Canllawiau

Eich buddion bach a manteision mawr

Diweddarwyd 1 Ebrill 2022

Lle gwych i weithio

Credwn fod CThEM yn lle gwych i weithio ac rydym yn gwybod bod cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn bwysig ni i gyd. Rydym am sicrhau y darperir ar gyfer eich lles, ochr yn ochr â’r cyfle am yrfa hir, hapus a gwerth chweil. Mae hyn wedi arwain at nifer enfawr o’n cyflogeion yn aros gyda ni ers blynyddoedd lawer ac maen nhw wedi mynd ati i elwa ar y manteision, y buddion a’r aelodaethau rydym yn cyfeirio atynt yn y llawlyfr hwn.

Pan ymunwch â ni, byddwch hefyd yn ymuno â chymuned gyfeillgar a chymwynasgar. Byddwn yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fagu hyder, eich helpu i fwynhau’ch amser y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle ac, wrth i’ch bywyd newid, bydd pethau yn y llyfr hwn a allai fod yn ddefnyddiol os bydd yr angen yn codi.

Felly p’un a ydych chi am gynllunio llwybr eich gyrfa ac anelu hyd yn oed yn uwch, rheoli eich lles eich hun yn well, neu weithio mewn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol, rydyn ni yma i’ch cefnogi. Isod mae rhestr hwylus o’r holl fuddion a chynlluniau sydd ar agor neu ar gael i chi ar ôl i chi ymuno â ni. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy. Credwn y cewch eich synnu gan yr hyn y gallwn ei gynnig i chi yma yn CThEM.

Amser i ffwrdd a gweithio’n hyblyg

Gwyliau blynyddol a gwyliau braint

Pan fyddwch yn ymuno â ni, cewch 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ystod eich blwyddyn gyntaf. Ar ôl hynny, cewch un diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn o wasanaeth, hyd at uchafswm o 30 diwrnod. Er enghraifft, os ydych gyda ni am dair blynedd, cewch 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn eich trydedd flwyddyn. Fel bonws ychwanegol, rydym hefyd yn rhoi diwrnod o wyliau braint i chi ar gyfer pen-blwydd y Frenhines.

Gweithio gartref

Rydym yn cydnabod bod gallu gweithio’n hyblyg o wahanol leoliadau yn llesol o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym eisiau cefnogi cymaint o bobl â phosibl i weithio gartref. Felly, os yw’ch amgylchiadau personol, eich rôl a’ch gwaith yn addas, cewch gyfle i weithio gartref am ddau ddiwrnod yr wythnos – neu fwy os yw’r busnes yn cytuno ar hynny.

Patrymau gweithio amgen a hyblyg

Er mwyn helpu i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig gweithio hyblyg lle bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y maes busnes rydych chi’n gweithio ynddo ac anghenion y busnes hwnnw. Gallai hyn gynnwys amseroedd cychwyn/gorffen amrywiol ac egwyliau cinio hyblyg. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau am batrymau gwaith amgen fel gweithio rhan-amser (gan gynnwys rhannu swyddi, haneru swyddi, gweithio yn ystod tymor yr ysgol ac ymddeol yn rhannol).

Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhiant

Ar gyfer rhieni newydd a darpar rieni, rydym yn cynnig tâl mamolaeth a mabwysiadu am 26 wythnos ar eich cyfradd tâl arferol, ac yna 13 wythnos arall ar y gyfradd statudol, yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth parhaus. Gallwch hefyd gymryd 13 wythnos arall o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu yn ddi-dâl. Bydd gan gyflogeion cymwys hawl i hawlio ‘Absenoldeb ar y cyd i Rieni’ o hyd at 39 wythnos o fewn blwyddyn o’r enedigaeth neu’r lleoliad. Ar gyfer absenoldeb tadolaeth, rydym yn rhoi pedair wythnos o absenoldeb â thâl. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnig hyd at 18 wythnos o absenoldeb di-dâl i rieni nes bod eich plentyn yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 10 oed (18 oed, os yw wedi’i gofrestru’n anabl). Fodd bynnag, ni chewch gymryd mwy na phedair wythnos o absenoldeb y flwyddyn.

