Treuliau busnes gallwch adrodd i Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Diweddarwyd 26 Tachwedd 2024
Sut i roi gwybod i Gredyd Cynhwysol am eich incwm a’ch treuliau
Darganfyddwch sut i roi gwybod i Gredyd Cynhwysol am eich incwm a’ch treuliau.
Treuliau car, fan a theithio
Ceir a thacsis
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer defnyddio car neu dacsi ar gyfer teithio busnes os nad yw’r cerbyd wedi’i addasu’n arbennig at ddefnydd busnes. Os ydych yn hawlio’r costau hyn, rhaid i chi ddefnyddio costau symlach (cyfradd unffurf).
Ni allwch hawlio treuliau ar gyfer prynu, prydlesu neu gaffael car neu dacsi os nad yw’r cerbyd wedi’i addasu’n arbennig at ddefnydd busnes. Ond gallwch hawlio am gostau nad ydynt o ganlyniad uniongyrchol i brynu neu ddefnyddio’r cerbyd, er enghraifft:
-
taliadau llogi radio tacsi os ydynt ar wahân i gostau llogi cerbydau
-
ffioedd ar gyfer trwyddedau busnes penodol fel y drwydded i yrru tacsi
Gallwch hawlio’r costau gwirioneddol hyn yn ychwanegol at unrhyw gostau symlach.
Cerbydau eraill fel faniau, beiciau modur, tacsis du
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer cerbydau eraill fel beic modur, sgwter neu gerbyd sydd wedi’i addasu’n arbennig at ddefnydd busnes (fel fan, tacsi du neu gar rheoli deuol hyfforddwr gyrru).
I hawlio treuliau, gallwch ddewis defnyddio treuliau symlach neu gostau gwirioneddol.
Defnyddio treuliau symlach (cyfradd unffurf) ar gyfer costau car, cerbydau a theithio
Mae treuliau symlach yn ffordd o gyfrifo rhai o’ch treuliau busnes gan ddefnyddio cyfraddau unffurf yn hytrach na chyfrifo eich costau busnes gwirioneddol.
Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein i roi gwybod faint o filltiroedd y gwnaethoch deithio ar gyfer busnes y mis hwnnw.
Byddwn yn defnyddio cyfradd unffurf i gyfrifo eich costau:
Ar gyfer car, fan neu gerbyd modur arall y gyfradd unffurf yw:
-
45 ceiniog y filltir am yr 833 milltir cyntaf
-
25 ceiniog y filltir am bob milltir dros 833 milltir
Ar gyfer beiciau modur neu sgwteri, y gyfradd unffurf yw 24 ceiniog y filltir.
Os ydych yn defnyddio’r gyfradd unffurf i gofnodi eich treuliau car, cerbyd neu deithio, mae hyn yn cynnwys yr holl gostau sy’n ymwneud â’ch car, cerbyd neu deithio am y mis. Ni allwch hawlio treuliau am unrhyw gostau gwirioneddol, er enghraifft costau fel tanwydd, gwasanaethu, atgyweirio, yswiriant cerbyd, treth ffordd a MOT. Mae’r costau hyn wedi’u cynnwys yn y gyfradd unffurf.
Teithio busnes arall
Gallwch hawlio costau teithio busnes, gan gynnwys:
-
trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft tocynnau trên neu fws
-
costau tacsi
-
hedfan
-
ystafelloedd mewn gwestai
-
prydau yn ystod aros dros nos
-
ffioedd parcio, tollau a thagfeydd
-
teithio rhwng y cartref a’r safle, os ydych yn is-gontractwr sy’n gweithio mewn dau neu fwy o safleoedd yn ystod blwyddyn
Ni allwch hawlio costau ar gyfer:
-
cymudo (teithio rhwng eich cartref a’ch man busnes arferol)
-
costau teithio personol neu ddi-fusnes
-
cosbau, fel dirwyon parcio
Lleoedd busnes
Eich ‘lleoedd busnes’ yw’r lleoedd ble rydych yn gwneud eich gwaith.
Gallwch hawlio costau cynnal ar gyfer rhain, gan gynnwys:
-
rhentu eiddo busnes, fel swyddfa neu warws
-
biliau cyfleustodau, er enghraifft dŵr ac ynni
-
ardrethi busnes neu dreth cyngor
-
yswiriant eiddo
-
diogelwch a glanhau
-
cynnal a chadw
-
pryniant, cynnal a chadw cyfarpar busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffydd
Ni allwch hawlio treuliau busnes ar gyfer:
-
cinio
-
prynu lleoedd busnes
-
unrhyw ddefnydd o gyfarpar busnes nad yw’n ymwneud â’r busnes
Defnyddio’ch cartref ar gyfer busnes
Gallwch hawlio treuliau busnes am ddefnyddio rhan o’ch cartref ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig.
