Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: strategaeth werthuso
Diweddarwyd 16 Hydref 2024
Mae’r strategaeth hon yn rhoi manylion pellach am gynlluniau gwerthuso ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ochr yn ochr â’r wybodaeth ychwanegol wedi’i diweddaru sy’n cynnwys canllawiau cysylltiedig i bartneriaid lleol ar sut i gymryd rhan yn y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Caiff cymorth pellach i Awdurdodau Lleol Arweiniol (ALlAau) ei ddarparu drwy gyfres o weminarau yn ystod gwanwyn 2023, ac i bartneriaid cyflawni yng Ngogledd Iwerddon drwy grŵp partneriaeth Gogledd Iwerddon.
Cyflwyniad a chyd-destun
Diben Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o gonglfeini agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen bwysig o’i chymorth i leoedd ledled y DU. Mae darparu £2.6 biliwn o arian newydd i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025 gyda’r prif nod o feithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU. Wrth wraidd y nod hwn mae tair blaenoriaeth fuddsoddi, sef:
- cymunedau a lle: buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad i amwynderau, megis seilwaith cymunedau a mannau gwyrdd lleol, a dulliau arloesol o atal troseddu.
- cefnogi busnesau lleol: buddsoddi mewn rhaglenni cymorth i fusnesau ac entrepreneuriaeth, y sector manwerthu lleol, cyfleusterau lletygarwch a hamdden a thechnolegau carbon isel sy’n arbed ynni ac yn gwella cynhyrchiant, mewn cydweithrediad â’r sector preifat.
- pobl a sgiliau: buddsoddi mewn mesurau er mwyn galluogi oedolion i ymuno â’r farchnad lafur a chamu ymlaen ynddi, gan wella eu sgiliau craidd drwy gymorth ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant ac er mwyn goresgyn rhwystrau i gael gwaith.
Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi manylion pellach am y blaenoriaethau buddsoddi hyn a’u cysylltiadau ag amcanion y Papur Gwyn Ffyniant Bro.
Caiff ymyriadau’r Gronfa eu cynllunio a’u cyflawni gan awdurdodau lleol arweiniol (ALlAau); sy’n cynnwys pedwar grŵp rhanbarthol yng Nghymru, cynghorau ac awdurdodau maerol yn Lloegr a chynghorau a grŵp rhanbarthol yn yr Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) sy’n cyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – gan weithio gyda phartneriaid lleol gan gynnwys awdurdodau lleol (ALlau), y sector preifat a’r trydydd sector ac adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon – er mwyn rhoi ymyriadau ar waith sy’n adlewyrchu orau anghenion penodol economi a chymdeithas Gogledd Iwerddon.
Mae cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cynnwys rhaglenni wedi’u targedu ychwanegol:
- Lluosi, sef menter sgiliau tair blynedd gwerth hyd at £559m sy’n cwmpasu’r DU gyfan y bwriedir iddi godi lefel rhifedd gweithredol ymhlith oedolion ledled y DU, er mwyn gwella canlyniadau yn y farchnad lafur a chau bylchau o ran sgiliau. Caiff y gwerthusiad o raglen Lluosi ei gynnal gan yr Adran Addysg ar wahân i’r gwerthusiad ehangach o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gynhelir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Ceir manylion pellach am flaenoriaethau buddsoddi a model cyflawni rhaglen Lluosi ym mhrosbectws Lluosi. (PDF, 239 KB)
- Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig (REPF), sef cronfa gwerth £110m sy’n ychwanegol at Gronfa Ffyniant Gyffredin brif ffrwd y DU sy’n darparu cymorth i fusnesau gwledig er mwyn iddynt amrywio eu ffrydiau incwm ac atgyfnerthu economïau lleol, ochr yn ochr â chyllid ar gyfer seilwaith cymunedol a dinesig gwledig-benodol yn Lloegr. Mae’r REPF yn ychwanegiad gwledig at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae ei hamcanion yn dod o dan flaenoriaethau buddsoddi ‘cymunedau a lle’ a ‘cefnogi busnesau lleol’ Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Caiff y gwerthusiad o’r REPF ei ariannu a’i ddylunio gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fel ychwanegiad at ran astudiaethau achos seiliedig ar le y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU, yn ogystal â chael eu hystyried mewn gwaith gwerthuso ar lefel ymyriad a rhaglen, lle y bo’n briodol.
Diben y strategaeth hon
The UKSPF evaluation aims to:
- gwerthuso effaith a phroses, drwy ddeall beth mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi’i gyflawni; a yw wedi llwyddo i gyflawni ei hamcanion polisi ei hun ac wedi cyfrannu at nodau Ffyniant Bro ehangach; pa mor effeithiol y mae wedi cael ei rhoi ar waith mewn lleoedd (gan gynnwys a yw hyn yn amrywio o fewn gwledydd gwahanol a rhyngddynt) ac a yw wedi sicrhau gwerth am arian
- creu’r sail dystiolaeth ar ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran meithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU; gan feithrin dealltwriaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o sut y gellir mesur llwyddiant yn y meysydd hyn; a defnyddio’r wybodaeth hon i lywio’r gwaith o gynllunio rhaglenni twf lleol yn y dyfodol ar lefel rhaglen a lle
- sicrhau atebolrwydd bod yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi darparu cyllid yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl er mwyn helpu i gyflawni canlyniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae’r ddogfen hon yn adeiladu ar adran ‘gwerthuso’ gwybodaeth ychwanegol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban) a gwybodaeth ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon, gan roi manylion pellach am y canlynol:
- strategaeth werthuso: yr agweddau ar y rhaglen sy’n cael eu gwerthuso a pham; y dulliau a’r ffynonellau data a ddefnyddir i alluogi gwaith gwerthuso; sut y bydd gwahanol elfennau’r gwerthusiad yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn creu darlun cyfannol o’r ffordd y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei rhoi ar waith a’i heffaith ar lefel ymyriad, lle a rhaglen.
- cynnal y gwerthusiad: sut y caiff y strategaeth ei rhoi ar waith gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau; pa allbynnau a gaiff eu cynhyrchu; ym mha ffordd y dylai ALlAau ddisgwyl cefnogi gweithgarwch gwerthuso; pa amserlenni y bydd gwahanol elfennau’r gwerthusiad yn gweithredu yn unol â nhw.
Mae’r wybodaeth ychwanegol wedi’i diweddaru ochr yn ochr â chyhoeddi’r strategaeth hon er mwyn cynnwys canllawiau pellach i ALlAau ar sut y dylent ddisgwyl gael eu cynnwys ym mhob un o elfennau’r gwerthusiad.
Caiff y broses o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith ei chyflawni mewn ardaloedd datganoledig ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Am y rheswm hwn, efallai y bydd angen addasu’r dull gwerthuso er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cyd-destun a’r anghenion cyflawni penodol ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Crynodeb o’r dull gwerthuso
Gwerthuso Cronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU a Rhaglen Lluosi
Ochr yn ochr â phrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, cyhoeddodd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau bedair dewislen o Fathau o Ymyriadau, un i Gymru, un i Loegr, un i’r Alban ac un i Ogledd Iwerddon, o dan y tair blaenoriaeth fuddsoddi, gyda mathau ychwanegol o Ymyriadau Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Lle y bo’n bosibl, bydd y gweithgarwch gwerthuso a nodir yn y strategaeth hon yn gyson rhwng pob rhan o’r DU. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen mabwysiadu dull gweithredu gwahanol mewn gwledydd yn unol ag amrywiant cyfatebol ym model cyflawni ehangach Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (e.e. yn achos Lluosi).
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gronfa hyblyg sy’n galluogi lleoedd i lunio pecynnau o ymyriadau sy’n gweddu orau i’w hanghenion lleol penodol a’u rhoi ar waith, fel y nodir yn y cynlluniau buddsoddi a baratowyd gan bob ALlA (neu a ddatblygwyd gyda phartneriaid lleol yn achos Gogledd Iwerddon) ac a gymeradwywyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
Mae’r cwmpas eang hwn, ynghyd â chynllun gwerthuso aml-elfen ac aml-lefel yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (fel y’i nodir yn nes ymlaen yn yr adran hon) yn golygu nad yw’n ymarferol llunio un ddamcaniaeth newid ar lefel rhaglen. Yn hytrach, bydd ALlAau a phartneriaid lleol yn cydweithio â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i lunio damcaniaethau newid fesul ymyriad/fesul lle a fydd yn cyd-fynd â nodau penodol pob elfen o werthusiad.
Mae Ffigur 1 isod yn nodi model rhesymeg lefel uchel ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan gynnwys saith cenhadaeth y Papur Gwyn Ffyniant Bro y mae’n eu cefnogi.
Ffigur 1: model rhesymeg lefel uchel Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Ffigur 1 yn nodi’r model rhesymeg lefel uchel ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol, gan ddangos y broses gam wrth gam ar gyfer y ffordd y bydd mewnbynnau canolog a lleol y Gronfa yn helpu ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gynhyrchu allbynnau, canlyniadau ac, yn olaf, effeithiau.
Mae mewnbynnau yn cynnwys cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ei hun sy’n werth £2.6bn, ochr yn ochr ag arweiniad a chymorth i leoedd er mwyn sicrhau eu bod yn ei wario’n effeithiol. Mae mewnbynnau ar lefel lle yn cynnwys gallu lleol i gyflawni, ffrydiau cyllido eraill a chyd-destunau economaidd-gymdeithasol ehangach lleoedd.
Bydd y mewnbynnau hyn yn cefnogi nifer o’r 41+ o Fathau o Ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ledled y DU, gan arwain at allbynnau (e.e. lleoedd yn cael cyllid i gynnal prosiectau) ac yna effeithiau (e.e. mwy o falchder lleol mewn lle, lefelau uwch o ymgysylltu dinesig, mwy o foddhad â mynediad at wasanaethau a chyfleoedd). Yna, dengys y siart genadaethau’r Papur Gwyn Ffyniant Bro y bydd effeithiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn eu cefnogi – 1,2,6,7,8,9 ac 11.
Gan fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gronfa a luniwyd yn ganolog lle mae’r cyfrifoldeb am ei rhoi ar waith wedi’i ddirprwyo, cynhelir gweithgarwch gwerthuso ar draws tair haen ofodol, sef: ar lefel rhaglen (gan ganolbwyntio ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol), ar lefel lle (gan ganolbwyntio ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU o fewn ALlAau unigol ac yng Ngogledd Iwerddon yn gyffredinol) ac ar lefel ymyriad (gan ganolbwyntio ar Fathau penodol o Ymyriadau mewn amrywiaeth o leoedd).
Ar draws y tair haen hyn, bydd y gwerthusiad yn ceisio nodi’r canlynol:
- ar lefel rhaglen: beth yw effaith gyffredinol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o ran meithrin balchder mewn lle, gwella cyfleoedd bywyd a chenadaethau Ffyniant Bro eraill? Pa mor effeithiol y rhoddwyd y Gronfa ar waith yn gyffredinol?
- ar lefel lle: sut y cafodd y Gronfa ei rhoi ar waith mewn gwahanol fathau o le ac mewn gwahanol rannau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon? Ym mha ffordd y gwnaeth y Gronfa ryngweithio â chronfeydd twf lleol eraill ac ymyriadau lleol yn y lleoedd hyn? Pa mor effeithiol y rhoddwyd y Gronfa ar waith mewn lleoedd?
- ar lefel ymyriad: beth oedd effaith prosiectau penodol a Mathau penodol o Ymyriadau? Sut y gwnaeth hyn gymharu â’u nodau gwreiddiol? Pa mor effeithiol y rhoddwyd ymyriadau ar waith ac a wnaethant sicrhau gwerth am arian? A oedd hyn yn amrywio rhwng gwahanol Fathau o Ymyriadau?
Tabl 1: Elfennau’r gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ôl haen ofodol
Haen ofodol | Elfen | Nodau |
---|---|---|
Ymyriad | Gwerthusiad ar lefel ymyriad | Asesu effeithiau 10-15 o ymyriadau penodol ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a pha mor dda y cawsant eu rhoi ar waith ar lefel lle, gan ddefnyddio dull lled-arbrofol gyda grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd |
Ymyriad | Hapdreialon dan reolaeth | Meithrin dealltwriaeth ddyfnach o effeithiau’r is-set o ymyriadau sy’n briodol ar gyfer hapdreialon dan reolaeth, ar ben yr hyn a wnaed yn bosibl gan ddull gweithredu lled-arbrofol y gwerthusiadau ehangach o effeithiau ymyriadau |
Lle | Astudiaethau achos ar lefel lle | Meithrin dealltwriaeth fanwl o effeithiolrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn gwahanol fathau o le, gan ystyried eu nodweddion a’u heriau lleol unigryw a chanolbwyntio ar ryngweithiadau â rhanddeiliaid, prosesau gwneud penderfyniadau lleol, effeithlonrwydd prosesau a rhyngweithiadau â chronfeydd twf lleol eraill |
Rhaglen | Gwerthuso effeithiau ar lefel rhaglen | Asesu effaith a gwerth am arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol, i ddechrau drwy dreialu dull gweithredu atchwel er mwyn ceisio gwahanu effeithiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU oddi wrth gronfeydd twf lleol eraill, cyd-destunau economaidd sylfaenol lleoled a ffactorau dryslyd ehangach. |
Rhaglen | Gwerthuso Lluosi | Asesu effaith a gwerth am arian Lluosi, pa mor effeithiol y cafodd ei rhoi ar waith gan leoedd a Llywodraeth y DU a chreu’r sail dystiolaeth ar gyfer yr arferion gorau wrth gynnal ymyriadau lleol sy’n ymwneud â sgiliau oedolion |
Ar gyfer pob un o’r pum elfen o’r gwerthusiad yn Nhabl 1, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnal nifer o wahanol fathau o werthusiad:
- gwerthuso prosesau: deall sut y rhoddwyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith yn ymarferol gan leoedd a’r agweddau ar ei dyluniad sydd wedi cefnogi neu rwystro’r gwaith o’i rhoi ar waith.
- gwerthuso effeithiau: deall i ba raddau y mae canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n ymwneud â balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd wedi newid o ganlyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – yn achos y Gronfa yn gyffredinol, yn ogystal ag mewn perthynas â Mathau penodol o Ymyriadau a lleoedd penodol.
- gwerthuso gwerth am arian: deall, lle mae’r effaith wedi’i gwerthuso, sut mae gwerth yr effaith a sicrhawyd yn cymharu â’i chost yn ôl egwyddorion darbodusrwydd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Llyfr Gwyrdd.
Dengys Ffigur 2 rai o’r mathau o ddata a ffynonellau data a fydd yn bwydo i mewn i’r elfennau yn Nhabl 1 ac yna sut y bydd yr elfennau hyn, gyda’i gilydd, yn meithrin dealltwriaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o’r hyn sy’n gweithio ar lefel ymyriad, lle a rhaglen.
Ffigur 2: Crynodeb o fewnbynnau ac allbynnau gwerthuso
Dengys Ffigur 2 y gwahanol fathau o ddata a’r gwahanol ffynonellau data a fydd yn ategu’r gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, elfennau’r gwerthusiad a ddisgrifir yn Nhabl 1, a’r ffordd y mae pob un o’r elfennau hyn yn bwydo i mewn i nodau craidd y gwerthusiad o ddeall yr hyn sy’n gweithio o ran llunio ymyriadau, prosesau a darpariaeth leol a chynllunio rhaglenni.
Ymhlith y ffynonellau data a ddangosir yn y siart mae:
- data monitro o brosiectau
- data a gesglir yn uniongyrchol gan gontractwyr gwerthuso
- data gweinyddol
- gwybodaeth am fuddiolwyr Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
- data arolygon
Gwerthuso Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig
Gan fod Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig (REPF) yn ychwanegiad gwledig at brif raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer ALlAau cymwys yn Lloegr, caiff ei gwerthuso fel rhan o raglen werthuso Cronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU, yn hytrach nag fel elfen ar wahân fel yn achos Rhaglen Lluosi.
Bydd Defra a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gwerthuso’r REPF drwy nifer o ychwanegiadau gwledig-benodol eraill ar ben elfennau’r astudiaethau achos seiliedig ar le, a ariennir gan Defra. Ceir rhagor o fanylion yn adran astudiaethau achos seiliedig ar le y strategaeth hon. Bydd y gwaith o werthuso’r REPF yn canolbwyntio ar broses a chyflawni, er mwyn ceisio deall sut y rhoddwyd REPF ar waith ac a ellid gwella ei model cyflawni er mwyn sicrhau gwell canlyniadau mewn fersiynau ohono yn y dyfodol.
Mewn rhai achosion, disgwylir i leoedd â dyraniad o’r REPF a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ariannu prosiectau gan ddefnyddio cyfuniad o’r ddau. Caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r gwerthusiad ar lefel ymyriad ac astudiaethau achos seiliedig ar le pan fyddant ar gael.
Allbynnau gwerthuso
Ar gyfer pob un o’r elfennau yn Nhabl 1, bydd yr Adran Ffyniant Bro, o leiaf, yn cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar ôl i’r gwerthusiad ddod i ben yn nodi gwersi a ddysgwyd, tystiolaeth ac argymhellion sy’n gymwys i’r gofod twf lleol ehangach. Bydd cwmpas a maint yr adroddiadau hyn (gan gynnwys cynlluniau i gyhoeddi dogfennau ychwanegol) yn amrywio rhwng y gwahanol elfennau a cheir rhagor o fanylion yn yr adrannau penodol sy’n ymdrin â’r naill a’r llall.
Yn ogystal â’r prif adroddiadau, efallai y caiff ALlAau a phartneriaid perthnasol yng Ngogledd Iwerddon sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad gyfle i weld data a gwaith dadansoddi interim ychwanegol cyn iddynt gael eu cyhoeddi’n ehangach. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ceisio ategu unrhyw adroddiadau ysgrifenedig ag adnoddau delweddu data rhyngweithiol a dangosfyrddau allbynnau lle y byddant yn ddefnyddiol i ddarparu ar gyfer ymgysylltu ystyrlon gan randdeiliaid â data a gwaith dadansoddi sylfaenol y gwerthusiad.
