Marchnad fewnol y DU: crynodeb gweithredol
Mae'r papur gwyn hwn yn nodi'r opsiynau ar gyfer diogelu llif nwyddau a gwasanaethau ym marchnad fewnol y DU.
Dogfennau
Manylion
Mae’r papur gwyn yn nodi opsiynau polisi i ddiogelu llif nwyddau a gwasanaethau ledled y DU ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio.
I sicrhau hyn, mae’r llywodraeth yn bwriadu ymgorffori dwy egwyddor yn y gyfraith:
- egwyddor cyd-gydnabod
- egwyddor peidio â gwahaniaethu
Mae cyd-gydnabod yn golygu bod y rheolau sy’n llywodraethu cynhyrchu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau mewn un rhan o’r DU yn cael eu cydnabod yn y rhannau eraill o’r DU, ac na ddylent fod yn rhwystr i lif nwyddau a gwasanaethau rhwng systemau rheoleiddio gwahanol.
Mae peidio â gwahaniaethu yn golygu nad yw’n bosibl i un gyfundrefn reoleiddio gyflwyno rheolau sy’n gwahaniaethu’n benodol yn erbyn nwyddau a gwasanaethau cyfundrefn reoleiddio arall.
Ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad
Ymgynghorwyd ar yr opsiynau a nodwyd yn y Papur Gwyn, a chyhoeddwyd ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar 9 Medi.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Medi 2020 + show all updates
-
Government response to associated consultation published.
-
First published.