau gwrth-dwyll.
Mae ein prosesau parhad busnes wedi gweithio’n dda ac wedi cael eu haddasu, fel y bo’r angen, i sicrhau y gallem flaenoriaethu gwaith a bod yn hyblyg wrth i wahanol gyfyngiadau symud gael eu llacio a’u tynhau a’u hamrywio ar draws y 3 gwlad a wasanaethwn. Rhoddodd hyn yr hyder i’n staff a’n cadwyn gyflenwi i barhau i ddarparu’n ddiogel yn ystod amodau a oedd yn newid.
Rydym wedi gwneud cynnydd pellach wrth ymsefydlu ein fframwaith newydd ar gyfer rheoli a sicrhau risg ac wrth feincnodi ein hallyriadau carbon er mwyn sicrhau y gallwn gynllunio i gyflawni ein dyhead o gyrraedd statws di-garbon net erbyn 2030.
Rheoli ein harian
Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), sef ein hadran noddi, fel eu bod yn deall ein risgiau a’n cyfleoedd ariannol ac yn helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhaglenni a’n gweithgareddau yn unol â chyfansymiau rheoli cytunedig trwy gyfnod digynsail.
Cynhyrchom incwm o £6.0 miliwn (2019- 20 £5.3 miliwn) o’n gwasanaethau cynghori a’n sgil-gynhyrchion, gan ddefnyddio ein harbenigedd i helpu sefydliadau eraill y llywodraeth i reoli eu risgiau a chreu cyfleoedd o’n hetifeddiaeth fwyngloddio.
Mae ein rhaglenni Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu wedi cynhyrchu arbedion o £3.7 miliwn i wrthbwyso ein costau yn ystod y flwyddyn trwy amlygu defnyddiau arloesol ar gyfer ein sgil-gynhyrchion a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredu.
Rhagolwg ar gyfer 2021-22
Drwy gydol 2021-22, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein cenhadaeth, sef creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.
Byddwn yn parhau i gefnogi uchelgeisiau’r llywodraethau a wasanaethwn i sicrhau adferiad gwyrdd o COVID-19, i gyflawni’r cynllun deg pwynt ar gyfer yr amgylchedd, targedau di-garbon net a’r agenda codi’r gwastad. Byddwn yn datblygu ein meincnod a’n trywydd ymhellach i gyrraedd statws di-garbon net erbyn 2030 ac yn esblygu ein Strategaeth Gynaliadwyedd i gynyddu cyfleoedd i bobl a bywyd gwyllt i’r eithaf o’n safleoedd, gan gydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd lleol ar gyfer lles ac iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi gweld nifer gynyddol o ddigwyddiadau mawr yn ymwneud â thywydd eithafol a’r newid yn yr hinsawdd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Eleni, byddwn yn datblygu ein dulliau a’n seilwaith ymateb i ddigwyddiadau ymhellach i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn sefydliad ymateb i ddigwyddiadau modern a gwydn sy’n gweithredu 24/7, sy’n gweithio’n agosach fyth gyda phartneriaid yn y gwasanaethau brys i gadw cymunedau’n ddiogel. Yn rhan o hynny, byddwn yn cynnal ymgyrch gyda chwmnïau cyfleustodau a chynghorau i hybu ymwybyddiaeth o’n gwaith a’n gwasanaethau a’i gwneud yn haws iddynt adrodd am beryglon. Byddwn hefyd yn adolygu ymhellach effaith mwy o dywydd eithafol ar ein hasedau a’n gwaith ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol fel y bo’r angen.
Byddwn yn gweithio mwy gyda phartneriaid, fel BEIS a’r llywodraethau datganoledig, cynghorau lleol a gwleidyddion, y sectorau cyhoeddus a phreifat a phartneriaid cyllid gwyrdd, i annog mwy o dwf o ran prosiectau gwres ac ynni dŵr mwynglawdd sydd yn yr arfaeth er mwyn darparu gwres carbon isel, cost effeithiol ar gyfer datblygiadau preswyl, diwydiannol a garddwriaethol, a pharhau i ddatblygu defnyddiau ymarferol ar gyfer ein sgil-gynhyrchion er mwyn cynyddu’r defnydd ohonynt a lleihau’r hyn sy’n cael ei wastraffu i’r eithaf.
Fel sail i hyn, byddwn yn datblygu cynllun ymchwil a datblygu newydd sy’n cynyddu ein gwaith gyda phartneriaid, gan gynnwys Arolwg Daearegol Prydain a’r sector prifysgolion, ac yn cyfuno’r syniadau y mae arnom eu hangen i gefnogi darpariaeth ymarferol o ran di-garbon net, gwres ac ynni dŵr mwynglawdd ac i alluogi arloesedd, effeithlonrwydd a gwelliant parhaus ar draws pob agwedd ar ein gwaith.
Gan ychwanegu at yr hyn a ddysgom o’r flwyddyn ddiwethaf, byddwn yn creu ffordd hyblyg a chyfunol o weithio ar gyfer y dyfodol sy’n sicrhau bod pob aelod o staff yn cael ei gynnwys ac yn gallu cydweithio’n rhwydd ar draws gwahanol dimau ac ardaloedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ymwneud â ni fel busnes ac yn cynnwys mwy o wasanaethau digidol a hygyrchedd i’n cwsmeriaid, gan adeiladu ar adborth a roddwyd ganddynt.
Byddwn yn gwneud mwy o waith gyda sefydliadau ariannol a benthyca a thrawsgludwyr i gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl a chynnal ffydd yn y farchnad dai ar draws ardaloedd meysydd glo.
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar les ein pobl a buddsoddi yn eu datblygiad. Byddwn yn ychwanegu at y cynnydd a wnaethom yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ddod yn sefydliad sy’n cymryd camau pendant i fod yn fwy gwrth-hiliol a chynhwysol, gan ddatblygu ein dulliau, ein polisïau a’n prosesau recriwtio ymhellach, parhau i ganolbwyntio ar addysg a chodi lleisiau a gwahodd her o’r tu mewn a’r tu allan i’n sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni ein strategaeth newydd ‘lle gwych i bawb weithio’. Darllenwch fwy am ein strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd ar gyfer 2021-2024
Wrth i ni barhau i dyfu ac esblygu, mae ein hymrwymiad i gyflawni ein gwaith hanfodol i warchod bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd yn parhau yn ddigyfnewid. O gynorthwyo aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan ymsuddiant neu nwy mwynglawdd i warchod dŵr yfed, afonydd a thraethau rhag llygredd o fwyngloddiau, mae ein gwaith yn cadw cymunedau’n ddiogel ac yn sicrhau bod pobl leol yn gallu mwynhau afonydd, traethau a mannau lleol eraill. Ein gwaith craidd yw hyn a bydd yn parhau ochr yn ochr â’n hymateb 24/7 i ddigwyddiadau i roi sicrwydd i gymunedau ar draws y meysydd glo.