Absenoldeb arbennig â thâl/heb dâl

Mae’n rhaid i ni i gyd ddelio ag amgylchiadau annisgwyl, apwyntiadau meddygol ac argyfyngau. O dan rai amgylchiadau, mae hawl statudol i amser i ffwrdd, er enghraifft, i gyflawni rhai dyletswyddau cyhoeddus neu os bydd argyfwng gyda rhywun sy’n dibynnu arnoch. Yn yr achosion hyn rhaid rhoi amser rhesymol i ffwrdd. Mewn rhai achosion mae amser i ffwrdd yn ddewisol ac yn amodol ar anghenion y busnes, fodd bynnag bydd eich rheolwr yn gallu eich cynghori ar eich opsiynau o ran absenoldeb.

Materion ariannol

Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

I rai o’n staff, gall oedran pensiwn fod yn bell i ffwrdd, ond pryd bynnag y dechreuwch eich gyrfa gyda ni, rydym am eich helpu i gynllunio ar ei gyfer. Pan ymunwch â ni, byddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, os nad ydych eisoes yn aelod ohono. Er bod yn rhaid i chi gyfrannu at eich pensiwn, bydd ein cyfraniad ychwanegol fel cyflogwr yn helpu i sicrhau bod eich ymddeoliad yn fwy cyfforddus pan ddaw’ch amser, o’i gymharu â rhai pensiynau yn y sector preifat. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Cyflog cynnar

Rydym yn cydnabod bod yna adegau pan fydd yn rhaid i chi dalu cryn arian i allu fod yn y gwaith. Ar gyfer rhai o’r amgylchiadau hyn mae gennym gynllun ‘Cyflog cynnar’ sy’n ymdrin â phethau fel:

  • cost tocynnau tymor teithio
  • trwyddedau parcio
  • prynu beic
  • costau gofal plant

Cyngor ariannol rhad ac am ddim

Rydym yn gwybod y gall amgylchiadau ariannol fod yn ddryslyd ac achosi pryder diangen ar brydiau. Dyna pam mae gan ein pobl fynediad rhad ac am ddim at y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). Wedi’i sefydlu gan y llywodraeth, maen nhw’n darparu cyngor ariannol diduedd ac yn rhad ac am ddim, canllawiau i helpu i wella’ch materion ariannol, gydag offer a chyfrifianellau i helpu i gadw golwg arnynt a chynllunio o flaen llaw. Mae’r gefnogaeth hon ar gael dros y ffôn a chewch fynd ati ar-lein hefyd.

Mae’ch gyrfa yn dechrau yma

Datblygu llwybr eich gyrfa

Rydym yn credu bod pawb yn dalentog. Ein nod yw croesawu a dathlu amrywiaeth a sgiliau ein holl bobl. Byddwn yn darparu cyfleoedd i chi berfformio hyd eithaf eich gallu. Mae porth Dysgu’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig ystod eang o offer dysgu a datblygu, gan gynnwys uwchsgilio proffesiynol sy’n arwain at gymwysterau cydnabyddedig mewn ystod eang o broffesiynau gan gynnwys Adnoddau Dynol, Rheoli, Cyfathrebu, Rheoli Prosiectau, a Chyflawni Gweithredol.

“Mae’n wych bod cyfleoedd helaeth ar gyfer dilyniant gyrfa ar hyd a lled y wlad, ac mewn llawer o wahanol broffesiynau.” Richard, Pennaeth Adnoddau a Chyflawniadau ar gyfer Gweithrediadau Adnoddau Dynol.

