Papur polisi

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020: datganiad polisi

Diweddarwyd 19 Ionawr 2024

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Cafodd Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr UE [footnote 1] eu sefydlu i ddarparu dull integredig ac unffurf o reoli rheolaethau swyddogol, gan ymestyn i bob agwedd ar y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth gan gynnwys diogelwch bwyd a phorthiant, iechyd a lles anifeiliaid a iechyd planhigion, ac anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU.

Mae y rhan fwyaf o’r Rheoliadau a gymhwyswyd o fewn yr Undeb Ewropeaidd o 14 Rhagfyr 2019 ac wedi eu cadw yng nghyfraith y DU o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Erbyn hyn, mae cynhyrchion diogelu planhigion (CDPau) yn dod o dan y dull newydd hwn. Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 (Rheoliadau 2020) yn gymwys i Brydain Fawr gyfan ac yn ategu’r rheoliadau presennol sy’n rheoli gwerthu a defnyddio CDPau [footnote 2]. Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi rhoi ei deddfwriaeth ei hun ar waith i weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol ar gyfer CDPau yng Ngogledd Iwerddon.

1. Rheolau Mwy Deallus ar gyfer Bwyd Mwy Diogel

Mae’r OCR yn rhan o becyn ehangach o fesurau o’r enw Rheolau Mwy Deallus ar gyfer Bwyd Mwy Diogel (SRSF). Cafodd SRSF ei sefydlu i foderneiddio, symleiddio a chryfhau cadwyn bwyd-amaeth Ewrop. Mae cryfhau safonau iechyd a diogelwch yn hanfodol er mwyn sicrhau hyder y defnyddwyr a chynaliadwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

2. Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020, neu Reoliadau 2020, ar waith i alluogi’r awdurdodau rheoleiddio i ategu gofynion ynghylch cydymffurfio ac i orfodi gofynion cyfreithiol sy’n gymwys i’r broses o osod PPPs ar y farchnad a’u defnyddio drwy’r gadwyn gyflenwi i gyd.

Mae Rheoliadau 2020 yn gymwys i PPPs a’u cydrannau, a all gynnwys sylweddau gweithredol, diogelyddion, synergyddion neu gyd-fformiwlantau a allai fod yn gydran o PPP. Maen nhw hefyd yn gymwys i adjiwfantau [footnote 3].

O dan Reoliadau 2020, yr awdurdodau cymwys yw Gweinidogion Cymru yn achos Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn achos Lloegr a Gweinidogion yr Alban yn achos yr Alban. Y prif awdurdod rheoleiddio ar gyfer yr awdurdodau cymwys ar hyn o bryd yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

3. Diben Rheoliadau 2020

Mae PPPs yn chwarae rhan hanfodol i ategu iechyd planhigion a’r broses o gynhyrchu cnydau. Mae cyflenwi a defnyddio PPPs yn ddiogel yn gwarchod ein cnydau a’n tirweddau naturiol rhag rhywogaethau brodorol a rhywogaethau anfrodorol ymledol, yn ategu’r broses o gynhyrchu bwyd domestig, ac yn helpu i gynnal ein hardaloedd hamdden, trafnidiaeth ac amwynder.

Mae Rheoliadau 2020 yn ategu Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011 a Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012.

Bydd rhoi Rheoliadau 2020 ar waith yn dod â sawl mantais i Brydain Fawr. Byddant yn galluogi Llywodraeth Cymru, Defra a Llywodraeth yr Alban, gan weithio gyda’r awdurdodau rheoleiddio, i ddeall sut mae PPPs yn cael eu gwerthu a’u defnyddio ym Mhrydain Fawr, i helpu busnesau a sefydliadau i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol ac i sicrhau bod PPPs yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy ac yn unol â’r amodau defnyddio.

4. Cynhyrchion Diogelu Planhigion

Mae PPPs yn cael eu defnyddio i reoli plâu, chwyn a chlefydau. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • pryfladdwyr
  • ffyngladdwyr
  • chwynladdwyr
  • molysgladdwyr
  • rheoleiddwyr twf planhigion

Gall PPPs fodoli ar lawer ffurf, megis gronynnau solet, powdrau neu hylifau. Mae PPPs yn cynnwys un neu fwy o sylweddau gweithredol sy’n gallu cael eu cyd-fformiwleiddio â diogelyddion, synergyddion neu gyd-fformiwlantau. Gall PPPs gael eu defnyddio gydag adjiwfantau. Mae adjiwfant yn sylwedd sy’n gwella effeithiolrwydd PPP neu sydd wedi’i fwriadu i’w wella.

5. Pwy sydd angen cydymffurfio â Rheoliadau 2020

  1. Mae busnesau sy’n cynhyrchu, gweithgynhyrchu, prosesu, mewnforio, storio, dosbarthu a gwerthu PPPs, eu cydrannau a’u hadjiwfantau i’w defnyddio gyda PPPs yn dod o dan Reoliadau 2020.

