Cofrestru ar gyfer TAW os ydych yn gwneud caffaeliadau perthnasol i mewn i Ogledd Iwerddon
Defnyddiwch ffurflen VAT1B i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU os ydych yn caffael nwyddau o wladwriaethau’r UE, ac yn dod â nhw i mewn i Ogledd Iwerddon, ac rydych wedi pasio’r trothwy caffael.
Dogfennau
Manylion
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen VAT1 (cais am gofrestriad). Bydd angen i chi gysylltu â CThEF i wneud cais am y ffurflen hon. Dylech ei llenwi gan ddefnyddio nodiadau i helpu, a’i dychwelyd gyda ffurflen VAT1B.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o’r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi’n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi’n ei defnyddio.
Defnyddiwch ffurflen VAT1B i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU os ydych yn caffael nwyddau o aelod-wladwriaethau’r UE ac yn dod â’r nwyddau hynny i mewn i Ogledd Iwerddon.
Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi i:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Hysbysiad 700/1: tanwyddau modur a gwresogi ― gwybodaeth gyffredinol a rhoi cyfrif am Doll Ecséis a TAW (yn Saesneg) — Defnyddiwch yr hysbysiad hwn i ddysgu pryd a sut i gofrestru ar gyfer TAW a’r trefniadau cofrestru y bydd angen i chi eu dilyn.
Cofrestru ar gyfer TAW
― dysgwch sut i gofrestru’ch busnes ar gyfer TAW. Gallwch ychwanegu manylion hyd at 10 o bartneriaid wrth i chi wneud cais ar-lein.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2023 + show all updates
-
If you need to complete a paper VAT1 form, you will need to contact HMRC to request the paper version.
-
Welsh translation added.
-
You must complete a VAT1 form and submit it with your VAT1B form when you're registering for VAT, if you're making relevant acquisitions into Northern Ireland from 1 January 2021.
-
The address to send your completed application to has been updated
-
Added translation