Mae natur aml-elfen y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn golygu y bydd angen gweud rhagor o waith o ran dichonoldeb a dylunio yn ystod 2023 er mwyn datblygu seiliau damcaniaethol pob elfen o’r gwerthusiad y tu hwnt i’r model rhesymeg lefel uchel yn Ffigur 1. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cyhoeddi atodiad i’r strategaeth hon ar ôl i gam dichonoldeb pob elfen ddod i ben, a fydd yn rhoi manylion pellach am y canlynol:
- dadansoddiadau o broblemau, damcaniaethau newid cysylltiedig a chanlyniadau o ddiddordeb ar gyfer Mathau penodol o Ymyriadau a meysydd astudiaethau achos
- y dulliau a’r ffynonellau data a ddefnyddir ar gyfer pob elfen o’r gwerthusiad, gan gynnwys asesiadau o argaeledd data
- unrhyw rwystrau i werthuso sydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i’r cam dichonoldeb a sut mae’r gwerthusiad wedi’i addasu er mwyn mynd i’r afael â nhw; neu, mewn achosion lle nad ystyrir ei bod yn werth mynd ar drywydd unrhyw agweddau ar y gwerthusiad, y rhesymau dros eu diystyru
Y goblygiadau i awdurdodau lleol arweiniol
Cyfranogiad awdurdodau lleol arweiniol mewn gweithgarwch gwerthuso
Nid yw’n orfodol i ALlAau gymryd rhan mewn gweithgarwch gwerthuso er mwyn cael arian. Fodd bynnag, fel y nodir yn y prosbectws, disgwylir i ALlAau helpu’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, lle y bo angen, gyda’r agweddau lleol ar y gwaith o werthuso Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan ddefnyddio’r 4% neu fwy o ddyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd wedi’u neilltuo ar gyfer gweinyddu’r gronfa. Mae hyn arbennig o gymwys i leoedd â chyfanswm dyraniadau mwy (>£60m).
Cred yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau y bydd manteision y gwerthusiad i ALlAau/partneriaid lleol sy’n cymryd rhan ynddo ac ar gyfer y polisi ariannu twf a ffyniant bro ehangach yn rhai sylweddol, drwy gasglu tystiolaeth a fydd yn helpu llywodraeth ganolog a llywodraeth leol i roi ymyriadau effeithiol, wedi’u targedu’n dda sy’n sicrhau gwerth uchel am arian ar waith yn y dyfodol.
Po uchaf yw lefel gyffredinol cyfranogiad ALlAau y mwyaf fydd y manteision i bob ALlA o ran ehangder a manylder y dystiolaeth a gesglir a’i gallu i lywio modelau ariannu twf lleol yn y dyfodol. At hynny, efallai y caiff ALlAau sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad gyfle i fanteisio ar adnoddau a gwybodaeth ychwanegol yn gyfnewid am hynny, megis setiau data ac adnoddau arolygu ychwanegol sy’n ymwneud â lleoedd penodol a chyfle i weld adroddiadau interim ar ganfyddiadau yn gynnar.
Mae’r gwerthusiad hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i leoedd sicrhau bod eu cynlluniau buddsoddi, eu hymyriadau a’u strwythurau cyflawni lleol eu hunain yn cael eu hasesu i safon uchel heb fod angen neilltuo symiau mawr o arian a llawer o adnoddau.
Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cydnabod y gallai rhai ALlAau/partneriaid lleol wynebu anawsterau o ran neilltuo’r adnoddau sydd eu hangen i gymryd rhan yn y gwerthusiad ac, yn yr achosion hyn, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio i sicrhau bod unrhyw feichiau yn hydrin er mwyn galluogi cynifer o ALlAau â phosibl i gymryd rhan.
Ni fwriedir i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gael ei defnyddio i ddwyn ALlAau i gyfrif am eu dewis o ymyriadau a ariennir gan ddefnyddio dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU na’r ffordd y maent yn cael eu rhoi ar waith. Bwriedir iddi feithrin dealltwriaeth ledled y DU o’r hyn sy’n gweithio, ym mha gyd-destun a gan ddefnyddio pa ddulliau er mwyn helpu i gyflawni nodau Ffyniant Bro, yn ogystal â’r hyn nad yw’n gweithio. Bydd y gwersi a ddysgir o ymyriadau llwyddiannus ac aflwyddiannus yn adnodd amhrisiadwy i lywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol wrth ddatblygu polisi cyllido twf lleol yn y dyfodol. Ni chaiff ALlAau eu cosbi nac, fel arall, eu rhoi o dan anfantais gan ganlyniad unrhyw ran o’r gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Ni ofynnir i bob ALlA gymryd rhan ym mhob elfen o’r gwerthusiad ac efallai y gofynnir i rai gymryd rhan mewn sawl elfen yn dibynnu ar y math o sefydliad ydynt, maint eu dyraniad a’r ymyriadau a ddewiswyd ganddynt. Cysylltir ag ALlAau (ac, yng Ngogledd Iwerddon, ALlau a phartneriaid cyflawni lleol a ddewiswyd) sy’n cymryd rhan ym mhob elfen o’r gwerthusiad, yn ddiweddarach yn 2023 er mwyn cadarnhau y byddant yn cymryd rhan.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cydgysylltu’r gwerthusiad gan ddefnyddio contractwyr i helpu i wneud gwaith maes a gwaith dadansoddi fel y bo’n briodol, gan gadw’r cyfrifoldeb cyffredinol am ddylunio’r gwerthusiad a’i gyflawni. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio’n agos gyda chontractwyr, ALlAau a derbynwyr grant (lle y bo’n berthnasol) drwy gydol camau dylunio a chyflawni’r gwerthusiad er mwyn lleihau beichiau, sicrhau cyfathrebu clir a rheolaidd rhwng pob parti a gwneud yn siŵr bod cynnydd yn cyd-fynd â nodau craidd y gwerthusiad.
Mae’r dull cyd-ddylunio hwn yn golygu y penderfynir yn derfynol ar lawer o’r manylion penodol am y ffordd y caiff pob elfen o’r gwerthusiad eu rhoi ar waith – gan gynnwys yr union ffynonellau data a dulliau gwerthuso a ddefnyddir – yn ystod y misoedd i ddod fel rhan o gam dichonoldeb pob elfen. Ceisir barn ALlAau ar y cam hwn lle y bo’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod y dull gwerthuso terfynol yn gymesur ac yn gyflawnadwy.
Caiff lleoedd a wahoddir i gymryd rhan yn y gwerthusiad eu hysbysu ymlaen llaw a bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn nodi’n glir y gofynion cyfranogi o ran casglu data a helpu gyda gwaith maes pan roddir y gwahoddiad. Ni fydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn i ALlAau gasglu data cyn y gwerthusiad ond byddai’n gofyn am i unrhyw wybodaeth a gesglir yn rhagweithiol gael ei rhannu â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau er mwyn cefnogi’r gwerthusiad.
Adlewyrchir rolau a chyfrifoldebau unigryw partneriaid yng Ngogledd Iwerddon ym model cyflawni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Gogledd Iwerddon. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rheoli’r broses o roi’r gwerthusiad ar waith ac mae wedi llunio un cynllun buddsoddi ar lefel Gogledd Iwerddon mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid lleol (gan gynnwys ALlau), a fydd yn cyflawni ar wahanol raddfeydd gofodol.
Oni nodir yn benodol yn y strategaeth hon, ni fydd hyn yn effeithio ar gwmpas y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Ngogledd Iwerddon. Er na ddisgwylir i ALlau yng Ngogledd Iwerddon gyfranogi yn y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i’r un graddau ag ALlAau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, disgwylir i ALlau, partneriaid allweddol a derbynwyr grant gymryd rhan mewn agweddau penodol o’r gwerthusiad o hyd, o ran mireinio cynllun y gwerthusiad ar y cam dichonoldeb, helpu i nodi buddiolwyr a rhoi adborth a barn ar y ffordd y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei rhoi ar waith yng Ngogledd Iwerddon a’i heffeithiau er mwyn cefnogi, er enghraifft, yr astudiaethau achos seiliedig ar le yng Ngogledd Iwerddon.
Mae adran ‘gwerthuso’ y wybodaeth ychwanegol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi’i ddiweddaru â chanllawiau ychwanegol i ardaloedd lleol sy’n ymdrin â phob elfen, er mwyn ategu’r strategaeth hon.
Monitro ac adrodd
Bwriedir i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU rymuso pob lle ledled y DU i arwain y gwaith o lunio ymyriadau a’u rhoi ar waith, gyda phwyslais ar oruchwyliaeth lai manwl ac ymreolaeth leol. Fel y nodir yn y prosbectws, bydd yn ofynnol i ALlAau (a derbynwyr grant yng Ngogledd Iwerddon) gyflwyno adroddiadau i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau bob chwe mis ynghyd â diweddariadau ansoddol byrrach bob chwarter. Caiff y ddwy set o ddiweddariadau eu cyflwyno gan ddefnyddio un templed ac un broses. Ceir rhagor o fanylion yn adrannau perthnasol y wybodaeth ychwanegol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Bydd yn ofynnol i bob AllA ddarparu data’r adroddiadau hyn er mwyn cefnogi gweithgarwch monitro rhaglenni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, p’un a ydynt yn cymryd rhan yn y gwerthusiad ai peidio. Er mwyn lleihau beichiau ychwanegol, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd yn defnyddio’r un data o adroddiadau i gefnogi sawl elfen o’r gwerthusiad, gan gynnwys yr asesiadau effaith ar lefel ymyriad, lle a rhaglen.
Er mwyn casglu gwybodaeth leol am y ffordd y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei rhoi ar waith a sut mae’n cyflawni’r canlyniadau a ddymunir, anogir ALlAau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gynnal ymarferion “gwersi a ddysgwyd” myfyriol llai manwl yn hytrach na gwerthusiadau lleol llawn, er nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny. Bydd yr ymarferion hyn yn sicrhau bod ALlAau yn defnyddio gallu ac adnoddau cymesur er mwyn casglu gwybodaeth leol. Gallai dulliau arfaethedig gynnwys mesur allbynnau, dadansoddi cyfraniad, datblygu astudiaethau achos neu gynnal arolygon a chyfweliadau â rhanddeiliaid a buddiolwyr. Fel y nodir yn y wybodaeth ychwanegol, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi gofyn am gael ei hysbysu pan fydd hyn yn digwydd drwy adroddiadau rheolaidd.
Elfennau’r gwerthusiad
Gwerthusiad ar lefel ymyriad
O dan dair blaenoriaeth fuddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (sef cefnogi busnesau lleol, cymunedau a lle a phobl a sgiliau), mae gan ALlAau yr hyblygrwydd i fuddsoddi mewn amrywiaeth o Fathau o Ymyriadau, gan ystyried heriau a chyfleoedd lleol. Mae dewislenni o opsiynau sy’n rhestru Mathau posibl o Ymyriadau ar gyfer pob gwlad ynghyd ag allbynnau a chanlyniadau cysylltiedig, wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â phrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, er y gall ALlAau gynnig ychwanegiadau pwrpasol at y rhai sydd wedi’u rhestru.
Fel rhan o’u cynlluniau buddsoddi, mae’n ofynnol i ALlAau nodi o’r rhestr hon y canlyniadau y maent am eu targedu a’r Mathau o Ymyriadau y maent am eu blaenoriaethu, ynghyd ag unrhyw Fathau pwrpasol ychwanegol o Ymyriadau sy’n ymwneud â lle penodol y mae ALlAau yn dewis eu llunio eu hunain. Gall un prosiect gefnogi sawl Math o Ymyriad a gall un Math o Ymyriad gael ei gefnogi gan sawl prosiect. Gall prosiectau gael eu cyflawni gan ALlAau eu hunain neu gan sefydliad neu bartner lleol (e.e. elusen, grŵp cymunedol lleol neu gontractwr).
Yn yr un modd, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi cyhoeddi cynllun buddsoddi a ddatblygwyd gyda phartneriaid lleol er mwyn nodi’r Mathau o Ymyriadau a gaiff eu cefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Ngogledd Iwerddon.
Nodau
Bydd elfen lefel ymyriad y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cyfuno gwerthusiad o effeithiau, prosesau a gwerth am arian – gyda phwyslais ar y cyntaf – ac yn ceisio deall i ba raddau y mae ymyriadau unigol o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi effeithio ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd yn lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn dangos i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a lleoedd, yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio o fewn gofod polisi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac yn helpu lleoedd i dargedu eu gwariant ar dwf lleol yn effeithlon yn y tymor hwy.
Bydd yr elfen hon o’r gwerthusiad yn defnyddio cyfuniad o ddulliau lled-arbrofol, arolygu a chyfweld i wneud y canlynol:
- creu sail dystiolaeth am ymyriadau mwyaf effeithiol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn gwahanol fathau o le
- deall sut i lunio’r ymyriadau hyn a’u rhoi ar waith mewn ffordd sy’n cael yr effaith fwyaf posibl ac yn sicrhau’r gwerth gorau am arian, gan greu sail dystiolaeth y gall lleoedd a Llywodraeth y DU ei defnyddio wrth gynllunio rhaglenni twf lleol a’u rhoi ar waith yn y dyfodol
Strwythur
Bydd y gwerthusiad ar lefel ymyriad wedi’i rannu’n ddau gam craidd, sef dichonoldeb a’r prif gam.
Bydd y cam dichonoldeb yn cynnwys nodi, o’r Mathau cyhoeddedig o Ymyriadau o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rhwng 10 a 15 fel blaenoriaethau ar gyfer gwerthuso, gan flaenoriaethu’r rhai lle mae’r sail dystiolaeth ehangach ar ei gwannaf a gwariant ar ei uchaf ac sy’n addas i fod yn destun gwerthusiad achosol cadarn o effeithiau. Yna, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a chontractwyr yn gweithio gydag ALlAau (a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon) er mwyn datblygu damcaniaethau newid a dulliau gwerthuso ar gyfer pob Math o Ymyriad â blaenoriaeth.
Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi rhag-flaenoriaethu 21 o Fathau o Ymyriadau (a nodir mewn atodiad i’r strategaeth hon) yn seiliedig ar asesiad cychwynnol o’u haddasrwydd i’w gwerthuso. Disgwylir i’r mathau o ymyriadau ar y rhestr fer derfynol ar gyfer gwerthuso ddod o’r grŵp hwn, er y bydd hyn yn amodol ar ddadansoddiad manylach o gynlluniau buddsoddi lleoedd ac i ba raddau y maent wedi cynnwys ymyriadau pwrpasol a gall fod yn addas i’w gwerthuso.
Mae dyluniad y gwerthusiad yn gwahaniaethu yma rhwng Mathau o Ymyriadau, Grwpiau Astudio a phrosiectau. Penderfynwyd ar y Mathau o Ymyriadau ymlaen llaw, fe’u cyhoeddir yma a bwriedir iddynt ddarparu ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau mwy penodol y bydd lleoedd yn dewis gwario eu dyraniadau o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU arnynt. Er enghraifft, gallai Math o Ymyriad S3 (‘gwelliannau i fannau gwyrdd’) gwmpasu prosiectau megis parc newydd neu waith plannu coed mewn ardal benodol.
Er mwyn darparu ar gyfer datblygu prosiectau sy’n ddigon penodol i fod ystyriol, bydd y gwerthusiad ar lefel ymyriad yn gweithredu ar draws dau grŵp, sef:
- Math o Ymyriad, pan fo’r Math o Ymyriad dan sylw yn ddigon penodol
- pan fo’r Math o Ymyriad yn rhy eang, Grwpiau Astudio, sy’n cynnwys casgliadau o brosiectau tebyg o fewn Math penodol o Ymyriad
Gellir dangos hyn drwy ddefnyddio dwy enghraifft:
- Enghraifft A: Math o Ymyriad E5 - Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd wedi’i dirlunio er mwyn ‘atal troseddu drwy ddylunio’. Mae’r Math hwn o Ymyriad yn gymharol benodol, gyda set gysylltiedig lai o brosiectau. Felly, byddai gwaith gwerthuso yn cael ei wneud ar y lefel uwch o Fath o Ymyriad.
- Enghraifft B: Math o Ymyriad E30 – Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch. Mae’r Math hwn o Ymyriad yn fwy cyffredinol ac yn llai penodol ac, mewn egwyddor, gallai gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau. Yma, byddai gwaith gwerthuso yn cael ei wneud ar lefel Grŵp Astudio, yn seiliedig ar grwpio’r prosiectau mwyaf tebyg i’w gilydd ynghyd â llaw o fewn Math o Ymyriad E30.
Dengys Ffigur 3 y gydberthynas rhwng Mathau o Ymyriadau, Grwpiau Astudio a phrosiectau yng nghyd-destun enghreifftiau A a B uchod.
Ffigur 3: hierarchaeth Math o Ymyriad o gymharu â Grŵp Astudio o gymharu â phrosiect
Dengys Ffigur 3 enghreifftiau A a B a ddisgrifiwyd uchod a hierarchaeth gysylltiedig Mathau o Ymyriadau, Grwpiau Astudio a phrosiectau. Mae’r diagram yn llifo fel a ganlyn o’r brig i’r bôn:
- mae un blwch wedi’i labelu’n ‘41+ o Fathau o Ymyriadau’ gyda label ar wahân yn nodi bod enghraifft A yn cael ei gwerthuso ar lefel Math o Ymyriad
- yn y rhes nesaf, mae tri blwch wedi’u labelu’n ‘100+ o Grwpiau Astudio’ gyda label ar wahân yn nodi bod enghraifft B yn cael ei gwerthuso ar lefel Grŵp Astudio
- yn y drydedd res, mae llawer o flychau wedi’u labelu’n ‘500+ o brosiectau’. Mae’r nifer cynyddol o flychau ym mhob rhes yn dangos y lefelau cynyddol o benodoldeb wrth symud i lawr hierarchaeth Ymyriad -> Grŵp Astudio -> prosiect
Mae Mathau cymwys o Ymyriadau o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn amrywio o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar refeniw, cymorth i fusnesau unigol a chyrsiau sgiliau i ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gyfalaf, seilwaith ar lefel ardal a gwelliannau i dir y cyhoedd. Cyfrifir am hyn wrth ddewis y rhestr fer derfynol o Fathau o Ymyriadau ac wrth ffurfio’r grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd cysylltiedig o leoedd ar gyfer pob un. Gallai rhai Mathau o Ymyriadau gynnwys cyfuniad o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU a chyllid yr REPF; yn yr achosion hyn, caiff effaith gyffredinol y Math o Ymyriad ei gwerthuso yn hytrach nag elfennau unigol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r REPF.
