Canllawiau

Credyd Cynhwysol os ydych yn ddigartref

Diweddarwyd 19 Tachwedd 2024

Gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn ddigartref.

Nid ydych angen cyfeiriad sefydlog i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os nad oes gennych gyfeiriad parhaol, rydych yn cysgu ar y stryd, syrffio soffa neu’n aros mewn hostel.

Os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog

Os nad oes gennych gyfeiriad parhaol, gallech ddefnyddio’r canlynol fel eich cyfeiriad ‘ar gyfer gohebiaeth’ pan fyddwch yn gwneud cais:

  • yr hostel rydych yn aros ynddo, neu’r diwethaf i aros ynddo

  • ffrind neu aelod o’r teulu rydych yn ymddiried ynddynt

  • canolfan ddydd

  • eich canolfan gwaith leol

Beth rydych ei angen i wneud cais

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol, fel arfer byddwch angen:

  • cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
  • mynediad i’r rhyngrwyd
  • cyfeiriad e-bost
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • prawf o bwy ydych chi

Fodd bynnag, os nad oes gennych fynediad at y rhain, mae cymorth ar gael os ydych:

Os nad oes gennych gyfrif banc

Gall y ganolfan gwaith eich cynghori am y cymorth sydd ar gael i agor cyfrif banc. Mae llawer o fanciau yn cynnig cyfrifon banc sylfaenol.

Mae’r Gwasanaeth Eithrio Taliadau yn eich galluogi i gasglu taliadau budd-dal heb gyfrif banc. Mae’r gwasanaeth ar gael dim ond ar gael os na allwch agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch fynd i lyfrgell neu ganolfan gwaith i ddefnyddio’r cyfrifiaduron.

Darganfyddwch eich llyfrgell agosaf gyda chyfleusterau TG.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais dros y ffôn drwy’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost

Gallwch gael help i sefydlu cyfeiriad e-bost yn eich canolfan gwaith neu drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth.

Nid oes angen rhif ffôn ar lawer o wasanaethau i chi ddilysu eich cyfeiriad e-bost newydd. Felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych ffôn symudol.

Os nad oes gennych brawf o pwy ydych chi

Gallwn gadarnhau pwy ydych chi mewn apwyntiad mewn canolfan gwaith gan ddefnyddio cyfres o gwestiynau diogelwch.

Os nad ydych yn gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol neu os nad ydych yn ei wybod. Y ffordd gyflymaf i ddod o hyd iddo yw ar ddogfen fel slip cyflog neu P60, ar-lein trwy gyfrif treth personol neu ar ap CThEF.

Eich cyfrifoldebau tra rydych yn hawlio Gredyd Cynhwysol

Mae eich ymrwymiad hawlydd yn gosod allan beth rydych wedi cytuno i’w wneud i baratoi ar gyfer, neu chwilio am waith yn gyfnewid am dderbyn Credyd Cynhwysol. Mae’n cael ei deilwra i’ch sefyllfa a’i adolygu’n rheolaidd.

Mae’n rhaid i chi wneud popeth rydych yn cytuno iddo yn eich ymrwymiad neu gallai eich taliad Credyd Cynhwysol gael ei leihau neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Dywedwch wrthym am eich sefyllfa

Gall fod yn anodd siarad am yr heriau rydych yn eu hwynebu, fel dibyniaeth neu iechyd meddwl gwael. Dylech hefyd ddweud wrthym os ydych yn cael trafferth gyda’r tasgau yn eich ymrwymiad hawlydd.

Mae’n bwysig eich bod yn agored gyda ni am eich sefyllfa fel y gallwn eich cefnogi ac adolygu eich ymrwymiad hawlydd os oes angen.

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, efallai y gallwn

  • lleihau faint o amser bob wythnos y dylech fod yn chwilio am waith
  • newid y math o weithgareddau y disgwylir i chi eu gwneud

Mae’r saib dros dro hwn fel bod gennych amser i chwilio am rywle i fyw.

Gallwn hefyd eich cyfeirio at eich cyngor lleol a allai eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy:

Help a chymorth

Cymorth Credyd Cynhwysol tuag at gostau tai

Os ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol gallwch gael help tuag at eich rhent. Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat mae swm y cymorth tai a gewch yn dibynnu ar bwy rydych chi’n byw gyda nhw, pa mor hen ydych chi a ble rydych chi’n byw.

Er enghraifft, os ydych o dan 35 oed ac nad oes gennych bartner neu blant, fel arfer dim ond am ystafell sengl mewn tŷ a rennir y byddwch yn gallu hawlio.

Efallai y gallwch gael mwy na hyn os oes gennych hanes o ddigartrefedd neu gysgu allan ac wedi aros mewn hostel i bobl ddigartref am o leiaf 3 mis i gyd. Efallai y bydd amgylchiadau eraill hefyd lle gallwch gael mwy o help.

Dysgwch fwy am help gyda chostau tai os ydych yn rhentu gan landlord preifat.

Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy, trwy:

Budd-dal Tai

Os ydych yn aros mewn hostel, gallwch gael Budd-dal Tai i helpu gyda rhent.

Help gyda’ch cais

Mae 2 ffordd o gael help gyda’ch cais am Gredyd Cynhwysol. Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu ddefnyddio’r gwasanaeth Help i Hawlio.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Mae galwadau i’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim.

Darganfyddwch sut i gysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Help i hawlio

Gallwch gael cymorth am ddim gan ymgynghorwyr sydd wedi eu hyfforddi i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gallant eich helpu i wneud eich cais a’ch cefnogi nes bod eich taliad cywir cyflawn cyntaf mewn lle.

Gallwch siarad â nhw ar y ffôn, ar-lein drwy sgwrs neu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain.

Darperir y gwasanaeth Help i Hawlio gan Gyngor ar Bopeth ac mae’n gyfrinachol. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol oni bai eich bod yn cytuno.

Cymorth ariannol arall

Gallwn eich cyfeirio at gymorth cyllidebu a chyngor ar ddyledion os ydych ei angen.

Help tra’n aros am eich taliad cyntaf

Mae eich cais yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno yn eich cyfrif. Fodd bynnag, fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.

Os nad oes gennych ddigon i fyw arno tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar ôl i chi wneud cais. Bydd angen i chi dalu hyn yn ôl. Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn is hyd nes y bydd yn cael ei ad-dalu.

Taliadau Credyd Cynhwysol yn fwy aml

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis. Os ydych yn cael trafferth gyda’r taliad misol sengl, gofynnwch i ni am sefydlu taliadau mwy aml.