Cyfleoedd datblygu

Rydyn ni eisiau rhyddhau ac annog potensial pawb, ac mae cefnogaeth, help a rhaglenni wedi’u cynllunio i’ch cynorthwyo yn eich datblygiad a’ch gyrfa ar draws y Gwasanaeth Sifil – mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • mae pawb yn cael o leiaf pum diwrnod ffurfiol o ddysgu a datblygu; a hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu drwy hyfforddiant
  • mae hyn yn cwmpasu ystod o ddysgu: yn benodol ar gyfer proffesiwn, sgiliau meddal, sgiliau technegol
  • mae gennym hefyd raglenni datblygu wedi’u targedu’n benodol ar gyfer cydweithwyr sy’n chwilio am gyfle i symud ymlaen i’r radd nesaf a rhaglenni wedi’u targedu i helpu cydweithwyr sy’n bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gyrraedd swyddi uwch
  • gwirfoddoli wedi’i gymeradwyo, gyda hyd at bum diwrnod o absenoldeb arbennig â thâl

Mynediad at fwy o gyfleoedd am swyddi

Pan ddechreuwch gyda ni, gallwch wneud cais am swyddi gwag CThEM nad ydynt ar gael yn allanol. Bydd gennych hefyd fynediad at swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar draws adrannau’r llywodraeth yn unig.

Prentisiaethau

Gallwn gynnig cyfle i gyflogeion o unrhyw oedran “ddysgu wrth ennill cyflog” gyda phrentisiaeth CThEM. Mewn rhai achosion, mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu fel rolau prentisiaeth a gyda’r rhain byddwch chi’n brentis o’r diwrnod cyntaf. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i eraill wneud cais am brentisiaeth yn ddiweddarach yn ystod eu cyflogaeth. Tra ydych mewn rôl swydd, byddwn hefyd yn talu prentisiaid yr un peth ag eraill o’r un radd.

“Fel prentisiaid rydyn ni’n cael lot o gyfleoedd, fel hyfforddiant a chyrsiau ychwanegol. Rydych chi’n gallu gweld y gwahanol lwybrau sydd ar gael, neu gallwch chi newid adrannau yn llwyr. Mae sawl ffordd o symud ymlaen.” Annalise, Prentis Cynllun Carlam.

Iechyd, lles ac amser i chi’ch hun

Rhaglen gymorth rad ac am ddim ar gyfer cyflogeion

Pan fyddwch yn dechrau, cewch fynediad at wasanaethau cymorth rhad ac am ddim, annibynnol a chyfrinachol a ddarperir gan ‘People Asset Management Group’. Maen nhw’n darparu cefnogaeth 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, lle gallwch gael arbenigedd clinigol a phroffesiynol sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau fel gwaith, teulu a materion personol.

Gofal iechyd cost isel

Gall iechyd i bob un ohonom a’n teuluoedd beri pryder – gallwch gael yswiriant iechyd cost isel drwy CS Healthcare neu Benenden Health, a gallwn helpu i ddod o hyd i’r opsiwn gorau i chi a hefyd cynnwys eich teulu. Mae yna sawl pecyn sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu gwahanol anghenion, cyllidebau a ffyrdd o fyw, sy’n rhoi mynediad cyflym i chi i’r driniaeth feddygol orau pe bai’r angen yn codi.

Profion llygaid yn rhad ac am ddim

Gofalwch am eich llygaid. Mae gofal llygaid yn bwysig felly dyna pam rydym yn cynnig profion llygaid am ddim i’n holl gyflogeion. Mae gofal llygaid yn bwysig i bawb, yn enwedig i gyflogeion sy’n defnyddio sgrin cyfrifiadur neu ei debyg dros gyfnodau hir yn y gwaith.

Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl

Rydym yn deall y gellir cael anhawster gydag iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn eich bywyd. Gall ein cyflogeion ymuno â’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl (MHN) sy’n grŵp o dan arweiniad cydweithwyr gyda’r nod o leihau stigma o amgylch iechyd meddwl. Felly os ydych yn cael anhawster gyda’ch iechyd meddwl, os oes gennych brofiad ohono drwy aelod o’r teulu, ffrind neu gydweithiwr, neu os hoffech ddysgu mwy i gefnogi eraill, gall yr MHN helpu.