Hefyd, er mwyn cael eu cynnwys ar y rhestr fer derfynol o Fathau o Ymyriadau, rhaid bod digon o leoedd wedi’u cynnwys mewn cynlluniau buddsoddi. Caiff cynigion ar y cam dichonoldeb eu profi gyda ALlAau a phartneriaid yng Ngogledd Iwerddon (drwy grŵp partneriaeth Gogledd Iwerddon) er mwyn darparu ar gyfer eu mewnbwn a lliniaru risgiau posibl o ran cyflawni.
Bydd y prif gam yn cynnwys cynnal gwerthusiad triphlyg (effaith, proses a gwerth am arian) o’r 10-15 o Fathau o Ymyriadau a/neu Grwpiau Astudio a nodwyd yn ystod y cam dichonoldeb, pan fydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio’n agos gyda ALlAau sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad er mwyn deall manylion y prosiectau sydd wedi’u grwpio ynghyd ym mhob un a chael mynediad at wybodaeth a data a’u casglu.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ystyried nodweddion lleoedd fel rhan o’r gwerthusiad ar lefel ymyriad e mwyn deall yn well a yw ymyriadau yn cael mwy neu lai o effaith mewn gwahanol fathau o le – er enghraifft, rhwng ardaloedd trefol a gwledig (yn arbennig yn achos prosiectau a ariennir yn rhannol gan yr REPF) neu rhwng gwahanol fathau o sefydliad lleol.
Disgwylir i effeithiau ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gael eu teimlo yn y tymor canolig i’r hirdymor (5-10 mlynedd yn seiliedig ar waith cwmpasu ar gyfer y gwerthusiad o effeithiau’r Gronfa Ffyniant Bro), y tu hwnt i ddyddiad dod i ben cychwynnol y prif gam, sef mis Rhagfyr 2025, ac, felly, efallai y bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn penderfynu ymestyn y gwerthusiad o effeithiau ar lefel ymyriad er mwyn nodi’r effeithiau hynny’n well. Gwneir penderfyniad ar hyn maes o law.
Methodoleg a chasglu data
Caiff union fethodoleg y gwerthusiad ar lefel ymyriad ei datblygu ar y cyd ag ALlAau a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon fel rhan o’r cam dichonoldeb. Ar y cyfan, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn bwriadu mabwysiadu dull gweithredu cymysg, gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol:
- dyluniadau lled-arbrofol: defnyddio grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd wedi’u curadu i fesur effeithiau grwpiau wedi’u paru o leoedd, busnesau neu unigolion (yn dibynnu ar y Math o Ymyriad) sy’n cael ymyriad penodol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn ei gael Bydd y dull hwn o weithredu yn ategu’r rhan o’r gwerthusiad sy’n cynnwys hapdreialon dan reolaeth, gan ddarparu ar gyfer asesu amrywiaeth ehangach o Fathau o Ymyriadau heb fod angen pennu lleoedd ar hap i grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd.
- ymchwil i randdeiliaid: cynnal arolygon, grwpiau ffocws a chyfweliadau pwrpasol â rhai sy’n cymryd rhan yn yr ymyriad, buddiolwyr a rhanddeiliaid cyflawni lleol, er mwyn deall eu profiad o’r ymyriadau eu hunain yn ogystal â pha mor effeithiol y cawsant eu rhoi ar waith
- gwaith dadansoddi cyd-destunol: defnyddio data gweinyddol, demograffig ac economaidd-gymdeithasol lleol er mwyn deall yr heriau lleol penodol y mae gwahanol ALlAau yn eu hwynebu a’r ffordd y gallai’r rhain effeithio ar y broses o roi’r Mathau o Ymyriadau a ddewiswyd ganddynt ar waith ac effeithiau’r ymyriadau hynny
Ar gyfer y rhan led-arbrofol o’r gwerthusiad, caiff grwpiau triniaeth eu ffurfio gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau grwpiau, yn dibynnu ar nifer y lleoedd a’r math o leoedd sy’n bwriadu rhoi’r ymyriad dan sylw ar waith, a chefnogi amrywiaeth o safbwyntiau dadansoddol, gan gynnwys:
- dulliau gweithredu cyfunol: grwpio lleoedd ynghyd ar y sail eu bod yn cynnal yr un prosiect o fewn Math penodol o Ymyriad â chwmpas (gan gynnwys gwahaniaethu rhwng mathau o sefydliad – er enghraifft, ardaloedd maerol o gymharu ag ardaloedd nad ydynt yn rhai maerol) a gwariant tebyg, sy’n cyflawni dros gyfnodau tebyg o amser.
- dulliau gweithredu dros gyfnodau gwahanol o amser grwpio lleoedd ynghyd ar y sail eu bod yn cynnal yr un prosiect o fewn Math penodol o Ymyriad â chwmpas a gwariant tebyg ond sy’n cyflawni dros gyfnodau gwahanol o amser (er enghraifft, yn 2023-24 o gymharu â 2024-25).
- dulliau trin gwahanol: grwpio lleoedd ynghyd ar y sail eu bod yn cynnal prosiectau tebyg o fewn Math penodol o Ymyriad, ond gydag effeithiau triniaeth arfaethedig gwahanol (er enghraifft, o fewn Math o Ymyriad E3 – gwelliannau i fannau gwyrdd – gallai un prosiect ganolbwyntio ar blannu coed tra gallai prosiect arall ganolbwyntio ar feithrin cyfranogiad y gymuned yn y gwaith o blannu’r coed hynny)
Bydd yr union ffynonellau data a ddefnyddir i ategu’r dulliau uchod yn amrywio yn ôl y Math o Ymyriad. Yn ogystal â gweithgarwch casglu data sylfaenol a arweinir gan gontractwr, mae enghreifftiau o ffynonellau data y gallai’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ddisgwyl eu defnyddio yn cynnwys y canlynol ond ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- Data monitro a gesglir drwy weithdrefnau adrodd ehangach Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (gan gynnwys gwybodaeth am y Mathau o Ymyriadau y mae pob lle yn eu targedu, cwantwm gwariant ar bob prosiect a chynnydd tuag at allbynnau a chanlyniadau y cytunwyd arnynt)
- Data arolygon sy’n mesur balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd, ochr yn ochr ag arolygon cenedlaethol cysylltiedig megis Arolwg Bywyd Cymunedol yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
- Data gweinyddol a ddelir yn ganolog, megis dangosyddion economaidd-gymdeithasol a theithio, y farchnad lafur ac ystadegau troseddu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
- Data sy’n dangos pa unigolion a busnesau sy’n cymryd rhan yn ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu a fyddai, fel arall, yn cael budd ohonynt. Yn achos math o ymyriad sy’n ymwneud â phobl a sgiliau (fel cwrs hyfforddi), gallai hyn gynnwys manylion y rhai sy’n ei fynychu. Yn achos ymyriad seiliedig ar ardal neu ymyriad cyfalaf (fel parc newydd), gallai hyn gynnwys manylion y rhai yn nalgylch y parc y gellid disgwyl iddynt ei ddefnyddio.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnal ymarfer paru data â gwybodaeth a ddelir gan adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn ategu’r gwerthusiad ar lefel ymyriad. Caiff manylion buddiolwyr ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (e.e., unigolion a busnesau) eu paru â setiau data sylfeini trethu a llesiant a ddelir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Cyllid a Thollau EF. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i hynt buddiolwyr yn y farchnad lafur gael ei dracio’n fanwl dros gyfnodau’r ymyriadau a thu hwnt. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn hysbysu ALlAau sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad am y data personol ychwanegol a fydd yn cael eu casglu er mwyn i’r ymarfer paru allu mynd yn ei flaen, yn unol â chanllawiau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Allbynnau
Bydd allbynnau allweddol yn cynnwys y canlynol, ar gyfer pob un o’r 10-15 o Fathau o Ymyriadau a werthusir:
- Proses: adroddiad cryno manwl ar gyfer pob Math o Ymyriad sy’n nodi canfyddiadau penodol allweddol, ynghyd ag adroddiad gwerthuso proses cyffredinol sy’n nodi canfyddiadau ac argymhellion y gellir eu cyffredinoli, gyda chrynodebau ar gyfer pob Math o Ymyriad.
- Effaith: adroddiad cryno manwl ar gyfer pob Math o Ymyriad sy’n nodi canfyddiadau penodol allweddol, ynghyd ag adroddiad gwerthuso effaith cyffredinol sy’n nodi canfyddiadau ac argymhellion y gellir eu cyffredinoli, gyda chrynodebau ar gyfer pob Math o Ymyriad.
- Gwerth am arian: adroddiadau byr ar yr asesiad o werth am arian pob Math o Ymyriad ynghyd â chrynodeb cyffredinol lefel uchel.
Llinell amser
Noder: Mae’r llinell amser isod yn un ddangosol yn amodol ar ganlyniadau caffael a gwaith dylunio pellach ar y cam dichonoldeb
Carreg filltir | Amserlen ddisgwyliedig |
---|---|
Penodir contractwr | Chwefror/Mawrth 2023 |
Mae’r cam dichonoldeb yn dechrau | Gwanwyn 2023 |
Cyflwynir yr adroddiad ar y cam dichonoldeb i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau | Diwedd Gwanwyn 2023 |
Mae’r prif gam yn dechrau | Haf 2023 – Haf 2025 |
Cyflwynir yr adroddiad ar y gwerthusiad interim o effeithiau i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau | Gwanwyn 2024 |
Cyhoeddir yr adroddiadau gwerthuso effaith, proses a gwerth am arian terfynol | Haf – Hydref 2025 |
Estyniad tymor hwy posibl | Hydref 2025 ymlaen |
Hapdreialon dan reolaeth
Mae canllawiau a ffurflen datganiad o ddiddordeb gysylltiedig i leoedd sydd â diddordeb mewn cyflwyno cynigion ar gyfer hapdreialon dan reolaeth wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â’r strategaeth hon. Dylai lleoedd â diddordeb gyflwyno eu ffurflenni wedi’u cwblhau erbyn 10 Mai.
Bydd elfen hapdreialon dan reolaeth y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn asesu effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar lefel prosiectau unigol mewn lleoedd penodol. Bydd yr hapdreialon dan reolaeth yn ategu’r gwerthusiad ehangach o effeithiau ar lefel ymyriad drwy wneud y canlynol:
- gweithredu ar y lefel fanylach o brosiectau unigol mewn ALlAau penodol, yn hytrach nag edrych ar Fathau o Ymyriadau neu Grwpiau Astudio mwy cyffredinol prosiectau tebyg mewn sawl ALlA.
- defnyddio dull hollol arbrofol o fesur effaith, gyda grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd yn cael eu pennu ar hap. Ni fydd hyn yn bosibl ar gyfer y gwerthusiad ar lefel ymyriad ehangach am fod y rhan fwyaf o brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn anaddas, yn eu hanfod, ar gyfer dull pennu ar hap.
Ystyrir mai hapdreialon dan reolaeth yw’r math mwyaf cadarn o werthusiad polisi. Drwy bennu grwpiau sylweddol o gyfranogwyr i grŵp triniaeth a grŵp rheolydd ar hap, gellir cyfrif yn haws am effeithiau ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar ganlyniadau o ddiddordeb a nodi’n fwy manwl gywir effeithiau achosol y prosiect dan sylw.
Nid yw dull pennu ar hap yn addas ar gyfer pob un o brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gellir priodoli hyn yn rhannol i’r ffaith nad yw rhai Mathau o Ymyriadau a phrosiectau yn gwbl addas ar gyfer hapdreialon dan reolaeth. Er enghraifft, nid yw’n glir sut y gall prosiectau sy’n canolbwyntio ar ymyriadau ffisegol ac ymyriadau sy’n ymwneud â seilwaith yn ymarferol gael eu pennu ar hap rhwng grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd, a chymharu eu canlyniadau.
Ar y llaw arall, mae prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o dan flaenoriaethau buddsoddi pobl a sgiliau a chefnogi busnesau lleol yn hwyluso dull gweithredu seiliedig ar hapdreialon dan reolaeth yn fwy naturiol am ei bod yn haws gwahaniaethu rhwng cyfranogi a pheidio â chyfranogi ac, felly, bennu’r cyfranogiad hwnnw ar hap fel rhan o’r broses o’r roi’r ymyriad ei hun ar waith. Er enghraifft, mae’n rhesymol disgwyl y gallai sawl ymyriad sy’n cynnig rhaglenni hyfforddiant sgiliau neu gymorth i fusnesau fod wedi’u gordanysgrifio, sy’n golygu y gellid pennu cyfranogiad ar hap ac, felly, sefydlu grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd naturiol.
Nodau
Nod yr hapdreialon dan reolaeth fydd:
- creu’r sail dystiolaeth am ‘yr hyn sy’n gweithio’ ar gyfer ymyriadau lleol i feithrin balchder mewn lle, gwella cyfleoedd bywyd ac ysgogi twf lleol yn y ffordd fwyaf methodolegol gadarn posibl
- helpu’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i feithrin dealltwriaeth well o’r ffordd orau o wario arian a llunio ymyriadau lleol yn y dyfodol er mwyn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol posibl
- helpu ALlAau i ddatblygu eu sail dystiolaeth a’u gallu gwerthuso lleol, yn ogystal â chynnig cyfle a ariennir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i ddangos effaith eu prosiectau
Strwythur
Gwahoddir ALlAau i nodi a chyflwyno prosiectau a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i’w hystyried fel hapdreialon dan reolaeth posibl, gyda’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn anelu at gefnogi hyd at 10 treial ledled y DU - yn amodol ar nifer a maint y cynigion dichonadwy a gyflwynir. Bydd y dull ‘o’r gwaelod i fyny’ hwn o wahodd cynigion o’r lefel leol yn helpu i wneud yn siŵr mai dim ond y prosiectau hynny sy’n addas a priori ar gyfer dull seiliedig ar hapdreialon dan reolaeth (hynny yw, maent yn darparu ar gyfer pennu cyfranogwr ar hap) a gaiff eu dewis. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r What Works Centre for Local Economic Growth (WWG) yn cynnal gweminarau a chymorthfeydd dewisol yn ystod y cam cais am gynigion er mwyn arwain lleoedd drwy’r broses o lunio cynnig ar gyfer hapdreial dan reolaeth a rhoi sylw i gwestiynau am ddichonoldeb.
Yn dilyn y broses ddethol, caiff y prosiectau eu hunain eu cyflawni gan yr ALlAau a’r partneriaid cyflawni a ddewiswyd, fel sy’n digwydd yn achos unrhyw un o brosiectau eraill Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Caiff yr hapdreialon dan reolaeth eu harwain gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r ALlAau a’u partneriaid drwy gydol yr amser. Bydd ALlAau (neu’r asiant darparu perthnasol yng Ngogledd Iwerddon) yn ariannu’r prosiectau sy’n destun yr hapdreialon dan reolaeth gan ddefnyddio eu dyraniadau, gyda’r hapdreialon dan reolaeth eu hunain a maes gwaith a gwaith gwerthuso treialon yn cael ei ariannu ar wahân gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ystyried opsiynau o ran y cymorth ariannol ehangach sy’n cael ei gynnig ar gyfer lleoedd i gyfranogwr ar hapdreialon dan reolaeth, y nodir manylion pellach amdanynt pan gaiff y cais am gynigion ei lansio yn ystod gwanwyn 2023.
Methodoleg a chasglu data
Bydd dulliau gwerthuso yn amrywio ar gyfer pob treial yn dibynnu ar fanylion y prosiect ei hun a’r ALlA sy’n ei gynnal. Cyhoeddir protocolau treialon ar gyfer pob hapdreial dan reolaeth a fydd yn nodi dyluniadau a chynlluniau dadansoddi hapdreialon dan reolaeth yn dilyn y cam cais am gynigion a dethol.
Mae pennu cyfranogwyr ar hap i grwpiau ymyrryd a grwpiau rheolydd yn hanfodol ar gyfer pob hapdreial dan reolaeth a chaiff hyn ei reoli’n ofalus fel rhan o’r gwaith o lunio treialon. At hynny, mae’n hollbwysig bod gan y treialon ddigon o bŵer ystadegol er mwyn i feintiau effeithiau ystyrlon gael eu nodi. Felly, lle y bo’n bosibl, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ceisio sicrhau meintiau sampl mewn grwpiau ymyrryd sy’n ei gwneud yn bosibl i feintiau effeithiau gael eu mesur ar lefel 5%.
Bydd y ffynonellau data a ddefnyddir yn amrywio ar gyfer pob treial. Er y caiff rhywfaint o ddefnydd ei wneud o ddata canlyniadau ac effeithiau presennol ac er y bydd rhywfaint o orgyffwrdd â gwybodaeth a gesglir ar gyfer elfennau eraill (yn enwedig y gwerthusiad o effeithiau ar lefel ymyriad), mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhagweld y bydd angen casglu data newydd o ystyried natur lefel prosiect yr hapdreialon dan reolaeth a’r angen i bennu cyfranogwyr ar hap. Bydd natur y data ychwanegol hyn yn amrywio rhwng hapdreialon dan reolaeth unigol yn dibynnu ar y prosiect sy’n cael ei werthuso a chânt eu casglu’n uniongyrchol gan werthuswyr yn hytrach nag ALlAau cymaint â phosibl.
