Ffurflen UC50: Holiadur gallu i weithio ar gyfer Credyd Cynhwysol
Dylech ond llenwi'r holiadur gallu i weithio yma (UC50W) oes ydych wedi cael cais i wneud hyn gan nad yw hon yn ffurflen gais.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Dogfennau
Manylion
Darganfyddwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Defnyddio’r ffurflen hon
Dylech ond llenwi’r ffurflen hon os ydych wedi cael cais i wneud Asesiad Gallu i Weithio.
Gallwch unai argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â beiro neu gallwch:
- Arbed copi o’r ffurflen.
- Ei hagor yn Adobe Acrobat Reader fersiwn XI neu ddiweddarach.
- Llenwi hi i mewn ar y sgrin.
- Argraffu a’i llofnodi.
Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau yn yr amlen rhag-daliedig a ddaeth gyda’r ffurflen wreiddiol drwy’r post.
Os nad yw’r llythyr neu’r amlen a ddaeth gyda’r ffurflen gennych mwyach, gallwch ddarganfod a chysylltu â’ch darparwr asesiad iechyd. Bydd cyfeiriad dychwelyd y ffurflen yn cael ei roi i chi.
Ni fyddwch yn gallu cael atebion i unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych am eich budd-dal, ar gyfer hyn bydd angen i chi naill ai:
- mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes un gennych
- ffonio llinell gymorth Credyd Cynhywsol os nad oes gennych gyfrif ar-lein
Llinell gymorth Credyd Cynhywsol
Ffôn: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Fformatau eraill
Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn braille, print bras neu sain, ffoniwch Credyd Cynhwysol. Gallwch ddod o hyd i’r rhif ar frig unrhyw lythyrau rydym wedi’u hanfon atoch, neu dywedwch wrthym gan ddefnyddio’ch dyddlyfr ar-lein os oes gennych un
Os ydych yn cael problemau technegol
Cysylltwch â llinell gymorth ar-lein DWP os ydych yn cael problem i:
- lawrlwytho’r ffurflen
- symud o gwmpas y ffurflen
- argraffu’r ffurflen
Desg gymorth ar-lein DWP
E-bost E-bost [email protected]
Ffôn: 0800 169 0154
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a holl wyliau banc a chyhoeddus
Preswylwyr Gogledd Iwerddon
Peidiwch a defnyddio’r ffurflen hon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon ar nidirect
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Ionawr 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Medi 2024 + show all updates
-
Published an updated version of the Welsh UC50 capability for work questionnaire.
-
Removed the helpline number to the old health assessment provider and linked to a page that allows people to find and contact the new health assessment providers.
-
Published an updated version of the UC50 capability for work questionnaire.
-
Updated the Universal Credit capability for work questionnaire (UC50).
-
Published the December 2020 version of the form.
-
Added information about where to send the Universal Credit capability for work questionnaire (UC50 form) once completed.
-
First published.