Ein model busnes
Mae ein model busnes yn sail i’n cynllun busnes. Mae’r model yn dangos sut byddwn yn darparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid a chreu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o fwyngloddiau etifeddol.
Mae ein diben wrth wraidd ein Model Busnes, yn sail i’r pedair ystyriaeth allweddol a drafodwyd eisoes yn “Ein Perfformiad”:
-
Ein pobl
-
Cwsmeriaid a rhanddeiliaid
-
Prosesau mewnol
-
Rheoli ein harian
Trwy wella ein perthynas â’n pobl, ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn gyson, cryfhau ein prosesau a gwneud hyn i gyd o fewn fframwaith llywodraethu ariannol cadarn, gallwn ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd:
-
i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus a
-
chyflawni ein hymrwymiadau i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â mwyngloddio
A hynny ar yr un pryd â chreu gwerth a lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl.
Ein diben:
-
rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl
-
rydym yn gwarchod a gwella’r amgylchedd
-
rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
-
rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i drethdalwyr gymaint â phosibl
Ein cynllun busnes
Mae ein cynllun busnes yn gosod ein diben wrth wraidd yr hyn a wnawn. Bydd ein rhaglenni gwella a’n gweithgareddau creu gwerth yn sicrhau y gallwn barhau i ymgymryd â’r dyletswyddau craidd hyn mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.
Arwain, cefnogi a datblygu ein pobl:
-
mae ein haddysg a’n datblygiad yn ysbrydoli, ysgogi a helpu staff i gyflawni eu llawn botensial
-
rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant
-
mae ein staff wedi’u grymuso ac yn ymgysylltu
-
mae ein system gwobrwyo staff yn gysylltiedig â datblygiad
-
rydym yn meddu ar y gallu i gyflawni ein dyletswyddau statudol am byth
Gweithredu strategaeth gwsmeriaid:
-
rydym yn deall ein cwsmeriaid ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion
-
mae ein data cwsmeriaid yn cael ei fesur, ei ddeall a’i ddefnyddio i ychwanegu gwerth
-
mae ffyrdd o weithio sy’n dangos arfer gorau yn cael eu hymsefydlu
-
mae ein gwasanaethau’n hygyrch ac mae’n rhwydd cynnal busnes â ni
Ceisio cyfleoedd i greu gwerth:
-
rydym yn darparu gwasanaethau cynghori i alluogi sefydliadau eraill i reoli eu risgiau
-
rydym yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau i greu gwerth o’n gwybodaeth a’n data
-
rydym yn creu gwerth o’n hetifeddiaeth a’n sgil-gynhyrchion mwyngloddio
Buddsoddi yn ein trefniadau llywodraethu a’n prosesau:
-
mae trefniadau rheoli risg wedi’u hailwampio ac mae’r system adrodd am risgiau’n ddynamig
-
mae cynllunio busnes a gwaith rhaglenni effeithiol yn cefnogi blaenoriaethu a chyflawni’n effeithiol
-
mae llywodraethu’n syml ac yn grymuso pobl o fewn fframweithiau
Risgiau strategol
Risg – Risg diogelwch cyhoeddus
Er gwaethaf rheolaethau’r Awdurdod Glo, mae perygl sylweddol a achoswyd gan gloddio am lo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Glo yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Mae gennym brosesau sydd wedi’u hen sefydlu i reoli ein risgiau, gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol a llinell gymorth ymateb wedi’i brysbennu sydd ar gael 24/7.
Rydym yn defnyddio ymateb cymesur i reoli’r risg hon, ond ni ellir ei dileu.
Sgôr gymharol
Uchel (sefydlog)
Risg - COVID-19 (lles staff a pharhad busnes)
Mae COVID-19 (neu ddigwyddiad iechyd tebyg) a’r cyfyngiadau cysylltiedig yn effeithio ar iechyd, diogelwch neu les staff a gallu’r Awdurdod Glo i gyflawni ei swyddogaethau craidd.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Yn ystod mis Mawrth 2020, cychwynnom ein cynllun parhad busnes ac roedd mwyafrif ein pobl yn gweithio gartref. Roedd uwch dîm rheoli wedi’i sefydlu i wneud penderfyniadau amser real a sicrhau bod lles staff yn cael ei warchod a bod ein dulliau cyfathrebu’n effeithiol. Blaenoriaethwyd gweithgareddau rheng flaen allweddol yn ofalus, a pharhaodd yr holl weithrediadau allweddol drwy gydol y cyfnodau clo. Ar yr adeg cyhoeddi, rydym yn parhau i symud tuag at ‘drefn arferol newydd’ wrth i’r cyfyngiadau lacio.
Sgôr gymharol
Canolig (lleihau)
Risg – Effaith ariannol COVID-19
Mae’r effaith economaidd a achoswyd gan COVID-19 yn effeithio ar incwm yr Awdurdod Glo.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Adferodd niferoedd o ran trwyddedau, adroddiadau mwyngloddio a gwybodaeth fwyngloddio ar hyd 2020-21 ar ôl dechrau araf, ac maen nhw’n parhau i fod yn gryf ar ddechrau 2021-22.
Sgôr gymharol
Canolig (lleihau)
Risg – Amharwyr yn y farchnad wybodaeth
O ganlyniad i adnoddau cyfyngedig a phwyslais ar ddyletswyddau craidd, nid ydym yn gwella ein gwybodaeth nac yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, gan golli cyfleoedd i’r Awdurdod Glo ac eraill greu gwerth o’n gwybodaeth a’n data.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Rydym wedi llwyddo i ryddhau ein data i’w ddefnyddio gan eraill ac agor y farchnad adroddiadau mwyngloddio, gan arwain at gyfran is o’r farchnad a llai o incwm o’r farchnad hon, yn ôl y disgwyl.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Comisiwn Geo-ofodol, ei gyrff partner, a sefydliadau eraill i amlygu cyfleoedd i rannu ein data a’n gwybodaeth, gan ddarparu gwasanaethau rhagorol i helpu ein cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus.