Allbynnau
Bydd allbynnau allweddol yn cynnwys::
- protocolau treialon cyhoeddedig ar gyfer pob hapdreial dan reolaeth, a fydd yn nodi’r dulliau i’w defnyddio
- adroddiadau terfynol cryno ar gyfer pob hapdreial dan reolaeth, a fydd yn nodi effeithiau a dulliau
Llinell amser
Noder: Mae’r llinell amser isod yn un ddangosol yn amodol ar ganlyniadau caffael a gwaith dylunio pellach ar y cam dichonoldeb
Carreg filltir | Amserlen ddisgwyliedig |
---|---|
Mae cais yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am syniadau ar gyfer hapdreialon dan reolaeth yn agor | Gwanwyn 2023 |
Penodir contractwr gwerthuso ar gyfer yr hapdreialon dan reolaeth | Gwanwyn 2023 |
Mae’r contractwr gwerthuso yn gweithio gydag ALlAau i ddatblygu cynigion ar gyfer hapdreialon dan reolaeth | Gwanwyn – Haf 2023 |
Penderfyniad terfynol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar y rhestr fer o hapdreialon dan reolaeth | Canol Haf 2023 |
Mae’r contractwr gwerthuso yn datblygu ac yn cyhoeddi protocolau treialon llawn ar gyfer yr hapdreialon dan reolaeth a ddewisir | Diwedd Haf 2023 |
Maes gwaith ar gyfer yr hapdreialon dan reolaeth | Diwedd Haf 2023 – 2025 |
Cyflwynir canfyddiadau interim i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau | Haf 2024 |
Cyhoeddir allbynnau terfynol yr hapdreialon dan reolaeth | Haf 2025 |
Astudiaethau achos ar lefel lle
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cyflawni yng nghyd-destun tirwedd llywodraeth leol gymhleth ar sawl haen o sefydliad, pob un â’i set ei hun o bwerau a chyfrifoldebau o ran y mathau o brosiectau y bwriedir i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU eu cyflawni.
Ym mhob math o sefydliad, ceir amrywiad ychwanegol o ran maint, gallu, demograffeg ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Bwriedir i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU rymuso partneriaid lleol ar bob lefel o ddaearyddiaeth i ddiwallu anghenion penodol eu cymunedau yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl ac, felly, mae’n hollbwysig bod y gwerthusiad yn deall sut y caiff canlyniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU eu cymedroli gan nodweddion gwahanol fathau o le ac i ba raddau.
Nodau
Bydd rhan astudiaethau achos y gwerthusiad yn canolbwyntio ar ystod gynrychioliadol o ALlAau ledled y DU er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl o’r ffordd y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi gweithio ar lefel lle. Bydd astudiaethau achos yn canolbwyntio ar rôl ALlAau, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a phartneriaid lleol o ran gweithredu, rhyngweithio rhwng rhanddeiliaid a gwahanol haenau o lywodraeth leol a chenedlaethol (gan gynnwys cydberthnasau rhwng ALlAau haenau uchaf ac isaf lle y bo’n berthnasol), gwneud penderfyniadau a synergedd rhwng Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac ymyriadau twf lleol a Ffyniant Bro eraill.
Bydd pob astudiaeth achos yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau – gan gynnwys arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a dulliau lled-arbrofol lle y bo’n briodol – wedi’u teilwra at y lle dan sylw, er mwyn creu’r sail dystiolaeth mewn perthynas â’r canlynol:
- effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o’i hystyried yng nghyd-destun gwahanol amgylcheddau economaidd lleol ac ochr yn ochr â bodolaeth mentrau Ffyniant Bro eraill, gan gydnabod y bydd ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran meithrin balchder lleol a gwella cyfleoedd bywyd yn amrywio ledled y DU
- effeithiolrwydd cymharol gwahanol fathau o fodelau cyflawni a chyfuniadau o Fathau o Ymyriadau o ran meithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd, ynghyd â nodi unrhyw rwystrau parhau i gyflawni yn lleol ac yn genedlaethol
Bydd yr elfen astudiaethau achos yn cynnwys is-elfennau ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar yr REPF, a gaiff eu llunio a’u hariannu gan Defra, a fydd yn ceisio meithrin dealltwriaeth o’r ffordd y mae ALlAau wedi blaenoriaethu ymyriadau REPF ac i ba raddau y maent wedi ymgysylltu â chymunedau a busnesau gwledig gwasgaredig i hyrwyddo’r Gronfa.
Yn amodol ar y cam dichonoldeb, efallai y caiff yr is-elfen astudiaeth achos sy’n canolbwyntio ar yr REPF ei chyflawni drwy naill ai gyfres o astudiaethau achos ychwanegol sy’n ymwneud â’r REPF yn unig mewn set wahanol o leoedd i grŵp craidd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu fel ychwanegiad at is-set addas o leoedd yn y prif grŵp o astudiaethau achos.
Strwythur
Caiff astudiaethau achos eu llunio a’u datblygu mewn dau gam craidd, sef y cam dichonoldeb a’r prif gam, gyda’r potensial ar gyfer cam ymestyn ychwanegol i fesur effeithiau tymor hwy.
Yn ystod y cam dichonoldeb, caiff rhestr hir o ddarpar ALlAau ar gyfer astudiaethau achos eu nodi a chaiff modelau rhesymeg sy’n ymwneud â lle penodol eu datblygu ar gyfer pob un. Wedyn, caiff y rhestr hir ei lleihau i restr fer derfynol mewn cydweithrediad ag ALlAau. Bydd Defra yn cynnal proses gyfatebol ar gyfer dewis astudiaethau achos sy’n ymwneud yn benodol â’r REPF.
Caiff y rhestr hir gychwynnol o ALlAau a lleoedd eu llunio yn seiliedig ar y canlynol:
- nodweddion lleoedd: er mwyn gwneud yn siŵr bod astudiaethau achos yn cynnwys ystod gynrychioliadol o leoedd, sy’n cwmpasu’r 12 o ranbarthau Tiriogaethol Rhyngwladol Lefel 1 yn y DU (9 yn Lloegr, yn ogystal â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon y mae o leiaf 3 lle sy’n destun astudiaeth achos ym mhob un), lleoedd â gwahanol lefelau o amddifadedd, gwahanol fathau o sefydliad lleol (haen uchaf a haen isaf) a chymysgedd o ardaloedd gwledig a threfol. Yng Ngogledd Iwerddon, caiff darpar ardaloedd ar gyfer astudiaethau achos eu dewis gan gyfeirio’n benodol at gynllun buddsoddi ehangach Gogledd Iwerddon a model cyflawni cenedlaethol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn ogystal â’r angen i gynnwys cyfansoddiad cytbwys o gymunedau yn y set derfynol o leoedd
- Nodweddion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhestr fer o leoedd yn cynnwys ystod o Fathau o Ymyriadau ar draws y tair blaenoriaeth fuddsoddi a bod gwybodaeth ar gael am ffynonellau cyllido sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd sy’n cyflawni ochr yn ochr â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, natur modelau cyflawni lleol lleoedd ac a yw dyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael eu defnyddio i gefnogi prosiectau presennol neu newydd
Ymgysylltir ag ALlAau ac ardaloedd sy’n destun astudiaethau achos yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y cam dichonoldeb er mwyn profi a mireinio cwestiynau dylunio a chynigion ar gyfer maes gwaith yn uniongyrchol.
Yn dilyn y cam dichonoldeb, bydd y prif gam yn canolbwyntio ar gynnal yr astudiaethau achos. Bydd yr astudiaethau achos yn cynnwys cymysgedd o ddulliau a ffynonellau data, a fydd yn amrywio rhwng lleoedd yn dibynnu ar nodweddion yr ymyriadau a’r lleoedd eu hunain. Bydd hyn yn cynnwys dulliau ansoddol, arolygon cyn ac ar ôl gweithredu, gwaith dadansoddi meintiol yn defnyddio data sy’n ymwneud ag ALlAau penodol er mwyn nodi cyd-destunau lleol a gwaith dadansoddi ar lefel ymyriad yn ychwanegol at yr hyn a nodir yn rhan ar lefel ymyriad y strategaeth hon.
Methodoleg a chasglu data
Mae Ffigur 4 yn rhoi enghreifftiau o gwestiynau bydd yr astudiaethau achos yn ceisio eu hateb yn y gwerthusiad o’r broses a’r effaith. Mae’r cwestiynau ymchwil hyn yn rhai dangosol ac nid ydynt yn hollgynhwysfawr; cânt eu mireinio ymhellach yn ystod y cam dichonoldeb mewn ffordd sy’n sensitif i amgylchiadau lleol, heriau a haen ofodol benodol pob lle sy’n destun astudiaeth achos.
Ffigur 4: cwestiynau ymchwil enghreifftiol ar gyfer astudiaethau achos
Mae Ffigur 4 yn rhoi enghreifftiau o rai o’r cwestiynau ymchwil y bydd yr astudiaethau achos yn ceisio eu hateb, wedi’u grwpio yn ôl y gwerthusiad o’r broses a’r gwerthusiad o’r effaith. Uwchlaw’r grwpiau hyn, mae blwch wedi’i labelu’n ‘Gyd-destun Lleol’ yn rhoi enghreifftiau o’r math o ystyriaethau cyd-destunol y bydd angen cyfrif amdanynt wrth asesu sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi gweithredu mewn lle penodol.
Mae cwestiynau enghreifftiol ar gyfer y gwerthusiad o’r broses yn cynnwys:
- sut y gwnaeth lleoedd flaenoriaethu a dewis eu hymyriadau a’u prosiectau?
- â pha randdeiliaid yr ymgynghorwyd wrth lunio ymyriadau?
- a fu unrhyw rwystrau neu alluogwyr cyffredin ar draws gwahanol ymyriadau?
Mae cwestiynau enghreifftiol ar gyfer y gwerthusiad o’r effaith yn cynnwys:
- pa ganlyniadau ac effeithiau a oedd i’w priodoli i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn benodol?
- sut mae’r canlyniadau hyn yn cymharu ag ymyriadau tebyg blaenorol yn y lle drwy gronfeydd twf lleol eraill?
Mae ffactorau cyd-destunol lleol yn cynnwys:
- pa heriau cymdeithasol ac economaidd lleol penodol y mae’r lle yn eu hwynebu?
- beth yw lefel balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd sylfaenol y lle?
Caiff yr union set o ffynonellau data a ddefnyddir ar gyfer pob astudiaeth achos ei datblygu yn ystod y cam dichonoldeb a bydd yn amrywio rhwng lleoedd sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad yn dibynnu ar eu nodweddion – er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig efallai y defnyddir ystadegau Llesiant Gwledig fel dangosydd canlyniadau. Yn unol â nod pob astudiaeth achos o greu darlun mor fanwl a chyfannol â phosibl o gyd-destun lleol lle, defnyddir amrywiaeth eang o ffynonellau data, a fydd yn gorgyffwrdd â llawer o elfennau eraill.
Bydd gwaith paru data yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF a ddisgrifir yn rhan y gwerthusiad ar lefel ymyriad hefyd yn ymestyn i gynnwys ALlAau sy’n cymryd rhan mewn astudiaethau achos. O ran y gwerthusiad ar lefel ymyriad, caiff natur y data personol ychwanegol sydd i’w casglu (os o gwbl) ei hegluro i ALlAau sy’n dewis cymryd rhan yn unol â chanllawiau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Allbynnau
Caiff adroddiad terfynol manwl ei lunio ar gyfer pob lle sy’n destun astudiaeth achos, a fydd yn cyfuno gwaith dadansoddi, naratif a thystiolaeth ansoddol a meintiol er mwyn asesu’r canlynol:
- i ba raddau roedd ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn lleoedd yn rhan o’i strategaeth a’i gweledigaeth leol gyffredinol ar gyfer Ffyniant Bro a sut y gwnaeth y broses o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith ryngweithio â ffrydiau cyllido eraill Llywodraeth y DU neu ffrydiau cyllido lleol eraill
- y broses o roi cynlluniau buddsoddi lleoedd ar waith o’r dechrau i’r diwedd; yr hyn a weithiodd yn dda, yr hyn na weithiodd yn dda a galluogwyr a rhwystrau allweddol prosesau cyflawni effeithiol (yn benodol i leoedd lleol ac yn rhan annatod o ddyluniad y rhaglen)
- o ystyried y bwledi uchod, effaith ymyriadau unigol (a chyfuniadau o ymyriadau) ar falchder unigol a chyfunol mewn lle a chyfleoedd bywyd o ystyried cyd-destun penodol pob lle
At hynny, caiff adroddiad cryno ei lunio a fydd yn dwyn ynghyd bob un o’r 36 o astudiaethau achos er mwyn tynnu themâu, patrymau a naratifau cyffredinol rhwng gwahanol leoedd, er mwyn nodi arferion da cyffredin a gwersi a ddysgwyd a allai fod yn gymwys i nifer mawr o astudiaethau achos a deall sut y gall cynnydd o ran cyflawni a chanlyniadau amrywio rhwng gwahanol fathau o le, yn seiliedig ar eu maint, eu demograffeg neu eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Bydd yr adroddiad hwn yn elfen allweddol o’r gwerthusiad o’r broses ar lefel rhaglen.
Llinell amser
Noder: Mae’r llinell amser isod yn un ddangosol yn amodol ar ganlyniadau caffael a gwaith dylunio pellach ar y cam dichonoldeb
Carreg filltir | Amserlen ddisgwyliedig |
---|---|
Penodir contractwr | Dechrau Gwanwyn 2023 |
Y cam dichonoldeb | Gwanwyn 2023 |
Cyflwynir yr adroddiad ar y cam dichonoldeb i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Defra | Diwedd Gwanwyn – dechrau Haf 2023 |
Penderfyniadau terfynol ar y rhestr o leoedd ar gyfer astudiaethau achos | Diwedd Gwanwyn – dechrau Haf 2023 |
Y prif gam | Haf 2023 – Hydref 2025 |
Cyflwynir adroddiadau interim ar yr astudiaethau achos (ar gyfer pob lle ac yn gyffredinol) i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau | Gwanwyn 2024 |
Yr adroddiadau terfynol ar yr astudiaethau achos yn barod i’w cyhoeddi | Hydref 2025 |
Gwerthusiad ar lefel rhaglen
Rhaglen a gyflwynir yn genedlaethol yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac, felly, bydd y gwerthusiad ohoni yn cynnwys elfen genedlaethol ar lefel rhaglen yn ogystal â’r elfennau ar lefel ymyriad ac ar lefel lle yr ymdrinnir â nhw mewn adrannau eraill o’r strategaeth hon.
Mae ‘ar lefel rhaglen’, yn y cyd-destun hwn, yn cyfeirio at werthuso effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac (fel ychwanegiad gwledig), yr REPF; nid yw’n cynnwys rhaglen Lluosi, yr ymdrinnir â’r gwerthusiad ohoni yn yr adran o’r strategaeth hon sy’n ymwneud yn benodol â Lluosi.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd yn ceisio cynnal gwerthusiad o’r broses ar lefel rhaglen. Yn hytrach na bod yn elfen ar wahân, bydd y gwerthusiad o’r broses ar lefel rhaglen yn dwyn ynghyd yr astudiaethau achos seiliedig ar le unigol yr ymdrinnir â nhw mewn rhannau eraill o’r strategaeth hon er mwyn deall pa mor effeithiol y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi gweithredu mewn gwahanol fathau o le. Mae gweddill y bennod hon yn canolbwyntio’n llwyr ar y gwerthusiad o effaith ar lefel rhaglen.
Fel y nodir yn y wybodaeth ychwanegol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi ymgysylltu â’r What Works Centre for Local Economic Growth (WWG) er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig ag asesu effeithiau cyffredinol sy’n rhan annatod o raglen fel Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn parhau i ddefnyddio cyngor arbenigol gan WWG ac yn fewnol wrth i’r gwaith o ddatblygu’r gwerthusiad ar lefel rhaglen barhau ar ddechrau 2023.
Nodau
Bydd elfen ar lefel rhaglen y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ceisio deall i ba raddau y mae rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol - yn hytrach nag ymyriadau penodol neu leoedd penodol - wedi effeithio ar y nodau craidd o wella balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ac, felly, a yw’r ddamcaniaeth newid ar lefel rhaglen, fel y’i nodir yn Ffigur 1, wedi gweithio yn ymarferol. Bydd hyn yn gwneud y canlynol:
- helpu’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Llywodraeth y DU yn fwy cyffredinol i ddeall beth sy’n gweithio wrth lunio fersiynau o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn y dyfodol a rhaglen twf lleol eang eu cwmpas eraill o ran modelau cyflawni, ymreolaeth leol a blaenoriaethau buddsoddi.
- gan ategu’r gwerthusiad ar lefel ymyriad, helpu i greu’r sail dystiolaeth ar y categorïau eang o ymyriadau sy’n sicrhau’r manteision mwyaf ar gyfer pob £ a gaiff ei gwario
- dwyn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (yn hytrach nag ALlAau) i gyfrif am Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at falchder pobl mewn lle a’u cyfleoedd bywyd ledled y DU er mwyn helpu i gyflawni nodau Ffyniant Bro ehangach y DU
Strwythur
Mae nodweddion dylunio ehangach Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn creu sawl rhwystr i werthuso effeithiau ar lefel rhaglen yn effeithiol. Yn benodol:
- bydd pob rhan o’r DU yn cael rhywfaint o gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – nid oes unrhyw grwpiau rheolydd naturiol yn bodoli
- mae cyllid wedi’i ddyrannu gan ddefnyddio methodoleg gymysg yn seiliedig ar gyfuniad o gyllid strwythurol blaenorol yr UE, poblogaeth a mynegai seiliedig ar angen. Mae rhai lleoedd hefyd wedi cael dyraniad ychwanegol o’r REPF yn seiliedig ar set wahanol o feini prawf.