Chwaraeon a hamdden

Rydym am i bawb gael mynediad at chwaraeon, gweithgareddau hamdden a diwrnodau allan. Gall hyd yn oed ychydig bach o weithgarwch wneud gwahaniaeth go iawn i’ch lles. Am ffi fach, gallwch ymuno â Chwaraeon a Hamdden Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC) sy’n cynnig mynediad at ystod eang o weithgareddau, gostyngiadau a chynigion rhad ac am ddim i aelodau. Gallwch hefyd ymuno â Chwaraeon a Hamdden Cyllid a Thollau, sy’n trefnu digwyddiadau chwaraeon a hamdden ar gyfer ffitrwydd o bob safon.

Amrywiol, cynhwysol a chyfartal

Amrywiaeth Staff

Rydym am i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod modd iddynt fynegi eu hunain yn y gwaith. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae gennym sawl Rhwydwaith Amrywiaeth Staff sy’n ymwneud â hil, rhywedd, anabledd, materion LHDT+, gofalwyr, symudedd cymdeithasol, a gwladolion yr UE. Mae hefyd gennym grŵp ymgynghori ar gyfer oedran a grŵp cynghori ar gyfer crefydd neu gred. Byddwch yn gallu ymuno ag unrhyw un o’r rhwydweithiau hyn pan ddechreuwch gyda ni, ac mae’n hawdd cymryd rhan.

Y Rhwydwaith Hil

Rydym yma ar gyfer ein holl gyflogeion sydd ag angerdd am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn helpu i greu sefydliad sy’n cynrychioli’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy hyrwyddo polisïau effeithiol a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â hil. Ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i roi’r adnoddau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyheadau a chyrraedd eu potensial.

Rhwydwaith LHDT+

Rydym yn cynnig cymorth ac ymgynghoriad ar gyfer ein pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, neu sy’n eu disgrifio eu hunain yn anneuaidd, neu sy’n ffurfio rhan o’r sbectrwm eang o ran rhywedd. Rydym yn rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth i unrhyw un o fewn y sefydliad, nid yn unig i’r gymuned LHDT+. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae rhan weithredol o ran helpu i greu gweithle amrywiol a chynhwysol, lle anogir pawb i fynegi eu hunain yn llwyr.

Cydraddoldeb o ran anabledd

Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Ein nod yw sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael mynediad at yr un cyfleoedd ag eraill i ddatblygu gyrfaoedd llawn a gwerth chweil. Mae rhai gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys:

  • ymgynghori â chydweithwyr ynghylch newidiadau yn y gwaith
  • Rhwydwaith Anabledd Staff
  • offer a meddalwedd arbenigol i helpu i ddarparu amodau gwaith cynhwysol i bron bob nam a allai fod ar bobl
  • ysgrifennu ein dogfennau a deunyddiau eraill mewn fformatau hygyrch

Cydraddoldeb rhwng y rhywiau

Rydym yn hyrwyddwr sy’n ennill gwobrau dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, sy’n ymfalchïo yn ein hystod amrywiol o gydweithwyr ac sy’n anelu at gefnogi lles pawb drwy ddarparu amgylchedd gwaith sy’n gwerthfawrogi ei weithlu ac sy’n cael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu.

Symudedd cymdeithasol

Rydym wedi cael ein cydnabod fel arweinydd ar draws y Gwasanaeth Sifil yn y maes hwn. Rydym yn dathlu ac yn croesawu pobl o bob cefndir i ymgeisio am ein swyddi. Hefyd, rydym yn cynnal rhaglen fentora STRIDE sy’n mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng cefndir economaidd-gymdeithasol a dilyniant gyrfa i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd ar gyfer dysgu a dilyniant.