Sgôr gymharol
Uchel (sefydlog)
Risg – Defnydd o wasanaethau’r llywodraeth
O ganlyniad i bwysau cyllido allanol ac ansicrwydd economaidd, mae cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau i sefydliadau’r llywodraeth yn datblygu’n arafach, gan arwain at golli’r cyfle i’w helpu i reoli eu risgiau neu greu gwerth o etifeddiaeth fwyngloddio a cholli cyfraniad ariannol.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Rydym yn parhau i wella ein proffil a chryfhau perthnasoedd allweddol. Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli gwaith adfer dŵr mwynglawdd, ac rydym wedi sefydlu tîm ymateb i ddigwyddiadau tomenni ar ran Llywodraeth Cymru.
Sgôr gymharol
Canolig (lleihau)
Risg – Arloesedd
O ganlyniad i gyfyngiadau cyllido a’r risg gynhenid sy’n gysylltiedig ag arloesedd, gallai cynnydd wrth ddatblygu technoleg, prosesau a chynhyrchion newydd gymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd, gan arwain at oedi wrth greu gwerth ac arbed costau.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Goruchwylir y rhaglen hon gan ein bwrdd arloesedd. Mae camau a gymerwyd yn ystod y cyfnod adolygu gwariant aml-flwyddyn diwethaf wedi lleihau costau gweithredu trin dŵr mwynglawdd gan £3.7 miliwn yn 2020-21, ac rydym yn parhau i wneud gwaith ymchwil a datblygu, datblygu ein prosesau trwyddedu a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mwynglawdd. Byddwn yn parhau i gydweithio â’n hadran noddi, sef BEIS, Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill i gynyddu ein llwyddiant i’r eithaf.
Sgôr gymharol
Canolig (sefydlog)
Risg – Datganoli
Mae gwahaniaethau polisi’n parhau i dyfu rhwng Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan achosi aneffeithlonrwydd, ansicrwydd neu risg i enw da.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Mae’r tair gwlad a wasanaethwn wedi datblygu polisïau gwahanol yn ystod COVID-19 sydd wedi achosi gwaith ychwanegol ac, ar adegau, canllawiau a dulliau gwahanol ar gyfer ein pobl a’n gweithrediadau ym mhob gwlad.
Mae’n bosibl y gallai’r gwahaniaethau polisi rhwng y gwledydd barhau i gynyddu. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r gwledydd wrth wneud ein gwaith i sicrhau bod canlyniadau ar gyfer y Deyrnas Unedig a chanlyniadau cenedlaethol yn cael eu cyflawni i’r eithaf.
Sgôr gymharol
Canolig (cynyddu)
Risg – Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Gallai ansicrwydd ynglŷn â natur yr ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd gael effaith ar gyllid a pholisi’r Awdurdod Glo a’i bartneriaid ac amhariad tymor byr.
Diweddariad a mesurau lliniaru
Cyn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, adolygom yr elfennau o’n busnes y gallai’r ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd effeithio arnynt yn y tymor byr, er enghraifft cyflenwi cemegau i’n gweithfeydd trin dŵr mwynglawdd, ac mae gennym gynlluniau ar waith i reoli’r rhain.
Nid yw’r ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd wedi effeithio ar ein gweithgareddau, ond byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus.
Sgôr gymharol
Isel (lleihau)
Risg – Newid yn yr hinsawdd
Methiant i ystyried, monitro a rheoli effeithiau tebygol y newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hasedau a’n gallu i gyflawni ein cylch gwaith.
Diweddariad a lliniaru
Mae ein rhaglenni adeiladu ac adnewyddu sylweddol ag arian cyfalaf wedi’u dylunio i sicrhau bod ein cynlluniau’n lliniaru ac atal llygredd a llifogydd.
Bydd ein rhaglen gynaliadwyedd yn ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ymhellach ar asedau gweithredol presennol ac yn y dyfodol.
Sgôr gymhrol
Canolig (cynyddu)
Astudiaeth achos: Ein gwaith yn yr Alban
Ym mis Awst 2020, ymchwiliodd cyngor lleol i holltau mewn ffordd yn Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark. Fe ganfuon nhw wagle mawr o dan arwyneb y ffordd ac fe ofynnon nhw i ni ymchwilio a gweithredu i gadw pobl yn ddiogel a datrys y broblem i’r gymuned.
Dangosodd ein hymchwiliadau fod dwy siafft pwll glo dros 200 mlwydd oed wedi’u cofnodi yn yr ardal leol gyda dyfnderoedd cofnodedig o oddeutu 330 metr. Canfu ymchwiliadau pellach i’r ddaear fod un o’r siafftiau pwll glo a gofnodwyd wedi cwympo, gan achosi i’r gwagle ymddangos o dan arwyneb y ffordd. Roedd y siafft 22 metr o dan lefel y tir ac roedd y deunydd rhwng y siafft a’r ffordd, sef graean meddal, tywodlyd, yn anodd gweithio gydag ef, yn enwedig mewn amodau gwlyb.
Digwyddodd y gwymp mewn ystad dai breswyl ac fe weithion ni gyda’r preswylwyr, y Cyngor Plwyf, Cyngor Gogledd Swydd Lanark a phartneriaid eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o beth oedd wedi digwydd, sut byddai’n cael ei atgyweirio a’r raddfa amser ar gyfer y gwaith. Cadw pobl yn ddiogel a thawelu meddwl y gymuned oedd ein blaenoriaeth drwy gydol y gwaith.
Fe weithion ni gyda’n contractwyr i osod platfform 36 metr o led ar draws y siafft a’r ardal o’i hamgylch. Roedd hyn wedi caniatáu i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel ac wedi lleihau perygl cwymp bellach gymaint â phosibl. Trwsiwyd y siafft pwll glo trwy chwistrellu 716 o dunelli o growt sment a sefydlogwyd y deunydd graean tywodlyd uwch ei phen ac o’i hamgylch gyda 3,850 o litrau o resin a sment. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ardal yn ddiogel ac yn sefydlog am flynyddoedd i ddod.