Gall hwn fod ar gyfer:
-
ddarparu gwasanaethau i gwsmer, er enghraifft fel triniwr gwallt neu arlunydd
-
gweinyddu busnes hanfodol, er enghraifft ffeilio anfonebau, cofnodi taliadau neu gymryd stoc
-
gweithgareddau busnes eraill, er enghraifft gweithgareddau gwerthu a marchnata
Ni allwch hawlio treuliau busnes am ddefnyddio’ch cartref ar gyfer:
-
storio
-
cwblhau ffurflenni treth ar gyfer CThEF
-
hunan-adrodd eich enillion ar gyfer Credyd Cynhwysol
-
bod ar alwad
-
bod ar gael i wneud gwaith
Er mwyn gallu hawlio treuliau busnes ar gyfer defnyddio rhan o’ch cartref ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig, gallwch naill ai:
-
gyfrifo eich costau busnes gwirioneddol, neu
-
defnyddio treuliau syml (cyfradd unffurf) os ydych wedi gweithio mwy na 25 awr yr wythnos o gartref
Sut i gyfrifo’ch costau busnes gwirioneddol os ydych yn gweithio o gartref
Mae angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o rannu’ch costau, er enghraifft yn ôl nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio ar gyfer busnes neu faint o amser rydych yn ei dreulio yn gweithio o gartref.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o’ch costau fel treuliau busnes ar gyfer pethau fel:
-
gwresogi
-
trydan
-
defnydd o’r rhyngrwyd a ffôn
Enghraifft
Os oes gennych 4 ystafell yn eich cartref, un sydd yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa yn unig.
Eich bil trydan am y mis yw £100.
Gan dybio bod yr holl ystafelloedd yn eich cartref yn defnyddio symiau cyfartal o drydan, byddai £25 o hyn ar gyfer y swyddfa (£100 wedi’i rannu â 4).
Ar gyfer pob diwrnod rydych yn gweithio o gartref yn y mis, gallech hawlio £0.83 fel cost a ganiateir (£25 wedi’i rannu â 30).
Sut i ddefnyddio treuliau symlach (cyfradd unffurf) ar gyfer defnyddio’ch cartref ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig
I ddefnyddio treuliau symlach, dywedwch wrthym faint o oriau y gwnaethoch ddefnyddio’ch cartref at ddibenion busnes. Byddwn yn defnyddio cyfradd unffurf i gyfrifo eich treuliau.
Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gyfrifo cyfran y defnydd personol a busnes ar gyfer eich cartref. Er enghraifft, faint o’ch biliau cyfleustodau sydd ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig.
Os ydych yn defnyddio treuliau symlach, ni allwch hefyd hawlio costau gwirioneddol.
Gallwch ond defnyddio treuliau symlach os ydych yn gweithio am 25 awr neu fwy y mis o gartref. Os ydych yn gweithio llai na 25 awr, mae’n rhaid i chi gyfrifo costau gwirioneddol.
Os ydych yn gweithio o gartref | Beth ddylech chi roi gwybod amdano |
---|---|
25 i 50 awr y mis | £10 |
51 i 100 awr y mis | £18 |
101 awr y mis neu fwy | £26 |
Enghraifft
Os ydych yn gweithio 40 awr o’ch cartref mewn mis, dylech roi gwybod am £10.
Yn byw yn eich lleoliad busnes
Os ydych yn byw mewn adeilad a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer eich busnes, fel tafarn neu B&B, gallwch hawlio treuliau ar gyfer rhai o’r costau rhedeg.
Gallwch naill ai:
-
ddefnyddio treuliau symlach, neu
-
cyfrifo eich costau busnes gwirioneddol
I ddefnyddio treuliau symlach, cyfrifwch gyfanswm eich costau rhedeg a thynnu:
Faint o bobl sy’n byw yno | Swm y dylech ei dynnu o’ch costau rhedeg |
---|---|
1 person | £350 |
2 berson | £500 |
3 person neu fwy | £650 |
Treth, Yswiriant Gwladol a phensiwn
Gallwch hawlio treuliau busnes am unrhyw:
-
dreth incwm a delir i CThEF ar eich enillion hunangyflogedig
-
TAW a dalwyd i CThEF, os ydych yn rhoi gwybod am enillion sy’n cynnwys TAW
-
cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4
-
cyfraniadau a dalwyd i mewn i gynllun pensiwn cofrestredig
Rhaid i’r rhain fod yn daliadau a wnaethoch mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod adrodd misol, nid amcangyfrifon.
