Daeth rheolau'r Bwrdd Parôl 2019
Cyflwynwyd Rheolau'r Bwrdd Parôl 2019 ar 22 Gorffennaf 2019 ac maent yn berthnasol i bob achos parôl a gyfeiriwyd at y Bwrdd Parôl ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Overview
Daeth rheolau’r Bwrdd Parôl 2019 i rym ar 22 Gorffennaf 2019. Gosodwyd y rheolau newydd hyn gerbron y senedd ar 24 Mehefin 2019 a maent yn disodli rheolau’r Bwrdd Parôl 2016.
Mae’r rheolau newydd yn perthyn i bob adolygiad parôl a atgyfeiriwyd i’r Bwrdd Parôl gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar neu ar ôl 22 Gorffennaf 2019.
Mae rheolau’r Bwrdd Parôl 2016 yn dal i berthyn ar gyfer adolygiadau parôl a atgyfeiriwyd cyn 22 Gorffennaf 2019.
Disgrifir rhai o’r diweddariadau mwy arwyddocaol i reolau’r Bwrdd Parôl isod:
Terfynu trwydded IPP
Mae gan y Bwrdd Parôl broses newydda gyflwynir yn rheol 31 rheolau’r Bwrdd Parôla gyflwynir yn rheol 31 rheolau’r Bwrdd Parôli ddelio â cheisiadau gan bobl sydd am derfynu eu trwyddedau IPP, yn dilyn cyfnod o ddeng mlynedd yn y gymuned.
Gall carcharorion wneud cais naill ai’n uniongyrhol i’r Bwrdd Parôl, neu drwy’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, heb ystyried unrhyw ad-alwad. Wrth wrando ar y cais, gall y Bwrdd Parôl naill ai derfynu’r drwydded, ei ddiwygio, neu wrthod gwneud y naill neu’r llall.
Pwerau newydd i ryddhau unrhyw garcharor ar y papurau
Mae Rheolau 2019 yn perthyn i bob math o achos, sy’n golygu bod gan y Bwrdd Parôl erbyn hyn y pŵer i ryddhau unrhyw garcharor ar y papurau, gan gynnwys y rhai sy’n gwneud dedfrydau am oes.
Nid oedd rhyddhau carcharorion a ddedfrydwyd am oes ar y papurau yn opsiwn o dan Reolau 2016.
Erbyn hyn gall y Bwrdd Parôl:
- rhyddhau carcharorion a ddedfrydwyd am oes sydd wedi’u had-alw ar y papurau, os yw’r achos yn haeddu penderfyniad o’r fath;
- cyfarwyddo rhyddhad cychwynnol carcharor a ddedfrydwyd am oes dim ond ar ôl gwrandawiad llafar; ac
- argymell bod carcharor a ddedfrydwyd am oes yn symud i safle agored heb angen cael cymeradwyaeth Cadeirydd y Bwrdd Parôl.
Cyfarwyddiadau trydydd parti
Mae Rheol 6 Rheolau’r Bwrdd Parôl 2019 yn datgan y gall y Bwrdd Parôl erbyn hyn wneud cyfarwyddiadau’n uniongyrchol i drydydd partïon ac y gall y trydydd partïon hynny ymgysylltu’n uniongyrchol gyda’r Bwrdd Parôl ynghylch y cyfarwyddiadau hynny.
Rhagwelir y caiff y cyfarwyddiadau trydydd parti hyn eu gwneud i’r heddlu, CPS, ac awdurdodau lleol, ymhlith eraill.
Gobeithir y bydd hyn yn cyflymu’r broses pan fydd trydydd partïon yn dod yn rhan o achosion y Bwrdd Parôl ac yn ein galluogi i nodi materion ynghylch cydymffurfedd â chyfarwyddyd yn gynt o lawer.
Penodi cynrychiolwyr
Mae Rheol 10 rheolau’r Bwrdd Parôl 2019 yn datgan y gall panel y Bwrdd Parôl erbyn hyn benodi cynrychiolydd dros garcharorion sydd heb y gallu meddyliol i gymryd rhan yn yr achos neu wneud penderfyniadau ynghylch cyfarwyddo cynrychiolwyr cyfreithiol.