  2. Mae unrhyw berson neu fusnes sy’n defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau mewn swyddogaeth broffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) hefyd yn dod o dan Reoliadau 2020, ac felly maen nhw o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru.

  3. Mae gwerthwyr PPP amatur hefyd yn rhwym wrth Reoliadau 2020 ac mae angen iddynt gofrestru erbyn 22 Mehefin 2022. Ni fwriedir PPP amatur at ddefnydd proffesiynol ac nid oes angen ardystiad proffesiynol ar ddefnyddwyr amatur i’w defnyddio.

“Defnyddiwr proffesiynol” yw unrhyw berson neu fusnes sy’n defnyddio PPPs yn ystod eu gweithgareddau gwaith, a hynny yn y sector ffermio ac mewn sectorau eraill.

Er enghraifft, byddech yn cael eich ystyried yn ddefnyddiwr proffesiynol os ydych yn gweithio mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth, amwynder neu goedwigaeth ym Mhrydain Fawr ac yn gwneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol:

  • defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau fel rhan o’ch gwaith, gan gynnwys os cewch eich cyflogi i chwistrellu PPPs ar dir rhywun arall

  • trefnu bod PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau yn cael eu defnyddio gan drydydd parti fel rhan o’ch gwaith mewn amaethyddiaeth neu arddwriaeth, amwynder neu goedwigaeth

  • defnyddio PPPs wrth weithio mewn amaethyddiaeth neu arddwriaeth, er enghraifft, wrth ffermio neu gynnal cnydau âr, cnydau porthiant neu dda byw, neu wrth drin hadau

Defnyddwyr amwynder yw’r rhai sy’n gwneud gwaith proffesiynol ym maes garddio, tirlunio neu gynnal a chadw tiroedd neu rôl arall mewn lleoliad amwynder megis:

  • ysgolion
  • parciau
  • meysydd chwaraeon, gan gynnwys cyrsiau golff
  • eiddo cyhoeddus neu breifat
  • seilwaith, megis ffyrdd, rheilffyrdd a dyfrffyrdd
  • cyfleustodau, megis trafnidiaeth a chwmnïau dŵr

Defnyddwyr coedwigaeth yw’r rhai sy’n gweithio mewn coedwigoedd neu goetiroedd, megis:

  • rheoli coed
  • plannu coed
  • defnyddio coedwigoedd neu goetiroedd.

Pan fo busnesau’n gwerthu PPPs proffesiynol ar wahân i’w defnydd o PPPs, fe ddylai’r busnesau hyn gofrestru fel busnes sy’n defnyddio PPPs ac fel busnes sy’n gwerthu PPPs. Mae’r ffurflenni’n wahanol.

Does dim angen ichi gofrestru os ydych chi’n defnyddio PPPs mewn swyddogaeth nad yw’n broffesiynol yn unig, megis yn eich gardd.

6. Sut i gydymffurfio â Rheoliadau 2020

Mae’n ofynnol i fusnesau ac eraill sy’n dod o dan Reoliadau 2020 roi enw, gweithgareddau a lleoliad mangre eu sefydliad i’r awdurdod cymwys perthnasol (gweler isod i gael yr amserau).

Yr awdurdodau cymwys yw Gweinidogion Cymru yn achos Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn achos Lloegr a Gweinidogion yr Alban yn achos yr Alban. Cytunwyd y bydd Defra yn casglu gwybodaeth ar ran Llywodraethau Cymru a’r Alban.

Rhaid i ddefnyddwyr PPP proffesiynol gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol erbyn 22 Mehefin 2022.

Rhaid i fewnforwyr, gweithgynhyrchwyr, proseswyr, dosbarthwyr, neu werthwyr PPPs, adjiwfantau neu gynhwysion PPPs at ddibenion proffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) gofrestru hefyd ond defnyddio ffurflen wahanol.

Rhaid i werthwyr PPP amatur ym Mhrydain Fawr gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol. Os yw eich busnes yn gwerthu cynnyrch amddiffyn planhigion proffesiynol ac amatur, dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru ar gyfer gwerthwyr PPP proffesiynol.

Os byddwch yn dechrau defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau am y tro cyntaf ar ôl 22 Mehefin 2022, neu’n dechrau gwerthu PPPs amatur, rhaid ichi gofrestru o fewn 3 mis ar ôl yr amser y byddwch yn dechrau.

Does dim angen i ddefnyddwyr a gwerthwyr yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw gofrestru gyda’r ffurflenni hyn. Os ydych chi wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen ichi gofrestru gyda Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

Terfynau amser statudol yw’r rhain ac mae methu cydymffurfio â’r gofynion hyn heb esgus rhesymol yn drosedd. Os byddwch yn methu unrhyw un o’r terfynau amser hyn, mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ffurflen i mewn cyn gynted â phosibl.