Ystadegau allweddol
-
Siafft 330 metr dros 200 mlynedd oed
-
3,850 o litrau o resin a sment wedi’u defnyddio i’w sefydlogi
-
716 o dunelli o growt sment wedi’u chwistrellu
Ein blwyddyn yn yr Alban
6 o archwiliadau mynedfa pwll glo wedi’u cynnal
158 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
54,366 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u darparu
964 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
34 biliwn o litrau o ddŵr wedi’u trin
960 o dunelli o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
Adolygiad ariannol
Rydym wedi cyflawni’n gryf yn ystod y flwyddyn er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19. Mae ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau a diogelwch cyhoeddus wedi parhau i gadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl, a bydd buddsoddiad parhaus yn ein cynlluniau yn ein galluogi i drin dŵr mwynglawdd a gwarchod yr amgylchedd yn y dyfodol. Rydym wedi cynyddu ein hincwm gwasanaethau cynghori wrth i ni helpu ein partneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau, ac wedi darparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpu’r farchnad dai drwy gydol y cyfnod.
Yn ystod blwyddyn ansicr, rydym wedi gweithio’n agos gyda BEIS i gyfleu’r risgiau a’r sensitifrwydd sy’n gysylltiedig â’n gofynion cyllido ac wedi cyflawni yn unol â’n rhagolygon. Derbyniwyd £44.1 miliwn o gymorth grant gan BEIS yn ystod y flwyddyn (2019-20: £34.8 miliwn), sy’n adlewyrchu cynnydd yng nghost net ein gweithrediadau. Dangosir hyn yn y graffig isod. (Sylwer y darparwyd ar gyfer cyfran sylweddol o’r gost hon mewn blynyddoedd blaenorol, fel yr esbonnir yn nodyn 13 i’r datganiadau ariannol, ac nad yw’n cael ei chodi’n uniongyrchol ar y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).
Sut y defnyddiom ein harian yn 2020-21
Dangosir ffigurau 2019-20 mewn cromfachau.
Ein gwariant oedd £60.2 miliwn (yn 2019-20 - £54.1 miliwn)
-
Gweithrediadau – Diogelwch cyhoeddus £13.3 miliwn (yn 2019-20 - £12.0 miliwn)
-
Gweithrediadau – Cynlluniau trin dŵr mwynglawdd £14.4 miliwn (yn 2019-20 - £12.6 miliwn)
-
Gweithrediadau – Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant £1.0 miliwn (yn 2019-20 - £1.6 miliwn)
-
Datblygu – Cynllunio, trwyddedu, caniatâd ac eiddo £4.1 miliwn (yn 2019-20 - £3.2 miliwn)
-
Data a gwybodaeth £3.9 miliwn (yn 2019-20 - £4.2 miliwn)
-
Masnachol £8.9 miliwn (yn 2019-20 - £9.1 miliwn)
-
Arloesedd £0.9 miliwn (yn 2019-20 - £0.9 miliwn)
-
Cynlluniau trin dŵr mwynglawdd (CYFALAF) £10.9 miliwn (yn 2019-20 - £8.2 miliwn)
-
Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (CYFALAF) £0.4 miliwn (yn 2019-20 - £1.3 miliwn)
-
Arall (CYFALAF) £2.4 miliwn (yn 2019-20 - £1.0 miliwn)
Ein hincwm oedd £60.2 miliwn (yn 2019-20 - £54.1 miliwn)
-
Cymorth grant (BEIS) £44.1 miliwn (yn 2019-20 - £34.8 miliwn)
-
Adroddiadau mwyngloddio £7.9 miliwn (yn 2019-20 - £9.5 miliwn)
-
Cynghori a thechnegol£6.0 miliwn (yn 2019-20 - £5.3 miliwn)
-
Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall £0.2 miliwn (yn 2019-20 - £0.1 miliwn)
-
Trwyddedu/caniatâd gweithredwyr £0.8 miliwn (yn 2019-20 - £0.8 miliwn)
-
Trwyddedu data £1.2 miliwn (yn 2019-20 - £1.0 miliwn)
-
Cysylltiedig ag eiddo £0.7 miliwn (yn 2019-20 - £1.4 miliwn)
-
Ffi rheoli diogelwch cyhoeddus ac arall £0.1 miliwn (yn 2019-20 - £0.2 miliwn)
-
Symudiad cyfalaf gweithio -£0.8 miliwn (yn 2019-20 - £1.0 miliwn)
Yr incwm o £16.9 miliwn a ddangosir yn y Datganiad o wariant net cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau Incwm uchod heb gynnwys cymorth grant a symudiad cyfalaf gweithio.
Er gwaethaf saib yn ein rhaglenni cyfalaf oherwydd cyfyngiadau cychwynnol COVID-19, cyflawnom ein rhaglen gyfalaf flynyddol fwyaf erioed, gyda’n partneriaid, i warchod cyrsiau dŵr a dyfrhaenau yfed trwy ailflaenoriaethu ein gwaith a mabwysiadu arferion gwaith COVID-ddiogel. Gwnaethom hefyd gynyddu gwariant i sicrhau bod nifer gynyddol o gynlluniau pwmpio dŵr mwynglawdd ac ymsuddiant sy’n heneiddio yn gweithredu’n effeithiol. Bydd ein rhaglenni adnewyddu ac arloesi cyfalaf parhaus yn lleihau cost cynnal y cynlluniau hyn yn y dyfodol i’r eithaf, ac yn ystod y flwyddyn arbedon ni £3.7 miliwn trwy ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion mewn ffyrdd defnyddiol a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol eraill.
Cynyddodd ein gwariant ar ddiogelwch cyhoeddus yn ystod y cyfnod, sy’n adlewyrchu nifer o hawliadau a digwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys ein cefnogaeth i’r ymateb brys a’r gwaith parhaus i unioni’r nodwedd lofaol yn Sgiwen yn ne Cymru. Mae gwariant ein tîm Datblygu wedi cynyddu oherwydd gwaith yn Clipstone, Swydd Nottingham, lle’r ydym yn trin y siafftiau pwll glo mewn safle etifeddol er mwyn iddo allu cael ei ailddatblygu’n ddiogel ar gyfer y gymuned.
Gostyngodd ein hincwm o adroddiadau mwyngloddio o flwyddyn i flwyddyn, yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad mawr mewn incwm ar ddechrau’r cyfyngiadau COVID ac yna adferiad cryf yn ôl i’r lefelau disgwyliedig erbyn diwedd y cyfnod. Cynhyrchodd ein gwaith gwasanaethau cynghori incwm o £6.0 miliwn (cynnydd sylweddol o’r £5.3 miliwn yn 2019-20). Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant wrth gyflawni gyda sefydliadau eraill llywodraethau, gan gynnwys cynlluniau dŵr mwynglawdd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru, a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i reoli tomenni’n ddiogel.