- mae cyllid wedi’i ddyrannu rhwng sawl haen o ALlAau, gan gynnwys awdurdodau cyfunol ac awdurdodau maerol cyfunol, awdurdodau unedol ac ardaloedd a bwrdeistrefi haen isaf mewn gwahanol rannau o’r DU ac yn rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon
- **mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi’i dyrannu (i ddechrau) dros gyfod o dair blynedd yn unig, hyd at ddiwedd 2024-25: ** mae hyn yn golygu bydd y rhan fwyaf o leoedd yn cynnal ymyriadau ar yr un pryd, yn arbennig am fod cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gorfod cael ei wario yn ystod y flwyddyn ac na ellir ei gario drosodd
Mae unrhyw werthusiad o effeithiau yn gofyn am amcangyfrif o’r hyn a fyddai wedi digwydd pe na bai’r ymyriad wedi’i gynnal - sefyllfa wrthffeithiol - at ddibenion cymharu. Mae nodweddion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fel y’u nodir uchod, yn golygu nad yw’n ymarferol defnyddio hapdreialon dan reolaeth na dulliau gwerthuso lled-arbrofol hyd yn oed ar lefel rhaglen. Mae Tabl 3 isod yn rhoi mwy o fanylion am y rheswm pam mae hyn yn wir am bob dull gweithredu a ystyriwyd:
Tabl 3: Dulliau gwerthuso rhaglen amgen a ystyriwyd
Methodoleg | Disgrifiad | Rhwystrau |
---|---|---|
hapdreial dan reolaeth | Er mwyn defnyddio hapdreial dan reolaeth i werthuso effaith gyffredinol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU byddai angen pennu rhai lleoedd ar hap i gael cyllid a rhai lleoedd i beidio â chael cyllid, er mwyn i effeithiau gyda chyllid allu cael eu cymharu ag effeithiau heb gyllid | Ddim yn ddichonadwy o dan unrhyw amgylchiadau; mae cyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi’i dyrannu i bob lle, am ei bod yn cymryd lle cyllid presennol o raglenni’r UE. |
Lled-arbrofol: grwpiau triniaeth o gymharu â grwpiau rheolydd | Cymharu lleoedd sy’n cael cyllid â lleoedd ‘tebyg’ nad ydynt yn cael cyllid - yn debyg i ddull seiliedig ar hapdreialon dan reolaeth ond heb bennu grwpiau triniaeth a grwpiau rheolydd ar hap. Caiff y dull hwn ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o’r gwerthusiad ar lefel ymyriad | Ddim yn ddichonadwy am yr un rhesymau ag a nodwyd ar gyfer hapdreialon dan reolaeth; mae cyllid wedi’i ddyrannu i bob lle (ac mae’n rhaid iddo ei gael) |
Lled-arbrofol: dwysedd cymharol | Cymharu lleoedd yn ôl maint eu dyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – gan asesu a brofodd lleoedd a gafodd fwy o gyllid effeithiau cadarnhaol mwy o faint o ganlyniad i hynny | Mae’n gofyn bod y mesurau sy’n dylanwadu ar ddyraniadau lleoedd (maint y boblogaeth, safle ar y mynegai a chyllid blaenorol gan yr UE yn annibynnol ar y canlyniadau sy’n cael eu hasesu (balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd). Heb fesur gwrthrychol pendant o’r canlyniadau hyn y gellir dangos ei fod yn annibynnol fel hyn, mae’r dull hwn yn annhebygol o ddarparu gwybodaeth gadarn |
Lled-arbrofol: cyflawni dros gyfnodau gwahanol o amser | Cymharu lleoedd sy’n cynnal ymyriad â rhai nad ydynt wedi gwneud hynny eto, gan ddefnyddio’r ail grŵp fel grŵp gwrthffeithiol i’r grŵp cyntaf | Mae gorwel cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’i gofynion o ran gwario yn ystod y flwyddyn yn golygu y bydd lleoedd yn hawlio cyllid ar yr un pryd yn bennaf dros y tair blynedd nesaf. At hynny, byddai’n rhaid i unrhyw amrywiadau o ran amseriad cyflawni rhwng lleoedd y gellid eu defnyddio at ddibenion gwerthusiad fod yn annibynnol ar y canlyniadau sy’n cael eu hasesu, fel yn achos y dull dwysedd cymharol |
Yn ogystal â’r rhwystrau sy’n ymwneud â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a nodir yn Nhabl 3, mae heriau yn gysylltiedig â gwerthuso unrhyw raglen twf lleol neu raglen sy’n canolbwyntio ar Ffyniant Bro sydd i’w priodoli i’r ffaith ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac effaith ffynonellau cyllido eraill a all gyfrannu at gyflawni canlyniadau tebyg ar yr un pryd. Mae’r rhain yn cynnwys (ymhlith eraill):
- rhaglenni twf lleol eraill a gyflwynir yn ganolog, megis y Gronfa Trefi, y Gronfa Ffyniant Bro neu gytundebau datganoli
- gwariant sylfaenol llywodraeth ganolog, megis cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion, atal troseddu ac addysg
- Mentrau ALlAau eu hunain a ariennir yn lleol, a gall amrywio o ran eu cwmpas a gorgyffwrdd â blaenoriaethau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn lleoedd gwahanol
- ymyriadau a ariennir gan Weinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- cyllid gweddillol o raglenni’r UE a ddisodlwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – a all barhau i gefnogi prosiectau hyd at fis Rhagfyr 2023 – yn ogystal ag ardaloedd a lwyddodd i gael cyllid peilot o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU, a ragflaenodd Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
- achosion lle mae arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ond yn cefnogi prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhannol: er enghraifft, lle mae prosiect yn parhau o’r Gronfa Ffyniant Bro neu’r Gronfa Trefi, neu os bydd prosiect yn cael cryn dipyn o arian cyfatebol o bartneriaid yn y sector preifat neu i’r tu mewn i ALlAau.
Yn olaf, rhaid cyfrif am yr amrywiad mewn nodweddion a galluoedd sylfaenol rhwng gwahanol ALlAau – hynny yw, graddau’r heriau lleol y maent yn eu hwynebu a’r gallu i weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn effeithiol wrth fynd i’r afael â nhw. Er enghraifft, byddai disgwyl i ymyriad sy’n canolbwyntio ar gyfalaf i adeiladu parc newydd mewn lle heb fawr ddim mannau gwyrdd (Math o Ymyriad E3 Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU) gael mwy o effaith gymharol na’r un ymyriad mewn lle sydd eisoes yn fan gwyrdd, am resymau nad ydynt yn ymwneud â gwerth cynhenid yr ymyriad.
Yn yr un modd, gallai prosiect amlfoddol cymhleth i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, tai ac adeiladau dinesig lleol (Math o Ymyriad E29) gael llawer mwy o effaith pan gaiff ei gynnal gan ALlA mwy galluogi sydd â’r arbenigedd, y profiad a’r adnoddau nad oes gan rywle heb y priodoleddau hyn. Gall nodweddion megis dosbarthiad gwledig-trefol (sy’n effeithio ar gymhwystra lle i gael yr REPF) hefyd ddylanwadu ar effeithiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn gwahanol fathau o le.
Methodoleg a chasglu data
Gan ystyried y rhwystrau i opsiynau amgen fel y’u nodir yn Nhabl 3, drwy ymgynghori â WWG ac arbenigwyr eraill ym maes gwerthuso, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi dod i’r casgliad mai’r opsiwn anarbrofol cychwynnol gorau ar gyfer gwerthusiad meintiol o effeithiau ar lefel rhaglen yw llunio model atchwel aml-lefel. Bydd y model atchwel yn ceisio gwahanu cyfraniadau cydberthynol unigol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r ffactorau dryslyd a nodwyd yn y bwledi uchod, er mwyn ceisio mesur ar lefel rhaglen pa gyfran o’r manteision (os oes unrhyw rai) y gellir ei phriodoli i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn unig.
Mae angen defnyddio model aml-lefel er mwyn cyfrif am yr ystod o raddfeydd gofodol y mae’r ffactorau hyn yn bodoli ar ei thraws, gan ei gwneud yn bosibl i elfennau gweddilliol ar bob lefel yn hierarchaeth cyflawni gofodol ymyriad-lle-rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd.
Bydd y dull hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i wneud rhagor o waith dadansoddi meintiol, er mwyn deall, er enghraifft, a yw unrhyw effeithiau a nodwyd ar gyfer modelau yn ystadegol arwyddocaol ac i ba raddau y caiff effeithiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU eu hatgyfnerthu neu eu lleihau mewn gwahanol ddaearyddiaethau a sefydliadau lleol.
Mae Ffigur 5 yn crynhoi’r egwyddorion cyffredinol y byddai model atchwel aml-lefel yn cael eu llunio yn seiliedig arnynt:
Ffigur 5: Mewnbynnau ac allbynnau model atchwel ar lefel rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Ffigur 5 yn nodi ar lefel uchel strwythur model atchwel ar lefel rhaglen arfaethedig Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar ffurf siart lif. Yn y canol, o’r chwith i’r dde, dengys y diagram ddilyniant cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a roddwyd i leoedd, effeithiau a chanlyniadau dilynol yn cefnogi balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd.
Uwchlaw ac islaw’r dilyniant hwn rhoddir enghreifftiau o’r ffactorau dryslyd a allai effeithio arno, wedi’u grwpio yn:
- ffactorau seiliedig ar le: cyd-destun economaidd-gymdeithasol lleol, gallu cyflawni lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, math o ALlA a demograffeg
- ffactorau seiledig ar gyllid: cronfeydd Ffyniant Bro eraill, gwariant ehangach y Llywodraeth, dyraniadau hanesyddol gan yr UE a chyllid cyfatebol a gafwyd o ffynonellau lleol
Mae rhai o’r rhwystrau i werthuso a nodwyd yn gynharach yn yr adran hon yn dal i fodoli o dan ddull achwel: tirwedd twf lleol gymhleth, cyfnodau byr o amser ar gyfer mesur effeithiau a set eang o nodau buddsoddi. At hynny, fel dull anarbrofol heb grŵp gwrthffeithiol, mae ei bŵer casgliadol ar wahân yn gyfyngedig: efallai y gallai’r model nodi cydberthyniadau ac effeithiau er mwyn ymchwilio iddynt ymhellach drwy ddefnyddio dulliau mwy cadarn ond ni all gadarnhau ar ei ben ei hun fod yr effeithiau hyn wedi’u hachosi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
At hynny, am fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn barhad o gronfeydd strwythurol yr UE i ryw raddau, er bod ganddi set wahanol o flaenoriaethau buddsoddi a model cyflawni symlwch, mae’n fwy anodd mesur effeithiau ‘cyn ac ar ôl’ clir hyd yn oed wrth ddefnyddio dull cyn/ar ôl anarbrofol, gan y bydd pob lle wedi bod yn cael ‘triniaeth’ debyg i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar ôl i’r rhaglen gael ei sefydlu.
Fodd bynnag, hyd yn oed os na fydd y model atchwel ar lefel rhaglen yn dangos effeithiau arwyddocaol, gallai fod yn wir o hyd bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi sicrhau manteision cliriach i fathau penodol o le neu ymyriad o gymharu â’r rhaglen yn gyffredinol Bwriad y gwerthusiad o effeithiau ar lefel rhaglen yw ategu a chyd-destunoli’r elfennau manylach er mwyn helpu i ddod i gasgliadau cyfannol ar gyfer y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol. Ni fwriedir iddo weithredu ar ei ben ei hun fel y dangosydd ‘llwyddo/methu’ ar gyfer llwyddiant y rhaglen.
Yn amodol ar ragor o waith ar ddichonoldeb, efallai y bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn dewis ystyried dulliau anarbrofol eraill o asesu effeithiau ar lefel rhaglen er mwyn ategu’r model atchwel - gan gynnwys dulliau seiliedig ar ddamcaniaeth, megis gwaith dadansoddi cyfraniad - er mwyn ymchwilio ymhellach i unrhyw gydberthnasau achosol posibl a awgrymir gan y model ei hun a meithrin gwell dealltwriaeth o ba mor effeithiol y mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi bod mewn gwahanol fathau o le mewn ffordd fwy cyfannol a llai meintiol.
Bydd y model atchwel o reidrwydd yn defnyddio amrywiaeth eang iawn o ffynonellau data ar lefel unigolyn, lle a rhaglen er mwyn nodi’r nifer mawr o newidynnau dryslyd y bydd angen cyfrif amdanynt, a chyfrif amdanynt. Felly, ar gyfer pob lle, bydd hyn yn cynnwys rhagor o fanylion am y canlynol:
- Ymyriadau eraill a/neu gyllid arall gan y Llywodraeth a allai gyfrannu at gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
- Y prosiectau unigol sy’n ffurfio cynlluniau buddsoddi lleoedd, gan gynnwys a ydynt yn cael eu hariannu’n llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu a ydynt yn ‘ychwanegiadau’ at raglenni eraill, a ffynhonnell unrhyw arian cyfatebol y mae’r prosiect yn dibynnu arno (os o gwbl).
- Y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflawni canlyniadau ac allbynnau cynlluniau buddsoddi tra bod prosiectau yn cael eu cyflawni, gan gynnwys achosion lle mae ymyriadau wedi cael eu hoedi, eu gohirio neu eu haddasu.
- Data gweinyddol cyhoeddus a ddelir yn ganolog gan y SYG a chyrff cyfatebol sy’n cwmpasu cydnerthedd economaidd a chymdeithasol lleoedd a’u cydnerthedd yn y farchnad lafur, gan gynnwys cynhyrchiant, troseddu, addysg, sgiliau a chanlyniadau iechyd.
- Data arolygon sy’n ymwneud â balchder mewn lle, cyfleoedd bywyd a ffyniant bro.
Mae llawer o’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd neu maent yn gorgyffwrdd â’r hyn a gasglwyd ar gyfer elfennau eraill o’r gwerthusiad fel y nodir yn Nhabl 4 isod:
Tabl 4: ffynonellau data model atchwel posibl
Ffynhonnell y data | Graddfa ofodol | Argaeledd |
---|---|---|
Gwybodaeth am fuddiolwyr unigol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’u cynnydd economaidd a’u cynnydd yn y farchnad lafur | Unigolyn | Casglwyd rywle arall fel rhan o’r gwerthusiad o effeithiau ar lefel ymyriad |
Ymatebion i arolygon gan unigolion ynglŷn â’u barn ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd | Unigolyn | Casglwyd rywle arall fel rhan elfen arolygon y gwerthusiad |
Cynnydd ar lefel prosiect ac ymyriad a data gwariant ar gyfer pob ALlA/ledled Gogledd Iwerddon | Ymyriad | Casglwyd rywle arall drwy brosesau monitro ac adrodd prif ffrwd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU |
Manylion ffynonellau cyllid heblaw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU | Ymyriad | Casglwyd rywle arall drwy brosesau monitro ac adrodd prif ffrwd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU |
Gwybodaeth ansoddol am allu a gallu cyflawni ALlAau | Lle | Caiff ei asesu ar gyfer is-set o leoedd fel rhan o astudiaethau achos ar lefel lle |
Manylion cyllid arall a arweinir gan Lywodraeth y DU ym mhob lle (e.e. Cronfa Trefi, Cronfa Ffyniant Bro) | Lle | Fe’u delir eisoes i ryw raddau gan wahanol adrannau llywodraeth ganolog (yn dibynnu ar natur y gwariant). |
Data gweinyddol ar nodweddion ALlAau (e.e. perfformiad economaidd, canlyniadau addysg) | Lle | Fe’u delir eisoes i raddau helaeth gan y SYG a chyrff cyfatebol. |
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd yn ceisio defnyddio data a gasglwyd i gefnogi’r gwerthusiad ar lefel rhaglen o gronfeydd twf lleol erail, megis Cronfa Ffyniant Bro a Chronfa Trefi. Yn ogystal â lleihau’r risg y caiff yr un setiau data eu casglu ddwywaith, bydd hyn yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o feysydd gorgyffwrdd ac ymwahanu rhwng y cronfeydd hyn a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o’r broses o geisio gwahanu eu heffeithiau oddi wrth ei gilydd yn y model atchwel.
Allbynnau
Prif allbwn y gwerthusiad o effeithiau ar lefel rhaglen fydd adroddiad manwl yn nodi’r canlynol:
- y fethodoleg a’r data sy’n sail i’r model atchwel ynghyd ag unrhyw effeithiau a nodi ar lefel rhaglen ac o ran Mathau penodol o Ymyriadau
- dadansoddiad cysylltiedig o’r ffordd y mae gwahanol agweddau ar ddyluniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (blaenoriaethau buddsoddi, modelau cyflawni a strwythurau lleol) wedi cefnogi neu danseilio’r effeithiau hynny a’r ffordd y gallai hyn fod wedi amrywio rhwng gwahanol fathau o le
Efallai y bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn dewis cynnal rhediadau pellach o’r model atchwel ar ôl i’r gwerthusiad gael ei gwblhau ar ddiwedd 2025 er mwyn darparu ar gyfer effeithiau yn dod i’r golwg yn raddol yn y tymor hwy, fel y gellid disgwyl gyda rhaglen o faint Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae cynsail o werthusiadau ar lefel rhaglen cymhleth tebyg y gallai effeithiau gymryd hyd at 5-10 i ymddangos. Bydd parhau i ddatblygu’r model atchwel ar ôl 2025 yn ei alluogi i gefnogi’r gwaith o werthuso tranches o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn y dyfodol.
Llinell amser
Noder: Mae’r llinell amser isod yn un ddangosol yn amodol ar ganlyniadau caffael a gwaith dylunio pellach ar y cam dichonoldeb
Carreg filltir | Amserlen ddisgwyliedig |
---|---|
Datblygu model cysyniadol a’i brofi gyda’r Grŵp Cynghori Technegol | Gwanwyn 2023 |
Mae’r gwaith o gasglu data yn dechrau | Diwedd Gwanwyn – dechrau Haf 2023 |
Datblygu’r model prototeip a llunio fersiynau dilynol ohono | Haf – Diwedd 2023 |
Datblygu’r model llawn | Diwedd 2023 – Haf 2025 |
Canlyniadau cychwynnol y model yn barod i’w cyhoeddi | Diwedd 2025 |
Rhediadau posibl o’r model yn y dyfodol er mwyn nodi effeithiau hirdymor | 2026 ymlaen |
Gwerthuso Lluosi
Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, caiff rhaglen Lluosi ei chynnal gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fel rhan o gynlluniau buddsoddi lleoedd o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU. Ceir rhagor o wybodaeth yma. Yn Lloegr, yr Adran Addysg sy’n gyfrifol am gyflwyno Lluosi i leoedd, tra bydd Awdurdodau Cyfunol ac Awdurdodau Cyfunol Maerol ac ALlau haen uchaf eraill yn hawlio’r symiau a ddyrannwyd iddynt drwy gynlluniau buddsoddi a gymeradwywyd gan yr Adran Addysg sy’n ymwneud yn benodol â Lluosi ac sy’n wahanol i gynlluniau buddsoddi lleoedd o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU. Ceir manylion pellach am nodau a model ariannu Lluosi yn Lloegr yma.
Mae cyllid ychwanegol o dan raglen Lluosi hefyd wedi’i ddyrannu i’r Adran Addysg i gynnal rhaglen ‘yr hyn sy’n gweithio’ o weithgarwch gwerthuso, a fydd yn cynnwys adolygiad systematig o’r sail dystiolaeth bresennol yn seiliedig ar ymyriadau rhifedd, gwerthusiad o’r broses, yr effaith a gwerth am arian ar lefel rhaglen a set o hapdreialon dan reolaeth er mwyn creu’r sail dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio er mwyn gwella rhifedd oedolion. Mae’r adran hon yn canolbwyntio’n bennaf ar y gwerthusiad ar lefel rhaglen.