7. PPPs a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr i’w hallforio yn unig

Mae Erthygl 28 o Reoliad 1107/2009 yn dweud na chaniateir gosod PPP ar y farchnad na’i ddefnyddio ym Mhrydain Fawr oni bai ei fod wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod cymwys perthnasol (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)).

Nid oes angen awdurdodiad ar gyfer PPPs sy’n cael eu cynhyrchu, eu storio neu eu symud ym Mhrydain Fawr ond y bwriedir eu defnyddio y tu allan i Brydain Fawr yn unig.

Mae Rheoliadau 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gofrestru gyda’r awdurdod cymwys (Defra) ac yn cynnwys system o reolaethau swyddogol sydd wedi’u seilio ar risg.

Mae’n ofynnol o dan y gyfraith i fusnesau sy’n cynhyrchu, yn storio neu’n symud PPPs ym Mhrydain Fawr i’w hallforio yn unig gofrestru i gydymffurfio â Rheoliadau 2020 ac fe allan nhw gael ei harchwilio gan yr awdurdod perthnasol.

8. Ymweliadau archwilio

Bydd ymweliadau archwilio’n digwydd o dan y pwerau a roddir gan Reoliadau 2020 i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r rheoliadau presennol ynghylch plaladdwyr, gan gynnwys Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011 a Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012. Bydd yn ofynnol i fusnesau ac eraill sy’n dod o dan Reoliadau 2020 gydweithredu â’r archwiliadau hyn. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fydd yn cynnal yr ymweliadau.

Diben archwiliad yw gwirio pa mor dda rydych chi’n cydymffurfio â’ch dyletswyddau o dan y gyfraith ynghylch cynhyrchion diogelu planhigion. Nid cynhyrchion wedi’u fformiwleiddio yn unig sy’n dod o dan y rheolaethau hyn ond mae’r rheolaethau yn cynnwys sylweddau gweithredol a diogelyddion, synergyddion, cyd-fformiwlantau ac adjiwfantau hefyd.

Mae archwiliadau wedi bod yn cael eu cynnal fel rhan o Reoliadau 2020 ers mis Rhagfyr 2021.

Caiff yr HSE gyrraedd i gynnal archwiliad heb rybudd ac fe gân nhw fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio un sy’n cael ei defnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat) os oes ganddyn nhw reswm dros gredu bod angen gorfodi’r rheoliadau perthnasol. Nid yw hyn yn anarferol ac mae’r gyfraith yn caniatáu ymweliad ar unrhyw adeg resymol. Gwaith yr HSE yw cadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn y gwaith, gwarchod defnyddwyr a diogelu’r amgylchedd.

I’ch helpu i baratoi ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd yn ystod archwiliad, mae’r HSE wedi datblygu’r canllawiau hyn.

9. Ymagwedd ragweithiol at ymweliadau archwilio, wedi’i seilio ar risg

Bydd busnesau ac eraill sy’n dod o dan Reoliadau 2020 yn cael eu dewis i’w harchwilio ar sail proffil risg eu sefydliad. Yr enw ar hyn yw ymagwedd sydd wedi’i seilio ar risg. Mae mabwysiadu ymagwedd sydd wedi’i seilio ar risg yn golygu y bydd ffactorau sy’n cyfrannu at y risgiau sy’n gysylltiedig â PPPs ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi yn cael eu hystyried wrth i’r dull o gynnal ymweliadau archwilio gael ei gynllunio. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar natur a graddfa busnesau, faint o PPPs sy’n cael eu defnyddio, cofnodion cydymffurfiaeth y gorffennol, y gweithgareddau sydd o dan eu rheolaeth a chanlyniadau archwiliadau blaenorol.

Mae’r HSE wedi datblygu’r canllawiau hyn ynghylch archwiliadau.

10. Data

Mae Defra yn casglu enw eich sefydliad neu’ch busnes, cyfeiriadau sy’n ymwneud â gwerthu neu ddefnyddio PPPs, eich rhif ffôn, cyfeiriad e-bost y sefydliad a data ar sut rydych chi’n gwerthu PPPs ac unrhyw adjiwfantau neu’n gweithio gyda nhw.

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei throsglwyddo i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban os ydych chi’n gweithredu yn y mannau hyn. Defnyddir yr wybodaeth i orfodi Rheoliadau 2020 a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol, gan gynnwys archwilio rhai busnesau a sefydliadau. Os hoffech wybod mwy am sut y byddwn yn defnyddio’r data hwn, darllenwch hysbysiad preifatrwydd GDPR Defra.

11. Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am y pecyn Rheolau Doethach ar gyfer Bwyd Mwy Diogel, mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi i randdeiliaid ac yn y cyfamser, gellir cyflwyno cwestiynau i [email protected].