Datganiadau ariannol
Mae ein cyfrifon wedi’u dominyddu gan ein balans darpariaethau o £2,529.0 miliwn. Dangosir y sail resymegol a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 13 i’r cyfrifon. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio am lo yn y gorffennol ar ddiwedd y flwyddyn (2020-21). Mae’r balans hwn wedi cynyddu £223.0 miliwn (2019-20: cynnydd o £9.0 miliwn), yn bennaf o ganlyniad i gynnwys dau gynllun ataliol newydd a phwysau parhaus ar gost gweithredu ein cynlluniau. Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian parod i adlewyrchu gwerth amser arian yn seiliedig ar dybiaethau a chyfraddau gostyngiad a ddarperir gan Drysorlys EM. Roedd y cyfraddau hyn yn gymharol sefydlog eleni, gan arwain at ostyngiad o £15.0 miliwn yn unig yn y balans darpariaethau (2019-20: gostyngiad o £96.0 miliwn).
Datganiad o wariant net cynhwysfawr
Y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021 oedd £260.9 miliwn, o gymharu â £48.0 miliwn yn 2019-20. Y symudiadau mewn darpariaethau a amlinellir uchod sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd. Heblaw am y symudiadau darpariaethau hyn, y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn oedd £16.9 miliwn (2019-20: £20.6 miliwn), sef £3.7 miliwn yn llai.
Amlinellir y rhesymau dros y symudiad hwn isod.
Cyfanswm incwm gweithredu:
Cyfanswm yr incwm gweithredu, nad yw’n cynnwys cymorth grant, oedd £16.9 miliwn (2019-20: £18.3 miliwn) sy’n adlewyrchu ein strategaethau parhaus i weithio ar y cyd â sefydliadau llywodraethau i’w helpu i reoli eu risgiau ar yr un pryd â hybu cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau mwyngloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
Rydym bellach ymhell o’n sefyllfa wreiddiol, lle’r oedd gennym fonopoli ar adroddiadau mwyngloddio i bob pwrpas, gyda chyfran o oddeutu 50% o’r farchnad, sy’n dangos llwyddiant agor y farchnad yn ystod y 6 blynedd diwethaf. Mae colli cyfran gymharol fach o’r farchnad yn ystod y flwyddyn, ynghyd ag effaith gychwynnol COVID-19 ar y farchnad dai a marchnadoedd cysylltiedig, wedi achosi i’n refeniw o adroddiadau mwyngloddio ostwng £1.6 miliwn i £7.9 miliwn, wedi’i wrthbwyso gan ffïoedd uwch o £0.2 filiwn o werthu ein data i gyrff allanol i ehangu’r farchnad.
Mae ein hincwm o wasanaethau cynghori a thechnegol, fodd bynnag, wedi cynyddu £0.7 miliwn i £6.0 miliwn, wedi’i sbarduno’n bennaf gan ein gwaith gyda’n partneriaid yng Nghymru i reoli tomenni glo’n ddiogel gan roi tawelwch meddwl i gymunedau lleol.
Y gwahaniaeth mawr arall o 2019-20 yw’r gostyngiad mewn incwm ‘adfachu’ o werthu adeiladau yr oedd yr Awdurdod Glo yn berchen arnynt yn flaenorol - £0.6 miliwn o gymharu ag £1.1 filiwn yn 2019-20. Mae’r incwm hwn yn anrhagweladwy ac mae’r amseriad y tu allan i’n rheolaeth i raddau helaeth.
Gwariant:
Roedd costau staff, sef £15.8 miliwn, £0.7 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol oherwydd i ni gynyddu nifer ein staff i gyflawni ein gwasanaethau rheng flaen. Estynnwyd nifer fach o gontractau staff asiantaeth yn 2020-21 hefyd i ddarparu cydnerthedd yn ein timau wrth i COVID-19 a chyfnodau clo cysylltiedig llywodraethau ddechrau effeithio ar ein gwaith a’n pobl.
Gostyngodd cost prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau a ddarparwyd yn flaenorol) £0.5 miliwn i £8.45 miliwn, gan gynnwys arbed £0.3 miliwn trwy lai o deithio yn ystod cyfnodau clo COVID-19.
Mae’n werth crybwyll eto, wrth fynd heibio, ein hymrwymiad i ymateb i ddigwyddiadau. Er y bu gwariant sylweddol ar nifer o ymatebion i ddigwyddiadau, nid yw’r gwariant hwn wedi cael ei gofnodi yn y Datganiad o wariant net cynhwysfawr, er ei fod yn cael effaith ar ein llifoedd arian parod, gan ei fod wedi’i gynnwys mewn darpariaethau a godwyd yn flaenorol yn erbyn cost rheoli etifeddiaeth cloddio am lo yn y dyfodol. Gweler yr adran isod ar lif arian parod i gael rhagor o wybodaeth.
Y ffigur dibrisiant, ailbrisio a thaliadau amhariad yw £9.4 miliwn eleni. Roedd y taliad yn 2019-20, sef £15.0 miliwn, yn anarferol o uchel o ganlyniad i gwblhau dau gynllun mawr a amharwyd yn syth i werth llyfr net o ddim yn unol â’n polisi cyfrifyddu. Bydd buddsoddiad cyfalaf sylweddol yn ystod y ddwy flynedd yn lleihau costau cynnal a chadw a gweithredu cynlluniau yn y dyfodol.
Datganiad o’r sefyllfa ariannol
Roedd y rhwymedigaethau net, sef £2,519.9 miliwn, wedi cynyddu £216.9 miliwn o gymharu â ffigur 2019-20, sef £2,303.0 miliwn. Dyma oedd y ffactorau allweddol:
Cynyddodd darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol £223.0 miliwn o ganlyniad i’r adolygiad o ddarpariaethau a amlinellir uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 i’r cyfrifon.
Mae’r cynnydd £3.9 miliwn mewn balansau eiddo, peiriannau ac offer i £13.0 miliwn wedi’i sbarduno’n bennaf gan brynu tir ar gyfer cynlluniau dŵr mwynglawdd (£2.4 miliwn) a gwariant parhaus ar gynlluniau o fewn ein balans “asedau sy’n cael eu hadeiladu” (£1.1 filiwn), yn ogystal â gwariant o £0.6 miliwn i adnewyddu adeiladau’r Brif Swyddfa.
Mae asedau anniriaethol wedi cynyddu ychydig gan £0.3 miliwn, sy’n adlewyrchu buddsoddiad parhaus yn ein technoleg gwybodaeth a’n systemau.
