Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr (CC11)
Darganfod a all elusen dalu ymddiriedolwyr a pha dreuliau y mae hawl gan ymddiriedolwyr eu cael.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Canllawiau i egluro’r gyfraith ac arfer da os yw byrddau ymddiriedolwyr elusen am wneud taliadau i un neu fwy o’r ymddiriedolwyr.
Mae’r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn ddi-dâl, ond gall pob ymddiriedolwr hawlio treuliau parod rhesymol.
Gall elusennau dalu rhai o’u hymddiriedolwyr (neu bobl a busnesau sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolwyr) am nwyddau neu wasanaethau. Ond gall ymddiriedolwr elusen gael ei dalu am wasanaethu fel ymddiriedolwr dim ond os yw:
- yn amlwg er lles yr elusen, a
- yn darparu mantais sylweddol a chlir dros yr holl opsiynau eraill
Mae unrhyw daliad arall, fel digolledu unigolion am golli enillion, angen awdurdod gan ddogfen lywodraethol yr elusen, y Comisiwn Elusennau neu’r llysoedd.
Dylai fod gan ymddiriedolwyr weithdrefnau ar waith i reoli gwrthdaro buddiannau ac adrodd ar daliadau ymddiriedolwyr yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2012Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Mawrth 2024 + show all updates
-
Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.
-
Guidance updated to reflect changes (introduced by the Charities Act 2022) that enable trustees to be paid in certain circumstances for providing goods to their charity using the statutory power.
-
First published.