Bydd angen i’r panel benderfynu beth sydd er lles gorau’r carcharor er mwyn sicrhau gwrandawiad teg ac erbyn hyn gall benodi cynrychiolydd cyfreithiol neu un arall i fodloni’r gofyniad hwnnw. Mae hyn yn cynnwys lle mae’r panel yn credu bod angen cyfaill ymgyfreitha, yn ogystal â chynrychiolydd cyfreithiol. O’r blaen, gellid penodi cynrychiolydd â chydsyniad y carcharor yn unig.
Ceisiadau peidio â datgelu
Mae Rheol 17 y rheolau newydd yn ymestyn y ddarpariaeth peidio â datgelu ac yn galluogi trydydd partïon awdurdodedig i wneud ceisiadau peidio â datgelu’n uniongyrchol i’r Bwrdd Parôl. Rhagwelir y bydd ceisiadau peidio â datgelu trydydd parti yn cael eu cyflwyno gan yr heddlu, CPS,ac awdurdodau lleol yn bennaf, ond mewn rhai achosion prin efallai y bydd angen i’r gwasanaethau diogelwch wneud cais.
Rhaid i unrhyw drydydd parti gael ei awdurdodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn y gallant wneud cais. Mae’r rheol yn datgan bod rhaid gwneud unrhyw gais peidio â datgelu o leiaf 8 wythnos cyn gwrandawiad llafar oni bai fod rhesymau eithriadol dros wneud cais hwyr.
Hefyd gall y Bwrdd Parôl benodi eiriolydd arbennig lle gofynnir am guddio gwybodaeth rhag y carcharor a’u cynrychiolydd, a allai fod yn ofynnol mewn achosion prin lle mae ystyriaethau diogelwch cenedlaethol dan sylw.
Penderfyniad ar y papurau ar ôl i achos gael ei anfon i wrandawiad llafar
Mae Rheol 21 yn datgan lle mae achos wedi’i gyfarwyddo i wrandawiad llafar ac yna derbynnir tystiolaeth bellach a fyddai’n galluogi’r achos i gael ei benderfynu ar y papurau, erbyn hyn gall Cadeirydd y panel neu aelod dyletswydd, ar ôl clywed sylwadau gan y partïon, gyfarwyddo i’r mater gael ei orffen ar y papurau.
Crynodebau penderfyniadau
Ers 2018, trefnwyd bod crynodebau penderfyniadau’r Bwrdd Parôl ar gael i ddioddefwyr a’r cyhoedd ar gais.
Erbyn hyn mae prawf sengl ar gyfer cynhyrchu crynodeb, sy’n perthyn i ddioddefwyr ac unigolion eraill. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r Bwrdd ddarparu crynodeb ar gais, oni bai fod Cadeirydd y Bwrdd yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol pam na ddylid cynhyrchu un.
Hefyd mae cyfyngiad amser o chwe mis ar wneud cais am grynodeb yn dilyn y penderfyniad. Hefyd erbyn hyn mae’r Rheolau’n darparu am grynodeb o benderfyniadau ar geisiadau i derfynu trwyddedau IPP. Ni ddarperir unrhyw grynodebau ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau ailystyried, gan nad yw’r rhain yn benderfyniadau o sylwedd ar gyfer rhyddhau neu beidio â rhyddhau.
Mecanwaith ailystyried
Mae Rheol 28 yn cyflwyno mecanwaith ailystyried, lle gall y naill parti eu’r llall - y carcharor neu’r Ysgrifennydd Gwladol - wneud cais i’r Bwrdd Parôl i benderfyiad gael ei ailystyried.
Ni ellir gorchymyn ailystyried oherwydd bod rhywun yn anghytuno â’r penderfyniad yn unig: bydd angen gweld diffyg sylfaenol yn y penderfyniad, [a eglurir ar y dudalen ailystyried hon] (https://www.gov.uk/guidance/apply-for-a-parole-decision-to-be-reconsidered) ar wefan y Bwrdd Parôl.
Erbyn hyn gall dioddefwr troseddu neu aelod o’r cyhoedd wneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol i ymgeisio am ailystyried pederfyniad.
Ni fydd y pŵer i ailystyried achosion yn perthyn yn ôl-weithredol i benderfyniadau a wnaed cyn i Reolau 2019 ddod i rym.