Arweiniodd pwyslais parhaus ar waredu eiddo dros ben at ostyngiad £0.4 miliwn yng ngwerth cyfunol adeiladau a ddaliwyd i’w buddsoddi a’r rhai hynny a ddaliwyd i’w gwerthu ar ôl gwerthu tir dros ben yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Er bod ein balans symiau derbyniadwy sylfaenol wedi aros yn gymharol gyson o flwyddyn i flwyddyn, mae’r balans cario wedi codi £0.4 miliwn, gan gynnwys dileu darpariaethau penodol yn erbyn drwgddyledion (‘colledion credyd disgwyliedig’) pan oedd gwell dealltwriaeth o’r ansicrwydd economaidd llai a oedd yn gysylltiedig â’r pandemig COVID-19 i’n cwsmeriaid.
Y ffigur arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod yw £10.8 miliwn (2019-20: £5.1 miliwn): gweler yr adran isod ar lif arian parod i gael manylion symudiadau.
Mae masnach a symiau taladwy eraill wedi gweld cynnydd sylweddol o £3.8 miliwn, a sbardunwyd yn bennaf gan ddau beth: cynnydd mewn croniadau o £4.8 miliwn ar gyfer gwariant diogelwch cyhoeddus a gwariant cyfalaf ar gynlluniau dŵr mwynglawdd, wedi’i wrthbwyso gan ostyngiad £1.0 filiwn yn y balansau sicrhad a gariwyd i ryddhau rhwymedigaethau yn ymwneud â hawliadau gan y diwydiant.
Llif arian parod
Bu cynnydd net o £5.7 miliwn mewn arian parod yn ystod y flwyddyn. Rhannau cyfansawdd y symudiad hwn oedd:
Derbyn £44.1 miliwn o gymorth grant gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) (2019-20: £34.8 miliwn). Y cynnydd, sef y symudiad mawr yn ein balans arian parod o flwyddyn i flwyddyn, yw’r swm a dynnwyd i lawr i dalu am gyfalaf gweithio yn ymwneud â dau brif faes: unioni digwyddiadau diogelwch cyhoeddus a’n rhaglenni cyfalaf, yn unol â’r sylwadau ar groniadau uchod.
All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu o £27.9 miliwn (2019-20: £25.1 miliwn). Rydym wedi gwario mwy ar ein gweithrediadau eleni, yn enwedig yr ymateb brys yn Sgiwen yn ne Cymru, ond hefyd mewn digwyddiadau yn yr Alban a De Swydd Efrog ac ar setlo ein hymrwymiad etifeddol ym Mhwll Glo Clipstone.
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi o £10.5 miliwn (2019-20: £10.6 miliwn). Mae hyn yn ymwneud â phrynu eiddo, peiriannau ac offer yn rhan o’n rhaglen barhaus i ddatblygu ac adeiladu cynlluniau trin dŵr mwynglawdd a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, a’r buddsoddiad parhaus yn ein technoleg gwybodaeth a’n systemau. Mae’r buddsoddiad uwch wedi’i wrthbwyso’n rhannol gan £0.9 miliwn o dderbyniadau (2018-19: £1.1 filiwn) o werthu adeiladau a oedd ym mherchenogaeth yr Awdurdod Glo.
Ar 31 Mawrth 2021, roeddem yn dal £10.8 miliwn o arian parod (2019: £5.1 miliwn). Mae hyn yn cynnwys £2.2 miliwn (2019: £2.9 miliwn) o gronfeydd wedi’u clustnodi mewn perthynas â sicrhad a alwyd i mewn o weithredwyr mwyngloddio sydd wedi cael eu diddymu. Defnyddir y symudiad mewn sicrhad a alwyd i mewn i ryddhau’r rhwymedigaethau hawliadau diwydiant hyn yn rhan o’n gweithgareddau gweithredu.
Busnes gweithredol
I’r graddau nad ydynt yn cael eu bodloni o’n ffynonellau incwm eraill, gellir bodloni ein rhwymedigaethau dim ond trwy grantiau neu gymorth grant yn y dyfodol gan ein hadran noddi, sef BEIS. Y rheswm am hyn yw, o dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, ni chaiff y cyfryw grantiau gael eu rhoi cyn i’r angen amdanynt godi.
Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: “Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, yn talu i’r Awdurdod Glo y cyfryw swm ag y mae ef neu hi yn penderfynu ei fod yn ofynnol i’r Awdurdod Glo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”
Ar y sail honno, mae’r bwrdd yn disgwyl yn rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid fel y gallwn fodloni ein rhwymedigaethau. Felly, rydym wedi paratoi ein cyfrifon ar sail busnes gweithredol.
Ein pobl
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd, yn heriol ac, ar adegau, yn dorcalonnus i bawb. Mae ein pwyslais ar les wedi caniatáu i gydweithwyr gydbwyso cyflawni eu dyletswyddau â gofalu am eu hanwyliaid a, thrwy flaenoriaethu gwaith, rydym wedi gwarchod y gwasanaethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau, iechyd a lles ein cwsmeriaid.
Mae ymroddiad ein pobl wedi bod yn amlwg ar hyd y flwyddyn. Mae llawer o’n gwaith ymateb i ddigwyddiadau 24/7 yn gofyn i ni fod yn bresennol mewn cymunedau a chynorthwyo pobl wyneb yn wyneb, ac mae ymrwymiad ein staff wedi galluogi hyn i ddigwydd yn ddiogel – ac wedi caniatáu i ni ddarparu cymorth ychwanegol i’r rhai hynny y bu angen iddynt adael eu cartref neu ei werthu i ni yn ystod y pandemig.
Adasom ein ffyrdd o weithio’n gyflym fel y gallai’r rhan fwyaf o bobl weithio gartref ac y gallai’r rhai a oedd yn gweithio mewn cymunedau wneud hynny’n hyderus mewn ffordd ddiogel o ran COVID-19. Cydnabuom hefyd nad yw pawb yn teimlo’n ddiogel yn gweithio gartref nac yn gallu gwneud hynny, felly crëwyd amgylchedd gweithio diogel o ran COVID-19 yn y swyddfa i’r rhai yr oedd yn well ganddynt weithio yno. Blaenoriaethom ymgysylltu â staff i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn deall ein cyfeiriad a’n blaenoriaethau, ac anogom gydweithwyr i rannu pethau a oedd yn eu helpu i ymdopi ac yn eu gwneud yn hapus ochr yn ochr â chydweithio i gyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid.
