Taflen gywiro Rhestr Gwerthiannau yn y GE
Defnyddiwch ffurflen VAT101B i roi gwybod i CThEF os ydych wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau neu hepgoriadau ar y ffurflen Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101) yr ydych eisoes wedi ei chyflwyno i CThEF.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i CThEF os ydych wedi gwneud camgymeriad neu hepgoriad yn ffigurau gwerthiannau’r UE yr ydych eisoes wedi’u cyflwyno ar Restr Gwerthiannau yn y GE ar gyfer:
-
nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gennych o’r Deyrnas Unedig ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020
-
nwyddau a gyflenwir gennych o Ogledd Iwerddon i fusnesau yn yr UE, sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW, o 1 Ionawr 2021
Ni allwch gofnodi cywiriadau i wybodaeth am stoc ‘call-off’ ar y ffurflen hon. Yn hytrach, dylech anfon e-bost i: [email protected] gyda’r wybodaeth ganlynol:
-
y cyfnod adrodd sydd dan sylw
-
cod gwlad 2 lythyren eich cwsmer
-
rhif cofrestru TAW eich cwsmer
-
manylion y camgymeriad
Bydd gennych tan ar neu cyn 31 Rhagfyr 2024 i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y rhestrau rydych wedi’u cyflwyno ar gyfer cyflenwadau i fusnesau’r UE a wnaed cyn 1 Ionawr 2021.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Mai 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2020 + show all updates
-
A new version of the VAT101B form is available and Information about when to use it has been updated.
-
Updated with details on how to record corrections to call-off stock information. Welsh Translation added.
-
First published.