Bydd rhai agweddau o’r gwerthusiad o raglen Lluosi, fel y’u nodir yn yr adran hon, yn cwmpasu’r DU gyfan, gyda gweithgarwch ychwanegol yn Lloegr. Mae hyn yn unol â natur ddatganoledig polisi sgiliau oedolion a’r ffaith bod model cyflawni ehangach Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyd-fynd yn agosach â Chronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU o gymharu â Lloegr. Yn benodol:
- cynhelir gwerthusiad cyflawn o’r broses ac effeithiau yn Lloegr yn unig, a fydd yn cynnwys ALlAau yn Lloegr yn unig
- cynhelir astudiaethau achos ar lefel lle (a fydd yn cynnwys gwerthusiad o’r broses lle y bo’n bosibl) ym mhob gwlad, gydag ALlAau yng Nghymru a’r Alban a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd rhan ynddynt
Nodau
Mae amcanion craidd y gwerthusiad o broses, effeithiau a gwerth am arian rhaglen Lluosi fel a ganlyn:
- deall pa mor effeithiol y mae Lluosi yn cael ei rhoi ar waith mewn lleoedd, er mwyn gwella’r ffordd y caiff y rhaglen ei chyflwyno yn ystod ei blynyddoedd olaf
- asesu effaith a gwerth am arian rhaglen Lluosi, gan gynnwys a yw wedi cyflawni ei nodau ac yn erbyn ei metrigau llwyddiant gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau lled-arbrofol, arolygu ac ansoddol
- crynhoi gwersi a ddysgwyd a nodi arferion gorau, yn enwedig yn lleol, er mwyn bwydo i mewn i’r sail dystiolaeth ar raglenni sgiliau oedolion a llywio’r gwaith o’u cyflwyno yn y dyfodol.
Strwythur
Bydd y gwerthusiad o raglen Lluosi wedi’i rannu’n dri cham – sef y cam dichonoldeb, y prif gam a’r cam adrodd a lledaenu terfynol, fel y crynhoir yn Ffigur 6 isod:
Ffigur 6: Strwythur y gwerthusiad o raglen Lluosi
Mae Ffigur 6 yn nodi’n weledol strwythur y gwerthusiad o raglen Lluosi fel y’i disgrifir mewn geiriau yng ngweddill yr adran hon, wedi’i rannu’n gam dichonoldeb, prif gam a cham adrodd terfynol.
O fewn y prif gam, mae’r diagram yn ymhelaethu ar y gweithgareddau o dan y penawdau effaith, proses ac asesiad o werth am arian. O dan y rhain, mae’r diagram yn rhestru’r gweithgareddau trawsbynciol a fydd yn effeithio ar y tri chategori, gan gynnwys dadansoddi data eilaidd, arolygon meintiol, ymchwil ansoddol a’r defnydd o adroddiad interim gan leoedd. Ceir manylion pellach am y ffordd y caiff pob un o’r rhain eu defnyddio yn y gwerthusiad yng ngweddill yr adran hon.
Bydd y cam dichonoldeb yn cynnwys datblygu cwestiynau cyffredinol y gwerthusiad a’r cwestiynau ymchwil unigol sydd wedi’u cynnwys ynddynt a llunio fersiynau dilynol ohonynt. Drwy wneud hyn, bydd yr Adran Addysg yn nodi pa gwestiynau yw’r rhai pwysicaf i’w hateb a chytuno ar ddulliau casglu data.
Yn Lloegr, bydd y cam hwn hefyd yn cynnwys dadansoddiad disgrifiadol rhagarweiniol o ffynonellau data gan gynnwys Cofnodion Dysgwyr Unigol, Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion, data paneli cynrychioliadol ar raddfa fawr a chynlluniau buddsoddi lleol lleoedd o dan raglen Lluosi, er mwyn deall y canlynol:
- pa grwpiau sydd fwyaf neu leiaf tebygol o gymryd rhan yn rhaglen Lluosi
- newidiadau cyfatebol i gyfanswm y dysgwyr mewn cyrsiau perthnasol dros amser
- y ffordd orau o fesur effeithiau ar rifedd ac enillion er mwyn creu grwpiau gwrthffeithiol a phennu mesurau canlyniadau
Bydd y cam dichonoldeb hefyd yn ceisio defnyddio tystiolaeth a gasglwyd er mwyn cefnogi gwaith ehangach ym mhob rhan o’r Llywodraeth ar werthuso rhaglenni sgiliau oedolion a datganoli’r Gyllideb Addysg i Oedolion. Yn yr un modd, bydd gwerthusiad o raglen Lluosi yn helpu i fwydo i mewn i’r gwaith hwn o’r cyfeiriad arall.
Bydd y cam gweithgareddau gwerthuso yn cynnwys y rhan fwyaf o’r maes gwaith, wedi’i rannu’n dri llinyn cyffredinol: gwerthusiad o’r effaith, gwerthusiad o’r broses ac asesiad o werth am arian, gyda gweithgareddau penodol o dan bob llinyn yn cael eu nodi yn Ffigur 6 uchod.
Bydd y cam adrodd a lledaenu terfynol yn adeiladu ar yr holl ganfyddiadau ymchwil ac yn eu cysylltu ar draws gwahanol ffrydiau gwaith mewn cyfres o adroddiadau manwl a gaiff eu rhannu ag ALlAau a’u cyhoeddi.
Methodoleg a chasglu data
Mae’r union ddulliau ar gyfer gwahanol elfennau’r gwerthusiad yn dal i gael eu datblygu fel rhan o’r cam dichonoldeb. Bydd y dulliau a’r ffynonellau data cyffredinol, fel y’u rhagwelir ar hyn o bryd, yn cynnwys y canlynol:
Datblygu grwpiau gwrthffeithiol (Lloegr yn unig): er mwyn cymharu cynnydd buddiolwyr rhaglen Lluosi â set gymeradwy o unigolion nad ydynt yn cymryd rhan yn y rhaglen, caiff grŵp (rheolydd) gwrthffeithiol ei lunio gan ddefnyddio dysgwyr wedi’u paru’n ystadegol nad ydynt yn cymryd rhan yn rhaglen Lluosi a ddewisir o ddata a ddelir gan yr Adran Addysg am bob dysgwr a ariennir o’r Gyllideb Addysg i Oedolion yng Nghofnodion Dysgwyr Unigol a Chronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion. Er mwyn i hyn allu digwydd, mae’r Adran Addysg yn cynnal arolwg gyda hapsampl o ddysgwyr wedi’u paru’n ddemograffig ac ar lefel rhifedd nad ydynt yn cymryd rhan yn rhaglen Lluosi ac a gafwyd o’r Gyllideb Addysg i Oedolion er mwyn llywio’r grŵp gwrthffeithiol. Er mwyn cyfrif ymhellach am duedd wrth ddethol, ar yr un pryd mae’r Adran Addysg yn ystyried gwerth grŵp gwrthffeithiol ychwanegol, a fydd yn cynnwys oedolion â sgiliau rhifedd isel nad ydynt yn cael hyfforddiant sgiliau sylfaenol (h.y., dysgwyr nad ydynt yn cael eu hariannu o’r Gyllideb Addysg i Oedolion), er mwyn sicrhau bod unrhyw gymariaethau yn fwy cadarn. Bydd y gwaith o ddatblygu grwpiau gwrthffeithiol yn benodol ar gyfer rhaglen Lluosi yn ystyried gwaith gwrthffeithiol sy’n mynd rhagddo ar yr un pryd ar gyfer y gwerthusiad ar lefel ymyriad o Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU a nodir mewn mannau eraill yn y strategaeth hon.
Arolygon meintiol (Lloegr yn unig): Cynhelir set wahanol o arolygon ymhlith amrywiaeth o gyfranogwyr yn rhaglen Lluosi a ddewisir ar hap er mwyn asesu boddhad â’r rhaglen, barn ar ei heffeithiolrwydd, ei chryfderau a’r hyn y gellid ei wella. Defnyddir yr arolygon hefyd i gasglu gwybodaeth ychwanegol am gefndiroedd, profiadau ac agweddau’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, er mwyn helpu’r Adran Addysg i ddeall mwy am y bobl y mae rhaglen Lluosi yn eu cyrraedd, y ffordd y mae’n cael ei chyflwyno a sut mae barn am raglen Lluosi yn amrywio ymhlith grwpiau gwahanol. Bydd arolygon yn cynnwys dysgwyr, ymarferwyr, darparwyr, staff ALlAau a chyflogwyr lleol (ymhlith eraill).
Ymchwil ansoddol (ledled y DU): fe’i defnyddir i ystyreid yn fanylach themâu a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg drwy’r gwaith arolygu ansoddol. Gallai hyn gynnwys:
- cyfweliadau manwl â dysgwyr o dan Raglen Lluosi a adawodd eu cyrsiau; darparwyr ymchwil sy’n cynnal hapdreialon dan reolaeth o dan raglen Lluosi a staff Llywodraeth ganolog y DU sy’n ymwneud â datblygu a chyflwyno’r rhaglen ym mhob rhan o’r Adran Ddysg, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau (ESFA).
- astudiaethau achos mewn awdurdodau lleol penodol er mwyn deall yn fanwl sut y cafodd cynlluniau buddsoddi eu datblygu, sut maent yn gwario cyllid Lluosi, sut maent wedi asesu gwerth am arian y gwariant hwn (yn arbennig dulliau nad ydynt yn gysylltiedig â’r ystafell ddosbarth) yn lleol a sut maent yn osgoi dyblygu â gwariant lleol arall o’r Gyllideb Addysg i Oedolion. Bydd y rhain yn wahanol i’r astudiaethau achos seiliedig ar le a gynhelir ar gyfer y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU.
Bydd y gwerthusiad o raglen Lluosi hefyd yn dibynnu’n fawr ar ddadansoddiad eilaidd o ddata, a fydd yn paru ac yn cysylltu data a gasglwyd drwy arolygon a dulliau ymchwil sylfaenol eraill gan ddefnyddio dynodyddion cyffredin i greu darlun mor gyflawn â phosibl o ddysgwyr. Gallai hyn gynnwys:
- yn Lloegr, cysylltu data Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion, Cofnodion Dysgwyr Unigol a Chanlyniadau Addysg Hydredol er mwyn olrhain cynnydd i ymgymryd â chyfleoedd dysgu pellach neu i mewn i’r farchnad lafur
- data adroddiadau chwarterol a chwe misol, gwybodaeth reoli a data o gynlluniau buddsoddi lleol
- data a gasglwyd fel rhan o asesiadau diagnostig o ddysgwyr cyn ac ar ôl ymyriadau Lluosi, ochr yn ochr â chyfweliadau dilynol â’r rhai sydd wedi gwneud cynnydd ar y rhaglen
- dadansoddi setiau data ehangach a gasglwyd er mwyn ategu’r gwerthusiad ehangach o effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn enwedig lle maent yn ymwneud ag ymyriadau sy’n ymwneud â phobl a sgiliau a all orgyffwrdd â nodau Lluosi
Allbynnau
Bydd allbynnau allweddol yn cynnwys:
- adolygiad systematig ledled y DU o’r sail dystiolaeth ar gyfer ymyriadau rhifedd, a fydd yn helpu i roi cyd-destun y dirwedd y bydd rhaglen Lluosi yn cyflawni o’i mewn, yn tynnu sylw at arferion da hanesyddol ac yn llywio’r gwaith o fireinio cwestiynau’r gwerthusiad ar y cam dichonoldeb
- pedwar adroddiad interim, gydag o leiaf un y flwyddyn yn cael ei ddarparu, a fydd yn cyflwyno unrhyw ganfyddiadau newydd a thrawsbynciol o weithgarwch gwerthuso hyd hynny. Caiff y canfyddiadau o’r adroddiadau hyn eu rhannu ag ALlAau ac efallai y bydd yr Adran Addysg yn ystyried eu cyhoeddi os yw hynny’n briodol.
- adroddiadau annibynnol, wedi’u grwpio yn ôl gweithgareddau ymchwil tebyg. Ar gyfer pob grŵp o weithgareddau, bydd yr Adran Addysg a phartneriaid gwerthuso yn cyflwyno un adroddiad y flwyddyn, a fydd yn ymdrin â phrif ganfyddiadau pob grŵp o weithgareddau ymchwil.
- adroddiad gwerthuso ysgrifenedig terfynol a fydd yn rhoi atebion cynhwysfawr i holl gwestiynau’r gwerthusiad, wedi’u trefnu yn ôl yr elfen o’r gwerthusiad (effaith, proses a gwerth am arian). Bydd yn defnyddio’r adroddiadau annibynnol i nodi naratif ar gyfer effeithiau, llwyddiannau a phroblemau rhaglen Lluosi ledled y DU, ynghyd ag argymhellion clir ar gyfer cynllunio rhaglenni a’u rhoi ar waith yn y dyfodol
- adroddiad i ymarferwyr, a fydd yn grynodeb hawdd ei ddeall o ganfyddiadau gwerthuso allweddol, gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau a argymhellir wedi’i anelu at randdeiliaid lleol sy’n cymryd rhan yn y gwaith o gynnal ymyriadau Lluosi
Llinell amser
Noder: Mae’r llinell amser isod yn un ddangosol yn amodol ar ganlyniadau caffael a gwaith dylunio pellach ar y cam dichonoldeb
Carreg filltir | Amserlen ddisgwyliedig |
---|---|
Y cam dichonoldeb | Diwedd 2022 – Gwanwyn 2023 |
Maes gwaith ar gyfer arolygon dysgwyr | Ion 2022 – Gwanwyn 2025 |
Maes gwaith ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau ymchwil eraill | Gwanwyn 2023 – Gwanwyn 2025 |
Cyfweliadau manwl â rhanddeiliaid (sy’n cynnwys ALlAau) | Diwedd 2023 – Dechrau 2024 Diwedd 2024 – Dechrau 2025 |
Dosberthir adroddiad interim 1 i ALlAau | Haf 2023 |
Dosberthir adroddiad interim 2 i ALlAau | Gwanwyn 2024 |
Dosberthir adroddiad interim 3 i ALlAau | Haf/Hydref 2024 |
Dosberthir adroddiad interim 4 i ALlAau | Gwanwyn 2025 |
Cyhoeddir yr adroddiadau terfynol | Haf – Hydref 2025 |
Adnoddau gwerthuso a ffynonellau data
Arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd
Mae nod cyffredin Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o feithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU (yn unol â Chenhadaeth 9 yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro) yn gofyn am ddull mwy cynnil o fesur llwyddiant o gymharu â’r un a fabwysiadwyd ar gyfer cronfeydd twf lleol blaenorol.
Mae balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd yn fater o ymdeimlad a barn unigol yn ogystal â chanlyniadau pendant: mae a wnelo ‘balchder mewn lle’ i ryw raddau â sut mae pobl yn teimlo am eu hardal leol ac er y gall ‘cyfleoedd bywyd’ gael eu mesur gan ddefnyddio gwahanol fetrigau – er enghraifft, nifer yr unigolion sy’n symud ymlaen i addysg uwch a swyddi sgìl uchel – ac astudiaethau hydredol o garfanau (megis y ‘Life Study) (sef dulliau sydd eisoes yn cael eu defnyddio i wneud hynny), mae hefyd yn cynnwys elfen gref sy’n seiliedig ar deimladau o ran sut mae pobl yn teimlo am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Mae hyn yn gofyn am ddull gwerthuso sy’n mynd y tu hwnt i archwilio canlyniadau ac allbynnau safonol drwy ddefnyddio dulliau casglu data newydd sy’n cofnodi barn unigolion ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd. Dyma nod yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd yng nghyd-destun Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Bydd yr arolygon yn hwyluso elfennau eraill o’r gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy gynnig ffordd newydd ac uniongyrchol o ddeall yr effaith y mae gweithgarwch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – yn gyffredinol a gan gyfeirio at ymyriadau penodol – yn ei chael ar farn pobl ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ledled y DU ac mewn lleoedd penodol.
Yng nghyd-destun y dirwedd twf lleol ehangach, bydd yr arolygon hefyd yn cynnig ffordd o fesur newid mewn canfyddiadau o ffyniant bro (y mae meithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd yn rhan allweddol ohono) yn genedlaethol ac yn lleol er mwyn helpu i ddeall effaith rhaglenni eraill yng ngofod polisi Ffyniant Bro.
Is-elfennau arolygon
Caiff data arolygon ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd eu casglu drwy bedair sianel:
- Arolwg Bywyd Cymunedol: mae’r Arolwg Bywyd Cymunedol wedi’i gynnal fel arolwg ar-lein ers 2012, gan gasglu data o tua 10,000 o ymatebwyr y flwyddyn yn Lloegr yn unig, wedi’u cyfuno i lefel ranbarthol (ITL1). Mae’n cynnwys cwestiynau am foddhad â lle, ymgysylltu â’r gymuned, balchder dinesig a chydlyniant cymdeithasol ac mae eisoes yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth i lunwyr polisi ym mhob rhan o Lywodraeth y DU. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am gynnal yr Arolwg Bywyd Cymunedol craidd.
- Ychwanegiad lleol at yr Arolwg Bywyd Cymunedol: er mwyn diwallu anghenion gwerthuso sy’n ymwneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn well, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn datblygu elfen ychwanegol i gylch nesaf yr Arolwg Bywyd Chwaraeon - sef ‘yr ychwanegiad lleol’. Bydd yr ychwanegiad lleol yn defnyddio’r un set o gwestiynau a’r un fethodoleg â’r Arolwg Bywyd Cymunedol craidd, ond gan ddefnyddio samplau mwy o faint i ddarparu amcangyfrifon ar lefel ALlA. Bydd hyn yn hanfodol i’r rhannau hynny o’r gwerthusiad – megis yr asesiad o effeithiau ar lefel ymyriad a’r astudiaethau achos seiliedig ar le – sy’n gofyn am ddata manylach ar lefel ALlA.