Buddion bach, arbedion a gostyngiadau

Gostyngiadau CSSC

Fel y soniwyd yn gynharach yn ein llawlyfr wrth drafod chwaraeon a hamdden, am gost fach iawn bob mis gallwch fod yn aelod o Gyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC). Yn ogystal â’r gweithgareddau chwaraeon a hamdden, cewch arbedion a gostyngiadau:

  • arbedion ar siopa
  • arbedion mewn dros 3,000 o gampfeydd a chlybiau iechyd
  • yswiriant gostyngol
  • gostyngiadau i’r sinema a pharciau thema
  • mynediad am ddim a gostyngedig i safleoedd Cadw ac English Heritage

Gostyngiadau ar frandiau stryd fawr a gwestai

Rydyn ni i gyd yn hoffi arbed arian. Felly mae ein porth buddion rhad ac am ddim, ‘mylifestyle’ yn rhoi mynediad i chi i ostyngiadau ar dros 260 o’r brandiau ac archfarchnadoedd gorau a allai arbed hyd at £1,000 i chi. Yn ogystal, pwy sydd ddim yn hoffi ychydig nosweithiau i ffwrdd am seibiant haeddiannol? Wel mae gostyngiadau ar gael i gyflogeion gyda gwestai The Hilton a Marriott Group hefyd.

Gostyngiadau moduro

Gallwch ddewis ymuno â’r cynllun ‘Boundless’ gan Gymdeithas Moduro’r Gwasanaeth Sifil. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi at fargeinion sy’n eich helpu i arbed arian, yn ogystal â digwyddiadau, manteision a gostyngiadau ar bopeth o yswiriant torri i lawr i yswiriant ar gyfer eich cerbyd a’ch cartref.

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Gall beicwyr brwd fanteisio ar gynllun ‘Beicio i’r Gwaith’ fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gwyrdd y Llywodraeth i hyrwyddo teithiau iachach i’r gwaith a lleihau llygredd. Buddion y cynllun yw:

  • peidio â thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar swm eich cyflog gros sy’n ymwneud â llogi beic ac offer. Gallwch aberthu cyflog hyd at uchafswm o £4,000.
  • gallwch ddefnyddio’r beic a’r offer yn eich amser hamdden ac i feicio i’r gwaith.
  • ar ddiwedd y cyfnod llogi, gallwch ddewis cadw’r beic am ffi fach

Aelodaeth o Undeb Llafur

Erbyn hyn, fe welwch ein bod yn cydnabod bod angen cefnogi cyflogeion yn llawn. Pan ddechreuwch gyda ni, gallwch ddewis ymuno ag undeb llafur. Mae’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn cynrychioli pobl ar draws y gwasanaeth sifil ac asiantaethau’r llywodraeth, gan beri mai nhw yw undeb llafur gwasanaeth sifil mwyaf y DU.

Cymdeithas Cyllid a Thollau (ARC) yw’r undeb sy’n cynrychioli uwch-reolwyr sy’n radd 7 ac yn uwch, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol o fewn CThEM.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am fuddion CThEM a manylion am sut beth yw gweithio yn CThEM, ewch i dudalennau CThEM ar gov.uk.

Dilynwch ni

Mae tudalen Facebook CThEM swyddogol yn postio awgrymiadau a gwybodaeth i helpu i wneud eich tasgau treth yn haws. Mae newyddion swyddogol a gwybodaeth gan CThEM ar Twitter lle gallwch hefyd drydar os oes gennych ymholiad treth.

Mae CThEM yn defnyddio LinkedIn i bostio diweddariadau rheolaidd am waith CThEM ar bynciau a fydd o ddiddordeb i gymuned LinkedIn, er enghraifft treth busnes a chyngor ar redeg eich cwmni, newyddion am bolisi treth, a chyfleoedd recriwtio CThEM.

Mae sianel CThEM YouTube yn cynnig canllawiau ‘sut i’ a fideos gwybodaeth eraill, wedi’u cynllunio i helpu cwsmeriaid treth i gael eu treth yn gywir.

Mae gan CThEM ar Instagram bostiadau a straeon rheolaidd am ein hymgyrchoedd newydd, cyngor ac arweiniad, a newyddion am ein gwaith a’n pobl.