Tudalen barhad Rhestr Gwerthiannau yn y GE
Defnyddiwch VAT101A os ydych yn brin o le ar y ffurflen Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101).
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn brin o le ar ffurflen VAT101 (yn agor tudalen Saesneg), defnyddiwch un neu ragor o daflenni parhad VAT101A. Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon ar y sgrin cyn ei hargraffu (ar un ochr) a’i hanfon i (CThEM). Mae’n rhaid cynnwys ffurflen VAT101 wedi’i llofnodi gyda phob ffurflen VAT101A.
Ni allwch gofnodi gwybodaeth am stoc ‘call-off’ ar y ffurflen bapur. Defnyddiwch y Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101) Electronig (yn agor tudalen Saesneg) i gofnodi’r wybodaeth hon ar-lein.
Ar ôl llenwi a llofnodi’r ffurflen VAT101, anfonwch hi ac unrhyw VAT101A i:
Tîm ESL / ESL Team
Cyllid a Thollau EF
BX9 1QT
Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.
Cyn i chi ddechrau
Mae’r ffurflen hon yn rhyngweithiol (un yr ydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi gael Adobe Reader er mwyn ei llenwi. Gallwch lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg).
Mae CThEF yn creu fersiynau newydd o’i ffurflenni nad ydynt yn dibynnu ar Adobe Reader. Tra bo’r gwaith hwn ar y gweill, gellir defnyddio’r dulliau canlynol er mwyn sicrhau y bydd y ffurflen yn lawrlwytho neu’n agor yn Adobe Reader:
- pa bynnag porwr rydych yn ei ddefnyddio, gwiriwch eich gosodiadau fel mai Adobe Reader yw’r rhaglen ddiofyn ar gyfer agor dogfennau PDF
- os ydych yn defnyddio Windows, defnyddiwch fotwm de eich llygoden i glicio ar gysylltiad y ffurflen, ac yna dewis ‘Save target as’ neu ‘Save link as’
- os ydych yn defnyddio Mac, defnyddiwch fotwm de eich llygoden i glicio ar gysylltiad y ffurflen, ac yna dewis ‘Save linked file as’
- cadw’r ffurflen — y ffolder dogfennau yw’r man a argymhellir
- defnyddio Adobe Reader i agor y ffurflen
Os yw’r ffurflen yn gwrthod agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am ragor o gymorth.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2009Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2020 + show all updates
-
A new version of the VAT101A continuation sheet is available.
-
Information added to use the Electronic EC Sales List (VAT101) to record call-off stock information online. Welsh translation added.
-
Postal address to send completed forms to updated.
-
First published.