-
Arolygon Balchder mewn Lle a Chyfleoedd Bywyd Lleol: ochr yn ochr ag ehangu cwmpas yr Arolwg Bywyd Cymunedol, ar yr un pryd bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnal cyfres o arolygon ledled y DU a fydd yn canolbwyntio – yn yr ALlAau/daearyddiaethau yng Ngogledd Iwerddon sy’n cymryd rhan yn yr elfennau ar lefel ymyriad a lle – ar feithrin dealltwriaeth o farn leol ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yr ymyriadau y mae’n eu cefnogi, y ffordd y mae’n cael ei rhoi ar waith mewn lleoedd a’i heffeithiau penodol ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd. Caiff hyn ei wneud drwy ddau amrywiolyn:
- Mewn ardaloedd sy’n destun astudiaethau achos: cwestiynau ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar gyd-destun lleol pob ardal, ymwybyddiaeth pobl o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol ochr yn ochr â rhaglenni twf lleol cysylltiedig (megis y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Trefi) a lefelau sylfaenol llesiant.
- Ardaloedd lle cynhelir gwerthusiad ar lefel ymyriad: cwestiynau ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar ganfyddiad pobl o ymyriadau neu brosiectau sy’n cael effaith benodol mewn ALlA/daearyddiaeth benodol yn hytrach na Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gyffredinol - ar gyfer yr amrywiolyn hwn, byddai cyfranogwyr yn yr arolygon yn cael eu dewis ar y sail eu bod wedi’u nodi’n fuddiolwyr uniongyrchol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - naill ai drwy gyfranogi’n uniongyrchol mewn ymyriad ar lefel ymyriad (e.e. cwrs sgiliau cyflogadwyedd) neu drwy fod yn byw yn naearyddiaeth ymyriad seiliedig ar ardal yr effeithir arni (e.e. byw ger man gwyrdd newydd arfaethedig).
- Adnodd arolygu lleol ar gyfer ALlAau: caiff adnodd hyblyg ei ddatblygu er mwyn i ALlAau a rhanddeiliaid lleol allu cynnal arolygon a chasglu data ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd eu hunain, er mwyn cefnogi gwerthusiadau lleol lle y bwriedir eu cynnal a gallu cymharu â daearyddiaethau eraill. Ni fydd yn orfodol defnyddio’r adnodd; ni ddisgwylir i ALlAau ei defnyddio i gasglu data ar gyfer y gwerthusiad cyffredinol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Bydd gweddill y bennod hon yn canolbwyntio ar y ddau bwynt bwled olaf, y mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gyfrifol am eu cyflawni yn benodol i gefnogi’r gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Ceir rhagor o wybodaeth am yr Arolwg Bywyd Cymunedol yma.
Dengys Ffigur 7 sut y bydd y gwahanol arolygon a ddisgrifiwyd uchod yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ar draws ystod o raddfeydd gofodol.
Ffigur 7: is-elfennau arolygon
Mae Ffigur 7 yn dadansoddi is-elfennau’r arolygon fel y’u disgrifiwyd yn gynharach yn yr adran hon, gan eu grwpiau’n weledol ar sail y canlynol:
- a ydynt yn cael eu cyflawni gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (yr Arolwg Bywyd Cymunedol a’r ychwanegiad lleol at yr Arolwg Bywyd Cymunedol) neu’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd sy’n ymwneud â lleoedd ac ymyriadau penodol, adnodd arolygu lleol)
- y raddfa ofodol lle y byddant yn gweithredu: rhanbarthol ac yn uwch (Arolwg Bywyd Cymunedol), lefel ALlA (ychwanegiad lleol at yr Arolwg Bywyd Cymunedol, arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ar lefel lle) neu lefel ymyriad (arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ar lefel ymyriad)
Dengys y diagram wedyn y bydd pob un o’r is-elfennau hyn yn bwydo i mewn i elfennau ar lefel ymyriad, lle a rhaglen y gwerthusiad ehangach o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Rhoi’r arolygon ar waith
Caiff gwaith ar yr arolygon ei rannau’n ddau gam, sef: y cam datblygu a’r cam gweithredu.
Bydd y cam datblygu yn cynnwys:
- datblygu’r set graidd o gwestiynau am falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd i’w defnyddio yn yr arolygon
- datblygu adnoddau i’w ddefnyddio i gasglu data arolygon
- nodi strategaethau samplu cyffredinol ar gyfer yr amrywiolion o’r arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd sy’n canolbwyntio ar ymyriadau ac astudiaethau achos
- datblygu’r adnodd arolygu lleol ar gyfer ALlAau, yn unol â’r egwyddorion yn y tri phwynt bwled uchod
Bydd y cam gweithredu yn cynnwys:
- mireinio dyluniad yr arolygon ar gyfer pob ymyriad a lle (gan gynnwys cynnwys cwestiynau sy’n ymwneud ag ymyriadau/lleoedd penodol)
- mireinio’r strategaethau samplu unigol a nodwyd yn ystod y cam datblygu
- wedyn, cynnal yr arolygon eu hunain, gan gynnal (i ddechrau) ddau gyrch arolygu ym mhob ALlA sy’n cymryd rhan yn elfennau ar lefel ymyriad neu astudiaethau achos y gwerthusiad.
Er mwyn gallu cymharu gwahanol elfennau’r arolygon a nodir yn Ffigur 7, bydd y set sylfaenol o gwestiynau ar gyfer arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn adeiladu ar y set o gwestiynau a ddefnyddir ar gyfer yr Arolwg Bywyd Cymunedol yn hytrach na’i disodli – sy’n golygu y bydd pob arolwg yn rhannu’r un cynnwys craidd. Caiff rhagor o gwestiynau sy’n benodol i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU eu hychwanegu drwy’r cam datblygu a fydd yn ymwneud ag ymyriadau a/neu leoedd yn ôl yr angen, gan geisio, lle y bo’n bosibl, ddilyn naws a fformat tebyg i’r Arolwg Bywyd Cymunedol craidd. Bydd y cwestiynau hyn ymdrin â phynciau sy’n cynnwys y canlynol ond nad ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- Cyd-destun lleol lleoedd, gan gynnwys lefelau sylfaenol cyfalaf cymdeithasol, cydnerthedd economaidd a llesiant.
- Ymwybyddiaeth pobl o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, o ran y rhaglen yn gyffredinol ac ymyriadau penodol.
- Barn oddrychol ar berthnasedd effeithiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan fuddiolwyr uniongyrchol a’r boblogaeth gyffredinol.
Er mwyn mesur balchder mewn lle, bydd yr arolygon yn cynnwys (ymhlith cwestiynau eraill) gwestiynau sy’n asesu awydd pobl i adael eu hardaloedd lleol neu aros ynddynt, mynediad at gyfleusterau diwylliannol a dinesig a chyfleusterau chwaraeon, mynediad i fannau gwyrdd, lefel diogelwch canfyddedig ac amlygiad i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddeall y ffordd orau o ddefnyddio’r arolygon i asesu cyfleoedd bywyd ar y cyd â setiau data gweinyddol a hydredol presennol.
Fel rhan o’r broses o ddatblygu a mireinio cwestiynau ar gyfer yr arolwg ar lefel lle a’r arolwg ar lefel ymyriad, defnyddir profion gwybyddol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl gwestiynau a gwybodaeth gyd-destunol mor glir, diamwys a hawdd eu deall â phosibl.
Cynhelir pob arolwg ddwywaith yn ystod cylch cyllido Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chyrch 1 yn cael ei gynnal yn 2023/24 a chyrch 2 yn cael ei gynnal yn 2024/25. O edrych ar fersiynau blaenorol o’r Arolwg Bywyd Cymunedol, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn amcangyfrif, er mwyn mesur effeithiau hirdymor Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, y bydd angen cynnal cyrchoedd rheolaidd pellach ar gyfer pob un ar ôl i gyfnod y rhaglen bresennol ddod i ben ym mis Mawrth 2025.
Methodoleg a chasglu data
Caiff fframiau samplu cyffredinol a daearyddiaethau samplu ar gyfer y ddau arolwg eu datblygu a’u profi yn ystod cam datblygu’r arolygon, gan weithio gydag ALlAau a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon i sefydlu grwpiau priodol o fuddiolwyr neu boblogaethau wedi’u targedu fel y bo’n briodol.
Ar gyfer yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ar lefel ymyriad, caiff poblogaethau samplu eu pennu gan gyfeirio at y grwpiau triniaeth a rheolydd a luniwyd fel rhan o’r gwerthusiad o effeithiau ar lefel ymyriad yr ymdriniwyd â nhw yn gynharach yn y strategaeth hon.
Yn achos yr ymyriadau ar lefel lle, byddai’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn disgwyl i samplau ddod o bob rhan o’r ALlA sy’n destun astudiaeth achos (neu ardal ALl yng Ngogledd Iwerddon) dan sylw, er y gallai fod angen cael samplau o ardal ddaearyddol wedi’i diffinio’n fwy cyfyng.
Ym mhob achos, caiff fframiau samplu eu llunio er mwyn cael canlyniadau ystadegol arwyddocaol. Yn achos yr arolygon ar lefel ymyriad, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn amcangyfrif y byddai hyn yn gofyn am samplau o 500-1000 o ymatebwyr sy’n oedolion 18 oed a throsodd fesul cyrch fesul ymyriad. Oni fydd ymyriadau ar raddfa fawr, er mwyn sicrhau sampl digon mawr, efallai y bydd angen cyfuno buddiolwyr ar draws sawl ymyriad tebyg mewn gwahanol ALlAau/lleoedd. Ystyrir hyn ymhellach yn ystod y cam datblygu ac ar y cyd â gwaith cyfatebol ar y gwerthusiad o effeithiau ar lefel ymyriad er mwyn llunio grwpiau triniaeth a rheolydd ar draws ALlAau.
Yn achos arolygon ar lefel lle, byddai sampl fwy o faint o tua 1,500 o ymatebwyr fesul cyrch yn cael ei thargedu, o gofio mai nod yr astudiaethau achos yw cwmpasu amrywiaeth eang o grwpiau poblogaeth ac ymyriadau ym mhob ALlA/lle.
Caiff data arolygon ar gyfer y cwestiynau craidd am falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd a’r amrywiolion ar lefel ymyriad a lle eu casglu’n uniongyrchol gan gyfranogwyr gan ddefnyddio platfform arolygon ar-lein. Caiff y platfform ei ddylunio er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio ar gyfer pob cyfranogwr a chaiff ei brofi gan ddefnyddwyr drwy gydol y cam datblygu er mwyn sicrhau hynny.
Ochr yn ochr â’r arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd a arweinir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, caiff adnodd arolygu ei ddatblygu er mwyn i ALlAau allu casglu eu data balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd eu hunain gan ymatebwyr er mwyn cefnogi gwaith gwerthuso lleol dewisol a’r gwaith o ddatblygu eu polisïau eu hunain. Caiff yr adnodd ei lunio a’i ryddhau i ALlAau ar ddechrau’r cam datblygu er mwyn rhoi cyfle i ALlAau ei ymgorffori mewn prosesau cynllunio gwerthusiadau lleol ochr yn ochr â’r arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd a arweinir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
Bydd yr adnodd arolygu lleol yn adlewyrchu’r cwestiynau a ddatblygir ar gyfer yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd a arweinir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, gyda chyfle i ALlAau ychwanegu cwestiynau pwrpasol ychwanegol lle y bo’n briodol.
Rhoddir canllawiau manwl i ALlAau ochr yn ochr â’r adnodd arolygu a fydd yn nodi sut i ddatblygu strategaeth samplu ar lefel lle ac ar lefel ymyriad ac, wedyn, sut i gasglu a phrosesu’r data, mewn ffordd sy’n gyson â’r strategaeth a ddilynir gan yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ehangach. Caiff y gwaith o ddatblygu’r adnodd arolygu ei hun ei ariannu gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
Allbynnau arolygon
Ni fydd yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd sy’n ymwneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithredu fel allbynnau yn eu rhinwedd eu hunain. Yn hytrach, byddant yn hwyluso rhannau eraill o’r gwerthusiad. Am y rheswm hwn, ar hyn o bryd nid yw’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ar wahân a fydd yn ymdrin â chanlyniadau’r arolygon ar eu pen eu hunain, er y gallai ddewis darparu allbynnau a chanlyniadau cyfunol a ddewisir drwy eu cynnwys mewn adroddiadau sy’n ymdrin ag elfennau eraill y gwerthusiad neu ar wahân fel y bo’n briodol.
Caiff canlyniadau a methodoleg yr Arolwg Bywyd Cymunedol eu cyhoeddi’n llawn yn yr un modd â fersiynau blaenorol. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth ychwanegol a gesglir fel rhan o’r ychwanegiad lleol. Ceir cyhoeddiadau’r Arolwg Bywyd Cymunedol ar gyfer blynyddoedd blaenorol yma.
Bydd yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd yn rhan hollbwysig o’r gwerthusiadau ar lefel ymyriad ac ar lefel lle yr ymdrinnir â nhw mewn mannau eraill yn y strategaeth hon.
Caiff yr adnodd arolygu lleol, ynghyd â chanllawiau ar sut i’w ddefnyddio, ei ddarparu i leoedd yn 2023. Bydd yr adnodd yn helpu ALlAau i nodi effaith eu hymyriadau eu hunain ar falchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ac anogir ALlAau i gyhoeddi allbynnau eu harolygon eu hunain lle y bo’n gymwys.
Llinell amser
Noder: Mae’r llinell amser isod yn un ddangosol yn amodol ar ganlyniadau caffael, llinellau amser cyflawni’r Adran dros Ddiwydiant, y Cyfryngau a Chwaraeon a gwaith dylunio pellach ar y cam dichonoldeb.
Carreg filltir | Amserlen ddisgwyliedig |
---|---|
Yr Arolwg Bywyd Cymunedol a’r ychwanegiad lleol | |
Penodi contractwr | Dechrau Gwanwyn 2023 |
Datblygu cwestiynau’r arolwg a’r strategaeth samplu | Gwanwyn – Haf 2023 |
Cyrch cyntaf yr arolwg | Haf – Hydref 2023 |
Ail gyrch yr arolwg | Dechrau – Gwanwyn 2025 |
Yr arolygon Balchder mewn Lle a Chyfleoedd Bywyd Lleol | |
Penodi contractwr | Dechrau Gwanwyn 2023 |
Datblygu cwestiynau’r arolygon a strategaethau samplu | Gwanwyn – Haf 2023 |
Cynnal arolygon yn y maes yn ôl y gofyn – wedi’u hamseru i gyd-fyn â’r gwerthusiadau ar lefel ymyriad ac ar lefel lle | Yn parhau o 2023 i 2025 |
Yr adnodd arolygu lleol | |
Datblygu cwestiynau’r arolygon a chanllawiau ar sut i’w defnyddio | Gwanwyn – Haf 2023 |
Yn cael eu defnyddio gan ALlAau | Yn parhau o Wanwyn – Haf 2023 ymlaen |
Trosolwg o ffynonellau data
Bydd y gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau data, sy’n wneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a lleoedd. Bydd rhai ffynonellau data - er enghraifft, data gweinyddol a ddelir gan y SYG ar gynhyrchiant, gweithgarwch economaidd a demograffeg is-ranbarthol - yn bwydo i mewn i sawl elfen, tra bydd eraill yn ymwneud ag elfen benodol.
Bydd yr union ffynonellau data a ddewisir i’w defnyddio ar gyfer pob elfen yn dibynnu ar waith dylunio pellach fel rhan o gam dichonoldeb pob elfen. Mae Tabl 5 yn nodi tacsonomeg gyffredinol, nad yw’n yn hollgynhwysfawr, o’r gwahanol fathau o ddata y mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn disgwyl eu gweld yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwerthusiad yn gyffredinol.
Tabl 5: tacsonomeg lefel uchel ffynonellau data Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Math o ddata | Yn ymwneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU? | Graddfa ofodol | Disgrifiad |
---|---|---|---|
Buddiolwr | Ydy | Unigolyn | Gwybodaeth adnabyddadwy (cyfeirnodau personol unigryw (NINOs) a rhifau cofrestru cwmnïau (CRNs)) am unigolion a busnesau a allai, mewn egwyddor, gael budd o ymyriad penodol a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Fe’i defnyddir ochr yn ochr â data paru er mwyn olrhain effaith ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn fanwl |
Paru | Nac ydy | Unigolyn | Credyd Cynhwysol, cofnodion enillion a threth unigolion a ddelir gan CThEF a’r Adran Gwaith a Phensiynau, i’w cyfuno â data buddiolwyr syn ymwneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn olrhain effaith ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. |
Seiliedig ar arolygon | Cymysg | Unigolyn | Ymatebion i arolygon gan unigolion sy’n cymryd rhan yn yr Arolwg Bywyd Cymunedol a gynhelir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd ychwanegol sy’n ymwneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar lefel ymyriad ac ar lefel lle. |
Monitro | Ydy | Ymyriad | Gwybodaeth fanwl a gesglir ar gyfer pob ALlA drwy gylch adrodd chwe misol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU am gynnydd a gwariant yn ôl prosiect ac ymyriad drwy’r allbynnau a’r canlyniadau y cytunwyd arnynt mewn cynlluniau buddsoddi lleoedd, ynghyd â manylion rhaglenni twf lleol eraill sy’n cael eu hategu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. |
Gweinyddol | Cymysg | ALlA | Data cyd-destunol a ddelir gan y SYG, Llywodraeth y DU ac ALlAau ar ddemograffeg, gweithgarwch economaidd a marchnadoedd llafur lleol a manylion cyllid arall (presennol a hanesyddol) a gafwyd gan leoedd a all orgyffwrdd â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU am strwythurau cyflawni prosiectau, partneriaid yn y sector preifat a’r trydydd sector a rhanddeiliaid lleol. |
Er mwyn lleihau beichiau ar ALlAau/partneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer pob rhan o’r gwerthusiad, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ceisio defnyddio data sy’n bodoli eisoes lle y bo’n bosibl ond, mewn rhai achosion, bydd angen i ALlAau/partneriaid lleol neu dderbynwyr grant (yn dibynnu ar ba rannau o’r gwerthusiad y maent yn cymryd rhan ynddynt) helpu i gasglu gwybodaeth ychwanegol. caiff data eu casglu drwy:
- adroddiadau rheolaidd ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU: fel y nodir yn y wybodaeth ychwanegol, bydd strwythurau adrodd llai manwl Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ei gwneud yn ofynnol i bob ALlA gyflwyno adroddiadau bob chwe mis ar wariant ar lefel prosiect ac ar lefel ymyriad a’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflawni allbynnau a chanlyniadau y cytunwyd arnynt, ynghyd â diweddariadau ansoddol chwarterol ar gynnydd. Er mwyn lleihau nifer y sianeli casglu data ychwanegol y bydd angen i ALlAau ddarparu gwybodaeth ar eu cyfer, bydd y templed adrodd hefyd yn cynnwys sawl maes yn ymwneud yn benodol â gwerthusiadau a fydd yn gofyn am wybodaeth am gronfeydd twf lleol eraill y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn eu hategu ym mhob lle a ffynhonnell unrhyw arian cyfatebol a ddefnyddir i ychwanegu at ddyraniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (neu fel arall). Bydd y wybodaeth hon yn bwysig i’r gwerthusiadau o effeithiau ar lefel ymyriad ac ar lefel rhaglen.