Costau cyfreithiol ac ariannol
Gallwch hawlio treuliau busnes am waith cyfreithiol ac ariannol a wneir i’ch busnes.
Mae hyn yn cynnwys:
-
llog ar fenthyciad busnes (hyd at uchafswm o £41 y mis)
-
ffioedd cyfrifeg
-
ffioedd cyfreithiol
-
yswiriant
-
taliadau banc
-
eich cyfran o’r treuliau, os ydych mewn partneriaeth fusnes
-
treuliau gan gwmni rydych yn berchen arno neu y mae gennych reolaeth drosto, er enghraifft lle rydych yn gyfarwyddwr
Ni allwch hawlio’r costau ar gyfer unrhyw ad-daliadau cyfalaf ar fenthyciad busnes.
Costau swyddfa ac offer
Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer costau swyddfa ac offer.
Mae hyn yn cynnwys:
-
biliau ffôn, symudol a’r rhyngrwyd
-
deunydd ysgrifennu a phostio
-
argraffu, gan gynnwys inc argraffydd a chetris
-
meddalwedd cyfrifiadurol
-
offer, gan gynnwys prynu, llogi neu atgyweirio
-
unrhyw gostau swyddfa neu offer eraill sy’n angenrheidiol ac yn briodol i’ch busnes
Treuliau staff
Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer:
-
cyflog staff a gweithwyr (gan gynnwys eich cyflog os ydych yn talu eich hun gan ddefnyddio TWE)
-
costau isgontractwr
-
cyfraniadau cynllun pensiwn cyflogwr
-
cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr
-
taliadau bonws a buddion
-
ffioedd asiantaeth
-
cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes
Ni allwch hawlio costau:
-
gofalwyr neu gymorth domestig, er enghraifft nanis neu arddwyr
-
cyflog sy’n cael ei dalu i bartner busnes
Nwyddau a deunyddiau
Gallwch hawlio treuliau busnes am nwyddau a deunyddiau.
Mae hyn yn cynnwys:
-
stoc a nwyddau i’w hailwerthu
-
deunyddiau crai
-
costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddau
-
unrhyw gostau nwyddau a deunyddiau eraill sy’n angenrheidiol ac yn briodol i’ch busnes
Taliad mewn nwyddau
Gallwch hawlio treuliau busnes am werth ariannol unrhyw waith a wnaeth eich busnes fel ‘taliad mewn nwyddau’ am nwyddau neu wasanaethau. Taliad mewn nwyddau yw pan fyddwch yn talu gan ddefnyddio nwyddau neu wasanaeth yn hytrach nag arian parod.
Costau dillad
Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer dillad gwaith.
Mae hyn yn cynnwys:
-
gwisgoedd gwaith
-
dillad amddiffynnol sydd eu hangen ar gyfer eich gwaith
-
gwisgoedd, er enghraifft i actorion neu ddiddanwyr
Ni allwch hawlio costau dillad arferol, hyd yn oed os ydych yn eu gwisgo ar gyfer gwaith.
Marchnata a hysbysebu
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer tyfu eich busnes.
Mae hyn yn cynnwys:
-
hysbysebu a marchnata
-
samplau am ddim
-
costau gwefan
Tanysgrifiadau proffesiynol
Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer tanysgrifiadau proffesiynol os ydynt yn gysylltiedig â’ch busnes.
Mae hyn yn cynnwys:
-
tanysgrifiadau i gyfnodolion masnach neu broffesiynol
-
aelodaeth corff masnach neu sefydliad proffesiynol
Cyrsiau hyfforddiant
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wella’r sgiliau a’r wybodaeth rydych yn eu defnyddio yn eich busnes (er enghraifft, cyrsiau gloywi).
Mae’n rhaid i’r cyrsiau hyfforddiant fod yn gysylltiedig â’ch busnes.
Ni allwch wneud cais am gyrsiau hyfforddiant sy’n eich helpu:
-
i ddechrau busnes newydd
-
ehangu i feysydd busnes newydd, gan gynnwys unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’ch busnes presennol
Adloniant
Ni allwch hawlio treuliau busnes ar gyfer lletygarwch neu ddiddanu cleientiaid, cyflenwyr neu gwsmeriaid.
Ailwerthu nwyddau
Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer:
-
nwyddau i’w hailwerthu (stoc)
-
deunyddiau crai
-
costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddau
Ni allwch wneud cais am:
-
unrhyw nwyddau neu ddeunyddiau a brynir at ddefnydd preifat
-
dibrisiant offer