Yn dilyn uwchraddio TG yn 2019-20, roedd gennym liniaduron ac offer TG dros ben a fyddai wedi cael eu hailgylchu neu eu gwaredu ar ôl i’r holl wybodaeth gael ei dileu’n ddiogel. Rhoddom y rhan fwyaf o’r rhain i ymgyrch elusennol leol, #makingITpossible, sy’n helpu i fynd i’r afael â’r rhaniad digidol trwy ddosbarthu offer TG wedi’u hadnewyddu i blant a phobl ifanc yn ardal Mansfield ac Ashfield. Gwnaethom hefyd fenthyca 20 o’r gliniaduron hyn i gydweithwyr yr oedd eu hoffer TG gartref yn annigonol i gefnogi ymrwymiadau addysgu gartref.
Gwnaethom hefyd alluogi rhai aelodau staff i wirfoddoli ar gyfer y GIG / elusennau lleol i gefnogi eu cymunedau yn ystod y pandemig.
Rydym wedi dysgu llawer o weithio’n wahanol ac rydym bellach yn datblygu cynllun ar gyfer ein ‘trefn arferol newydd’ o weithio a fydd yn fwy hyblyg a chyfunol nag o’r blaen. Bydd hyn yn ein helpu i gyflogi mwy o bobl ar draws ardaloedd meysydd glo, a gobeithiwn y bydd yn caniatáu i ni ddenu talent fwy amrywiol a bod yn fwy cynrychioliadol o’r ystod o gymunedau a wasanaethwn.
Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn datblygu ein pobl ac wedi datblygu platfform ar-lein i gefnogi hyn, gan gynnwys pynciau fel iechyd a lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth. Lansiom raglen ‘ymgynefino’ ar-lein newydd i gynorthwyo aelodau staff newydd ac rydym wedi cael adborth gwych gan y rhai sydd wedi ymuno â ni.
Rydym wedi parhau i wneud cynnydd ar y camau gweithredu a amlygwyd yn arolwg pobl 2019, ond bu angen i ni flaenoriaethu rhai meysydd i gyflawni’r newidiadau brys a grybwyllwyd yn flaenorol. Mae ein hymrwymiad yn parhau a bydd mwy o waith yn cael ei wneud eleni, gan gynnwys datblygu ein cynllun busnes tymor hir nesaf i roi mwy o gyfeiriad corfforaethol a chyflwyno mwy o fframweithiau cymhwysedd technegol.
Gwnaethom gefnogi’r Wythnos Wrthfwlio ym mis Tachwedd 2020 ac rydym yn parhau i atgyfnerthu pwysigrwydd urddas a pharch yn y gwaith i bawb.
Mae ein Grŵp Ymgysylltu â Staff a’n nifer gynyddol o grwpiau a rhwydweithiau amrywiaeth, cynhwysiant a lles yn creu ystod o fannau diogel i bobl fynegi pryderon neu syniadau a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant wedi parhau. Bellach, mae gennym grŵp llywio amrywiaeth a chynhwysiant i gefnogi ein rhwydweithiau a sbarduno cynnydd o ran ein cynllun a’n blaenoriaethau. Rydym wedi cyflawni gwelliannau amlwg, fel dull newydd o recriwtio, polisïau mwy cynhwysol wrth iddynt gael eu hadolygu a rhannu safbwyntiau a myfyrdodau rheolaidd ar wrth-hiliaeth. Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau eraill fel HS2, y Swyddfa Eiddo Deallusol, Dŵr Bryste a chyrff cyhoeddus eraill trwy’r Gymdeithas Prif Weithredwyr i rannu’r hyn a ddysgwyd a cheisio arfer gorau. Yn ddiweddar, daethom yn aelod o Fenter Amrywiaeth Gynaliadwy IEMA ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill i sbarduno cynnydd ar amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig o ran hil, ar draws y sector amgylcheddol.
Dangosodd ein hadroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2019-20 fod ein bylchau cyflog cymedrig a chanolrifol rhwng y rhywiau wedi lleihau 1.94% a 5%, yn y drefn honno. Mae mwy o fenywod wedi ymuno â’r sefydliad ar raddau uwch ac mae mwy o fenywod yn cael eu dyrchafu trwy ein proses fewnol, sy’n awgrymu bod y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud ar recriwtio dienw a mentora, hyfforddi a datblygu arweinyddiaeth yn dechrau gweithio. Rydym yn gwybod bod y bwlch (cymedrig 19.97%, canolrifol 26.49%) yn rhy uchel o hyd a bod gennym lawer mwy i’w wneud.
Iechyd, diogelwch a lles
Rydym bob amser wedi rhoi iechyd, diogelwch a lles ein pobl, ein cwsmeriaid, ein partneriaid a’n cadwyn gyflenwi wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac nid yw hyn erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym wedi sôn mewn man arall yn yr adroddiad hwn am ein newid i weithio gartref a sut rydym yn cefnogi iechyd meddwl a lles ein pobl. Ategwyd hyn gan fwy o hyfforddiant ar gyfarpar sgrin arddangos a thrwy fynediad at weminarau cydnerthedd a lles, sesiynau hyfforddi grŵp a chwnsela preifat iddyn nhw a’u teuluoedd trwy ein rhaglen cymorth i gyflogeion. Chwaraeodd ein swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl rôl bwysig hefyd.
Yn fuan cyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, roeddem wedi dechrau amnewid y systemau gwresogi ac aerdymheru yn ein swyddfa ym Mansfield. Ailaseswyd ac addaswyd y prosiect yn gyflym i fanteisio i’r eithaf ar opsiynau gweithio hyblyg a chynnwys mesurau diogelwch COVID-19 ychwanegol.
Ar ôl y cyfnod clo cyntaf, pan fu’n rhaid i lawer o’n contractwyr roi staff ar ffyrlo, gweithiom gyda’n cadwyn gyflenwi i sicrhau bod pawb wedi cael eu hyfforddi ac yn barod i ddychwelyd i’r safle, a datblygom restr wirio COVID ar gyfer pob safle. Mae arsylwadau iechyd, diogelwch a lles wedi’u lleihau gan fod llai o bobl wedi bod ar y safle, ond rydym wedi parhau i gynnal ymchwiliadau ac archwiliadau allweddol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, ac rydym wedi adolygu ein proses adrodd am ddamweiniau a damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd i wella trefniadau uwchgyfeirio a dysgu.