- drwy gontractwyr yn uniongyrchol: yn ogystal â monitro data a gesglir gan bob ALlA, bydd contractwyr ar gyfer pob un o’r elfennau yn casglu data ychwanegol yn ôl yr angen er mwyn helpu i gyflawni’r gwerthusiad. Bydd y wybodaeth a’r data penodol sydd eu hangen ar bob contractwr yn destun gwaith dylunio pellach yn ystod cam dichonoldeb pob elfen a chânt eu profi gyda phob ALlA sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad ar y cam hwn er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw geisiadau yn ymarferol ac yn gymesur. Bydd hefyd yn ofynnol i gontractwyr ar gyfer gwahanol elfennau gydweithio a rhannu data lle y bo’n bosibl er mwyn lleihau nifer y ceisiadau unigol am ddata ar gyfer ALlAau sy’n cymryd rhan mewn sawl rhan o’r gwerthusiad. Mae rhannau unigol pob elfen yn cynnwys mwy o fanylion am y mathau o ddata y byddant yn eu defnyddio.
Y tu hwnt i’r adroddiadau rheolaidd ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ni ddisgwylir i ALlAau ddechrau casglu data ar gyfer unrhyw ran o’r gwerthusiad nes i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau neu eu partneriaid gwerthuso gysylltu â nhw a gofyn iddynt wneud hynny ac ni ddisgwylir iddynt goladu data cyn hynny.
Lle y bo’n briodol ac yn unol â chanllawiau ar ddiogelu data, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ceisio cyhoeddi’r data a’r gwaith dadansoddi cyfunol sy’n sail i’r prif adroddiadau gwerthuso er mwyn darparu ar gyfer gwaith archwilio ac ymchwilio ychwanegol gan arbenigwyr a rhanddeiliaid allanol.
Caiff pob ffynhonnell data i gefnogi’r gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - gan gynnwys data personol lle y bo’n briodol - ei chasglu a’i phrosesu gan gydymffurfio’n llawn â chanllawiau ar ddiogelu data fel y’u nodir yn y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnal asesiad llawn o’r effaith ar ddiogelu data ar gyfer y gwerthusiad yn gyffredinol a bydd yn gyfrifol am lunio cytundebau diogelu data ag ALlAau a rhanddeiliaid lleol perthnasol eraill lle y bo angen er mwyn hwyluso’r gwaith o gasglu, rhannu a phrosesu data gyda’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, adrannau eraill y Llywodraeth a chontractwyr
Crynodeb o’r llinellau amser dangosol
Noder: dengys y crynodeb darluniadol o’r llinellau amser gerrig milltir lefel uchel ar gyfer pob elfen yn unig. Ceir llinellau amser mwy manwl ar gyfer pob elfen ar ffurf tabl yn adrannau perthnasol y strategaeth hon sy’n cyfateb i bob un.
Atodiad: tabl o Fathau o Ymyriadau â blaenoriaeth
Mae’r tabl isod yn nodi’r 21 o Fathau o Ymyriadau a ddewiswyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel blaenoriaeth ar gyfer gwerthuso effeithiau yn seiledig ar gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys pa mor benodol ydynt ac amcangyfrif o ba mor hawdd y gellir llunio grwpiau triniaeth a rheolydd er mwyn mesur eu heffeithiau. Bydd hyn yn lleihau nifer y mathau o ymyriadau ymhellach i restr derfynol o 10-15 yn ystod cam dichonoldeb y gwerthusiad ar lefel ymyriad. Ceir rhestr lawn o’r Mathau o Ymyriadau yma. Nid yw’r tabl isod yn cynnwys Mathau o Ymyriadau sy’n ymwneud yn benodol â’r REPF, y ceir rhestr ohonynt yma.
Lloegr
E1: Cyllid ar gyfer gwelliannau i ganol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys gwella hygyrchedd i bobl anabl, gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
E2: Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith cymunedol a chymdogaeth newydd neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhai sy’n gwella gallu cymunedau i wrthsefyll peryglon naturiol, megis llifogydd. Gallai hyn gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
E4: Mwy o gymorth i sefydliadau diwylliannol, hanesyddol a threftadaeth presennol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol.
E6: Cymorth ar gyfer celfyddydau lleol a gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol.
E10: Cyllid ar gyfer cyfleusterau, twrnameintiau, timau a chynghreiriau chwaraeon lleol; er mwyn dod â phobl at ei gilydd.
E5: Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd wed’i dirlunio er mwyn ‘atal troseddu drwy ddylunio’.
E8: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a’i harchwilio.
E9: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n cael effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn mannau lleol.
E13: Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys drwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
E3: Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol mewn mannau cyhoeddus ehangach.
E17: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau, teithiau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.
E24: Cyllid ar gyfer canolfannau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, darpariaeth cymorth i fusnesau, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (gan gynnwys menter gymdeithasol) a all gynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd drwy gamau cynnar datblygu a thwf drwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, gan gynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, coetsio, mentoriaeth a mynediad i leoliadau gwaith.
E30: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.
E18: Cefnogi Mabwysiadu ‘Made Smarter’: Rhoi cyngor arbenigol wedi’i deilwra, grantiau cyfatebol a hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn i BBaChau gweithgynhyrchu allu mabwysiadu atebion technoleg ddigidol ddiwydiannol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial; roboteg a systemau awtonomaidd; gweithgynhyrchu ychwanegion; y rhyngrwyd pethau; realiti rhithwir; dadansoddeg data.
E34: Cyrsiau sy’n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy Lluosi) a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl na allant gael hyfforddiant drwy’r gyllideb addysg i oedolion na chymorth cofleidiol a nodwyd uchod. Wedi’i ategu gan gymorth ariannol i ddysgwyr gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau.
E35: Gweithgareddau fel cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo lles.
E36: Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfleu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi hyder ac ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
E38: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy’n berthnasol i anghenion ardaloedd lleol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol nad yw’n cael ei sicrhau drwy ddarpariaeth arall.
E39: Cyrsiau sgiliau gwyrdd sydd wedi’u targedu at sicrhau bod gennym y gweithlu medrus i gyflawni uchelgeisiau sero net ac uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y Llywodraeth.
E41: Cyllid i gefnogi sgiliau digidol lleol.
E40: Parhau i gefnogi’r rhai mewn sectorau carbon uchel.
Yr Alban
S1: Buddsoddiadau seiliedig ar le ar gyfer gwaith adfywio a gwella canol trefi, a allai gynnwys gwella hygyrchedd i bobl anabl, gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
S2: Cefnogi a gwella asedau cymunedol a phrosiectau seilwaith, gan gynnwys y rhai sy’n gwella gallu cymunedau i wrthsefyll peryglon naturiol, megis llifogydd, a chymorth i ddatgarboneiddio cyfleusterau, cynnal archwiliadau effeithlonrwydd ynni a gosod mesurau arbed ynni a mesurau ynni adnewyddadwy mewn adeiladau cymunedol (gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg).
S5: Cymorth ar gyfer gweithgareddau, prosiectau a chyfleusterau a sefydliadau chwaraeon, celfyddydol, treftadaeth a chreadigol.
S5: Cymorth ar gyfer gweithgareddau, prosiectau a chyfleusterau a sefydliadau chwaraeon, celfyddydol, treftadaeth a chreadigol.
S5: Cymorth ar gyfer gweithgareddau, prosiectau a chyfleusterau a sefydliadau chwaraeon, celfyddydol, treftadaeth a chreadigol.
S4: Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd wed’i dirlunio.
S7: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a’i harchwilio.
S8: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n cael effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn mannau lleol.
S10: Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys drwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
S3: Gwelliannau i’r amgylchedd naturiol a mannau gwyrdd ac agored a allai gynnwys gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau i fioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus ehangach.
S14: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau, teithiau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.
S20: Cymorth ar gyfer rhaglenni cyngor a chymorth i fusnesau arbenigol yn lleol ac yn rhanbarthol, gan gynnwys cymorth i ddatgarboneiddio a chyngor ar ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a’r economi gylchol. Gallai hyn gynnwys cyllid ar gyfer canolfannau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, darpariaeth cymorth i fusnesau, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ a mathau eraill o amgylcheddau datblygiadol ar gyfer menter leol (gan gynnwys menter gymdeithasol).
S26: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.
S15: Grantiau datblygu a chymorth i BBaChau, wedi’u halinio â blaenoriaethau sectoraidd lleol a rhanbarthol a photensial i dyfu. Gallai hyn gynnwys rhoi cyngor arbenigol wedi’i deilwra, grantiau cyfatebol a hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn i BBaChau gweithgynhyrchu allu mabwysiadu atebion technoleg ddigidol ddiwydiannol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial; roboteg a systemau awtonomaidd; gweithgynhyrchu ychwanegion; y rhyngrwyd pethau; realiti rhithwir; dadansoddeg data.
S32: Cyrsiau sy’n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy Lluosi) a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar ac na allant gael hyfforddiant arall na chymorth cofleidiol a nodwyd uchod. Gallai hyn gael ei ategu gan gymorth ariannol i ddysgwyr gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau.
S33: Gweithgareddau fel cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo lles.
S34: Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfleu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi hyder ac ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
S36: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy’n berthnasol i anghenion ardaloedd lleol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol nad yw’n cael ei sicrhau drwy ddarpariaeth arall.
S37: Cyrsiau sgiliau gwyrdd er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu medrus i gefnogi Pontio Teg i economi sero net a meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, gyda ffocws penodol ar grwpiau sy’n agored i niwed neu grwpiau incwm isel y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n anghymesur arnynt. Parhau i gefnogi’r rhai mewn sectorau carbon uchel, gan roi cyfarwyddyd gyrfaoedd a helpu pobl i chwilio am waith mewn sectorau eraill.
S38: Cyllid i gefnogi sgiliau digidol lleol.
S35: Cymorth ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd a chyngor ar gyflogadwyedd wedi’u halinio ag agenda ‘Gadael Neb Ar Ôl’, y Gwarant i Bobl Ifanc, Fair Start Scotland a chyflenwad cyflogadwyedd yr Alban. Gallai hyn gynnwys cymorth wedi’i deilwra er mwyn helpu pobl mewn gwaith, nad ydynt yn cael eu cynorthwyo gan ddarpariaeth brif ffrwd, i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cael mynediad at gyrsiau addysg a hyfforddi.
Cymru
W1: Cyllid ar gyfer gwelliannau i ganol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys gwella hygyrchedd i bobl anabl, gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
W2: Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith cymunedol a chymogaeth newydd neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhai sy’n gwella gallu cymunedau i wrthsefyll peryglon naturiol, megis llifogydd, a buddsoddi mewn systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff sy’n eiddo i’r gymuned leol er mwyn gwella’r broses o bontio i fywyd carbon isel. Gallai hyn gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
W4: Mwy o gymorth i sefydliadau diwylliannol, hanesyddol a threftadaeth presennol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol, gan gynnwys gwelliannau i fynediad i safleoedd er mwyn atal effeithiau ynysu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl.
W6: Cymorth ar gyfer celfyddydau lleol a gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol.
W10: Cyllid ar gyfer cyfleusterau, twrnameintiau, timau a chynghreiriau chwaraeon lleol; er mwyn dod â phobl at ei gilydd.
W5: Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd wed’i dirlunio er mwyn ‘atal troseddu drwy ddylunio’.
W8: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach a phrofiadau drwy gydol y flwyddyn sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a’i harchwilio.
W9: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n cael effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn mannau lleol.
W13: Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys drwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
W3: Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau i fioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus ehangach.
W17: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau, teithiau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.
W24: Cyllid ar gyfer canolfannau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, darpariaeth cymorth i fusnesau, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (gan gynnwys menter gymdeithasol) a all gynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd drwy gamau cynnar datblygu a thwf drwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, gan gynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, coetsio, mentoriaeth a mynediad i leoliadau gwaith.
W30: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.
W18: Cefnogi Mabwysiadu ‘Made Smarter’: Rhoi cyngor arbenigol wedi’i deilwra, grantiau cyfatebol a hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn i BBaChau gweithgynhyrchu allu mabwysiadu atebion technoleg ddigidol ddiwydiannol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial; roboteg a systemau awtonomaidd; gweithgynhyrchu ychwanegion; y rhyngrwyd pethau; realiti rhithwir; dadansoddeg data.
W35: Cyrsiau sy’n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy Lluosi) a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar ac na allant gael hyfforddiant arall na chymorth cofleidiol a nodwyd uchod. Wedi’i ategu gan gymorth ariannol i ddysgwyr gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau.
W36: Gweithgareddau fel cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo lles.
W37: Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfleu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi hyder ac ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
W39: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy’n berthnasol i anghenion ardaloedd lleol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol nad yw’n cael ei sicrhau drwy ddarpariaeth arall.
W40: Cyrsiau sgiliau gwyrdd sydd wedi’u targedu at sicrhau bod gennym y gweithlu medrus i gyflawni uchelgeisiau sero net ac uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y Llywodraeth.
W42: Cyllid i gefnogi sgiliau digidol lleol.
W41: Cymorth ailhyfforddi ac uwchsgilio ar gyfer y rhai mewn sectorau carbon uchel, gyda ffocws penodol ar drosglwyddo i swyddi gwyrdd, a swyddi Diwydiant 4.0 a 5.0.
Gogledd Iwerddon
NI1: Cyllid ar gyfer gwelliannau i ganol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys gwella hygyrchedd i bobl anabl, gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
NI2: Cyllid ar gyfer prosiect seilwaith cymunedol a chymogaeth newydd neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhai sy’n gwella gallu cymunedau i wrthsefyll peryglon naturiol, megis llifogydd. Gallai hyn gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
NI4: Mwy o gymorth i sefydliadau diwylliannol, hanesyddol a threftadaeth presennol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol.
NI6: Cymorth ar gyfer celfyddydau lleol a gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol.
NI10: Cyllid ar gyfer cyfleusterau, twrnameintiau, timau a chynghreiriau chwaraeon lleol; er mwyn dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys paratoi strategaethau sy’n hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn lleol.
NI5: Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd wed’i dirlunio er mwyn ‘atal troseddu drwy ddylunio’.
NI8: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a’i harchwilio.
NI9: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n cael effaith a/neu brosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn mannau lleol, er enghraifft mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
NI13: Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys drwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
NI3: Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol mewn mannau cyhoeddus ehangach.
NI17: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau, teithiau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol.
NI24: Cyllid ar gyfer canolfannau hyfforddi newydd, a gwelliannau i rai presennol, darpariaeth cymorth i fusnesau, ‘unedau hybu’ ac ‘unedau sbarduno’ ar gyfer menter leol (gan gynnwys menter gymdeithasol) a all gynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau newydd/cwmnïau sydd â’r potensial i dyfu drwy gamau cynnar datblygu a thwf drwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, gan gynnwys, er enghraifft: rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant, mentoriaeth, coetsio a mynediad i leoliadau gwaith.
NI30: Mesurau cymorth busnes i ysgogi twf mewn cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd â chyfraddau diweithdra uwch.
NI18: Cefnogi Mabwysiadu ‘Made Smarter’: Rhoi cyngor arbenigol wedi’i deilwra, grantiau cyfatebol a hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn i BBaChau gweithgynhyrchu allu mabwysiadu atebion technoleg ddigidol ddiwydiannol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial; roboteg a systemau awtonomaidd; gweithgynhyrchu ychwanegion; y rhyngrwyd pethau; realiti rhithwir; dadansoddeg data.
NI34: Cyrsiau sy’n cynnwys darpariaeth sgiliau sylfaenol (digidol, Saesneg, mathemateg (drwy Lluosi) a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)), a sgiliau bywyd a sgiliau gyrfa** ar gyfer pobl nad ydynt yn economaidd anweithgar, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac na allant gael hyfforddiant arall na chymorth cofleidiol a nodwyd uchod. Wedi’i ategu gan gymorth ariannol i ddysgwyr gofrestru ar gyrsiau a chwblhau cymwysterau.
NI35: Cyllid ar gyfer profiad gwaith, gan gynnwys interniaethau, a gweithgareddau fel cyfoethogi a gwirfoddoli i wella cyfleoedd a hyrwyddo lles.
NI36: Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfleu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi hyder ac ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
NI38: Cymorth ar gyfer ardaloedd lleol i ddiwallu anghenion sgiliau lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a chyrsiau technegol a galwedigaethol hyd at lefel 2 a hyfforddiant ar gyfer trwyddedau galwedigaethol sy’n berthnasol i anghenion ardaloedd lleol a chymwysterau gwerth uchel lle mae angen capasiti sgiliau ychwanegol nad yw’n cael ei fodloni drwy ddarpariaeth arall.
NI39: Cyrsiau sgiliau gwyrdd sydd wedi’u targedu at sicrhau bod gennym y gweithlu medrus i gyflawni uchelgeisiau sero net ac uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y Llywodraeth, gyda ffocws penodol ar grwpiau sy’n agored i niwed neu grwpiau incwm isel y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n anghymesur arnynt.
NI41: Cyllid i gefnogi sgiliau digidol lleol.
NI40: Parhau i gefnogi’r rhai mewn gwaith er mwyn mynd i’r afael â phrinder sgiliau, gan gynnwys y rhai mewn sectorau carbon uchel.