Yn 2021-22, byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Iechyd a Diogelwch newydd (i ategu ein Cynllun Lles presennol) ac yn datblygu system newydd a gwell o adrodd ar ein data iechyd, diogelwch a lles a’i gyfathrebu.
Mesur | 2020-21 | 2019-20 |
---|---|---|
Arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – gweithredoedd anniogel (staff a chontractwyr) | 959 | 3,051 |
Arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – enghreifftiau o arfer da (staff a chontractwyr) | 320 | 324 |
Arolygiadau iechyd, diogelwch a lles (staff) | 140 | 412 |
Damweiniau – dim amser wedi’i golli (staff) | 6 | 5 |
Damweiniau – amser wedi’i golli (staff) | 0 | 0 |
Digwyddiadau – Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) | 0 | 2 |
Cynaliadwyedd a’r amgylchedd
Rydym wedi sefydlu’r sefyllfa sylfaenol ar gyfer ein hamcanion symlach o adnabod allyriadau ac rydym yn gweithio ar y rhai mwy cymhleth fel y gallwn gwblhau cynllun clir i ni gyflawni statws di-garbon net erbyn 2030.
Rydym wedi amlygu’r meysydd lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf a’r agweddau y mae angen i ni wneud mwy o ymchwil arnynt i wneud cynnydd arwyddocaol. Rydym yn ymsefydlu cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar wneud penderfyniadau ac yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd a Gwasanaethau Hafren Trent, ac ar draws ein cadwyn gyflenwi i ddysgu a rhannu arfer gorau mewn meysydd fel adeiladu, pwmpio a defnyddio cemegion a dŵr. Rydym yn gwybod bod angen i ni gynyddu faint o bŵer adnewyddadwy a gynhyrchwn yn sylweddol, a byddwn yn datblygu cynllun penodol ar gyfer hynny eleni.
Byddwn yn esblygu ein Cynllun Cynaliadwyedd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl a bywyd gwyllt o’n safleoedd. Eleni, rydym wedi cynnal asesiadau desg o’r fioamrywiaeth ym mhob un o’n safleoedd a bydd hyn yn cael ei brofi trwy werthusiadau ar y safle yn ystod 2021-22.
Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd o weithio’n wahanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i lywio ein dulliau yn y dyfodol. Mae gennym lawer mwy i’w wneud, ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni cynnydd go iawn yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Sbardunwyr cynaliadwyedd | 2020-21 | 2019-20 |
---|---|---|
Allyriadau carbon o weithrediadau dŵr mwynglawdd CO2e (tunelli) | 2,858 | 3,753 |
Allyriadau carbon o’r brif swyddfa CO2e (tunelli) | 97 | 216 |
Dwysedd carbon – teithio busnes (tCO2e/100,000km) | 17.2 | 15.8 |
Defnydd o ddŵr m3 | 478 | 1,145 |
Mae ein data’n dangos ein bod wedi parhau i wneud cynnydd yn unol â’n sbardunwyr cynaliadwyedd, er bod y pandemig COVID-19 wedi newid y ffordd rydym yn gwneud ein gwaith hanfodol. Mae gweithio gartref wedi lleihau allyriadau carbon a defnydd o ddŵr yn ein prif swyddfa yn sylweddol. Fodd bynnag, mae ein hallyriadau carbon trwy deithiau busnes wedi cynyddu ychydig oherwydd y bu angen gwneud mwy o deithiau mewn ceir, sy’n ddwysach o ran carbon, na theithio ar drenau yn ystod y pandemig. Trwy ein Cynllun Cynaliadwyedd newydd, byddwn yn canolbwyntio ein sbardunwyr a’n hadroddiadau cynaliadwyedd ar fesur cynnydd yn erbyn ein targedau newydd.
Astudiaeth achos: Ein gwaith yn Lloegr
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo bywyd gwyllt ffyniannus a natur gydnerth ar draws ein safleoedd ac i ddarparu mynediad diogel at ein mannau gwyrdd i bobl leol, pryd bynnag y gallwn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid trwy’r Rhwydwaith Adfer Natur yn Lloegr i wella ein dealltwriaeth o’r cynefinoedd ar draws ein hystad a’u gwella.
Gan weithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Hull, rydym wedi edrych ar yr adar amrywiol sy’n ymweld â dau o’n safleoedd trin dŵr mwynglawdd. Dangosodd y gwaith hwn fod y cynlluniau trin dŵr mwynglawdd hyn yn creu brithwaith pwysig o gynefinoedd, gan gynnwys glaswelltiroedd, gwelyau cyrs a gwern, dŵr agored, coetir a phrysgwydd. Yn ystod yr arolygon hyn, canfuwyd deuddeg rhywogaeth sy’n ymddangos ar restr Ymddiriedolaeth Adareg Prydain o Adar o Bryder Cadwraeth. Mae hyn yn dangos y gallai ein safleoedd trin dŵr mwynglawdd gynnig llawer mwy o fuddion amgylcheddol na dŵr glân yn unig.
Mae’r hyn a ddysgwyd o’r ymarfer hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws ein rhwydwaith o safleoedd, nid yn unig yn Lloegr ond ledled gweddill Prydain Fawr hefyd. Mae ein hystad yn cynnwys 290 o hectarau o safleoedd trin dŵr mwynglawdd a 690 o hectarau o domenni glo segur. Bydd gwybodaeth fanwl am gynefinoedd a rhywogaethau hefyd yn helpu i ddangos ble y gallwn wneud newidiadau i wella bioamrywiaeth ymhellach, fel newid gweithgareddau torri gwair i annog mwy o flodau gwyllt a darparu mwy o ffynonellau bwyd ar gyfer gwenyn, ieir bach yr haf a chwilod. Bydd y ddealltwriaeth ddyfnach hon hefyd yn ein helpu i ddylunio cynlluniau’n well yn y dyfodol i flaenoriaethu mynediad cymunedol a natur ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy a diogelu dŵr yfed, afonydd ac amgylcheddau morol.
Ein blwyddyn yn Lloegr
7,762 o archwiliadau mynedfa pwll glo wedi’u cynnal
324 o ymchwiliadau i adroddiadau ynghylch perygl arwyneb
126,081 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u darparu
5,525 o ymgynghoriadau cynllunio wedi derbyn ymateb
71 biliwn o litrau o ddŵr wedi’u trin
3,200 o dunelli o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
Mae’r adroddiad hwn ar berfformiad wedi cael ei gymeradwyo gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu.
Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, 1 Gorffennaf 2021